Ffosil Ymlusgiad o Dde Cymru Cindy Howells, 12 Gorffennaf 2010 Gweddillion yr ichthyosor ar ôl eu paratoi i'w harddangos Sbesimen gyda'r labeli yn dangos enwau'r esgyrn Yn 2009, cafodd Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru sgerbwd ichthyosor newydd o Gymru, a ganfuwyd wedi'i gadw yng nghreigiau arfordir de Cymru. Ddau gan miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Jwrasig cynnar, roedd de ddwyrain Cymru wedi'i orchuddio â môr bas, cynnes, yn llawn bywyd. Un o'r prif ysglyfaethwyr yn y dyfroedd hyn oedd yr ichthyosor, ymlusgiad morol diflanedig, a oedd yn edrych fel dolffin. Gallai'r anifeiliaid hyn gyrraedd dros 15m o hyd, ac roeddent yn ymosod ar bysgod bychain ac anifeiliaid morol eraill megis amonitau a belemnitau. Darganfuwyd y ffosil nifer o flynyddoedd yn ôl, yn y creigiau ym Mhenarth, ger Caerdydd a chafodd Amgueddfa Cymru ef i'w arddangos yn gyhoeddus. I baratoi'r sbesimen ar gyfer ei arddangos, roedd angen oriau o waith manwl, gofalus i dynnu'r graig a oedd yn gorchuddio'r esgyrn ymlusgiad. Ffosiliau prin Mae esgyrn a dannedd unigol ichthyosoriaid yn ffosilau cymharol gyffredin yn ne Cymru, Dorset, a Gwlad yr Haf, yn ogystal â rhannau o Ganolbarth Lloegr a Swydd Efrog, ond mae sgerbydau llawn neu bron yn llawn yn fwy prin. Mae'r sbesimen a ddarganfuwyd ym Mhenarth yn cynnwys rhan isaf y pen ac un o'i aelodau sy'n debyg i rwyf, yn ogystal â darn o'r ysgwydd a nifer o asennau. Ar ôl iddo farw, claddwyd yr anifail yn y gwaddodion ar wely'r môr, gan ei achub rhag cael ei ysglyfaethu gan anifeiliaid eraill. Bydd y sgerbwd hwn o gymorth i'n dealltwriaeth o fywyd Jwrasig yng Nghymru. I ddysgu mwy am ichthyosoriaid a bywyd yn y cyfnod Jwrasig, ewch i arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cyfrinachau'r amonitau Cindy Howells, 26 Chwefror 2010 Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain Amonitau sy'n rhan o'r casgliadau Darn o'r amonit sy'n dangos y siambrau Ochr isaf sbesimen parod Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain Mae gwyddonwyr wedi llwyddo i hydoddi'r graig a oedd yn amgylchynu ffosil amonit 150 miliwn o flynyddoedd oed, gan ddatgelu'r patrymau cymhleth o bigynau am y tro cyntaf erioed. Pan welwch chi ffosil ar draeth, fel rheol bydd wedi torri neu erydu. Efallai y byddwch yn ei daflu i ffwrdd oherwydd ei fod mewn cyflwr gwael. Ond mae'r rhan fwyaf o ffosilau yn cael eu darganfod wedi'u cuddio'n rhannol mewn craig, ac mae'r rhain yn gallu bod yn llawn o gyfrinachau cudd. Rhoddwyd un ffosil amonit o'r fath o'r golwg mewn drôr yn Adran Ddaeareg yr Amgueddfa am hanner canrif. Mae'n rhan o gasgliad o bron i 6,000 o ffosilau a gyfranwyd gan James Frederick Jackson i'r Amgueddfa ym 1960. James Frederick Jackson Roedd Jackson yn byw mewn bwthyn bach yn Charmouth ger Lyme Regis, ac yn treulio'i amser hamdden yn casglu creigiau a ffosilau ar hyd arfordir Dorset yn ne-orllewin