: Esblygiad a Difodiant

Y Galdrist Rithiol – un o blanhigion prinnaf Prydain

3 Gorffennaf 2013

Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009.

Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009.

Map yn dangos dosbarthiad y Galdrist Rithiol ym Mhrydain (pob cofnod: data trwy garedigrwydd Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain 2013).

Map yn dangos dosbarthiad y Galdrist Rithiol ym Mhrydain (pob cofnod: data trwy garedigrwydd Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain 2013).

Eleanor Vachell, tua 1930

Eleanor Vachell, tua 1930

Y Galdrist Rithiol a gasglwyd gan Rex Graham, 1953

Y Galdrist Rithiol a gasglwyd gan Rex Graham, 1953

Y Galdrist Rithiol o Swydd Henffordd 1982, wedi’i chadw mewn fformalin.

Y Galdrist Rithiol o Swydd Henffordd 1982, wedi’i chadw mewn fformalin.

Mae gan y Llysieufa Genedlaethol yn Amgueddfa Cymru gasgliad bychan – ond hynod werthfawr – o’r Galdrist Rithiol (Epipogium aphyllum Sw.) neu Degeirian y Cysgod. A ddylem fod yn falch o hynny, neu a ddylent fod wedi’u gadael yn y gwyllt? Mae’r ateb yng nghasgliad yr Amgueddfa, a gan wlithod...

Mae’r Galdrist Rithiol ymhlith planhigion prinnaf gwledydd Prydain. Fe’u canfuwyd mewn tua 11 safle yn ardaloedd y Chilterns a gorllewin canolbarth Lloegr, ond gan eu bod mor brin a’u lleoliad mor gyfrinachol, mae’n anodd gwybod sawl safle sydd yna’n union.

Planhigyn diflanedig

Cafodd y Galdrist Rithiol ei darganfod ym Mhrydain am y tro cyntaf ym 1854, ond dim ond un ar ddeg o weithiau y’i gwelwyd cyn y 1950au. Fe’i gwelwyd yn rheolaidd yma a thraw yn y Chilterns rhwng 1953 ac 1987, ond yna diflannodd, ac fe’i hystyriwyd yn ddiflanedig nes i un planhigyn gael ei ddarganfod yn 2009. Dim ond unwaith y’i gwelwyd yn y mwyafrif o safleoedd, ac yn anaml iawn am fwy na deng mlynedd.

Y Galdrist Rithiol – golygfa brin dan gysgod tywyll y goedwig.

Mae’r planhigyn lliw gwyn hufen i frown pincaidd hwn yn tyfu mewn coedwigoedd tywyll a chysgodol a dyna sy’n egluro’i enw. Diffyg cloroffyl sy’n gyfrifol am ei liw gan ei fod yn barasit ffyngau sy’n gysylltiedig â gwreiddiau coed, ac nid oes angen iddo gael ei fwyd ei hun trwy ffotosynthesis. Mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i oes fel rhisom (cyffion tanddaearol) ym mhridd neu ddeiliach coetiroedd, a dim ond ambell dro y gwelir blagur blodau uwchlaw’r ddaear. Hyd yn oed wedyn, mae ei maint bychan (llai na 15cm fel arfer, a phrin yn cyrraedd 23cm) a’u hymddangosiad anwadal rhwng mis Mehefin a mis Hydref yn golygu mai anaml iawn y gwelir y Galdrist Rithiol.

Tan yn ddiweddar, darn o risom a gasglwyd ar gyfer Eleanor Vachell ym 1926 oedd yr unig sbesimen Prydeinig yn nwylo Amgueddfa Cymru. Ei llysieufa hi yw un o’r rhai mwyaf cynhwysfawr gan fotanegydd o Brydain, a chyflwynodd ei chasgliad i’r Amgueddfa pan fu farw ym 1949. Mae ei dyddiadur botanegol yn adrodd hanes darganfod y Galdrist Rithiol:

