Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Elen Phillips, 2 Mawrth 2020 Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Casgliadau Arlein: Gorchudd gwely clytwaith Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i dros 200 o gwiltiau a chlytwaith. Mae’r casgliad amrywiol a phwysig hwn yn cynnwys trawstoriad o gynlluniau a thechnegau, ac yn cynrychioli bron i 300 mlynedd o’r grefft yng Nghymru. Un o uchafbwyntiau’r casgliad yw Cwilt y Teiliwr – gorchudd gwely clytwaith a wnaed gan James Williams, prif deiliwr milwrol o Wrecsam. Mae cynllun y cwilt yn brawf o ddawn greadigol y teiliwr, yn ogystal â’i werthfawrogiad o orchestion peirianegol ei ddydd. Yn y gornel uchaf ar y chwith, mae Pont Menai a gwblhawyd gan Thomas Telford ym 1826. Mae traphont Cefn ger Wrecsam yng nghanol y darn, a phagoda Tsieineaidd yn y gornel uchaf. Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd – arch Noa, Jona a’r morfil, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid. Gwneir cwiltiau clytwaith yn aml drwy wnïo defnydd sydd dros ben, er enghraifft hen grysau neu siwtiau. Gwnaeth James Williams ei gwilt drwy ailgylchu sborion gwlân – defnydd lifrau milwrol mae’n debyg. Yn syfrdanol, mae'r cwilt cyfan yn cynnwys 4,525 o ddarnau mân, oll wedi'u gwnïo at ei gilydd o’r cefn gyda thrawsbwythau. Gelwir y math hwn o waith yn glytwaith mewnosod. Mae’n dechneg sy’n gofyn am fedr arbennig â’r nodwydd a brethyn sy’n ddigon trwchus i ddygymod â’r trawsbwythau. O ganlyniad, mae’r engreifftiau sydd i’w canfod mewn casgliadau amgueddfeydd yn dueddol o fod yn gysylltiedig â theilwriaid proffesiynol. Yn ôl hanes teuluol, bu James Williams wrthi am ddegawd, rhwng 1842 a 1852, yn pwytho’r cwilt yn ystod ei oriau hamdden. Ymhen dim, daeth galw i’w arddangos yn gyhoeddus. Ym 1876 dangoswyd y cwilt mewn arddangosfa fawr o ‘drysorau celfyddyd’ (Art Treasures Exhibition) a gynhaliwyd yn Wrecsam i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach, ym 1925 bu’r cwilt ar arddangos yn Wembley, ac yn Wrecsam unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ym 1933. Mae tystiolaeth o gyfrifiadau ardal Wrecsam yn dangos mai brodor o’r dref oedd James Williams. Fe’i ganed ym 1818 ac erbyn y 1850au roedd ganddo weithdy teilwra yn ei gartref yn College Street, ger Eglwys y Plwyf. Bu farw ym 1895 ac fe etifeddwyd y busnes gan ei fab. Ym 1935, daeth y cwilt i feddiant yr Amgueddfa drwy ei ŵyr, Richard Williams, a oedd hefyd yn deiliwr fel ei dad a’i daid. Meddai ar y pryd: “it has always been my wish that the quilt should be sent to [the] National Museum of Wales so as my fellow countrymen should have the opportunity to admire a work of art that today could not be done if you were to pay the most skilful craftsman £1 a minute to do”.
Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Yr Hawl i Bleidleisio: Yr Ymgyrch yng Nghymru Elen Phillips, 1 Chwefror 2018 Am wyth o'r gloch y nos ar y chweched o Chwefror, 1918, derbyniwyd Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl, trwy gydnabyddiaeth frenhinol yn San Steffan. Golygai hyn fod rhai menywod, ar ôl bron i ganrif o ymgyrchu, 'nawr yn cael pleidleisio. Rydym wedi hen arfer gweld lluniau o'r 'Syffrajetiaid' yn gorymdeithio yn Llundain, ond beth am yr ymgyrch yng Nghymru? Dull di-drais Er mai hynt a helynt y swffragetiaid oedd yn hawlio sylw’r wasg, roedd mwy o lawer o ‘suffragists’ yn bodoli yng Nghymru. Roedd y ‘suffragists’ yn credu mewn gweithredu heddychlon a newid y drefn drwy ddulliau cyfansoddiadol. Yn eu plith, roedd aelodau’r Cardiff & District Women’s Suffrage Society. Hon oedd y gangen fwyaf o’r National Union of Women's Suffrage Societies tu allan i Lundain. Rose Mabel Lewis (Greenmeadow, Tongwynlais) oedd wrth y llyw yng Nghaerdydd – neu Mrs Henry Lewis fel y cyfeirir ati yn nogfennaeth yr Amgueddfa! Yn gyffredinol, roedd aelodau blaenllaw'r gangen yn fenywod dosbarth canol a oedd yn adnabyddus o fewn mudiadau a chylchoedd cymdeithasol y ddinas. I godi ymwybyddiaeth o’u hachos ac i lenwi coffrau’r gangen, roedden nhw’n cynnal digwyddiadau ac yn gwerthu copïau o gylchgrawn y mudiad, The Common Cause. Mae adroddiad blynyddol y gangen ar gyfer 1911-12 yn rhestru gweithgareddau di-ri, yn eu plith dawns gwisg ffansi, gyrfa chwist a ffair sborion. Yn y flwyddyn honno, dyblodd nifer aelodau’r gangen i 920. Crefft ymgyrchu Baner Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch. Gwnaed gan Rose Mabel Lewis, Llywydd y Gymdeithas Rose Mabel Lewis bwythodd y faner sidan sydd bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa – enghraifft bwerus o rym y nodwydd fel arf i ledaenu neges ac i fynegi barn. Er nad ydym yn gwybod union ddyddiad y faner, rydym yn sicr iddi gael ei defnyddio mewn protest yn 1911. Ar 17 Mehefin y flwyddyn honno, arweiniodd Rose Mabel fenywod de Cymru yn y Women’s Coronation Procession yn Llundain. Mae dogfennau derbynodi’r faner yn cynnwys nodyn o eglurhad gan un o gyn-aelodau’r gangen: The banner was worked by Mrs Henry Lewis… [she] was also President of the South Wales Federation of Women’s Suffrage Societies + she led the S. Wales section of the great Suffrage Procession in London on June 17th 1911, walking in front of her own beautiful banner… It was a great occasion, some 40,000 to 50,000 men + women taking part in the walk from Whitehall through Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly to the Albert Hall. The dragon attracted much attention – “Here comes the Devil” was the greeting of one group of on lookers”. Roedd baneri fel hyn yn rhan ganolog o ddiwylliant gweledol y mudiad pleidlais i fenywod, ac mae nifer ohonynt i'w canfod mewn amgueddfeydd ac archifdai, gan gynnwys Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Roedd trefnwyr gorymdaith fawr 1911 yn disgwyl dros 900 o faneri ar y dydd! Dwy flynedd yn ddiweddarach, yng Ngorffennaf 1913, gwelwyd y faner ar strydoedd Caerdydd fel rhan o orymdaith yn y brifddinas i nodi’r Bererindod Fawr i Lundain (the Great Suffrage Pilgrimage). Yng nghasgliad yr amgueddfa, 'mae lluniau anhygoel o Rose Mabel Lewis, ac aelodau eraill y gangen, wedi ymgynnull gyda’r faner tu allan i Neuadd y Ddinas ym Marc Cathays: Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au Yn ôl adroddiad blynyddol 1913-14, roedd rhai o’r