: Addysg

Cofnodion blodau cyntaf yr Alban!

Catalena Angele, 7 Mawrth 2014

Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Ladywell am fod yr ysgol gyntaf o’r Alban i anfon eu cofnodion blodau! Anfonodd Ysgol Gynradd Lakeside, Caerdydd eu cofnodion blodau cyntaf hefyd – agorodd eu crocws cyntaf a’u cennin Pedr cyntaf yn yr un wythnos! Da iawn chi gyfeillion y gwanwyn.

Tair wythnos… Dyddiad cau anfon eich cofnodion tywydd a blodau ata i yw dydd Gwener 28 Mawrth, felly dim ond tair wythnos sydd ar ôl!

Os ydych chi wedi bod yn cadw cofnodion ond heb eu hanfon nhw eto cofiwch frysio – mae pob un o’ch cofnodion tywydd a blodau yn bwysig i fi! Bydd pob cofnod anfonwch chi ata i yn gwneud Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn yn well ac yn fwy cywir.

Os nad ydy’ch blodau wedi agor eto, peidiwch poeni. Gall tipyn ddigwydd mewn tair wythnos, yn enwedig os bydd yr haul yn tywynnu!

Hoffech ddefnyddio’ch planhigion i gynnal Astudiaeth Gwyddoniaeth Gwych? Rydw i wedi casglu rhai syniadau ar gyfer arbrofion allwch chi eu cynnal yn y dosbarth! Allwch chi dwyllo eich crocws? All eich cennin Pedr symud? Edrychwch ar Syniadau Athro'r Ardd am brojectau ymchwil. Yn ogystal ag arbrofion cyffrous, gallwch chi hefyd ddarllen fy hoff gerdd Saesneg! Cennin Pedr yw’r testun, a dyma’r pennill cyntaf:

 

Daffodils

I wander’d lonely as a cloud

That floats on high o'er vales and hills,

When all at once I saw a crowd,

A host, of golden daffodils;

Beside the lake, beneath the trees,

Fluttering and dancing in the breeze.

gan William Wordsworth (1770-1850).

 

Ydych chi erioed wedi meddwl ysgrifennu cerdd am y gwanwyn? Neu beth am gerdd i’ch hoff blanhigyn? Rhowch gynnig ar farddoni!

Your questions, my answers:

Ladywell Primary School: We have had our computer system upgraded in school and it has been difficult for us to send weekly weather reports because we lost a lot of data which was stored on our apple mac and which we cant convert to PC. However we have been taking temperatures and it has not really been cold and we have had a lot of rain. Some of our plants didn't grow very well but our first daffodil opened today 25th February and it is 28 cm tall. We have another one about to open and some others not far away. We hope this is ok with you and we will send more information soon. Prof P: Sorry to hear you have had computer trouble Ladywell School, don’t worry, I completely understand. Thanks very much for sending your first flower record! Keep up the good work and send in your other flower records when they open.

Lakeside Primary: Daffodil comment: Only one is open and the one that has opened has only got half a pot of compost, we think it was knocked over and some soil lost so perhaps less soil has led to quicker flowering, but why? Prof P: Great question Lakeside! Do you have any ideas? This is my theory: A bulb closer to the surface may flower sooner because it warms up quicker and has less soil to push through when it starts to grow. So why don’t we plant them all close to the surface? Well, if there is a very cold winter the frost can damage bulbs that are too close to the surface, and then they may not grow at all.

The Blessed Sacrament Catholic Primary School: We all brought our wellies into school this week so that we can go out and look at our bulbs whatever the weather. We went to check on them all on Friday and measured how tall the leaves were, and started recording them in a table like we had been doing in maths. We hope to do this every week now then we can make a graph of the results. Still no sign of flowers yet! Prof P: What a fantastic idea! I love making graphs, they are a great way to see what the numbers are telling me. You must be very dedicated scientists to bring your wellies in to school so you can measure your leaves. Well done, I am very impressed!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

Gwanwyn yn Gwawrio

Catalena Angele, 28 Chwefror 2014

Mae’r haul yn disgleirio drwy ffenest fy swyddfa yng Nghaerdydd ac mae’n teimlo fel gwanwyn o’r diwedd! Dyw fy mhlanhigion i ddim yn barod i flodeuo eto – mae’r cennin Pedr talaf yn 80mm o uchder a’r crocws talaf yn ddim ond 30mm o uchder – ond dwi’n siŵr y byddan nhw’n mwynhau’r heulwen! Fe dynnais i lun o’r cennin Pedr a’r crocysau yn eu blodau ym Mharc Bute yng Nghaerdydd y bore ’ma. On’d ydyn nhw’n brydferth?