"28 May 1926. The telephone bell summoned Mr [Francis] Druce to receive a message from Mr Wilmott of the British Museum. Epipogium aphyllum had been found in Oxfordshire by a young girl and had been shown to Dr [George Claridge] Druce and Mrs Wedgwood. Now Mr Wilmott had found out the name of the wood and was ready to give all information!!! Excitement knew no bounds. Mr Druce rang up Elsie Knowling inviting her to join the search and a taxi was hurriedly summoned to take E.V. [=Eleanor Vachell] and Mr Druce to the British Museum to collect the particulars from Mr Wilmott. The little party walked to the wood where the single specimen had been found and searched diligently that part of the wood marked in the map lent by Mr Wilmott but without success, though they spread out widely in both directions... Completely baffled, the trio, at E.V.'s suggestion, returned to the town to search for the finder. After many enquiries had been made they were directed to a nice house, the home of Mrs I. ?, who was fortunately in when they called. E.V. acted spokesman. Mrs I. was most kind and after giving them a small sketch of the flower told them the name of the street where the girl who had found it lived. Off they started once more. The girl too was at home and there in a vase was another flower of Epipogium! In vain did Mr Druce plead with her to part with it but she was adamant! Before long however she had promised to show the place to which she had lead Dr Druce and Mrs Wedgwood and from which the two specimens had been gathered. Off again. This time straight to the right place, but there was nothing to be seen of Epipogium! 2 June 1926. A day to spare! Why not have one more hunt for Epipogium? Arriving at the wood, E.V. crept stealthily to the exact spot from which the specimen had been taken and kneeling down carefully, with their fingers they removed a little soil, exposing the stem of the orchid, to which were attached tiny tuberous rootlets! Undoubtedly the stem of Dr Druce's specimen! Making careful measurements for Mr Druce, they replaced the earth, covered the tiny hole with twigs and leaf-mould and fled home triumphant, possessed of a secret that they were forbidden to share with anyone except Mr Druce and Mr Wilmott. A few days later E.V. received from Mr Druce an excited letter of thanks and a box of earth containing a tiny rootlet that he had found in the exact spot they had indicated." [Ffynhonnell: Forty, M. & Rich, T. C. G., eds. (2006). The botanist. The botanical diary of Eleanor Vachell (1879-1948). Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd]

Rhannodd Eleanor ei gwreiddiosyn â’i chyfaill mynwesol Elsie Knowling, a oedd hefyd yn cadw llysieufa. Trwy gyd-ddigwyddiad lwcus, mae’r ddau ddarn bellach gyda’i gilydd yn yr Amgueddfa ar ôl bod ar wahân am 84 o flynyddoedd.

Ym 1953, daeth Rex Graham, mab Elsie, ar draws 22 Galdrist Rithiol mewn coedwig yn Swydd Buckingham, sef y gytref fwyaf erioed yng ngwledydd Prydain (Graham 1953). Dyma’r tro cyntaf i’r Galdrist Rithiol gael ei gweld ers ugain mlynedd, a hawliodd sylw’r wasg Brydeinig. Dim ond tri sbesimen gasglodd Rex ar y pryd, ond aeth ati i gasglu rhagor dros y blynyddoedd dilynol pan welodd fod gwlithod yn eu bwyta. Ymhen hir a hwyr, roedd gan Rex bedwar sbesimen ar gyfer ei lysieufa ei hun, i’w hychwanegu at y darn yn llysieufa ei fam. Roedd y Galdrist Rithiol ymhlith trysorau llysieufa Graham & Harley, a roddwyd i Amgueddfa Cymru yn 2010.

Y trydydd casgliad yw’r unig sbesimen yn yr Amgueddfa sy’n cael ei gadw mewn gwirod (yn hytrach na’i wasgu a’i sychu) er mwyn dangos strwythur tri dimensiwn y blodyn. Darganfuwyd gan y Dr Valerie Richards (Coombs gynt) ym 1982, a’i roi trwy garedigrwydd i’r Amgueddfa yn 2013.

