Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
‘Carwch yr hyn sy’n Hardd’: Canfod Ystyr Modrwyau Rhianydd Biebrach, 9 Mai 2017 Yn y gorffennol, roedd llawer o bobl, cyfoethog a thlawd, yn gwisgo modrwyau. Byddai’r modrwyau wedi’u gwneud o fetalau gwerthfawr neu ddiwerth, yn blaen neu’n addurnedig, a byddai gemau neu enamelau wedi’u mewnosod mewn rhai ohonynt. Mewn darluniau o'r Canol Oesoedd a chyfnod y Dadeni, gwelir dynion a menywod yn gwisgo sawl modrwy ar yr un llaw, weithiau uwchlaw’r migwrn canol. Weithiau, daw pobl â datgelyddion metal o hyd i fodrwyau oedd yn eiddo i ddynion a menywod o Gymru sydd wedi hen farw ac maent yn mynd â nhw at Gynllun Henebion Cludadwy Cymru. Os yw’r modrwyau wedi’u gwneud o fetal gwerthfawr, maent yn cyfrif fel trysor ac, fel rheol, maent yn mynd i amgueddfeydd ledled Cymru fel y gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau gweld yr olion gwerthfawr hyn o’n gorffennol. Hyd yn oed heddiw, gallwn werthfawrogi eu harddwch a’u crefftwaith a theimlo cysylltiad â'r bobl oedd wedi'u colli amser maith yn ôl. Ond nid eu harddwch yw eu hunig werth ac mae mwy iddynt na’r aur a’r arian a ddefnyddiwyd i’w gwneud. Heddiw, rydym yn aml yn dweud bod i ddarn o emwaith ‘werth sentimental’. Hynny yw, mae iddo werth emosiynol i’r perchennog sydd y tu hwnt i werth ei ddeunydd neu ei harddwch. Mae hyn yn wir am y gorffennol hefyd. Ers canrifoedd, bu i fodrwyau ystyron ac arwyddocâd arbennig i’r bobl oedd yn eu rhoi a’r rhai oedd yn eu gwisgo. Yma, byddwn yn trafod rhai o’r ystyron hyn - a'r modrwyau eu hunain. Modrwyau Arysgrif Modrwyau Galar Modrwyau Eiconograffig Sêl-fodrwyau Modrwyau Addurnol Gallwn feddwl am yr holl fodrwyau hyn, ynghyd â llawer o rai eraill y mae pobl wedi dod o hyd iddynt â datgelyddion metal neu wedi dod ar eu traws ar hap, fel darnau o emosiynau dwys. Caiff hyn ei gyfleu yn glir yn nyluniad y modrwyau arysgrif, y modrwyau galar a’r modrwyau eiconograffig sy’n dal i gyfleu’r cariad, y galar a’r ysbrydolrwydd a deimlai eu perchnogion. Gallwn feddwl hefyd fod y sêl-fodrwyau yn ymgorffori rhywbeth o hunaniaeth bersonol y perchnogion gwreiddiol. Mae’n eithaf posib bod hyd yn oed i’r modrwyau hollol addurnol yr hyn a ddisgrifiwn heddiw fel ‘gwerth sentimental’ yn ogystal â gwerth ariannol eu defnydd. Yn achos y saffir, cawn ein hatgoffa bod Cymru, er ei bod ar ymylon pellaf Ewrop, yn cysylltu â’r Dwyrain Pell trwy fasnach. Efallai mai’r peth pwysicaf i’w gofio yw bod rhywun wedi colli pob modrwy y cafwyd hyd iddi. Ar y cyfan, nid yw pobl yn taflu eitemau aur ac arian a gemau gwerthfawr, hyd yn oed os nad oes iddynt arwyddocâd emosiynol iddynt bellach. Felly, gallwn dybio bod y modrwyau hyn wedi cael eu colli ar ddamwain, gan lithro oddi ar fys neu syrthio o bwrs, a’r perchennog heb sylwi tan ei bod yn rhy hwyr. Ar draws y canrifoedd, mae’n hawdd i ni ddychmygu’r torcalon a deimlai rhywun o sylweddoli eu bod wedi colli modrwy briodas, modrwy i’w hatgoffa am rywun annwyl a fu farw, neu fodrwy oedd yn dod â chysur ysbrydol iddynt. Mae’r emosiynau hyn yn ddolen gyswllt rhyngom ni â pherchnogion y trysorau colledig hyn, er eu bod wedi hen farw. + ieme la belle, neu carwch yr hyn sy’n hardd,/em>, yw’r arysgrif ar ochr allanol Modrwy Ewenni o’r 15fed ganrif, a ganfuwyd ger Priordy Ewenni gan Mr G. Gregory yn 1988 ac sydd erbyn hyn yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.
