Byw neu farw? Planhigion sy’n Atgyfodi? Katherine Slade, 14 Mai 2014 Mwsoglau yn eu hamgylchedd eithafol ar y wal o amgylch Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Grimia clustog-llwyd (Grimmia pulvinata) â blew gwyn, i’w weld yma ar wyneb y graig ar Ben y Gogarth, Llandudno. © Kath Slade Am ba hyd allwch chi fyw heb anadlu tybed? Yn gyffredinol, dim ond am chwe munud y gall pobl fyw heb ocsigen cyn i niwed ddigwydd i’r ymennydd. Ond beth am 25 mlynedd? Gall rhai planhigion fyw cyhyd â hynny heb resbiradu. Sut fyddai modd defnyddio’r gallu anhygoel hwn i atgyfodi i helpu miloedd o bobl? Neu efallai i’n helpu i wladychu bydoedd newydd?Mae pob planhigyn angen dŵr i oroesi. Maen nhw’n cyfuno dŵr â charbon deuocsid yn ystod ffotosynthesis i droi siwgr yn egni. Ond beth sy’n digwydd mewn amgylcheddau eithafol lle nad oes dŵr ar gael?Mae’r Antarctig yn amgylchedd eithafol lle nad oes dŵr ar gael i blanhigion am ei fod wedi’i gloi ar ffurf rhew solet. Ond ni fydd raid i chi edrych mor bell â’r Antarctig am amgylchedd eithafol i blanhigyn. Mae eich to, creigiau serth a phen waliau yn gynefinoedd lle byddai llawer o blanhigion yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddŵr. Eto i gyd, mae mwsoglau’n tyfu yn y cynefinoedd hyn ym mhobman o’n cwmpas. Sut maen nhw’n gwneud hynny?Mae rhai planhigion wedi addasu i gynefinoedd sych neu sychder drwy ddal eu gafael ar ddŵr pan fydd ar gael. Efallai bod arwyneb eu dail yn gwyraidd neu eu bod yn storio dŵr mewn celloedd yn debyg i gactws. Mae mwsoglau a llysiau’r afu’n sugno dŵr o’r atmosffer, ac yn aml yn dibynnu llai ar ddŵr o’r ddaear. Mae gan rai mwsoglau flew gwyn ar eu dail. Mae’r blew yn gwella gallu’r planhigyn i sugno dŵr o’r aer drwy gynyddu ei arwynebedd, a hefyd yn dal diferion bach o ddŵr.Mae gan blanhigion eraill allu anhygoel i oroesi er eu bod wedi sychu’n gyfan gwbl. Nid yw hyn yr un fath â pheidio â rhoi dŵr i’ch cactws am rai misoedd, pan fydd y planhigyn yn defnyddio dŵr wedi’i storio i aros yn fyw. Bydd y planhigion hyn wedi sychu’n llwyr A HEFYD bydd holl brosesau bywyd fel ffotosynthesis a resbiradu’n peidio. Wrth ychwanegu dŵr, mae prosesau bywyd yn dechrau a’r planhigyn yn adfywio. Gelwir hyn yn allu i wrthsefyll dysychiad.Cafodd y gallu i wrthsefyll dysychiad ei weld am y tro cyntaf mewn anifeiliaid dros 300 mlynedd yn ôl, pan gafodd llaid o afon sych ei roi o dan y microsgop. Roedd rotifferau bach iawn i’w gweld yn nofio o gwmpas er mawr syndod i’r sawl oedd yn syllu! Cymerodd 150 o flynyddoedd arall i wyddoniaeth gadarnhau ei bod yn bosibl i fywyd atgyfodi.Mae’r gallu hwn i atgyfodi yn gyffredin mewn mwsoglau a llysiau’r afu llawndwf yn ogystal â hadau, sborau a phaill. Mae’n anghyffredin mewn planhigion sy’n blodeuo a rhedyn llawndwf (un eithriad amlwg yw’r Cnwpfwsogl eilfyw (Selaginella lepidophylla), planhigyn sy’n perthyn i redyn). Mae gwyddonwyr wedi llwyddo i dyfu hadau o blanhigyn lotws sy’n blodeuo a oedd yn 1100 o flynyddoedd oed.Cafodd un math o lysiau’r afu ei adfywio ar ôl 25 mlynedd o fod wedi sychu’n gyfan gwbl. Roedd atgyfodiad y planhigyn ar ôl cymaint o amser yn arbennig o ddiddorol am ei fod yn blanhigyn llawndwf yn hytrach na sbôr neu had. Mae’n rhyfedd meddwl efallai bod y sbesimenau sych o fwsoglau a llysiau’r afu yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru y tu ôl i mi wrth i mi ysgrifennu yn fwy byw nag a feddyliais!Serennog y waun (Campylopus introflexus) â blew gwyn. Cafodd ei weld gyntaf yn y DU yn ystod y 1940au ac mae’n eithaf cyffredin bellach, diolch i’w allu i wrthsefyll dysychiad, o bosibl. © Kath Slade Casgliadau Amgueddfa Cymru – yn fwy byw nag y maen nhw’n ymddangos ar yr olwg gyntaf? Mae’r gallu i adfywio yn dibynnu ar ba mor gyflym y sychodd y planhigyn, am ba hyd, pa mor eithafol oedd y sychu a’r tymheredd, Mae’n bosibl fod y planhigyn yn gallu ymdopi’n well os yw wedi sychu o’r blaen ac wedi ‘caledu’. Mae mwsoglau’n gallu addasu mewn sawl ffordd sy’n ei gwneud yn bosibl iddyn nhw adfywio, yn cynnwys y gallu i:sugno dŵr yn gyflymatgyweirio cynnwys celloedd yn gyflymrhoi genynnau penodol ar waith a’u diffoddcynhyrchu llawer mwy o brotein nag arfer.Mae’r mwsoglau hyn yn cyfrannu at fioamrywiaeth eu hunain a hefyd yn creu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau eraill. Ond sut all adfywio mwsogl ar ben wal fod yn ddefnyddiol? Gallai cyfrinach y mwsogl am ei allu i atgyfodi ein helpu i ddeall sut llwyddodd planhigion i gytrefu’r tir tua 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl.Efallai bydd darganfod sut i gyflwyno’r gallu i wrthsefyll dysychiad i blanhigion cnydau yn y dyfodol yn fwy perthnasol i bobl. Mae miloedd o bobl yn llwgu i farwolaeth bob blwyddyn pan fydd cnydau’n methu mewn sychder. Os gallwn ni helpu planhigion cnydau i oroesi sychder drwy eu rhaglennu i fynd i gysgu nes daw glaw eto, gallwn greu cyflenwad bwyd mwy sefydlog.Un syniad diddorol yw defnyddio planhigion â gallu i wrthsefyll dysychiad er mwyn gwladychu planedau eraill. Roedd y gallu i atgyfodi yn help i blanhigion gytrefu’r tir 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac efallai y gallai ein helpu ni i wladychu bydoedd newydd ryw ddydd.Darllen pellach:J. Graham (2003) Stages in the Terraforming of Mars: the Transition to Flowering Plants. AIP Conference ProceedingsPeter Alpert (2005) The limits and frontiers of desiccation-tolerant life. Integrative and Comparative Biology 45:685-695Black, M. a H. W. Pritchard (golygyddion) (2002) Desiccation and survival in plants: Drying without dying, tudalennau 207–237Proctor et al. (2007) Desiccation-Tolerance in Bryophytes: A Review. The Bryologist, 110:4, 595-621How Long can Seeds Live? Millenium Seed Bank at Kew Gardens Teipiwch eich ffordd i’n casgliadau Harriet Wood, 17 Ebrill 2014 Hafan Catalog Teipiau Molysgiaid. Neptunea lyrata, y sbesimen teip hynaf yn Amgueddfa Cymru, a gasglwyd gan y Capten James Cook yn Alaska ym 1778. Lluniau a labeli sbesimen ar gyfer y teip Octopus maculosus a ddisgrifiwyd gan ein cyfarwyddwr cyntaf, Williams Evans Hoyle, ym 1883. Map yn dangos y 110 o wledydd sy’n gartref i’r bobl sydd wedi ymweld â’n gwefan hyd yn hyn. Sbesimenau mwyaf poblogaidd ar ôl 18 mis ar-lein Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru Gatalog Teipiau Molysgiaid ym mis Medi 2012. Hwn oedd y tro cyntaf i’n cynulleidfa gynyddol ar y we allu gweld lluniau o dros 350 o’n sbesimenau pwysicaf o folysgiaid. Casgliadau Molysgiaid Amgueddfa Cymru (Saesneg yn unig) Mae casgliadau molysgiaid Amgueddfa Cymru o arwyddocâd rhyngwladol ac maent yn cynnwys cannoedd o filoedd o sbesimenau. Mae molysgiaid yn grŵp hynod amrywiol sy’n bodoli yn y rhan fwyaf o amgylcheddau’r blaned – o falwod tir ar ben mynyddoedd i folysgiaid dwyfalfog mewn fentiau hydrothermol, cregyn côn gwenwynig i gregyn gleision perl dŵr croyw, gwlithod cigysol i fôr-gyllell guddliw. Mae ein casgliad yn adlewyrchu’r amrywiaeth hon a’r amrediad daearyddol ac amgylcheddol. Beth yw teipsbesimenau? Mae ‘teipsbesimenau’ unrhyw gasgliad hanes natur ymhlith yr eitemau gwyddonol arbennig sydd angen eu diogelu yn fwy na dim byd