Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Menywod 19 Medi 2008 Paratoi bwyd ar gyfer Cymanfa Ganu, Eglwys Peniel, Pickett, Wisconsin,1946. Er taw dynion oedd y mwyafrif o'r gweithwyr diwydiannol, roedd menywod yn bwysig iawn i'r cymunedau mudol. Yn aml iawn, byddai'r dynion yn teithio i wlad newydd ar eu pennau eu hunain i gael gwaith a sefydlu cartref. Byddai'r gwragedd a'r plant yn dilyn wedyn. Yn y cyfamser, bu'n rhaid i'r gwragedd gynnal eu hunain a'u plant. Roedd menywod yn amlwg iawn yn y gwaith o drefnu gweithgareddau cymunedol fel Eisteddfodau, addysg a diwygiadau cymdeithasol. Roedd rhai menywod yn gweithio ym maes diwydiant. Yng Nghymru, cyfogwyd llawer o fenywod mewn gweithfeydd tunplat. Ym 1895 cyfogodd gweithfeydd Tunplat Monongahela yn Pittsburgh, Pennsylvania ymfudwraig o Gymru o'r enw Hattie Williams i hyfforddi menywod i wneud yr hyn a ystyriwyd yn waith dynion. Arweiniodd hyn at brotestio yma ac yn UDA. Roedd menywod yn cyfrannu at fywyd masnachol mewn ffyrdd eraill hefyd. Yn Seland Newydd, llwyddodd Mary Jane Innes (Lewis gynt) o Lanfaches, Sir Fynwy i reoli bragdy ei diweddar ŵr am fynyddoedd lawer.
Bri rhyngwladol i 'Ffosil Cenedlaethol Cymru' 26 Gorffennaf 2007 Sbesimen o Paradoxides davidis o Borth-y-rhaw, x 0.75. Casgliad Amgueddfa Cymru Chyfnod un yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Chyfnod dau yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Chyfnod tri yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Ym 1862, canfuwyd un o'r trilobitau mwyaf erioed mewn craig yn Sir Benfro. Daeth yn un o ffosilau enwocaf Prydain ac mae'n ein helpu i ddeall sut yr oedd Cymru'n arfer bod yn sownd wrth Ogledd America, cyn ffurfio Eryri na Chefnfor Iwerydd. Casglu ffosilau yn ardal Penrhyn Tyddewi, Sir Benfro Ym 1862, roedd y paleontolegwr adnabyddus, J.W. Salter yn casglu ffosilau yn ne-orllewin Cymru fel rhan o'i waith gydag Arolwg Daearegol Prydain (BGS). Wrth archwilio clogwyni ardal greigiog Penrhyn Tyddewi un diwrnod, glaniodd Salter ym mhorth bychan Porth-y-rhaw, gan gredu ei fod yn Harbwr Solfach, sydd ychydig i'r dwyrain. Fel y digwyddodd, roedd hwn yn gamgymeriad ffodus oherwydd, yng nghreigiau Porth-y-rhaw, daeth ar draws olion un o'r trilobitau mwyaf a ganfuwyd erioed (dros 50cm o hyd) ac, o ganlyniad i'r darganfyddiad hwn, daeth yr ardal yn lle adnabyddus i hela ffosilau. Bywyd yn y môr gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl Cafodd y cerrig llaid tywyll sydd yn y golwg yno eu dyddodi mewn môr rhyw 510,000,000 o flynyddoedd yn ôl mewn cyfnod a elwir erbyn hyn yn Gyfnod Cambriaidd. Rhoddwyd yr enw hwn i'r cyfnod gan mai yng Nghymru y cafodd creigiau o'r cyfnod eu hadnabod a'u henwi gyntaf gan ddaearegwyr o'r 19eg ganrif. Mae Porth-y-rhaw ymhlith nifer fach o safleoedd yng