Pethau peryglus yw geiriau: Eisteddfodau'r Gwyneddigion 25 Gorffennaf 2010 Gwnaethpwyd y fedal hon yng Nghaer ar draul Cymdeithas y Gwyneddigion ar gyfer Eisteddfod Corwen ym 1789, a chyfeirir ati yn yr ohebiaeth gyfoes fel Cadair Arian. Fe'i cynigiwyd am gyfansoddi penillion ar y pryd, a dyfarnwyd Gwallter Mechain yn fuddugol dros Twm o'r Nant a Jonathan Hughes. Cythruddwyd Dr David Samwell gymaint gan y penderfyniad hwn nes iddo fynnu ymladd un o elynion Twm. Ond ni fu tywallt gwaed wedi'r cwbl, a rhoddodd Samwell ysgrifbin arian i'w ffefryn i gofnodi'r achlysur. Edward Williams, Iolo Morganwg, Bardd Braint a Defod, portread gan George Cruickshank. Bronfollt arian a enillwyd gan Gwallter Mechain yn eisteddfod Corwen ym 1789, digwyddiad a ddechreuodd ddadeni eisteddfodau yng Nghymru. Ysgrifbin arian a roddwyd i Twm o'r Nant gan Dr David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) fel gwobr gysur wedi iddo gael ei drechu trwy dwyll, yn ôl y sôn, gan Gwallter Mechain yn eisteddfod Corwen, 1789. Pwy oedd y Gwyneddigion?Sefydlwyd Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain ym 1770. Er bod iddi gysylltiad agos ag Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, roedd y gymdeithas ei hun yn ymateb i’r hyn a welwyd fel agweddau uchel-ael a diog aelodau’r Cymmrodorion. Cymdeithas fywiog oedd y Gwyneddigion, yn prisio dadlau deallusol ar bynciau diwylliannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd llenyddiaeth Gymraeg o’r pwys mwyaf i’w haelodau a noddodd a hybodd y gymdeithas nifer o gyfrolau pwysicaf y Gymraeg, fel Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789) a The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-7).Cymeriadau mawr oedd llawer o garedigion eisteddfodau’r Gwyneddigion, ac ymhlith y mwyaf oll oedd Dafydd Samwell a Twm o’r Nant.Adar brithByddai bardd o Gymro heddiw ar ben ei ddigon pe bai cyfrol o’i gerddi yn gwerthu pum cant o gopïau. Ymhyfrydai Twm o’r Nant (Thomas Edwards, 1738-1810) bod ei gyfrol Gardd o gerddi (1790) wedi gwerthu cymaint â 2000 o gopïau. Aderyn digon brith oedd Twm. Yn fab i dyddynwr, bach iawn o addysg a gafodd – ychydig wythnosau yn Ysgol Rad Nantglyn a phythefnos yn dysgu Saesneg yn Ninbych. Ond roedd ganddo feddwl chwim ac awen chwimach fyth. Er mwyn osgoi ei gredydwyr bu’n symud o fan i fan, gan geisio ennill ei damaid trwy ysgrifennu anterliwtiau. Roedd y creadigaethau poblogaidd hyn yn cynnig sylwebaeth fyw a deifiol ar ddrygau cymdeithasol ei oes, fel y tirfeddiannwr barus, y clerigwr rhagrithiol a’r twrnai diegwyddor.Roedd gyrfa Dafydd Samwell (Dafydd Ddu Feddyg, 1751-1798) yn fwy byrlymus a chrwydrol na bywyd ei gyfaill hyd yn oed. Bu’n llawfeddyg ar fordaith olaf Capten Cook ac mae ei ddyddiadur yn gofnod gwych o’r daith, gan gynnwys disgrifiad fforensig o fanwl, bron, o lofruddiaeth Cook yn Hawaii. Roedd ganddo ddiddordeb byw yn yr iaith Faori hefyd – ef oedd y cyntaf i lunio cofnod ysgrifenedig o’r iaith, gan drawsgrifio chwe siant Maori yn Swnt y Frenhines Charlotte, ymhlith enghreifftiau eraill.Rhwng ei fordeithiau roedd yn ffigwr canolog ym mywyd diwylliannol a chymdeithasol Cymry Llundain (Samwell oedd yn darparu’r cyffur laudanum i Iolo Morgannwg, er enghraifft). Roedd iddo enw am fod yn hynod o gymdeithasol, yn hoff o’i ddiod ac yn dymhestlog ei natur. Roedd