Disgleirdeb a Swyn - gwisgoedd nodedig Casgliad Tredegar 11 Ebrill 2007 Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow. G?n llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (g?n ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed tua 1730-40. Byddai'r wisg ysblennydd hon wedi cael ei gwisgo ar achlysur cyflwyno'r sawl a'i gwisgai i'r llys. Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725. Am ddisgleirdeb a swyn, nid oes angen chwilio y tu hwnt i Gasgliad Tredegar. Cyflwynwyd y casgliad trawiadol hwn o wisgoedd o'r 18fed ganrif i'r Amgueddfa ym 1923 gan Courtenay Morgan, a adwaenir hefyd fel Arglwydd Tredegar. Roedd y casgliad yn eiddo i'w gyndeidiau cyfoethog a oedd am ddangos eu cyfoeth a'u pŵer. Cynlluniwyd pob dilledyn i syfrdanu. Er mai teulu'r Morganiaid oedd perchnogion Tŷ Tredegar ger Casnewydd, roeddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn Llundain. I'r boneddigion, y brifddinas oedd yr atyniad mwyaf. Gerddi pleser, operâu a chynulliadau - cymdeithasu oedd canolbwynt eu bywydau. Parti brenhinol cyntaf Mae'n debygol mai yn Llundain y gwnaethpwyd gwisgoedd Tredegar, gan ddefnyddio'r damasg a'r sidanau brocêd gorau y gellid eu prynu ag arian. Mae'r wisg mwyaf cain yn y casgliad yn dyddio o tua gynnar yn y 1720au. Awgryma crandrwydd y wisg las â'r blaen agored - a elwir yn mantua yn aml - ei bod wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer parti brenhinol cyntaf merch ifanc. Mae'r gwaith manwl yn goeth a chain, ar y blaen a'r cefn. Yn wreiddiol, roedd y wisg yn hirach o lawer, ond torrwyd rhan fawr i ffwrdd yn ystod y 1800au, ar gyfer parti gwisg ffansi mae'n debyg. Corsedau o asgwrn morfil Roedd gwisgoedd fel yr un yma'n lletchwith iawn i'w gwisgo. Er mwyn cyflawni'r ffasiwn ormodol, gwisgai'r menywod beisiau crwn, llydan i gynyddu lled y sgertiau. Gwisgent hefyd gorsedau tynn wedi'u hatgyfnerthu ag asgwrn morfil o dan eu gwisgoedd. Roedd corsedau'n cynorthwyo i sicrhau osgo da trwy wasgu rhan uchaf y corff i siâp. Roedd steil yn bwysicach na chysur. Gwnaethpwyd y ffrog-côt eurbleth felen hon yn gynnar yn y 1720au. Mae'r cynllun blodeuog yn nodweddiadol o'r cyfnod, fel y mae'r lliw melyn llachar. Darllen Cefndir M. R. Apted, 'Social Conditions at Tredegar House, Newport, in the 17th and 18th Centuries', The Monmouthshire Antiquary 3:2 (1972-3), pp. 124-54. Janet Arnold, 'A Court Mantua of c. 1740', Costume: Journal of the Costume Society 6 (1972), pp. 48-52. Avril Hart & Susan North, Historical Fashion in Detail: The 17th and 18th Centuries (London: V & A Publications, 1998).
