: Gemau a Metelau Gwerthfawr

Sêl-fodrwyau

Rhianydd Biebrach, 8 Mai 2017

Sêl-fodrwyau masnachwr o Hwlffordd

Sêl-fodrwyau masnachwr o Hwlffordd

Sêl-fodrwyau o Sili

Sêl-fodrwyau o Sili

Roedd arwyddocâd hefyd i’r lluniau ar sêl-fodrwyau, a oedd yn aml yn cael eu gwisgo ar y bawd. Mae’r modrwyau hyn yn dal i gael eu gwisgo heddiw, ond nid at y diben gwreiddiol gan amlaf. Mewn oes pan nad oedd hyd yn oed bobl gyfoethog a grymus bob amser yn llythrennog, roedd sêl bersonol ar sêl-fodrwy. Roeddent yn defnyddio’r fodrwy yn lle llofnod i ddilysu dogfennau ac roedd hefyd yn arwydd o statws cymdeithasol uchel. Roedd dyfeisiau herodrol yn ymddangos ar fodrwyau pobl oedd ag arfbeisiau ac roedd symbolau, lluniau neu lythrennau i’w gweld ar fodrwyau pobl o statws cymdeithasol is.

Roedd nodau masnachwyr yn cael eu defnyddio ar sêl-fodrwyau masnachwyr. Yn 2014, cafodd Mr John Rees hyd i sêl-fodrwy arian o’r bymthegfed ganrif neu ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg ac arni nod masnachwr yn Hwlffordd. Erbyn hyn mae’r prosiect Hel Trysor; Hel Straeon wedi’i chaffael ar gyfer Amgueddfa Tref Hwlffordd. Mae’r nod yn cynnwys croesau crwm, plethedig a chroes heb ben. Roedd croesau fel hyn yn gysylltiedig â Sant Antwn ac roedd cred y gallent drin tân Iddwf, neu ergotiaeth, sef clefyd a achoswyd trwy fwyta grawn drwg. Roedd nod y masnachwr yn ddyfais bersonol y gellid adnabod y perchennog wrthi, ond mae cynnwys y groes heb ben yn rhoi naws crefyddol i’r fodrwy a byddai’r perchennog wedi’i dewis yn benodol. Nid oedd Sant Antwn yn sant arbennig o boblogaidd yng Nghymru’r Canol Oesoedd ond, gan fod masnachwyr yn teithio, gallai'r perchennog fod wedi’i chael yn rhywle arall; roedd masnachwyr o orllewin Cymru'n masnachu ar hyd Môr Hafren ac yn teithio i Iwerddon, Sbaen a Phortiwgal, neu gallai fod yn eiddo i fasnachwr tramor.

Canfuwyd sêl-fodrwy symlach o lawer yn Sili ym Mro Morgannwg yn 2013 gan Mr Michael Gerry. Fe’i gwnaed o arian, a’i haddurno â blodyn plaen, pedwar petal, a chredir ei bod yn perthyn i ddiwedd y 15fed ganrif neu ddechrau’r 16eg. Mae’n enghraifft fwy enigmatig o lawer, sy’n datgelu bron ddim am y perchennog – pwy ydoedd, ei waith na’i statws cymdeithasol.

Mae’n ymddangos bod gan rai modrwyau fwy nag un diben neu arwyddocâd. Daeth Mr Leighton Jones o hyd i enghraifft arbennig o ddiddorol yng Nghwm Darran, Caerffili, ym mis Mawrth 2010. Modrwy arian Rufeinig yw hon o’r ganrif 1af neu’r ail ganrif. Ar un adeg, roedd yn dal intaglio neu geugerfiad hirgrwn, gem werthfawr neu led-werthfawr efallai, a fyddai ag addurn wedi endorri arno er gyfer selio dogfennau. Felly, ar un olwg, mae hon yn sêl-fodrwy fel y rhai a ddisgrifir uchod, a byddai modd adnabod ei pherchennog wrthi, ond roedd cynnwys gem werthfawr neu led-werthfawr yn ychwanegu haen arall o ystyr iddi. Roedd y garreg yn ddeniadol ac yn addurnol ynddi ei hunan, gan awgrymu rhywbeth am statws a chyfoeth y sawl a allai ei fforddio. Ond byddai pobl y cyfnod yn credu bod ganddi bwerau i iacháu neu warchod y perchennog, ac roedd y gwahanol emau’n cael eu cysylltu â gwahanol bwerau meddyginiaethol, gwrthfelltithiol neu oruwchnaturiol.