Lloegr. Bu'n gweithio yn yr Amgueddfa rhwng 1914 a 1919, a chyfrannodd bron i 21,000 o sbesimenau yn ystod ei oes. Mae palaeontolegwyr yn astudio casgliad Jackson yn rheolaidd oherwydd ei fod yn cynnwys cofnod cyflawn a gwerthfawr o ffosilau Jwrasig Dorset. Ychydig flynyddoedd yn ôl, sylwodd un ymchwilydd ar amonit anarferol. Fodd bynnag, roedd darn helaeth o'r ffosil ynghudd yn y graig, ac roedd angen ei dynnu'n ofalus iawn o'r graig i ddatgelu'r ffosil. Blwyddyn o baratoi Ar ôl blwyddyn o waith caled, o'r diwedd cafodd y sbesimen ei ddychwelyd i'r Amgueddfa i'w arddangos gyda'r casgliadau. Defnyddiwyd asid gwan i gael gwared ar y gwaddodion calchfaen, gan ddatgelu pigynau cywrain y sidelli mewnol am y tro cyntaf erioed. Byddai rhan allanol yr amonit wedi cynnwys pigynau tebyg hefyd, ond roedd rheiny wedi cael eu herydu'n gyfan gwbl. Mae'r sbesimen hwn wedi ymddangos yn ddiweddar ym monograff y Palaeontographical Society, mewn cyfres arbennig sy'n cynnwys disgrifiadau gwyddonol a lluniau o ffosilau Prydeinig, dan yr enw gwyddonol ffurfiol Eoderoceras obesum (Spath). Amonitau Anifeiliaid y môr oedd amonitau a oedd yn perthyn i'r Nawtilws (neu gragen Bedr), ac roedden nhw'n byw yn y Cyfnod Mesosöig (251-65.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Roedden nhw'n nofio yn y môr, gan hela a bwyta anifeiliaid llai'r môr. Roedd ganddynt gragen droellog fel arfer, rhwng 5mm a 2m ar draws. Gallai'r cregyn fod yn llyfn, rhychiog, cnapiog neu hyd yn oed bigog. Roedden nhw'n byw yn sidell allanol eu cragen, tra'r oedd y rhan fewnol yn llawn siambrau nwy er mwyn eu galluogi i nofio'n dda. Gallwch weld patrwm cymhleth ar wyneb cregyn amonitau, sy'n dangos y rhaniad rhwng pob siambr. Mae palaeontolegwyr yn defnyddio'r holl nodweddion hyn i adnabod rhywogaethau gwahanol o amonitau. Mae gan yr Amgueddfa gasgliadau sylweddol a phwysig o amonitau, y rhan fwyaf o dde-orllewin Prydain. Maent yn ddefnyddiol iawn er mwyn helpu gwyddonwyr i ddeall daeareg a phalaeontoleg gwledydd Prydain.
Trillabedogion trofannol o'r Ynys Las rewedig Lucy McCobb, 5 Awst 2009 Casglu ffosiliau yn yr eira. 1950. Ffoto o'r Ynys Las o'r awyr: Casglwyd y ffosiliau o'r ardal a liwiwyd yn goch. Ffosil o lygad mawr carolinit sef trillabedog a fu'n nofio drwy'r môr agored yn chwilio am fwyd. Mae gan gynffon y trillabedog asidifforws asgwrn cefn trawiadol. Mae casgliad eang yr Amgueddfa o ffosiliau'n cynnwys ffosiliau trillabedog o oes Ordofigaidd (470-490 miliwn o flynyddoedd yn ôl) o'r Ynys Las. Er bod y cyfandir erbyn hyn yn oer a rhewllyd nid felly y bu gynt. Fforwyr Prydain yn y gogledd rhewllyd Mae'r Ynys Las yn lle anodd iawn o ran astudio a chasglu ffosiliau. Mae'r rhan fwyaf ohoni'n aros dan rew drwy gydol y flwyddyn a dim ond ym misoedd yr haf ar yr arfordir mae modd mynd at gerrig brig yn hawdd. Dechreuodd fforwyr deithio i archwilio daeareg yr Ynys Las yn hwyr yn y 19eg ganrif