: Glo, Llechi a Haearn

Drychineb Senghennydd: Llyfrau nodiadau Arolygwr Pyllau Glo

17 Mai 2013

Mam ifanc a'i phlentyn yn aros am newyddion

Mam ifanc a'i phlentyn yn aros am newyddion

Nodiadau a wnaed gan yr Arolygwr Pyllau Glo wrth archwilio gweddillion y gweithfeydd wedi’r ffrwydrad ym mhwll Senghenydd ar 14 Hydref 1913, lle lladdwyd 439 o ddynion. Trwy garedigrwydd Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Lloegr.

Tocynnau Glofa

Ceri Thompson, 30 Ionawr 2013

Tocyn lamp 523 o Glofa Groesfaen

Tocyn lamp 523 o Glofa Groesfaen

Disg blastig goch Achub Glofaol

Disg blastig goch Achub Glofaol.

Mae tocynnau lamp yn wrthrychau hynod boblogaidd o'r diwydiant glo a cant eu casglu gan amgueddfeydd a'r cyhoedd yn gyffredinol. Byddent yn fodd i reolwyr glofeydd gadw cofnod o bwy oedd wrth eu gwaith, ond roedden nhw'n hanfodol pan fyddai'n rhaid i'r gwasanaethau brys wybod faint yn union o ddynion oedd danddaear wedi tân neu ffrwydrad. Daeth systemau tocynnau yn gyffredin yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn dod yn orfodol ym 1913 wedi diwygio Deddf Pyllau Glo 1911.

Byddai'r systemau cynnar fel arfer yn defnyddio un tocyn ar gyfer pob gweithiwr danddaear a byddai'r glöwr yn mynd â'r tocyn adref ar ddiwedd y sifft. Cai'r tocyn ei roi i'r ceidwad lampau ar ddechrau'r sifft yn gyfnewid am lamp ddiogelwch ag arni'r un rhif â'r tocyn. Ar ddiwedd y sifft byddai'r glöwr yn dychwelyd ei lamp ac yn casglu'r tocyn gan y ceidwad neu o 'fwrdd tocynnau'.

Byddai tocynnau'n amrywio rhwng meysydd glo ac yn newid dros amser, ond erbyn diwedd y 1970au system ddiogelwch dri thocyn oedd yn gyffredin. Byddai pob gweithiwr danddaear yn derbyn tri thocyn fyddai'n aml o siâp a maint gwahanol; cai un ei adael yn yr ystafell lampau, un ei roi i'r bancwr ar ben y siafft ac un ei gadw gyda'r gweithiwr drwy'r sifft.

Cai rhif ei stampio ar y tocynnau yn ogystal ag enw'r pwll neu'r cwmni mwyngloddio. Wedi gwladoli'r diwydiant 'Bwrdd Glo Cenedlaethol' fyddai'n cael ei stampio ar y tocynnau yn ogystal â'r rhanbarth benodol. Tocynnau pres gai eu defnyddio fel arfer, ond roedd tocynnau sinc, alwminiwm, Bakelite a phlastig ar gael. Byddai siapau'r tocynnau yn amrywio hefyd, o sgwariau, cylchoedd a hirgrynion i hecsagonau ac octagonau. Erbyn diwedd y 1990au roedd cardiau adnabod plastig yn cymryd lle'r tocynnau lamp.

Defnyddiai'r Gwasanaeth Achub Glofaol system debyg yn ystod argyfyngau, system debyg i'r system dri thocyn ond un a sefydlwyd yn gynharach. Byddai disg blastig goch yn cael ei gadael yn yr ystafell lampau, disg blastig gyda'r banciwr a disg gopr yn cael ei gwisgo o amgylch y gwddf tra bod y gweithiwr achub danddaear.

Defnyddiwyd tocynnau eraill yn y diwydiant glo hefyd – ar gyfer ffrwydron, ffreuturau, baddondai pen pwll, bysiau a threnau. Byddai'r undebau llafur glofaol hefyd yn defnyddio tocynnau i ddangos bod aelod wedi talu ei dâl aelodaeth. Byddai sefydliadau glowyr a thafarndai lleol hefyd yn cynhyrchu

tocynnau cwrw ar achlysuron arbennig.

Bathodynnau Glowyr

2 Gorffennaf 2012

Mae bathodynnau yn ffordd bwysig o ddangos bod rhywun yn cefnogi achos neu'n ymddiddori mewn rhywbeth arbennig. Gallan nhw hefyd goffau digwyddiad penodol.

