: Hanes Bywyd Gwerin

Tafodieithoedd y Gymraeg

29 Mawrth 2011

Treforys / Morriston

I lawer o bobl, gan gynnwys brodorion Cwm Tawe eu hunain, un o nodweddion hynotaf tafodiaith y cwm yw Calediad, sef, e.e., ddweud catw ac eclws yn hytrach na cadw ac eglws. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, ar gyrion tiriogaeth Calediad y mae'r cwm: mae'n nodwedd ar yr holl ardal i'r dwyrain iddo. Fel y tystia'r nodweddion canlynol, yr hyn sydd yn hynodi'r dafodiaith hon yw mai dolen gyswllt, drawsnewidiol, ydyw rhwng 'iaith Shir Gâr' a'r 'Wenhwyseg'.

Transcript

Odd rai'n myn' i ifed ar y slei, of cwrs, on' och chi ddim fod i fyn' i dafarne i ganu. Ŷch chi'n 'bod yr Annibenwyr, p'un e chi 'di gwbod o'r blân, fe dorrodd yr Annibenwyr Cwm Rondda mâs o'r llifer emyne. /Do fe?/ Shwrne dethôn nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yntafarne, dorrws yr Annibenwyr... dyw e'm yn llifer emyne ni nawrl Tôn y botel na Cwm Rondda. Ŷn ni'n canu C'wm Rondda acha... ma man 'yn nawr, mae man 'yn 'da fi nawr. Dere 'ma gw' boi bach. Edrychwch chi trw'r llyfyr emyne 'na. Sdim Cwm Rondda 'na /Cwm Rondda 'na/. Na Tôn y botel.

Ôn nw'n strict â'r pethe 'ma slawer dydd, ôn nw?

O, y ni odd y gwitha wi'n credu. Annibenwyr.

Ôn i'n meddwl taw'r Methodistied odd...

Methodists, ôn nw'n câl y bai 'efyd. Shwrne dethon nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yn y tafarne... Blaen-wern, odd dim lot o Blaen-wern 'ma, chwel' 'chos on nw'n can... Ethon i ganu e i tafarne, chwel'. Odd, os och chi'n ifed, 'na'ch Waterloo chi. /Ife?/ 'Na'ch diwedd chi. O ie. O, och chi ddim fod i ganu... Wel ŷn ni'n canu Cwm Rondda, ma gire Cwm Rondda gyda ni yn y manna, ond dim a'r tôn... O Duw annwl! On nw... Shwrne odd e'n myn' yn gân tafarne /ie/, ddim ishe 'wnna. On nw...

Odd rai'n myn' i ifed, though, yn'd odd e?

Wel, ôon nw'n ifed, ond ôn nw ddim yn openly chimod. On nw'n gwpod bo' nw'n ifed. Wel, alle gwŷr y meline byth wedi gwitho yn y meline oni bai bo' nw... i gadw i... Wel, ôn nw... meddylwch chi bo' chi'n wsu, bod cryse'n do' mâs fel 'san nw'n dod o'r dŵr. Wel och chi'n colli nerth ofnadw o'ch corff, w. Wel, mae'n marvellous bo' nw wedi byw! /'Ti, 'ti./ Duw!

So ôn nw'n ifed i neud lan y dŵr?

Wel ôn. Ôn nw yn. A dodi halen 'nôl yn y corff, ys wedôn nw, chwel. Wel odd e yn ffaith 'efyd. Odd jest neb odd yn gwitho'n y meline yn deetotallers. /Na./ Braidd. Nagw, nagw dirwest eriôd wedi bod yn werth yn Dreforys. Bach iawn o Band of Hopes sy 'di bod 'ma eriôd. Dim on' y plant odd yn y Band of 'Ope. Shwrne ôn nw'n dod digon 'en i ifed, ôn nw'n ifed.

'Na beth odd amcan y Band of 'Opes, 'te, odd dirwest, ife?

le. Teetotallers, Band of 'Ope. O Duw annwl. On' bach iawn o rina odd i gâl. Ôn nw'n ifed i... Wel, a ôn nw mâs nos Satwn, ôn nw? Cwrdda, cwrdda yn y tafan /ie/. Wel odd ddim pictures i gâl amser 'ny. A'r unig man odd 'da nw i gwrdda odd y tafan. Wel, och chi'n myn' i dafan, och chi'n ifedl

Odd y merched yn myn' i dai tafarne?

Na, na byth. Odd ddim merch câl myn' i dafan.

Beth... ôn nw'n 'ala 'i mâs, ôn nw?

Dele 'i ddim miwn. Cele 'i ddim myn' miwn. A odd snug— gwelsoch chi'r snug eriôd?

Ma ryw gof 'da fi amdanyn nw!

Wel, 'na fe, dim on' i'r snug ôn nw'n cal mynd.

Ife? /Ie./ Beth odd yn ots? Beth odd...

Och chi ddim fod i gymisgu. Dinon a menŵod mewn tafan. Catw'r menŵod fel'a, cadw'r dinon a... 'Cer di o fanna.'

Pwy fenŵod odd yn myn' i dai tafarne 'te?

Y rough lot

Ife? Pwy ôn nw weti 'ny, 'te?

O Duw, Duw! O' son amdanoch chi. Câl menyw'n myn' i dafan, och chi'n gomon ofnadw. W, dim o'ch ishe chi! Out! Odd ddim capel i chi, och chi out. On' 'na beth od, ma dyn... ôn nw'n gweud bod dyn yn ifed, odd menyw yn llemitan. 'Na'r gair. 'Oti JohnJones...?' 'O, mae e'n ifed, oti. A ma'i wraig e'n llymitan 'efyd.' Wel, 'na'r hall mark wedi 'ny. Os odd 'i'n llymitan, walle dele 'i ddim... dele 'i ddim... odd 'i ddim câl dod. Os odd 'i'n dod i'r tafan, dim on' i'r snug odd'i'n câl dod.Jyst tu fiwn y drws. Rŵm bach, ŷch chi'm 'bod, a mâs. Odd 'i ddim câl myn' miwn i'r bar a cymisgu â dinon. O Duw, Duw! Out!

Odd rai menywod yn ifed yn tŷ?

Wel, dim trw wpod i ni. Na, on nw'n myn' i... On' och chi ddim cymisgu â rina, chwel'. Ôn ni'n 'bod dim amdenyn nw! Duw! Bydde Mam 'di'n lladd ni 'tân ni'n myn' i dŷ menyw odd yn ifed! 'O d... paid di â neud 'na 'to, cofia! Paid di â myn' 'da'r fenyw 'na, ma 'onna'n ifed, cofia!' O, odd 'i'n dread. Dread thing. Llymitan odd fenyw, ifed odd y dyn. 'Na od, ife!

Rhosllannerchrugog

Er bod llawer o nodweddion Cymraeg Rhosllannerchrugog yn cysylltu'r dafodiaith â'r Gogledd-ddwyrain a'r Canolbarth, y mae i iaith y 'pentref mwyaf yng Nghymru' ei hunaniaeth ei hun.

Transcript

Och chi'n cal mynd un waith y fiwyddyn efo'r capel i'r Rhyl, a'dd o'n treat mawr. /Ie./ Trên yn mynd o'r Rhos, y capelydd yn... yn uno amser honno, yntê. O! Wel odd o'n werth weil, y trip capel yndoedd? Mynd i'r Rhyl. A dene'r unig drip och chi yn gal.

Llond y trên wedyn?

O, oedd. Trên yn llawn. Oedd. On ni'n meddwl bo' ni'n cadw... a 'chefn, ichi feddwl, odd station Rhos yndoedd yn packed yn gweled plant yr Ysgol Sul yrŵan yn mynd i'r Rhyl. Ag odd 'i'n ... odd y station ... odd y platform yn packed y noswith 'nw, pawb yn weifio ni'n dôl. Fath â dasen ni 'di bod i ffwr' yn Llunden. 'Lla i ddim credu'r peth heddiw, cofiwch. Na alla.

Na. Beth oddech chi'n neud yn Rhyl wedyn?

O, bwced a rhaw yntê. O, 'chi'm pres i wario! Nag odd. Syth i ffwr' at y swnd, yntê. O' 'ne'm pres ichi wario. Nag oedd. Chi'n lwcus amser honno dasech chi'n cal dwy geniog ne dair. Diar annwl! Ma pethe 'di newid. Wedi newid yn hollol.

Beth am y Pasg wedyn 'de?

O, odd Pasg yn adeg arbennig iawn. O' 'ne gyfarfod yn capel Mynydd Seion, a'r Annibynwyr eto yntê. A dwi'n meddwl bo' ... bron bob capel yn uno yn y gwasaneth yn Mynydd Seion. Odd nene ar nos Wener. Ar nos lau. O' 'ne ddau pregethwr yn Mynydd Seion 'rhyd y blynyddodd i gyd. A trw'r dydd, dy' Gwener y Croglith o' 'ne wasaneth bore, pnawn a hwyr. A'r capel yn orlawn! Yn orlawn! Ag odd rhaid inni fynd, o' rhaid ni fynd. Odd o'n beth ... Wel, odd nene i'r enwade i gyd, chi'n gweld, hwn yn Mynydd Seion. Capel yr Annibynwyr yntê. Ag ... ym ... odd pobol yn cwrdd 'i gilydd chwaneg amser honno, dwi'n meddwl trw bod nw'n mynd i'r ... i'r capel a Band of Hope ag ... On nw'n ddallt bobol yn sâl. Dach chi'n gweld, Oddyn nw ... man nw'n câl chwaneg o help hiddiw, ond câl chwaneg o gymwynas a cyfeillgarwch yr amser sy 'di mynd. Pawb yn cofio am rŵun odd yn sâl, yntê. Dene 'di gwahanieth.

Beth nethoch chi — beth odd ych oed chi'n gadel yr ysgol 'te?

Pedwar ar ddeg oed.

A beth nethoch chi wedyn, 'te?

O, mynd i le och chi'n deud amser honno. I weini man nw'n deud heddiw, 'nte. O ie. O ie, mynd yn forwyn.

I ble wedyn?

Mynd yn forwyn i tŷ Dr. Dafis. Hen Dr. Dafis y Rhos. A cal deg sŵllt yr wsnos. Codi chwech o gloch yn y bore, a rhy flin i mynd i'ch gwely deg o gloch yn y nos. A tân amser honno'n cal 'i gynnu yn y consulting room, surgery, dispensary, morning room a room y morynion. Pump a chwe tân isho cal 'u cynnu bob dydd. Ag aech chi'n barod i ddropio yn y nos cyn ichi fynd i'ch gwely, am ddeg sŵllt yr wsnos ... A'dd Mam mor dlawd ... on i'n mynd getre efo'r papur chweugen on nw'n ddeud amser honno am ddeg sŵllt yntê, ag on i'n câl sŵllt yn dôl. A fydde Mam wastad yn deu' 'tha i, 'Cofia bod ti ishe rwbeth yn yr Ysgol Sul.' Allan o'r sŵllt 'na on i'n gâl. Ond diolch bod ni 'di gwbad be' 'di nene. Den ni 'di gweled ... ma 'ne fwy o werth yn y bywyd sy 'di mynd na be' sy 'ne ar ôl gynna i heddiw, yntê.

Glowyr odd pobol y Rhos amser honno. A'dd 'i'n gymdeithas glos pan odd y glowyr, chi'n gweld. 'Chos dwi'n cofio Parch. Idryd Jones, odd y fo'n byw ar Allt y Gwter. Ag odd coliars yn mynd at 'u gwaith, cerdded amser honno. Ag odd o'n deud bod o'n cal 'i ddeffro 'mpas hann' 'di pump yn bore, coliars yn chwislo ac yn canu emyne wrth fynd at 'u gwaith, i lawr y pŵll, cofiwch chi. 'A dene,' medde fo fel ene, ''aru... odd nene i mi,' medde fo fel ene, 'fel Hallelujah Chorus,' medde fo. 'On i'n methu credu bod coliars yn callu chwislo a canu mynd at 'u gwaith,' medde fo, 'hann' 'di pump yn y bore.' le.

Beth am wraig y colier wedyn? Odd digon o waith ... odd hi'n codi'n fore.

