: Casgliadau

Cerbydau Cymru

Ian Smith, 17 Medi 2019

Pan fyddwch chi’n ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, bydd tua 2,000 o wrthrychau ar gael i’w gweld. Ond, cyfran fach o’n casgliad yw’r rhain!

 

Er ein bod yn ailwampio rhannau o’r Amgueddfa bob hyn a hyn, mae llawer o wrthrychau sydd byth yn cael eu harddangos. Pam felly ydyn ni’n casglu'r gwrthrychau hyn, meddech chi? Wel, mae llawer o resymau dros beidio arddangos gwrthrych. Mae curaduron yn casglu pethau sy’n bwysig i’n treftadaeth, ac yn aml iawn mae'r pethau hyn mewn cyflwr gwael, felly gall fod angen llawer o waith cadwraeth drud ar eitem cyn i ni allu ei chyflwyno i'r cyhoedd. Wrth gasglu gwrthrychau, ein blaenoriaeth yw eu diogelu ac atal unrhyw ddirywiad yn eu cyflwr. Mae’n rhaid i waith cadwraeth ar gyfer arddangosfeydd aros tan bod cyllid ar gael, yn enwedig gwrthrychau mawr fel ceir a bysiau. Yng Nghasgliad Diwydiant Amgueddfa Cymru, mae llawer o ddulliau gwahanol o deithio ac mae'n rhaid bod gan bob un gysylltiad cryf â Chymru – naill ai drwy’r broses gynhyrchu, y dyfeisiwr neu eu defnydd. Cedwir y rhai nad ydynt yn cael eu harddangos yn Nantgarw, ger Caerdydd, nes bod cyfle iddyn nhw gael eu harddangos.

O hofrenyddion i hersiau ceffyl a cherbydau trydan i injans ffordd, weithiau mae’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw yn ein hatgoffa o focs teganau plentyn – ond ar raddfa fawr!

Mae gwrthrychau bregus yn cael eu storio mewn bocsys di-asid neu gewyll arbennig, ond sut mae storio bws neu hofrennydd? Wrth gwrs, nid oes modd eu cadw mewn bocsys, ond yn hytrach cânt eu gosod mewn rhes yn debyg i faes parcio archfarchnad, wedi’u trefnu yn ôl maint a siâp. Gall grwpiau drefnu ymweld â’r storfeydd a gallwch weld bod rhai o’r cerbydau mewn cyflwr go wael wrth iddynt aros am ymweliad gan y tîm cadwraeth.

Yn y cyfamser, yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, gallwch weld amrywiaeth o ddulliau teithio, ac mae hanes cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru i’w gweld yn ein Horiel Rwydweithiau. Mae gan yr oriel hon lu o fodelau o gerbydau o bob math, ac arddangosfeydd digidol mawr yn dangos sut mae’r rhwydweithiau trafnidiaeth wedi tyfu – o lwybrau’r porthmyn i’r M4.

Ychydig tu allan i’r Oriel Rwydweithiau, y mae beic tair olwyn ‘cymdeithasol’ o’r 1880au a cherbyd modur Benz ‘Duc’ a gofrestrwyd yn gyntaf yn Sir Fynwy ym 1904.

Roedd gan y beic cymdeithasol seddi wrth ymyl ei gilydd, ac roedd yn ffefryn ymysg cariadon! Dr Cropper o Gas-gwent oedd perchennog y Benz, a gadwodd y cerbyd nes ei roi i’r Amgueddfa Wyddoniaeth ym 1910. Daeth o dan ofal Amgueddfa Cymru ym 1911 ac ar ôl cael ei adfer yn llawn, cymerodd ran mewn nifer o ralïau rhwng Llundain a Brighton.