Nghymru lle mae ffosilau o'r Cyfnod Cambriaidd wedi'u cadw'n eithaf da ac yn gymharol hawdd eu canfod. Yn ogystal â thrilobit enfawr Salter, ceir yno ffosilau llawer o fathau eraill o arthropodau morol sydd wedi hen ddarfod amdanynt. Fel rheol, mae'r rhain yn faint mwy cyffredin, sef rhyw 2-3cm o hyd. Ffosil cenedlaethol Cymru Yr enw gwyddonol ffurfiol a roddodd Salter ar y trilobit enfawr yw Paradoxides davidis, ar ôl ei ffrind David Homfray, casglwr ffosilau amatur o Borthmadog. Erbyn hyn, mae'r trilobit hwn ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus a gasglwyd ym Mhrydain a gwelir ei lun mewn llawer o gyhoeddiadau; mae llawer o'n prif amgueddfeydd, yn cynnwys Amgueddfa Cymru, yn ymfalchïo os oes ganddynt sbesimenau da ohonynt. Yn wir, pe bai gan Gymru 'ffosil cenedlaethol', byddai Paradoxides davidis yn gystadleuydd brwd am y teitl. Byd-enwog Ceir llawer o sbesimenau o Paradoxides davidis ar Benrhyn Afalon yn ne-ddwyrain Newfoundland, mewn creigiau sy'n union yr un oed â'r rhai sydd yn y golwg ym Mhorth-y-rhaw. Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig deall bod dosbarthiad y cyfandiroedd a'r moroedd yn wahanol iawn yn y Cyfnod Cambriaidd i'r hyn ydyw heddiw. Bryd hynny, roedd Cymru, Lloegr a de-ddwyrain Newfoundland ar ochr ddeheuol hen fôr, o'r enw Iapetws, wedi'u gwahanu oddi wrth yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland, fel y dangosir ar y map. Ceir yr un math o drilobitau yng Nghymru a de-ddwyrain Newfoundland a rhai hollol wahanol yn yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland ac mae hyn yn dangos eu bod yn arfer bod ar wahanol gyfandiroedd. Geni Eryri Tua 480,000,000 o flynyddoedd yn ôl, achosodd symudiadau y tu mewn i'r Ddaear i hen Fôr Iapetws gulhau'n raddol a diflannu wrth i'r ddau gyfandir daro yn erbyn ei gilydd. Arweiniodd hyn at ffurfio cadwyn o fynyddoedd uchel sydd heddiw i'w gweld yng Nghymru, yr Alban, Sgandinafia ac ym mynyddoedd yr Appalachiaid. Cefnfor newydd Iwerydd Yn nes ymlaen o lawer yn hanes y Ddaear, rhwng 200,000,000 a 65,000,000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd y ddau gyfandir wahanu eto gan ffurfio cefnfor newydd a ddaeth, maes o law, yn Gefnfor Iwerydd fel y mae heddiw. Fodd bynnag, nid oedd y rhwyg ar hyd yr un llinell yn union a'r llinell lle caewyd môr Iapetws, a gadawyd de-ddwyrain Newfoundland a'i drilobitau 'Cymreig' yn sownd wrth weddill Newfoundland a Gogledd America, a'r Alban a'i drilobitau o 'Ogledd America' yn sownd wrth weddill Ynysoedd Prydain. Mae'r ffaith bod yr un trilobitau'n cael eu darganfod mewn ardaloedd sy'n bell wrth ei gilydd yn pwysleisio bod angen i ddaearegwyr astudio ffosilau a ddaw o ardaloedd pell wrth ei gilydd er mwyn cynnig dehongliad llawn o hen hanes eu darn nhw eu hunain o gramen y Ddaear.