Dyrnaid o Ddoleri 30 Mawrth 2007 Arian 8-reales, neu'r 'Pillar Dollar', Mecsico, 1741. Tra bo casgliad nwmismateg (darnau arian) yr Amgueddfa'n cynnwys darnau arian o Brydain yn bennaf, mae hefyd yn cynnwys grwpiau o ddarnau sy'n nodweddiadol o arian tramor, sy'n hwyluso'r broses o osod esblygiad arian Prydeinig yn ei gyd-destun rhyngwladol. Tarddodd y ddoler, un o unedau arian mwyaf dylanwadol y byd heddiw, ym mlynyddoedd olaf y 15fed ganrif. Bu cynnydd aruthrol yng nghynhyrchiant metel yn Ewrop yn sgil darganfod meysydd arian newydd a datblygiadau yn nhechnoleg mwyngloddio, ac fe ddechreuodd gwledydd canolbarth Ewrop gynhyrchu ceiniogau arian mawr a oedd yn gyfwerth â cheiniogau aur y cyfnod. Mae'r enw 'dollar' yn tarddu o'r St Joachimsthaler Guldengroschen a fathwyd gan yr Ieirll Slik yng Nghanolbarth Ewrop tua 1520. Wrth i'r 'Thaler' ddod yn enw generig am ddarnau arian maint coron yn y taleithiau Almaenig, dechreuodd y term Saesneg 'dollar' ymddangos tua dechrau'r 17eg ganrif. Masnachwyd niferoedd anferth o'r doleri a gynhyrchwyd yn nhrefedigaethau Sbaenaidd Mecsico a De America ('darnau wyth') drwy'r byd, gan osod y safon ar gyfer arian nifer o'r gwledydd oedd yn datblygu yn y 18fed a'r 19eg ganrif.
Gwasanaeth Neilltuol - Medalau am Rhyfelgyrchoedd a Dewrder 30 Mawrth 2007 Bathodyn arian 'Menter Ddiobaith' 1643 Medal De Affrica 1877-79: '1428 Pte E. Jones 2.24th Foot' Sarjant Evan Jones, tua 1917. Ganed yng Nglyn Ebwy ym 1859 ac ymrestrodd ym Milisia Trefynwy ym 1874, gan ymuno â chatrawd y '24th Foot' ym 1877. Gwasanaethodd yn Ne Affrica, ac ar 23 Ionawr 1879 roedd yn rhan o'r gwarchodlu bychan a warchododd Rorke's Drift yn erbyn ymosodiad anferth gan y Zwlŵaid. Gwasanaethodd yn ddiweddarach yn ardal Môr y Canoldir, India a Byrma, ac fe arhosodd yn y fyddin mewn gwahanol unedau tan 1920. Bu farw yn Y Trallwng ym 1931. Casgliadau medalau Amgueddfa Cymru Ffurfiwyd casgliadau medalau Prydeinig Amgueddfa Cymru yn y 1920au diolch i roddion gan ddau ŵr. Ym 1922, rhoddodd y Cyrnol Syr William Watts ei gasgliad o 105 o fedalau llyngesol a milwrol Prydeinig i'r Amgueddfa, ac ym 1923, derbyniwyd medalau tebyg yn rhodd hael gan W. Lisle Bowles. Drwy hyn, cafodd yr Amgueddfa gasgliad nodweddiadol o fedalau rhyfelgyrchoedd milwrol Prydeinig, o frwydr Waterloo (1815), sef y frwydr gyntaf lle cafodd pawb a gymerodd ran ynddi fedal, i Ryfel Mawr 1914–18, ac wedi hynny. Serch hynny, nifer fach yn unig o'r medalau milwrol a dewrder hyn sydd ag unrhyw gysylltiadau Cymreig. Yn ddiweddar, felly, mae'r amgueddfa wedi canolbwyntio ar agweddau Cymreig wrth brynu a derbyn rhoddion, gan mai ein polisi datganedig yw casglu medalau 'sydd â chysylltiadau â gweithredoedd pobl Cymru'. 