Uwchben, mae un o brif atyniadau'r Amgueddfa. Mae lle i gredu mai’r ‘Robin Goch’ oedd yr awyren gyntaf i hedfan yng Nghymru. Cafodd ei hadeiladu gan Charles Horace Watkins, awyrennwr amatur, oddeutu 1908. Mae ganddi ffrâm bren wedi’i chlymu gyda weiren biano. Mae’n amlwg mai gwaith llaw yw caban y peilot gan mai sedd cegin yw sedd y peilot, a nwyddau cartref yw’r offerynnau. Yn wir, byddai Charles wedi llywio ei deithiau gan ddefnyddio amserwr wyau – gan droi’r amserwr drosodd, hedfan mewn llinell syth nes i’r tywod redeg allan, wedyn troi 90 gradd a hedfan yn syth ymlaen eto, ac ailadrodd hyn ddwywaith nes ei fod yn cyrraedd y man cychwyn! I’w helpu i fesur ei uchder wrth lanio, roedd dau ddarn o linyn gyda phwysau arnynt yn hongian o dan yr awyren, un 20 troedfedd o hyd ac un 10 troedfedd o hyd. Pan fyddai’r un cyntaf yn cyffwrdd â'r ddaear roedd yn gwybod ei fod 20 droedfedd o’r ddaear, a phan fyddai’r ail yn taro, roedd 10 droedfedd oddi tano.

Nid yw popeth yn yr adran hon dros gan mlwydd oed. Fe welwch chi ddwy esiampl o’r Sinclair C5 – un ar gyfer ei arddangos, ac un i’r cyhoedd gael eistedd ynddo a dod yn gyfarwydd ag e. Pan fydd y tywydd yn caniatáu, byddwn yn symud y model i’r ardd lle gall unrhyw ymwelydd roi cynnig arni. Mae'r C5 wedi’i bweru gan bedalau, gyda batri ategol ar gyfer mynd lan bryniau neu os yw’r gyrrwr yn blino. Gyda chyflymdra uchaf o oddeutu 15mya, cynhyrchwyd y C5 yn gyfrinachol ym 1985 yn ffatri Hoover ym Merthyr. Roedd yn gyfrinach mor fawr, cafodd twnnel ei adeiladu o dan y ffordd rhwng y ffatrïoedd i stopio pobl rhag gweld y cynllun. Dim ond cynlluniau eu cydrannau eu hunain oedd cynhyrchwyr yn cael eu gweld, yn hytrach na chynllun y car cyfan. Roedd y cyhoedd yn disgwyl yn eiddgar am lansiad y car, ond bu’n fethiant llwyr am fod pobl yn meddwl ei fod yn rhy fach i’w yrru’n ddiogel mewn traffig trwm. Dyma gysyniad campus a oedd flynyddoedd o flaen ei oes, ac mae’n bosibl y caiff ei weld eto ryw ddydd pan fydd llwybrau seiclo yn fwy cyffredin.

Mae gennym lawer o gerbydau sydd wedi dod yma ar gyfer arddangosfeydd dros dro. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael carafán a nifer o gychod, yn ogystal ag ambell i gerbyd trydanol cysyniadol, ond un o’m ffefrynnau i yw’r car tegan plentyn

Mae’r Austin J40 sef car pedal glas a wnaed ym Margoed ym 1959 yn ein Horiel ‘Gwnaed yng Nghymru’. Ym 1947 pasiodd Senedd San Steffan ddeddf a oedd yn cydnabod nad oedd modd i lawer o lowyr a oedd yn dioddef o pneumoconiosis (sef llwch glo yn yr ysgyfaint) weithio dan ddaear rhagor. Felly awgrymwyd bod ffatrïoedd newydd yn cael eu sefydlu i gynnig gwaith ysgafnach, glanach, i gyflogi’r dynion hyn. Roedd ffatri Austin ym Margoed yn un enghraifft o’r rhain.

Agorodd y ffatri ym 1949 a stopiodd wneud y ceir bach hyn ym 1971, ond rhwng y dyddiau hynny, cafodd oddeutu 36,700 eu cynhyrchu!

Mae mynediad am ddim i bob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru. Gallwch ymweld â'r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol drwy apwyntiad; cysylltwch â nhw ar 029 2057 3560 i drefnu.