O oedd! Hithe'n codi'n fore, torri bwyd mewn tun yntê. A wedyn pan fyse colier mynd getre yn y pnawn, bath ar yr ylwyd. On nw'n gorod molchi flân y tân, yndoedd? O' gynnyn nw'm byd arall i folchi.

Blaenpennal, Ceredigion

O wrando ar y darn hwn, mae'n annhebyg y byddai neb yn cynnig mai o'r Gogledd y deuai Mrs Evans. Eto i gyd, mae nifer o nodweddion yn ei hiaith sydd nid yn unig yn ei chlymu â chyrion y De-orllewin ond hefyd yn awgrymu cysylltiad â'r Gogledd.

Transcript

Ond dyna pinacl y flwyddyn odd y...

Y cneifo. On ni'n edrych mlân ato fe.

Och chi? Odd y gwaith ddim yn ych poeni chi?

O nag odd, odd e ddim yn poeni o gwbwl. Nag odd. On ni'n hapus yndo fe.

Bydden nw yn glanhau'r tŷ yn arbennig cyn yr adeg hyn nawr?

O bydden! O, sgwrio! Wel, wel! A'r nosweth, nos Sul cyn cneifo on ni ddim yn mynd i'r gwely. On ni'n... y... yn... y... golchi'r llorie a neud y byrdde'n barod i'r bugeilied fyn' allan, chi 'bod. Neud te a cig a phethe felny iddyn nw. On nw'n byta fe biti dau o'r gloch y bore, cyn eusen nw allan.

Pan on nw'n myn' i gasglu'r defed?

Casglu'r defed, ie. le, ie. Nuson nw erioed gasglu'r defed ar nos Sul. Naddo.

Mynd ar ôl hanner nos?

Ar ôl hanner nos. Dou, dri ar gloch wedwch chi. Fel bydde'r wawr yn dechre torri pan fydden nw ar y top. Ie.

Wel nawr, ŷn ni'n son am y bwyd, faint o fara fyddech chi'n neud och chi'n gweud? Och chi'n dechre ar ddy' Llun...

Oen. Wel odd y ffwrn yn cymryd...ŵ... dorthe mowron, deg torth fawr, fel... on ni'n neud e mewn tyns mawron chi 'bod. Deg.

A deg bob dyrnod nawr?

le. Bob dwrnod. Neud 'run faint bob dwrnod.

Och chi'n crasu wedyn dy' Llun, dy'...

Dy' Mawrth, dy' Mercher, a bennu dydd Iau. Ie.

A pa fara och chi'n neud wedyn?

Dim on' bara gwyn. Ie, ie.

A beth am y gacen? Pryd och chi'n dychre neud honno?

On ni'n neud honno fel ar ddy' Mercher cyn y dy' Llun wsnoth cyn y cneifo.

Fel bod 'i'n cal cadw...

le, cadw a bod 'i'n... wedi seto. le.

Odd hon yn gacen arbennig.

O, oedd 'i'n gacen neis. Cacen îst.

Beth och chi'n rhoi yndi nawr 'te?

Wel, lard a fat... digon o fat cig moch amser 'ny. Cyrens, resins, siltanas, wie...

Odd 'na ryw bwyse... Och chi'n roi ryw... y... chi'm 'bod?

Nag odd. Plain fflŵr. Fflŵr plaen, ie.

Faint o bob peth och chi'n roi? Odd 'da chi ryw...?

On ni'n rhoid fel... wel, wedwch chi sawl pownd o fflŵr nawr? O, allwn i'm... alla i'm a gweud nawr. Ond on ni'n rhoid fel... 'con ni'n rhoid... ym... Odd 'i ryw bump cacen fawr, tynen fawr. 'Co ni'n rhoi hwech tyne... ym... o, 'roswch chi gal gwel'. Wel meddyliwch chi bo' rhoi hwech pownd o fflŵr. On ni'n rhoi ryw bedwar i bump o... cyrens, a rhyw bedwar i pump o shwgwr. Rhyn y cyrens a'r syltanas a phethe. Ond... O! Odd 'i'n fwy na 'ynny wi'n shŵr 'efyd.

A faint o wie wedyn?

O! Wel, on ni'm yn edrych! Odd rhoi padelled fawr o rini wedyn. Oen.

Dwsin i jyst ddwsin a 'anner. Oen.

Och chi'n neud y cyfan yr un pryd wedyn?

O oen! Y cwbwl 'run pryd. Oen. Ond y job odd 'i ar y gacen, pido rhoid y ffwrn ry boeth. Odd tipyn mwy o waith wrth y gacen na wrth y bara.

Caernarfon

Enghraifft o dafodiaith drefol arbennig yw hon. Daeth yn gyfarwydd i'r gweddill o'r wlad drwy gyfrwng adroddiadau'r Co Bach.

Transcript

Oddan ni'n cal hop - hop, ia. Downsho, ia, yn Feed my lambs yn Ganarfon. Ag odd hogia Bangor yn dod i lawr ar nos Ferchar ag oddan ni'n cal fight dod cyn bus deg. Ar y Maes, 'elly ia, cyn i nw fynd adra. Ond… ym… oedd 'i'n mynd o ddrwg i waeth i ddeud y gwir, 'cos odd petha… oedd plismyn a bob peth, ia, ar nos Sadwrn yn gwatshad hogia Bangor yn mynd yn ôl 'lly am bo' hogia dre yn dyrnu nw felly.

Beth odd y Feed my lambs 'ma?

O Feed my lambs, wel…ym…church hall 'elly ia 'te. Ym... Ia, fel church hall odd 'i drost y ffor' i Ysgol Rad 'elly, ym…'te. A wedyn oddan ni yn cal hop yna ia, fel disgo ia. Disgo 'di o 'wan, ia. 'Te. Ag oddan ni'n mynd i fanno … ym… bob nos Ferchar os dwi'n cofio'n iawn. A nos Sadwn. I ddownsho, 'elly ia.

Pwy mor bell odd pobol yn dod i...

Oddan nw'm yn dod yn bell ichi, 'cos oddan nw... odd gynnon nw ofn dŵad i Gynarfon i ddeud y gwir. 'Mond hogia Fangor odd yn dŵad 'lly 'cos odd 'na lot o fights a peth felly.

Beth, ôs 'na enw drwg...?

Nag oes, nag oes! Pobol odd yn pigo anan ni 'elly ia. Wedyn odd raid i ni gwffio 'nôl 'te. O' lot o bobol o wlad yn dod i lawr ar nos Sadwn 'elly ia. Ag ... ym... wel wth gwrs, hogia Gynarfon yn mynd ar ôl gennod wlad, oddan, felly ia. Ag ym... a nhwtha ar ôl hogia Gynarfon am bo' ni'n well na hogia ... hogia wlad i ddeud y ... O ! Well i fi bidio deud peth... ffashwn bethau!

Dod yn ôl i Feed my lambs 'wan, pan 'ddan ni'n mynd i ddownsho i Feed my lambs. Ddoth ym... Richie Prichard Brothers felly ia. Prichard Brothers firm removals yn Gynarfon mawr i lawr yn Porth yr Aur, Ganarfon. Y ... a Richie yn dod — ddoth o yna i Feed my lambs i holi os o' 'na rŵun isho mynd i actio yn ffilm Inn of the Sixth Happiness felly ia. Ag, wel, odd 'i... o' 'na ddim ysgol. Adag holidays yr 'a ' odd hyn, ia. Ag... ym... oddan ni'n gorfod cyfarfod dwrnod wedyn, ym, chwech o' gloch yn bora, ar y Maes yn Ganarfon. I neidio i tu 'nôl i lorri Richie. Ag odd o'n mynd â ni i fyny i Beddgelart i actio yn y ffilm Inn of the Sixth Happiness ia. Ag ...ym... oddan ni'n câl two guineas a day. O' 'ny'n lot o bres adag hynny 'elly ia. Tua nineteen fifty seven os dwi'n cofio'n iawn ia. Ag oddan ni'n cal 'u bwyd 'efyd ia. A wedyn be' 'ddan ni'n neud, oen ni'n gorod gwisgo fyny fel Chinese felly ia, a rhedag efo gwn ar draws ochor y mynydd 'ma. Ag oddan nw'n ffilmio ni 'lly ia. Ag ym... oddan ni gyd yno. Pawb. 'Ogia Sgubor Goch i gyd a hogia mynd i Y .. YMCA yn Ganarfon 'elly ia.

Yr unig gyfla gesh i odd hwnna ia, ond mi ddaru nw films erill yn dre fel... ym... The Vikings. A dwi'm cofio hwnnw, on i 'chydig bach yn fengach adag hynny, ag ... ym... o' 'na lot o hogia Ganarfon ag un yn arbennig... Wil Napoleon 'te. Oedd o yn y ffilm yma 'te, fel Viking. Ag oddan nw allan yn y Menai Straits 'elly ia, a 'ddan nw 'di neud cwch Jôs Peilot i fyny fel llong Vikings ia. Ag ... ym... o' Wil 'di bod yn gwithio am ryw wythnos yn neud y ffilm The Vikings 'ma, ag odd o'n seinio dôl wsnos wedyn. Ag... ym... o' raid nw ofyn,

- Wel, 'dach chi 'di bod yn gwithio, Wil?

- Do, me' fo.

- Be' 'dach chi 'di bod yn neud?

- Actio yn ffilm The Vikings ia. Wel dwi isho newid papur dôl i ddeud film star 'wan.

Llansawel

'General Southern Welsh' oedd ymateb un person pan glywodd y darn hwn am y tro cyntaf! Mae'n siŵr y tynnem sawl nyth cacwn am ein pennau pe cytunem â dyfarniad o'r fath ond gellir cydymdeimlo â byrdwn y gosodiad: pan gofiwn am nodweddion hynod Penfro i'r gorllewin a Morgannwg i'r dwyrain y mae'r dafodiaith hon yn swnio'n fwy 'niwtral'.

Transcript

Wel, weda i wthoch chi, och chi yn lladd y gwair i ddechre. Os gallech chi, a bod 'i'n sych, lladd e yn y bore. A fuodd yn nhad, odd 'dag e ddim — ddim lladdwr gwair a ceffyl yn dinnu e, a'dd e'n iwsho pladur i ladd y gwair 'ma. A bydde fe'n dechre yn y bore bach, lle bod yr haul yn dod a bydde fe'n lladd 'i 'unan wrth 'ny. Ond odd e'n gweud buodd e bwti neud gormod ryw ddyrnod, chimod. Goffo' fe orwedd lawr, yndife. Odd e... odd e wedi lladd gormod heb cal dim byd i ifed, a neud e yn y bore bach lle bod... fydde'n myn' 'nôl i odro, yndife, chimod. A wedyn ar ôl lladd y gwair 'na, och chi'n wasgaru e wedyn, a picwarch och chi'n galw 'i...

Bydde fe'n lladd ystod o hyd chi'n gwel'. Bydde ddim o'r gwair gyda'i gilydd a... ma ystod o hyd, a fydde raid cymysgu hwnna lan wedyn i'r haul cal gafel 'no fe, fel ma bôn y gwair yn cal 'i godi lan lle bydde fe... lipa, chwel', yndife. Reit, welar ôl bydde hwnnw wedi dod yn sych, byddech chi'n crynhoi e yn ystodion mowr wedyn, fel y ceffyl a'r cart yn dod wedyn, ne gambo, i godi fe fanna a myn' ag e i'r tŷ gwair... A felny wi'n cofio dou falle, dwy bicwarch yn codi gyda'i gilydd, a'r un odd ar... odd... druan â hwnnw, odd 'dag e waith i ddodi'r gwair yn fflat fel bod e'n dala i bido cwmpo, chwel yndife. A odd e'n waith caled... A bydde ryw... ffarm nesa atoch chi'n lladd nawr... A wedyn os bydde rywun yn gweud 'Alli di ddod fory?' 'Galla, galla. Ddŵa i a gewch chi ddod 'nôl aton ni drennydd. Fyddwn ni'n lladd drennydd.' 'Na le on ni'n myn' yn hwys mawr ffor' 'ny wedyn. Chimod, helpu'i gilydd...

