Y casgliad doliau yn Amgueddfa Cymru a datblygiad doliau drwy'r oesoedd 10 Awst 2012 Doli ar ffurf bachgen bach o'r 19fed ganrif hwyr Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i gasgliad gwych o ddoliau yn dyddio o tua 1800 hyd 2000 — pob un wedi'u gwneud o ddeunyddiau amrywiol a phob un â rhyw gysylltiad â Chymru. Gellir olrhain datblygiad crefft y saer doliau o'r esiamplau pren cyntaf i ddoliau plastig cyfoes. Gwelwn hefyd y newid o deganau cartref syml, i nwyddau ffatri wedi'u masgynhyrchu. Chwarae yw prif fwynhad plant pob oes, ac mae dianc i'w byd dychmygol eu hunain yn rhan hanfodol o blentyndod iach a llawn cymhelliad. Mae doliau syml o bren a chlai wedi'u canfod mewn beddrodau Eifftaidd yn dyddio o 1600 CC, ac rydyn ni'n gwybod bod plant yr hen Roeg a Rhufain yn mwynhau teganau o'r fath. Byddai doliau yn cael eu cynhyrchu yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol ac wrth i'r canrifoedd basio, ehangodd yr amrywiaeth o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd i greu doliau a theganau yn gyffredinol. Caiff doliau eu dosbarthu yn ôl y math o ben sydd arnynt. Yn naturiol, pren oedd y rhan fwyaf o ddoliau cynnar a grëwyd mewn ardaloedd yn yr Almaen ac Awstria lle roedd cerfio pren yn grefft draddodiadol boblogaidd. Dechreuodd doliau cwyr ymddangos yn ystod y 17eg ganrif, ac erbyn tua 1800 roedd doliau cyfansawdd — cymysgedd o bren a phapur wedi'u pwlpio — yn cael eu creu yn yr Almaen. Daeth papier-mâché — dull cyfansawdd oedd yn rhatach na phren — yn boblogaidd a dechreuwyd ei fasgynhyrchu yn nechrau'r 19eg ganrif, a dyma fu dechrau'r diwydiant creu doliau yn yr Almaen. Diflannodd y diwydiant doliau cŵyr erbyn 1890 gyda thwf doliau porslen neu tsieni wedi'u gwydro yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd gorffeniad sgleiniog y doliau porslen yn atyniadol iawn ac yn yr Almaen a Ffrainc y crëwyd y rhan fwyaf o'r doliau yma. Roedd doliau bisg (porslen anwydrog) gydag wynebau wedi'u paentio'n ofalus a lliw croen hynod ddeniadol hefyd yn gyffredin yn y ddwy wlad o'r 1860au. Tra bod y pennau o tsieni, cyrff o ledr neu bren fyddai gan y doliau, ac er taw portreadau o fenywod oedd y rhan fwyaf o ddoliau yn hanesyddol daeth y 'bebe' Ffrengig yn boblogaidd yn y 1880au oedd wedi'u modelu ar ferched ifancach am y tro cyntaf. Roedd y 19eg ganrif yn oes aur i gynhyrchu doliau, boed yn goed, cwyr neu tsieni, gyda'r mwyafrif yn cael eu cynhyrchu yn yr Almaen, Ffrainc, Lloegr ac yn ddiweddarach, yr Unol Daleithiau. Cyn gwawrio'r oes ddiwydiannol, byddai teganau a doliau yn cael eu gwerthu fel arfer mewn ffeiriau teithiol a marchnadoedd, ond yn y 19eg ganrif agorodd siopau teganau parhaol i werthu nwyddau yn rheolaidd. Mae'r ddol fwdw gwrth-swffragetaidd hon yn wawdlun creulon o ferch sy'n ymgyrchu dros yr hawl i bleidleisio. Defnyddiai'r mudiad gwrth-swffragetiaid ddelweddau fel hyn mewn cartwnau a phosteri i fychanu merched oedd yn mynnu'r bleidlais. Doli glwt swffraget, tua 1890-1900 Set o dair dol bisque bach, tua 1920-25 Byddai doliau yn