Gwaith a Llafur

Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Glo

19 Medi 2008

Bythynnod mwynwyr - Seland Newydd

Bythynnod mwynwyr, Denniston, Seland Newydd

Stryd Fawr, Thirroul

Stryd Fawr, Thirroul, New South Wales, Awstralia.

Glofa Cymreig, Kentucky

Glofa Cymreig, Kentucky

Lewis Williams

Lewis Williams, menthyg Hywel Gwyn Evans

Glofa'r Tong

Glofa'r Tong, Kaiping, Tseina.

Llythyr Lewis Williams

Llythyr Lewis Williams at ei rieni, 12 Chwefror 1889

Roedd ein diwydiant glo'n llewyrchus dros ben tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd y byd cyfan yn troi aton ni am arbenigedd a chyngor.

Wrth i wledydd eraill ddechrau datblygu eu heconomi eu hunain, aethant ati i fanteisio ar ffynonellau glo lleol. Roedd gan lowyr Cymru'r sgiliau allweddol, ac o ganlyniad fe'u cyfogwyd gan gwmnïau glo tramor. Cynigiwyd cyfogau hael iddynt i ddatblygu a rheoli pyllau glo tramor. Ffurfodd y glowyr gymunedau mawr ym meysydd glo Awstralia ac America.

Helpodd peirianwyr glo o Gymru i ddatblygu'r diwydiant yn Ne Affrica a hyd yn oed Tsieina, ac erbyn heddiw mae Tsieina'n cynhyrchu ac yn defnyddio mwy o lo nag unman arall yn y byd.

Aeth glowyr o Gymru i Loegr hefyd. Roedd yna gymuned fawr o Gymry yng Nghaint, lle datblygwyd y maes glo ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Yr ardaloedd pwysicaf lle'r aeth glowyr o Gymru I gynhyrchu glo oedd taleithiau Ohio a Pennsylvania yn UDA.

Tyfodd tref Scranton, Pennsylvania yn ganolbwynt i'r casgliad mwyaf o Gymry alltud. Mae llawer o enwau strydoedd yn adlewyrchu treftadaeth yr ardal, er enghraifft, Jones Street, Evans Court ac Eynon Street. Adeiladwyd llawer o gapeli yno yn y dull Cymreig. Roedd llawer o bobl yn siarad Cymraeg, ac roedd lle pwysig i'r iaith yn y capeli, mewn Eisteddfodau ac mewn papurau newydd.

Hyd yn oed os nad oedd cefnogwyr ariannol y pyllau'n Gymry neu o dras Gymreig, roedd yn well gan lawer ohonynt gyfogi rheolwyr profadol o Gymru. Yn eu tro, byddai'r rheolwyr yn tueddu i gyfogi glowyr Cymreig. Er i hyn feithrin teimlad cryf o frawdgarwch ymysg y gweithwyr o Gymru, gallai arwain at broblemau ymysg eu cydweithwyr o wledydd eraill.

Lewis Williams

Ganed Lewis yn Rhiw-fawr, ym mharthau uchaf Cwm Tawe. Glöwr oedd Williams a aeth i ddosbarth nos i astudio i fod yn oruchwylydd pwll. Cafodd e, a dau Gymro arall, eu recriwtio i weithio'r pwll glo modern cyntaf yn Tsieina. Teithiodd i Kaiping ym 1888 ac mae ei lythyrau adref yn dangos ei fod e'n mwynhau'r gwaith. Yn anffodus bu farw ym Mehefin 1889.

Joseph Pugh

Ganed Joseph ym Mhantygorlan, Ceredigion ym 1854. Mwyngloddiwr plwm oedd e a ymfudodd i UDA ym 1869. Daeth adref i Gymru ddwy flynedd yn ddiweddarach i weithio mewn pyllau glo yn Nowlais, Aberdâr a Chwm Rhondda tan 1880. Wedyn aeth nôl i Pennsylvania lle daeth yn enwog am suddo pyllau dwfn a phroffidiol. Bu farw ym 1903.