[Peswch] On i'n cal ym mhen-blwydd yn... y ddouddegfed o Orffennaf a'n i'n meddwl 'na neis, bydd y gwair wedi dychre erbyn 'ny a fyddwn ni'n fishi, a... A os gelen ni gâl rw de mâs ar y câ 'da Mam wedyn. Bydde 'i'n do' mâs a pasged fowr a... A wedyn... odd bara menyn a'r jam a'r gagen a'r darten a'r llestri'n cal 'u dodi ar y llawr ar y... llien bord mowr wedyn. A 'na le on ni, ar y pelinie rown' felny wedyn. A odd stên fowr o de wedyn. A'r llâth a pethe. A bydde Nhad yn gweud 'Cofia bod ti'n dod a stên nawr, a bara cyrch a dŵr i ifed.' Pan 'dden nw a syched anyn nw yn gwitho wth y gwair, bydde hwn yn bôn y... bôn y clawdd. A bydde cwpan ne rwbeth ar 'i bwys e. On nw'n myn' i gal.., a cyrch, fel blawd cyrch yn y gwilod, a dŵr. A shiglo hwnnw nawr, odd hwnna nawr yn torri syched, chwel. O, odd e'n well.., odd ambell un yn cymysgu... ym... cwrw gwaith catre chimod. A'r stori on i'n gliwed am ym mrawd nawr, y trydydd, John odd 'i enw e. On nw'n colli John o hyd ychwel. On nw ffilu diall lle odd e, chwei. 'Le ma'r crwt 'na nawr 'te wedi mynd?' Odd John wedi hifed 'sbod e'n feddw yn cornel fan 'ny. Odd e 'di bo'n hifed yn y tshwc o 'yd o 'yd a Mam yn gwed 'Wel, wyt ti ddim... Os dim byd yn y shwc 'ma!' O! Odd e ddim yn gwbod, wir! A byti saith, wyth ôd, chwel. Wedi bod manny, a on nw'n gweud y stori 'ny bod e'n itha gwir, chwel, bode 'di ifed gormod, chwel. A cwrw gwaith catre odd e, chi'n gweld.

Ynys Môn

Y mae'r nodweddion a gysylltir yn reddfol â iaith y Gogledd yn amlwg yn y darn hwn gan Mrs Edith May Hughes.

Transcript

Y ...Ol rwan 'te, at amsar te, mi fydda 'na sosbennad o stwns rwdan, ne stwns carainsh, ne stwns rhacs, fydda'r hen bobl yn galw nw. A beth odd y stwns racs 'ma on' stwns cabatshan,'lwch. Ia. A wedyn, byddan nw 'di berwi'r gabatshan a wedyn fyddan nw'm yn rhoid y dail mawr sy ar tu allan, 'mond y rhei mwya' tendar,'te. Wedyn mi fydda rhini wedi cal 'u mhalu, ag wedi berwi. Wedyn, y, fydda'r tatws 'di cal 'u roid efo nw wedyn, rhini 'di cal 'u stwnsho, 'te. Wel, wddoch chi be? Mi odd o'n dda! Mi fysach chi'n deud bod 'na damad o gabatshan wedi mynd efo bob tatan. Odd o yn neis.

Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan,'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, – a board 'te – wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi ny mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badell o refi da wedi neud — efo'r nionod 'ma i gyd, te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn od o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos, ylwch. Ag amsar swpar, 'te, chips Nan Ŵan fydda hi. Fydda reid deud y gwir wedyn 'te, powlan, ag am y shop chips Nan Ŵan.

O, odd Nan Ŵan yn gwerth... Tydwi'm yn cofio neb yn gwneud chips ond Nan Ŵan. Y hi odd y ...yr original, chadal nhwtha 'te. Ag yn un dda. Ag yn un wŷllt! Ol, am ... am chips bendigedig odd gin Nan Ŵan! A pys – pys wedi'u mhwydo, a rhini ...tân bach odanyn nw, wn i'm sut odd 'i'n medru gneud y ffashwn bentwr ag odd 'i, wir...

A ...fydda rei yn lecio bara llaeth. Ond mi gymwn i dipyn o fara llaeth os gawn i shwgwr yno fo, ne fyddwn i 'mo'i lecio fo. A digon o hwnnw, 'te. A mi dduda i wtha chi beth arall... yn yr ha' pen 'ddan ni wedi bod yn chwara ag yn chwys, fydda Mam bob amsar... digon o laeth. Pot pridd ylwch. A'r llaeth yn ffresh o'r ffarm, 'te. Lle bydda Nain yn cael y menyn, 'lwch. A ma 'na'i isho sôn am fenyn arall wthach chi hefyd, oddan ni'n gâl o'r ffermydd. Menyn pot. Ond efo'r llaeth rwan 'te. Mi fydda fy mam bob amsar pen 'ddan ni bod yn chwys yn y ...chwara 'te, yn galw anan ni i'r tŷ, a fyddan ni'n câl diod o laeth. Jwg fawr ar ganol y bwrdd. Jwg enaml, 'te. A wedyn fydda 'na jwg arall yn llawn... o'r llefrith 'ddan ni... 'llaeth' 'dach chi'n ddeud am hwnnw 'fyd 'te? Ond 'llefrith' 'ddan ni. A fydda 'na... y...powlan i bob un onan ni, llaeth wedi roi yno fo a wedyn rwbath yn debig o'r llefrith 'ma. Achos fydda'r hen bobol yn deud, os yfach chi y llefrith 'i hun, ag wedi chwysu a rhedag, y bydda fo'n corddi, ag wedyn y bydda fo'n berig, efo'r stumog, 'te.

Carno

Tafodiaith arbennig o ddiddorol yw hon, gan ei bod yn ardal trawsnewid nifer fawr o nodweddion gogleddol a deheuol. At hynny, y mae ynddi nodweddion sydd yn hynodi'r Canolbarth yn unig.

Transcript

Odd Nhæd yn credu'n gry' iawn mewn crinjar. Odd 'i dæd ynte'n credu'n gry' yn crinja[r]. Crinjar yn byw yn Llangurig, dau onyn nw. Jæms Tŷ Morris, odd hwnnw'n go' lawr yn Gwmbela[n], a'r hen Ifan Griffis i fyny yn Pant y Benni. Odd Ifan Griffis a Nhæd yn ffrindie alswn i feddwl. Ag mi... dwi'n cofio fo'n deud odd y ceffyle yn trigo yn Creigfryn, pedwar o geffyle wedi trigo yn Creigfryn, rip rap ar ôl ei gilydd. A... John Tomos Creigfryn yn gyrru, gynno fo(?) ddau gymydog yr un un enw, un yn Creigfryn,llâll yn Bron 'Au[l]. John Tomos Creigfryn yn gyrru Nhæd, John Tomos Bron 'Aul, at y crinjar yma i Langurig. Ag yn ciæl rhyw, fel rhyw weddi Lladin a rhoi hi mewn potel a rhoi honno yn 'i lofft o, uwchben y lle odd o'n gysgu, a drigodd 'na'r un, 'r un ceffyl wedyn.

A glŵes e'n deud stori arall, dew, mae'n anodd 'i choelio 'i, on' ma 'i, 'dwi 'im credu dde tŷ a fa gielwydd, achos odd e wedi deud hon wtha' i lawar gwaith. Oedd 'i fem wen o yn ferch Plæs Pennant Llanbryn-mair. Ag oedd Plæs Pennant, fyny yn Cwm Pennant, ar hanner ffor' o dreflan Llanbryn-mair i Staylittle. Ag oedd 'na rhyw un yn byw mewn rhyw ben tŷ yn uwch fyny o'r enw Dot, Dot y Ceulan. A mi ddoth Dot y Ceula[nj lawr i ofyn i rieni 'i fem wen o, eise 'i lawr i station Llanbryn-mair i moyn glo.

— Duw, duw, dwi rhy fisi, medde fo, dwi yn y gwair, dwi ry fisi. Ffindia rywun arall i fynd. Ag mi... Reit, mewn ryw dair wythnos o 'na gaseg læs wedi trigo yn ganol y ciæu. A mi æth yr hen, yr hen foi, yr hen ŵr, Plæs Pennant (glŵes i Nhæd 'n adrodd hon lawar gwaith) i Llangurig at y crinjar. A medde'r cr... ddudodd y crinjar, æth e fiwn i tŷ a rhyw lyfre mawr a troi drosodd o pæij i pæij ag mi, mi... gofnodd o fel 'na.

— Duw, fyswn i'n licio, crinjar, fyswn i'n licio, Mr Griffis (Ifan Griffis o' enw Pant y Benni), fyswn licio, Mr Griffis, tasach chi'n gallu deu' 'tha i pwy sy wedi, wedi fy witsho i.

— O, alla i ddeud 'ynny wthoch chi. Ewch adre a tynnwch calon y gaseg 'ma allan a rhowch hi ar blât mawr o flaen tæn. Reit o flæin tæn. A fel fydd y galon 'ma'n cnesu yn gwres yr tæn, mi fydd y perch... yr un sy wedi neud, wedi'ch witsho chi'n dŵad yn nes at y tŷ, yn nes at y tŷ o 'yd.

Ag os dach chi'n gwbod am Plæs Pennan, ma y tŷ ar draws ffor' a wedyn mei llidiart, tŷ ar draws top y ffalt, ag yn gwaelod y ffalt mei llidiart myn' allan i ffor'. A edrych allan drwy'r ffenest, diawl yn union dyma'r Dot 'ma o Ceulan lawr yn pasho llidiart. Pasho 'i wedyn, pasho 'i wedyn, a fel odd y galon yn cnesu. Ag dyma, o'r diwedd dyma 'i'n mentro drwy llidiat a hanner fyny'r ffalt. A medde yr hen ddyn,

— Duw, duw, ma fo felna, tynna'r galon nôl, dwi 'im ishe gweld y cythral tu fiwn i'r drws tŷ 'ma.

Pen-caer, Sir Benfro

At ei gilydd, geirfa nodweddiadol ddeheuol a gawn yn y darn hwn, e.e. bant, bord, lan, a mâs. Mwy lleol yw caran 'cariad', lŵeth 'eilwaith' a teie mâs 'adeiladau'r fferm'. O ran acen, mae yn y dafodiaith nifer o nodweddion unigryw a gysylltir â'r hen Sir Benfro.

Transcript

Wel, chimod oen ni'n lladd i mochyn 'eddi nowr. We'r badell bres 'da ni pyrny a'r tan... cwêd, 'te. Wel wedyn fory we' dyn, we'r bwtshwr in dwâd i dorri'r mochyn finy. Och chi'n gal e'n bishys wedyn, hams a'r palfeshi a'r ochre. A wedyn we' bar mowr o halen 'da ni a och chi'n 'ffod neud yr halen in fân wedyn a we'r... och chi'n roi'r mochyn, ir ham ar ford, gwedwch. Wel och chi'n roi'r saltpetre arno ginta, a tamed o shwgwr brown amell un, a chi'n rwbio fe miwn manna 'sbod e eitha glyb. Wedyn och chi'n rwbio fe â halen wedyn, a wedyn och chi'n troi fe wedyn a roi tam bach o salypetre rownd i'r esgyrn a halen ar hwnnw. Wel wedyn och chi'n drichid arno fory lŵeth a'i au 'alltu fe, a wedd e myn' mlân am dair wthnos fel 'na.

Ble och chi'n gadel nw amser och chi'n neud hyn, 'te?

In twbeie moron.

O beth? O bren?

Ie, pren. A wedyn och chi'n... odd e'n cal 'i godi wedyn. Och chi'n golchi'r halen bant a och chi'n 'ongian e lan. Shimle fowr we' 'da ni, chwel. Chi 'di clŵed sôn am shimle fowr? /Ydw, ydw./ Wel och chi'n hongian nw lan manna wedyn, i nw gal sychu.

Ie. Am faint on nw'n aros?

O, wedd e'n cwmeryd sbel i sychu, chwmod, yntê fe sbwyle, 'chod, rownd i'r asgwrn.

Shwt och chi'n paratoi i ladd y mochyn? Odd...?

Bwtshwr in dwâd.

Ie.

A we'r... we'r dŵr 'da ni'n berwi erbyn dese fe. A wedyn wên nw'n dala'r mochyn, a we'r bwtshwr yn 'i waedu fe, a chwedyn ôn nw'n cario'r dŵr berw 'ma mâs a clau'r mochyn... Wedyn on nw'n hongian e lan wedyn, hongian i mochyn lan.

Ie. Ar beth?

Wel, we' fel haearn 'da nw, chimod, i ddala fe.

Ie.