ac maent yn parhau hyd heddiw. Trefnwyd y teithiau hyn gan Arolwg Daearegol yr Ynys Las sydd wedi'i leoli yng Nghopenhagen. Yn y 1990au cyflwynwyd i'r Amgueddfa gasgliad o drillabedogion o'r oes Gambriaidd ac Ordofigaidd o ganol dwyreiniol yr Ynys Las o deithiau 1950-4 gan y Dr John Cowie, gynt o Brifysgol Bryste a chydweithiwr, y Dr Peter Adams. Yr Ynys Las yn crwydro'r byd Heddiw rydym yn gyfarwydd â'r Ynys Las fel lle oer a rhewllyd ond nid felly y bu gynt. Mae'r platiau tectonig sy'n ffurfio lithosffer y ddaear wedi symud drwy gydol hanes. Mae daearegwyr wedi dangos bod yr Ynys Las yn ystod y cyfnod Ordofigaidd yn agos at y cyhydedd. Gyda gogledd America a Sbitsbergen roedd yn ffurfio cyfandir hynafol o'r enw Lawrensia. Ar yr un adeg roedd Cymru yn bell i ffwrdd yn y lledredau deheuol, uchel, claear yn agos i gyfandir anferth Gondwana. Mae ffosiliau'r planhigion o'r moroedd bas Ordofigaidd o gwmpas Lawrensia a Gondwana yn wahanol iawn i'w gilydd ac nid oes yr un rhywogaeth o drillabedog yn gyffredin i'r Ynys Las a Chymru. Ynys Las yn ystod y cyfnod Ordofigaidd yn agos at y cyhydedd Trillabedogion trofannol yn newydd i wyddoniaeth Mae trillabedogion Ordofigaidd yr Ynys Las wedi'u cadw mewn carreg galch a ymgasglodd ar lawr y moroedd twym, bas ac isdrofannol. Mae tua deugain o rywogaethau gwahanol wedi'u hadnabod yn ein casgliad o'r Ynys Las ac mae ambell un yn newydd i wyddoniaeth. Mae ymchwil wedi cadarnhau eu bod yn gyffredin i drillabedogion rhannau eraill o Lawrensia neu'n perthyn iddynt yn agos. Mae nodweddion gwahanol rywogaethau trillabedog yn awgrymu sut roeddynt yn byw. Roedd y rhan fwyaf mwy na thebyg yn ddyfnderol (yn byw ar lawr y môr) ac yn bwyta sborion neu waddodion. Mae gan eraill nodweddion megis llygaid mawr iawn sy'n dangos eu bod yn gefnforol (nofwyr). Roedd y ffurfiau hyn yn eang eu dosbarthiad yn y cefnforoedd Ordofigaidd ac fe'u ceid mewn ardaloedd trofannol eraill ar wahân i Lawrensia.
Archif De la Beche yn Amgueddfa Cymru Tom Sharpe, 20 Ebrill 2009 Syr Henry Thomas De la Beche (1796-1855) Map daearegol cyntaf Jamaica Duria Antiquior - A more Ancient Dorset. Dyfrlliw gan De la Beche yn 1830. Y llun hwn oedd y cyntaf i bortreadu amgylchedd ffosil yn ei gyfanrwydd, ac i ddangos sut yr oedd gwahanol elfennau o'r ffosilau ffawna a flora yn rhyngweithio, yn arbennig felly ymlusgiaid môr mawr y Cyfnod Jwrasig cynnar. De la Beche a'i merched yn Abertawe, 1853 Mae Adran Daeareg Amgueddfa Cymru yn rhoi llety i un o'r archifau daearegol pwysicaf yn y byd. Mae'n cynnwys dros 2,000 o eitemau - llythyrau, dyddiaduron, dyddlyfrau, brasluniau a ffotograffau - gan un o brif ddaearegwyr dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Syr Henry Thomas De la Beche (1796-1855). Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg chwaraeodd De la Beche ran bwysig yng ngwyddor newydd daeareg. Yn ogystal â'i gyfraniadau gwyddonol, sefydlodd ddaeareg fel galwedigaeth a sefydlu nifer o brif sefydliadau daearegol Prydain gan gynnwys y rhain: British Geological Survey Museum of Practical Geology (wedyn y Geological Museum ac erbyn hyn y Natural History Museum yn Llundain) School of Mines (erbyn hyn yn rhan o Imperial College Llundain) Mining Record Office (erbyn hyn yn rhan o'r Coal Authority). Ganed De la Beche yn Llundain ac fe'i magwyd yn Nyfnaint a Lyme Regis yn Dorset, ble datblygodd ddiddordeb mewn daeareg drwy ei gyfeillgarwch gyda merch leol, Mary Anning (1799-1847) a oedd yn casglu ffosiliau. Jamaica Roedd cyfoeth ei deulu'n dod o gaethweision a phlanhigfa siwgwr yn Jamaica, ac ym 1823-4 treuliodd ddeuddeg mis ar yr ystâd. Roedd hefyd wedi teithio o amgylch yr ynys gan archwilio ei cherrig brig. Wrth ddychwelyd i Loegr, cyhoeddodd y disgrifiad cyntaf o ddaeareg Jamaica a'i map daearegol cyntaf. Ystyrir De la Beche fel 'tad daeareg Jamaica'. Dechreuodd De la Beche fapio creigiau Dyfnaint yn gynnar yn y 1830au. Ond roedd yr aflonyddwch yn Jamaica oherwydd diddymu caethwasiaeth a chwymp yn y farchnad siwgwr wedi ei adael mewn anawsterau ariannol. Nid oedd yn gallu parhau gyda'i waith. Ysgrifennodd at Fwrdd yr Ordnans gan gynnig cwblhau mapio daearegol Dyfnaint i'r llywodraeth am £300. Roedd ei gais yn llwyddiannus a chafodd ei benodi'n Ddaearegydd i Arolwg Trigonometrig yr Ordnans. Sefydlu Arolwg Daearegol Prydain Unwaith bod gwaith Dyfnaint wedi'i orffen gwnaeth gais llwyddiannus i barhau gyda mapio daearegol Cernyw ac ym 1835 sefydlwyd Arolwg Daearegol yr Ordnans. O hwn tyfodd Arolwg Daearegol Prydain heddiw. Mewn cyfnod pan oedd y rhan fwyaf o ddaearegwyr yn ficeriaid neu amaturiaid oedd â diddordeb gydag incwm preifat, De la Beche oedd un o'r proffesiynolion cyntaf. Ym 1837 symudodd De la Beche ei Arolwg Daearegol i Abertawe gan gydnabod pwysigrwydd economaidd maes glo Cymru. Yn fuan daeth yn rhan o fyd gwyddonol lleol fel aelod o Sefydliad Athronyddol a Llenyddol Abertawe a chyfaill i'r naturiaethwr o Abertawe, Lewis Weston Dillwyn. Roedd gan De la Beche ferch deunaw oed, Elizabeth (Bessie). Yn fuan daeth hi'n gyfaill i un o feibion Dillwyn, Lewis Llewelyn Dillwyn , a phriodon nhw yn Awst 1838. Gan eu disgynyddion nhw y daeth y rhan fwyaf o archif De la Beche i'r Amgueddfa yn y 1930au. Darganfod ffosiliau ysblennydd Mae'r papurau'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am ddaeareg gynnar yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd enwau'r cyfnodau daearegol (Cambriaidd, Ordofigaidd ac ati) sydd erbyn hyn mor hysbys yn cael eu cynnig am y tro cyntaf ac o hyd yn ddadleuol. Roedd ffosiliau newydd ac ysblennydd yn cael eu darganfod a thystiolaeth o Oes y Rhew'n cael ei hadnabod am y tro cyntaf. Bu De la Beche yn gweithio'n bersonol ar ddisgrifiadau cyntaf ffosiliau'r ymlusgiaid morwrol mawr, y pysgymlusgiaid a'r plesiorsoriaid. Mae llawer yn y papurau