Addysg

Eira!

Gareth Bonello, 5 Chwefror 2009

Yn debyg i gweddill y wlad, rydym ni wedi bod ymysg tywydd oer ac eiraidd yr wythnos yma. O ganlyniad mae'r adar wedi bod yn mynd trwy'r bwyd yn hynod o gyflym wrth iddynt ceisio adeiladu storfa o fraster i'w helpu trwy'r nosweithiau oer.

Edrychwch ar y lluniau o ein

bwydydd adar

isod, a pham na wnewch gacen adar i helpu ein gyfeillion bach pluog?

Bwydwch yr adar!

Gareth Bonello, 20 Ionawr 2009

Mae’r dyddiau’n fyr, mae’r glaw yn oer, mae rhew ar y dail ac mae’r gwynt yn rhewi ’nhrwyn; mae’n rhaid ei bod hi’n fis Ionawr! Ond mae’r oerfel yn cael effaith ar greaduriaid eraill heblaw am bobl. Mae’n rhaid i adar fwyta llawer mwy yn ystod misoedd y gaeaf i gadw rhag rhewi i farwolaeth yn y nos. Edrychwch ar y i weld pa mor brysur yw hi!

Mae’r gaeaf yn amser gwych i ddenu adar i’ch gardd gan eu bod yn llai swil wrth ddod i gael bwyd. Efallai y byddwch chi’n denu rhai rhywogaethau nad ydynt yn ymweld â bwydwyr gardd fel arfer.

Mae yna gyngor ardderchog am ddenu adar i’ch gardd ar wefan yr RSPB, a thra eich bod chi yno beth am ymuno â Gwylfa Adar yr Ardd y penwythnos hwn? Gallwch gymryd rhan yn arolwg adar mwya’r byd o gysur eich ystafell fyw!