A wedyn on nw'n roi fe lan wrth ryw bîm in un o'r teie mâs. Wel wedyn 'rail dwyrnod we'r dyn in dwâd i dorri e Imny fel don i'n gweu' 'thdoch chi.

Och chi'n neud rhwbeth â'r pen a'r perfedd?

O, oen. Wel, oen. Buon ni'n golchi'r perfe' 'efyd, ond anan ni'n neud lot a 'wnnw in yng amser i. Naddo. Wel, 'nan ni'n lico fe, chwaith.

Och chi'n neud brawn ne rwbeth â'r pen?

O, oen, yn gweitho'r pen a pethe, gweitho brawn, basneidi o'no. We' hwnnw'n lovely.

Beth och chi'n roi yn y brawn gyda'r...?

Wel, i pen a'r tafod a... we' rhei'n roi'r cluste, on' enan ni'n roi'r cluste. Enan ni am reina. A chwedyn we', chimbod, we'r esgym 'da chi wedyn, och chi'n bwrw rina miwn a'i berwi nw 'sbod y cifan in ifflon. Wel, wedyn wêch chi'n... in tshopo fe lan wedyn a roi'r... wedd e'n seto in i jeli 'ma wedyn.... A wedyn gwedwch, we' amell un in shario. We'r llefydd bach, fel, gwedwch... dim ond tŷ ni nawr. Wel we' Mam, 'rengaran, we' mochyn bach 'da ni 'efyd. Anan ni ry dlawd i gâl mochyn. Wedd 'i'n magu mochyn bach 'i 'unan. /Ie./ Wel wedyn wedd hi'n roi tamed i... i ryw gwmwdog wedyn, fel pam bisen nwy'n lladd mochyn oen ni'n gâl e nôl.

'Na fe. Pa bart o'r mochyn bysech chi'n roi felna?

Iddyn nwy? /Ie./ O, tamed bach o'r stêc a falle cese 'i asgwrn cewn, a'r asenne, chimod, i ribs. O, on nw'n shario nw mâs in neis wedyn, ychwel. Wath on nw'n shŵ'r cal e nôl, ychwel.

Glynogwr

Enghraifft arall o'r Wenhwyseg, iaith Dwyrain Morgannwg yw tafodiaith Mrs Williams: mae'r æ fain ganddi, mae'n caledu cytseiniaid, ac mae'n swnio'r a yn sillaf olaf ddiacen geiriau.

Transcript

Ond y... down i ddim gallu nuthur menyn, odd yn nilo i ry dwym. Man nw nawr. Wi'n goffod, dwi'n ffaelu'n glir a myn' mlæn â'r y... /gweu/ gwau achos man nilo i mor dwym. Ond own i'n lîco nuthur ciaws yn 'y ngalon. O...

Wel nawrte, ffor' och chi'n neud caws, gwedwch wrtho i nawrte.

Godro'r dæ yn gynta a allws y... mynd â'r llæth i miwn i'r y... fel cecin fawr odd 'no. A gwoshban faw[r]... o, 'na beth oen ni'n 'i gialw 'i — woshban fawr o zinc 'no.

/Ie./ Allws llæth i miwn 'no, a wetiny doti cwrd... cwrdab yndo fa. A wetiny oen ni'n giwro fo.

Ffor' och chi'n giwro fe?

Llian. Llian drosto fo. A dwy ffon. Næ, odd rwpath wedi neud gintyn nw at y pwrpos, dros y woshban a doti llian drosto. Wetiny aros. Wi ddim cofio am bw faint nor. Duws, duws, ma blynydda 'ddar 'ny. Ag, wetiny oen ni'n 'i... odd peth gintyn nw at 'i gymysgu fo. Wetiny oen ni'n... atal a sefyll.

Beth, beth odd y peth 'ma at i gymysgu fe?

Wel, fel mæth o lwy fawr bren. Rownd. A wetiny oen ni'n dyfiddo'r... Wi'n cofio'n Granny yn ishta lor acha ciatar a doti... ag odd hi'n gallu dyfiddo. Odd 'i'n lico nuthur 'ny. Allws y maidd i woshban arall.

Ffor' odd 'i'n gneud 'ny 'te? Odd 'na dwli yn y badell 'ma?

Nægodd. Gwnnu fa o... y... Beth odd ginti nor? Sgiæl wi'n cretu odd 'i'n 'i gialw 'i. Ma gin i ryw gof. Odych chi w' clŵad y gair 'na?

'Der â'r sgiæl 'na i fi,' wetsa 'i. Ag y...

Dyfiddo'r... y...

Y... y ciaws. Wetiny atal a sefyll, y... Cwnnu'r woshban lan dipyn bach, a [do]ti a yn rochor lle bo'r y... y sudd yn dod mæs ry rwydd. On nw'n barticular iawn. O, odd shŵr bo' ciaws gora'n y byd 'no.

Odd raid bod y sudd yno, odd e?

Wel, chi'n gwpod, pido wasgu fa ry gynnar. Pido roi...

Odd 'ny'n bwysig?

Odd. O, odd.

Os gwasgech chi fe'n ry ginnar beth odd yn...

Wel odd y dioni'n dod mæs og e. Ormodd og e. O, oen nw'n barticular iawn. Dyr, diar, diar!

Wel nawr, bob pryd och chi'n neud y caws 'te wedyn?

O, ar ôl iddo fa... 'swch nawr... sefyll am getyn, odd isha wetiny 'i frwo fa i'r cowstall. Chi'n gwel'. Wi'm c[r]etu bo' cowstall iddi giæl nor! [Chwerthin.] Fe fu un gin i, a fu... gorffod i fi frwo fa lan. Odd y clawr a chwbwl yn llawn o... chi'n gwpod, wedi darfod, wedi myn'. Ag.. .y... llian gwyn nor ar y cowstall, a wetiny brwo'r ciaws miwn iddo. A [do]ti halan fel oeddach chi'n 'i... moyn. Llanw'r cawstall. A giatal 'wnnw sefyll wetiny am... am noswith wi'n cretu. Odd ddim ryw... o... deg... deg o warthag odd 'no wi'n cretu. Ddim lle mawr chi'n gwel'. Nægodd. Ond odd a'n le cyffwrdus iawn. Dim un fuss. Dim drifo dim 'no. Nægodd. /'Na fe./ Cyffwrdus iawn.

Wel nawr, bob pryd och chi'n neud caws? Bob nos, ne pob bore, ne pryd? Ne bob douddydd?

0... bob bora. /Bob bora./ Ia, llæth y nos a'r llæth y bora gyda'i gilydd.

Wel odd raid 'chi dwymo llâth y nos wedyn, odd e?

Odd, odd. Witha. Witha fysin ni'n nuthur 'ny a witha ciaws llefrith oen ni'n 'i alw fa.

Wel nawrte, beth yw caws llefrith?

Wel, all fresh milk, chi'n gwpod.

Llangynwyd

Er bod rhai miloedd o Gymry Cymraeg yn byw yn y De-ddwyrain heddiw, prin iawn yw'r sawl a glywodd y dafodiaith wreiddiol; prinnach fyth yw'r rhai sydd yn ei siarad. Mae iaith Richard Griffith Thomas yn amlygu nodweddion mwyaf trawiadol y Wenhwyseg:

Transcript

Odd yr 'en ffwrn crasu bara yn y wal yn y manna. Ma 'i... Ma 'i 'na 'eddi, dim on' bo'r y... brics a'r... y græ ts newydd 'ma wedi gaead a miwn. Wi'n cofio bod jyst y miwn yn y ffw... yr 'en ffwrn! Odw, achos wi'n cofio odd yr arch wedi... yn tu fiwn w' dychra cwmpo. A beth fynnws Næ d odd mynnyd sæ r y Llan. Odd y sæ r, odd a'n neud y... gwaith sæ r a gwaith meiswn. On' beth nath e odd nid acor, gwitho odd' 'ma, on' acor twll o'r glowty 'rochor yco miwn i'r ffwrn. A llanw'r ffwrn o liti a doti'r brics yn ôl yn y top mwn morta' sment. A gatal nw sefyll wthnos. A wetyn, Næ d a jobyn wetyn, tynnu'r Iliti mæ s, a ma'r 'en ffwrn yn sefyll byth ag wn i. Er nag os dim crasu bara w' bod yndi es pynthag, pynthag, ddeunaw mlynadd.

O, fi welas yn rai ffermydd abothu 'ma... y... on nw'n cæ l tripat. Wel, pishyn... barra harn odd a, ag odd dou o nw, dou yn dod mæ s 'ma, yn 'itsho'n y bar top man 'yn, ag odd y rest myn' t'ag yn ôI, drws y tæ n. Ag oech chi'n gallu doti citl ne grochon ar ben y tæ n ar... i sefyll arno fa. Odd 'wnnw'n rwpath odd wedi dod o'r 'en amsar pan odd y tshaen. /Ife?/ Dim on' shwrna 'riôd gwelas i'r tshaen, y tshaen a'r bechyn. Yn...mwn tŷ fferm yn y Bitws. Ond y tro dwedda own i 'no, pan odd y ffermwr sy 'no 'eddi'n myn' 'no, odd a'n altro'r cyfan. Odd a'n caead yr 'en bart 'ny fynydd, ag yn neud gecin newydd i'r modern fashion.

A 'na odd pwrpas arall i'r tripat wetyn odd i ddoti'r mæ n 'arn i grasu y... ffroes a pics crynon arno fa. Welsh cakes ys gwetson nw 'eddi. /Ie, ie, ie./ Wi'n... oen nw'n gwe' 'thdo i, odd Næ d a Mam yn gwed bo' nw'n colIo iwso mæ n carrag. Oen, oen. Mæ n carrag. On' 'na beth odd gen Mam yma, a'r un peth odd gen Mam-gu yn Llest Wen, mæ n 'arn odd genti.

On' odd ych tad yn cofio un... un carreg?

Odd, odd.

Yma?

Un carrag, odd.

Pwy garreg byse honno?

Wel, os gen i'm cof... welas i mo 'i, on' i glŵas a'n gwed am... bod, bod y mæ n carrag wedi bod yn cæ l iwso. Achos ishtag odd ar yr 'en ffwrn bara yn y manna, plæ t carrag odd i 'onno. Wel, y... gwelas i mog e, on' wi'n cofio Næ d yn mynnyd plæ t 'arn. A wi'n gofio fa achos bod a'n... yn ddueddol o gwmpo, myn' ag e a cæ l y gof i [ddo] ti dolan iddo fa, a shelff ar 'i waelod a. 'Sa'n cwnnu lan, a [do] ti fa'n erbyn y ff... gwddwg ffwrn, odd a'n sefyll 'i 'unan wetyn.

Llansannan

Fel y ddau gyntaf, iaith ogleddol sydd gan Sam Davies hefyd, a'r u yn amlwg yn ei lafar. Ond yn wahanol i'r ddau o Wynedd, o ardal 'swnio'r e' y daw Mr Davies: sylwer ar enwe 'enwau', echel 'echel', a bydde 'byddai'.

Transcript

Ew! Dwy 'di bod yn cysidro hefo... euddwn i'n cysidro hyd 'nod yn 'ngwely neithiwr am enwe sydd ar betha ar drol. A dwy 'di methu'n glir â cofio un enw, a fedra' im cofio chwaith. Gymaint o wahanol enwe sy ar ddefnyddie mewn trol geffyl 'ndê.

Dach chi'n cofio rhei onyn nw?

Ydw... Wel cymwch chi'r olwyn i gochwyn, yndê. /Ia, ia./ Y cylch, y camogie /ia/, y both /ia/, yr edin /ia/, a'r bocs echel /A!/ i gymyd o'r ddwy olwyn, o olwyn i olwyn /ia, ia/. Wel ma 'ne... yn y... yn y drol wedyn, ma 'ne fel 'den ni'n deud... y crab ar ben blaen, ar drows pen blaen y drol.

Fydda... fydda'r ciartar yn amal iawn adeg 'onno, dudwch bod o'n mynd i rwle, 'uda' i bod o'n mynd i'r felin efo'r gaseg a'r drol. Wel y rên, ag ista ar y crab yndê. A'i ddwy droed fel hyn ar y shafft yndê. Crab byddan nw'n galw hwnnw. /0 ia ia, ia./ Wel y frân, i godi'r drol i fyny pen fydde'n cario tail. Fydde 'ne rw bishyn bach o huarn fel 'yn a tylle yno fo felne, a wedyn gaech chi godi y pin fel byddech chi'r tail yn mynd yn... i godi hwnne 'ndê. Y din bren, fel bydden n'n deud, o' reid tynnu honno yn gynta, yndodd i, ar draws tu 'nôl.