Mae sawl esiampl o fathodynnau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant glo, bathodynnau fyddai'n cael eu cynhyrchu yn ystod anghydfod diwydiannol neu eu gwerthu i godi arian wedi trychineb lofaol.

Yn ystod, ac ar ôl streic y glowyr ym 1984-85 y cynhyrchwyd y nifer fwyaf o fathodynnau. Cynhyrchwyd bathodynnau o bob lliw a llun ond byddent fel arfer yn cario enw Mudiad Cenedlaethol y Glowyr (N.U.M.), Cynghordy neu ardal. Byddent hefyd yn cario symbol arbennig — gallai fod yn eicon glofaol fel lamp, offer weindio neu gaib a rhaw wedi croesi; neu yn symbol a gynrychiolai'r dosbarth gweithiol fel dwylo'n ysgwyd, cadwyni wedi torri neu glorian cyfiawnder. Gwelid draig goch neu genhinen ar nifer o'r bathodynnau a gynhyrchwyd yng Nghymru hefyd.

Mae Adran Diwydiant Amgueddfa Cymru wedi casglu cannoedd o'r bathodynnau yma. Mae rhai yn cael eu harddangos yn Big Pit: Amgueddfa Wlân Cymru a gellir gweld esiamplau ar fas data casgliadau Delweddau Diwydiant.

Am ragor o wybodaeth efallai y bydd y llyfr 'Enamel Badges of the National Union of Mineworkers' (2008) gan Brian Witts o ddidordeb.

Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl.

Ffasau glo a chopr W.E. Logan a'r map daearegol

7 Chwefror 2012

William Logan, 1856

William Logan, 1856

Henry Thomas De la Beche (1796-1855), tua 1841, sefydlydd yr Arolwg Daearegol Prydeinig.

Henry Thomas De la Beche (1796-1855), tua 1841, sefydlydd yr Arolwg Daearegol Prydeinig.

"Gweithiais fel caethwas drwy'r haf ar wlff Sant Lawrence, gan fyw bywyd dyn anwar mewn pabell agored, gan gysgu ar y traeth mewn blanced a sach gyda'm traed ger y tân, prin y byddwn yn tynnu fy nillad, byddwn yn bwyta porc hallt a bisgeti llong gan gael fy mhoenydio weithiau gan fosgitos".

Llythyr gan Logan at De la Beche, 20 Ebrill 1844.

 

Logan yng Nghanada

Wedi meithrin ei sgiliau daearegol ar greigiau glo Abertawe, ymgeisiodd Logan ym 1841 am swydd Cyfarwyddwr Arolwg Daearegol cyntaf Canada. Cefnogodd nifer o ddaearegwyr blaenllaw Prydain ei gais, yn cynnwys Henry De la Beche, a cafodd ei benodi yn Ebrill 1842.

Erbyn 1849 roedd Logan, a phedwar gweithiwr wedi mapio'r ardal rhwng Afon Sant Lawrence a'r Llynnoedd Mawr, wedi gweithio ar ddyddodion glo Nova Scotia ac wedi can rod mwyn copr i'r dwyrain a Montreal.

Ym 1863, cyhoeddodd Logan a'i staff yr astudiaeth fawr gyntaf o ddaeareg Canada. Mae'n cael ei hystyried yn binacl cyhoeddi gwyddonol Canada'r 19eg ganrif. Cyhoeddwyd mapiau ym 1865 a 1869 yn dilyn y gwaith hwn.

Logan yn dychwelyd i Gymru

Byddai Logan yn teithio ar draws yr Iwerydd yn ami; fe wnaeth y daith dros 30 o weithiau i gyd.

Cafodd ei urddo'n farchog ym 1856, y person cyntaf i gael ei eni yng Nghanada i dderbyn yr anrhydedd. Cafodd ei anrhydeddu hefyd gall Ffrainc, y Gymdeithas Frenhinol, y Gymdeithas Ddaearegol, Prifysgol Bishop yn Quebec a Prifysgol McGill ym Montreal, yn ogystal â dinasyddion Toronto a Montreal.

Er i Logan ymddeol yn swyddogol ym 1869, fe barhaodd i wneud gwaith maes yn yr haf o amgylch Montreal a byddai'n treulio ei aeafau yn nhŷ ei chwaer yng ngorllewin Cymru.

Bu farw yno ym Mehefin 1875 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent eglwys Cilgerran yn Sir Benfro.

Heddiw, mae William Edmond Logan yn cael ei gofio fel gwyddonydd pwysicaf Canada erioed, ac yng Nghymru y dechreuodd ar ei yrfa ddaearegol.

Cysylltiadau

Amgueddfa Abertawe