I waith caled a greddf Mark Jannink, yn ogystal â gwlithen lwglyd arall, y mae’r diolch am y pedwerydd casgliad a’r olaf. Dechreuodd Mark ystyried a oedd y Galdrist Rithiol yn blodeuo’n amlach ar ôl gaeafau oer. Ymchwiliodd i’r holl ddarganfyddiadau blaenorol o’r Galdrist Rithiol – ei hoff gynefin, tymor blodeuo a phatrymau’r tywydd – yna dechrau gwylio deg safle posib yng ngorllewin canolbarth Lloegr, ac ymweld â nhw bob pythefnos gydol haf 2009, ar ôl un o’r gaeafau oeraf ers blynyddoedd lawer. O’r diwedd, ym mis Medi, daeth ar draws un sbesimen bach. Roedd yn destun cryn gyffro i fotanegwyr, gan fod y Galdrist Rithiol wedi’i dynodi’n ddiflanedig yn swyddogol yn 2005. Dychwelodd Mark yno sawl tro yn ystod y dyddiau nesaf, wrth i’r planhigyn bylu a ‘brownio’ yn araf, hyd nes bod y gwlithod wedi cnoi drwy’r coesyn. Cafodd y gweddillion eu casglu a’u gwasgu, a’u cyfrannu i’n llysieufa ni yn fuan wedyn.

Felly, cafodd pump o’r saith Galdrist Rithiol o Brydain sydd yn Amgueddfa Cymru, eu casglu yn sgil gwlithod, sy’n fwy o fygythiad na botanegwyr. Mae’r Galdrist Rithiol wedi’i diogelu’n llawn gan y gyfraith, dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ond dyw’r gwlithod ddim callach!

Mae gennym wyth sbesimen o Ewrop hefyd, lle mae’r Galdrist Rithiol yn fwy cyffredin, ond eto’n brin. Cafodd un o’n sbesimenau gorau ei gasglu gan W. A. Sledge yn y Swistir.

Mae croeso i chi ddod draw i weld y Galdrist Rithiol yn Llysieufa Genedlaethol Cymru, ond peidiwch â disgwyl i ni ddatgelu o ble y daethant! A da chi, gadewch eich gwlithod gartref.

Darn o wreiddiosyn y Galdrist Rithiol yn llysieufa  Eleanor Vachell. Mae hefyd yn cynnwys cyfeiriad y Dr George Claridge Druce (1924) ato yn <em>Gardeners Chronicle</em> cyfres 3 cyfrol 76, tudalen 114 a dau fraslun bach gan Miss Baumgartner.

Darn o wreiddiosyn y Galdrist Rithiol yn llysieufa Eleanor Vachell. Mae hefyd yn cynnwys cyfeiriad y Dr George Claridge Druce (1924) ato yn Gardeners Chronicle cyfres 3 cyfrol 76, tudalen 114 a dau fraslun bach gan Miss Baumgartner.

Galdrist Rithiol o’r Swistir a gasglwyd gan W. A. Sledge ym 1955.

Galdrist Rithiol o’r Swistir a gasglwyd gan W. A. Sledge ym 1955.

Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009

Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009

Cyfeiriadau

  • Graham, R. A. (1953). Epipogium aphyllum Sw. in Buckinghamshire. Watsonia 3: 33 a’r tab. (http://archive.bsbi.org.uk/Wats3p33.pdf ).
  • Harley, R. M. (1962). Obituary: Rex Alan Henry Graham. Proceedings of the Botanical Society of the British Isles 4: 505-507.