cael eu prynu'n aml heb ddillad gyda mamau a'u merched yn gwnio'r gwisgoedd â llaw, gan ddefnyddio eu patrymau eu hunain neu batrymau wedi'u prynu o'r siop. Mae'r pwythwaith ar gorff y ddol yn aml yn ddangosydd da o'i hoedran gan na fyddai peiriannau gwnio'n cael eu defnyddio'n rheolaidd tan tua 1870. Roedd doliau erbyn hynny'n dod yn eitemau llai moethus nag yn y 18fed ganrif gyda chynulleidfa ehangach yn medru eu fforddio. Yng Nghymru fodd bynnag, prin oedd gan deuluoedd y wlad arian i wario ar ddim ond anghenion bywyd tan ganol yr 20fed ganrif, ac roedd yn rhaid iddynt greu eu hadloniant eu hunain. Er bod doliau yn bodoli, cai'r rhan fwyaf eu creu gan grefftwyr lleol neu rieni'r plentyn o bren neu ddefnydd — teganau syml, ond eto'n hudolus a llawn cymeriad. Gweddnewidiwyd y diwydiant teganau ym Mhrydain wedi'r Ail Ryfel Byd gan dechnegau cynhyrchu newydd a dyfodiad deunyddiau newydd, rhatach fel plastig. Wrth i deganau a doliau ddod o fewn cyrraedd i blant o bob dosbarth cymdeithasol disgynnodd y prisiau. Cynhyrchwyd doliau plastig caled am y tro cyntaf yn y 1940au a gyda phoblogrwydd cynyddol y creadigaethau lliwgar a ffasiynol newydd, diflannodd yr eitemau gwaith llaw oedd yn edrych braidd yn ddi-raen wrth eu hymyl. Ym 1959 cyrhaeddodd Barbie y siopau — y ddol o America sydd wedi profi llwyddiant rhyngwladol hynod — a bellach mae dewis di-ri o ddoliau yn ein siopau, a nifer ohonynt wedi'u seilio ar gymeriadau benywaidd ffilmiau a rhaglenni teledu poblogaidd. Mae casgliad doliau Sain Ffagan yn parhau i dyfu gan ei bod hi'n bwysig casglu esiamplau cyfoes i adlewyrchu'r newid yn y byd creu doliau gyda dyfodiad deunyddiau a thechnegau newydd. Mae cyswllt â Chymru'n parhau yn hanfodol a rhaid i'r ddol fod wedi ei chynhyrchu yng Nghymru neu taw plentyn o Gymru fu'n chwarae â hi, cyn iddi gael ei derbyn. Mae'r Amgueddfa'n hynod falch o'i doliau mewn gwisg Gymreig gyda'r casgliad yn cynnwys esiamplau prin o ganol y 19eg ganrif i'r Barbie 'Cool Cymru' o 1999 yn gwisgo'r wisg ddraig goch eiconig.
Bwyd o lannau Cymru 23 Gorffennaf 2012 Cyflwyniad Hel cocos ar draeth Llan–saint. Y rhidyll, y gocses a'r rhaca — offer hel cocos. Byddai cymunedau oedd yn byw ger y glannau hefyd yn manteisio ar y bwydydd oedd ar gael iddynt ar y traeth neu'r creigiau glan-môr. Mae yna dystiolaeth helaeth o safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig sy'n dangos bod pysgod cregyn yn cael eu cynaeafu yng Nghymru trwy'r canrifoedd. Roedd y pysgod cregyn hyn yn rhad ac am ddim o'u casglu, ac roedd toreth ohonynt i'w cael ar hyd y glannau. Cocos a chregyn gleision oedd y mathau a gasglwyd ac a werthwyd amlaf gan y bobl gyffredin Casglu cocos Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, byddai merched casglu cocos yn aml yn cadw stondinau ym marchnadoedd trefi de Cymru. Byddai eraill yn gwerthu eu cynhaeaf o ddrws i ddrws yn y pentrefi diwydiannol ac arfordirol yn y gogledd a'r de. Fel arfer byddai'r cocos oedd wedi'u berwi a'u tynnu o'u cregyn (cocs rhython) yn cael eu cludo mewn bwced