: Bywyd Cartref a Gwisgoedd

Yr Hawl i Bleidleisio: Yr Ymgyrch yng Nghymru

Elen Phillips, 1 Chwefror 2018

Am wyth o'r gloch y nos ar y chweched o Chwefror, 1918, derbyniwyd Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl, trwy gydnabyddiaeth frenhinol yn San Steffan. Golygai hyn fod rhai menywod, ar ôl bron i ganrif o ymgyrchu, 'nawr yn cael pleidleisio.

Rydym wedi hen arfer gweld lluniau o'r 'Syffrajetiaid' yn gorymdeithio yn Llundain, ond beth am yr ymgyrch yng Nghymru?

Dull di-drais

Er mai hynt a helynt y swffragetiaid oedd yn hawlio sylw’r wasg, roedd mwy o lawer o ‘suffragists’ yn bodoli yng Nghymru. Roedd y ‘suffragists’ yn credu mewn gweithredu heddychlon a newid y drefn drwy ddulliau cyfansoddiadol. Yn eu plith, roedd aelodau’r Cardiff & District Women’s Suffrage Society. Hon oedd y gangen fwyaf o’r National Union of Women's Suffrage Societies tu allan i Lundain.

Rose Mabel Lewis (Greenmeadow, Tongwynlais) oedd wrth y llyw yng Nghaerdydd – neu Mrs Henry Lewis fel y cyfeirir ati yn nogfennaeth yr Amgueddfa! Yn gyffredinol, roedd aelodau blaenllaw'r gangen yn fenywod dosbarth canol a oedd yn adnabyddus o fewn mudiadau a chylchoedd cymdeithasol y ddinas. I godi ymwybyddiaeth o’u hachos ac i lenwi coffrau’r gangen, roedden nhw’n cynnal digwyddiadau ac yn gwerthu copïau o gylchgrawn y mudiad, The Common Cause. Mae adroddiad blynyddol y gangen ar gyfer 1911-12 yn rhestru gweithgareddau di-ri, yn eu plith dawns gwisg ffansi, gyrfa chwist a ffair sborion. Yn y flwyddyn honno, dyblodd nifer aelodau’r gangen i 920.

Crefft ymgyrchu

Baner Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch. Gwnaed gan Rose Mabel Lewis, Llywydd y Gymdeithas.

Baner Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch. Gwnaed gan Rose Mabel Lewis, Llywydd y Gymdeithas

Rose Mabel Lewis bwythodd y faner sidan sydd bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa – enghraifft bwerus o rym y nodwydd fel arf i ledaenu neges ac i fynegi barn. Er nad ydym yn gwybod union ddyddiad y faner, rydym yn sicr iddi gael ei defnyddio mewn protest yn 1911. Ar 17 Mehefin y flwyddyn honno, arweiniodd Rose Mabel fenywod de Cymru yn y Women’s Coronation Procession yn Llundain. Mae dogfennau derbynodi’r faner yn cynnwys nodyn o eglurhad gan un o gyn-aelodau’r gangen:

The banner was worked by Mrs Henry Lewis… [she] was also President of the South Wales Federation of Women’s Suffrage Societies + she led the S. Wales section of the great Suffrage Procession in London on June 17th 1911, walking in front of her own beautiful banner… It was a great occasion, some 40,000 to 50,000 men + women taking part in the walk from Whitehall through Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly to the Albert Hall. The dragon attracted much attention – “Here comes the Devil” was the greeting of one group of on lookers”.

Roedd baneri fel hyn yn rhan ganolog o ddiwylliant gweledol y mudiad pleidlais i fenywod, ac mae nifer ohonynt i'w canfod mewn amgueddfeydd ac archifdai, gan gynnwys Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Roedd trefnwyr gorymdaith fawr 1911 yn disgwyl dros 900 o faneri ar y dydd!

Dwy flynedd yn ddiweddarach, yng Ngorffennaf 1913, gwelwyd y faner ar strydoedd Caerdydd fel rhan o orymdaith yn y brifddinas i nodi’r Bererindod Fawr i Lundain (the Great Suffrage Pilgrimage). Yng nghasgliad yr amgueddfa, 'mae lluniau anhygoel o Rose Mabel Lewis, ac aelodau eraill y gangen, wedi ymgynnull gyda’r faner tu allan i Neuadd y Ddinas ym Marc Cathays:

Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au.

Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au

Yn ôl adroddiad blynyddol 1913-14, roedd rhai o’r aelodau yn betrusgar ynglyn â’r orymdaith, ond wedi eu bywiogi ar ôl derbyn ymateb ffafriol ar y dydd:

It was with misgivings that some members agreed to take part in the procession, but afterwards their enthusiasm aroused and the desire to do something more in the future. The march was useful in drawing the attention of many people to the existance of our society.

Creu Hanes: Sain Ffagan a’r canmlwyddiant

Yn 2018, bydd y faner i’w gweld yng Nghaerdydd unwaith eto – nid mewn rali y tro hwn, ond ymhlith llwyth o wrthrychau arwyddocaol yn ein hanes cenedlaethol fydd i’w canfod mewn oriel newydd yma yn yr Amgueddfa Werin – penllanw ein prosiect ail-ddatblygu, Creu Hanes.

Hyd y gwyddom, nid yw'r faner wedi bod ar arddangos ers iddi gael ei rhoi i'r casgliad yn 1950 gan y Cardiff Women Citizens' Association. Ar y pryd, ysgrifennodd drysorydd y gymdeithas honno lythyr at Dr Iorwerth Peate yn mynegi eu balchder fod y faner bellach ar gof a chadw yn Sain Ffagan:

A cordial vote of thanks was accorded to you for realising how much the Suffrage Cause meant to women and for granting a memorial of it in the shape of the banner to remain in the Museum.

Ymysg casgliadau'r amgueddfa am y cyfnod, 'mae llythyrau ac adroddiadau gan yr NUWSS, yn ogystal â doli wrth-syffrajet anghyffredin o orllewin Cymru.

Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au.

Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au

Ffynonellau cynradd:

National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1911-12 (Amgueddfa Werin Cymru).

National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1913-14 (Amgueddfa Werin Cymru).

Dogfennau derbynodi 50.118 (Amgueddfa Werin Cymru).

Ffynonellau eilradd:

Kay Cook a Neil Evans, 'The Petty Antics of the Bell-Ringing Boisterous Band'? The Women's Suffrage Movement in Wales, 1890 - 1918' yn Angela V. John (gol.), Our Mothers' Land Chapters in Welsh Women's History 1830 - 1939 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).

Ryland Wallace, The Women's Suffrage Movement in Wales 1866 - 1928 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2009).

Cwestiynau Cyffredin: Y Wisg Gymreig

14 Mehefin 2014

Hen lun lliw o ferch mewn het Gymreig a siôl, yn dal basged.

Oes ffasiwn beth â gwisg genedlaethol Gymreig?

Mae'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg 'genedlaethol' Gymreig, sef gwraig mewn clogyn coch a het ddu uchel, yn deillio o wahanol ddylanwadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhan ydoedd o ymgais i roi hwb i ddiwylliant Cymreig mewn cyfnod pan oedd gwerthoedd traddodiadol o dan fygythiad.

O ble ddaeth y steil 'genedlaethol' Gymreig?

Mae'r wisg sy'n cael ei hystyried yn wisg genedlaethol wedi'i seilio ar y dillad a wisgid gan wragedd cefn gwlad Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef pais wlanen resog a wisgid o dan goban neu wn agored, gyda ffedog, siôl a hances neu gap. Roedd steil y gwn yn amrywio - gellid cael gwn llac fel côt, gwn gyda bodis wedi'i ffitio a sgert hir a hefyd gwn byr, a oedd yn debyg iawn i wisg farchogaeth.

 

Ffotograff sepia o ddynes yn gwisgo het Gymreig uchel, yn sefyll yn erbyn cefndir o olygfa arfordirol, gydag un llaw ar ei chlun a'r llall yn gorffwys ar fasged.

Oedd menywod yn gwisgo hetiau tal, du, go iawn?

Roedd yr hetiau a wisgid yn gyffredinol yn y cyfnod hwn yr un fath â hetiau'r dynion. Nid ymddangosodd yr het uchel math 'simnai' tan ddiwedd y 1840au ac ymddengys iddi gael ei seilio ar gyfuniad o'r hetiau uchel a wisgid gan ddynion, sef y 'top hat' a math o het uchel a wisgid mewn ardaloedd cefn gwlad yn ystod y cyfnod 1790-1820.

