Cwpan llewpart y Fenni 9 Mai 2007 Y cwpan llewpart. 115cm (4.5 modfedd) o uchder. Manylyn o'r glust ar ffurf llewpart, yn dangos nodweddion ei chrefftwaith cain a smotiau arian. Y cwpan llewpart yn cael ei osod yn y Microsgop Sganio Electron. Pelydr-X o'r cwpan. Microffotograff o wyneb y llewpart. Darganfuwyd un o'r llestri Rhufeinig gwychaf i'w ddarganfod yng Nghymru ger y Fenni yn 2003, gan Mr Gary Mapps. Mae crefftwaith y cwpan o safon uchel ac, yn ôl pob tebyg, fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal yn ystod y ganrif gyntaf OC. Cafwyd hyd i gwpanau tebyg iawn yn ninas Pompeii, a ddinistriwyd wedi ffrwydrad llosgfynydd Feswfiws yn 79 OC. Gwaith Cloddio Dangosodd gwaith cloddio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent fod y cwpan wedi'i osod wyneb i waered mewn pydew bach oedd yn cynnwys corfflosgiad. Roedd y corfflosgiad yn rhan o fynwent ger ffordd Rufeinig, gryn bellter o'r gaer Rufeinig (Gobannium) yn y Fenni, sy'n dyddio o ganol y ganrif gyntaf hyd ddechrau'r ail ganrif. Yn ogystal, yng nghyffiniau'r fynwent hon, ceir mwy a mwy o dystiolaeth am anheddiad sifil sy'n dyddio o'r ail ganrif hyd y bedwaredd. Cwpan Pwy? Nid ydym yn gwybod a oedd y cwpan yn eiddo i aelod o'r fyddin Rufeinig oedd yn gwasanaethu neu'n rhan o'r garsiwn yn Gobannium, neu, efallai, yn eiddo i un o frodorion yr anheddiad sifil gerllaw. Pa esboniad bynnag sy'n gywir, roedd y cwpan hwn o'r ganrif gyntaf yn fewnforyn drud ac yn ôl pob tebyg roedd yn eiddo i rywun o fri. A chymaint oedd meddwl y perchennog ohono, mynnai y câi ei gladdu yn yr un bedd â'i lwch. Gwneuthuriad y Cwpan Castiwyd mewn mowld gan ddefnyddio efydd plwm. Ffurfiwyd mowld clai o amgylch model cŵyr o lewpart. Arllwyswyd efydd i'r gwagle lle fu'r cŵyr, a thorri'r mowld wedi i'r metel oeri. Llenwyd tyllau'r smotiau ar y corff gydag arian, ac mae'n bosib mai ambr oedd y llygaid. Roedd dewis llewpart yn addas iawn ar gyfer cwpan gwin, gan ei fod yn greadur pwysig ym mytholeg y Rhufeiniaid, yn gydymaith i Bacchws, duw gwin, a addolwyd drwy wledda, diota, cerddoriaeth a dawns. Darllen Cefndir Things Fall Apart: museum conservation in practice Amguedddfa Genedlaethol Cymru, 2006
Aur 3,000 o flynyddoedd oed o Wrecsam 26 Ebrill 2007 Y celc o arteffactau'r Oes Efydd a ddarganfuwyd gan ddatguddwyr metel ger Wrecsam. Y gyllell efydd, a ddarganfuwyd mewn dau ddarn. Roedd rhiciau niferus ar hyd y llafn sy'n awgrymu, efallai, y cawsai ei defnyddio am beth amser cyn cael ei chladdu. Y fwyell efydd yr oedd ei soced yn cynnwys darnau o ddwy neu ragor o freichledau aur. Darnau o'r breichledau a wnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon. Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo. Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo. Mae'r arteffactau a ddarganfuwyd yn cynnwys cyllell efydd doredig, pen bwyell, a phedwar darn o freichledau aur. Cafodd y gwrthrychau i gyd eu llunio rhwng 1000 a 800CC. Mae'r gyllell o'r math a ddefnyddiwyd ledled de Lloegr ac Iwerddon, ac mae ei ffurf yn efelychu cleddyfau mwy o lawer a gâi eu defnyddio bryd hynny. Fodd bynnag, dyma'r gyllell gyntaf o'i math i gael ei darganfod yng Nghymru. Mae gan y pen bwyell efydd soced ar un pen iddo ac ynddo y gosodwyd coes bren, a thrwy'r ddolen sy'n rhan annatod o'r pen y gwthiwyd lledr neu gordyn er mwyn clymu'r pen yn dynn wrth y goes. Fodd bynnag, mae'n debyg y cafodd y pen bwyell ei gladdu heb y goes am y cafwyd hyd i bedwar darn o freichledau aur yn y soced. Mae'r darganfyddiadau gwerthfawr hyn yn cynnwys dwy derfynell (darnau pen) o fath a gâi ei ddefnyddio'n gyffredin yn Iwerddon, ac fe'u gwnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon. Mae'n debyg bod yr arteffactau hyn yn eiddo i rywun uchel iawn ei barch oherwydd ychydig iawn o bobl yr adeg hon a fyddai wedi gallu cael gafael ar aur Iwerddon ac arfau mor gywrain. Ni chawn wybod i sicrwydd pam y penderfynodd eu perchennog gael gwared arnynt, ond mae'n debyg y cawsant eu claddu fel offrwm i'r duwiau. Mae'r celc yn ychwanegu manylion gwerthfawr at ein gwybodaeth am fywyd yng Nghymru 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar yr adeg hon, roedd arweinwyr yn gwisgo i greu argraff, drwy wisgo breichledau aur ac addurniadau gwallt ac roedd eu hoffer a'u arfau, pryd a gwedd eu ceffyl, a safon unrhyw wleddoedd yr oeddent yn eu trefnu'n adlewyrchu eu statws yn y gymuned. Er bod y rhan fwyaf o drigolion Cymru'n ffermwyr sefydlog neu'n fugeiliaid yn ystod y cyfnod hwn, mae darganfyddiadau fel y celc o Wrecsam yn dangos bod y cymunedau bychain hyn yn rhan o'r rhwydweithiau masnachoedd yn cysylltu Cymru ag Iwerddon, ac yn dynodi bod ein cyndeidiau'n hel meddyliau am fwy na dim ond bwyd, ffermio a byw. Mae'r eitemau hyn yn ffurfio rhan o gasgliadau Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Gleindorch Pen-y-bonc 26 Ebrill 2007 Gleindorch Pen-y-bonc (Ynys Môn). Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Sero-radiograff o leindorch Pen-y-bonc. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (yr Alban). Llun: Helen Jackson ar gyfer Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban. Lwnwla aur o Swydd Kerry, Iwerddon. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Fel y gwyddom, roedd gan y Frenhines Fictoria gryn ddiddordeb mewn gemwaith muchudd (jet), ond mae hanes y defnydd a wnaed o'r garreg led-werthfawr hon yn hwy o lawer, fel y tystia gleindorch 4,000 o flynyddoedd oed o Ynys Môn. Yn 1828 cafwyd hyd i fedd naddedig mewn craig ym Mhen-y-bonc, 3km (1.8 milltir) i'r gorllewin o Gaergybi, ym Môn. Gwaetha'r modd, anghyflawn yw cofnodion y darganfyddiad hwn ond roedd y bedd, yn ôl pob tebyg, tua 4,000 o flynyddoedd oed ac mae ymhlith y cyfoethocaf i ddod i'r amlwg hyd yma ym Môn. Awgryma'r ffaith fod y torwyr beddau wedi mynd i'r drafferth o dorri'r bedd yn y graig mai person pwysig oedd yr ymadawedig. Ar ben hynny, yn ôl y sôn, cafwyd hyd i ddau freichdlws metel a chasgliad o leiniau du, gleiniau gwahanu a botymau yn y