hefyd yn ymfflamychol o barod i gynnig ymladd gydag unrhyw feirniad a oedd wedi amharchu ei gyfeillion llenyddol. Digon hawdd deall felly iddo ddigio’n yfflon pan gafodd Twm o’r Nant gam yn Eisteddfod gyntaf y Gwyneddigion ym 1789.Dechreuadau’r Eisteddfod fodernDywedir bod gwreiddiau’r traddodiad Eisteddfodol yn deillio o gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi ym 1176, dan nawdd yr Arglwydd Rhys. Cyhoeddwyd yr ymryson ‘drwy Gymru a Lloegr a’r Alban ac Iwerddon a’r Ynysoedd eraill i gyd’, gyda chadair y prifardd yn mynd i ogledd Cymru a chadair y prif delynor i’r de.Ond gellid dadlau mai yn y flwyddyn 1789 y gwelwyd dechreuadau’r Eisteddfod fodern, pan gysylltodd Thomas Jones, seismon o Gorwen, â’r Gwyneddigion gan ofyn iddynt noddi'r Eisteddfod yng Nghymru. Er na chytunodd y Gwyneddigion i noddi Eisteddfod Corwen, dyma’r cam cyntaf at sefydliad a fyddai’n adfer ychydig o urddas a safon – ac efallai gymeriad cenedlaethol – i ddiwylliant yr Eisteddfod. Er bod gwesty Owain Glyndŵr lle’i cynhelid yn ddigon annhebyg i’r pafiliwn pinc presennol, teg dweud bod Eisteddfod Corwen ym mis Mai 1789 yn rhyw fath o lasbrint i’r Eisteddfod fodern.Doedd dim testun penodol ar gyfer y gadair yn Eisteddfod Corwen. Cystadlodd y beirdd yn ôl yr hen drefn, yn fyrfyfyr. Roedd Jonathan Hughes a Twm o’r Nant yn cystadlu, yn ogystal â Gwallter Mechain. Cafodd ef fantais bendant, oherwydd roedd Thomas Jones wedi rhoi gwybod iddo ymlaen llaw beth fyddai’r testunau byrfyfyr. Felly Gwallter Mechain a enillodd y wobr, sef bronfollt arian hardd. Afraid dweud nad oedd y beirdd eraill yn fodlon ar y sefyllfa o gwbl.Twm yn cael cam!Y tro cyntaf i’r Gwyneddigion noddi Eisteddfod yn swyddogol oedd yn Y Bala ym mis Medi 1789. Wrth gytuno i noddi, fe fynnodd y gymdeithas mai y nhw oedd piau’r hawl i ddewis y beirniaid a’r prif destunau. Testun y gadair oedd awdl ar Ystyriaeth ar Oes Dyn. Unwaith eto cafodd Gwallter Mechain fantais: rhoddodd Owain Myfyr wybod iddo ba fath o gerdd roedd y Gwyneddigion yn gobeithio ei gweld. Pan gyhoeddwyd ffugenw Gwallter Mechain yn Y Bala – ac yn eironig ddigon, ‘Anonymous’ oedd ei nom-de-plume – cerddodd y beirdd eraill allan mewn protest a Twm o’r Nant, a oedd wedi cystadlu hefyd, yn eu plith.Bu bron i bethau fynd yn ffradach pan wnaeth Dafydd Samwell fygwth ymladd gornest gydag un o’r beirniaid am beidio â rhoi’r fedal i’w ffefryn, Twm. Yn y diwedd perswadiwyd ef i beidio, a bodlonodd Samwell ar roi ysgrifbin arian i Twm yn wobr gysur. Ef hefyd a fathodd yr ymadrodd ‘the Cambrian Shakespeare’ i ddisgrifio Twm – disgrifiad hael ond cwbl amhriodol i’w ddoniau arbennig ef.
Gorchestion barddol 25 Gorffennaf 2010 Coroni Dilys Cadwaladr am ei phryddest 'Y Llen', yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1953. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Goron. Enillwyd y dwbl-dwbl sef y Gadair a'r Goron yn yr un flwyddyn ddwywaith gan T.H.Parry-Williams — 1912 ac 1915 Alan Llwyd — 1973 ac 1976 Donald Evans — 1977 ac 1980 Cyn sefydlu'r rheol na ellir ennill y Gadair, y Goron na'r Fedal Ryddiaith fwy na dwywaith cafwyd sawl buddugwr gorchestol:p> Crwys — y Goron deirgwaith (1910, 1911 ac 1919); Cynan — y Goron deirgwaith (1921, 1923, 1931) a'r Gadair unwaith (1924); Caradog Prichard — y Goron deirgwaith (1927, 1928, 1929) - pob