 

Pwy oedd yn gyfrifol am boblogeiddio'r ffasiwn?

Bu Augusta Hall, gwraig i un o feistri haearn Gwent ac Arglwyddes Llanofer, yn frwd dros wisg 'genedlaethol' a byddai'n annog pobl i'w gwisgo yn ei chartref ac mewn eisteddfodau. Credai ei bod yn bwysig annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac i wisgo dillad nodweddiadol Gymreig. Llwyddodd yn hyn o beth, a hynny'n bennaf oherwydd fod pobl yn teimlo bod eu hunaniaeth genedlaethol o dan fygythiad. Roedd gwisgo gwisg genedlaethol yn un ffordd o hyrwyddo'r hunaniaeth honno.

Dylanwad pellach oedd gwaith yr arlunwyr a gynhyrchai brintiau i'r fasnach ymwelwyr a oedd yn prysur dyfu, ac a arweiniodd at boblogeiddio'r syniad o wisg Gymreig draddodiadol, ac yn ddiweddarach waith y ffotograffwyr a gynhyrchai filoedd o gardiau post. Arweiniodd hyn at greu un math o wisg ystrydebol yn hytrach na'r steiliau amrywiol a geid yn gynharach yn y ganrif.

 

Hen lun du a gwyn o ddyn yn eistedd mewn siwt a dynes yn sefyll gyda siôl batrymog.

O ble ddaeth y patrymau sydd ar 'siol Gymreig'?

Rhwng 1840 a 1870 y siôl oedd y gyfwisg fwyaf ffasiynol. Y sioliau mwyaf poblogaidd oedd y sioliau Paisley, y daeth y patrwm gwreiddiol ar eu cyfer o Kashmir yn India.

Y sioliau mwyaf cyffredin ar y cychwyn oedd sioliau plaen ag ymyl patrymog wedi'i gysylltu wrthynt. Yn ddiweddarch, cafodd llawer math o sioliau cain gyda phatrymau ar yr ymyl neu dros y cyfan eu gwehyddu yn Norfolk, yr Alban a Pharis. Erbyn canol y ganrif ceid sioliau mawr iawn i gyd fynd â sgertiau llawn y cyfnod. Câi sioliau eu gwneud mewn ffabrigau a phatrymau eraill, gan gynnwys sidan Canton a les cain a wnaed â pheiriant, er mai'r patrwm Paisley a sioliau gwlân cartref gyda phatrymau sgwarog a ddaeth yn boblogaidd yng Nghymru.

Oedd menywod Cymreig yn gisgo siôl?

Yn ddiweddarach, er nad oedd gwragedd ffasiynol bellach yn gwisgo sioliau, byddai gwragedd cefn gwlad a gweithwragedd y trefi'n dal i wneud a gwisgo sioliau llai o faint. Erbyn y 1870au cynhyrchid sioliau rhatach drwy brintio'r patrymau ar wlanoedd main neu gotwm. Roedd sioliau gwlân, gwau a Paisley'n gyffredin yn ardaloedd cefn gwlad Cymru hyd yn oed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Cafodd y siôl Paisley ei derbyn yn rhan o'r wisg 'Gymreig', er nad oes dim yn draddodiadol Gymreig yn ei chylch.

A ddefnyddiwyd y siol Gymreig i gario babi?

Ffotograff du a gwyn o fenyw gyda babi wedi'i lapio yn ei siôl.

Un traddodiad sy'n wirioneddol Gymreig yw'r arfer o gario babanod mewn siôl . Ceir darluniau yn portreadu hyn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif pan arferai gwragedd Cymru wisgo darn syml o ddefnydd wedi'i glymu am eu cyrff. Pan ddaeth sioliau'n boblogaidd gwnaed yr un defnydd ohonynt ac mae rhai gwragedd hyd heddiw yn dal i lynu at y traddodiad hwn.

 

Darganfod mwy am Hanes Menywod Cymru.

Y Wisg Gymreig 'Go Iawn'?

