Cerdyn Nadolig oddi wrth Athro'r Ardd Mari Gordon, 12 Rhagfyr 2008 Hoffwn ddymuno Nadolig llawen i'r holl ddisgyblion sy'n helpu eleni!Rydw i wrth fy modd ar yr holl gofnodion tywydd sydd wedi dod i mewn yn barod.Ydych chi'n hoffi fy het Nadoligaidd? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y gwyliau! Ddim yn hir i fynd nawr. Rwy'n edrych ymlaen at ymlacio a threulio amser gyda'r teulu a'r planhigion eraill. Tybed a gawn ni eira dros y Nadolig eleni?Gobeithio'n fawr y cewch chi wyliau bendigedig ac y daw'ch holl ddymuniadau'n wir!Cofion cynnesAthro'r Ardd
Blog bylbiau Danielle Cowell, 3 Tachwedd 2008 Plannu er mwyn y blaned!Mae 3,743 o ddisgyblion o 91 ysgol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan yn archwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni. Ar ddydd Llun 20 Hydref plannodd pob disgybl fylbiau crocysau a chennin Pedr i ddechrau’r ymchwiliad hwn - sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn - i’r newid yn yr hinsawdd.Dros y misoedd nesaf bydd pob un o’r ysgolion yn cadw cofnodion am y tywydd, ac yn nodi pryd fydd eu blodau’n agor, fel rhan o astudiaeth tymor-hir i edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.Siarad ag Athro’r Ardd:Byddai Athro’r Ardd wrth ei fodd i wybod sut hwyl gawsoch chi gyda’r plannu. Gadewch i ni wybod beth wnaethoch chi yn yr ysgol neu beth am anfon ambell ffotograff?Diogelwch ar y we:Ni fydd enwau’r plant yn cael eu cyhoeddi. Wrth adael neges, cofiwch gynnwys enw eich ysgol. Bydd eich neges yn ymddangos fel 'disgyblion o' ac 'enw eich ysgol'. Gofynnwch am ganiatâd eich athro cyn anfon neges neu ffotograff.
Newid yn yr hinsawdd: beth sy'n digwydd? Danielle Cowell, 29 Hydref 2008 Pobl yw’r ‘bygythiad mwyaf i’r byd'Nid oes gan brif wyddonwyr y byd unrhyw amheuaeth bod gweithgarwch dynol yn newid ein hinsawdd. Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd mae’r dystiolaeth yn ‘ddiamwys’ mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol am y cynhesu sydd wedi digwydd ers dechrau’r oes ddiwydiannol.Beth ydych chi’n meddwl y dylen ni fod yn ei wneud i daclo’r newid yn yr hinsawdd?Pa gwestiynau sydd gennych chi?Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth. Y cam cyntaf yw deall newid yn yr hinsawdd.Mae Amgueddfa Cymru a Science Shops Wales yn mynd ag arddangosfa a sgyrsiau ar daith i dynnu sylw at y newid yn yr hinsawdd. I gael rhagor o wybodaeth,e- scan@amgueddfacymru.ac.uk
Blog y Bwydydd Adar Gareth Bonello, 17 Hydref 2008 Helo ’na bawb! Gobeithio eich bod chi’n mwynhau gwylio’r camera natur nawr ei fod yn gweithio’n iawn. Mae hi wastad yn brysur wrth y bwydwr adar ar y foment, felly mae yna digon i’ch diddori (neu os ’da’ch chi fel fi, i dynnu’ch sylw bant o’r gwaith!) am oriau. Mae’r bwydydd yn boblogaidd iawn gyda’r titw mawr, y titw las a’r titw penddu yn ogystal â’r llinos werdd, y ji-binc ac aderyn y to. Mae telor y cnau a’r robin goch hefyd yn ymweld yn rheolaidd ond anaml y ceir ymweliad gan y nico neu goch y berllan. Mae’r bwydydd hefyd yn denu’r gwiwerod lleol, ac er eu bod nhw’n ychydig o boendod i’r adar mae’n eithaf difyr gwylio eu hymdrechion acrobatig i gyrraedd y bwyd!
Ffeindio Ffwng Gareth Bonello, 17 Hydref 2008 Yr hydref yw’r amser gorau o’r flwyddyn i chwilio am ffwng gan fod llawer o’r sbardunau ffrwytho (y siapau diddorol sydd i’w gweld uwchben y ddaear) yn tyfu ar y foment. Felly ’dwi wedi penderfynu postio lluniau o fadarch a caws lyffant ar y blog yma trwy gydol y tymor. Mwynhewch!