Tân yn y Felin

Mark Lucas, 9 Gorffennaf 2019

Ym 1900 roedd 52 o felinau yn ardal Dre-fach Felindre. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd diwydiant gwlân Cymru yn gyfrifol am gynhyrchu blancedi a gwisgoedd ar gyfer y lluoedd arfog. Cafodd gwisgoedd o frethyn cartref o’r enw Brethyn Llwyd eu comisiynu gan y swyddfa ryfel i roi teimlad gwladgarol i recriwtiaid newydd Corfflu Cymreig y Fyddin a ffurfiwyd yn ystod y rhyfel.

 

Wedi’r rhyfel, cafodd 12 miliwn llath o wlanen dros ben ei werthu ar y farchnad agored am brisiau gwirion o isel, gan orfodi cynhyrchwyr gwlân i ostwng eu prisiau hefyd. Er enghraifft, câi crysau gwlanen eu gwerthu am 52s 6d y dwsin ym 1916 – erbyn 1923 roedd y pris wedi gostwng i 38 swllt. Methodd cynhyrchwyr gwlân gorllewin Cymru ag ymdopi â’r amodau newydd ar ôl y rhyfel, gyda rhai yn dal i gynhyrchu gwlân Angola israddol fel oeddent yn ei wneud yn ystod y rhyfel. Roedd y rhan fwyaf o’r cynhyrchwyr yn dal i ganolbwyntio ar greu gwlanen ar gyfer crysau, festiau a dillad isaf, ond bu lleihad yn y galw am ddillad isaf gwlanen wrth i ddillad isaf wedi’i wau yn nwyrain a gogledd Lloegr a’r Alban ddod yn fwy poblogaidd..

Ar 11 Gorffennaf 1919 aeth Melin Cambrian ar dân, a dinistriwyd yr adeilad tri llawr deheuol.

Roedd rheolwr y felin, John Davies, ar ei wyliau gyda’i deulu yn Llanwrtyd ar y pryd, ac roedd ei ferch, Nesta Morgan yn cofio’i thad yn derbyn telegram yn y gwesty ond ei fod yn methu’i ddarllen am ei fod yn Saesneg. Pan ddeallodd y neges fod rhan o’r felin wedi’i dinistrio gan dân, roedd ei thad yn poeni’n arw. Cysylltodd â David Lewis a gofyn os y dylai ddod adref yn syth, ond dywedodd David Lewis wrtho y dylai gadw at ei drefniadau ac aros tan y diwrnod canlynol.

David Lewis ar y chwith gyda mwstash a het yng nghanol olion Melin Cambrian

David Lewis ar y chwith gyda mwstash a het yng nghanol olion Melin Cambrian

Defnyddiodd David Lewis yr arian yswiriant i ailgodi’r felin – dim ond dau lawr oedd i’r felin newydd ond roedd hi’n llawer hirach.

Melin newydd Cambrian

Melin newydd Cambrian

Melin newydd Cambrian

Melin newydd Cambrian

Gwydr wedi cracio yn y felin ogleddol o wres y tân yn y felin ddeheuol. Mae’r ffenestri hyn yn dal i’w gweld yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Gwydr wedi cracio yn y felin ogleddol o wres y tân yn y felin ddeheuol. Mae’r ffenestri hyn yn dal i’w gweld yn Amgueddfa Wlân Cymru

Y tân ym Melin Cambrian oedd y cyntaf o 7 tân amheus ym melinau Dre-fach a’r ardal, gan gynnwys melinau Frondeg a Meiros oedd yn berchen i ddau frawd David Lewis, Daniel a John. Chafodd pob melin ddim ei hailgodi ar ôl mynd ar dân, ond roedd cwmnïau yswiriant yn dechrau amau nad damweiniau oedd y tanau hyn, a dechreuont fynnu eu bod yn cael eu hailgodi. Adeiladwyd melin newydd ym Meiros o frics coch, gydag arian yr yswiriant yn cael ei dalu fesul dipyn wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Melin newydd Meiros

Melin newydd Meiros

Caeodd 21 o ffatrïoedd yn Dre-fach Felindre a’r cylch yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.

