Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Radicaliaeth 19 Medi 2008 Bois Breaker yn Pennsylvania. Dechreuodd nifer o fechgyn ifanc o Gymru weithio'n ifanc iawn yn America. Roedd gweithwyr diwydiannol o Gymru'n dod o ardaloedd lle'r oedd yr undebau llafur trefnus iawn. Roedden nhw'n adnabyddus am sefyll dros eu hawliau, amodau gwaith diogel a chyfogau teg. Wrth adael eu mamwlad i chwilio am waith aethon nhw â'r rhinweddau hynny – a'r parodrwydd i frwydro – gyda nhw. Ymfudodd John Owens i Ohio o Gwm Clydach pan oedd yn blentyn yn y 1890au. Collodd un o'i goesau mewn damwain ac aeth ati i gadw'n brysur trwy weithio dros yr undeb. Erbyn diwedd y 1930au roedd yn llywydd yr United Mine Workers of America yn Ohio. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth yn Drysorydd Ysgrifennydd Rhyngwladol yr UMWA, gan aros yn y swydd tan 1970. Owens fu'n gyfrifol am greu'r system iechyd a lles gyntaf ar gyfer gweithwyr UDA. Radicaliaeth Gymreig gafodd y bai am y trafferthion yn y diwydiant ceir Prydeinig ddiwedd y 1970au, er bod y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd y tu allan i Gymru. Roedd llawer o'r gweithwyr yn y ffatrïoedd cynhyrchu ceir yn Rhydychen a Birmingham yn hanu o Gymru. Roedden nhw wedi ymfudo i chwilio am waith wrth i'n diwydiannau traddodiadol ddioddef yn sgil y dirwasgiad economaidd cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yn America cymerodd rhai cyfogwyr yn erbyn gweithwyr o Gymru oherwydd eu henw am fod yn flwriaethus. Mary Thomas (O'Neil) Ganed Mary yng nghwm Ogwr ym 1887. Aeth i UDA ym 1913 gyda'i dau blentyn, i chwilio am ei gŵr, glöwr oedd wedi mynd â’i gadael hi. Bu'n rhan o 'Gyflafan Ludlow' yn ystod streic glowyr Colorado ym 1914, a hi oedd yr unig fenyw i gael ei harestio. Teithiodd ar hyd a lled y wlad i ddenu cefnogaeth i'r glowyr oedd yn streicio, gan annerch yr Arlywydd hyd yn oed.
Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Diwylliant Cymraeg 19 Medi 2008 Eglwys Hen Saron, yr eglwys Gymreig gyntaf yn Minnesota, 1856
Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Menywod 19 Medi 2008 Paratoi bwyd ar gyfer Cymanfa Ganu, Eglwys Peniel, Pickett, Wisconsin,1946. Er taw dynion oedd y mwyafrif o'r gweithwyr diwydiannol, roedd menywod yn bwysig iawn i'r cymunedau mudol. Yn aml iawn, byddai'r dynion yn teithio i wlad newydd ar eu pennau eu hunain i gael gwaith a sefydlu cartref. Byddai'r gwragedd a'r plant yn dilyn wedyn. Yn y cyfamser, bu'n rhaid i'r gwragedd gynnal eu hunain a'u plant. Roedd menywod yn amlwg iawn yn y gwaith o drefnu gweithgareddau cymunedol fel Eisteddfodau, addysg a diwygiadau cymdeithasol. Roedd rhai menywod yn gweithio ym maes diwydiant. Yng Nghymru, cyfogwyd llawer o fenywod mewn gweithfeydd tunplat. Ym 1895 cyfogodd gweithfeydd Tunplat Monongahela yn Pittsburgh, Pennsylvania ymfudwraig o Gymru o'r enw Hattie Williams i hyfforddi menywod i wneud yr hyn a ystyriwyd yn waith dynion. Arweiniodd hyn at brotestio yma ac yn UDA. Roedd menywod yn cyfrannu at fywyd masnachol mewn ffyrdd eraill hefyd. Yn Seland Newydd, llwyddodd Mary Jane Innes (Lewis gynt) o Lanfaches, Sir Fynwy i reoli bragdy ei diweddar ŵr am fynyddoedd lawer.
Gweithwyr estron ym meysydd glo Cymru 6 Mawrth 2008 Ail Ryfel Byd Slofeniaid yng Nghanolfan Tyfforddi Oakdale, 1948 Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, roedd galw mawr, a chynyddol, am lo. Roedd adnewyddiad a thwf yn sgil y rhyfel yn gofyn am ddigonedd o ynni rhad, a dim ond glo allai gyflenwi'r angen. Roedd angen recriwtio mwy o lowyr ar hast. Un ffynhonnell ar gyfer y rhain oedd y miloedd o bobl Ewropeaidd oedd wedi gorfod ffoi o'u gwledydd genedigol yn ystod y Rhyfel. Er bod angen mawr am y dynion hyn ym Mhrydain, nid oedd croeso iddynt bob tro, ac roedd tipyn o wrthwynebiad o du cyfrinfeydd lleol Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Roedd mwy o anesmwythyd pan ddechreuwyd recriwtio Eidalwyr ym 1951, ac nid oedd pethau ddim gwell pan geisiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol recriwtio ffoaduriaid o Hwngari ar ôl chwyldro 1956.ŵp peirianyddol Almaenaidd,Thyssen UK, i weithio yn ne Cymru gan ddod â rhai o'u cydwladwyr gyda hwy. Yn yr un modd â mewnfudwyr heddiw, roedd y 'gweithwyr estron' hyn yn wynebu amheuaeth i ddechrau. Roedd hyn yn deillio'n rhannol o anwybodaeth ac yn rhannol o ofn y bobl leol o ddiweithdra. "All Poles" Nyk Woszczycki (ail o'r chwith) mewn grŵp yn dathlu ymddeoliad ei ffrind, Joe Hughes o lofa Britannia Daeth y dynion ifanc hyn i Brydain ar ôl blynyddoedd o galedi, perygl a thrychineb. Cefnodd llawer ohonynt ar y maes glo cyn gynted ag y gallent, a gadawodd nifer ohonynt Brydain hyd yn oed, ond enillodd y rhai a arhosodd enw da am eu dycnwch a'u gwaith caled. Er eu bod yn dod o nifer o wledydd, y duedd oedd i'r glöwr Cymreig eu hystyried fel 'Pwyliaid pob un'. Fe briodon nhw â merched lleol ac ymgartrefu yma; ar waliau eu hystafelloedd byw yn aml fe welir lluniau o'u plant a'u hwyrion, sydd wedi eu magu fel Cymry. Mae nifer o'r rhain wedi ennill graddau prifysgol; mae nifer wedi ennill anrhydeddau dros Gymru ar y meysydd chwarae. Er gwaethaf eu balchder yn eu mamwledydd gwreiddiol, mae'r rhan fwyaf bellach yn ystyried eu hunain yn Gymry. Yn yr un modd, dylai Cymru fod yn falch ohonynt hwythau a'r rhan y maent wedi ei chwarae yn ei hanes. Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o gylchgrawn yn y gyfres 'Glo', a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Lawrlwytho'r llyfryn