Pa ysgolion sydd wedi cofnodi eu blodau cyntaf?

Cofnododd Ysgol Glan Cleddau bod eu crocws cyntaf wedi blodeuo, ac mae Ysgol Gynradd yr Archesgob Hutton yn Lloegr wedi cofnodi bod eu cennin Pedr cyntaf wedi blodeuo.Llongyfarchiadau, a da iawn chi am anfon eich cofnodion!

Dyma Ysgol Gynradd Rougemont yn anfon y neges hon: Mae cyffro mawr yma yn Ysgol Rougemont Athro’r ardd ... mae ein BYLBIAU DIRGEL wedi dechrau blodeuo! Mae nhw’n edrych yn iach iawn gyda choesau byrrach na’r cennin Pedr a blannon ni. Rydyn ni’n meddwl taw Narcissus ydyn nhw, Tete a Tete efallai? Byddwn ni’n anfon ffotograff cyn hir. Athro’r Ardd: Mae hynna’n gyffrous iawn Ysgol Rougemont, a da iawn chi am ymchwilio i weld pa fath o Narcissus ydyn nhw – gwyddoniaeth gwych! Rwy’n edrych ymlaen i weld y ffotograffau.

Dywedodd Ysgol Arbennig Kilmaron: ARSYLWI BYLBIAU’R LLYNEDD. Rydyn ni wedi bod yn monitro bylbiau crocws a chennin Pedr y llynedd i weld os yw’r hen fylbiau yn blodeuo cyn y rhai newydd. Ar ôl gwyliau hanner tymor dyma ni’n canfod bod bylbiau crocws y llynedd wedi blodeuo tra bod bylbiau eleni wedi blodeuo tua 7-10 diwrnod yn ddiweddarach. Rydyn ni’n gobeithio anfon cofnodion eleni tua diwedd yr wythnos nesaf. Athro’r Ardd:Arsylwi ac ymchwilio arbennig Ysgol Kilmaron! Rydych chi’n iawn bod bylbiau hŷn fel arfer yn blodeuo yn gynt na bylbiau newydd ifanc, ond y rheswm dros hyn yw eu bod nhw wedi cael blwyddyn ychwanegol i dyfu a storio bwyd.

 

Ys gwn i ble fydd y blodau nesaf yn agor? Gallwch chi weld ble mae’r blodau wedi agor hyd yn hyn drwy edrych ar y map yma.Os nad yw eich blodau chi wedi agor eto, gwyliwch nhw’n ofalus. Gallan nhw agor unrhyw ddiwrnod!

Cofiwch anfon eich cofnodion blodau ata i cyn gynted fydd y blodau’n agor. Os nad ydych chi’n cofio sut i wneud hyn, defnyddiwch y cyflwyniad PowerPoint Cadw cofnodion blodau, a darllen y dudalen Beth i'w gofnodi a phryd ar y wefan.

CYNGOR CRAFF:

  1. Gall pob disgybl yn y dosbarth anfon eu cofnodion blodau. Mae’r holl ddata fyddwn ni’n ei dderbyn yn cael ei ddefnyddio i ganfod dyddiad blodeuo cyfartalog pob ysgol. Gwyliwch y siart crocysau a’r siart cennin Pedr i weld y tablau yn newid wrth i fwy o ddata gyrraedd. Mae’n bwysig ofnadwy bod pob disgybl yn anfon eu cofnodion, fel bod y wefan yn gallu cyfrifo dyddiad blodeuo cyfartalog yr ysgol.
  2. Bydd y cennin Pedr yn troi ei ben i lawr ychydig cyn blodeuo. Fydd y blodyn ddim wedyn yn llenwi â d?r ar ôl agor.
  3. Rhaid i chi gyd anfon eich cofnodion blodau er mwyn ennill y Gystadleuaeth Gwyddonwyr Gwych!

Eich cwestiynau, fy atebion:

Your questions, my answers:

Ysgol Terrig: It snowed heavily on Monday morning and stopped about lunch time. Our bulbs are starting to grow :) Prof P: I’m glad your bulbs are growing, did you go out to play in the snow?

Raglan VC Primary: We missed Tuesday because it was raining cat's and dog's, and we had bike training. Prof P: I love that saying! Can you imagine what it would be like if it really did rain cats and dogs? How would we measure that in our rain gauge?

Chatelherault Primary School: Sorry we did not record information on Thursday because we were away all day at a school trip. We were excited to see little green shoots in some of the plants. Prof P: Thanks for letting me know Chatelherault, I hope you had fun on your school trip.