aelodau yn betrusgar ynglyn â’r orymdaith, ond wedi eu bywiogi ar ôl derbyn ymateb ffafriol ar y dydd: It was with misgivings that some members agreed to take part in the procession, but afterwards their enthusiasm aroused and the desire to do something more in the future. The march was useful in drawing the attention of many people to the existance of our society. Creu Hanes: Sain Ffagan a’r canmlwyddiant Yn 2018, bydd y faner i’w gweld yng Nghaerdydd unwaith eto – nid mewn rali y tro hwn, ond ymhlith llwyth o wrthrychau arwyddocaol yn ein hanes cenedlaethol fydd i’w canfod mewn oriel newydd yma yn yr Amgueddfa Werin – penllanw ein prosiect ail-ddatblygu, Creu Hanes. Hyd y gwyddom, nid yw'r faner wedi bod ar arddangos ers iddi gael ei rhoi i'r casgliad yn 1950 gan y Cardiff Women Citizens' Association. Ar y pryd, ysgrifennodd drysorydd y gymdeithas honno lythyr at Dr Iorwerth Peate yn mynegi eu balchder fod y faner bellach ar gof a chadw yn Sain Ffagan: A cordial vote of thanks was accorded to you for realising how much the Suffrage Cause meant to women and for granting a memorial of it in the shape of the banner to remain in the Museum. Ymysg casgliadau'r amgueddfa am y cyfnod, 'mae llythyrau ac adroddiadau gan yr NUWSS, yn ogystal â doli wrth-syffrajet anghyffredin o orllewin Cymru. Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au Ffynonellau cynradd: National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1911-12 (Amgueddfa Werin Cymru). National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1913-14 (Amgueddfa Werin Cymru). Dogfennau derbynodi 50.118 (Amgueddfa Werin Cymru). Ffynonellau eilradd: Kay Cook a Neil Evans, 'The Petty Antics of the Bell-Ringing Boisterous Band'? The Women's Suffrage Movement in Wales, 1890 - 1918' yn Angela V. John (gol.), Our Mothers' Land Chapters in Welsh Women's History 1830 - 1939 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991). Ryland Wallace, The Women's Suffrage Movement in Wales 1866 - 1928 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2009).
Diwrnod Santes Dwynwen – Nawddsant Cariad Cymru 14 Mehefin 2014 Pryd mae Diwrnod Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu?Mae Diwrnod Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu yng Nghymru ar 25 Ionawr.Pwy oedd Santes Dwynwen?Roedd Dwynwen yn byw yn ystod y 5ed ganrif ac roedd, yn ôl y son, yn un o brydferthaf o ferched Brychan Brycheiniog.Pwy oedd Maelon DafodrillYn ôl yr hanes, cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond yn anffodus, roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon Dwynwen a'i gadael.Ffodd Dwynwen i'r goedwig, lle gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i theimladau am Maelon. Wedi cwympo i gysgu, ymddangosodd angel yn cario dogn melys wedi'i baratoi er mwyn dileu yr holl atgof o Maelon ac i'w droi yn ddarn o ia.Yna rhoes Duw dri dymuniad i Dwynwen. Yn gyntaf, gofynnodd am ddadmer Maelon; yn ail, y byddai Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; ac yn drydydd, na fyddai hi byth yn priodi. Cafodd y tri eu gwireddu, ac fel arwydd o'i diolch, ymroes Dwynwen i wasanaethu Duw am