hefyd parthed sefydlu'r Arolwg Daearegol a'r sefydliadau eraill roedd ef wedi eu sefydlu. Darwin yn ysgrifennu at De la Beche Roedd De la Beche yn gohebu gyda phrif ddaearegwyr y dydd a gofynnwyd iddo'n aml, ar sail ei brofiad o Jamaica, am gyngor am yr ynys. Mae un o lythyrau'r casgliad yn ei holi ym 1842 am liw'r ceffylau, y gwartheg a'r anifeiliaid eraill a fagwyd ers sawl cenhedlaeth ar yr ynys a sut roedden nhw wedi newid. Awdur y llythyr oedd Charles Darwin a oedd adeg honno'n ffurfio ei ddamcaniaeth am esblygiad. Roedd De la Beche yn ddarluniwr medrus ac mae hyn yn amlwg yn yr archif. Roedd yn gywir iawn wrth fraslunio tirluniau, darluniadau o ffosiliau a chroestoriadau daearegol ond hefyd gwnaeth nifer o wawdluniau a chartwnau. Roedd y rhain yn ffordd iddo wneud sylwadau ar ddatblygiadau mewn daeareg ac ar ei weithgareddau ei hun a rhai ei gyfoedion. Adnodd pwysig yw'r archif i hanes daeareg ac mae ymchwilwyr o Brydain a thramor yn ymgynghori â hi'n aml - i drefnu ymweliad, cysylltwch â ni . Nodyn: fe olygwyd yr erthygl hon ar 28/06/17 i ddileu cyfeiriad at de la Beche fel "perchennog caethweision teg".
14 coeden newydd wedi'u darganfod ym Mhrydain ac Iwerddon 5 Mawrth 2009 Cerddinen Motley - Sorbus x motleyi Croesiad newydd sy'n tyfu ar un safle ger Merthyr Tudful yn unig, lle mae dwy goeden ifanc wedi'u darganfod. Cerddinen Stirton - Sorbus stirtoniana Mae tua 40 o goed i'w gweld ar glogwyni Craig Breidden, Sir Drefaldwyn. Cerddinen Houston - Sorbus x houstoniae Croesiad rhwng y Gerddinen Wen a Cherddinen Bryste. Dim ond un enghraifft sydd, ar glogwyn yng Ngheunant yr Avon, ac ni ellir ei chyrraedd heb ddefnyddio rhaffau. Darganfuwyd y goeden gan Ms Libby Houston yn 2005. Cerddinen Robertson - Sorbus x robertsonii Croesiad newydd sy'n gyfuniad o'r Gerddinen Wen a'r Gerddinen Ddeilgrwn. Dim ond un goeden sydd wedi'i darganfod hyd yn hyn, ond gallai fod yn gyffredin yn ne-orllewin Lloegr. Cerddinen Maura Scannell - Sorbus scannelliana Rhywogaeth newydd a nodwyd fel un wahanol ym mis Medi 2008. Mae pum coeden i'w gweld ym Mharc Cenedlaethol Killarney, Swydd Kerry, Gweriniaeth Iwerddon, ac mae'n debyg eu bod yn tarddu o groesiad rhwng Cerddinen y Graig a Chriafolen. Cerddinen Coed Leigh - Sorbus leighensis Rhywogaeth newydd sydd wedi bod yn hysbys i ni ers yr 1980au. Dim ond yn ddiweddar, trwy gyfrwng dulliau DNA, y bu'n bosibl nodi'r gwahaniaethau rhwng y goeden hon â'r Gerddinen Ddail Llwyd. Mae'n gyffredin yng Nghoedwig Leigh ar ochr Gwlad yr Haf Ceunant yr Avon. Credir bod tua 100 o goed yn bodoli. Jess Gould gyda Sorbus stirtoniana yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Cerddinen Llangollen, coeden brin sydd ond i'w gweld ar glogwyni Mynydd Eglwyseg, Sir Ddinbych. Y Gerddinen Gymreig - Sorbus cambrensis - Mae astudiaethau biocemegol wedi dangos bod y rhywogaethau hyn yn wahanol i'w gilydd ac i'r Cerddin dail llwyd y credid eu