un yn amrywiaeth ar thema gwewyr gwallgofrwydd ei fam; a'r Gadair unwaith (1962); Dewi Emrys — y Goron unwaith (1926) a'r Gadair bedair gwaith (1929, 1930, 1943, 1948). Dywedir iddo geisio gwerthu'i Goron i siop pôn. Dilys Cadwaladr, yn Eisteddfod y Rhyl 1953, oedd y fenyw gyntaf i ennill y Goron. Ers hynny enillodd Eluned Phillips hi ddwywaith (1967, 1983) ac Einir Jones hi unwaith (1991). Yn Eisteddfod Aberteifi 1976 dyfarnodd y beirniaid awdl gan Dic Jones ar y testun 'Gwanwyn' yn fuddugol ond oherwydd tor-rheol bwriwyd hi o'r gystadleuaeth a chadeiriwyd Alan Llwyd yn ei le. Robat Powell o Lyn Ebwy oedd y dysgwr cyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, yn y Rhyl yn 1985 am ei awdl 'Cynefin'. Caradog Pritchard, yn 22 oed, oedd y bardd ieuengaf i ennill un o brif wobrau'r Eisteddfod pan enillodd y Goron ym 1927. Pan oedd y Prifardd John Gwilym Jones yn Archdderwydd (1993-96) cafodd y fraint o goroni'i frawd Aled Gwyn a chadeirio'i fab, Tudur Dylan, yn Eisteddfod Bro Colwyn, 1995. At hyn roedd brawd arall, T.James Jones, wedi ennill y Goron ddwywaith - yn Abergwaun 1986 a Chasnewydd 1988. Roedd T. James Jones wedi cystadlu am y Goron gyda bardd o Americanwr, John Dressel yn 1979, dan y ffugenw 'Ianws', ond pan sylweddolwyd mai cywaith oedd y bryddest fuddugol ni ddyfarnwyd y Goron iddynt.. Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill y gadair yn Eisteddfod Dinbych, 2001 ac enillodd y Goron ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod Maldwyn, 2003.
Pwy yw pwy yn yr Orsedd? 25 Gorffennaf 2010 Portread mewn olew o'r Archdderwydd Hwfa Môn gan Christopher Williams. Eifionydd (John Thomas) - Cofiadur yr Orsedd, 1881-1922. T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd (1895-1915) yn arwain gorymdaith Gyhoeddi Llangollen 1907. 'Mam o Nedd', Winifred Coombe Tennant, Meistres y Gwisgoedd tua 1923-34. Cario'r Cleddyf Mawr yn ystod Seremoni'r Cadeirio, 2009. Menywod yn smwddio gwisgoedd yr gorseddogion, Dolgellau, 1949. Yr ArchdderwyddYr Archdderwydd yn ei regalia ysblennydd yw canolbwynt holl ddefodau'r Orsedd ac ef/hi sy'n llywyddu'i seremonïau. Mae ef/hi yn oruchaf yn yr holl Orseddau eraill ac ef/hi sy'n cadeirio Bwrdd yr Orsedd.Nid oedd Iolo Morganwg, tad Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, yn arddel y teitl hwn ei hun. Wrth gynnal ei Orsedd gyntaf yn 1792 galwai'i hun yn 'Brif Fardd' a'r 'Bardd Gweinyddol' ydoedd yng Ngorsedd Caerfyrddin, 1819.Cyn hir, er hynny, dechreuodd ambell lywydd yng ngorseddau'r eisteddfodau taleithiol ddefnyddio'r term 'archdderwydd' ond Clwydfardd a gyfrifir yr Archdderwydd swyddogol cyntaf. Mynnai ef:'Penodwyd fi yn Archdderwydd ... yn y flwyddyn 1860; ond yn Eist. Wrexham yn y fl. 1876 y cefais fy nhrwyddedu yn Archdderwydd Gorsedd ... Beirdd Ynys Prydain.'Bu'n dal y swydd am weddill ei oes.Mae'r llu delweddau gweledol o'i olynydd, Hwfa Môn, (Rowland Williams) (1895-1915) yn tystio iddo dyfu'n eicon cenedlaethol. Ers 1936 tair blynedd yw hyd tymor swydd archdderwydd ond dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd bu Crwys (W.Crwys Williams) yn Archdderwydd am wyth mlynedd. Dim ond un Archdderwydd, sef Cynan (1950-54; 1963-66) sy wedi gwasanaethu am fwy nag un tymor. Fel y dwedodd Tilsli amdano, 'i lawer o bobl ef yn wir oedd Gorsedd y Beirdd' ac ef a wnaeth