weddill ei bywyd.Ynys Llanddwyn ac Eglwys Santes DwynwenErys olion o eglwys Dwynwen hyd heddiw ar ynys Llanddwyn, ger arfordir Ynys Môn. Yn ystod y 14eg ganrif, tra'n ymweld â'r ynys, gwelodd y bardd Dafydd ap Gwilym ddelw aur o Dwynwen y tu mewn i'r eglwys. Bu mor ewn â gofyn i Dwynwen fod yn llatai rhyngddo a Morfudd, y ferch y dymunai ei hennill, a hyn er fod Morfudd eisoes yn briod!Gwelir ffynnon Dwynwen ar yr ynys hefyd, lle nofia, yn ôl y sôn, bysgodyn cysegredig, a'i symudiadau yn darogan dyfodol cariadon. Os berwa'r dwr yng ngwydd ymwelwyr, bydd lwc a chariad yn sicr o ddilyn.Gwelwyd twf sylweddol ym mhoblogrwydd dathlu Diwrnod Santes Dwynwen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cynhelir digwyddiadau arbennig, megis cyngherddau a phartion ac argreffir cardiau Cymraeg. Er nad ydyw mor boblogaidd â Diwrnod San Ffolant ym mis Chwefror, mae'r nifer o Gymry cyfoes sy'n dewis dathlu gwyl Santes Dwynwen yn prysur gynyddu.Rhoddion Rhamant: O Lwyau Caru i Prennau StaesTrwy gydol hanes a hyd heddiw, rhoddir rhoddion rhamant fel symbolau o gariad ac ymrwymiad i anwyliaid.LLWYAU CARUCredir bod llwyau caru wedi'u crefftio gan ddynion a'u cyflwyno i'r morynion yr oeddent yn eu hedmygu. gwnaethant fynegi eu nwydau a'u teimladau trwy'r symbolau a gerfiwyd. PRENNAU STAESWedi'i addurno â motiffau a lythrennau, defnyddwyd Pren Staes i gadw torso menywod yn syth ac i eistedd yn agos at y galon. Yn y llun mae Pren Staes o Lanwrtyd, gyda'r llythrennau RM ac IM. TATŴS JESSIE KNIGHTRhwng y 1920au a'r 1960au, tatŵodd Jessie Knight y dyluniadau hyn ar forwyr a milwyr. Gan symboleiddio eu hymroddiad, roedd y rhoddion rhamant barhaol hyn yn ffordd i forwyr gadw eu hanwyliaid yn agos ar y môr. GWENIAU GWEILLRoedd yn arferiad Cymreig i gerfio gweiniau gweill gydag enwau a motiffau a'u rhoi fel rhoddion rhamant. Wedi'u gwisgo ar ochr dde'r corff, fe wnaethant ddal gwaelod un o'r gweill, gan ryddhau'r llaw chwith i weithio'r edafedd. TOCYNNAU CARIADWedi'u gwneud gan forwyr neu euogfarnau yn y 18fed-19eg ganrif, roedd y tocynnau cariad hyn wedi'u hysgythru â symbolau o gariad, gwahanu a dychwelyd. Wedi'i gynnig fel anrhegion ar gyfer gwahaniadau hir neu amhenodol. Mae’r rhoddion rhamant barhaol hyn, pob un â’i stori unigryw ei hun, yn parhau i symboleiddio cariad a chysylltiad trwy hanes a thraddodiad Cymru.
Cwestiynau Cyffredin: Y Wisg Gymreig 14 Mehefin 2014 Oes ffasiwn beth â gwisg genedlaethol Gymreig?Mae'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg 'genedlaethol' Gymreig, sef gwraig mewn clogyn coch a het ddu uchel, yn deillio o wahanol ddylanwadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhan ydoedd o ymgais i roi hwb i ddiwylliant Cymreig mewn cyfnod pan oedd gwerthoedd traddodiadol o dan fygythiad.O ble ddaeth y steil 'genedlaethol' Gymreig?Mae'r wisg sy'n cael ei hystyried yn wisg genedlaethol wedi'i seilio ar y dillad a wisgid gan wragedd cefn gwlad Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef pais wlanen resog a wisgid o dan goban neu wn agored, gyda ffedog, siôl a hances neu gap. Roedd steil y gwn yn amrywio - gellid cael gwn llac fel côt, gwn gyda bodis