6 Gorffennaf 2007

Mae'r darlun o'r 'Wisg Gymreig', sef het ddu dal, siôl goch a sgert wlanen yn adnabyddus iawn. Daeth i gael ei nabod fel gwisg genedlaethol Cymru. Ond ai dyma oedd merched yn ei wisgo slawer dydd go iawn?

Braslun dyfrlliw o Gymraes yn gwau, yn dangos sanau heb draed, canol y 19eg ganrif

Braslun dyfrlliw o Gymraes yn gwau, yn dangos sanau heb draed, canol y 19eg ganrif

Beth yw gwisg genedlaethol?

Mae haneswyr yn gorfod defnyddio gwahanol fathau o wybodaeth i ganfod beth oedd pobl yn ei wisgo bob dydd go iawn. Crewyd gwisg genedlaethol o'r dillad yr oedd merched cefn gwlad yn eu gwisgo. Mae hyn wedi sicrhau bod sawl rhan o'r 'wisg Gymreig' yn arfer cael eu gwisgo gan ferched Cymru.

Ffynonellau gwybodaeth cynnar

Er mwyn gwybod yn iawn beth roedd pobl yn ei wisgo yng nghefn gwlad yn y 18fed a'r 19eg ganrif, mae'n rhaid ymchwilio i ffynonellau o'r cyfnod hwnnw. Yn achos y cyfnodau cynharaf, adroddiadau, dyddiaduron a llythyron teithwyr yng Nghymru ar ffurf llawysgrifau a llyfrau, ynghyd â darluniau gan arlunwyr a deithiai trwy Gymru yw'r prif ffynonellau.

O'r 1830au ymlaen, ceir mwy o adroddiadau gan drigolion Cymru a phobl oedd yn ymddiddori yn yr iaith Gymraeg a'r ffyrdd traddodiadol o fyw, nid arlunwyr a haneswyr yn unig, ond pobl fel Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer.

Twristiaeth dorfol

Cyn diwedd y ganrif, gyda dyfodiad y rheilffyrdd, gwelwyd dechreuadau twristiaeth dorfol, a daeth galw am brintiau, llestri ac, yn nes ymlaen, gardiau post, i gofio'r gwyliau. Mae'n dda bod gan lawer o ffotograffwyr wir ddiddordeb yn y diwylliant traddodiadol, crefftau gwledig ac amaethyddiaeth. Maent wedi cofnodi cymdeithas goll a, thrwy hynny, eu dillad. Mae'r rhan fwyaf o'r dillad a welir mewn casgliadau amgueddfeydd heddiw yn dod o ganol y 19eg ganrif ac wedyn.

Ystyriwch yn ofalus

Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn wrth ystyried yr holl ffynonellau hyn. Dieithriaid sy'n gyfrifol am bron yr holl ffynonellau ysgrifenedig ac maent yn tueddu i ganolbwyntio ar yr hynod a'r anghyffredin. Gall darluniau gael eu rhamanteiddio ac yn aml mae ffotograffwyr yn trefnu i'w lluniau ddangos yr hyn y dymunant ei weld. Tua dechrau'r 19eg ganrif, roedd gan bobl ddiddordeb mawr yn nelwedd y Cymry ac arweiniodd hyn at greu gwisg genedlaethol 'safonol', artiffisial fel na wyddem am flynyddoedd lawer bod gwisg y Cymry gwledig mewn gwirionedd yn amrywiol iawn.

Dillad cefn gwlad

Trwy ddadansoddi'n ofalus, cawn dystiolaeth o'r hyn yr oedd pobl yn ei wisgo yn eu bywyd bob dydd, yn enwedig i weithio. Yn sicr, mae modd gwybod beth oedd rhai elfennau o ddillad y Cymry cefn gwlad. Er enghraifft, gwnaed llawer o ddefnydd o wlân a byddai menywod yn gwisgo ffedogau, ffunennau a hetiau dynion. Parhaodd elfennau o hyn yng nghefn gwlad hyd yn oed i mewn i'r 20fed ganrif.

Dillad gwaith ynteu wisg genedlaethol?

