Arddangosiadau Tîm Adeiladau Hanesyddol Gareth Bonello, 17 Medi 2014 Ffermdy Hendre'r Ywydd Uchaf Mae Elan yn gwirfoddoli gyda fforwm ieuenctid Sain Ffagan. Yn ddiweddar, treuliodd Elen amser gydag ein Uned Adeiladau Hanesyddol ac mae wedi ysgrifennu am ei phrofiad isod;Arddangosiadau Tîm Adeiladau HanesyddolFel rhan o’r arddangosiadau Tîm Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan, es i i Hendre’r Ywydd Uchag i weld saer coed wrth ei waith. Pan gyrhaeddais roedd yn brysur yn gweithio ar ffrâm ddrws ar gyfer y Pentref Oes Haearn newydd gyda phren a oedd o’r safle ac wedi cael ei dorri y bore hwnnw. Roedd rhaid i’r gwaith gael ei wneud gyda llaw heb unrhyw gymorth oddi wrth beiriannau. Roedd e’n fwy na hapus i siarad â ni ynglŷn â’i waith ac i ateb ein cwestiynau. Soniodd ynglŷn â’i hanes proffesiynol, ei fod wedi gwneud NVQ mewn gwaith saer hanesyddol a’i fod newydd orffen ei brentisiaeth ar ôl gweithio yn yr amgueddfa am bum mlynedd. Roedd ei edmygedd tuag at wybodaeth y crefftwyr mwy profiadol yn glir ac roedd yn ymwybodol fod y wybodaeth hon yn dod o brofiad ac nid ar sail cymwysterau.Esboniodd wedyn sut daethant â’r adeiladau i’r amgueddfa gan ddisgrifio’r cynnyrch terfynol fel ‘flatpack buildings’ wrth iddynt rifo’r holl friciau o amgylch ochrau’r adeilad cyn ei dynnu i lawr a’i ailadeiladu. Defnyddiodd Dŷ Hwlffordd a Gorsaf Drenau Raglan fel esiamplau. Roedd pwysigrwydd cadwraeth yn y broses hon yn eglur wrth iddo sôn mai dim ond tynnu’r hyn sydd angen ei dynnu ffwrdd roedd rhaid gwneud wrth atgyweirio adeiladau. Esboniodd sut byddai datblygiadau newydd sydd ar droed yn Sain Ffagan yn arwain at waith newydd e.e. Palas y Tywysog o Ynys Môn lle bydd rhaid iddynt drin 480kg o bren! Dyma oedd amser gwerth ei dreulio er mwyn deall sut roedd yr adeiladu’n digwydd yn Sain Ffagan.by Elan Llwyd
Summer art activities Sian Lile-Pastore, 14 Awst 2014 As I am now working in St Fagans National Museum and National Museum Cardiff, I can share loads more works of art and design! It also means that I've had a lot of help preparing and delivering the art workshops, so thank you to Heloise, Liz, Sally, Ellie, the two Catrins, Marged, Marsli, Tracey, Angharad and Hywel!In St Fagans this summer we've been asking visitors to design a new play area for us (we will be building a new play area in the near future as part of the redevelopments) and we have had the most amazing designs and ideas. I think my favourite are the fireman's pole shaped like a worm and a tree house that explodes with sweets every five seconds. Lots of people want tree houses, zip wires and monkey bars!
Gwyddonwyr Gwych Cymru Catalena Angele, 8 Gorffennaf 2014 O’r chwe deg naw o ysgolion o Gymru a gymerodd ran yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni, dyfarnwyd y wobr gyntaf i Ysgol Clocaenog o Sir Ddinbych.Dyma’r Gwyddonwyr Gwych lwcus yn ennill trip llawn hwyl i Amgueddfa Lechi Cymru lle dyma nhw’n dysgu am Stori Llechi, yn chwilio am fwystfilod bach ac yn adeiladu nythod anferth yn y chwarel!Athro’r Ardd: “Dyma Ysgol Clogaenog yn gwneud gwaith gwych ar gyfer ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn a nhw anfonodd y mwyaf o ddata tywydd o bob ysgol yng Nghymru! Roedd y gystadleuaeth yn gryf wrth i ysgolion wella eu sgiliau casglu ac anfon data bob blwyddyn. Roedd yn braf cael cwrdd â Gwyddonwyr Gwych Ysgol Clocaenog, a dyma ni’n cael llawer o hwyl yn adeiladu nythod ac yn esgus bod yn adar bach! Dyma ni hefyd yn dysgu llawer am Lechi, a dwi’n credu taw fy hoff foment i o’r diwrnod oedd hollti’r llechi!”Os hoffech chi gymryd rhan yn y project hwn y tymor nesaf, llenwch y ffurflen gais ar-lein: Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais.
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014 Catalena Angele, 30 Mai 2014 Llongyfarchiadau i enillwyr y gystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014! Dyma’u darluniau botanegol gwych. 1af: Abbey – Ysgol Eglwys Plwyf Coppull 2il: Louise – Ysgol Gynradd SS Philip a James CE (Pinc 3) 3ydd: Amelie – Ysgol Gynradd Stanford in the Vale CE Roeddwn i’n chwilio am ddarluniau botanegol – sef darluniau o blanhigion mewn arddull wyddonol. Yn ogystal â thynnu llun gwych, roedd angen labelu gwahanol rannau’r blodyn yn glir hefyd.Roedd pob un o’r darluniau a dderbyniais i yn wych, felly gallwch chi eu gweld nhw i gyd ar y wefan! Da iawn bawb.Gallwch chi weld y darluniau i gyd yma.Diolch yn fawr,Athro’r Ardd
Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canlyniadau 2005-2014 Catalena Angele, 27 Mai 2014 Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.Mae tystysgrifau wedi cael eu hanfon at yr holl ddisgyblion yn 4,075 a gwblhaodd y prosiect eleni.Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau! Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Diolch yn fawrAthro'r Arddwww.museumwales.ac.uk/scan/bylbiauTwitter http://twitter.com/Professor_Plant