bren ar ben y werthwraig. Câi'r cocos oedd heb eu trin (cocs cregyn) eu cludo mewn basged fawr ar ei braich. . Soniai un wraig wyth deg oed o Lan-saint, pentref glan-môr yn Sir Gaerfyrddin, iddi fod yn casglu cocos ar y traeth am chwe deg o flynyddoedd. Cyfeiriai at y patrwm arferol lle'r oedd merched yn olynu eu mamau yn y gwaith hwn. Roeddent yn ddibynnol ar eu henillion o'r cocos; cofiai ei bod yn eu gwerthu am ddimai'r peint, ond ei bod tua diwedd ei gyrfa yn gwerthu'r un faint o gocos am chwe cheiniog. Roedd hwn yn dâl sâl iawn am yr holl waith llafurus. Casglu, golchi a chludo'r cocos adref o'r traeth oedd y cam cyntaf. Wedi cyrraedd byddai'n rhaid dechrau ar yr ail gam, sef golchi'r cocos eto a'u berwi cyn eu cludo am yr eilwaith, i'r farchnad y tro hwn. Gwnâi cocos bryd ysgafn o'u bwyta gyda bara menyn neu fara ceirch, ac roeddent yn elfen mewn gwahanol seigiau oedd yn cynnwys wyau neu laeth a sifys. Byddai merched ym mhentref Penrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd, yn canu'r pennill hwn wrth werthu'r pysgod cregyn o ddrws i ddrws: Cocos a wya Bara ceirch tena Merched y Penrhyn Yn ysgwyd 'u tina Cafiâr Cymru? Siediau casglwyr bara lawr (1936) Un o'r bwydydd môr pwysig eraill oedd math o wymon bwytadwy o'r enw bara lawr. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai merched o lannau Sir Fôn, Sir Forgannwg a Sir Benfro yn casglu hwn yn frwd. Roedd angen trochi'r bara lawr a gasglwyd o'r creigiau a'r cerrig ar lan y môr mewn saith golchad o ddŵr glân er mwyn cael gwared ar yr holl raean a thywod oedd ynddo. Wedyn byddai'r gwragedd yn gwasgu'r dŵr o'r gwymon, a berwi'r bara lawr glân yn araf yn ei wlybaniaeth ei hun am ryw saith awr. Y peth olaf i'w wneud oedd ei ddraenio a'i falu'n hynod o fân nes ei fod yn fwydion lliw gwyrdd-ddu. Byddai'n cael ei ysgeintio wedyn â blawd ceirch a'i ffrio mewn saim cig moch, ac yn cael ei weini gyda bacwn fel arfer. Enwau eraill arno oedd llafan neu fenyn y môr, a byddai bara lawr yn cael ei baratoi fel cynnyrch masnachol gan deuluoedd yn Sir Forgannwg, a'i werthu gyda'r cocos ar y stondinau marchnad. Ar un adeg dim ond teuluoedd ar incwm isel fyddai'n paratoi ac yn gwerthu'r ddau fwyd hwn. Yn y pen draw datblygodd y ffordd hon o farchnata yn fentrau masnachol o bwys. Heddiw mae bara lawr, a elwir weithiau yn gafiâr Cymreig, i'w weld ar gownteri siopau bwyd arbenigol ac yn cael ei gynnig fel hors-d'œuvre mewn bwytai o'r radd flaenaf.
Baner Gymreig Capten Scott Elen Phillips, 1 Mawrth 2012 Y Terra Nova yn gadael Caerdydd ar 15 Mehefin 1910. Mae'r Ddraig Goch yn cyhwfan o'r hwylbren canol, tra bod y Lluman Gwyn yn cyhwfan o'r tryfer canol. Gwelir baner Dinas Caerdydd ar yr hwylbren blaen. Baner y ddraig Goch a gynhyrchwyd gan Howell & Co ac a gyflwynwyd i Alldaith Capten Scott i Antarctica. Hysbyseb llawn tudalen ar gyfer James Howell & Co. a welwyd yn rhaglen Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. Cyhoeddwyd gan y Great Western Railway Co. Mae nifer o faneri Draig Goch yng nghasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru. Roedd y mwyafrif yn cyhwfan yn wreiddiol uwchlaw adeiladau dinesig ac mae un wedi cael ei hedfan yn y gofod hyd yn oed! Mae cysylltiad rhwng yr esiampl fwyaf a hynaf yn y casgliad â thaith feiddgar arall — Alldaith Antarctig Brydeinig Capten Robert Falcon Scott 1910–13.Dangoswyd y faner hon mewn cinio ffarwel a gynhaliwyd er anrhydedd i Capten Scott a'i swyddogion yng Nghaerdydd ar 13 Mehefin 1910, ac a hedfanodd ar fwrdd y Terra Nova wrth i'r llong hwylio o Gaerdydd ac ar ei dychweliad ym 1913.Ar ddydd Gŵyl Dewi 1911 a 1912, codwyd y faner uwchlaw caban pencadlys Scott yn yr Antarctig.Mae wedi'i gwneud o ddefnydd gwlanen garw gyda selfeisiau ar yr ymylon uchaf ac isaf ac yn mesur 3.45m x 1.83m. Torrwyd y motiff draig o ddefnydd gwahanol a'i wnio â pheiriant i'r ffabrig cefndir gwyrdd a gwyn. Mae manylion — fel y crafangau, y tafod a'r llygaid — wedi'u paentio arni â phaent du gwyn.James Howell & Co. o GaerdyddWyddon ni ddim pwy bwythodd neu liwiodd y faner, ond rydyn ni'n gwybod taw cwmni James Howell & Co yng Nghaerdydd a'i cynhyrchodd, yn yr adran wisgoedd mwy na thebyg.Cyhoeddwyd mewn cinio a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 1909 er anrhydedd i'r Is-gapten E. R. G. R. Evans, aelod o alldaith Scott, bod Howell wedi cynnig cynhyrchu baner Draig Goch fawr iddo ei chludo i Begwn y De. Roedd Evans wedi rhoi'r gorau i drefnu Alldaith Antarctig Gymreig ei hun ac wedi ymuno â Scott fel ei ddirprwy.Bu Evans yn hynod ddylanwadol yn hyrwyddo a chasglu nawdd i'r alldaith, a hynny'n bennaf drwy olygydd y Western Mail, Willie Davies — gwraig Davies gafodd y syniad o gyflwyno baner Cymru i'r alldaith.Caerdydd yn 'un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'Estynnodd trigolion Caerdydd groeso cynnes i'r Alldaith Antarctig Brydeinig — mwy nag unrhyw ardal arall o bosibl. Wedi ennill statws dinas ym 1905, roedd arweinwyr dinesig Caerdydd wrthi'n ceisio ei hailfrandio. Yng ngeiriau Clerc y Dref, J. L. Wheatley, roeddent am hyrwyddo Caerdydd 'fel un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'.Roedd cael ei chysylltu'n agos â mordaith Scott i Antarctica — un o'r cyffindiroedd mawr olaf — yn brawf o'r hyder dinesig newydd hwn.Un o ffigurau blaenllaw cymuned fusnes Caerdydd oedd James Howell. Sefydlwyd ei siop adrannol, James Howell & Co, ym 1865 fel siop ddillad fechan ar Yr Aes ac erbyn dechrau'r ganrif roedd yn un o'r mwyaf o'i bath yng Nghymru. Does dim syndod fod James Howell yn teimlo cymhelliad i gyfrannu at fenter Scott mewn rhyw fodd ac yntau â hanes o 'noddi' digwyddiadau dinesig yng Nghaerdydd. Yn nechrau 1909, darparodd un o'i adeiladau ar Stryd Wharton i Basiant Cenedlaethol Cymru yn rhad ac am ddim. Cerdyn post i goffau Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909 Ardalyddes Biwt fel 'Dame Wales' ym Mhasiant Cenedlaethol Cymru, Gorffennaf 1909. Yn haf 1914, cynhaliodd yr Amgueddfa arddangosfa dros dro o luniau dyfrlliw a brasluniau Edward Wilson o'r Antarctig. Wilson oedd Prif Wydonydd yr