bedd. Mae'r Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (dangoswyd yn y llun) yn dangos yr enghraifft hon siâp gleindorch glain gwahanu cyflawn, ac mae'n dangos sut yr addurnwyd rhai o'r enghreifftiau gorau. Gwaetha'r modd, collwyd y breichdlysau a rhai o'r gleiniau, yn ôl pob tebyg, yn fuan wedi'r darganfyddiad ond mae'r darnau sydd wedi goroesi wedi'u cadw bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa Brydeinig. Mae'r darnau hyn yn perthyn i leindorch o leiniau a gleiniau gwahanu ar ffurf cilgant. Fel rheol, ceir hyd i wrthrychau fel y rhain yn gysylltiedig â chladdfeydd merched. Gwnaed y rhan fwyaf o leiniau a gleiniau gwahanu gleindorch Pen-y-bonc o lo cannwyl neu lignit (dau ddeunydd tebyg i lo sydd i'w canfod ledled Cymru). Fodd bynnag, gwnaed un glain ac un o'r botymau sydd wedi goroesi o fuchudd, deunydd sydd i'w gael yn Whitby (gogledd Swydd Efrog), 300km (186 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Fôn. Pren ffosiledig ysgafn a meddal yw muchudd a ymffurfiodd o goed a dyfai 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Jwrasig. Fe'i ceir mewn rhai rhannau o Ewrop yn unig a ddioddefodd amodau daearegol arbennig. Y modd yr ymffurfiodd sy'n ei wneud yn wahanol i ddeunyddiau tebyg, fel lignit. Dim ond rhannau o'r leindorch sydd wedi goroesi. Mae'n bosibl mai'r darnau yma yn unig a gladdwyd gan fod y gleindorchau muchudd a ddarganfyddir o'r Oes Efydd yn aml yn anghyflawn. Ar y llaw arall, efallai y gwnaed rhannau o'r leindorch o ddefnyddiau sydd wedi pydru ers hynny, neu y collwyd rhai darnau pan gafodd y gwrthrych ei gloddio. Roedd cynhyrchu gleindorchau muchudd yn waith medrus. Câi edefynnau niferus y leindorch eu crogi drwy ddefnyddio gleiniau gwahanu y gwthiwyd y llinynnau trwy'r tyllau a duriwyd ynddynt. Mae'n debyg y gwnaed y gwaith manwl hyn drwy ddefnyddio dril bwa a darn o weiar efydd. Yn achos gleindorch Pen-y-bonc, cafodd rhai o'r tyllau eu turio ar eu hyd drwy'r gleiniau gwahanu. Ond er mwyn cynyddu nifer yr edefynnau ar un ochr i'r glain gwahanu, turiwyd tyllau drwy un pen er mwyn ei gwneud hi'n bosibl clymu llinynnau newydd i mewn. Yn wahanol i nifer o emau, mae'n gynnes o'i gyffwrdd ac yn gymharol rwydd i'w weithio; yn ogystal, mae modd caboli muchudd yn loyw lân. Heddiw, mae'n ymdebygu i blastig sgleiniog ond yn ystod yr Oes Efydd mae'n siŵr y byddai arno olwg dieithr ac anarferol. Ar ben hynny, mae gan fuchudd briodoleddau electrostatig anarferol (pan gaiff ei rwbio mae'n atynnu gwallt a deunyddiau ysgafn eraill) a fyddai'n cael ei ystyried yn hudol, o bosibl, yn ystod y cyfnod cynhanesyddol ym Mhrydain. Roedd y darnau o fuchudd yng ngleindorch Pen-y-bonc wedi'u treulio'n arw sy'n awgrymu eu bod yn eitemau a drysorwyd ac a gadwyd am flynyddoedd lawer. Ond roedd llai o ôl traul ar y rhannau hynny o'r leindorch a wnaed o ddeunyddiau lleol, sy'n awgrymu eu bod yn amnewidion mwy diweddar a gafodd eu gosod yn y leindorch er mwyn estyn oes trysor teuluol. Roedd gwrthrychau a wnaed o fuchudd yn boblogaidd ledled Prydain yn ystod