Modrwyau Arysgrif Rhianydd Biebrach, 9 Mai 2017 Modrwyau Arysgrif o Henllys Modrwyau Arysgrif: 'God is my Cumford' Modrwyau Arysgrif o Llandudoch Nid peth modern yw cyfnewid modrwyau fel arwydd o serch. Bu modrwyau â moto neu ychydig eiriau’n datgan cariad neu ffyddlondeb yn boblogaidd ers y Canol Oesoedd. Er ein bod yn cysylltu rhoi modrwyau ag achlysuron ffurfiol fel dyweddïo neu briodi erbyn hyn, yn y gorffennol roedd modrwyau arysgrif yn cael eu rhoi ar unrhyw adeg mewn perthynas, gan y naill bartner neu’r llall. Gall y modrwyau fod yn rhai plaen neu wedi’u haddurno mewn gwahanol ffyrdd ond nid eu golwg allanol oedd y peth pwysicaf amdanynt ond y neges oedd arnynt, wedi’i dewis yn ofalus i atgoffa’r derbynnydd yn barhaus am deimladau’r rhoddwr. Mae rhai o’r arysgrifau mewn Lladin neu mewn Ffrangeg, a gâi ei chysylltu â sifalri a serch cwrtais, ond ymadroddion Saesneg sydd ar lawer o’r rhai a ganfuwyd yn ddiweddar gan ddefnyddwyr datgelyddion metal yng Nghymru, y rhan fwyaf ohonynt yn datgan ffyddlondeb. Ym mis Awst 2013, daeth Mr Simon Harrison ar draws enghraifft arbennig o gywrain ac addurnol o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg yn Henllys, Sir Fynwy. Fe'i gwnaed o gylchigau aur cydgysylltiedig a chalonnau wedi'u llenwi ag enamel coch, gwyn a gwyrdd. Ar y tu mewn, arysgrifwyd y geiriau 'My ♥ is onely yours’. Mae arysgrifau sy’n cyfleu gwahanol deimladau i’w gweld ar nifer o fodrwyau eraill - pedair ohonynt wedi’u caffael yn ddiweddar gan y prosiect Hel Trysor; Hel Straeon ar gyfer casgliadau cenedlaethol a lleol - ond nid pob un ohonynt sydd mor amlwg ramantus â modrwy Henllys. ‘Forget not the gift’ yw neges y fodrwy aur addurnedig a ganfuwyd ger Llandudoch, Sir Benfro, gan Mr Tom Baxter-Campbell ym Mehefin 2011. Mae hyn yn awgrymu y dylai’r fodrwy atgoffa’r sawl a’i cafodd am y rhoddwr: a oedd ar fin mynd i ffwrdd i rywle? A oedd gan y rhoddwr ryw amheuaeth am deimladau’r derbynnydd? Mae modrwy debyg, hon hefyd o aur ac yn perthyn i ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg, a ganfuwyd gan Mr David Hughes yn Llanilltud Fawr ym mis Ebrill 2013, yn datgan yn enigmatig ‘Such is my love.’ Nid yw union ystyr y geiriau yn glir ond efallai bod y rhoddwr am gyfleu’r syniad fod ei gariad yn gadarn ac yn werthfawr, fel aur, ac yn fythol, fel siâp y fodrwy sydd heb ddechrau na diwedd. Gallwn dybio y byddai’r derbynnydd yn deall yn iawn sut i ddehongli’r neges. Er bod modrwyau arysgrif yn cael eu cysylltu â negeseuon cariadus gan amlaf, canfuwyd rhai mwy difrifol yng Nghymru yn ddiweddar. Mae modrwy o arian wedi’i oreuro o ddiwedd yr 17eg ganrif neu ddechrau’r 18fed, a ganfuwyd ger Caerffili ym Mehefin 2013 gan Mr T.M. Davies yn edrych yn debyg i fodrwy briodas fodern blaen. Mae yng nghasgliad Amgueddfa’r Tŷ Weindio yn Nhredegar erbyn hyn. Y tu mewn, gwelir yr arysgrif ‘Keep faith tell [till] death’, sydd braidd yn drymaidd ac yn wahanol i’r cyfarchion modern ysgafn ond mae’n hollol gydnaws â’r gred ar y pryd na ellid dad-wneud priodas. Mewn oes pan oedd ysgariad bron yn amhosibl, roedd