bod yn perthyn iddynt cynt. Cerddinen Motley (Sorbus x motleyi) yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Map o ble y darganfuwyd y coed newydd (Allwedd: W. = Whitebeam) Mae botanegwyr o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi cydweithio â gwyddonwyr o Brifysgol Bryste, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Rhydychen a Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew i enwi rhywogaethau newydd o goed yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon. Mae'r cyfan yn brin ac angen eu diogelu. O'r 14 rhywogaeth sydd wedi'u henwi'n swyddogol yr wythnos hon yn Watsonia, cyfnodolyn gwyddonol Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain, mae chwech i'w gweld yng Nghymru, sef: Cerddinen Stirton (Sorbus stirtoniana) — clogwyni Craig Breidden, Sir Drefaldwyn yw'r unig le yn y byd i weld y goeden hon; Cerddinen Llangollen (Sorbus cuneifolia) - coeden brin sydd ond i'w gweld ar glogwyni Mynydd Eglwyseg, Sir Ddinbych sy'n gartref i tua 240 o blanhigion; Y Gerddinen Gymreig (Sorbus cambrensis) — i'w gweld ym Mannau Brycheiniog i'r gorllewin o'r Fenni a Cherddinen Dyffryn Llanddewi Nant Hodni (Sorbus stenophylla) — dwy rywogaeth o Gymru sy'n perthyn i'w gilydd yn agos; Cerddinen Doward (Sorbus eminentiformis) i'w gweld yn Nyffryn Gwy yng Nghymru a Lloegr yn unig; Cerddinen Motley (Sorbus x motleyi) — croesiad newydd sy'n tyfu ar un safle ger Merthyr Tudful, lle mae dwy goeden ifanc wedi'u darganfod. Broses esblygu ar waith Mae'r datganiad am Gerddinen Motley yn enghraifft o'r broses esblygu ar waith. Dechreuodd fel croes rhwng Cerddinen y Darren Fach a Chriafolen mewn coedwig ar ôl i un o'r ychydig o'r coed Cerddin y Darren Fach oedd ar ôl ddisgyn yng nghorwynt 1989. Roedd y golau ychwanegol o'r bwlch yng nghanopi'r goedwig yn ei gwneud hi'n bosibl i'r hadau yn y pridd egino a thyfu. Mae'r coed newydd hyn, yn ogystal â saith rhywogaeth newydd yn Lloegr ac un yn Iwerddon, yn perthyn i'r grŵp Sorbus, sy'n cynnwys coed cerddin a choed criafol. O ganlyniad, mae nifer y math hwn o goed wedi cynyddu dros 50%. Arweiniwyd y project gan Dr Rich, ac fe'i hariannwyd yn bennaf gan Sefydliad Leverhulme ac Amgueddfa Cymru gyda chyfraniadau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Natural England a Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew. Mae'n debyg bod rhai o'r coed hyn wedi datblygu'n ddiweddar ac maent yn dangos bod rhywogaethau newydd yn esblygu drwy'r amser. Mae rhai eraill yn hŷn ac wedi bod yn hysbys i ni ers peth amser, ond dim ond nawr y gallwn eu disgrifio fel 'rhywogaethau' diolch i ddulliau DNA modern. Rrhywogaethau a'r croesiadau newydd Cymru Cerddinen Llangollen - Sorbus cuneifolia Rhywogaeth newydd o'r Gogledd sydd wedi esblygu o'r Gerddinen Seisnig mwy na thebyg. Mae'r enw Lladin cuneifolia yn cyfeirio at fonion culach y dail, nodwedd sy'n wahanol i'r Gerddinen Seisnig. Dyma