ddefodau'r Orsedd 'yn gredadwy a lliwgar'. Trwy ddylanwad Cynan yn Abergwaun, 1936, y cafwyd trefn ar seremoni urddo'r Archdderwydd pryd y caiff ei h/arwisgo â choron, dwyfronneg, teyrnwialen a modrwy ei swydd.Yn 1932 sefydlwyd rheol fod yn rhaid i Archdderwydd fod yn brifardd cadeiriog neu goronog. Erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain cytunwyd i gynnwys Prif Lenorion ymysg yr ymgeiswyr posibl a'r cyntaf i'w ethol o dan y drefn hon oedd Robyn Llŷn (Robyn Léwis) (2002-2005). Tua'r un cyfnod newidiwyd y drefn bleidleisio i gynnwys holl aelodau'r Orsedd ac nid Bwrdd yr Orsedd yn unig. (2002-05).Y CofiadurCofiadur Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yw Ysgrifennydd Bwrdd yr Orsedd ac ef/hi sy'n ei harolygu. Mae'n un o'r prif swyddogion ar y Maen Llog ac ef/hi sy'n gyfrifol am drefniadau'r seremonïau ar lwyfan y Brifwyl. Fe/hi sy'n Cyhoeddi Eisteddfod a Gorsedd flwyddyn a diwrnod ymlaen llaw. Ymddengys fod llyfrgell Gwynfe, (Cofiadur 1922-27), gan gynnwys Llyfr Cofnodion yr Orsedd rhwng 1888 a 1921, wedi'i gwerthu i'r Unol Daleithiau ac y mae'r ddogfen hanesyddol bwysig hon bellach yn Llyfrgell Prifysgol Havard a chopi ohoni gan y Llyfrgell Genedlaethol. Heb amheuaeth Cynan (1935-50; 1954-63; 1966-70) oedd Cofiadur mwya dylanwadol yr Orsedd yn yr ugeinfed ganrif. Tystiodd Ernest Roberts iddo droi'r Orsedd 'o fod yn rhyw bantomeim o weinidogion ac eraill i fod yn basiant urddasol'; ac 'o fod yn destun gwawd a chwerthin i fod yn sefydliad a ddenodd ysgolheigion Cymraeg a gwŷr proffesiynol o lawer cylch i dderbyn eu hanrhydeddu ac i gefnogi ei dibenion.' Ers ei ddyddiau ef mae'r Cofiaduron gwahanol wedi cynnal y safonau uchel hyn.Yr ArwyddfarddYr Arwyddfardd sy'n gofalu am ddodrefn a regalia'r Orsedd. Mae'n gyfrifol am orymdeithiau'r Orsedd a chynorthwyo'r Cofiadur gyda chyfarwyddo'r seremonïau. Caiff yntau'i gynorthwyo gan swyddogion eraill yr Orsedd: y Trefnydd Arholiadau, Meistres y Gwisgoedd a'i benodiadau ei hun - y Disteiniaid. Swydd a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydoedd. Yn sicr T.H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, a'r Arwyddfardd rhwng 1895-1915 a ddylanwadodd fwyaf ar seremonïau'r Orsedd. Trwy ei chwaeth artistig neilltuol diwygiodd a thrawsnewidiodd ei gwisgoedd a'i regalia a Chylch yr Orsedd.Arweiniai Sieffre o Gyfarthfa (y Capten Geoffrey Crawshay), Arwyddfardd 1925-1947, orymdeithiau'r Orsedd yn ddramatig iawn ar gefn ceffyl a gwisgai wisg marchogaeth ysblennydd. Cyhoeddodd nifer o bamffledi, â'r teitlau 'Aelodaeth', 'Seremoni'r Urddo' a.y.y.b. yn ystod ei dymor. Ar ei ymddeoliad yn 1947 cyflwynodd wialen bwrpasol at ddefnydd yr Arwyddfardd.Cyhoeddodd Dilwyn Cemais, Arwyddfardd 1966-1996 lyfr gwerthfawr yn Saesneg ar hanes Gorsedd y Beirdd, The Secret of the Bards of the Isle of Britain (Gwasg Dinefwr Press, 1992) a llyfr o'i atgofion, Atgofion Hen Arwyddfardd (Gwasg Gee, 1997).Meistres y GwisgoeddYn ei gwisg werdd-las lachar saif Meistres y Gwisgoedd ar wahân i aelodau a swyddogion eraill Gorsedd y Beirdd. Ei chyfrifoldeb hi yw gofalu am ansawdd yr urddwisgoedd ar gyfer pob seremoni orseddol gydol y flwyddyn ynghyd ag arwisgo'r beirdd a'r llenorion buddugol cyn eu cyrchu o gorff y Pafiliwn i lwyfan y Brifwyl ar gyfer eu seremonïau priodol.Daeth galw am swyddog o'r fath