wedi'i ffitio a sgert hir a hefyd gwn byr, a oedd yn debyg iawn i wisg farchogaeth. Oedd menywod yn gwisgo hetiau tal, du, go iawn?Roedd yr hetiau a wisgid yn gyffredinol yn y cyfnod hwn yr un fath â hetiau'r dynion. Nid ymddangosodd yr het uchel math 'simnai' tan ddiwedd y 1840au ac ymddengys iddi gael ei seilio ar gyfuniad o'r hetiau uchel a wisgid gan ddynion, sef y 'top hat' a math o het uchel a wisgid mewn ardaloedd cefn gwlad yn ystod y cyfnod 1790-1820. Pwy oedd yn gyfrifol am boblogeiddio'r ffasiwn?Bu Augusta Hall, gwraig i un o feistri haearn Gwent ac Arglwyddes Llanofer, yn frwd dros wisg 'genedlaethol' a byddai'n annog pobl i'w gwisgo yn ei chartref ac mewn eisteddfodau. Credai ei bod yn bwysig annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac i wisgo dillad nodweddiadol Gymreig. Llwyddodd yn hyn o beth, a hynny'n bennaf oherwydd fod pobl yn teimlo bod eu hunaniaeth genedlaethol o dan fygythiad. Roedd gwisgo gwisg genedlaethol yn un ffordd o hyrwyddo'r hunaniaeth honno.Dylanwad pellach oedd gwaith yr arlunwyr a gynhyrchai brintiau i'r fasnach ymwelwyr a oedd yn prysur dyfu, ac a arweiniodd at boblogeiddio'r syniad o wisg Gymreig draddodiadol, ac yn ddiweddarach waith y ffotograffwyr a gynhyrchai filoedd o gardiau post. Arweiniodd hyn at greu un math o wisg ystrydebol yn hytrach na'r steiliau amrywiol a geid yn gynharach yn y ganrif. O ble ddaeth y patrymau sydd ar 'siol Gymreig'?Rhwng 1840 a 1870 y siôl oedd y gyfwisg fwyaf ffasiynol. Y sioliau mwyaf poblogaidd oedd y sioliau Paisley, y daeth y patrwm gwreiddiol ar eu cyfer o Kashmir yn India.Y sioliau mwyaf cyffredin ar y cychwyn oedd sioliau plaen ag ymyl patrymog wedi'i gysylltu wrthynt. Yn ddiweddarch, cafodd llawer math o sioliau cain gyda phatrymau ar yr ymyl neu dros y cyfan eu gwehyddu yn Norfolk, yr Alban a Pharis. Erbyn canol y ganrif ceid sioliau mawr iawn i gyd fynd â sgertiau llawn y cyfnod. Câi sioliau eu gwneud mewn ffabrigau a phatrymau eraill, gan gynnwys sidan Canton a les cain a wnaed â pheiriant, er mai'r patrwm Paisley a sioliau gwlân cartref gyda phatrymau sgwarog a ddaeth yn boblogaidd yng Nghymru.Oedd menywod Cymreig yn gisgo siôl?Yn ddiweddarach, er nad oedd gwragedd ffasiynol bellach yn gwisgo sioliau, byddai gwragedd cefn gwlad a gweithwragedd y trefi'n dal i wneud a gwisgo sioliau llai o faint. Erbyn y 1870au cynhyrchid sioliau rhatach drwy brintio'r patrymau ar wlanoedd main neu gotwm. Roedd sioliau gwlân, gwau a Paisley'n gyffredin yn ardaloedd cefn gwlad Cymru hyd yn oed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Cafodd y siôl Paisley ei derbyn yn rhan o'r wisg 'Gymreig', er nad oes dim yn draddodiadol Gymreig yn ei chylch.A ddefnyddiwyd y siol Gymreig i gario babi? Un traddodiad sy'n wirioneddol Gymreig yw'r arfer o gario babanod mewn siôl . Ceir darluniau yn portreadu hyn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif pan arferai gwragedd Cymru wisgo darn syml o ddefnydd wedi'i glymu am eu cyrff. Pan ddaeth sioliau'n boblogaidd gwnaed yr un defnydd ohonynt ac mae rhai gwragedd hyd heddiw yn dal i lynu at y traddodiad hwn. Darganfod mwy am Hanes Menywod Cymru.