‘[Wnaeth perchnogion melinau, oedd wedi gwneud elw mawr o gontractau’r rhyfel] ddim ymdrech i osod sylfaen ariannol gadarn i’w melinau, gan fodloni ar fancio’r arian neu brynu bythynnod glan môr’

Geraint Jenkins 1967, The Welsh Woollen Industry t. 278

Melin Dyffryn 29/6/1923

Melin Dyffryn 29/6/1923

Melin Frondeg 7/2/1924

Melin Frondeg 7/2/1924

Melin Aberbanc 1926

Melin Aberbanc 1926

Melin Ogof 1927

Melin Ogof 1927

Melinau eraill wedi’u dinistrio gan dân:

  • Meiros yn y 1920au
  • Melin Llwynhelyg 1927
  • Melin Llainffald 1920au

Melinau a gaewyd yn Dre-fach Felindre a’r cylch:

  • Babel 1925
  • Cilwendeg 1928
  • Cwm-ty-mawr 1920
  • Melin Glyn 1930
  • Llwynbedw 1920
  • Pant-glas 1922
  • Spring Gardens 1925
  • Bach-y-gwyddil 1923
  • Cwm-gilfach 1923
  • Drefach 1923
  • Green Meadow 1928
  • Nant-y-bargoed 1925
  • Penwalk 1928
  • Ty Main 1923
  • Cawdor 1924
  • Cwm-pen-graig 1922
  • Felin-fach 1924
  • Henfryn 1920
  • Pandy 1920
  • Siop Pensarn 1921
  • Tower Hill 1925
 

Cadeiriau Arwisgo Tywysog Cymru

Mark Lucas, 3 Gorffennaf 2019

Dyluniwyd y Gadair gan yr Arglwydd Snowdon ar gyfer arwisgiad y Tywysog Charles ar 1 Gorffennaf 1969. Cafodd 4,600 o'r cadeiriau hyn eu gwneud ar gyfer y gwesteion yng Nghastell Caernarfon.

Cafodd y gadair ei defnyddio gan Iorwerth Howells, cyfarwyddwr addysg Sir Gaerfyrddin. Roedd yn un o gynrychiolwyr Sir Gaerfyrddin yn yr arwisgiad. Mae'r ffrâm wedi'i gwneud o bren ffawydd, y sedd a'r cefn o bren haenog gydag argaen pren onnen. Mae'r gadair wedi'i lliwio'n loywgoch ac wedi'i selio gyda lacr asid clir. Cafodd ei gwneud yn ffatrïoedd Remploy yn Nhrefforest a Wrecsam.

Arwisgiad y Tywysog Charles ar 1 Gorffennaf 1969 yng Nghastell Caernarfon

Arwisgiad y Tywysog Charles ar 1 Gorffennaf 1969 yng Nghastell Caernarfon

Mae'r ffabrig wedi'i wneud o wlanen goch Gymreig a wnaed gan David Lewis Cyf, Melin Cambrian, Dre-fach Felindre - cartref Amgueddfa Wlân Cymru erbyn hyn. Cafodd 2,650 llath o ddefnydd ei gynhyrchu am 18/- y llath. Mae plu arfbais Tywysog Cymru wedi'u boglynnu mewn eurddalen gan Ferndale Book Company. Wedi'r seremoni cafodd y cadeiriau eu gwerthu am £12.00 yr un, gyda'r gwahoddedigion yn cael y cynnig cyntaf cyn iddynt fynd ar werth i'r cyhoedd.

Y sampl gwreiddiol a anfonwyd i'r adran weithiau i gael ei wirio

Y sampl gwreiddiol a anfonwyd i'r adran weithiau i gael ei wirio

Cymru Yfory

Jennifer Evans, 5 Mehefin 2019

 

Roedd blwyddyn Arwisgo’r Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon ym 1969 yn flwyddyn gyffrous iawn yng Nghymru. Yn rhan o ddathliadau swyddogol Blwyddyn yr Arwisgo, cynhaliwyd arddangosfa ‘Cymru Yfory’ ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i adlewyrchu cyffro glanio ar y lleuad a thaith Apollo 11.