'Menter ddiobaith' Gwobr filwrol gynharaf y casgliad yw'r bathodyn 'Menter Ddiobaith', o gyfnod Rhyfel Cartref Lloegr, a roddwyd i'r milwyr hynny a ddewiswyd i frwydro ar flaen y gad. Cyflwynwyd y wobr Frenhinol hon ym 1643 gan Thomas Bushell, peiriannydd mwyngloddio a meistr y bathdy yn Aberystwyth. Arwyr Sifil Cyflwynwyd Medal Albert am y tro cyntaf ym 1866, fel cydnabyddiaeth am ddewrder ar y môr yn wreiddiol, ond cafodd ei estyn ym 1877 i gynnwys achub bywydau ar dir sych, pan wobrwywyd arwyr Pwll Glo Tynewydd, y Rhondda, am achub bywydau pump o'u cydweithwyr fu'n gaeth yn ddwfn o dan y ddaear am naw niwrnod oherwydd llifogydd. Bellach mae nifer o'r Medalau Albert oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad hwn yng Nghasgliad yr Amgueddfa. Pan grëwyd Medal Edward ym 1907 am ddewrder mewn pyllau glo a chwareli, cyflwynwyd un o'r ddwy wobr gyntaf i Gymro o'r enw Henry Everson o Bwll Glo Penallta. Rhoddodd ei fab y fedal yn rhodd i'r Amgueddfa ym 1978. O Albert i Edward i George Ym mis Rhagfyr 1971 diddymwyd medalau Albert ac Edward, a chyflwynwyd y George Cross yn eu lle. O blith y rhai a benderfynodd gyfnewid eu gwobrau, dewisodd saith ohonynt roi eu hen fedalau i'r Amgueddfa. Enillodd dau ohonynt, sef Gordon Bastian ac Eynon Hawkins, Fedal Albert am eu dewrder ar y moroedd, ar ôl achub aelodau eraill o'u criw mewn llongau a gafodd eu taro â thorpidos ym 1943. Mae tri o Fedalau 'tir' Albert yn perthyn i Walter Cleall; [linc i Fedal Albert @ CymruFu] Kenneth Farrow, heddwas o Gaerdydd a geisiodd achub bachgen bach rhag boddi; a Margaret Vaughan a achubodd fachgen a gafodd ei ddal gan droad y llanw ar Ynys Sili ger y Barri, pan yr oedd hi'n ferch ysgol. Gwroldeb a Dewrder Mawr Ym 1990, cafodd yr Amgueddfa dair Medal George sydd â chysylltiadau Cymreig. Crëwyd medalau y George Cross a Medal George ym 1940 - yn bennaf fel ymateb i'r cynnydd mewn perygl i ddinasyddion yn ystod y cyrchoedd awyr. Ar 19 Awst 1940, bomiwyd storfa'r Llynges Frenhinol yn Llanreath, Sir Benfro, a bu'n llosgi am ddau ddiwrnod ar bymtheg gan ddinistrio dros ddeg miliwn ar hugain o alwyni o olew. Dyna fu'r tân mwyaf a welwyd erioed ym Mhrydain. Roedd Norman Groom yn un o'r 650 o ddynion tân fu'n ymladd yn erbyn y fflamau ac un o'r tri gŵr o Gaerdydd a dderbyniodd Medal George. Tynnodd Thomas Keenan, gwyliwr nos, fom gyneuol o ben tanc a oedd yn cynnwys 300,000 galwyn o betrol mewn storfa yn Ferry Roed, Caerdydd, ar 2 Ionawr 1941. Dim ond blas ar yr hanes yw'r gwobrau a amlygir yma. Yn wahanol i fedalau gwledydd eraill, mae medalau milwrol a'r mwyafrif o'r medalau gwroldeb Prydeinig, er dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys enw (ac mewn gwobrau milwrol, rhif, rheng ac uned) pob derbyniwr. Roedd y miliynau o sêr ymgyrchol a medalau Rhyfel Mawr 1914–18 wedi'u henwi yn unigol, er bod rhai'r Ail Ryfel Byd wedi'u dosbarthu heb enwau er mwyn arbed costau, o bosib. Mae'r mwyafrif o'r medalau, felly, yn fan cychwyn ar gyfer ymchwil hanesyddol i fywydau'r unigolion.