yr Oes Efydd Cynnar (2300-1500CC), ond wedi'r cyfnod hwn dirywiodd y defnydd ohono. Mae'n eironig meddwl, tua'r adeg y darganfuwyd gleindorch fuchudd Pen-y-bonc yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diwydiant muchudd Whitby ar drothwy adfywiad, diolch i raddau helaeth i obsesiwn y Frenhines Fictoria â galarwisgoedd du yn dilyn marwolaeth y Tywysog Albert. Lwnwla Aur Mae lwnwlâu aur hefyd yn dyddio o'r Oes Efydd Cynnar ac yn aml caent eu harddurno mewn modd tebyg i leindorchau muchudd. Fodd bynnag, fel rheol ceir hyd i leindorchau muchudd mewn claddfeydd ond ni cheir hyd i lwnwlâu gyda'r meirw. Efallai fod muchudd yn awgrymu marwolaeth a bod aur yn cynrychioli bywyd ym meddyliau pobl 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Darllen Cefndir 'The Welsh 'jet set' in prehistory' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Prehistoric ritual and religion gan Alex Gibson a Derek Simpson, tt148-62. Sutton Publishing (1998). 'Investigating jet and jet-like artefacts from prehistoric Scotland: the National Museums of Scotland project' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Antiquity (2002), cyf. 26, tt812-25.
Lwnwla Llanllyfni 26 Ebrill 2007 Lwnwla Llanllyfni. Mae'n pwyso 185.4g (6.5 owns) ac yn mesur 24cm (9.5 modfedd) ar ei draws. Yn ôl pob tebyg crëwyd yr addurn hwn ar lun cilgant gan grefftwr a'i morthwyliodd yn fedrus o un ingot ar ffurf rhoden. Yna, ychwanegwyd yr addurniadau cymhleth o linellau igam-ogam, llinellau a dotiau drwy ddefnyddio offeryn pigfain a phwnsh copor neu efydd. Mae'r cynlluniau hyn yn debyg iawn i'r rhai a ddefnyddiwyd i addurno crochenwaith a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod hwn. Adluniad o ferch yn gwisgo lwnwla aur o Lanllyfni, ( tua'r flwyddyn 2000CC). Aur oedd un o'r metelau cyntaf i gael ei ddefnyddio yng Nghymru, ynghyd â chopr ac aloeon megis efydd. Mae defnyddio aur ar gyfer gemwaith ac addurniadau wedi bod yn thema gyson ers y cyfnodau cynnar. Y gwrthrych trawiadol hwn yw un o'r arteffactau aur cynharaf i'w ddarganfod yng Nghymru ac mae'n dyddio o ddechrau'r Oes Efydd (2400-2000CC). Fe'i darganfuwyd tua 1869 ar dir fferm Llecheiddior-uchaf, ger Dolbenmaen, ychydig filltiroedd o Lanllyfni (Gwynedd). Sylwodd gwas ffarm oedd allan yn saethu ar yr hyn a dybiai oedd deilen lawryf, felen yn gwthio allan o'r mawn. Gan nad oedd yn rhy siŵr ai dyna a welodd, dychwelodd i'r safle yn ddiweddarach, gan ddatgladdu'r gwrthrych aur hwn ar lun cilgant. Oherwydd ei ffurf gilgantaidd fe'u gelwir yn lwnwla (Yn Lladin, luna = lleuad). Cafwyd hyd i wrthrychau tebyg i hwn yn yr Alban, Cernyw, gogledd-orllewin Ffrainc, ac Iwerddon lle y daethpwyd o hyd i oddeutu 90 o enghreifftiau. Fel rheol, ceir hyd i lwnwlâu mewn mannau anghysbell, ymhell o aneddiadau hynafol, ac yn fynych fe'u darganfyddir yn ddamweiniol, megis yr enghraifft o Lanllyfni. Yn ôl un awgrym, y bwriad oedd eu gwisgo fel dwyfronegau, ond mae'r ffaith nad oes ôl traul ar yr aur yn awgrymu na chawsant eu defnyddio fawr