Fel y disgrifiwyd yn rhagair y catalog:

“Os dewisa Amgueddfa Genedlaethol dderbyn cyfraniadau o stiwdio'r lluniwr, o'r farchnadfa, o swyddfa'r cynlluniwr neu labordy ymchwil ni ofynna am batrwm i'w ddilyn. Dyna a wnaeth Amgueddfa Victoria ac Albert mewn modd cyffrous yn 1946 yn yr arddangosfa ‘Britain can make it’. Gwelsom yr adeg honno wedi llawer blwyddyn lom fflach o anturiaeth a lliw ac adawiad annisgwyl am y dyfodol.

Dewisodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gyfrannu i flwyddyn yr Arwisgo a Chroeso '69 trwy edrych tu draw i'w gorwelion cyffredin ac i'r dyfodol.

Gwahoddwyd cyfraniadau amrywiol oddi wrth wahanol sefydliadau a gofynnwyd iddynt am syniadau dychmygol yn ymwneud â'r dyfodol. Nid addewidion mohonynt; nid syniadau dymunol efallai, ond cyfeiriant o leiaf at agweddau o bosibliadau'r dyfodol.”

Stondinau ac arddangosfa'r nenfwd [gyda stondin Swyddfa'r Post ar y chwith]

Stondinau ac arddangosfa'r nenfwd [gyda stondin Swyddfa'r Post ar y chwith]

 

Roedd yr arddangosfa yn gam mawr i ffwrdd o draddodiadau arferol yr Amgueddfa. Roedd yn dangos nid yn unig diddordeb yn y gorffennol, ond hefyd ym mywyd y gymuned yn y cyfnod presennol a'r dyfodol.

Defnyddiwyd y Brif Neuadd i gyd – wedi'i gwahanu oddi wrth weddill yr Amgueddfa gyda llenni mawr a nenfwd plastig enfawr wedi’i lenwi ag aer. Am y tro cyntaf, comisiynwyd dylunwyr proffesiynol i ddylunio a chynllunio'r arddangosfa. Cydlynodd Alan Taylor (Uwch Ddylunydd, BBC Wales TV) a John Wright (Pennaeth Coleg Celf Casnewydd) y dylunio, gyda thros 20 sefydliad yn cyfrannu. Roedd y canlyniad yn arbennig ac yn syrpreis llwyr i bob ymwelydd a oedd yn adnabod y Brif Neuadd fel lleoliad ffurfiol ar gyfer cerfluniau clasurol.

Roedd amrywiaeth y stondinau yn yr arddangosfa hon ym 1969 yn anferth, a’u dychymyg yn ddi-ben-draw. Yn eu plith, roedd syniadau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol – o Gaerdydd i’r Cymoedd, aber afon Hafren a thai ac ysgolion. Roedd rhai yn realistig ond roedd y rhan fwyaf yn ymylu ar y rhyfedd a dwl, yn enwedig y stondinau am ddillad, dodrefn ac arferion yr aelwyd yn y dyfodol. Roedd General Industrial Plastics Ltd, sef cynhyrchwyr a dylunwyr eitemau plastig, yn gyfrannwr mawr. Y cwmni yma wnaeth greu’r nenfwd plastig llawn aer, ynghyd â darnau o ddodrefn llawn aer a'r bag plastig a ddaeth gyda'r catalog swyddogol. Cyfrannodd Coleg Celf Caerdydd, y Bwrdd Glo Cenedlaethol, Dinas Caerdydd, Swyddfa'r Post a British Rail at y stondinau hefyd.

Yn rhan o'r awyrgylch llawn hwyl, crëwyd cyfrannwr ffug o'r enw Kumro Kemicals Corporation. Mae'r catalog yn esbonio y sefydlwyd y cwmni ym 1999 (ym 1969 y cynhaliwyd y digwyddiad hwn!) a bod eu cynnyrch yn "ganlyniad i'r rhaglen ymchwil fwyaf dwys erioed gan unrhyw sefydliad yn Hemisffer y Gorllewin..." Yn rhan o'u cyfraniad, cynhyrchodd Kumro amlenni wedi’u selio yn dwyn y teitl, PEIDIWCH AG AGOR TAN 1999 – ac mae un yn y Llyfrgell sydd yn dal heb ei hagor!