Achub casgliad unigryw o arianwaith rhag y morthwyl 19 Chwefror 2007 Yn 2000, clywodd Amgueddfa Cymru y byddai cannoedd o ddarnau o arianwaith prin, a fu ar fenthyg yn yr Amgueddfa ers i'w drysau agor am y tro cyntaf, yn cael eu dychwelyd a'u gwerthu. Daw'r eitemau, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif, o gasgliad Syr Charles Jackson (1849-1923), cyfreithiwr a dyn busnes Cymreig. Yn ffodus, yn dilyn llawer o drafod a chodi arian, fe'u prynwyd gan yr Amgueddfa gyda chymorth sylweddol Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Casgliadau Celf Cenedlaethol a'r Worshipful Company of Goldsmiths. Felly pam mae'r casgliad hwn mor bwysig? Syr Charles Jackson (1849-1923) Syr Charles Jackson Ganwyd Syr Charles Jackson yn Nhrefynwy. Roedd yn un o grŵp o gasglwyr a hynafiaethwyr oedd yn cynnwys Robert Drane, T. H. Thomas a Wilfred de Winton. Gyda'i gilydd cawsant gryn ddylanwad ar ddatblygiad Amgueddfa Caerdydd. Fe chwaraeodd y grŵp ei ran hefyd i sicrhau mai Caerdydd fyddai lleoliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Trysorau Hynod Mae rhai o'r gwrthrychau a gasglwyd gan Jackson o safon esthetig neilltuol. Mae'r eitemau prin yn cynnwys llwy pen mesen o ddechrau'r 14eg ganrif, sy'n un o'r darnau cynharaf o arian Seisnig i gael ei ddilysnodi, a set gyflawn o lwyau 'apostol' (deuddeg apostol ac un 'Meistr') o 1638. Yr eitem bwysicaf mae'n debyg yw cwpan dwy-ddolen mewn arddull 'awriglaidd' (arddull addurnol o'r 17eg ganrif yn seiliedig ar rannau o'r corff, yn enwedig y glust ddynol, a roddodd yr enw i'r arddull) sy'n cael ei gysylltu â'r gof-arian Iseldirol Christian van Vianen, a oedd yn gweithio yn llys Siarl I. Mae dilysnod 1668 ar y cwpan, ac mae'n un o lond dwrn o ddarnau wedi'u gwneud yn Llundain yn yr arddull nodweddiadol hwn. Nid yw marc y gwneuthurwr wedi'i ddarllen eto, ond mae'n bosibl mai enw George Bowers neu Jean-Gerard Cooques sydd ar y gwaith, gan fod y ddau wedi gweithio fel eurychod yn llys Siarl II. Darnau prin ysbrydoledig Cwpan dwy-ddolen a chaead, Llundain 1668 Mae darnau anghyffredin, ysbrydoledig y casgliad yn cynnwys un o'r blaswyr gwin cynharaf, cwpan cymun Catholig o'r 17eg ganrif a wnaed yng Nghorc y gellid ei dynnu'n ddarnau er mwyn ei guddio, a stand inc ar ffurf glôb llyfrgell. Mae amrywiaeth eang gwrthrychau mwy cyffredin y casgliad, megis llestri halen a jygiau hufen, yn dangos esblygiad siapiau dros amser, ac yn dweud llawer wrthym am arferion cymdeithasol, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â bwyta. Mae'r gyfres ryfeddol o lwyau'n cynnwys bron pob math a gafodd eu gwneud dros gyfnod o 400 mlynedd. Gwerth academaidd unigryw Er bod y casgliad yn cynnwys nifer o wrthrychau prin a phrydferth, y rheswm pennaf dros ei gadw gyda'i gilydd yw ei werth academaidd unigryw. Dau brif gyhoeddiad Jackson, sef English Goldsmiths and their Marks (1905) a The Illustrated History of English Plate (1911), yw sylfaen ysgolheictod arian modern. Ynddynt mae Jackson yn dibynnu'n helaeth ar ei gasgliad ei hun i egluro marciau a datblygiad arddulliau dros amser. Byddai'n gohebu â phrif gasglwyr ei gyfnod, ac mae ei gasgliad yn crynhoi'r wybodaeth am arian hanesyddol ym Mhrydain yn y 1900au cynnar. Mae'n ffynhonnell unigryw o ddeunydd cyfeiriol ac mae'n parhau hyd heddiw i fod yn destun ymholiadau cyson oddi wrth arbenigwyr arianwaith ledled