Ffedogau a siolau yw'r unig ddillad y mae llaweroedd ohonynt wedi goroesi. Fe rheol, byddai ffrogiau a sgerti'n treulio neu'n cael eu hailddefnyddio fel rhacs. Nid yw hyn yn syndod o gofio cyflwr rhai a ddangosir mewn ffotograffau. Mae nifer o beisiau gwlanen gennym o hyd hefyd, efallai gan fod y sgerti'n eu gwarchod rhag traul. Cedwir llawer o'r rhain mewn casgliadau amgueddfeydd fel enghreifftiau o'r 'wisg Gymreig' ond, mewn gwirionedd, nid oeddent yn perthyn i 'wisg draddodiadol' ymwybodol o gwbl, ond yn ddillad y byddai pobl cefn gwlad yn eu gwisgo'n naturiol.

Disgleirdeb a Swyn - gwisgoedd nodedig Casgliad Tredegar

11 Ebrill 2007

Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow.

Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow.

G?n llys o sidan caerog glas

G?n llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (g?n ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed tua 1730-40.

Byddai'r wisg ysblennydd hon wedi cael ei gwisgo ar achlysur cyflwyno'r sawl a'i gwisgai i'r llys.

Byddai'r wisg ysblennydd hon wedi cael ei gwisgo ar achlysur cyflwyno'r sawl a'i gwisgai i'r llys.

Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725.

Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725.

Am ddisgleirdeb a swyn, nid oes angen chwilio y tu hwnt i Gasgliad Tredegar. Cyflwynwyd y casgliad trawiadol hwn o wisgoedd o'r 18fed ganrif i'r Amgueddfa ym 1923 gan Courtenay Morgan, a adwaenir hefyd fel Arglwydd Tredegar. Roedd y casgliad yn eiddo i'w gyndeidiau cyfoethog a oedd am ddangos eu cyfoeth a'u pŵer. Cynlluniwyd pob dilledyn i syfrdanu.

Er mai teulu'r Morganiaid oedd perchnogion Tŷ Tredegar ger Casnewydd, roeddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn Llundain. I'r boneddigion, y brifddinas oedd yr atyniad mwyaf. Gerddi pleser, operâu a chynulliadau - cymdeithasu oedd canolbwynt eu bywydau.

Parti brenhinol cyntaf

Mae'n debygol mai yn Llundain y gwnaethpwyd gwisgoedd Tredegar, gan ddefnyddio'r damasg a'r sidanau brocêd gorau y gellid eu prynu ag arian. Mae'r wisg mwyaf cain yn y casgliad yn dyddio o tua gynnar yn y 1720au. Awgryma crandrwydd y wisg las â'r blaen agored - a elwir yn mantua yn aml - ei bod wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer parti brenhinol cyntaf merch ifanc. Mae'r gwaith manwl yn goeth a chain, ar y blaen a'r cefn. Yn wreiddiol, roedd y wisg yn hirach o lawer, ond torrwyd rhan fawr i ffwrdd yn ystod y 1800au, ar gyfer parti gwisg ffansi mae'n debyg.

Corsedau o asgwrn morfil

Roedd gwisgoedd fel yr un yma'n lletchwith iawn i'w gwisgo. Er mwyn cyflawni'r ffasiwn ormodol, gwisgai'r menywod beisiau crwn, llydan i gynyddu lled y sgertiau. Gwisgent hefyd gorsedau tynn wedi'u hatgyfnerthu ag asgwrn morfil o dan eu gwisgoedd. Roedd corsedau'n cynorthwyo i sicrhau osgo da trwy wasgu rhan uchaf y corff i siâp. Roedd steil yn bwysicach na chysur.

Gwnaethpwyd y ffrog-côt eurbleth felen hon yn gynnar yn y 1720au. Mae'r cynllun blodeuog yn nodweddiadol o'r cyfnod, fel y mae'r lliw melyn llachar.

Darllen Cefndir

M. R. Apted, 'Social Conditions at Tredegar House, Newport, in the 17th and 18th Centuries', The Monmouthshire Antiquary 3:2 (1972-3), pp. 124-54.

Janet Arnold, 'A Court Mantua of c. 1740', Costume: Journal of the Costume Society 6 (1972), pp. 48-52.

Avril Hart & Susan North, Historical Fashion in Detail: The 17th and 18th Centuries (London: V & A Publications, 1998).