Wrth gyhoeddi delweddau, rhaid ystyried materion hawlfraint, ac mae gan nifer o'r ffotograffau hyn stamp ar y cefn gyda naill ai Hylton Warner & Co Ltd neu Giovanni Gemin (Whitchurch Road, Caerdydd). Ychydig iawn o wybodaeth ddaeth i'r fei wrth chwilio am Hylton Warner ar-lein, a dim byd o gwbl am Giovanni Gemin. Felly, rhoddwyd hysbyseb ar wefan y Photo Archive News yn gofyn i unrhyw un a oedd yn gyfarwydd â'r ddau ffotograffydd gysylltu. Ar ôl sbel, clywsom gan fab Giovanni Gemin. Yn ei haelioni, rhoddodd yr awdur uchel ei fri, Giancarlo Gemin, ganiatâd i ni gyhoeddi'r ffotograffau, a dywedodd y canlynol wrthym am ei dad:

“O 1961 ymlaen, roedd e'n ffotograffydd diwydiannol a masnachol yng Nghaerdydd. Roedd yn gweithio’n gyson i BBC Cymru, ac roedd yn un o ffotograffwyr swyddogol Arwisgo’r Tywysog Siarl. Cafodd gydnabyddiaeth gan Sefydliad Siartredig y Ffotograffwyr Corfforedig (AIIP) ac roedd yn Aelod Cyswllt Sefydliad y Ffotograffwyr Meistr (AMPA).”

Modelau yn sefyll o dan y nenfwd plastig clir

Modelau yn sefyll o dan y nenfwd plastig clir

 

Yn ogystal ag eitemau o effemera megis y catalog swyddogol, bag plastig, sticeri ac yn y blaen, mae dwy gyfrol o lyfrau sylwadau ymwelwyr hefyd wedi goroesi. Dyma gofnod gwych o ymateb yr ymwelwyr. Mae'r rhan fwyaf yn gadarnhaol iawn, ond nid oedd pawb yn gwerthfawrogi edrych i'r dyfodol yn hytrach na'r gorffennol clasurol. Dyma ambell sylw sydd wedi ein gwneud i ni wenu:

BW, Rhiwbeina “Ofnadwy”

RM, Rhondda “Ddim cystal â'r Amgueddfa Brydeinig”

MB, Cheltenham “Wedi drysu’n lân!”

MD, Durham “Mae'n well gennyf i'r HEN GYMRU falch ac urddasol, nid yr un plastig a ffug”

CS, Caerdydd “Angen dwstio”

SL, Caerdydd “Rwtsh, gwastraff gofod amgueddfa da!”

TO, Swydd Corc “SBWRIEL”

 
Nenfwd plastig wrthi'n cael ei osod

Nenfwd plastig wrthi'n cael ei osod

 
  • Detholiad o effemera'r arddangosfa
  • Arddangosfa Courtaulds [delwedd Hylton Warner trwy garedigrwydd Drake Education Associates]
  • Arddangosfa Swyddfa'r Post
  • Arddangosfa Dinas Caerdydd

Yn ddiweddar buom mewn cysylltiad â Drake Educational Associates a brynodd Hylton Warner ynghyd â hawlfraint eu ffotograffau rai blynyddoedd yn ôl. Diolch iddynt am adael i ni ddefnyddio'r delweddau yn yr erthygl hon.

Owain Glyndŵr a thrawst Sycharth

Dafydd Wiliam, 15 Medi 2017

Ar 16 Medi, 617 o flynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru gan ei ddilynwyr yn ei lys yn Glyndyfrdwy. Pahaodd ei frwydr yn erbyn grym Lloegr rhwng 1400 ag 1409. Roedd ei gartref, Sycharth, yn gastell mwnt a beili Normanaidd yn Llansilin, Sir Ddinbych. Cyn y gwrthryfel, honnai y bardd Iolo Goch fod naw neuadd yn y llys, a bod to o lechi ar bob un. Ysgrifennodd ‘Mae’i lys ef i nef yn nes’. Ar y stad roedd llyn pysgod, perllan, gwinllan, ceffylau, ceirw, peunod, a dim ond y cwrw lleol gorau fyddai ei weithwyr yn yfed. Wedi darganfod Sycharth yn wag fe losgwyd y lle i’r llawr gan Harri o Fynwy (a goronwyd wedyn yn Harri V). Wedi hynny fe losgodd Glyndyfrdwy.