priodasau i fod i bara am byth. Nid negeseuon cariadus oedd ar bob modrwy arysgrif: y datganiad ar fand plaen o arian wedi’i oreuro a ganfuwyd yn Llangybi, Sir Fynwy, gan Mr Glen Flynn yn 2012 yw ‘God is my cumford [comfort]’. Ydi hyn yn awgrymu bod y fodrwy wedi’i rhoi’n rhodd i rywun oedd yn mynd trwy gyfnod o ofid, tristwch neu salwch, ynteu a yw'n ddim ond arwydd o dduwioldeb? Un peth nodedig am y modrwyau hyn i gyd, a nifer o’r rhai isod, yw mai y tu mewn i’r band, yn hytrach nag ar y tu allan, y mae’r arysgrif. Ond pam y byddai’r rhoddwyr cariadus yn awyddus i guddio eu datganiad o gariad yn hytrach na’i roi mewn man lle gallai pawb ei weld? Mae’n debygol mai'r rheswm oedd bod y rhain yn negeseuon preifat, rhwng y rhoddwr a'r gwisgwr, ac y byddai'r neges yn cyffwrdd â'r cnawd, gan bwysleisio agosrwydd y berthynas.
Modrwyau Galar Rhianydd Biebrach, 9 Mai 2017 Modrwyau Galar o Pennard Modrwyau Galar o Cydweli Modrwyau Galar o Hundleton, Sir Benfro Roedd teimladau personol dwys yn cael eu mynegi ar fodrwyau galar hefyd. Ond yma, cyfleu’r rhwyg yn y berthynas rhwng y byw a'r marw oedd diben y fodrwy. Yn y Canol Oesoedd, roedd y byw’n cadw rhyw fath o gysylltiad â’r meirw trwy weddïo dros eu heneidiau, ond daeth hyn i ben adeg y Diwygiad Protestannaidd ac, o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, dim ond cofio am y meirw y câi pobl ei wneud, nid eu helpu. Weithiau, roedd modrwyau galar yn cael eu rhannu mewn angladdau fel ffordd o helpu perthnasau a chyfeillion y sawl a fu farw i gofio amdanynt. Roedd y modrwyau hyn yn cyfuno angen pobl i gofio’u hanwyliaid a hen draddodiad y memento mori ac roeddent yn aml yn cynwys llythrennau blaen enw’r un a fu farw a dyddiad eu marwolaeth. Roedd y modrwyau’n ffordd o atgoffa pobl pa mor agos oedd marwolaeth, yn enwedig mewn cyfnod pan oedd llawer o bobl yn marw o glefydau heintus, wrth roi genedigaeth neu hyd yn oed o afiechydon syml. Roedd motiffau memento mori yn gyffredin yn niwylliant y Canol Oesoedd diweddar a’r cyfnod Modern Cynnar, yn aml ar ffurf penglog, ac maent i’w gweld mewn darluniau a llyfrau, ac ar gerrig beddi a gemwaith. Yn y portreadau o Edward a Gawen Goodman o Ruthun, a dynnwyd yn yr 16eg ganrif ac sydd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, mae’r dynion yn gwisgo modrwyau galar mawr aur ar eu mynegfys, a llun penglog yn crechwenu ar y ddwy. Eu bwriad oedd atgoffa pobl pa mor fyr yw bywyd ac weithiau roedd arnynt arysgrif fwy personol yn dwyn i gof rywun penodol oedd wedi marw. Nid oes yr un o’r modrwyau galar a ganfuwyd yn ddiweddar gan ddefnyddwyr datgelyddion metal yng Nghymru mor gywrain â’r rhai uchod ond yr un yw'r egwyddorion y tu ôl iddynt. Ym mis Hydref 2010, daeth Mr R. Pitman o hyd i fodrwy alar aur ym Mhennard, Abertawe. Mae arni batrwm delltwaith wedi’i fewnosod ag enamel glas tywyll a chredir ei bod yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif. Mae’n un o sawl modrwy a ddaeth i law’r prosiect Hel Trysor; Hel Straeon ac mae yn Amgueddfa Abertawe erbyn hyn. Gwelir yr arysgrif ‘Prepared bee to