alldaith a bu farw gydag ef ar y daith yn ôl o Begwn y De ym 1912. Cynhaliwyd yr arddangosfa yn Neuadd y Ddinas gan fod adeilad yr Amgueddfa heb ei gwblhau ar y pryd. Pasiant Cenedlaethol CymruI bob pwrpas, cyfle i fawrion cymdeithas ail-greu golygfeydd o hanes arwrol Cymru oedd y Pasiant Cenedlaethol. Roedd angen 40,000 o wisgoedd ar drefnwyr y pasiant a cyflogwyd tîm o 800 o fenywod. Sefydlodd y menywod gweithdy yn Stryd Wharton am chwe mis. Fel un o noddwyr y Pasiant byddai Howell hefyd wedi darparu gwneuthurwyr gwisgoedd proffesiynol o'i weithlu ei hun. Yn wir, mae gwisg eiconig 'Dame Wales' o olygfa agoriadol y Pasiant ar 16 Gorffennaf 1909 wedi ei chreu mewn modd tebyg iawn i faner y Terra Nova. Mae gan y ddwy addurn gosod ar lun motiff draig goch, mewn dyluniad naïf. Gyda'r ddwy wedi'u creu ychydig fisoedd ar wahân yn un o weithdai James Howell & Co, ai'r un dwylo a'u pwythodd ys gwn i?Draig Goch y 1890auMae'r ddraig ar faner y Terra Nova yn amlwg yn wahanol i'r faner bresennol. Mae'n fwy talsyth, dragon segreant yn hytrach na dragon passant. Roedd yr arddull hwn yn gyffredin yn y 1890au a dechrau'r 1900au a gellir ei weld, mewn ffurfiau amrywiol, ar gadeiriau eisteddfodol y cyfnod a llu o arwyddluniau cenedlaethol eraill. Mae'n siŵr taw o ffynonellau tebyg y gweithiodd gwneuthurwyr dillad Howell wrth greu draig y Terra Nova.Safoni Baner CymruYm 1910, ysgrifennodd yr Eisteddfod Genedlaethol at yr Amgueddfa yn gofyn am gymorth gyda ffurf y ddraig: 'Rydym yn awyddus i gael ffurf y ddyfais mor gywir a phosibl'. Cawsant ateb gan guradur: 'Gresynaf nad oes gennym sbesimen dilys o'r anifail yn yr Amgueddfa Genedlaethol'. Trosglwyddwyd y llythyr i Mr Thomas Henry Thomas, awdurdod cydnabyddedig ar faterion o'r fath, a fu wrthi ers blynyddoedd yn ceisio cysoni ffurf y ddraig Gymreig. Mae ei frasluniau a'i bapurau bellach wedi eu cadw yn yr Amgueddfa.Torri'r faner yn gofroddionPan ddychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ym Mehefin 1913, gyda'r ddraig goch yn cyhwfan o'r mast, nododd y Western Mail ei bod 'dipyn yn llai na pan y codwyd hi am y tro cyntaf dair mlynedd yn ôl. Tra bod y Terra Nova wedi'i hangori yn Lyttleton, Seland Newydd, rhoddwyd caniatâd i gynrychiolwyr y cymdeithasau Cymreig yno i dorri darnau o'r faner a'u cadw fel cofroddion o'r alldaith.'Mewn cinio yn y Royal Hotel ar 16 Mehefin 1913 i ddathlu dychweliad yr alldaith i Gaerdydd, cyhoeddodd Teddy Evans y byddai'r faner yn cael ei rhoi i'r Eisteddfod Genedlaethol. Yn dilyn y dathlu fodd bynnag, doedd neb yn siŵr iawn beth wnaeth Evans â'r faner. Roedd yn credu ei fod wedi ei rhoi i'r Arglwydd Faer, ond cafodd ei chanfod yn y Royal Hotel bedwar mis yn ddiweddarach!