Yn 1927 cysylltodd Yr Aldramon Edward Hughes o Wrecsam â Syr Cyril Fox, pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a oedd newydd agor i’r cyhoedd. Yn ei lythyr honodd fod trawst mawr derw wedi cael ei ddarganfod 30 mlynedd ynghynt tra’n gwagio ffos Sycharth I’r perchennog, Syr Watkin Williams-Wynn. Symudwyd y trawst yn ofalus i Neuadd Llangedwyn gan y Foneddiges Williams-Wynn. Yn 1924 gofynnodd Y Aldramon Hughes os gallai ddefnyddio’r trawst yn Neuadd Goffa newydd Llansilin. Roedd y trawst yn rhy hir i’r pwrpas, felly fe lifiwyd darn o un pen, gwaith anodd iawn yn ôl y son. Rhoddwyd y darn a oedd ar ôl i’r Amgueddfa.

Glanhawyd y trawst yn ddiweddar fel y gellid tynnu lluniau ohono ac ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni. Doedd dim golwg o losg arno fel y disgwylid, ond fe all fod yn ddarn o’r bont dros y ffos na losgwyd i’r un raddfa. Mae yn 50cm o uchder, a 27cm x 36cm o drwch (20” x 11” x 14”). Mae y mortis sylweddol sydd i’w weld yn un ochr yn 27cm x 14cm (11” x 6”).

Achosodd yr arddangosfa gryn diddordeb, ac fe gysylltodd Richard Suggett o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i gynnig mwy o wybodaeth. Rhai blynyddoedd ar ôl codi Neuadd Llansilin, tynnwyd trawst Sycharth o’r adeilad oherwydd pydredd, a rhoddwyd mewn sgip. Achubwyd y trawst gan Mr. Dick Hughes, perchennog garej lleol, a’i rhoi yn ôl i’r Neuadd rhai blynyddoedd wedyn. Mae gweddillion y trawst yn awr mewn cas gwydr, a bellach ond yn 75cm o hyd.

Mae gwaith cloddio archaeolegol yn Sycharth wedi darganfod neuadd 18 medr o hyd (43’), ond nid y naw a honnai Iolo Goch. Er mwyn cefnogi yr honiad taw darn o Sycharth yw’r trawst mae angen ceisio dyddio y pren. Wedi dweud hyn, nid yw pob darn o bren yn addas i’r dechneg o ddyddio drwy dendrocronoleg, ac eraill fel hwn o bosib yn rhy fregus yw ddyddio drwy gymeryd sampl gyda dril llaw.

Mae ein gwaith diweddar wedi bod yn canolbwyntio ar ddarganfod cymaint o wybodaeth a phosib drwy ymchwiliadau a wneith ddim niwed i’r pren. Hynny yw, defnyddio ein llygadau. Drwy oleuo y pren or ochr roedd modd gweld y gwahannol farciau a oedd wedi casglu drwy ddeunydd ers cyfnod Glyndŵr lan at ei dderbynodi mewn i’n casgliadau ni yn 1931. Mae’r rhain yn cynnwys y torriadau llif ar ddau ben y pren. Oherwydd bod un ohonnynt yn gam, y tebygrwydd yw y torriad yma a ddinistriwyd tri llif tua 1924 pan addaswyd y pren i ffitio i mewn i neuadd Llansilin.

Rydym hefyd wedi glanhau un o’r wynebau yma er mwyn gweld tyfiant y goeden dros amser. Ar ôl cyfri’r cylchoedd tyfiant fe welom fod y goeden tua 200 mlwydd oed pan y torrwyd hi. Ein cam nesaf yw cymharu patrwm tyfiant y goeden gyda’r catalog o gronoleg coed derw er mwyn rhoi dyddiad i’r trawst o Sycharth.