follow me’ ar y tu mewn – gair i atgoffa y gallai angau daro unrhyw bryd ac y dylai’r Cristion da baratoi at hynny yn ysbrydol ac yn feddyliol. Wyddom ni ddim pwy oedd y ‘me’: efallai rhywun oedd eisoes wedi marw; neu efallai Angau ei hunan. Ceir neges gliriach ar dair enghraifft arall. Mae arysgrifau Lladin ar yr ochr fewnol yn nodi llythrennau cyntaf enw’r bobl a fu farw a dyddiad eu marwolaeth. Mae’r hynaf, a ganfuwyd gan Mr D. Raven ym mis Mai 2013 yng Nghydweli ac sydd yn Amgueddfa Caerfyrddin erbyn hyn, yn cofnodi marwolaeth ‘J. A. ob 25 July 98 aeta 37’ [J. A. a fu farw 25 Gorffennaf 1698, yn 37 oed]. Mae’r ochr allanol yn blaen ar wahân i benglog wedi’i ysgythru ac mae’n debyg iawn i fodrwy aur arall a ganfuwyd yn Hundleton, Sir Benfro, gan Mr K. Lunn ym mis Tachwedd 2013, ac sydd yn Amgueddfa Aberdaugleddau erbyn hyn. Yma, mae’r penglog yn fwy amrwd a’r arysgrif yn dweud ‘A. E. obijt 30 Jan’ 17034’ [A. E. a fu farw 30 Ionawr 1703/4]1. Mae enghraifft arall a ganfuwyd ychydig ymhellach i’r dwyrain yng Nghaer-went, Sir Fynwy, gan Mr Colin Price, ym mis Gorffennaf 2011, ychydig yn wahanol, â phatrwm blodeuog yn hytrach na phenglog ar y tu allan. Yn ôl yr arysgrif, modrwy ydyw i gofio am ‘G. K. obt 26 March 1702’ [G. K. a fu farw 26 Mawrth 1702]. Er bod y manylion yn brin, maent yn cyfleu’r golled bersonol a’r galar a deimlai’r bobl oedd wedi colli rhywun annwyl a'r angen i gofio amdanynt ymhell i'r dyfodol. 1Y rheswm dros y dryswch ymddangosiadol ynghylch y flwyddyn y bu farw yw mai’r hen galendr a ddefnyddid cyn mabwysiadu Calendr Gregori yng Nghymru a Lloegr yn 1752. Cyn hynny, ar 25 Mawrth, nid 1 Ionawr, roedd y flwyddyn newydd yn dechrau’n swyddogol. Felly, 1 Ionawr 1703, yn hytrach nag 1 Ionawr 1704, fyddai’r diwrnod ar ôl 31 Rhagfyr 1703.
Modrwyau Eiconograffig Rhianydd Biebrach, 8 Mai 2017 Modrwyau Eiconograffig gyda llun o Sain Catrin Modrwyau Eiconograffig o Maes y Groes Un o’r prif resymau pam y mae’r arysgrifau ar y modrwyau galar hyn mor noeth yw dyfodiad y Diwygiad Protestannaidd a oedd yn golygu nad oedd pobl yn gweddïo dros y meirw nac ar y seintiau bellach. Ar y llaw arall, roedd modrwyau o'r Canol Oesoedd cynnar weithiau'n darlunio seintiau neu'n cynnwys fformiwlâu crefyddol fel darnau o weddïau. Canfuwyd nifer o'r rhain yng Nghymru yn ddiweddar. Daeth Mr Phil Jenkins o hyd i enghraifft hardd yng Nghaeriw ym mis Hydref 2013. Modrwy o arian wedi’i oreuro o’r 15fed ganrif yw hon. Mae patrwm troellog o’i chwmpas a’r wefl wedi’i rhannu’n dair, â gair gwahanol ar bob un, yn cyfuno i wneud y fformiwla ‘ihs ave maria’ [Iesu. Henffych Fair]. Roedd modrwyau fel hyn yn fwy na datganiadau addurnol o ffydd, roedd modd eu defnyddio i’ch helpu yn eich defosiwn hefyd. Yn nes ymlaen yn y Canol Oesoedd, daeth pwyslais newydd ar berthynas bersonol, fwy cyfriniol, â Duw, trwy weddi a myfyrio, ac roedd pobl yn defnyddio pethau fel llyfrau a lluniau i’w helpu. Gallai modrwy Caeriw fod wedi cael eu defnyddio fel hyn gan fod gweld enw Iesu (‘ihs’) yn gymorth i fyfyrio am ei fywyd a’i farwolaeth. ‘Ave Maria’ yw