Ar draws tu 'nôl?

Tu 'nôl. O, ie./ O dan y shafftie o boptu o' 'ne ddau... wel, dau ychdwr yma fel 'yn, debig iawn i ddau goes brws. Dau dwm fydden ni'n alw o. Twm. O dan y shafftie. /Ie. / A wedyn, os byddech chi... dduda' i bo' chi'n... yn dadfachu ar ganol dydd efo llwyth o wair, fyddech chi'n dadfachu'r ceffyl, a gadal y drol ar y ddau dwm 'ma, a wedyn fydde honno'n cadw'r drol yn 'run ychdwr ag oedd 'i wth y ceffyl yndê. A wedyn o' 'ne rwbeth i roi ar y drol i gario cnwd — hofygafana eudden ni'n galw 'i.

Pethe i estyn y...?

le. Dene fo.

O! 'Na beth och chi'n galw nw, ie?

Dene be' chi'n galw hwnnw. A 'ma 'ne wedyn ar hyd top yr ochor y drol, ar rw shâp, fel rw dop llong, ond fedra' i... Doedd o ddim ond 'w bishyn o bren, dudwch bod i'n deud rw ddwy fodfedd a hanner. A fedra' i yn 'y myw einios â cofio be' 'di enw o. A dwy fod yn gwbod yn iawn be' 'di enw o, 'de... Oedd o ar hyd top yr ochor i gryfhau a 'dyn y pinne sgriws 'ma'n mynd wedyn i'r ochre'r drol yndê. Ond am 'u cofio'u henwe nw! A dwy'n gwbod yn iawn bod 'ne enwe arnyn nw 'ndê.

... Gêr y ceffyl wedyn, 'de. /Ie./ Bobol bach! 'Ne chi'm byd 'blaw y siwt odd gen y ceffyl isho'i roi wth y drol. Fydden ni'n 'i alw o y strodur.

Ar 'i gefn o, ie?

le. A wedyn, o' 'ne y din dres eudden ni'n galw 'i. Tshaen — pad yn mynd rownd y ceffyl, a dwy tshaen yn dod i'r shafftie. O' 'ne ddwy arall mynd o'r mwnci i'r drol. Fel bydden ni yn deud, pytie tsheini fydden ni'ngalw rhini adeg 'no. /O ie./ O' 'ne beliband. /O shafft i shafft, ia?/ Ia, o dan dor y ceffyl. /A ie. le, ie./ Ym... y ffrwyn. Yr enwe odd ar y ffrwyn. Yr awen... A 'dyn y bit, trw geg y ceffyl...

O'n ofynnol i geffyl gwaith wastad teg, dene fo... am geffyl shoe dene fo, dôs ne'm byd, ond o' reid i geffyl llwyth gâl... y... y... clustie fel hyn i'w ffrwyn wastad teg yndê. /O ie./ On' be 'i, basa ceffyl yn gweld 'i lwyth tu 'nôl ne gweld y gwaith 'sech chi'n neud, mi alle 'i chymid 'i'n syth. Fel odd o 'di cal 'i gau nad odd o'n gweld dim byd ond o'i flaen, 'de.

Fydde gêr troi yn beth gwahanol eto?

O' honno yn gêr gwahanol eto. Wel y prif beth am 'onno... dyne'r... y... eudden ni'n galw honno y cefndres.

A! Fel pad ar 'i...

Dyne fo. Dim ond pad drost y cefn, a bacha arni, a dwy tshaen o'r mwnci hyd i'r sgildreni bach, fel bydden ni'n deud. /Be' odden nw?/ Suldremi bach. Felne bydden ni... O' 'ne dair sgilbren i droi. Un sgilbren fawr, a'i chanol 'i'n bachu wrth yr ared, a... yn bob pen i'r silbren fawr o' 'ne ddau... fel hook fel 'dan ni'n deud. Wel bachu... y ddwy sgilbren bach yn rheini i bob ceffyl.

Llanymawdddwy

Naws ogleddol sydd i'r rhan fwyaf o'r geiriau a ddefnyddir yn y darn hwn, e.e. ers talwm, stalwyn a 'wan 'rwan'. Mae stingodd, ar y llaw arall, yn arwydd pendant mai o'r Canolbarth y daw Mrs Ann Jones.

Transcript

Fydde 'na ryw rafins ofnadwy 'ddeutu'r tŷ ar nosweth cyn priodas, yn' bydde, cogie o gwmpas yn trio gneud rywbeth i stopio'r wraig ifanc fynd ffwr' i'r briodas yn y bore yndê. Oedd, o, ma'n dal o hyd — o' 'na briodas 'rochor arall 'ma 'leni, fûm i yn y briodas yn y Fairbourne Hotel ond o' 'na rafins mawr 'na trw'r nos. On nw 'di gollwn y sgratsh defed lawr i'r ffor', a'r hen gogie'n cel sbort. On i'n clŵed nw wthi, dal ati. Ond bydde es talwm 'run peth, a rhoi rw...

Ie, cwinten, cadw cwinten. Dach chi'n gwbod be' 'di rhoi rw. ..O, fûm i'n dal cwinten. Blode, a 'di rhoi nw ar ryw gortyn fel 'na, a'dd un bob pen, a wedyn fydde'r briodas yn dŵad wedyn fydde'r plant, pw bynnag fydde efo'r, efo'r gwinten, fydden yn cel pres, fydde raid i'r gŵr ifanc fod genno fo bres yn 'i boced, ceinioge oedden nw'r amser 'ynny yndê, fwyaf ichi. Ond odd ceniog yn lot yr amser 'ny yndoedd 'i? Ag os gaech chi chwech, fel on i'n deu' 'thoch chi, och chi'n ciel lot, ond oeddech chi. Ond fydde cwinten bob amser amser priodas, yntê. O bydde. O fydde 'na ryw neud a saethu mawr amser priodas. Saethu ofnadwy yn bydde? O bydde, 'dde 'na saethu ofnadwy wddoch chi amser, nos... dwrnod y briodas, yntê. Amser y ferch yma'n priodi yn Llanymowddu, yn yr eglwys Llanymowddu, o' 'na saethu mawr wth giaet yr eglwys. Oedd, i fyny i'r gwynt, yndê, i'r awyr. O oedd.

Ag oen nw'n rhoi rhw, on nw yn rhoi rhyw fwgwd ar y ffor', llusgo coed ne rwbeth i stopio'r 'raig a'r gŵr ifanc fynd ffwr' 'te. 'Yna fel oedd yr amser 'ynny yntê, dach chi'n dyallt. 'Yna fo, mae o rwbath yn debyg o hyd yndydi'n dal ffor' yma hefyd, ryw hogie neud drwg, yntê a... /Ma'r gwinten wedi gorffen./ Ma'r gwinten wedi gorffen es talwm. Os neb yn dal cwinten 'ŵan, 'te. O, fydden yn cadw, yn dal cwinten, o' hynny ryw draddodiad, yntê.

Wel o' 'na lawer o helynt es talwm, hen bobol wedi meddwi yn y Red Lion, a phelly, ar amser y ffair, yntê. Ag oe' 'na ryw hen ddyn, ag oedd o'n dod â stalwyn i'r ffair i adfyteisho'r stalwyn, yntê. Ag o'r hen ddyn yn eger ofnadwy am gwrw. Ag oddo 'di bod yn y Red Lion, ag oedd o ar... ar gefn... yn arwen y ceff... y stalwyn oedd o, ag oe' 'na, oe' 'na stondin yn gwerthu tuns godro a potie llaeuth. A... odd o 'di meddwi cymad mi baciodd y stalwyn i ganol y llestri a'r tuns. Ag o'r hen ddynes yn gyddeiriog o'i cho'. (Dech chi'n gwbod be' 'di bod gyddeiriog o'ch co' — o'i go'?) A fynte'n chwerthin am 'i phen 'i. Dwy fel swn i'n 'i weld o heddiw. Yr hen foi 'ydi dal 'i'n ofnadwy yn y ffair, 'tê. O, o' 'na fobol, on nw'n dod yma, o dros y Bwlch o'r Bala ffor' 'na i'r ffair, ag o Lanerfyl ago bob man i'r ffair. On ma 'i 'di gorffen es talwm, wedi gorffen es ta... [Colsyn yn syrthio o'r tân.] Nae, peidiwch â poeni, pidiwch â poeni, ma'n olreit ngwaeshi. Bydden nw'n dod yma o bob man i'r ffiria. Agos doe' 'na'm llawer o'm byd arall ar fod, yn naeg oedd, ond — gwatsha fagio hwn [Mr Jones yn mynd i godi'r colsyn] — ond ffeirie, naeg oedd. 'Na fo. A ffair glangua wedyn, o' honno, o' honno'm gimin ffair cweit, nag oedd.

Ond oen nw m..., on nw'm mynd â gwartheg a pethe felly liawr i gwerthu lawr i'r Dinas, ond odden nw. Ond don nw'm yn gwerthu llawer o ddefed. Porthmyn odd yn dŵad o gwmpas i brynu defed, ydach chi'n dyallt, yndê, porthmyn, brynu defed. A wedyn fydden yn mynd â helfeydd o ddefed dros y Bwlch am Gorwen, Rhuthun, ffor' 'na. Milodd, milodd, ohonyn nw'n mynd — llond y ffor', yndê, yr amser 'ny, yntê. Dyna fo. Ond ddôth y sêls a wedyn 'na orffen am y... am y porthmyn yntê, yn prynu, ie.

A wedyn fydde 'na bobol yn cer... gennyn nw fobol, be' galwch chi bobol sydd yn gyrru'r... /Drofars./ ...drofars, yntê, mynd â'r defed, yntê. O bydde. Fûm i'n mynd efo nw lawer gwaith i'r ysgol, pan oedden ni'n mynd yn blant i'r ysgol, licio ce' mynd efo nw a chel ceniog am aros mewn tylle yn y stingodd — dwi 'di deu' 'thoch chi am y stingodd — am aros yn y tylle, dach chi'n gwbod. O, odden ni'n enjoio cel mynd efo nw. Ond ar ôl mynd i'r ysgol oedden ni'n cel gwers reit ddae gen yr hen schoolmaster, bo' ni'n hwyr dod i'r ysgol.

— Wel ble buoch chi?

— Wel fuon yn brysur iawn yn helpu'r drofars efo'r defed.

A 'na fo, mi dawelodd i lawr wedyn, yntê. Ond fydden nw'n mynd â milodd dros y Bwlch, yn' bydden nw.

Bryn-crug

Fel yn achos Llanymawddwy, gogleddol at ei gilydd yw'r eirfa yn y darn hwn. Ond ceir ambell air deheuol hefyd.

Transcript

A 'dyn mynd i'r ysgol i Abergynolwyn. Cerddad, wth gwrs, bob dydd, yndê. Cerddad yn bora, cychwyn tua wyth o'r gloch i fod yna erbyn naew.

Ag, oeddan ni'n myn' 'no ddae yn y gia, ond yn y gwanwyn o' 'na dipyn o stelcian o gwmpas, edrych am adar... am nythod adar bch, yndê, a bloda gwylltion ag ati. A 'dyn oddan ni'n myn' â'n bwyd efo ni a cael yn bechdan, a... a'n panad o de efo ryw hen wraig yn Abergynolwyn, Sara Huws oddan ni'n galw 'i. A wedyn cerddad adra amsar te, yndê.

geuthon ni dipyn o dywydd wth gwrs, yn y gaea, yr eira ag ati.

A cherddad trwy bob tywydd...

A cerddad trw bob tywydd. Amball i waith oddan ni'n cael reid, a ma' 'i'n beth rhyfadd, dan ni'n cofio bob reid oddan ni'n arfar gael amsar 'ynny. A gwaetha modd yn cofio rhai odd yn pasho ni hefyd! [Chwerthin.] Ond, odd y... rhai, o' 'na'm llawar o geir, wth gwrs, ond oedd, oedd rhai yn ffeirid iawn, yn codi ni. Ac ar bob dy' Merchar oe' 'na felun yn Bryn-crug, a 'dyn oedd hen ŵr y felun yn mynd â blawd i fyny i Abyrgynolwyn i'r... iddyn nw gal pobi 'ndê. A 'dyn oddan ni cal lifft i lawr wedyn ar y gert a'r ceffyl, yndê. /Go dda!/ Odd o'n amsar diddorol iawn...