arall. Maent yn sbesimenau sy’n cael eu dethol yn ofalus i gynrychioli rhywogaethau newydd, ac maent ar gael yn barhaol i dacsonomyddion y dyfodol gyfeirio atynt. Mae casgliad Molysgiaid Amgueddfa Cymru yn cynnwys 3200 o deipsbesimenau, wedi’u casglu dros gyfnod o bron i 200 o flynyddoedd. Mae dwy ran o dair o’r casgliad yn dod o gasgliad cregyn enwog Melvill-Tomlin , gan dystio i ddyfnder gwyddonol a phwysigrwydd hanesyddol y casgliad. Ein teip cynharaf yw gwichiad moch mawr dŵr oer o Alaska, a gasglwyd ym 1778 gan y Capten James Cook yn ystod ei drydedd fordaith (a’r olaf). Disgrifiwyd y teip hwn, a llawer o rai eraill, gan rai o gasglwyr a thacsonomyddion pwysicaf eu hoes, gan gynnwys William Evans Hoyle, cyfarwyddwr cyntaf yr Amgueddfa ac arbenigwr ar Seffalopodau. Y Catalog Teipiau Molysgiaid ar-lein Gan fod llawer o ymholiadau ynglŷn â chasgliadau yn ymwneud â deunydd teip, roeddem yn awyddus i ddatblygu dull o sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb ledled y byd, felly aethom ati i greu’r Catalog Teipiau Molysgiaid. Dechreuodd y project yn 2009, gan ganolbwyntio yn y dechrau ar wahanu 350 o’n teipiau pwysicaf o’r prif gasgliad a’u storio mewn cypyrddau newydd haws eu cyrraedd a mwy diogel. Tynnwyd lluniau o’r holl sbesimenau hyn a’u labeli, a gwiriwyd a sganiwyd y cyfeiriadau yn ymwneud â disgrifiadau gwreiddiol y rhywogaethau. Cafodd yr wybodaeth hon ei chasglu mewn cronfa ddata a’i chyhoeddi ar-lein. Ond megis dechrau’r gwaith yw hyn… Bydd y llu o deipiau sy’n weddill yn cael eu hychwanegu o dipyn i beth, a bydd y staff yn parhau i ymchwilio i deipiau anhysbys yn ein casgliadau. Bydd teipsbesimenau newydd yn cael eu hychwanegu hefyd pryd bynnag y caiff rhywogaethau newydd eu darganfod, a’u disgrifio gan ein tacsonomyddion. Pwy sydd wedi bod yn edrych? Ers mynd ar-lein yn 2012, mae nifer yr ymholiadau ynglŷn â theipsbesimenau wedi cynyddu’n ddirfawr. Mae hyn yn dangos cyfraniad pwysig gwefannau at gynyddu mynediad i’n casgliadau a’r defnydd ohonynt. Drwy ddefnyddio Google Analytics, mae gennym rywfaint o syniad o bwy sydd wedi bod yn edrych dros y deunaw mis diwethaf: Mae 3,973 o ymwelwyr wedi edrych ar 12,268 o dudalennau. Mae pobl o 113 o wledydd wedi ymweld â’r safle. Y pum defnyddiwr mwyaf: y DU, Sbaen, yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Ffrainc. Mae 59.5% yn ymwelwyr newydd a 40.5% yn ymwelwyr sy’n dychwelyd. Y sbesimen yr edrychwyd arno amlaf: Scintilla lynchae Oliver a Holmes, 2004 Bwrw golwg Felly, beth am fwrw golwg drosoch eich hun ac fe gawn ni weld lle rydym arni ymhen blwyddyn… Wood, H. a Turner, J. A. 2012. Catalog Teipiau Molysgiaid. Amgueddfa Cymru. Ar gael ar-lein yn http://naturalhistory.museumwales.ac.uk/molluscatypes. Wedi dal mewn Eiliad Trevor Bailey, 26 Chwefror 2014 Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Gallech chi gredu taw dim ond ddoe y bu’r anifeiliaid bychan yma farw, ond mewn gwirionedd, mae nhw tua 50 miliwn o flynyddoedd oed. Mae un o’n myfyrwyr profiad gwaith wedi bod yn defnyddio meddalwedd newydd i greu delweddau o’r casgliad ambr i’w rhannu â chi. Dyma hi’n defnyddio microsgop i dynnu lluniau o wahanol ddyfnderoedd mewn sampl ambr, cyn cyfuno’r darnau o bob llun oedd mewn ffocws i greu un delwedd glir. Drws i fyd hynafol Bu farw’r anifeiliaid yma ar ôl cael eu dal yn y resin meddal gludiog y bydd coed pinwydd yn ei gynhyrchu i’w gwarchod rhag haint. Pan fu farw’r coed, cafodd y resin ei gladdu danddaear mewn haenau o lystyfiant a gwaddod – a trodd gwasgedd a gwres y resin yn ambr caled. O gyffiniau