Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Tunplat
19 Medi 2008
John Williams
John Williams
John Williams
Llythyr at John Williams oddi wrth wneuthurwr tunplat Americanaidd.
Llythyr yn cymeradwyo John Williams
John Williams
John Williams
Llythyr at John Williams oddi wrth wneuthurwr tunplat Americanaidd.
Llythyr yn cymeradwyo John Williams
Ynys Ellis, Efrog Newydd
Cyfrifiad 1881 o Flaenrhondda. Ganwyd plentyn hynaf y teulu Griffiths yn America, a'r ieuengaf yng Nghymru.
Bois Breaker yn Pennsylvania. Dechreuodd nifer o fechgyn ifanc o Gymru weithio'n ifanc iawn yn America.
Roedd gweithwyr diwydiannol o Gymru'n dod o ardaloedd lle'r oedd yr undebau llafur trefnus iawn. Roedden nhw'n adnabyddus am sefyll dros eu hawliau, amodau gwaith diogel a chyfogau teg. Wrth adael eu mamwlad i chwilio am waith aethon nhw â'r rhinweddau hynny – a'r parodrwydd i frwydro – gyda nhw.
Ymfudodd John Owens i Ohio o Gwm Clydach pan oedd yn blentyn yn y 1890au. Collodd un o'i goesau mewn damwain ac aeth ati i gadw'n brysur trwy weithio dros yr undeb. Erbyn diwedd y 1930au roedd yn llywydd yr United Mine Workers of America yn Ohio. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth yn Drysorydd Ysgrifennydd Rhyngwladol yr UMWA, gan aros yn y swydd tan 1970. Owens fu'n gyfrifol am greu'r system iechyd a lles gyntaf ar gyfer gweithwyr UDA.
Radicaliaeth Gymreig gafodd y bai am y trafferthion yn y diwydiant ceir Prydeinig ddiwedd y 1970au, er bod y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd y tu allan i Gymru. Roedd llawer o'r gweithwyr yn y ffatrïoedd cynhyrchu ceir yn Rhydychen a Birmingham yn hanu o Gymru. Roedden nhw wedi ymfudo i chwilio am waith wrth i'n diwydiannau traddodiadol ddioddef yn sgil y dirwasgiad economaidd cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Yn America cymerodd rhai cyfogwyr yn erbyn gweithwyr o Gymru oherwydd eu henw am fod yn flwriaethus.
Ganed Mary yng nghwm Ogwr ym 1887. Aeth i UDA ym 1913 gyda'i dau blentyn, i chwilio am ei gŵr, glöwr oedd wedi mynd â’i gadael hi. Bu'n rhan o 'Gyflafan Ludlow' yn ystod streic glowyr Colorado ym 1914, a hi oedd yr unig fenyw i gael ei harestio. Teithiodd ar hyd a lled y wlad i ddenu cefnogaeth i'r glowyr oedd yn streicio, gan annerch yr Arlywydd hyd yn oed.
Eglwys Hen Saron, yr eglwys Gymreig gyntaf yn Minnesota, 1856