geiriau agoriadol y weddi Ladin a seilir ar eiriau’r Angel Gabriel pan ymddangosodd i Fair i ddweud wrthi ei bod yn disgwyl Iesu. Felly, mewn tri gair byr, mae'r fodrwy'n cyfleu credo ganolog y ffydd Gristnogol, sef bod Iesu wedi'i anfon i'r ddaear i achub dynolryw. Ydi’r geiriau Lladin ar fodrwy Caeriw yn golygu bod perchennog y fodrwy wedi cael addysg, neu hyd yn oed yn offeiriad? Dim o anghenraid. Er mai ychydig o bobl oedd yn gallu darllen yn y cyfnod hwn, byddai’r rhan fwyaf yn gyfarwydd ag ymadroddion Lladin oedd yn cael eu defnyddio mewn defodau crefyddol a gweddïau, fel yr ydym ni’n adnabod ymadroddion fel ‘post mortem’ ac ‘et cetera’ heddiw. Hyd yn oed pa na baent yn deall yr union eiriau, byddent yn gwybod beth oedd eu hystyr gyffredinol a’u harwyddocâd fel termau crefyddol a byddai hynny’n rhoi grym ysbrydol iddynt. Efallai fod pobl yn meddwl bod modrwyau fel hyn yn gweithio fel swyn i'w gwarchod, er y byddai'r eglwys yn swyddogol yn anghytuno â hynny gan ei fod yn sawru o hud a lledrith. Mae modrwyau eiconograffig eraill a ganfuwyd yng Nghymru’n cynnwys lluniau seintiau. Efallai bod yr union seintiau hynny wedi’u dewis am resymau penodol. Ym mis Hydref 2014, daeth Mr Philip Jenkins o hyd i fodrwy aur o’r Canol Oesoedd diweddar yng Ngorllewin Llandysilio, Sir Benfro, ac arni lun wedi’i ysgythru o'r Santes Catrin. A hithau’n un o’r gwyryfon a ferthyrwyd, roedd iddi arwyddocâd arbennig i ferched ifanc, dibriod, ac roedd hefyd yn nawddsant myfyrwyr, seiri olwynion a rhai grwpiau eraill. Yn aml, mae modd adnabod seintiau canoloesol mewn lluniau wrth y pethau y maent yn eu dal neu eu gwisgoedd. Yn aml, dangosir Catrin gydag olwyn a chleddyf, sef y pethau a ddefnyddiwyd i'w harteithio a'i lladd (a'r ysbrydoliaeth arswydus ar gyfer tân gwyllt Olwyn Catrin). Fel llawer o’r modrwyau eraill a ddisgrifir yma, ar y tu mewn i’r band y mae’r arysgrif ar fodrwy Santes Catrin hefyd. Mae’n dweud ‘en bon eure’ [Mewn blwyddyn dda], sy’n awgrymu y gallai fod yn galennig i rywun a oedd yn arbennig o hoff o’r santes boblogaidd hon. Er bod lluniau o seintiau canoloesol yn aml yn hawdd i'w nabod, nid yw hynny'n wir am y fodrwy eiconograffig o ddiwedd y 15fed ganrif y daeth Mr Paul Anthony Byrne ar ei thraws ym Maes-y-Groes ger Wrecsam. Mae dau lun wedi’u hysgythru ar wyneb dwbl y wefl ond mae’r ddau wedi treulio ac mae’n anodd gweld dim ond aden. Felly, efallai mai llun yr Archangel Gabriel sydd yma, neu’r Sant Mihangel (sy’n aml ag adenydd mewn lluniau), neu hyd yn oed Sant Siôr. Efallai ei bod yn swnio’n rhyfedd i Sant Siôr ymddangos ar fodrwy a ganfuwyd yng Nghymru ond nid oedd yn cael ei gysylltu’n benodol â Lloegr bryd hynny ac mae’n eithaf posib nad Cymro oedd y perchennog. Peth arall diddorol am y fodrwy hon yw’r dwylo plethedig sy’n ymddangos ar waelod y cylch. Gall y rhain fod yn arwydd o gariad, ymddiriedaeth neu briodas ac roeddent yn symbol cyffredin ar fodrwyau canoloesol a elwid yn fodrwyau ‘fede’ (ffydd). Ydi’r dwylo plethedig yn awgrymu mai rhodd i gariad oedd hon, fel y modrwyau arysgrif a ddisgrifir uchod?