Rhagor o wybodaeth am y Galdrist Rithiol:

  • Farrell, L. (1999) Epipogium aphyllum Sw. tudalen 136 yn Wigginton, M. J. (1999) British Red Data Books 1. Vascular plants. 3ydd argraffiad. JNCC, Peterborough.
  • Foley, M. J. Y. a Clark, S. (2005) Orchids of the British Isles. The Griffin Press, Maidenhead.
  • Jannink, M. a Rich, T. C. G. (2010). Ghost orchid rediscovered in Britain after 23 years. Journal of the Hardy Orchid Society 7: 14-15.
  • Taylor, L. a Roberts, D. L. (2011). Biological Flora of the British Isles: Epipogium aphyllum Sw. Journal of Ecology 99: 878–890. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1365-2745.2011.01839.x/abstract:

Ffosil hynafol yng ngolau technoleg fodern

Christian Baars, 17 Rhagfyr 2012

 Rhan o garreg yn cynnwys cwrel ffosil, prin y gellir ei weld. Mae'r rhan fwyaf o'r ffosil y tu mewn i'r garreg.

Rhan o garreg yn cynnwys cwrel ffosil, prin y gellir ei weld. Mae'r rhan fwyaf o'r ffosil y tu mewn i'r garreg.

Adeiladau syncrotron Diamond Light Source yn Didcot, Swydd Rydychen

Er bod y ffosilau'n fach mae'r peiriannau'n fawr: adeiladau syncrotron Diamond Light Source yn Didcot, Swydd Rydychen.

Cyn i ffosilau gael eu hadnabod gan balaeontolegwyr, yn aml mae'n rhaid eu paratoi yn ofalus a gall technegau traddodiadol achosi niwed trychinebus i sbesimenau. Mae gwyddonwyr yn Amgueddfa Cymru yn arbrofi â thechnolegau newydd er mwyn astudio ffosilau hynafol mewn manylder heb niweidio'r sbesimen o gwbl.

Yn aml er mwyn paratoi ffosil i'w adnabod a'i astudio rhaid gwaredu'r garreg o'i amgylch drwy ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol, fel pinnau niwmatig yn defnyddio aer wedi'i gywasgu a pheiriannau ffrithiant aer sy'n gweithio fel sgwrwyr tywod bach. Mewn rhai achosion, gall y garreg gael ei doddi drwy ddefnyddio asid.

Technegau dinistriol

Bydd y technegau paratoi yma yn dadorchuddio arwyneb y ffosil, ond rhaid i ni edrych y tu mewn i'r sbesimenau er mwyn eu hadnabod. Defnyddir technegau dinistriol yn gyson i archwilio rhai grwpiau ffosil. Er mwyn astudio strwythurau mewnol cwrel, bryosoaid a braciopodau er enghraifft, caiff y sbesimenau eu torri (eu trychu) yn dafellau tenau er mwyn i ni allu sgleinio golau drwyddynt a'u harchwilio dan ficrosgopau. 'Trychiadau tenau' yw'r enw ar y tafellau yma.

Weithiau, mae'n well peidio â thynnu'r garreg neu dorri'r sbesimen. Os yw'r ffosil yn fregus iawn gall dorri wrth gael ei baratoi. Ar y llaw arall, os yw'r ffosil yn un prin iawn, ni fyddem am ddefnyddio technegau dinistriol gan y byddai'n anodd, neu'n amhosibl cael ffosil arall yn ei le.

Tomograffeg Pelydr-X — osgoi dinistrio

Bellach, gallwn ddefnyddio pelydr-X i adeiladu delwedd 3D rhithwir o ffosilau bregus diolch i dechneg o'r enw tomograffeg pelydr-X. Gan fod carreg yn dipyn mwy dwys na meinwe'r corff, mae tomograffeg pelydr-X yn defnyddio ffynhonnell ymbelydredd mwy pwerus o lawer na pheiriant mwn ysbyty. Yr unig leoliad o'r fath yn y DU yw syncrotron Diamond Light Source yn Didcot, Swydd Rydychen. Mae'r peiriant siâp toesen anferth yma'n 300 metr o ddiamedr ac yn cyflymu gronynnau wedi'u gwefru (electronau) drwy gyfres o fagnetau nes eu bod yn cyrraedd cyflymdra golau, gan gynhyrchu pelydrau-X.