goeden brin sydd ond i'w gweld ar glogwyni Mynydd Eglwyseg i'r gogledd o Langollen yn Sir Ddinbych, sy'n gartref i tua 240 o blanhigion. Cerddinen Motley - Sorbus x motleyi Croesiad newydd sy'n tyfu ar un safle ger Merthyr Tudful yn unig, lle mae dwy goeden ifanc wedi'u darganfod. Dyma enghraifft o'r broses esblygu ar waith. Dechreuodd fel croes rhwng Cerddinen y Darren Fach a Chriafolen mewn coedwig ar ôl i un o'r ychydig o'r coed Cerddin y Darren Fach oedd ar ôl ddisgyn yng nghorwynt 1989. Roedd y golau ychwanegol o'r bwlch yng nghanopi'r goedwig yn ei gwneud hi'n bosibl i'r hadau yn y pridd egino a thyfu. Darganfuwyd y goeden am y tro cyntaf ym 1999 gan Graham Motley o Gyngor Cefn Gwlad Cymru pan oedd yn monitro'r Gerddinen Ley brin, ac mae'r goeden wedi'i henwi ar ei ôl. Cerddinen Stirton - Sorbus stirtoniana Rhywogaeth newydd, sydd bellach wedi'i chydnabod fel coeden wahanol i'r Gerddinen ddail main. Mae tua 40 o goed i'w gweld ar glogwyni Craig Breidden, Sir Drefaldwyn. Mae hi wedi'i henwi er anrhydedd i'r Athro Charles Stirton er mwyn cydnabod ei waith ysbrydoledig yn sefydlu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae rhai o'r coed yn tyfu yn yr Ardd Fotaneg. Y Gerddinen Gymreig - Sorbus cambrensis a Cherddinen Dyffryn Llanddewi Nant Hodni - Sorbus stenophylla Dwy rwyogaeth newydd o Gymru sy'n perthyn yn agos i'w gilydd. Mae astudiaethau biocemegol wedi dangos bod y rhywogaethau hyn yn wahanol i'w gilydd ac i'r Cerddin dail llwyd y credid eu bod yn perthyn iddynt cynt. Credir bod tua 100 o blanhigion y Gerddinen Gymreig yn ardal ddwyreiniol Bannau Brycheiniog i'r gorllewin o'r Fenni.Darganfuwyd Cerddinen Dyffryn Llanddewi Nant Hodni am y tro cyntaf ym 1874 gan y Parch. Augustin Ley. Mae'n debyg bod tua 100-200 o blanhigion yn Nyffryn Llanddewi Nant Hodni. Lloegr Cerddinen Ceunant yr Avon - Sorbus x avonensis Croesiad rhwng y Gerddinen Wen a'r Gerddinen Ddail Llwyd. Fe'i darganfuwyd am y tro cyntaf gan Dr Tim Rich, Ashley Robertson a Libby Houston pan oeddent yn astudio coed cerddin yng Ngheunant yr Avon yn 2004. Dim ond yng Ngheunant yr Avon, Bryste y mae wedi cael ei gweld hyd yn hyn, ond mae'n bosibl ei bod i'w gweld yn lleol yn ne-orllewin Lloegr lle mae'r rhieni yn tyfu gyda'i gilydd. Cerddinen Houston - Sorbusx houstoniae Croesiad rhwng y Gerddinen Wen a Cherddinen Bryste. Dim ond un enghraifft sydd, ar glogwyn yng Ngheunant yr Avon, ac ni ellir ei chyrraedd heb ddefnyddio rhaffau. Darganfuwyd y goeden gan Ms Libby Houston yn 2005. Cerddinen Coed Leigh - Sorbus leighensis Rhywogaeth newydd sydd wedi bod yn hysbys i ni ers yr 1980au. Dim ond yn ddiweddar, trwy gyfrwng dulliau DNA, y bu'n bosibl nodi'r gwahaniaethau rhwng y goeden hon â'r Gerddinen Ddail Llwyd. Mae'n gyffredin yng Nghoedwig Leigh ar ochr Gwlad yr Haf Ceunant yr Avon. Credir bod tua 100 o goed yn bodoli. Cerddinen Margaret - Sorbus margaretae Mae hon yn perthyn