Modrwyau Addurnol

Rhianydd Biebrach, 8 Mai 2017

Modrwyau aur a saffir o Penfro

Modrwyau saffir ac aur o Penfro

Modrwyau Addurnol o Silstwn

Modrwyau Addurnol o Silstwn

Modrwyau Addurnol o Holt

Modrwyau Addurnol o Holt

Mae’r grŵp olaf o fodrwyau yn yr adroddiad hwn yn llawer mwy cyndyn o ddatgelu eu cyfrinachau. Maent yn addurnol, heb arwyddeiriau na symbolau, ac er ei bod yn eithaf posib bod iddynt arwyddocâd personol i’w perchnogion, nid oes modd i ni ganfod beth oedd hynny, gwaetha’r modd.

Daeth Mr Kevin Higgs o hyd i enghraifft ardderchog o fodrwy aur a saffir ym Mhenfro ym mis Chwefror 2014. Mae’r saffir wedi'i gaboli (cabosión oedd yr enw am hyn) yn hytrach na’i thorri, fel oedd yn boblogaidd yn y Canol Oesoedd, a’i roi ar osodiad chweochrog. Gwaetha’r modd, mae’r saffir wedi torri’n ddau ac wedi dod allan o’r gosodiad, ond mae ei harddwch yn dal yn amlwg. Câi saffirau eu mewnforio o Sri Lanka ac roedd pobl yn credu eu bod yn gallu gwella cur pen ac afiechydon eraill a gwarchod rhag dewiniaeth, ac felly mae’n bosib bod i’r fodrwy hon ddiben arall heblaw bod yn addurn.

Mae’n rhaid bod eitem mor gostus, wedi’i mewnforio o ben draw’r byd, yn eiddo i rywun cyfoethog iawn ac mae’n demtasiwn dyfalu y gallai’r perchennog fod yn byw yng Nghastell Penfro neu’r priordy gerllaw. Nid oes gemau yn y rhan fwyaf o'r modrwyau eraill yn y dosbarth hwn. Dim ond patrymau sydd yn eu haddurno, yn amrywio o’r croeslinellu amrwd, afreolaidd ar fodrwy o arian wedi’i oreuro o’r 15fed ganrif a ganfuwyd yn Silstwn, Bro Morgannwg gan Mr Mark Watson yn 2011, i’r band llyfn, cynnil o belenni a borderi uchel ar fodrwy aur o’r cyfnod Tuduraidd cynnar a ganfuwyd yn Holt yn 2013 gan Mr A. E. Jenkins.

Ysbryd y mwynwyr

1 Hydref 2007

spirit of the miners logo

Dyw Sir Ceredigion ddim yn uniongyrchol a chysylltiad a hanes mwyngloddio. Ond fel y teithiwch tuag at Aberystwyth ar yr arfordir, gan ddilyn dyffrynnoedd mewndirol afonydd Ystwyth, Rheidol a Mynach, byddech yn camgymryd wrth gredu mai amaethyddiaeth fu economi Ceredigion ar hyd yr amser.

Mae mwyngloddio am gopor, plwm, zinc ac arian wedi bod yn rhan bwysig o economi'r sir ers 4,000 o flynyddoedd.

Edrychwch yn fanylach ar natur a wyneb y tirlun sy'n newid wrth i chi deithio i'r bryniau, a bydd stori arall dod i'r amlwg. Wrth deithio o un pentref i'r llall, mae'r tirwedd hynafol yn cuddio nifer o storïau, traddodiadau a cynllwynio a fu'n amlwg yn ystod y blynyddoedd gynt.

Mae'r gwasgariad o gymunedau sy'n cynnwys Ponterwyd, Pontrhydfendigaid, Ffair Rhos, Cwmystwyth, Ysbyty Ystwyth, Goginan, Ystumtuen, Pontrhydygroes, Cwmsymlog, Taliesin a Thalybont heb unrhyw beth yn eu cysylltu yn ôl pob golwg. Ond maent yn cynnwys un thema sy'n berthnasol iddynt oll - diwylliant hanesyddol cloddio.

Mae'r gwybodaeth hon yn rhan o'r wefan 'Ysbryd y Mwynwyr' - project adfywio cymunedol i geisio creu hunaniaeth i ogledd Ceredigion trwy fanteisio ar yr etifeddiaeth mwyngloddio metel fel thema.

x

Croes bren a arferai ddisgleirio gan aur

4 Medi 2007

Y groes o Gemais, Sir Fynwy

Y groes o Gemais, Sir Fynwy

Manylyn o ben ffigwr y groes.

Manylyn o ben ffigwr y groes.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau wedi'i adlewyrchu.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau wedi'i adlewyrchu.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau uwch fioled.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau uwch fioled.

Dengys archwiliad gwyddonol o groes ganoloesol o Gemais, De Cymru, fod y gwrthrych pren a welwn heddiw wedi cael ei addurno'n wreiddiol â lliwiau llachar coeth a haenau aur godidog.