Greyfriars RC Primary School: The plants are growing well and it's wonderful seeing them grow up. The mystery bulbs are really a mystery. from A and A :) Prof P: I hope your mystery will soon be solved Greyfriars!

Arkholme CE Primary School: Unfortunately the plant pots are standing in water this week. Let's hope next week is drier. The mystery bulbs are growing better than the others. Flower buds just appearing. From H. Prof P: I am sure your plants will survive the rain Arkholme, keep watching those flower buds!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

Bwrw glaw yn sobor iawn...

Catalena Angele, 21 Chwefror 2014

On’d oedd mis Ionawr yn wlyb a gwyntog gyfeillion y gwanwyn? Dwi’n siŵr ei bod hi wedi bwrw bob dydd! Ond faint o law welson ni, o’i gymharu â’r cyfartaledd?

Mae Gwyddonwyr Tywydd y Swyddfa Dywydd wedi creu’r map yma o’r DU i ddangos faint o law a ddisgynnodd ym mis Ionawr. Gallwch chi gael golwg fanylach drwy ddilyn y ddolen.

Sut wnaethon nhw gyfrifo’r cyfartaledd glawiad? Mae Gwyddonwyr y Swyddfa Dywydd wedi bod yn cadw cofnodion tywydd am amser maith! Dyma nhw’n canfod cyfanswm y glawiad yn Ionawr am 30 mlynedd (rhwng 1981 a 2010) cyn rhannu â 30 i weld cyfartaledd blynyddol y glawiad.

Allwch chi weld y ddau liw glas tywyll? Disgynnodd rhwng dwy a thair gwaith yn fwy o law na’r cyfartaledd yn yr ardaloedd yma yn ystod mis Ionawr? Allwch chi weld yr ardaloedd du yn ne Lloegr a dwyrain yr Alban? Roedd y glawiad yn yr ardaloedd yma dros dair gwaith yn fwy na’r cyfartaledd yn ystod mis Ionawr!

Cyngor craff i ddefnyddio’r map:

  • Mae 100% o’r cyfartaledd yn golygu ei bod hi wedi glawio yr un faint â’r cyfartaledd.
  • Mae 200% o’r cyfartaledd yn golygu ei bod hi wedi glawio ddwywaith cymaint â’r cyfartaledd.

Allwch chi ganfod eich cartref ar y map? Beth yw lliw y map yn eich ardal chi? faint o law ddisgynnodd yn lleol? Oedd mwy neu llai o law na’r cyfartaledd? Efallai y gall eich athro eich helpu i ateb y cwestiynau yma!

Eich cwestiynau, fy atebion:

Gladestry C.I.W. School: Our school was closed on Thursday because of a power cut so our head teacher recorded the results that day. Prof P: We done to your head teacher! I am very glad your head teacher is helping you with your investigation.

St Mellons Church in Wales Primary School: Hello Professor Plant. It has been so windy this week that our thermometer has blown off the wall and broken. We have been using the car thermometer. L, J and L-b. Prof P: Hello L, J and L-b at St Mellons School! I am very sorry to hear that your thermometer is broken, I will email your teacher and arrange to send you a new one. Well done for your quick thinking in using the car thermometer.

Bleasdale CE Primary School: It is very cold and wet. Prof P: I agree Bleasdale School!

Ysgol Gynradd Dolgellau: Yn anffodus mae ein thermometr wedi torri ar ol cael ei chwythu gan y gwynt mawr yn ystod yr wythnos. Athro’r Ardd: Trueni mawr i glywed hyn Ysgol Gynradd Dolgellau. Bydda i’n e-bostio eich athro i drefnu anfon thermomedr newydd atoch chi.

Manor Road Primary School (Lancashire): on Wednesday there was a red weather warning but luckily the plants stayed in place. Prof P: I’m very happy to hear that your plants are okay!

Stanford in the Vale Primary School: It is very rainy here but we are not flooded. Prof P: I am very glad to hear that Stanford! What colour is the rainfall map is your area?

Burscough Bridge Methodist School: The heavy gales have caused the rainfall measurements to be unreadable as the measuring vessel was continually disrupted and blown over. Prof P: Gosh it must have been very stormy. Thanks for letting me know, keep up the good work!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

Blodau cyntaf Cymru a Lloegr!

Catalena Angele, 14 Chwefror 2014

Newyddion gwych gyfeillion y gwanwyn, mae’r cofnodion blodau cyntaf wedi cyrraedd!

Ysgol Gynradd North Road, Carnforth yn Swydd Gaerhirfryn, oedd yr ysgol gyntaf i anfon eu cofnodion ata i. Agorodd eu crocws cyntaf ar 4 Chwefror.