Defnyddiodd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru y dechneg hon yn ddiweddar i ymchwilio i ffosil bychan a ganfuwyd mewn cerrig Ordoficaidd 462 miliwn o flynyddoedd oed yn Iran. Roedd wedi'i hanner claddu yn y garreg ac yn ymddangos fel un cwrel crychlyd. Penderfynwyd peidio â defnyddio'r dechneg arferol o adnabod cwrel crychlyd – sef ei drychu yn dafellau tenau – oherwydd ei faint bach a'i brinder. Aed a'r sbesimen yn hytrach i Didcot i gynnal arbrawf tomograffeg pelydr-X.

Bu'r dechneg newydd yn llwyddiannus iawn, gan greu delweddau 3D gwych a thrychiadau rhithwir hafal heb niweidio'r ffosil ei hun. Defnyddiwyd y delweddau i archwilio strwythur mewnol y ffosil a dod i'r casgliad taw cwrel oedd y sbesimen – rhywogaeth o genws Lambelasma mwy na thebyg.

Mae'r sbesimen tua 5 miliwn o flynyddoedd yn hŷn na'r cwrel crychlyd cynharaf a ddisgrifiwyd cyn hyn, ac felly'n gaffaeliad gwerthfawr i'n dealltwriaeth o fywyd cynnar ar ein planed.

See Also:

Read the latest news from Diamond Light Sourse website: Researchers discover earliest record of rugose coral

Dylunio Meicrosgopig: casgliad Ernest Heath o Fforaminiffera

5 Ionawr 2012

Casgliad sleidiau Ernest Heath

Casgliad sleidiau Ernest Heath

Fyddai gennych chi'r amynedd i greu patrymau pitw fel y rhain?

Dychmygwch mai'r flwyddyn yw 1900, does dim teledu na rhyngrwyd i'ch diddanu. Drwy lwc, mae meicrosgopau fforddiadwy ar gael ac rydych chi wedi dechrau casglu gwrthrychau gwych a gwirion i'w hastudio. Mae archwilio byd natur ar raddfa fach yn boblogaidd ac yn hwyl.

Fforaminiffera sydd ar y sleidiau meicrosgop hyn gan fwyaf, sef anifeiliaid pitw sy'n byw drwy arnofio ger arwyneb y môr neu ar wely'r môr.

Ernest Heath: Gwr a chanddo law gadarn

Cawsant eu creu gan Ernest Heath, fwy na thebyg gan ddefnyddio brwsh paent gwlyb i godi'r samplau o dywod a llaid. Dydyn ni ddim yn gwybod rhyw lawer am y dyn ond roedd yn gymrawd y Gymdeithas Feicrosgopaidd Frenhinol, cafodd afael ar laid o foroedd dyfnion o bedwar ban rywfodd neu'i gilydd ac mae'n rhaid bod ganddo lawer o amser sbâr! Cysylltwch â ni os ydych chi'n gwybod mwy amdano.

Yn ddiweddar, bu arbenigwyr Daeareg yr Amgueddfa wrthi'n glanhau ac yn adfer y casgliad unigryw a hardd hwn o sleidiau.

Ffosilau o ddyddiau cynnar math newydd o wyddoniaeth.

Sleid microsgop cyn ac ar ôl gwaith cadwraeth

Sleid microsgop cyn ac ar ôl gwaith cadwraeth

Cafodd rhai o'r fforaminiffera eu casglu drwy dreillio gan HMS Challenger ar ei alldaith ym 1872-1876. Dyma oedd un o'r alldeithiau ymchwil gwyddonol cyntaf ar y môr ac fe'i galwyd yn ddechreuad eigioneg, sef astudiaeth y cefnforoedd. Mewn gwirionedd, rydyn ni'n dal i wybod llai am wely'r môr nag y gwyddom am ochr dywyll y lleuad!

Cliciwch ar y crynoluniau isod i weld detholiad o ddelweddau o'r casgliad.

Archaeopteryx – y ddolen goll rhwng deinosoriaid ac adar?