wedi i'r Orsedd fabwysiadu urddwisgoedd safonol tua 1900 a Mair Taliesin (Gwenddydd Morgan) oedd y gyntaf i gyflawni'r swyddogaeth.Fe'i holynwyd hi tua1923 gan Mam o Nedd - Winifred Coombe-Tennant (1874-1956), gwraig o Swydd Gaergrawnt a briododd â Charles Tennant, Cadoxton Lodge, Llangatwg. Buasai hi'n Gadeirydd Pwyllgor Celf a Chrefft Eisteddfod Castell-nedd 1918 a bu'n hallt ei beirniadaeth o ddiffyg urddas a blerwch Gorsedd y Beirdd yn ystod yr Ŵyl Gyhoeddi yn 1917. Gadawodd Mam o Nedd £5000 yn ei hewyllys tuag at drwsio ac adnewyddu'r gwisgoedd a'r regalia.Dengys adroddiadau blynyddol Siân Aman (Meistres y Gwisgoedd 1983 ymlaen) i Fwrdd yr Orsedd natur y swydd gyfrifol hon - nid yn unig y rheidrwydd i adnewyddu gwisgoedd yn flynyddol ond hefyd y galw cyson arni i siarad mewn cymdeithasau diwylliannol ledled Cymru am ei gwaith ac i egluro'i swyddogaeth.Ceidwad y CleddGofalu am Gleddyf yr Orsedd yn y gorymdeithiau a'r seremonïau yw swyddogaeth Ceidwad y Cledd. Mae'n cario'r Cleddyf o flaen yr Archdderwydd yn holl orymdeithiau'r Orsedd, a hynny bob amser gerfydd ei lafn ac nid gerfydd ei garn. Dyma'r swyddog cyntaf i'w enwi o blith y Gorseddogion oherwydd nodir yn 1819 mai Gwilym Morganwg (Thomas Williams) oedd y 'Cledd-gludydd' yng ngorsedd bwysig eisteddfod daleithiol Caerfyrddin. Yr enwocaf o Geidwaid diweddar y Cledd oedd y diweddar Ray Gravell.Menywod a'r OrseddO'r cychwyn cyntaf, o gofio ymlyniad Iolo Morganwg wrth egwyddor cydraddoldeb, ymdengys fod croeso i fenywod yn rhengoedd Gorsedd y Beirdd. Pan gynhaliwyd yr Orsedd gyntaf yn Llundain, ym Mehefin 1792, urddwyd Sarah Elizabeth Owen i Urdd Ofydd, yn anffodus, mae'n debyg, nid am ei bod yn fardd na llenor, ond am ei bod yn wraig i William Owen (Pughe).Y gyntaf i'w hurddo mewn Gorsedd yng Nghymru, yng Nghaerfyrddin yn 1819, oedd Elizabeth Jones, Eos Bele, eto nid oherwydd ei dawn fel bardd ond am fod Ifor Ceri y trefnydd â'i fryd ar ei phriodi! Yn eisteddfod daleithiol Powys yn 1821 urddwyd tair arall - Angharad Llwyd, hynafiaethydd galluog o Gaerwys, Hester Cotton, dysgwraig a hynafiaethydd a Mair Richards, telynores o Ddarowen. Mae adroddiadau'r eisteddfodau a'r gorseddau taleithiol wedi hyn yn nodi'n gyson fod menywod wedi'u hurddo a dilynwyd yr un patrwm gyda'r Gorseddau Cenedlaethol. Yn sgil hynny mae menywod wedi gwasanaethu fel cantorion, telynorion, cyflwynwyr y Corn Hirlas a'r Aberthged / Flodeuged, noddwyr, meistresi'r gwisgoedd, a merched y Ddawns Flodau yn seremonïau a defodau'r Orsedd.
Cleddyfau, cyrn a nodau cyfrin 25 Gorffennaf 2010 Cynllun T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd, o Gylch Meini'r Orsedd, 1901 Y Corn Gwlad 'A oes heddwch?' Y Cleddyf Mawr yn cael ei ddefnyddio yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2010 yng Nglyn Ebwy. Yr Archdderwydd Brinli (1972-75); Brinley Richards. Baner yr Orsedd yng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod 2011 yn Wrecsam Symbolau a regalia'r OrseddYn ystod y ddwy ganrif ers sefydlu'r Orsedd gyntaf, fe ddatblygodd yn ei seremoniau nifer o symbolau a regalia sydd wedi ychwanegu'n sylweddol at liw a chymeriad yr Eisteddfod.Yn y seremoni i gyhoeddi y bydd Eisteddfod a Gorsedd yn cael eu cynnal mewn man penodol ar ôl blwyddyn a diwrnod bydd Cofiadur yr Orsedd yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi.Defnyddiwyd