i Gerddinen y Graig a'r Gerddinen Ruddgoch. Fe'i nodwyd fel rhywogaeth ar wahân am y tro cyntaf gan Margaret E. Bradshaw pan oedd hi'n cynnal arolwg o goed Cerddin prin yn ne-orllewin Lloegr ym 1984, ac mae wedi'i henwi ar ei hôl. Dim ond ar glogwyni arfordir gogledd Dyfnaint a Gwlad yr Haf y mae'n tyfu, a chredir bod o leiaf 120 o goed yno. Cerddinen Dim Parcio - Sorbus admonitor Nodwyd bod y Gerddinen Dim Parcio yn wahanol i Gerddinen Dyfnaint (a oedd yn fwy cyffredin) am y tro cyntaf yn yr 1930au, ond dim ond yn ddiweddar y profwyd ei bod hi'n rhywogaeth wahanol drwy wneud gwaith dadansoddi biocemegol. Mae'r enw yn tarddu o gyfnod yn yr 1930au pan oedd arwydd 'Dim Parcio' wedi'i hoelio ar goeden ger encilfa fechan yn Watersmeet, Gogledd Dyfnaint. Mae'r goeden hon yn gyffredin yn ardal Watersmeet, Gogledd Dyfnaint lle mae o leiaf 110 o goed yn tyfu. Criafolen Proctor - Sorbus x proctoris Croesiad newydd rhwng Criafolen a Chriafolen Sichuan. Mae'n cael ei henwi ar ôl Dr Michael Proctor, uwch fotanegydd blaenllaw o Brifysgol Caerwysg, yn dilyn ei waith rhagorol ym maes coed Cerddin Prydeinig. Dim ond un goeden sydd wedi'i darganfod yn y gwyllt yng Ngheunant yr Avon, lle mae problem o safbwynt cadwraeth. Gan mai coeden yr ardd o Tsieina yw un o'i rhieni, mae perygl y gall genynnau'r Griafolen Sichuan ledaenu i'r coed criafol cynhenid yng Ngheunant yr Avon. I atal hyn, un dewis posibl fyddai dinistrio/tynnu'r unig enghraifft o'r goeden hon! Cerddinen Robertson - Sorbus x robertsonii Croesiad newydd sy'n gyfuniad o'r Gerddinen Wen a'r Gerddinen Ddeilgrwn. Dim ond un goeden sydd wedi'i darganfod hyd yn hyn, ond gallai fod yn gyffredin yn ne-orllewin Lloegr. Fe'i canfuwyd am y tro cyntaf gan Dr Tim Rich, Ashley Robertson a Libby Houston pan oeddent yn astudio coed cerddin yng Ngheunant yr Avon. Mae'n cael ei henwi ar ôl Dr Ashley Robertson am ei waith rhagorol ym maes esblygu coed cerddin yng Ngheunant yr Avon. Cymru a Lloegr Cerddinen Doward - Sorbus eminentiformis Rhywogaeth newydd, sydd i'w gweld yn Nyffryn Gwy yng Nghymru a Lloegr yn unig. Mae'n debyg bod poblogaeth y goeden yn llai na 100, ac mae'r mwyafrif i'w gweld ar y Great Doward. Iwerddon Cerddinen Maura Scannell - Sorbus scannelliana Rhywogaeth newydd a nodwyd fel un wahanol ym mis Medi 2008. Mae pum coeden i'w gweld ym Mharc Cenedlaethol Killarney, Swydd Kerry, Gweriniaeth Iwerddon, ac mae'n debyg eu bod yn tarddu o groesiad rhwng Cerddinen y Graig a Chriafolen. Mae'n cael ei henwi ar ôl Maura Scannell, cynt o Erddi Botaneg Cenedlaethol Glasnevin, un o brif fotanegwyr Iwerddon sydd â gwybodaeth heb ei hail am fotaneg y wlad. Cyfeiriadau: Rich, T. C. G. a Proctor, M. C. F. (2009). Some new British and Irish Sorbus L. taxa (Rosaceae). Watsonia 27: 207-216. Rich, T. C. G., Harris, S. A. a Hiscock, S. J. (2009). Five new Sorbus (Rosaceae) taxa from the Avon Gorge, England. Watsonia 27: 217-228.