Cindy Howells a Caroline Buttler, 13 Hydref 2011

Mae'r Archaeopteryx yn ffosil eiconig, a ystyrir yn aml fel y 'ddolen goll' rhwng deinosoriaid ac adar. Fe'i disgrifiwyd am y tro cyntaf yn 1861 yn ôl gan Hermann von Meyer (1801–1869), palaeontolegydd o'r Almaen. Ers hynny, mae'r Archaeopteryx wedi bod yn destun dadl ynghylch tarddiad adar a'u cysylltiad â'r deinosoriaid.

Dim ond un sbesimen ar ddeg ac un bluen sydd wedi'u darganfod, a hynny mewn nifer fechan o chwareli ger tref Solnhofen yn ardal Bafaria, de'r Almaen.

Daw bron pob sbesimen o Galchfaen Solnhofen, sef calchfeini mân mwdlyd gafodd eu dyddodi mewn lagwnau trofannol rhyw 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl tua diwedd y cyfnod Jwrasig. Cafodd un sbesimen ei ddarganfod yn nyddodion gorchuddiol Ffurfiant Mörnsheim, ac mae tua hanner miliwn o flynyddoedd yn iau na'r gweddill.

Ffosil sgerbwd Archaeopteryx gydag olion plu.

Sbesimen Archaeopteryx (Museum für Naturkunde, Berlin, yr Almaen)

Darganfyddiad

Ym 1861, cyhoeddodd Hermann von Meyer ddisgrifiad o bluen ffosil gafodd ei ddarganfod yng Nghalchfaen Solnhofen, a'i enwi'n Archaeopteryx lithographica. Ystyr Archaeopteryx yw 'adain hynafol'. Dywedodd Von Meyer fod "sgerbwd lled gyflawn o anifail wedi'i orchuddio â phlu" wedi'I ddarganfod hefyd. Wedi cryn gystadleuaeth rhwng amgueddfeydd amrywiol, llwyddodd yr Amgueddfa Brydeinig i brynu'r sgerbwd ynghyd â ffosilau eraill Solnhofen am £700, swm anferthol ar y pryd, yr un faint â chyflog deng mlynedd a mwy i grefftwr medrus.

Ym 1863, fe wnaeth Richard Owen, Uwcharolygydd casgliadau hanes natur yr Amgueddfa Brydeinig, ddisgrifio a darlunio'r sbesimen, gan gyfeirio ato fel aderyn ag iddo "rare peculiarities indicative of a distinct order". Cafodd y ffosil arbennig hwn ei ddarganfod prin ddwy flynedd ers cyhoeddi llyfr Charles Darwin, On the Origin of Species, a newidiodd farn pobl am y byd naturiol.

Roedd yr Archaeopteryx yn cydfynd ag athroniaeth Darwin gan ei fod yn dangos nodweddion adar ac ymlusgiaid.

Sut olwg oedd ar yr Archaeopteryx?

Aderyn cyntefig a chanddo blu oedd yr Archaeopteryx, ond mae ei sgerbwd ffosiledig yn debycach i ddeinosor bychan.

Roedd tua'r un maint â phioden. Yn wahanol i adar modern, roedd ganddo lond ceg o ddannedd, cynffon hir esgyrnog a thair crafanc ar ei adenydd a ddefnyddiwyd i fachu ar ganghennau o bosibl. Nid oedd ganddo fysedd troed cwbl gildro sy'n helpu llawer o adar modern i glwydo. Roedd gan yr Archaeopteryx asgwrn tynnu, fodd bynnag, ac adenydd a phlu 'hedfan' anghymesur, fel aderyn cyffredin. Mae'n bosibl ei fod yn gallu hedfan, er nad cystal â hynny.

Adluniad o Archaeopteryx gyda phlu glas a melyn, yn sefyll ar gangen.

Adluniad o'r Archaeopteryx (© J. Sibbick)

Byd yr Archaeopteryx

Bu Archaeopteryx yn byw ar dir ar bwys casgliad o lagwnau llonydd a hallt o fewn môr trofannol bas. Roedd bywyd ar wyneb dyfroedd y lagwnau yn bennaf, gan fod llawer o'r gwaelodion yn wenwynig iawn. Mae'n bosibl mai crinoidau arnofiol bach (lili'r môr) ac ambell bysgodyn oedd yr unig anifeiliaid oedd yn byw yn y lagwnau.