Cylch a bachyn a doli glwt 16 Rhagfyr 2011 Teganau gwerin Grwp o blant yn Sgwar Rowe, Caerdydd, tua 1892. Mae un yn dal cylch haearn a dau arall yn eistedd ar ferfa ben i waered. Yng Nghymru ers talwm gwrthrychau syml o waith llaw a wnaed gartref oedd teganau. Fe’u lluniwyd o ba ddeunyddiau crai bynnag oedd yn digwydd bod ar gael yn lleol. Pren oedd prif ddeunydd teganau plant, gan ei fod yn rhwydd i’w saernïo yn wrthrychau o bob math – yn ddoliau, topiau troi a ratls i enwi dim ond tri. Roedd cylchoedd a bachau haearn a pheli troed a wnaed o bledrenni moch yn boblogaidd hefyd. Byddai’r rhain yn difyrru plant am oriau ac roeddent yn gyffredin yn y cartref ac ar fuarth yr ysgol. Roedd bod yn berchen ar bêl yn rhoi rhwydd hynt i chwarae llu o gemau tîm cyffrous fel rownderi, pêl law a phêl-droed, yn arbennig felly i fechgyn. Ar y llaw arall, byddai merched, hefyd, yn gyrru cylchoedd o bren neu haearn fel y mynnent, naill ai bob yn un, neu drwy gystadlu i weld pwy fyddai’n gallu eu rholio gyflymaf, arafaf neu bellaf. Trysorau plant Cyn dyfodiad cynnyrch ffatrioedd, byddai plant yn chwarae gyda theganau gwerin fel hyn. Mae'r cwpan a phêl, y chwiban a'r ratl a welir yma yn gopïau modern. Mae'r term teganau gwerin yn disgrifio'r teganau hynny a wnaed naill ai gan y plentyn ei hun neu gan rieni neu grefftwyr yn unol â dymuniadau’r plentyn. Yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond y teganau symlaf oll fyddai gan blant o deuluoedd tlawd, lle'r oedd yr arian at hanfodion bywyd, heb sôn am deganau, yn brin. Serch hynny byddai’r rhain yn drysorau yn llygaid y plant ac yn fodd i ddianc am ychydig rhag cynni eu bywydau beunyddiol. Gan mai tlodi oedd realiti byw i lawer teulu yn y cyfnod hwn, rhaid oedd iddynt greu eu diddanwch a’u difyrrwch eu hunain, ac roedd plant yn llawn balchder haeddiannol am eu bod yn gallu gwneud eu teganau eu hunain o ddim. Er enghraifft, y cyfan oedd ei angen i wneud barcud papur oedd ffrâm bren ysgafn ac ychydig o bapur, a byddai hyd yn oed y plant lleiaf yn gallu creu ceffyl pren o ddarn o bren a thipyn go lew o ddychymyg. I wneud si-so, yn aml byddid yn gosod dwy astell, y naill uwch ben y llall, dros gasgen. Byddai dau blentyn wedyn yn eistedd y naill ben a’r llall i’r estyll ac yn siglo i fyny ac i lawr yn fodlon nes iddynt flino ar y chwarae. Roedd modd defnyddio rhaffau i sgipio neu eu dringo trwy glymu un pen wrth gangen gref, gan adael y llall yn rhydd i’r plant glewaf ei dringo. I fechgyn, roedd creu eitemau fel barcutiaid papur, cychod tegan neu ffyn tafl yn rhoi teimlad o foddhad mawr, a gallai merched ddefnyddio eu doniau gwnïo i wneud doliau clwt a dodrefn ar gyfer tai doliau, neu chwarae siopau dillad trwy ddefnyddio tameidiau bychain o wahanol ddefnyddiau. Teganau ffatri Stêm-roler tegan a gynhyrchwyd gan Glamtoys Ltd yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, diwedd y 1950au Hyd rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif, yn ddieithriad bron, dim ond pobl gefnog a fedrai fforddio prynu teganau. Ond wrth i ddulliau masgynhyrchu ddatblygu cynhyrchwyd teganau rhatach, gan drawsnewid y farchnad deganau yng Nghymru a mannau eraill. Agorodd llu o ffatrïoedd teganau, ac wrth i'w hymgyrchoedd marchnata a hysbysebu dyfu’n amlycach ac yn ehangach eu dylanwad, roeddent yn llwyddo i gyrraedd plant o bob cefndir cymdeithasol. Yn ganlyniad i hyn, collodd