Odd Mrs Davies yn dweud 'tha' i bod ych mam, ie, yn gneud ryw feddyginiaetha mawr.

O, yn nhaed... ym... ia, wel odd Mam yn neu... yn gneud y ffisig 'ma iddo fo, at y cryd melyn — dach chi 'di clŵad am y cryd melyn? Yellow jaundice, yndê, yn Sisnag. Ag ym... o, oedd, oedd, oeddan ni blant yn, hwyl fawr, bobol yn dod lawr ar y bus, yndê, ag oddan ni'n arfar gweiddi ar 'y nhaed a gorod dŵad o waith y ffarm, yndê, a 'patient chi 'di dŵad, Dad...!'

[Chwerthin.]

Ag y... a 'dyn odd o'n arfar mesur eda, mesur dafadd, wel fues i'n dal y dafadd lawer gwaith iddo fo, i... i edrych — oedd raid 'ddo fo gel gwybod faint odd oed y person a pa bryd y ganwyd o ag ati, yndê, pa flwyddyn. Ag wedyn odd o'n... yn gweithio rwbath, a ddaru fi 'rioed ofyn 'ddo fo sut oedd o yn gneud o. Oedd o'n arfar gweithio rwbath allan a cyfri, mesur yr eda 'ma, yndê. Ag 'ydyn oedd o'n rhoud yr eda, y 'dafadd, i'r person ar ôl fesur o dair gwaith fel'na. A rhoud y dafadd... A 'dyn odd y person yn rhoud hi am 'i, am 'i goes. Ag os oedd y cryd melyn yn gwella odd' arno fo, oedd yr edafadd yn cwmpo lawr. Ag oedd o'n gweithio — sut dwi'm yn gwybod, ond dyna un o'r hen, yr hen feddyginiaetha, yndê.

Ag oedd 'y mam yn arfar neud y ffisig iddo fo. Oedd o'n arfar cael, mynd i'r gwrych o'r tu allan, a torn rhyw bren, bren cryd melyn oddan ni'n arfar 'i alw fo. Ag oedd o'n tynnu'r croen i ffwr', y rhisgil, a y peth ar ôl, cyd.., o dan y rhisgil, cyd-rhwng hwnnw a'r pren. Hwnnw odd o'n neud y ffisig, ag odd o'n felyn felyn... y darn o'r pren 'ynny 'nde. Ag, rhwng... ryw betha erill o' genno fo yn yr ardd, oedd Mam yn arfar cael y llysha 'ma yndê.

Pa bren odd hwnnw, dach chi'n gwbod?

Y pren cryd melyn 'ma, naeg dw, sgena i'm syniad be dio, nae dw, dim ond bod o'n galw fo pren cryd melyn a dyna fo, yndê.

A'r, o, y bwyd bob amser, cneifio, bwyd dae, yndê. Agor y stafell ora bob amsar, llond cegin a'r stafell ora 'ndê o ddynion. O' 'na dros ugian i gyd bob amsar. A'r dynion... oddan ni wth yn bodd, fel oddan ni'n tyfu'n ifanc, wedyn, yn cel yr hogia ifanc yn dod i gneifio, yndê..

Ag oddan nw bob amsar yn molchi tu allan, dach chi'n gwbod, mynd â dŵr mewn desgil iddyn nw allan yndê, a 'dyn, o, yr hen hogia'n llycho'r dŵr ar... penna 'i gilydd ag ati. Oe' 'na hwyl, ddigon o hwyl. Ag amsar yr injam ddyrnu wedyn, ... dod i ddyrnu'r... y... grawnwin yndê, or wth y... gwêllt. A helynt fawr cael yr injam i ddŵad achos... Gor... mynd a ceffyla a tynnu'r injam, yndê, yn enwedig amball i hen geffyl styfnig, dach chi'n gwbod, a hwnnw'n 'cau tynnu efo'r lleill, yn strancio 'wrach. O, oeddan ni ofn i'r dynion frifo'n ofnadwy amsar 'ny.

Ffynnongroyw

Enghraifft o iaith yr hen Sir y Fflint. Un o nodau amgen y dafodiaith yw ei goslef, un o'r nodweddion ieithyddol anhawsaf ei disgrifio ond y gellir ei chlywed yn amlwg ar y tâp.

Transcript

'Na' i ddeu' 'thych chi be' on ni yr adag yna yndê, Ffynnongroyw. Wel Ffynnongroyw ydi... dach chi'n gwbod be' ma... mae'n feddwl, yntê, bo' gynnon ni ffynnon yma. A mi odd 'i'n groyw. Ag odd y ffynnon... dyma Well Lane, man nw'n galw... dach chi'n gweld? /Ydw./ Wel yn ganol y pentra, i lawr yn Well Lane 'ma, mi o 'na ffynnon. Mae 'i yna rwan, ond bo' nw 'di châ hi fyny. A dwi 'di bod yn deu'th y cownsils 'ma, ond man nw yn deud bod nw'n mynd i ail 'i hagor 'i. A ma' 'i'n ffynnon sy 'di bod yn rhedag ar hyd yr oesoedd. A dena odd yn job mwya ni odd cario dŵr. Ag on i'n cario i 'nghartre fi, yndoedd, ag on i'n cario i ddau ne dri o gartrefi erill, ag on nw'n rhoid ceniog. On i'n lwcus yn câl ceniog.

Ond dwi'n cofio on i'n canu... on i'n cario glo i rw hen ddynas yn ganol y pentra 'ma, ag odd 'i yn rhoid ceniog imi. On i'n mynd i 'nôl bwceded iddi bob yn ail dwrnod. Odd un bwcied yn gneud iddi am... A dwi'n cofio un dwrnod iddi ddeu' 'tha i bod... on' chwrs, on i'n galw 'i'n anti, on' Mam.. rw dipyn o ffrynd odd 'i i Mam. Ag odd 'i'n deud bod Anti ddim gyn newid y bora Sadwn 'na. A fasa 'i'n rhoid rhwbath imi i gofio amdani. Ag 'aru rhoid celiog imi. 'Na i ddangos o ichi ar ôl inni ddarfod. Mae o yna. Ag 'aru roid — giâr odd 'i ar nyth botyn. A ma raid bod... O, ma raid bod hi'n hen. Ond dwi'n dal i fod gynni yma. Dw'm yn meddwl bod hi'n... na, ma 'i yn y cwpwr' arall. Ma 'i yn...fan yna.

Odd gynnach chi gêms i chware yn blant? Yn wahanol i be' sgynnan nw heddiw?

Nag oedd. Dwi'm yn meddwl. Nag oedd. Odd pethe ddim felly. Odd... a dwi'm yn meddwl bod yr... y... athrawon gyn ddim llawar o awydd hefo gêms i ni. Beth bynnag on ni'n bigo on ni'n bigo fo fyny'n hunin, yndoedd? On ni gyn tîm bach yn yr ysgol 'ma —football. On' 'na' i ddeu' 'thych chi, o' gynnan ni ar' yn yr ysgol 'ma, i lawr y ffor' bach 'ma rwan. Ag... y... o' 'na gwmpas ugian ohonan ni. Ma' 'na' i lun ohonyn nw. A deud y gwir yntê, ôs 'na 'blaw rw... dwy'n barnu, on' ôn i'n sbia arno fo 'chydig wsnosa 'nôl, ddangos o i rŵun. A dwi'n barnu a ôs 'na 'blaw rw bedwar ohonan ni'n fyw...

'Na' i ddeu' 'thach chi be' odd ar fynd pen on i'n blen..., pen on i'n hogyn. Y coits. On nw'n chware coits. A dwi'n mynd yn d'ôl 'wan i'r dyddia y streic cynta... y... glowyr 'ndê. Nineteen twenty six. A dwy'n cofio on nw'n cal... y... competitions, chimod. Oedd. Ag on nw'n chwara y coits 'ma... rhan fwya... Ma 'na dafarn yn ben y pentra 'ma rwan, y Crown, ag odd y dafarn yna gyn cae. Ag on nw'n chwara yn y cae — y Crown 'ma. Ag odd y Miners' Welfare gyn cae yn pen yma o'r pentra. Ag on nw'n chwara competitions. Dwi'm yn gwbo' be' odd y wobr yndê, dwi'm yn gwbod. Ma'n shŵr rw sŵllt ne ddau odd i'r enillwr yndê. Ond odd y gofaint, chi'n gweld, yn gneud y coits 'ma iddyn nw. Darna o huarn crwn oddan nw'n tê.

Tafodiaith Pen-caer, Sir Benfro

29 Mawrth 2011

Nodweddion cyffredinol

shimle fowr we'da ni

shimle fowr we'da ni

Geirfa

At ei gilydd, geirfa nodweddiadol ddeheuol a gawn yn y darn hwn, e.e. bant, bord, lan, a mâs. Mwy lleol yw caran 'cariad', lŵeth 'eilwaith' a teie mâs 'adeiladau'r fferm'.

Acen

O ran acen, mae yn y dafodiaith nifer o nodweddion unigryw a gysylltir â'r hen Sir Benfro:

  • Un o nodweddion hynotaf y dafodiaith yw'r deuseiniaid mewn ffurfiau fel dwâd 'dyfod', cewn 'cefn', cwêd 'coed', a wedd 'oedd'. Arbennig i'r cyffiniau hefyd yw'r duedd i beidio a defnyddio y dywyll; yn ei lie ceir:
    • i yn ami, e.e. cifan 'cyfan', finy '(i) fyny', i mochyn 'y mochyn', ac in dwâd 'yn dyfod'.
    • w yn achlysurol, e.e. cwmeryd 'cymryd', cwmwdog 'cymydog'.
  • Colli'r dd yn perfe 'perfedd' a we 'oedd', ond ceir hefyd wedd.

Nodweddion eraill o ddiddordeb, ond sydd yn ymestyn dros gryn diriogaeth yn y De-orllewin yw:

  • e yn y sillaf olaf mewn geiriau fel padell, ac ochre 'ochrau'.
  • Cael ow yn hytrach nag aw mewn geiriau fel mowr a nowr.
  • Nodwedd ar iaith y De-orllewin yw'r e a'r o agored (fel yn pen a llong, ond weithiau'n hwy) a glywir mewn geiriau fel wedyn a mochyn. Yn y De-ddwyrain byddai'r rhain lawer yn 'feinach' ac yn debycach i'r seiniau a glywir yn hen a llo yn y De. Pan ddaw i neu w yn y sillaf olaf y ceir yr e a'r o agored; fe'u clywir, felly, yn eddi 'heddiw', gwedwch 'dywedwch' a fory, ond nid yn cese 'câi' na moron 'mawrion'.

    Yn y De-orllewin, felly, ceir llafariaid agored o flaen i neu w, a llafariaid 'main' fel arall. Ceir cydberthynas rhwng ansawdd llafariaid y goben a'r sillaf olaf yn y Rhos hefyd. Y patrwm yno yw cael llafariaid 'main' pan fo i, u, neu w yn eu dilyn, a llafariaid agored mewn cyd-destunau eraill.

  • Ansefydlogrwydd h: at ei gilydd y mae'n bresennol yn y cyd-destunau disgwyliedig, e.e. halen, hongian, a hwnnw, eithr y mae hefyd wedi ei cholli mewn nifer o enghreifftiau, fel alltu, eddi 'heddiw', ongian, a efyd.

Y recordiad

Enghraifft o dafodiaith Sir Benfro. Ganed Mrs Elizabeth John o Ben-caer ym 1891. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Wel, chimod oen ni'n lladd i mochyn 'eddi nowr. We'r badell bres 'da ni pyrny a'r tan... cwêd, 'te. Wel wedyn fory we' dyn, we'r bwtshwr in dwâd i dorri'r mochyn finy. Och chi'n gal e'n bishys wedyn, hams a'r palfeshi a'r ochre. A wedyn we' bar mowr o halen 'da ni a och chi'n 'ffod neud yr halen in fân wedyn a we'r... och chi'n roi'r mochyn, ir ham ar ford, gwedwch. Wel och chi'n roi'r saltpetre arno ginta, a tamed o shwgwr brown amell un, a chi'n rwbio fe miwn manna 'sbod e eitha glyb. Wedyn och chi'n rwbio fe â halen wedyn, a wedyn och chi'n troi fe wedyn a roi tam bach o salypetre rownd i'r esgyrn a halen ar hwnnw. Wel wedyn och chi'n drichid arno fory lŵeth a'i au 'alltu fe, a wedd e myn' mlân am dair wthnos fel 'na.