Aduniad i berthnasau 460 milion oed o Gymru a Gwlad Belg 26 Gorffennaf 2007 Didymograptws, grapolit 'trawfforch' o fath sy'n gyffredin yn y ddwy ardal. Pricyclopyge, trilobit cefnforol â llygaid mawr sydd â dosbarthiad eang ym Mhrydain a gogledd-gorllewin Ewrop; Tarian pen Ormathops, trilobit dyfnforol sy'n gyfyngedig i Fohemia. Llanvirn Farm, Abereiddi, Sir Benfro Tua diwedd y 19eg ganrif, dechreuodd Henry Hicks, llawfeddyg o Dyddewi, ymddiddori yn hen greigiau gogledd Sir Benfro ac, ymhen amser, daeth yn arbenigwr rhyngwladol. Ym 1881, galwodd greigiau Bae Abereiddi yn 'Grŵp Llanvirn', ar ôl fferm gerllaw. Erbyn heddiw, mae'r enw'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac fe'i gwelir mewn cyhoeddiadau daearegol ym mhedwar ban byd — tipyn o beth i fferm fechan ar arfordir gwyntog Sir Benfro. Bu staff yn Amgueddfa Cymru'n astudio creigiau Llanvirn a'u ffosilau ers dros chwarter canrif ac, yn 2000, gwahoddwyd Dr. R Owens o'r Adran Ddaeareg i archwilio ffosilau o greigiau o Gyfres Llanvirn sydd yn y golwg yn nyffryn Meuse yng Ngwlad Belg. Cymharwyd rhywogaethau o drilobitau a ganfuwyd yn y creigiau hyn â rhai o Ynysoedd Prydain. Ffosilau yr un fath yng Nghymru a Gwlad Belg Fel rheol, mae'n rhaid wrth lawer o amser ac ymdrech i ganfod ffosilau yng nghreigiau Llanvirn. Mae'r graptolitau a'r trilobitau a ganfuwyd yng Ngwlad Belg i gyd yn union yr un peth â'r rhai a ganfuwyd yng Nghymru ac Ardal y Llynnoedd. Credir bod y creigiau Llanvirn lle ceir y ffosilau wedi'u gosod yn y môr dwfn. Yn ystod y cyfnod Ordofigaidd pan gafodd creigiau Llanvirn eu dyddodi, roedd de Prydain, Gwlad Belg a gogledd yr Almaen oll yn rhan o gyfandir bychan o'r enw 'Afalonia', ac roedd y 'Cefnfor Rheig' rhyngddo a chyfandir enfawr Gondwana. Trilobitau Dall Mae trilobitau y credir mai dim ond ar wely'r môr yr oeddent yn byw [rhywogaethau dyfnforol] yn tueddu i gael eu cyfyngu i rai ardaloedd yn unig ond mae rhai y credir eu bod yn nofio yn nŵr y môr [rhywogaethau cefnforol] wedi'u dosbarthu'n eang. Mae gan un o'r rhywogaethau o drilobitau a ganfuwyd yng Ngwlad Belg lygaid anferth a chredir ei bod yn rhywogaeth gefnforol. Mae'r ffosil hwn yn gyffredin mewn sawl ardal. Ar y llaw arall, mae un arall, a ddisgrifiwyd gyntaf gan Hicks o Abereiddi, yn ddall, a chredir mai un dyfnforol ydoedd. Fodd bynnag, mae i'r rhywogaeth hon ddosbarthiad eang hefyd ac mae hynny'n anos i'w esbonio; efallai ei bod yn treulio amser maith fel larfa bach, yn cael ei gludo gan lif y dŵr, fel bod i'r ffosilau ddosbarthiad eang; neu efallai mai rhywogaeth gefnforol ydoedd, yn byw mewn talpiau o wymon oedd yn nofio yn y môr ac yn cael ei chario ganddynt. Mae creigiau Ordofigaidd sy'n iau na rhai Cyfres Llanvirn hefyd yn brigo yn nyffryn Meuse. Maent yn cynnwys rywogaethau o drilobitau a geir hefyd yng ngogledd Cymru a gogledd Lloegr. Mae hyn yn dangos bod Gwlad Belg yn dal yn rhan o Afalonia trwy gydol y Cyfnod Ordofigaidd. Fodd bynnag, mae creigiau a geir rhwng y rhain a chreigiau Llanvirn cynharach yn cynnwys trilobitau sy'n wahanol i'r rhai o Brydain, ond sy'n debyg iawn i ffosilau o Fohemia. Mae'n annhebygol bod rhan o Afalonia wedi gwahanu, wedi symud yn nes at Fohemia ac wedi symud yn ôl eto. Pam felly y mae'r trilobitau hyn yn debyg i rai Bohemia? Efallai mai'r ateb yw bod yr amgylchedd o dan y môr wedi dod yn debycach i un Bohemia nag i un de Prydain. Er na wyddom beth oedd hydred Bohemia nac Afalonia, mae'n rhaid bod y ddwy ardal yn ddigon agos fel y gallai larfa'r trilobitau groesi rhyngddynt ac felly gael eu dosbarthu'n eang. Mae'r gwaith hwn wedi cadarnhau bod cysylltiad clos rhwng ffosilau mewn rhannau o Sir Benfro ac yng Ngwlad Belg 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi tynnu sylw at broblemau dosbarthiad ffosilau sy'n dal heb eu datrys yn llawn.