y rhan fwyaf o blant ddiddordeb yn y tegan gwerin syml. Rhoesant y gorau i wneud eu teganau eu hunain, gan gynilo eu ceiniogau yn lle hynny at brynu’r fersiynau lliwgar, addurniadol a mwy ffasiynol oedd i'w gweld yn y siopau. Heddiw mae teganau gwerin a wnaed gartref yn cael eu hystyried yn aml yn wrthrychau braidd yn hen ffasiwn a hynod. Serch hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer gynyddol o grefftwyr wedi troi eu llaw at wneud teganau, efallai yn ymateb i’r mynyddoedd o eitemau ffatri sy’n cael eu mewnforio i Brydain o dramor. Er gwaethaf y bri sydd o hyd ar deganau masnachol, byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod i wrthrychau cartref apêl fwy hirhoedlog, oherwydd pwy allai wadu atyniad diniwed a digyfnewid eitemau fel pyped bys wedi ei weu neu ddoli beg wedi ei phaentio? Mae natur unigryw darnau a wnaed â llaw ac ôl y gofal a’r amynedd sydd wedi mynd i’w creu yn ddi-os yn dweud mwy wrthym am y gwneuthurwr nag y gallai gêm gyfrifiadur neu ddol Barbie a fasgynhyrchwyd ei wneud erioed.
Maen magl a photel gwrach 16 Mehefin 2011 Wedi eich brathu gan gi cynddeiriog neu eich rheibio gan wrach? Swyn ar bapur yn erbyn rheibio, o Langurig, Maldwyn Pe bai ci cynddeiriog yn eich brathu chi neu wrach yn rhoi melltith arnoch chi, fyddech chi'n gwybod beth i'w wneud? Mor ddiweddar â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, roedd yn arfer cyffredin mewn rhai mannau yng Nghymru i bobl ddefnyddio gwahanol fathau o swynion a swynbethau i'w hiachau neu i'w diogelu yn erbyn ystrywiau gwrachod. Gallai'r rhain fod ar ffurf geiriau tebyg i weddi a fyddai'n cael eu hadrodd neu eu hysgrifennu ar ddarn o bapur cyn ei guddio'n ddiogel. Yn ôl y gred roedd gwrthrychau fel esgidiau neu gerrig hefyd yn dod â lwc. Maen magl Glain Nadredd, o Ben-tyrch, Morgannwg Y swynbeth carreg enwocaf yng Nghymru oedd y maen magl neu'r glain nadredd. Ym 1695 disgrifiodd Edward Lhuyd y rhain fel Cerrig y Drudion - sef cerrig y Derwyddon. Y gred oedd y byddent yn cael eu creu wrth i nadroedd roi eu pennau at ei gilydd, gan ffurfio rhyw fath o swigen o amgylch pen un ohonynt. Mae'r 'swigen' hon yn debyg i gylch gwydr fel yr un a gafwyd yn Nhwyn-y-tila, Caerllion, a chredir ei bod yn dod â lwc i bwy bynnag sy'n dod o hyd iddi. Credid hefyd ei bod yn feddyginiaeth ar gyfer afiechydon y llygad a byddai galw mawr amdani yn aml. Mae'r term maen, wrth gwrs, yn enw arall ar garreg a hen air yw magl am anhwylder ar y llygad, fel llefrithen. Roedd modd dabio'r dŵr a ddefnyddiwyd i wlychu'r garreg ar y man sâl, ond roedd y driniaeth a ddefnyddid amlaf yn golygu rholio neu rwbio'r garreg dros yr amrant. Arferai pobl ddefnyddio'r ymadrodd 'fel y glaim', a oedd yn llythrennol yn golygu 'fel y garreg', i olygu iach dros ben. Gwella'r gynddaredd Carreg y Gynddaredd, o Henllan, Ceredigion Amrywiad ar y maen magl yw'r llaethfaen, a oedd — yn ôl y sôn — yn gallu gwella'r gynddaredd. Yn ei gyfrol Folk-Lore of West and Mid Wales, soniodd Jonathan Ceredig Davies am laethfaen a oedd 'very much