Tua 1850, darganfuwyd gweddillion ffigwr pren cerfiedig o Grist yn eglwys Cemais, rai cilomedrau i'r gorllewin o Gaerllion, de Cymru.

Gwrthrych o bwysigrwydd eithriadol

Cyn y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg (pan newidiodd Cymru a Lloegr yn swyddogol o fod yn genedl Gatholig i un Protestannaidd), roedd ffigyrau o Grist o'r math hwn yn gyffredin trwy Loegr a Chymru, a'r Crist o Gemais yw'r esiampl mwyaf cyflawn o'r ychydig ddarnau canoloesol sydd wedi goroesi ym Mhrydain, ac felly mae o bwys eithriadol.

Darganfuwyd darnau o ffigwr Cemais 'gyda phenglog ac esgyrn', yng 'ngrisiau'r grog caeedig' yn ystod gwaith atgyweirio a newid yr eglwys tua 1886. Trosglwyddwyd ef i Amgueddfa Cymru ym 1930.

Tybir bod y ffigwr yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond nid yw'r dadleuon sy'n cefnogi'r farn hon erioed wedi cael eu mynegi'n fanwl. Mae dyddio'r ffigwr yn dibynnu ar gymharu cerfluniau eraill, a'r gred bellach yw ei fod yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Gan fod ffigyrau sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn yn brin, rhaid astudio gwrthrychau o'r cyfandir am gliwiau pellach. Mae ffigyrau croes o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg o Sweden, er enghraifft, yn rhannu nifer o nodweddion tebyg, ond mae'r Crist o'r bedwaredd ganrif ar ddeg o Fochdre, Sir Ddinbych, sef yr unig ffigwr pren cyffelyb o Gymru, yn dra gwahanol. Mae'n debygol iawn bod Crist Cemais wedi cael ei wneud yn Lloegr neu yng Nghymru.

Ymchwilio a dadansoddi'r groes

Ychydig iawn o'r lliw a arferai orchuddio'r ffigwr pren a welir heddiw, ond arweiniodd gwaith rheolaidd Amgueddfa Cymru at ymchwiliad manwl o arwynebedd y gwrthrych ym 1999.

Cymerwyd darlun pelydr-x o'r ffigwr ac edrychwyd arno o dan olau uwch-fioled (UV) a golau is-goch (IR) cyn ei archwilio o dan y microsgop. Datgelodd hyn batrwm y lliwiau gwreiddiol, a'r gwahaniaethau rhwng y corff â'r breichiau, yr ystyriwyd yn flaenorol eu bod yn ychwanegiadau diweddarach.

Lliwiau cyfoethog a llachar

Yn wahanol i'w gyflwr presennol, yn wreiddiol roedd Crist Cemais yn gyfoethog a llachar ei liw, yn unol â'r hyn a oedd yn boblogaidd drwy'r Oesoedd Canol. Cymerwyd gofal mawr wrth addurno'r ffigwr. Pan oedd yn newydd, byddai wedi disgleirio o dan haenau aur.

Wrth archwilio'r ffigwr datgelwyd tystiolaeth sylweddol o aml-liwiogrwydd (defnyddio nifer o liwiau), a throsbeintio, fel y gwelir mewn enghreifftiau eraill o gerflunwaith canoloesol. Er nad oes llawer wedi goroesi ar y breichiau, mae'r fraich dde'n cynnwys dwy haenen, sy'n awgrymu, efallai, bod y fraich chwith wedi cael ei hailosod, naill ai yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg, neu'n gynharach hyd yn oed.

Datgelwyd o leiaf tair haen o baent, ond tasg anodd oedd eu dyddio. Ymddengys bod yr ail gynllun lliwiau wedi cynnwys eurwaith ar y gwallt; aur, coch a glas ar du fewn y lliain lwynau; manylion brown tywyll a du ar yr wyneb; coron o ddrain gwyrdd; a lliwiau cnawd pinc gwelw, a choch yn pwysleisio'r clwyfau.

Byddai gwaith aml-liwiog o'r math yma wedi bod yn arferol ar gerflun mor bwysig â hwn. Mae ffigwr Cemais yn cynrychioli Crist ar y groes yn glir, ac fe'i portreadir yn fyw, â'i lygaid ar agor.

Mae Crist Cemais yn enghraifft anghyffredin o ffigwr defosiynol, o'r cyfnod cyn y Diwygiad, a fu unwaith yn gyffredin ar Ynysoedd Prydain. Uchder gwreiddiol y ddelwedd drawiadol o ddioddefaint Crist oedd tua 94cm, felly byddai wedi bod yn weledol iawn ac yn destun gweddi, gan chwarae rhan bwysig iawn ym mywydau pobl bob dydd.