Sgrôl yn 1791 cyn yr Orsedd gyntaf un. Yn y Sgrôl gyntaf hon gwelir nifer o nodweddion sgroliau diweddarach; nodir:y flwyddyn a'r tymor;ymhle y cynhelir yr Orsedd;na fydd 'noeth arf' yn erbyn y beirdd;rhai o'r cyswyneiriau a ddaeth yn rhan anhepgor o seremonïau'r Orsedd wedi hynny, megis: 'Yn Llygad Haul, wyneb Goleuni'; 'Duw a phob Daioni'.Ychwanegwyd y 'Nod Cyfrin' at Sgrôl y Cyhoeddi gan Talieisn ab Iolo yn 1833. Yn 1946 lluniodd yr arlunydd, Meirion Roberts, Sgrôl newydd hardd a rhoddwyd hi i'r Orsedd gan Mam o Nedd. Wrth ei dylunio mewn du, coch ac aur, llwyddodd Meirion Roberts i ymgorffori Cleddyf Mawr a Chorn Gwlad yr Orsedd ac arfbais Tywysogion Gwynedd yn y brif lythyren Geltaidd addurniedig. O amgylch y testun cyflwynodd arfbeisiau tair sir ar ddeg Cymru (cyn 1974); dail derw, mes a draig goch ond nid yw'r Nod Cyfrin ar y Sgrol o gwbl.Y Corn GwladMae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan anhepgor o ddefodaeth yr Orsedd yng nghylch yr Orsedd ac yn arbennig wrth iddynt alw'r buddugwyr i lwyfan y genedlaethol.Does dim sicrwydd pryd y cynhwyswyd ffanffer Corn Gwlad gyntaf yn y seremonïau ond erbyn yr 1860au roedd 'udganiad yr udgorn' yn rhan 'arferol' o ddefod y Maen Llog.Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Edward Jones, Maer Pwllheli, Gorn Gwlad arian at ddefnydd yr Orsedd. Yna, yn 1900 nododd Alicia A. Needham, cyfansoddwraig Wyddelig ei bod wedi archebu trwmped arian newydd ag arno faner y ddraig goch. Meddai:'I know it will look much more dignified and appropriate than the Cornet which was used at Cardiff, and which seemed altogether too modern.'Cynlluniwyd gŵn a chapan yr utganwr gan Isaac Williams, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1923.Bu aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig yn utganwyr cyson wedi'r Ail Ryfel Byd ac yn 1947 cyfansoddodd Haydn Morris (Haydn Bencerdd) ffanffer ar gyfer yr amryfal seremonïau. Ers hynny gwasanaethwyd yr Orsedd gan nifer o utganwyr. Erbyn hyn roedd pâr o utgyrn arian o seremoni Goroni'r Frenhines (1953) yn cael eu defnyddio. Cyflwynwyd hwy i'r Orsedd gan Gronfa Goffa y cyn-Arwyddfardd, Sieffre o Gyfarthfa a brodiwyd y banerigau pendant gan Miss Iles, Brynsiencyn.Y Cleddyf MawrUn o ddefodau hynaf yr Orsedd yw seremoni dadweinio'r Cleddyf Mawr yn rhannol. Bydd yr Archdderwydd yn datgan y cyswyneiriau canlynol a'r gynulleidfa yn ateb 'Heddwch' iddynt deirgwaith:'Y gwir yn erbyn y byd, A oes Heddwch? Calon wrth galon, A oes Heddwch? Gwaedd uwch adwaedd, A oes Heddwch?'Yr oedd cario cleddyf yn rhan o ddefodaeth Gorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792. Fel heddychwr pwsyleisiai Iolo mai mewn heddwch yr ymgynullai beirdd Gorsedd Ynys Prydain a phan osodwyd cleddyf noeth ar Faen yr Orsedd cynorthwyodd y beirdd oedd yn bresennol i wisgo'r wain amdano fel arwydd o Heddwch yng Ngorsedd. Defod ar wahân oedd yr un lle gelwid allan am 'Heddwch' ar y dechrau ond yn raddol daethpwyd i'w chysylltu â defod y cleddyf.Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Phillip Yorke o Blas Erddig gleddyf seremonïol a ddefnyddiwyd tan droad y ganrif. Yna, yng Nghaerdydd, 1899, cynlluniodd yr Athro Hubert Herkomer Gleddyf Mawr ar gyfer Gorsedd y Beirdd. Eglurodd symboliaeth y cynllun:crisial naturiol y carn yn cynrychioli cyfriniaeth;y tair llinell sanctaidd yn cynrychioli'r ymdrech gyntaf i ysgrifennu 'Iehofa';y ddraig - i'w gwarchod.Ar y wain roedd y cyswyneiriau: 'Y gwir yn erbyn y byd' (cyswynair Gorsedd Beirdd Ynys Prydain) 'Duw a phob Daioni' (Cadair Morgannwg a Gwent) 'Calon wrth Galon' (Cadair Dyfed) 'A Laddo a Leddir' (Cadair Powys) 'Iesu na ad gamwaith' (Cadair Gwynedd).Dyma'r Cleddyf Mawr a ddefnyddir heddiw.Y Nod CyfrinY Nod Cyfrin neu y Nod Pelydr Goleuni - symbol /|\ a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli rhinweddau Cariad, Cyfiawnder a Gwirionedd.Eto, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddefnydd o'r symbol, ond wedi iddo farw daeth yn fwyfwy poblogaidd. Fe'i gwelwyd am y tro cyntaf ar Sgrôl y Cyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833. Erbyn 1850 roedd ar y baneri a welid mewn gorseddau ac o tua 1860 ymlaen ar dystysgrifau urddo aelodau newydd.Erbyn diwedd y ganrif yr oedd yn symbol cymeradwy ar gyfer Gorsedd y Beirdd ac yn ymddangos ar drefnlenni'i seremonïau, ar y Faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar feini'r Orsedd.Ers y 1950au penderfynwyd fod yn rhaid cynnwys symbol y Nod Cyfrin ar bob Cadair a Choron genedlaethol.Baner yr OrseddYmddengys rhyw fath o faner yn nifer o seremonïau gorseddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gellir gweld baner syml ag arni 'Gorsedd Beirdd Ynys Prydain' mewn darlun o Orsedd Aberhonddu, 1889.Fodd bynnag, y Faner swyddogol gyntaf oedd yr un a ddyluniwyd gan yr Arwyddfardd, T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, ar gyfer Gorsedd Llandudno yn 1896. Meddai:'In the upper part is seen the sun symbolising celestial light, bearing upon it the golden dragon, at once a symbol of energy and the badge of Cambrian nationality; from the sun emerge golden rays, three of which are prolonged downwards forming the 'Nod Cyfrin' of the 'Awen'. ... The lower part of the design represents, in symbol, the Gorsedd of the Bards of the Isle of Britain ... Around the 'Maen Llog' are the twelve 'meini gwynion'; ... Upon the 'Maen Llog' may rest a sheathed sword... Around the Gorsedd Circle are deposited the plants representing the 'Alban' - trefoil, vervain, corn and mistletoe. The whole design is surrounded by a wide decorative border of oak leaves with acorns from which at parts mistletoe arises.'Mae'r holl ddelweddau ar gefndir o sidan asur a cheir y cyswyneiriau 'Y gwir yn erbyn y byd'; 'Yn Wyneb Haul Llygad Goleuni'; a 'Heddwch' arni mewn aur. Miss Lena Evans (Brodes Dâr) a'i brodiodd ac fe'i noddwyd gan Syr Arthur Stepney, Llanelli.Erbyn hyn mae'r faner wreiddiol wedi'i hadnewyddu sawl tro ond erys yn ffyddlon i'r cynllun hwn. Lerpwl, 1884 - y gorseddogion mewn ffedogau a sasys fel rhai'r Cymdeithasau Cyfeillgar. Yn y canol mae: Hwfa Môn a Clwydfardd. Braslun o wisg a phenwisg newydd yr Orsedd yn llawysgrifau T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, c.1895.