Ysgol Gynradd Wirfoddol Reoledig Raglan yn sir Fynwy, oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i anfon eu cofnodion blodau. Agorodd eu crocws cyntaf ar 7 Chwefror.

Da iawn i’r ddwy ysgol am anfon eu cofnodion ata i!

Mae Ysgol Gynradd yr Archesgob Hutton yn Lloegr hefyd wedi sylwi bod y crocysau a blanon nhw yn y ddaear yn dechrau tyfu. Bydd planhigion yn y ddaear yn aml yn blodeuo’n gynt na phlanhigion mewn potiau. Oes unrhyw un arall wedi sylwi ar hyn?

Mae’r cofnodion blodau wedi cyrraedd yn llawer cynt na’r llynedd. 1 Mawrth oedd dyddiad blodeuo cynharaf y crocysau y llynedd. Beth yw’r rheswm am hyn?

Wrth edrych ar ganlyniadau Project Bylbiau’r Gwanwyn dros y blynyddoedd, gallwn ni weld bod y dyddiadau blodeuo yn gynt gan fo glawiad yn uwch, y tymheredd yn uwch a mwy o oriau o heulwen. Meddyliwch pa dywydd ydych chi wedi ei brofi yn ddiweddar? Fydd y tywydd eleni yn helpu eich blodau i dyfu ys gwn i?

Eich cwestiynau, fy atebion:

Ysgol Terrig: Our bulbs are now growing above the soil. Prof P: Fantastic new Ysgol Terrig, hopefully it won’t be long until you start to see flowers.

Glyncollen Primary School: we are very exited because are bulbs are going to open soon. next week we are going to measure them. Prof P: Great investigating Glyncollen, have fun with your measuring.

Manor Road Primary School (Lancashire): It rained a lot and it was very cold and windy. It has not been minus yet. Prof P: I haven’t recorded a minus temperature in Cardiff either.

Stanford in the Vale Primary School: We have had alot of rain recently but the bulbs continue to grow bigger and bigger. Prof P: It certainly has been very very rainy, I hope you haven’t had any flooding.

Greyfriars RC Primary School: Me and D. are watering the plants really well. We enjoyed it alot. D: I am really enjoying the bulbs. My one is called xdox and pop. It was supposed to be xbox and pop. Thank you enjoyed this week. Prof P: What funny names for your plants! Very imaginative.

Freuchie Primary School: The children were really excited on Monday 27th January when they realised that 40mm of water had been collected over the weekend! Prof P: Wow - that really is a lot of rain!

Woodplumpton St. Anne's Primary School: We are very excited because the first shoots are beginning to appear. It has been very wet but so far the temperature has not dropped below zero. We wonder if this is unusual. Prof P: Great question Woodplumpton! I have had a look back over our weather data for previous years and it looks like this is not that unusual. The average daytime temperature for the month has only dropped below zero once in the 8 years we have been running the Spring Bulbs investigation. This was in December 2011 when there was heavy snow. I do think it has been less cold this January than in previous years. I look forward to receiving the weather data from all the schools so I can compare all the data in my Spring Bulbs Report!

Newport Primary School: Horrible wet weather most of the week. Prof P: The trouble with the rain is that it gets in the way of playtime doesn’t it?

Manor Road Primary School (Lancashire): The weather has been cold, wet and windy this week. We have spotted our first shoots peeping through in our pots though. Prof P: It seems like your bulbs don’t mind the wet weather too much.

Chatelherault Primary School: Bad news some people have been pulling out our bulbs but some are growing. And we have had a lot of rain and sun. Prof P: Oh no! I’m sorry to hear that someone has disturbed your bulbs. I hope that the ones that are left will be okay. Sun and rain are the perfect combination to make them grow!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

 

Gwylio Adar yr Ardd

Hywel Couch, 31 Ionawr 2014

Penwythnos diwethaf, ymunodd miloedd o bobl mewn gyda’r arolwg adar mwya’r byd - Gwylio Adar yr Ardd gyda’r RSPB! Ar ddydd Sadwrn, wnes i ymuno gyda’r hwyl trwy wneud trîts bach i’r adar gydag ymwelwyr i’r amgueddfa. Wedi fy ysbrydoli, nes i dreulio ychydig amser yn y guddfan adar yma yn Sain Ffagan. Dyma gwpwl o lunie o be welais…

Wnaethoch chi gymryd rhan yn yr arolwg? Be welsoch yn eich gardd? Cofiwch i adrodd yn ôl i’r RSPB - Big Garden Bird Watch

Dilynwch bywyd gwyllt Sain Ffagan ar Twitter