in request' oherwydd y gred ei bod yn gwella pobl a gafodd eu brathu gan gi cynddeiriog, a oedd yn broblem gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Boed pwerau'r garreg yn rhai iachaol neu'n rhai ataliol, y gred oedd bod y bobl a ddefnyddiai'r garreg yn ddiogel rhag y gynddaredd. Soniodd Iolo Morgannwg iddo weld carreg fel hon yn Sir Benfro ym 1802, pan gyfarfu â dyn a oedd yn cerdded y wlad â charreg o'r fath gydag ef. Byddai'n crafu darn o'r garreg yn bowdwr y gellid ei doddi mewn diod, a'i werthu am bum swllt yr owns fel meddyginiaeth yn erbyn y gynddaredd. Potyn a photel gwrach Math gwbl wahanol o swynbeth yw potel gwrach. Edrychwch er enghraifft ar y jwg crochenwaith Bwcle yma o'r ddeunawfed ganrif — potel gwrach yw hon. Fe'i cafwyd wedi ei chladdu wrth wraidd hen ywen ger ffermdy Allt-y-Rhiw ger Llansilin, ym Mhowys. Yr hyn sy'n ddiddorol ynglŷn â'r jwg yw bod ei chwarter yn llawn o blwm, sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn rhyw ffordd warchodol, neu fel ffordd o ddal neu amgáu ysbryd trafferthus mewn modd tebyg i'r esgidiau cuddiedig sydd yn ein casgliad. Gyda chredoau ynglŷn â dewiniaeth roedd y weithred o gau gwrthrych mewn potel neu botyn yn aml yn arwydd o fod wedi twyllo'r ysbryd aflan. Byddai'n cael ei ddefnyddio felly fel swynbeth gwarcheidiol. Mae llawer i stori am ysbrydion trafferthus yn cael eu 'diddymu' fel hyn, fel ysbryd 'Lady Jeffreys' a gafodd ei pherswadio i fynd i mewn i botel. Yna rhoddwyd corcyn yn y botel, ei selio a'i thaflu i'r pwll o dan y Bont Fer yn Llanidloes. 'Crinjars' neu ddynion hysbys Mr Evan Griffiths, crinjar o Langurig, sir Drefaldwyn, 1928 Medrai pobl a gafodd eu witsio hefyd ddilyn eu defodau eu hunain yn erbyn dewiniaeth trwy osod pethau miniog fel drain a phinnau mewn potel. Fel arfer byddent yn llenwi'r botel wedyn gyda lleisw'r dioddefwr cyn ei selio a'i berwi ar y tân neu ei chladdu o dan garreg yr aelwyd. Y gred oedd y byddai hyn yn poenydio'r wrach nes iddi ddangos pwy oedd hi, a thrwy wneud hynny godi'r swyn. Roedd y botel yn cynrychioli pledren y wrach, ac felly credid bod y pethau miniog yn achosi llawer o boen iddi. Gallech hefyd brynu swyn gan ddyn hysbys — sef dyn doeth. Roedd y bobl hyn yn gyffredin iawn yng Nghymru ar un adeg, ac ymhlith eu doniau roedd gwrthweithio dewiniaeth, gwella pobl ac anifeiliaid, astroleg, dweud ffortiwn, a dod o hyd i eiddo coll. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif roedd enw mawr i Langurig oherwydd ei dynion hysbys. Byddai swynau yn erbyn dewiniaeth yn cael eu hysgrifennu ar ddarn o bapur, a gâi ei rolio'n ofalus a'i selio mewn potel. Gosodwyd hon wedyn o dan yr aelwyd neu ei chuddio yn un o brif drawstiau'r tŷ er mwyn gwarchod rhag dewiniaeth ac unrhyw ddrwgweithredwyr. Os digwydd i chi ddod o hyd i un o'r swynbethau hyn, cofiwch ei drin yn yr un ffordd â'r dillad cuddiedig. Tynnwch ffotograffau ohono a chofnodi manylion yr union fan y daethoch o hyd iddo, a chysylltu â'ch amgueddfa leol. A beth bynnag y gwnewch chi, peidiwch ag agor y botel!