Gorseddau y tu hwnt i Gymru 25 Gorffennaf 2010 Cyfarfod cyhoeddus cyntaf Gorsedd Llydaw, Brignogan, 1903. Gorseddau y tu hwnt i Gymru Seremonïau lliwgar a deniadol yw'r rhai a gynhelir yng Nghylch yr Orsedd fore Llun ac ar lwyfan y Pafiliwn yn y prynhawn, cyn y Coroni (ers 1954), pan groesewir cynrychiolwyr o'r Gwledydd Celtaidd a chyfeillion eraill i ymuno yn nefodau'r Orsedd. Bydd cynrychiolwyr yn bresennol gan amlaf o Lydaw, Cernyw, Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw ac hefyd o Batagonia a bydd cynrychiolwyr o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn mynychu eu gwyliau hwy yn eu tro. Dim ond mewn dwy o'r gwledydd Celtaidd er hynny y mae Gorsedd gyffelyb i un Cymru, sef yn Llydaw a Chernyw. Fe'u cyfrifir yn is-Orseddau ac mae Archdderwydd Cymru yn bennaeth dros y gorseddau hyn i gyd. Gorsedd Llydaw Roedd y diddordeb yn y byd Celtaidd yn Llydaw wedi'i ail-gynnau ers ymweliad le Villemarqué ag Eisteddfod y Fenni yn 1838 a defod priodi'r ddau hanner cleddyf eisoes yn boblogaidd cyn i ddirprwyaeth o Lydaw ymweld ag Eisteddfod Caerdydd yn 1899. Yna, yn 1900, penderfynwyd sefydlu Gorsedd Llydaw - ,em>Gorsedd Barzed Gourenez Breiz-Izel - ac apwyntiwyd Ar Fusteg yn Dderwydd Mawr a Taldir yn Arwyddfardd. Yn 1903, yn Brignonan y gwelwyd seremoni gyhoeddus gyntaf Gorsedd Llydaw. Am resymau gwleidyddol a chrefyddol bu cryn ymgecru yn rhengoedd yr Orsedd ar hyd y daith. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyhuddwyd rhai o'r Llydawyr, gan gynnwys Taldir, o gydweithio â llywodraeth Vichy ac ar derfyn y Rhyfel fe'u carcharwyd. Pan rhyddhawyd Taldir bu'n rhaid iddo ymneilltuo i Ogledd Africa a daeth Eostig Sarzhaw yn Dderwydd Mawr (dirprwyol) yn ei le. Ond roedd tuedd rhai aelodau fwyfwy at Dderwyddiaeth a mynychu cyfarfodydd Côr y Cewri, yn hytrach nag at Gymru bellach. I ddyfynnu Zonia Bowen am 'hanes trychinebus' Gorsedd Llydaw - nid oes ganddi "raison d'être" tebyg i draddodiad barddol Cymru na chyswllt â chorff tebyg i'r Eisteddfod Genedlaethol. Eto yr Orsedd yw'r gymdeithas hwyaf ei pharhâd yn hanes cythryblus y genedl Lydewig. Gwisga Derwydd Mawr Llydaw goron arian o ddail uchelwydd. Gorsedd Gâl Sefydlwyd yr Orsedd yn 1923 ar y sail fod Gâl yn rhanbarth Celtaidd cyn dyfodiad y Rhufeiniaid ond erbyn 1939 roedd wedi chwythu'i phlwc. Gorsedd Cernyw Ers troad yr ugeinfed ganrif roedd rhywfaint o adfywiad wedi bod yn yr iaith Gernyweg yn enwedig trwy waith Henry Jenner, Ceidwad Llawysgrifau'r Amgueddfa Brydeinig. Sefydlwyd nifer o gymdeithasau 'Old Cornwall' ac yn Eisteddfod Treorci yn 1928 derbyniwyd wyth o wŷr o Gernyw yn aelodau o Orsedd y Beirdd. Ym mis Medi 1928 yn Boscawen Un y cynhaliwyd seremoni gyntaf Gorsedd Cernyw - Gorseth Kernow - ac urddwyd Henry Jenner yn Fardd Mawr cyntaf Cernyw. Un urdd, Urdd Bardd, mewn gwisg las, yn unig sy yng Ngorsedd Cernyw. Gwisga'r Bardd Mawr goron o ddail derw a dwyfronneg. Gorsedd Gogledd America Sefydlwyd Is-Orsedd Gogledd America yn Eisteddfod Pittsburg gan yr Archdderwydd Dyfed yn 1913 a'i Harchddewrydd dirprwyol oedd Thomas Edwards - Cynonfardd o Lan-dŵr, Abertawe. Erbyn 1946 yr oedd wedi dod i ben. Gorsedd y Wladfa Gutyn Ebrill (Griffith Griffiths, 1829-1909) oedd syflaenydd Gorsedd y Beirdd yn y Wladfa. Bu Caeron (W.H.Hughes) a Prysor (William Williams) yn gwasanaethu ar ei ôl ond ystyrient hwy mai dirprwy-archdderwyddon oeddynt, o ran statws, i archdderwyddon Cymru. Wedi marw Prysor yn 1945 ymddangosai fel petai Gorsedd y Wladfa am fynd i'r gwellt. Yna, ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, dan archdderwyddiaeth Meirion, gwelwyd adferiad a dechreuodd cynrychiolwyr o'r Wladfa fynychu Eisteddfodau a Gorseddau Cenedlaethol Cymru drachefn.