Roedd amonitau, berdys, cimychiaid a sêr môr yn byw yn y môr agored gerllaw, ac roeddynt yn cael eu golchi i'r lagwnau gan stormydd o dro i dro. Nid oeddynt yn para'n hir yn nyfroedd y lagŵn. Cafodd olion marchgrancod eu darganfod ar ddiwedd trywydd byr o'u hôl troed eu hunain.

Weithiau, byddai ymlusgiaid morol fel ichthyosoriaid a chrocodeiliaid yn cael eu golchi i'r lagwnau hefyd. Roedd pterosoriaid a phryfed mawr fel gweision y neidr yn hedfan fry uwchben y môr. Byddent yn cael eu sgubo i ddyfroedd y lagwnau mewn stormydd.

Cafodd sbesimen ifanc o ddeinosor theropod bach o'r enw Compsognathus ei ddarganfod yn yr un gwaddodion, wedi'I olchi yno o'r tir siŵr o fod.

Darlun o dri Archaeopteryx mewn coedwig gynhanesyddol: un yn hedfan yn agos at y ddaear, un arall yn lansio oddi ar y ddaear a'r trydydd yn dringo coeden.

Adluniad o'r Archaeopteryx (© J. Sibbick)

Sut wnaeth Archaeopteryx farw a chael ei gadw?

Er mai aderyn y tir oedd yr Archaeopteryx, byddai rhai ohonynt yn cael eu dal gan stormydd weithiau wrth hofran uwchben y dŵr. Yn llawn dŵr ac yn methu codi i'r awyr eto, byddent yn boddi ac yn suddo i waelod y lagŵn.

Mae'r holl sbesimenau y gwyddom amdanynt yn dangos nodweddion anaeddfedrwydd, sy'n awgrymu nad oedd yr un ohonynt wedi tyfu'n oedolyn. Efallai mai dyma pam nad oedden nhw'n llwyddo i oroesi tywydd stormus.

Cafodd eu carcasau eu claddu'n gyflym dan fwd calch mân ar wely'r lagŵn. Credir bod metr o'r graig heddiw yn cynnwys gwaddodion 5,000 o flynyddoedd.

Mae ffosilau Solnhofen wedi para'n rhyfeddol o dda, am na wnaeth creaduriaid ysglyfaethus na symudiadau'r dŵr darfu arnynt. Mae'r calchfeini graenog yn cynnwys nodweddion cywrain fel adenydd gwas y neidr neu blu'r Archaeopteryx.

Darllen pellach

Wellnhofer, P. 2009. Archaeopteryx the icon of evolution. Pfeil Verlag, München, 208 tud.

Arthygl gan: Cindy Howells, Rheolwr Casgliadau (Palaeontoleg) a Caroline Buttler, Pennaeth Palaeontoleg

Bywyd ffosil - ar raddfa wahanol

8 Mawrth 2011

Y pysgodyn ffosil Pholidophorus; mae'r cylch yn dangos yr ardal dywyll lle mae'r bacteria ffosil wedi'u cadw

Y pysgodyn ffosil Pholidophorus; mae'r cylch yn dangos yr ardal dywyll lle mae'r bacteria ffosil wedi'u cadw

 Golwg drwy ficrosgop ar y gytref o facteria ffosiledig, wedi'i chwyddo x20,000

Golwg drwy ficrosgop ar y gytref o facteria ffosiledig, wedi'i chwyddo x20,000

Ffosilau yw gweddillion bywyd hynafol. Mae'r rhan fwyaf o ffosilau anifeiliaid wedi'u gwneud o rannau caled y corff fel esgyrn, dannedd a chregyn. Mewn rhai achosion prin, gall meinwe meddal neu facteria hyd yn oed gael eu ffosileiddio.

Pysgodyn ffosil o Wald yr Haf sydd wedi'i gadw'n dda

Darganfuwyd y pysgodyn ffosil a welir yma ar draeth Kilve yng ngogledd Gwlad yr Haf, ac er ei fod wedi colli'i ben, mae'r gweddill wedi cadw'n dda. Mae'r ffosil tua 11cm o hyd ac mae ei gen yn amlinellu siâp ei gorff. Gellir gweld olion yr esgyll blaen hefyd.

Pholidophorus yw enw'r pysgodyn; mae'n anifail sydd wedi marw allan oedd yn edrych yn debyg i'r pennog modern. Bu farw'r pysgodyn hwn bron i 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl tra'n nofio yn y môr Jwrasig oedd yn gorchuddio Gwlad yr Haf. Cafodd y corff lonydd gan sborionwyr wedi iddo farw ac felly cafodd ei gladdu mewn gwaddod mân. Caledodd y gwaddod yma yn y pen draw i ffurfio carreg a cafodd y pysgodyn ei ffosileiddio y tu mewn iddi.

Manylion microsgopig yn datgelu mwy o weddillion ffosiledig

Er ei fod yn esiampl dda, mae'r pysgodyn ffosil hwn wedi cadw rhywbeth mwy hynod fyth hyd yn oed. Tynnodd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru ddarnau bychan o ganol y ffosil i'w hastudio o dan ficrosgop electron. Wedi chwyddo'r ddelwedd 20,000 o weithiau, daeth rhai manylion bychan i'r golwg — haen o strwythurau pitw hirgrwn. Dyma weddillion ffosiledig bacteria.

Mae bacteria wedi ffosileiddio wedi eu canfod mewn sawl lle yn y byd, ac mae'r mwyaf amlwg mewn ffosilau yn Ne America a'r Almaen. Mae'r bacteria wedi'u cadw mewn calsiwm ffosffad yn aml iawn, am fod calsiwm yn elfen gyffredin mewn gwaddod, a ffosfforws yn cael ei greu wrth i feinwe anifeiliaid bydru.

Sut ydyn ni'n gwybod taw bacteria ffosil yw'r rhain?

Yn gyntaf, maen nhw wedi clystyru at eu gilydd mewn cytrefi ac o faint a siâp tebyg i facteria modern.

Yn ail, mae meinweoedd cellol bregus eraill, fel celloedd embryo a ganfuwyd yng nghreigiau Cambriaidd Tsieina, wedi cael eu cofnodi. Gall meinwe cyhyr wedi ffosileiddio hyd yn oed gadw manylion mewnol celloedd, er enghraifft yng nghreigiau Jwrasig Brasil a chreigiau Mïosenaidd Sbaen. Mae gwyddonwyr yn gweld achosion o ffosileiddio celloedd yn amlach, yn cynnwys bacteria, wrth iddyn nhw edrych yn fanylach ar y ffosilau yn eu casgliadau.

I gloi, mewn achosion prin gall haen denau dywyll o facteria ffosil amlinellu ffosil, gan ddatgelu siâp meinweoedd cnawdol o amgylch y sgerbwd, fel yng nghreigiau Ëosen yr Almaen. Mae hyn yn dweud wrthon ni bod y bacteria wedi ffosileiddio'n gyflym wedi iddyn nhw farw.

Mae'n dod yn gynyddol amlwg bod bacteria yn chwarae rôl bwysig wrth ffosileiddio, gyda'r bacteria eu hunain weithiau yn cael eu cadw.

Wrth edrych ar ffosil, mae'n naturiol meddwl pa fath o anifail neu blanhigyn yw e, ond gellir gwneud rhai darganfyddiadau diddorol drwy ofyn o beth mae'r ffosil wedi ei wneud?. Mae'r ateb wrth edrych yn agosach yn peri syndod yn aml a gall fod yn allweddol i ddysgu sut y cafodd yr organeb ei ffosileiddio yn y lle cyntaf.