Môr y Baltig y daw’r rhan fwyaf o’n casgliad ambr ac mae’r anifeiliaid yn cynnwys morgrug, pryfed glas, chwilod, pryfed, gwybed mân, medelwyr, gwyfynod, mwydod nematod, corynnod a chacwn. Roedd y creaduriaid yma yn byw o leiaf 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn fforestydd y cyfnod Eocenaidd. Roedd hwn yn gyfnod o hinsawdd ‘tŷ gwydr’ llawer cynhesach na heddiw o ganlyniad i lefelau carbon deuocsid uwch yn yr atmosffer. Yn y casgliad hefyd mae cacynen mewn ambr o waddodion y cyfnod Cretasig yn New Jersey, UDA – felly roedd yn fyw yr un oes â’r deinosoriaid! Gofalu am ambr Rydyn ni’n cadw’r casgliad ambr mewn cynhwysyddion aerdyn mewn ystafell lle gall y tymheredd a’r anwedd dŵr (lleithder) gael eu rheoli. Os yw ambr yn symyd yn rhy sydyn rhwng atmosffer rhy sych i un rhy llaith, gall holltau bach agor, gan gau’r drysau hyn ar y gorffennol. Trapped in Amber Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Morgrugyn a Chorryn Corryn Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Gwybedyn Brathog a Gwyfyn Cacynen, efallai Stigmaphronidae Chwilen Pryfyn (Diptera) Pryfyn (Diptera) Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Planhigion Popeth 10 Chwefror 2014 Ble mae cnau daear a thatws yn tyfu? Beth yw tomatos? Archwilio’r Planhigyn Popeth dychmygol a dysgu mwy am y planhigion ar eich plât. Hadau yw ffa. Hadau planhigyn ffa yw ffa ac maen nhw’n tyfu mewn coden. Rydyn ni’n bwyta’r goden hefyd weithiau. Mae ffa yn perthyn i’r un teulu o blanhigion â phys. Ffrwyth yw tomato. Ffrwyth planhigyn tomato yw tomatos. Os ydych chi’n sleisio tomato gallwch chi weld yr hadau ynddo. Mae tyfwyr tomatos yn defnyddio cacwn yn eu tai gwydr i beillio’r blodau er mwyn cynhyrchu tomatos. Ffrwythau yw eirin. Hedyn yw’r garreg sydd mewn eirin. Mae’r darn noddlawn blasus yn denu anifeiliaid (gan gynnwys ni!) er mwyn helpu i wasgaru’r hadau. Blodau yw clofau. Blagur blodau sych coeden drofannol yw clofau cyfan. Yn Indonesia caiff y rhan fwyaf o glofau eu cynhyrchu, lle mae pobl yn eu cynaeafu â llaw cyn eu sychu yn yr haul Rydyn ni’n bwyta dail y perlysiau hyn. Mae gan oregano a mintys ddail persawrus. Mae pobl ledled y byd yn defnyddio perlysiau i wneud te neu i ychwanegu blas wrth goginio. Mae gwyddonwyr yn credu bod yr olew hanfodol sy’n rhoi’r arogl arbennig i’r dail wedi datblygu dros amser er mwyn rhwystro anifeiliaid rhag eu bwyta. Rydyn ni’n bwyta dail winwns, cennin a chennin syfi. Gallwn dynnu haenau o groen winwns. Deilen arbenigol yw pob haenen, ac mae’r planhigyn yn eu defnyddio i storio bwyd a dŵr. Yn ôl yr hanes, dyma Dewi Sant yn cynghori milwyr i wisgo cennin er mwyn adnabod ei gilydd yn hawdd ar faes y gad. Gwreiddiau yw moron. Dim ond pedair gwlad yn y byd sy’n cynhyrchu mwy o foron na’r DU rydyn ni’n tyfu cymaint ohonyn nhw. Moron piws neu felyn oedd y rhai cynharaf. Yna, dechreuodd bridwyr planhigion ddatblygu moron oren ddaeth yn boblogaidd dros ben. Coesynnau danddaear yw tatws. Mae planhigion tatws yn storio carbohydrad (startsh) yn y coesynnau danddaear arbennig hyn o’r enw cloron. Mae tatws yn perthyn i’r un teulu o blanhigion â thomatos, pupurau a tsilis. Hadau yw cnau daear. Mae cnau daear yn cael eu cynaeafu o dan y ddaear. Pan fydd pryf yn peillio blodau’r planhigyn cnau daear, mae codennau yn datblygu gyda’r cnau (hadau) y tu mewn. Mae’r codennau wedyn yn cael eu gwthio’n araf i mewn i’r ddaear wrth i goes y goden dyfu’n hirach. Darganfod rhywogaeth newydd o ffosil crinoid yn ne Cymru Cindy Howells, 3 Chwefror 2014 Darganfod unrhyw fath newydd o ffosil yw un o’r digwyddiadau posibl mwyaf cyffrous i balaeontolegydd. Mae ffosil newydd gafodd ei ddarganfod yn ne Cymru – a’r unig o’i fath – wedi cael ei enwi’n Hylodecrinus cymrus i ddangos ei wreiddiau Cymreig. Yn 2009, roedd Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru, ar daith maes yn astudio creigiau 350 miliwn o flynyddoedd oed (o’r Cyfnod Carbonifferaidd) mewn cildraeth bach ym Mae Gorllewin Angle. Wrth weithio, darganfu Cindy ffosil newydd oedd yn wahanol i bob sbesimen arall a gofnodwyd yn wyddonol. Yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd, roedd Cymru’n agos at y cyhydedd ac roedd moroedd bas trofannol yn ei gorchuddio. Mae’r creigiau yma’n awgrymu y bu llawer o stormydd trofannol ffyrnig a chwalodd gregyn organebau morol yn deilchion cyn iddynt gael eu ffosileiddio. Fodd bynnag, mae rhai haenau’n cynnwys ffosilau cyfan, gafodd eu dyddodi mewn cyfnodau mwy llonydd, ac yn un o’r haenau hyn y cafwyd hyd i’r sbesimen newydd. Hylodecrinus cymrus – yr holoteip a’r unig sbesimen hysbys. Adluniad o Hylodecrinus cymrus. Ffosil o grinoid ydyw, sef anifail morol bach oedd yn edrych yn debyg i blanhigyn. Mae gan grinoidau goesyn hir ac ystwyth, wedi’i angori yng ngwely’r môr. Ar ben y coesyn, mae strwythur siâp cwpan sy’n cynnwys ei organau mewnol. Mae teimlyddion neu freichiau hir pluog yn ymestyn uwchben yr anifail. Byddai’r rhain yn casglu micro-organebau o ddŵr y môr ac yn eu cyfeirio i lawr i’w stumog. Cafodd y ffosil newydd ei dynnu’n ofalus o’r creigiau a’i gludo i Gaerdydd. Wedi trafod â’r Athro Tom Kammer o Brifysgol Gorllewin Virginia (sy’n arbenigwr ar grinoidau Carbonifferaidd), penderfynwyd fod y ffosil yn rhywogaeth newydd a’i bod hefyd yn perthyn i grŵp nas gwelwyd y tu hwnt i UDA tan nawr. Rhoddwyd yr enw Hylodecrinus cymrus iddi i ddangos ei gwreiddiau Cymreig. Cyhoeddwyd y disgrifiad o’r ffosil newydd hwn ar-lein yn The Geological Journal. Y sbesimen hwn fydd ‘teipsbesimen’ y rhywogaeth. O’r dyddiad hwn yn 2013, dyma’r unig sbesimen hysbys o’r rhywogaeth hon. Roedd moroedd trofannol y Cyfnod Carbonifferaidd yn gyforiog â bywyd gan gynnwys braciopodau, dwyfalfau, gastropodau, cwrelau, pysgod a chrinoidau’n arbennig. Mae creigiau o’r cyfnod hwn yn arbennig o weladwy ar hyd arfordir y de, o Sir Forgannwg i Sir Benfro. O astudio ffosilau, gallwn ddysgu mwy am sut y cafodd y creigiau eu dyddodi ac amgylchiadau byw'r anifeiliaid sydd wedi’u diogelu tu mewn iddynt. Map daearegol o dde Cymru yn dangos Bae Gorllewin Angle, Sir Benfro. Cofnodion diweddarach Cofnodion cynharach cofnodion diweddar Data Tywydd ar gyfer Chwefror Dathlu Merched sy’n Arwain: Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Bywyd gwyllt cudd yng ngardd yr amgueddfa 🐝🌿 Ystlumod yn Amgueddfa Lechi Cymru: Gwarchod ein preswylwyr lleiaf yn ystod y gwaith ail-ddatblygu ‘Gwarchod y gwaddol; ffotograffwaith Harry Morrey-Salmon’ categorïau Pob cofnodAddysgAilddatblygu LlechiAmgueddfeydd, Arddangosfeydd a DigwyddiadauBlog y SiopBlogiau AmgueddfeyddCasgliadau ac YmchwilCasglu CovidCrefftwyr Amgueddfa Wlân CymruCyffredinolHoliaduron y gorffennol a’r presennolIechyd, Lles ag Amgueddfa CymruLleisiau’r AmgueddfaRhyfel Byd CyntafStreic! 84-85 Strike!Ymgysylltu â'r Gymuned
Teipiwch eich ffordd i’n casgliadau Harriet Wood, 17 Ebrill 2014 Hafan Catalog Teipiau Molysgiaid. Neptunea lyrata, y sbesimen teip hynaf yn Amgueddfa Cymru, a gasglwyd gan y Capten James Cook yn Alaska ym 1778. Lluniau a labeli sbesimen ar gyfer y teip Octopus maculosus a ddisgrifiwyd gan ein cyfarwyddwr cyntaf, Williams Evans Hoyle, ym 1883. Map yn dangos y 110 o wledydd sy’n gartref i’r bobl sydd wedi ymweld â’n gwefan hyd yn hyn. Sbesimenau mwyaf poblogaidd ar ôl 18 mis ar-lein Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru Gatalog Teipiau Molysgiaid ym mis Medi 2012. Hwn oedd y tro cyntaf i’n cynulleidfa gynyddol ar y we allu gweld lluniau o dros 350 o’n sbesimenau pwysicaf o folysgiaid. Casgliadau Molysgiaid Amgueddfa Cymru (Saesneg yn unig) Mae casgliadau molysgiaid Amgueddfa Cymru o arwyddocâd rhyngwladol ac maent yn cynnwys cannoedd o filoedd o sbesimenau. Mae molysgiaid yn grŵp hynod amrywiol sy’n bodoli yn y rhan fwyaf o amgylcheddau’r blaned – o falwod tir ar ben mynyddoedd i folysgiaid dwyfalfog mewn fentiau hydrothermol, cregyn côn gwenwynig i gregyn gleision perl dŵr croyw, gwlithod cigysol i fôr-gyllell guddliw. Mae ein casgliad yn adlewyrchu’r amrywiaeth hon a’r amrediad daearyddol ac amgylcheddol. Beth yw teipsbesimenau? Mae ‘teipsbesimenau’ unrhyw gasgliad hanes natur ymhlith yr eitemau gwyddonol arbennig sydd angen eu diogelu yn fwy na dim byd arall. Maent yn sbesimenau sy’n cael eu dethol yn ofalus i gynrychioli rhywogaethau newydd, ac maent ar gael yn barhaol i dacsonomyddion y dyfodol gyfeirio atynt. Mae casgliad Molysgiaid Amgueddfa Cymru yn cynnwys 3200 o deipsbesimenau, wedi’u casglu dros gyfnod o bron i 200 o flynyddoedd. Mae dwy ran o dair o’r casgliad yn dod o gasgliad cregyn enwog Melvill-Tomlin , gan dystio i ddyfnder gwyddonol a phwysigrwydd hanesyddol y casgliad. Ein teip cynharaf yw gwichiad moch mawr dŵr oer o Alaska, a gasglwyd ym 1778 gan y Capten James Cook yn ystod ei drydedd fordaith (a’r olaf). Disgrifiwyd y teip hwn, a llawer o rai eraill, gan rai o gasglwyr a thacsonomyddion pwysicaf eu hoes, gan gynnwys William Evans Hoyle, cyfarwyddwr cyntaf yr Amgueddfa ac arbenigwr ar Seffalopodau. Y Catalog Teipiau Molysgiaid ar-lein Gan fod llawer o ymholiadau ynglŷn â chasgliadau yn ymwneud â deunydd teip, roeddem yn awyddus i ddatblygu dull o sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb ledled y byd, felly aethom ati i greu’r Catalog Teipiau Molysgiaid. Dechreuodd y project yn 2009, gan ganolbwyntio yn y dechrau ar wahanu 350 o’n teipiau pwysicaf o’r prif gasgliad a’u storio mewn cypyrddau newydd haws eu cyrraedd a mwy diogel. Tynnwyd lluniau o’r holl sbesimenau hyn a’u labeli, a gwiriwyd a sganiwyd y cyfeiriadau yn ymwneud â disgrifiadau gwreiddiol y rhywogaethau. Cafodd yr wybodaeth hon ei chasglu mewn cronfa ddata a’i chyhoeddi ar-lein. Ond megis dechrau’r gwaith yw hyn… Bydd y llu o deipiau sy’n weddill yn cael eu hychwanegu o dipyn i beth, a bydd y staff yn parhau i ymchwilio i deipiau anhysbys yn ein casgliadau. Bydd teipsbesimenau newydd yn cael eu hychwanegu hefyd pryd bynnag y caiff rhywogaethau newydd eu darganfod, a’u disgrifio gan ein tacsonomyddion. Pwy sydd wedi bod yn edrych? Ers mynd ar-lein yn 2012, mae nifer yr ymholiadau ynglŷn â theipsbesimenau wedi cynyddu’n ddirfawr. Mae hyn yn dangos cyfraniad pwysig gwefannau at gynyddu mynediad i’n casgliadau a’r defnydd ohonynt. Drwy ddefnyddio Google Analytics, mae gennym rywfaint o syniad o bwy sydd wedi bod yn edrych dros y deunaw mis diwethaf: Mae 3,973 o ymwelwyr wedi edrych ar 12,268 o dudalennau. Mae pobl o 113 o wledydd wedi ymweld â’r safle. Y pum defnyddiwr mwyaf: y DU, Sbaen, yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Ffrainc. Mae 59.5% yn ymwelwyr newydd a 40.5% yn ymwelwyr sy’n dychwelyd. Y sbesimen yr edrychwyd arno amlaf: Scintilla lynchae Oliver a Holmes, 2004 Bwrw golwg Felly, beth am fwrw golwg drosoch eich hun ac fe gawn ni weld lle rydym arni ymhen blwyddyn… Wood, H. a Turner, J. A. 2012. Catalog Teipiau Molysgiaid. Amgueddfa Cymru. Ar gael ar-lein yn http://naturalhistory.museumwales.ac.uk/molluscatypes.
Wedi dal mewn Eiliad Trevor Bailey, 26 Chwefror 2014 Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Gallech chi gredu taw dim ond ddoe y bu’r anifeiliaid bychan yma farw, ond mewn gwirionedd, mae nhw tua 50 miliwn o flynyddoedd oed. Mae un o’n myfyrwyr profiad gwaith wedi bod yn defnyddio meddalwedd newydd i greu delweddau o’r casgliad ambr i’w rhannu â chi. Dyma hi’n defnyddio microsgop i dynnu lluniau o wahanol ddyfnderoedd mewn sampl ambr, cyn cyfuno’r darnau o bob llun oedd mewn ffocws i greu un delwedd glir. Drws i fyd hynafol Bu farw’r anifeiliaid yma ar ôl cael eu dal yn y resin meddal gludiog y bydd coed pinwydd yn ei gynhyrchu i’w gwarchod rhag haint. Pan fu farw’r coed, cafodd y resin ei gladdu danddaear mewn haenau o lystyfiant a gwaddod – a trodd gwasgedd a gwres y resin yn ambr caled. O gyffiniau Môr y Baltig y daw’r rhan fwyaf o’n casgliad ambr ac mae’r anifeiliaid yn cynnwys morgrug, pryfed glas, chwilod, pryfed, gwybed mân, medelwyr, gwyfynod, mwydod nematod, corynnod a chacwn. Roedd y creaduriaid yma yn byw o leiaf 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn fforestydd y cyfnod Eocenaidd. Roedd hwn yn gyfnod o hinsawdd ‘tŷ gwydr’ llawer cynhesach na heddiw o ganlyniad i lefelau carbon deuocsid uwch yn yr atmosffer. Yn y casgliad hefyd mae cacynen mewn ambr o waddodion y cyfnod Cretasig yn New Jersey, UDA – felly roedd yn fyw yr un oes â’r deinosoriaid! Gofalu am ambr Rydyn ni’n cadw’r casgliad ambr mewn cynhwysyddion aerdyn mewn ystafell lle gall y tymheredd a’r anwedd dŵr (lleithder) gael eu rheoli. Os yw ambr yn symyd yn rhy sydyn rhwng atmosffer rhy sych i un rhy llaith, gall holltau bach agor, gan gau’r drysau hyn ar y gorffennol. Trapped in Amber Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Morgrugyn a Chorryn Corryn Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Gwybedyn Brathog a Gwyfyn Cacynen, efallai Stigmaphronidae Chwilen Pryfyn (Diptera) Pryfyn (Diptera) Gwybedyn y Madarch (Sciaridae)
Planhigion Popeth 10 Chwefror 2014 Ble mae cnau daear a thatws yn tyfu? Beth yw tomatos? Archwilio’r Planhigyn Popeth dychmygol a dysgu mwy am y planhigion ar eich plât. Hadau yw ffa. Hadau planhigyn ffa yw ffa ac maen nhw’n tyfu mewn coden. Rydyn ni’n bwyta’r goden hefyd weithiau. Mae ffa yn perthyn i’r un teulu o blanhigion â phys. Ffrwyth yw tomato. Ffrwyth planhigyn tomato yw tomatos. Os ydych chi’n sleisio tomato gallwch chi weld yr hadau ynddo. Mae tyfwyr tomatos yn defnyddio cacwn yn eu tai gwydr i beillio’r blodau er mwyn cynhyrchu tomatos. Ffrwythau yw eirin. Hedyn yw’r garreg sydd mewn eirin. Mae’r darn noddlawn blasus yn denu anifeiliaid (gan gynnwys ni!) er mwyn helpu i wasgaru’r hadau. Blodau yw clofau. Blagur blodau sych coeden drofannol yw clofau cyfan. Yn Indonesia caiff y rhan fwyaf o glofau eu cynhyrchu, lle mae pobl yn eu cynaeafu â llaw cyn eu sychu yn yr haul Rydyn ni’n bwyta dail y perlysiau hyn. Mae gan oregano a mintys ddail persawrus. Mae pobl ledled y byd yn defnyddio perlysiau i wneud te neu i ychwanegu blas wrth goginio. Mae gwyddonwyr yn credu bod yr olew hanfodol sy’n rhoi’r arogl arbennig i’r dail wedi datblygu dros amser er mwyn rhwystro anifeiliaid rhag eu bwyta. Rydyn ni’n bwyta dail winwns, cennin a chennin syfi. Gallwn dynnu haenau o groen winwns. Deilen arbenigol yw pob haenen, ac mae’r planhigyn yn eu defnyddio i storio bwyd a dŵr. Yn ôl yr hanes, dyma Dewi Sant yn cynghori milwyr i wisgo cennin er mwyn adnabod ei gilydd yn hawdd ar faes y gad. Gwreiddiau yw moron. Dim ond pedair gwlad yn y byd sy’n cynhyrchu mwy o foron na’r DU rydyn ni’n tyfu cymaint ohonyn nhw. Moron piws neu felyn oedd y rhai cynharaf. Yna, dechreuodd bridwyr planhigion ddatblygu moron oren ddaeth yn boblogaidd dros ben. Coesynnau danddaear yw tatws. Mae planhigion tatws yn storio carbohydrad (startsh) yn y coesynnau danddaear arbennig hyn o’r enw cloron. Mae tatws yn perthyn i’r un teulu o blanhigion â thomatos, pupurau a tsilis. Hadau yw cnau daear. Mae cnau daear yn cael eu cynaeafu o dan y ddaear. Pan fydd pryf yn peillio blodau’r planhigyn cnau daear, mae codennau yn datblygu gyda’r cnau (hadau) y tu mewn. Mae’r codennau wedyn yn cael eu gwthio’n araf i mewn i’r ddaear wrth i goes y goden dyfu’n hirach.
Darganfod rhywogaeth newydd o ffosil crinoid yn ne Cymru Cindy Howells, 3 Chwefror 2014 Darganfod unrhyw fath newydd o ffosil yw un o’r digwyddiadau posibl mwyaf cyffrous i balaeontolegydd. Mae ffosil newydd gafodd ei ddarganfod yn ne Cymru – a’r unig o’i fath – wedi cael ei enwi’n Hylodecrinus cymrus i ddangos ei wreiddiau Cymreig. Yn 2009, roedd Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru, ar daith maes yn astudio creigiau 350 miliwn o flynyddoedd oed (o’r Cyfnod Carbonifferaidd) mewn cildraeth bach ym Mae Gorllewin Angle. Wrth weithio, darganfu Cindy ffosil newydd oedd yn wahanol i bob sbesimen arall a gofnodwyd yn wyddonol. Yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd, roedd Cymru’n agos at y cyhydedd ac roedd moroedd bas trofannol yn ei gorchuddio. Mae’r creigiau yma’n awgrymu y bu llawer o stormydd trofannol ffyrnig a chwalodd gregyn organebau morol yn deilchion cyn iddynt gael eu ffosileiddio. Fodd bynnag, mae rhai haenau’n cynnwys ffosilau cyfan, gafodd eu dyddodi mewn cyfnodau mwy llonydd, ac yn un o’r haenau hyn y cafwyd hyd i’r sbesimen newydd. Hylodecrinus cymrus – yr holoteip a’r unig sbesimen hysbys. Adluniad o Hylodecrinus cymrus. Ffosil o grinoid ydyw, sef anifail morol bach oedd yn edrych yn debyg i blanhigyn. Mae gan grinoidau goesyn hir ac ystwyth, wedi’i angori yng ngwely’r môr. Ar ben y coesyn, mae strwythur siâp cwpan sy’n cynnwys ei organau mewnol. Mae teimlyddion neu freichiau hir pluog yn ymestyn uwchben yr anifail. Byddai’r rhain yn casglu micro-organebau o ddŵr y môr ac yn eu cyfeirio i lawr i’w stumog. Cafodd y ffosil newydd ei dynnu’n ofalus o’r creigiau a’i gludo i Gaerdydd. Wedi trafod â’r Athro Tom Kammer o Brifysgol Gorllewin Virginia (sy’n arbenigwr ar grinoidau Carbonifferaidd), penderfynwyd fod y ffosil yn rhywogaeth newydd a’i bod hefyd yn perthyn i grŵp nas gwelwyd y tu hwnt i UDA tan nawr. Rhoddwyd yr enw Hylodecrinus cymrus iddi i ddangos ei gwreiddiau Cymreig. Cyhoeddwyd y disgrifiad o’r ffosil newydd hwn ar-lein yn The Geological Journal. Y sbesimen hwn fydd ‘teipsbesimen’ y rhywogaeth. O’r dyddiad hwn yn 2013, dyma’r unig sbesimen hysbys o’r rhywogaeth hon. Roedd moroedd trofannol y Cyfnod Carbonifferaidd yn gyforiog â bywyd gan gynnwys braciopodau, dwyfalfau, gastropodau, cwrelau, pysgod a chrinoidau’n arbennig. Mae creigiau o’r cyfnod hwn yn arbennig o weladwy ar hyd arfordir y de, o Sir Forgannwg i Sir Benfro. O astudio ffosilau, gallwn ddysgu mwy am sut y cafodd y creigiau eu dyddodi ac amgylchiadau byw'r anifeiliaid sydd wedi’u diogelu tu mewn iddynt. Map daearegol o dde Cymru yn dangos Bae Gorllewin Angle, Sir Benfro.