y byd. Mae casgliad Jackson hefyd yn cyfannu ac yn cyfoethogi casgliad rhagorol yr Amgueddfa o arianwaith hanesyddol, sy'n gysylltiedig â theuluoedd llywodraethol hanesyddol Cymru. Drwy brynu hanner casgliad Jackson, ar ôl iddo gael ei arddangos am wyth-deg o flynyddoedd, gyda'r tebygolrwydd y bydd gweddill y casgliad yn dilyn ryw ddydd, gall yr Amgueddfa ddatblygu ei rôl fel cartref un o'r prif gasgliadau astudiaeth o arianwaith hanesyddol. Darllen Cefndir Andrew Renton, 'Sir Charles Jackson (1849-1923)' yn Silver Studies - the Journal of the Silver Society, vol 19 (2005), 144-6
Cwpan o aur Cymru solet 19 Chwefror 2007 Aur Cymru Y cwpan aur solet a wnaethpwyd o gynllun mewn darlun o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i Jane Seymour ym 1536. Cwpan a chaead, aur 22 carat, R & S Garrard & Co, London 1867-68. Uchder: 39.8 cm (15 ''/16 modfedd). Mae aur Cymru'n brin iawn. Gwnaethpwyd modrwyau priodas teulu Brenhinol presennol Prydain ohono, ond y gwrthrych mwyaf i gael ei wneud o aur Cymru yw'r copi o gwpan a roddodd Harri VIII i un o'i wragedd. Y teulu cyfoethocaf yng Nghymru Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain. Teulu'r Williams-Wynn oedd y teulu cyfoethocaf yng Nghymru ar y pryd. Roeddent yn enwog am eu cyfoeth, gan ei wario ar dai crand, paentiadau drud ac arianwaith. Mae llawer o'r rhain bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa. Y Rhuthr am Aur Cymru Mae nifer yn gwybod am y rhuthr am aur yn Califfornia ym 1848, ond nid oes llawer yn gwybod am y rhuthr am aur Cymru a ddigwyddodd ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ym 1862 darganfuwyd aur ym Meirionnydd ac yn fuan wedi hynny agorodd Syr Watkin-Wynn (1820-1885) waith aur Castell Carn Dochan ar ei dir. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r aur o'r gloddfa hon rhwng 1865 a 1873. Taliadau o Aur Talwyd breindaliadau mawr i Syr Watkin am yr aur a gloddiwyd, a thalwyd ef gyda'i ingotau aur ei hun. Fodd bynnag, nid oedd angen yr incwm hwn arno gan ei fod mor gyfoethog, a gallai drin yr aur fel difyrrwch. Cwpan o Aur Solet Defnyddiwyd peth o'r aur i wneud cwpan ysblennydd. Mae'r cwpan yn 40cm o uchder ac wedi'i wneud o aur 22-carat. Mae arno'r ysgythriad "MADE OF GOLD THE ROYALTY FROM CASTELL CARNDOCHAN MINE 1867" yn ogystal â'r dilysnod R & S Garrard and Co., Haymarket, Llundain. Mae'n addurnol, yn y steil a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod y Dadeni cynnar. Mae'n sefyll ar droed gron, ac mae ochrau'r goes wedi ei haddurno â phennau blodau, dolffiniaid a chlychau. Mae nifer o arwyddeiriau teuluol wedi'u hysgythru ar y cwpan: eryr eryrod eryri, y cadarn a'r cyfrwys, bwch yn uchaf a cwrw da yw allwedd calon. Mae arfbais Williams-Wynn ar y caead tal, ac arno hwrdd ifanc yn cael ei gynnal gan geriwbiaid ar y brig. Cynllun Brenhinol ar gyfer Harri VIII Y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cwpan a roddwyd i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536-37 yn yr Amgueddfa Brydeinig. Hans Holbein yr Ieuaf, pen ag inc ar bapur. Hawlfraint Yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain Fe seiliodd gwneuthurwyr y cwpan eu cynllun ar ddarlun sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536. Addurnwyd y cwpan â diemwntau a pherlau. Toddwyd cwpan Jane Seymour ar orchymyn Siarl I ym 1629, pan oedd yn brin o arian.