Pan hwyliai llongau Cymru'r moroedd 6 Gorffennaf 2007 Y Breconian Y Breconian Adeiladwyd The Breconian ym 1906; cafodd ei chofrestru yn Aberystwyth a bu Cymry'n ei hwylio dros foroedd y byd am 30 mlynedd. Mae'r portread ohoni, sef un o'r darluniau diwydiannol o longau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, yn rhoi cipolwg eithriadol o ddifyr i ni ar yr oes a fu. Darluniau o Longau Ceir rhyw 250 o ddarluniau o longau yng nghasgliadau diwydiannol Amgueddfa Cymru. Ychydig o'r rhain y gellid eu disgrifio fel celfyddyd gain ond maent yn archif hynod werthfawr o hanes morwriaeth yng Nghymru. Gwaith 'arlunwyr pen pier' yn ardal Môr y Canoldir yw'r rhan fwyaf ohonynt. Am dâl bychan, byddai'r rheiny'n tynnu lluniau lliwgar syml o long ar gyfer y perchennog, y capten neu aelodau'r criw. Yn wreiddiol, byddent yn tynnu parau o luniau, y naill o'r llong ar fôr tawel a'r llall mewn storm. Er nad yw'r lluniau hyn yn gelfyddyd gain, maent yn rhai manwl-gywir o safbwynt technegol. Roedd perchnogion y lluniau — perchennog y llong yn gymaint â gwraig y capten — yn ymfalchïo ynddynt ac roedd iddynt werth sentimental. Llong ac iddi Gynllun Newydd Llun heb ei lofnodi o'r Breconian mewn storm yw hwn. Adeiladwyd y llong ager ar gyfer John Mathias & Sons o Aberystwyth. Roedd yn anghyffredin gan fod y dec yn gulach nag arfer a bod y dec tyredau a osodwyd ar gorff y llong yn ymestyn o'r blaen i'r starn. Roedd y cynllun newydd hwn yn golygu bod y llong yn fwy proffidiol i'w rhedeg. Roedd y cynllun mor llwyddiannus nes bod 429 o longau deciau tyred wedi'u hadeiladu rhwng 1892 a 1911. Cychwynnwyd y cwmni oedd biau'r Breconian ym 1869 pan benderfynodd John Mathias, perchennog uchelgeisiol siop lysiau o Aberystwyth, fentro i fyd y llongau, gan brynu'r sgwner Miss Evans. Ym 1883, symudodd o longau hwyliau i longau ager, gan ffurfio'r Glanrheidol Steamship Company Limited. Erbyn i'r Breconian ymuno â fflyd Mathias, roedd y busnes wedi cymryd yr enw mawreddog The Cambrian Steam Navigation Company Limited. Roedd gan y cwmni saith llong wedi'u henwi, braidd yn anghyffredin, ar ôl ysgolion bonedd. Oherwydd hyn, roedd llongwyr yng Nghaerdydd yn galw'r cwmni yn 'the College line'. Y Breconian, a enwyd ar ôl Coleg Crist, Aberhonddu, oedd yr unig long a enwyd ar ôl ysgol yng Nghymru; enwau'r lleill oedd Etonian, Harrovian, Rugbeian, ac ati. Glo Allan, Grawn yn Ôl Fel y rhan fwyaf o longau cargo'r cyfnod, byddai'r Breconian yn hwylio'n bennaf yn y fasnach 'glo allan, grawn yn ôl', gan gludo glo o dde Cymru i bedwar ban byd a dod â llwyth o rawn yn ôl. Cymry fyddai'r rhan fwyaf o'r criw; ym 1911, Capten David Jones o Aberystwyth oedd y capten ac roedd 20 o'r criw o 28 yn dod o drefi a phentrefi arfordir Cymru. Ym 1917, gwerthwyd y Breconian i'r Tyneside Line Limited o Newcastle ac ym 1926 gwerthwyd hi eto i berchennog llongau o Genoa o'r enw Giovanni Bozzo. Cafodd ei hailenwi'n Lorenzo Bozzo ganddo ef ar ôl ei fab. Chwe blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei chwalu. Erbyn heddiw, dim ond y darlun sydd ar ôl i'n hatgoffa o un agwedd ar ddiwydiant llongau llewyrchus Cymru a'r llongwyr medrus o Gymru a fu'n hwylio moroedd y byd.