ddim. Mae'n bosibl eu bod yn symbol offeiriad neu'n wrthrychau a gâi eu defnyddio yn ystod defodau cymuned. Mae'n bosibl y gwnaed lwnwla Llanllyfni o aur o Gymru, o faes aur Dolgellau, er enghraifft, neu o Ddolaucothi i'r gogledd-orllewin o Lanymddyfri, ond mae rhai'n amau ei fod yn un o'r defnyddiau crai a gâi ei fasnachu a'i fewnforio o Iwerddon. Darllen Cefndir 'Bronze Age gold in Britain' gan J. P. Northover. Yn Prehistoric gold in Europe gan G. Morteani a J. P. Northover. Cyhoeddwyd gan Kluwer (1993). Bronze Age goldwork of the British Isles gan J. J. Taylor. Gwasg Prifysgol Caergrawnt (1980). 'Objects mostly of prehistoric date discovered near Beddgelert and near Brynkir station' gan W. J. Hemp. Yn Proceedings of the Society of Antiquaries of London, ail gyfres, cyf. 1, tt166-83 (1918).
Darganfyddiadau canfyddwr metel o Sir Fynwy: darganfod dau drysor arbennig 16 Ebrill 2007 Ym 1988 dadorchuddiodd canfyddwyr metel yn Sir Fynwy ddau ddarganfyddiad gwahanol ond arwyddocaol — celc unigryw o geiniogau Rhufeinig o Rogiet, a modrwy aur o Raglan. Mae'r ddau yn enghreifftiau gwych o drysor sydd bellach yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Deddf Trysor 1997 Celc Rogiet, fel yr oedd pan gafodd ei ddarganfod. 'Carausius a'i frodyr' (celc Rogiet) Mae Deddf Trysor 1997 yn cwmpasu dosbarthiadau arbennig o geiniogau a gwrthrychau metel drudfawr sy'n cael eu darganfod yng Nghymru a Lloegr. Mae'n estyn amddiffyniad cyfreithiol i wrthrychau unigol o aur ac arian, ac i bob celc o geiniogau bron. Mae'r rheoliadau newydd yn darparu gwell amddiffyniad ar gyfer rhai categorïau o hynafiaethau sydd newydd gael eu darganfod, a gwell cyfleoedd ar gyfer eu cadw er budd y cyhoedd. Ers i'r ddeddf ddod i rym, mae staff Amgueddfa Cymru wedi trafod nifer o ddarganfyddiadau, yn cynnwys darganfyddiad syfrdanol y celc unigryw o geiniogau Rhufeinig o Rogiet, a'r sêl-fodrwy aur anferth o Raglan. Un o'r celciau gwychaf o geiniogau Rhufeinig a ddarganfuwyd yng Nghymru erioed Ym Medi 1998, darganfuodd Colin Roberts filoedd o geiniogau Rhufeinig o'r drydedd ganrif OC yn Rogiet, Sir Fynwy. Dyma un o'r celciau gwychaf erioed a gofnodwyd yng Nghymru, a chafodd ei ddatgan yn drysor yn Rhagfyr 1998. Claddwyd y 3,750 o geiniogau, mewn bocs pren o bosib, tua 295-6 OC (credir mai dyma'r dyddiad cywir, gan nad oedd ceiniogau diweddarach yn y bocs). Maent yn pontio cyfnod o bedwardeg mlynedd ac yn cynrychioli dau ddeg dau ymerawdwr, sy'n arwydd o ansefydlogrwydd gwleidyddol y cyfnod. Trafferthion Gwleidyddol Mae'n debyg bod y ffaith iddynt gael eu cuddio, a bod y perchennog wedi methu dod nôl i'w casglu, yn gysylltiedig ag ansefydlogrwydd milwrol a gwleidyddol y cyfnod. Fodd bynnag, roedd arian yr Ymerodraeth Rufeinig yn mynd trwy gyfnod o newid mawr ar y pryd. Yn 294-5 OC, cyflwynwyd ceiniogau aur, arian ac aloi copr newydd, gyda chynlluniau a safonau unffurf drwy'r ymerodraeth. Mae'r celc yn gymysgedd anarferol, o ystyried ei fod yn ddarganfyddiad Prydeinig, gan ei fod yn cynnwys