Ble och chi'n gadel nw amser och chi'n neud hyn, 'te?

In twbeie moron.

O beth? O bren?

Ie, pren. A wedyn och chi'n... odd e'n cal 'i godi wedyn. Och chi'n golchi'r halen bant a och chi'n 'ongian e lan. Shimle fowr we' 'da ni, chwel. Chi 'di clŵed sôn am shimle fowr? /Ydw, ydw./ Wel och chi'n hongian nw lan manna wedyn, i nw gal sychu.

le. Am faint on nw'n aros?

O, wedd e'n cwmeryd sbel i sychu, chwmod, yntê fe sbwyle, 'chod, rownd i'r asgwrn.

Shwt och chi'n paratoi i ladd y mochyn? Odd...?

Bwtshwr in dwâd.

le.

A we'r... we'r dŵr 'da ni'n berwi erbyn dese fe. A wedyn wên nw'n dala'r mochyn, a we'r bwtshwr yn 'i waedu fe, a chwedyn ôn nw'n cario'r dŵr berw 'ma mâs a clau'r mochyn... Wedyn on nw'n hongian e lan wedyn, hongian i mochyn lan.

le. Ar beth?

Wel, we' fel haearn 'da nw, chimod, i ddala fe.

Ie.

A wedyn on nw'n roi fe lan wrth ryw bîm in un o'r teie mâs. Wel wedyn 'rail dwyrnod we'r dyn in dwâd i dorri e Imny fel don i'n gweu' 'thdoch chi.

Och chi'n neud rhwbeth â'r pen a'r perfedd?

O, oen. Wel, oen. Buon ni'n golchi'r perfe' 'efyd, ond anan ni'n neud lot a 'wnnw in yng amser i. Naddo. Wel, 'nan ni'n lico fe, chwaith.

Och chi'n neud brawn ne rwbeth â'r pen?

O, oen, yn gweitho'r pen a pethe, gweitho brawn, basneidi o'no. We' hwnnw'n lovely.

Beth och chi'n roi yn y brawn gyda'r...?

Wel, i pen a'r tafod a... we' rhei'n roi'r cluste, on' enan ni'n roi'r cluste. Enan ni am reina. A chwedyn we', chimbod, we'r esgym 'da chi wedyn, och chi'n bwrw rina miwn a'i berwi nw 'sbod y cifan in ifflon. Wel, wedyn wêch chi'n... in tshopo fe lan wedyn a roi'r... wedd e'n seto in i jeli 'ma wedyn.... A wedyn gwedwch, we' amell un in shario. We'r llefydd bach, fel, gwedwch... dim ond tŷ ni nawr. Wel we' Mam, 'rengaran, we' mochyn bach 'da ni 'efyd. Anan ni ry dlawd i gâl mochyn. Wedd 'i'n magu mochyn bach 'i 'unan. /Ie./ Wel wedyn wedd hi'n roi tamed i... i ryw gwmwdog wedyn, fel pam bisen nwy'n lladd mochyn oen ni'n gâl e nôl.

'Na fe. Pa bart o'r mochyn bysech chi'n roi felna?

Iddyn nwy? /Ie./ O, tamed bach o'r stêc a falle cese 'i asgwrn cewn, a'r asenne, chimod, i ribs. O, on nw'n shario nw mâs in neis wedyn, ychwel. Wath on nw'n shŵ'r cal e nôl, ychwel.

Nodiadau

shimle fowr we'da ni

shimle fowr we'da ni

dwâd 'dyfod'
Trafodir datblygiad y ffurf yn llawn uchod.

torri'r mochyn finy
Sylwer ar y defnydd o finy yn y cyd-destun hwn yn hytrach na Ian; ci. hongian lan. Dylanwad y Saesneg cut up a hang up,sy'n cyfrif am ddefnyddio adferfau yn y cyd-destunau hyn: mae torri a hongian, ar eu pen eu hunain yn ddigonol yn Gymraeg. Ceir y math hwn o ymyrraeth yn gyffredin ar lafar: cymharer gwisgo fyny, cwmpo lawr, a cymysgu lan.

palfeshi 'palfeisi'
Ysgwydd creadur yw palfais.

tam 'darn'
Mwy cyfarwydd yw tamaid, sef tam + -aid, ond digwydd tam hefyd yn gyffredin trwy'r De.

drichid 'edrych'

lŵeth 'eilwaith, drachefn'

twbeie moron
Ffurf luosog ddwbl i twba a luniwyd drwy ychwanegu'r terfyniad Iluosog -e at twbâu, a oedd eisoes yn Iluosog. Ffurfiau tebyg a geir yn y De-orllewin yw esgideie, a teie, y ceir enghraifft ohoni yn y darn hwn.

Cyffredin yw ffurfiau Iluosog dwbl a luniwyd drwy ychwanegu'r terfyniad Saesneg
-s at ffurfiau Cymraeg yn -wyr, e.e. baswyrs a (py)sgotwyrs. Gall ychwanegu terfyniadau yn y modd hwn arwain at gynhyrchu ambell ffurf annisgwyl fel sersys, a geir mewn rhannau o'r Gogledd, ac sydd yn cynnwys dau derfyniad lluosog Saesneg yn ogystal â'r ffurf luosog frdorol, hynny yw, sêr + -s + -ys!

Ffurf luosog hynod ar yr ansoddair mawr yw moron; ceir enghraifft ohoni yn y darn o Flaenpennal.

bant 'i ffwrdd'

shimle 'simnai'

Shimle a shwmle yw ffurfiau arferol y De; yn y Gogledd simdda, simdde neu
shimdda, shimdde a geir amlaf. Amrywiadau pellach yw sifne, shifne yn y Gogledd-ddwyrain a rhannau o'r Canolbarth, a sifne, shifne mewn rhannau o Geredigion.

dese 'deuai'

dala 'dal'
Mae'r [furl hon yn gyffredin trwy'r De; dal a glywir yn y Gogledd. Geiriau sydd yn patrymu'n debyg yw bola y De, a bol y Gogledd. Pâr tebyg yw hela a hel, ond tra bo hela yn gyffredin trwy'r wlad, yn y Gogledd yn unig y ceir hel. (Tueddir i ddefnyddio hel yn y Gogledd lIe y defnyddir casglu neu clasgu yn y De.)

clau 'glanhau'
Ceir sawl amrywiad ar y berfenw hwn yn y tafodieithoedd. Ffurfiau mwyaf cyffredin y De yw clau a cnau tra bo'r Gogledd yn ffafrio llnau.

teie mâs 'adeiladau'r Iferm'
Mae tai mâs yn gyffredin trwy'r De-orllewin hyd at Gwm Nedd; y ffurfiau mwyaf cyffredin yn y gweddill o'r wlad yw bydái yn y Gogledd-orllewin a bildin(g)s yn y Dwyrain. Yn y De-orllewin eithaf yn unig y nodwyd teie mâs. Am y ffurf teie, gweler twbeie uchod.

anan ni 'nid oeddem'
Ceir nifer o enghreifftiau o'r ffurfiau negyddol hyn yn y darn:

nan ni'n lico 'nid oeddem yn hoffi'
enan ni'n roi 'nid oeddem yn rhoi'
anan ni ry dlawd 'nid oeddem yn rhy dlawd'

gweitho 'gweithio'
Yr ystyr yn y cyd-destun hwn yw 'gwneud'; gweitho te, gweitho bara.

brawn
Cofnodwyd cosyn pen, yr enw Cymraeg ar y bwyd hwn, yn y Gogledd (gweler llyfr S Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin), ac yn y De-ddwyrain. Ymddengys, fodd bynnag, fod y term yn ildio i'r gair Saesneg.

rhei 'rhai'

a chwedyn 'ac wedyn' Ffurf lafar gyffredin drwy'r wlad.

rengaran 'yr hen garan; yr hen gariad'
'Druan' neu 'pŵr dab' a ddywedid mewn rhai ardaloedd i gyfleu hyn.

nwy 'hwy'
Ffurf nodweddiadol Penfro ar y rhagenw hwn. O hwy y tarddodd nwy a'r n(h)w mwy cyffredin. A chymryd gwelant hwy yn enghraifft, y cam cyntaf yn y datblygiad oedd:

gwelant wy > gwelan nhwy
Hynny yw, aeth nt h yn n nh mewn modd digon tebyg i'r hyn a geir o dan amodau'r treiglad trwynol mewn cyfuniad fel yn Tywyn > yn Nhywyn. Y ffurf nhwy hon (heb yr h) a welwn ym Mhenfro.

Tuedd wy mewn sillafau diacen yw mynd yn w: gwelir y datblygiad yn glir yn eglws, sef y f[furf lafar gyffredin ar 'eglwys'. Gan fod nhwy — fel y rhagenwau eraill — yn digwydd yn ddiacen yn aml troes yr wy yn y ffurf hon hefyd yn w yn y rhan fwyaf o'r tafodieithoedd. Cafwyd, felly, ail gam yn y datblygiad, sef:

gwelan n(h)wy > gwelan n(h)w

Ni ddigwyddodd yr ail gam yn y De-orllewin eithaf.

cewn 'cefn'

Un o ffurfiau nodweddiadol yr ardal hon.

wath 'oherwydd'

Cylch yr Orsedd

25 Gorffennaf 2010

Seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn y Castell, Aberystwyth, tua 1916.

Tyrfa enfawr yn gwylio seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn y Castell, Aberystwyth, naill ai adeg y Cyhoeddi yn 1914 neu yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun yn 1916.

Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd

Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd

Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Casnewydd a'r Cylch, 1987

Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 1987 gyda Elerydd (W.J.Gruffydd) yn Archdderwydd a Gwyn Tre-garth yn arwain y canu ar y Maen Llog.

Aelodau newydd o'r Orsedd a urddwyd yn Abertawe, 1962

Ymgeisiwyr ifanc llwyddiannus (13-14 oed) yn arholiadau'r Orsedd a urddwyd yn aelodau yn Abertawe, 1962.

Gŵyl y Cyhoeddi

Mae'n rhaid cyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd yn ymweld â bro arbennig o leia flwyddyn a diwrnod ymlaen llaw. Yn ystod y seremoni bydd y Cofiadur yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi a chyflwynir y copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn ganlynol i'r Archdderwydd.

Pan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys ymryson rhwng beirdd a cherddorion yng nghastell Aberteifi yn 1176 nodwyd i'r cyfarfod gael ei gyhoeddi ledled Cymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr a'r ynysoedd eraill, flwyddyn ymlaen llaw. Pan ail-sefydlwyd eisteddfodau ddiwedd y ddeunawfed ganrif penderfynwyd mabwysiadu'r drefn o gyhoeddi ymlaen llaw ac yn 1791 dewisodd Iolo Morganwg yntau gyhoeddi y byddai seremoni gyntaf Gorsedd y Beirdd yn cael ei chynnal ymhen blwyddyn a diwrnod ar Fehefin 21, 1792 ar Fryn y Briallu yn Llundain. Mae'r patrwm hwn wedi parhau hyd heddiw.

O gerrig mân i gerrig ffug

O fewn cylch Meini'r Orsedd y cynhelir yr Ŵyl Gyhoeddi a'r seremonïau gorseddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae'n debygol fod beddfeini trawiadol Avebury yn Wiltshire a Dyffryn Golych yn ei gynefin wedi dylanwadu ar weledigaeth Iolo Morganwg o gylch meini derwyddol Celtaidd ac felly roedd cylch o feini â Maen Gorsedd yn ei ganol yn yr Orsedd gyntaf yn 1792. Fodd bynnag, wrth iddo geisio cyplysu'r Eisteddfod â'r Orsedd yng Nghaerfyrddin yn 1819 y cyfan oedd gan Iolo wrth law oedd dyrnaid o gerrig mân. Dim ond Beirdd oedd yn cael mentro i mewn i gylch cyfrin y meini.

Ym Morgannwg gwelwyd fod gorsedd naturiol o gwmpas y Maen Chwŷf, darn anferth o graig llechfaen, ger Eglwysilan, a chynhaliwyd sawl gorsedd yn enw Cadair Morgannwg arni yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ddiwedd y ganrif, er mwyn cael trefn ar bethau, aeth yr Arwyddfardd - Arlunydd Pen-y-garn, ati i lunio cynllun manwl o Gylch yr Orsedd a dilynwyd hwn yn Eisteddfod Caerdydd, 1899. Yn ôl y cynllun hwn roedd y maen tua'r dwyrain, y Maen Cyfamod a'r ddau Faen Porth i ffurfio siap y Nod Cyfrin. Am gyfnod bu'n ffasiynol i wisgo'r meini â deiliach derw ac uchelwydd.

I hwyluso cynnal seremonïau'r Orsedd ar y maes ei hun yn ystod wythnos yr Eisteddfod, penderfynwyd, yn 2004, defnyddio meini plastig ond realistig yr olwg.

Y Cylch yn ystod wythnos y Steddfod

Defodau bore Llun

Cyflwynir y Corn Hirlas i'r Archdderwydd a chroesewir y Celtiaid a chynrychiolwyr tramor eraill gan yr Orsedd. Bydd y Cofiadur yn coffáu'r Gorseddogion sy wedi marw yn ystod y flwyddyn a chenir emyn coffa. Yna daw defod urddo aelodau newydd trwy arholiad neu radd - i Urdd Ofydd neu Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor.

Defodau bore Gwener

Cyflwynir y Flodeuged i'r Archdderwydd a pherfformir y Ddawns Flodau. Yna derbynnir aelodau newydd trwy anrhydedd i Urdd Derwydd yng Ngorsedd.

Urddo aelodau newydd

Mae tair Urdd yng Ngorsedd y Beirdd:

  • Urdd Ofydd: y wisg werdd. Bydd ymgeiswyr sy'n pasio Lefel 1 a 2 yn arholiadau'r Orsedd, mewn barddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth neu brofion i delynorion a datgeiniaid yn cael eu derbyn i'r urdd hon. Gellir urddo aelodau er anrhydedd am gyfraniad o safon cenedlaethol i'r wisg werdd hefyd. Urddwyd sawl aelod o'r teulu brenhinol, yn eu plith y Frenhines, Dug Caeredin, a'r Brenin Siôr i'r urdd hon.
  • Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor: y wisg las. Ar ôl pasio arholiad terfynol yr Orsedd y ceir mynediad i'r Urdd hon. Gall y sawl sy wedi graddio mewn Cymraeg neu gerddoriaeth (ac sy'n gallu siarad Cymraeg) wisgo'r wisg las yn ogystal.  
    Ar fore dydd Llun yr urddir y rhain i'r Orsedd. Bydd yr Arwyddfardd a Cheidwad y Cledd yn mynd at borth y Cylch ac yn dal y Cleddyf ar ei draws a chael gan bob aelod newydd i osod ei law dde ar lafn y Cledd. Ar ôl eu hurddo arweinir hwy gan y Disteiniaid at Feistres y Gwisgoedd i'w harwisgo â phenwisg eu hurdd.
  • Urdd Derwydd - y wisg wen. Mae enillwyr y prif gystadlaethau - y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn cael eu hurddo yn awtomatig i'r Wisg Wen. Bydd eraill yn cael eu 'dyrchafu' yn Dderwyddon o'r wisg werdd neu'r wisg las. Bob blwyddyn hefyd bydd cymwynaswyr arbennig y genedl yn cael eu hanrhydeddu - yn eu plith cantorion ac actorion byd-enwog fel Bryn Terfel, Sian Phillips ac Ioan Gruffudd; enwogion fel Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Rowan Williams a chwaraewyr rygbi a phel-droed enwog.

Roedd urddau gwahanol yng Ngorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792 ond pwysleisiai Iolo bod yr urddau yn gyfartal o ran statws. Erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd consýrn gwirioneddol am deilyngdod yr urddau a dechreuodd yr ysgolhaig, John Morris-Jones, feirniadu'r graddau oherwydd, meddai, 'derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru, ...'. Ar ôl hyn aethpwyd ati o ddifrif i arholi ymgeiswyr yn ofalus i godi safonau.

Gwnaed yn Tseina: cadair Eisteddfod 1933

25 Gorffennaf 2010

Gwnaed yn Tseina: Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933

Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933; rhodd J.R.Jones, Shanghai. Yn y llun gwelir y crefftwyr a luniodd y gadair.

Fe gymerodd dros flwyddyn i'r crefftwyr yn y llun i gerfio'r gadair eisteddfodol hon. Fe'i gwnaed yn amddifaty Catholig T’ou-se-we, ar gyrion Shanghai. Roedd gan yr amddifaty hwn, a sefydlwyd gan genhadon Catholig ym 1852, nifer o weithdai lle dysgid crefftau megis cerfio pren, paentio, argraffu, gwaith tun a gwaith gwydr lliw a ffotograffiaeth.

Cyflwynwyd y gadair yn wobr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1933 gan Gymro llwyddiannus oedd yn byw yn Shanghai. Roedd Dr John Robert Jones(g. Llanuwchllyn 1887,m. Hong Kong 1976) yn fargyfreithiwr ac yn eisteddfodwr brwd a oedd hefyd yn ymddiddori'n fawr yn niwylliant a chelfyddyd Tseina. Aeth i Shanghai ym 1924, a dyfod yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor Rhyngwladol ym 1928. Roedd yn un o hoelion wyth cangen Shanghai o'r Royal Asiatic Society a Chymdeithas Dewi Sant. Ei syniad ef oedd comisiynu crefftwyr T’ou-se-we i wneud y gadair.

Enillydd y gadair ym 1933 oedd Trefin (Edgar Phillips) am ei awdl 'Harlech'. Enillwyd cadair debyg iawn, hefyd wedi'i gwneud yn T'ou-se-we, gan y bardd Gwenallt Eisteddfod Abertawe, 1926.

A oes heddwch? Ailgydio wedi rhyfel Napoleon

25 Gorffennaf 2010

O chwyldro i bersoniaid llengar

A oes heddwch? Nag oedd, yn ystod y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon [1803-1815] pan darfwyd ar batrwm Eisteddfodau’r Gwyneddigion. Bu’r awdurdodau yn amau rhai o Gymry Llundain oherwydd eu radicaliaeth. Roedd gan nifer o Gymry amlwg eu dydd oedd â chysylltiadau â’r Gwyneddigion – fel y Dr Richard Price a John Jones (Jac Glan Gors) – syniadau cryf iawn o blaid y Chwyldro yn Ffrainc. Yn wir, roedd yr awdurdodau yn Llundain wedi cynnal cyrch ar y Caradogion, chwaer gymdeithas i’r Gwyneddigion. Pan gafodd Gorsedd Beirdd Ynys Prydein ei chreu ym 1792 gan Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) roedd cryn amheuaeth felly ynglŷn â’i chysylltiadau bradwrus.

Pan ddaeth y rhyfel i ben ailgydiwyd yn y diddordebau Eisteddfodol, yn arbennig felly gan gwlwm o glerigwyr dan arweiniad Ifor Ceri (Y Parchedig John Jenkins, 1770-1829). Roedd yn un o’r ‘hen bersoniaid llengar,’ fel y gelwid y clerigwyr Anglicanaidd hynny oedd yn ymhyfrydu yn iaith a diwylliant Cymru. Dyma pryd y dechreuwyd meddwl o ddifrif am ailgydio yn y mudiad Eisteddfodol a chreu Eisteddfodau go iawn. Cynhaliwyd yr Eisteddfod daleithiol gyntaf ym 1819 yng Nghaerfyrddin.

Medal ar gyfer Eisteddfod y Bala, 1789

Medal Cymdeithas y Gwyneddigion ar gyfer Eisteddfod y Bala, 1789. Dylunydd y fedal oedd Augustus Duprê, Ysgythrwr Cyffredinol Arian Ffrainc i'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mharis. Ym mlwyddyn y Chwyldro Ffrengig, roedd hwn yn gomisiwn nodedig.

Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819

Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819.

Iolo a’i rubannau a’i gleddyf

Roedd yr Eisteddfod yng Nghaerfyrddin ym 1819 yn hynod am mai hi oedd y gyntaf o ddeg o Eisteddfodau taleithiol a weddnewidiodd holl hanes y mudiad. Un o’r rhesymau pennaf dros hyn oedd yr Orsedd. Er iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf ar 21 Mehefin 1792 ar Primrose Hill yn Llundain doedd dim cysylltiad rhyngddi a’r Eisteddfod nes i Iolo Morganwg weld ei gyfle yng Nghaerfyrddin ym 1819.

Yn saithdeg oed, teithiodd bob cam o Ferthyr lle'r oedd yn aros ar y pryd. Wedi cyrraedd Caerfyrddin lluniodd gylch Gorsedd ar lawnt Gwesty’r Ivy Bush gyda mân gerrig o’i boced a dechrau urddo beirdd a derwyddon, gan roi rhubanau gwyn, glas a gwyrdd iddynt yn ôl eu gradd. Yn ystod seremoni’r cadeirio cyflwynwyd defod newydd wrth i’r beirdd sefyll o boptu’r gadair yn gweinio ac yn dadweinio cleddyf uwch ben y bardd buddugol. Mae’r cleddyf a ddefnyddiwyd gan Iolo yn ystod seremonïau’r flwyddyn honno i’w weld yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru o hyd.

Awdl i arwr Waterloo

Roedd Gwallter Mechain (un arall o’r ‘hen bersoniaid llengar’) yn dal i fod wrthi yn cystadlu ac yn ennill. Yn Eisteddfod Caerfyrddin enillodd y gadair am ei awdl farwnad i arwr mawr Caerfyrddin a maes Waterloo, Syr Tomos Picton. Gwobrwywyd y bardd â medal arian gydag ysgythriad o’r union gadair arni, a wnaed gan Hugh Hughes. Roedd yr arlunydd hwn newydd ddychwelyd i Gymru o Lundain, ac yr oedd ganddo gysylltiadau gyda nifer o fewn y mudiad eisteddfodol. Mae medalau fel y rhain yn siarad cyfrolau am y math o urddas roedd y Cymry yn ei chwennych i’w diwylliant o fewn y cyd-destun eisteddfodol.

Medal ar gyfer yr awdl orau, Caerfyrddin, 1819 (tu blaen)

Y 'Cadair Arian' a enillwyd gan Wallter Mechain yn eisteddfod Caerfyrddin, 1819 (tu blaen)

Cyngerdd er budd '<em>decayed harpists</em>', Caerfyrddin 1819

Cyngerdd er budd 'decayed harpists', Caerfyrddin 1819

Stumog a steil

Gydag amser fe ddaeth yr eisteddfodau taleithiol yn gyfarfodydd rhyfeddol o ffasiynol, lle gwelwyd dau ddiwylliant, y Gymraeg a’r Seisnig, yn dod benben â’i gilydd. Cafodd yr hen feirdd, a oedd yn ystyried eu hunain yn geidwaid yr hen draddodiad eisteddfodol, eu gyrru i'r cysgodion. Yn wir, galwodd Ifor Ceri’r eisteddfodau hyn yn 'Anglo-Italian farce', oherwydd yr artistes o Lundain a wahoddwyd i berfformio yno yn Saesneg.

Gwelwyd her y diwylliant Seisnig, sef diwylliant y cyngerdd, i’r diwylliant Cymraeg traddodiadol ar waith yng Nghaerfyrddin ym 1819, pan ddaeth y Parchedig John Bowen â chôr, rhan o’r Bath Harmonic Society, i’r Eisteddfod. Fe wnaeth y côr gynnal dau gyngerdd, y naill er budd gweddwon a phlant i offeiriaid a’r llall er budd “decayed harpists,” neu hen delynorion oedd wedi mynd yn rhy fusgrell i'w cynnal eu hunain. Tyrrodd parchusion tref Caerfyrddin a’r cylch i’r cyngherddau ffasiynol hyn. O’r foment honno dyma ddechrau’r frwydr yn yr Eisteddfod rhwng y ddau ddiwylliant.