ceiniogau na gylchredwyd mewn niferoedd mawr yma. Mae'r celc yn arwyddocaol gan ei fod yn cynnwys nifer o geiniogau gwallus o'r 260au, ac yn cynnwys dros 750 o geiniogau o'r ddau unigolyn a ddatganodd eu bod yn Ymerodwyr ym Mhrydain, sef Carausius (287-93) ac Allectus (293-96). Mae'n anghyffredin eu darganfod mewn celciau, ac maent yn cynnwys gwerthoedd anarferol sy'n cynrychioli amrywiaeth o longau rhyfel. Mae'r celc yn cynnwys enghraifft arbennig o dda, y gorau sydd mewn bodolaeth efallai, o geiniog glasurol a phrin o gyfres y ceiniogau Rhufeinig-Prydeinig. Mae'n debyg bod Carausius yn chwilio am werthfawrogiad swyddogol yr ymerawdwyr Diocletian a Maximian wrth gyflwyno arian yn eu henwau hwy, yn ogystal â'i enw ei hun tua 292 OC. Darluniodd ei hun gyda'r lleill mewn un llun hyd yn oed, gyda'r slogan 'Carausius a'i frodyr'. Fodd bynnag, nid pawb oedd yn teimlo'r un fath, a chyn pen blwyddyn roedd Carausius wedi mynd, wedi'i lofruddio gan ei weinidog, Allectus. Modrwy aur addurnedig o Raglan Modrwy Rhaglan Yn yr un flwyddyn ag y ffeindiwyd y ceiniogau Rhufeinig yn Rogiet, darganfuodd Ron Treadgold sêl-fodrwy aur addurnedig ger Rhaglan, a chafodd hon ei datgan yn drysor hefyd. Mae gan y fodrwy wefl gron â llun llew ar wely blodau wedi'i ysgythru arno, yn ogystal ag ymyl rhaffog sengl gyda'r geiriau: to yow feythfoull or feythfoull to yow, a'r llythrennau W A bob ochr i'r llew. Yr engrhaifft orau o emwaith aur o ddiwedd yr Oesoedd Canol i'w darganfod yng Nghymru Addurnwyd ysgwyddau'r fodrwy â blodau a dail, ac mae'n arwyddocaol ym maes astudio modrwyon yr Oesoedd Canol diweddar, gan fod modd ei gymharu'n agos â'r ysgythriad ar fodrwy esgobol aur John Stanbury, Esgob Henffordd (1452-1474), croes o ganol y bymthegfed ganrif o Winteringham, Swydd Lincoln, a modrwy aur o Briordy Godstow, Swydd Rhydychen. Mae'n debygol bod modrwy Rhaglan yn dyddio o ganol, neu drydydd chwarter y bymthegfed ganrif, ac mae'n bosib mai dyma'r enghraifft orau o emwaith aur o ddiwedd yr Oesoedd Canol i gael ei darganfod yng Nghymru. Perchennog y fodrwy Ni wyddom pwy yw perchennog y sêl-fodrwy ar hyn o bryd, ond mae'r ffaith iddi gael ei chanfod ger Rhaglan, gyda'r llythrennau W A arni'n golygu bod William Herbert, Iarll cyntaf Penfro (a ddienyddiwyd ar ôl brwydr Banbury yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, ym 1469) yn bosibilrwydd. Priododd Anne Devereux, ac fe allai'r llythrennau gynrychioli William ac Anne. Mae maint y fodrwy'n awgrymu mai dyn oedd yn ei gwisgo, a gellir gweld yr ysgythriad fel arwydd o'i ffyddlondeb i'w wraig. Roedd Herbert yn un o ddau ddyn a alwyd 'y dewisedig a'r ffyddlon' i'r brenin newydd, Edward IV, ac fe'i urddwyd yn sgil coroni Edward. Serch hynny, does dim prawf mai modrwy William Herbert oedd hwn, ac mae enwau eraill yn bosib. Ar hyn o bryd, yr unig sicrwydd yw bod y fodrwy'n arwydd o statws cymdeithasol, a'i bod, siŵr o fod, yn eiddo i swyddog neu ymwelydd pwysig â Rhaglan yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif.