Darganfyddiad newydd am hen offeryn: oedd dau seinflwch y crwth Cymreig yn unigryw? 2 Ebrill 2012 Crwth Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y crwth o'r 18fed ganrif yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn ddigon ffodus i feddu ar un o dri chrwth Cymreig sy'n dal i fodoli ym Mhrydain. Wedi darganfod agorfa gudd, ai dyma'r unig offeryn a chwaraeir gyda bwa i gael dau seinflwch? Gwelir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at offeryn llinynnol o'r enw 'crwth' yng Nghyfreithiau Hywel Dda yn y 12fed ganrif. Roedd yn boblogaidd yng Nghymru drwy gydol yr Oesoedd Canol ac yn ffefryn ymysg y dosbarthiadau uwch. Mae Cyfreithiau Hywel Dda yn cyfeirio at y crwth, ynghyd â'r delyn a'r pibau, fel offeryn o statws a chwaraeir gan wŷr bonheddig ac a ddefnyddid yn aml mewn adloniant cerddorol. Cynhaliwyd cystadlaethau ar y crwth yn Eisteddfod gyntaf yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi ym 1176, ac mae cywydd gan Rhys Goch Eryri, tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, acrobatiaid a cherddorion (gan gynnwys y crythwyr) gai eu croesawu i gartrefi noddwyr cyfoethog. Poblogeiddio'r ffidil Newidiodd rôl gymdeithasol y crwth yn sylweddol oddeutu 1600 fodd bynnag, wrth iddo gael ei gysylltu fwyfwy â'r traddodiad gwerin. Daeth poblogrwydd y ffidil yn y 18fed ganrif ag oes y crwth fel offeryn byw i ben yng Nghymru i bob pwrpas, gan gau pen y mwdwl ar fileniwm a mwy o arfer a datblygiad. Erbyn ailgynnau'r diddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol yn nechrau'r 20fed ganrif, roedd y grefft o greu crwth, heb sôn am y dulliau cydnabyddedig o'i chwarae a thechnegau perfformio eraill, wedi mynd yn angof. Y crythau olaf O'r tair esiampl hanesyddol sy'n dal i fodoli, mae pob un yn offeryn chwe thant hirsgwar gyda chefn, ochrau a seinfwrdd gwastad, gyda'r corff, y seinflwch a'r brif ffrâm wedi'u cynhyrchu o un darn o bren. Mae byseddfwrdd yn rhannu agoriad hirsgwar yn un pen a gellir gweld dau dwll yn y seinfwrdd. Crwth Sain Ffagan Mae'r flwyddyn 1742 wedi'i harysgrifio ar y crwth a chafodd ei gynhyrchu gan Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon. Cafodd ei fenthyg i'r Amgueddfa'n wreiddiol ym 1935 gan y Cyrnol J. C. Wynne Finch o'r Foelas, Sir Gaernarfon; ei deulu yw perchnogion yr offeryn hyd heddiw. Er ei fod yn gyflawn, mae cyfres o begiau tiwnio wedi'u cau sydd bron yn cydredeg â'r set bresennol. Crwth Aberystwyth Mae ail grwth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a roddwyd i'r Llyfrgell ar ei hagoriad ym 1907 gan ei phrif sylfaenydd, Syr John Williams. Mae'n bosibl taw'r Parchedig John Jenkins (1770-1829) o Geri, Sir Drefaldwyn oedd perchennog yr offeryn hwn. Er ei fod yn gyflawn (ac eithrio dau dant drôn sydd ar goll), mae gwaith adfer/atgyweirio sylweddol wedi cael ei wneud i'r prif fframwaith rywdro. Crwth Warrington Gellir gweld y drydedd esiampl yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington, ac er bod y dyddiad yn anhysbys mae'n debyg i offeryn a ddisgrifiwyd ac a ddarluniwyd yn rhifyn 1775 o'r cyfnodolyn Archaeologia (cyfrol III, plât vii). Prynwyd y crwth hwn yng Nghymru ym 1843 gan Dr James Kendrick, un o haneswyr lleol cyntaf Warrington a hynafiaethydd nodedig. Rhoddodd Kendrick y crwth i'r dref y flwyddyn honno gan ddod yn un o'r eitemau cyntaf i gael ei arddangos yn yr amgueddfa leol. Mae crwth Warrington yn llai cyflawn na'r ddau flaenorol, gyda'r gynffon, y tannau, y byseddfwrdd a'r nyten i gyd ar goll. Crwth Sain Ffagan dan belydr-X. Mae'r darn tywyllach yn y gwddf yn dangos gofod clir yn culhau ac mae agoriad cudd wedi'i guddio o dan y byseddfwrdd lle mae'r gofod ar ei fwyaf llydan Mae delwedd pelydr-x o grwth y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos yr un nodweddion ag esiampl Sain Ffagan. Y crwth yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington. © Warrington Museum and Art Gallery. Mae byseddfwrdd coll crwth Warrington yn ein galluogi i weld maint llawn y gofod. Gellir gweld y gwahaniaeth rhwng y coed moel golau yn y llun a'r border tywyllach fyddai wedi'i leinio â glud. Datgelu agoriad cudd Mae gwaith cadwraeth ar grwth Sain Ffagan wedi datgelu agoriad cudd o dan y byseddfwrdd sy'n ymwthio tu hwnt i'r byseddfwrdd. Yn dilyn archwilio pellach, gwelwyd bod yr agoriad yn ymestyn ar hyd y gwddf. Datgelodd delwedd pelydr-x o'r offeryn fod gwagle pwrpasol sy'n culhau ar hyd y byseddfwrdd. Golyga hyn bod llai o arwyneb i ludo'r byseddfwrdd i'r gwddf ac felly byddai'n dipyn anoddach i'w gynhyrchu nag offeryn â gwddf solid, gwastad — fyddai wedi glynu'n well i arwyneb uwch y gwddf. Beth fyddai'r rheswm dros greu agoriad o'r fath? A fyddai'n gwella safon donyddol yr offeryn? Mae'n bosibl iawn y byddai'r agoriad wedi gweithio mewn modd tebyg iawn i seinflwch offeryn neu chwyddseinydd i roi sain mwy cyflawn wrth i'r tannau ddirgrynu. Offeryn bwa unigryw? Mae'n ddigon posibl bod yr ail seinfwrdd hwn yn gwneud y crwth yn unigryw ymysg offerynnau gaiff eu chwarae â bwa, gan nad oes nodwedd o'r fath wedi cael ei ddefnyddio yn un o offerynnau eraill teulu'r feiolin. Dangosodd archwiliad o grwth Aberystwyth agoriad tebyg yn y gwddf. Gan fod nodweddion gwahanol i'r esiampl hon i'r un a gedwir yn Sain Ffagan (a'i bod mwy na thebyg wedi cael ei hadeiladu gan grefftwr gwahanol) mae'n ddigon posibl bod agoriad o'r fath yn nodwedd oedd yn gyffredin i bob crwth. Er mwyn cadarnhau'r ddamcaniaeth hon, dangosodd archwiliad manwl o ddelwedd o'r crwth yn Amgueddfa Warrington y gellir gweld y llinellau glud yn culhau bob ochr i'r gwddf, gyda phren moel yn y canol, gan ddangos maint yr agoriad gwreiddiol. Mae'r amrywiad yn y cynllun eto'n awgrymu taw crefftwr gwahanol a'i cynhyrchodd. Mae'n rhaid felly bod agoriad yng ngwddf y crwth yn dechneg adeiladu safonol y byddai gwneuthurwyr crythau yn eu defnyddio wrth adeiladu'r offeryn. Mae'n bosibl bod modd profi'r gwahaniaeth a wnaiff yr agoriad hwn i sain yr offeryn drwy gofnodi graddfa donyddol atgynhyrchiad o grwth sydd â byseddfwrdd solid, cyn creu agoriad yn yr un offeryn a chofnodi'r gwahaniaeth. Dyluniad mewn inc ar arwyneb y byseddfwrdd a ddaeth yn amlwg o dan olau uwchfioled yn unig Rhaid tynnu sylw hefyd at nodwedd arbennig arall am grwth Sain Ffagan, sef dyluniad mewn inc ar arwyneb y byseddfwrdd a ddaeth yn amlwg o dan olau uwchfioled yn unig. Gan y byddai'r crwth yn cael ei ddal yn erbyn y corff fel arfer, gallai'r offerynnwr weld i lawr y gwddf a byddai cynllun ar y byseddfwrdd o bosibl wedi helpu gyda lleoliad y bysedd ar y gwddf. Yn rhyfedd iawn, mae ôl y dyluniad hwn i'w weld hefyd ar seinfwrdd telyn fechan sydd hefyd i'w gweld yn Sain Ffagan. Erthygl gan: Emyr Davies, Cadwraethydd: Celfi, Offerynnau Cerdd a Horoleg, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Emma Lile, Curadur: Cerddoriaeth, Chwaraeon ac Arferion Traddodiadol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cylch a bachyn a doli glwt 16 Rhagfyr 2011 Teganau gwerin Grwp o blant yn Sgwar Rowe, Caerdydd, tua 1892. Mae un yn dal cylch haearn a dau arall yn eistedd ar ferfa ben i waered. Yng Nghymru ers talwm gwrthrychau syml o waith llaw a wnaed gartref oedd teganau. Fe’u lluniwyd o ba ddeunyddiau crai bynnag oedd yn digwydd bod ar gael yn lleol. Pren oedd prif ddeunydd teganau plant, gan ei fod yn rhwydd i’w saernïo yn wrthrychau o bob math – yn ddoliau, topiau troi a ratls i enwi dim ond tri. Roedd cylchoedd a bachau haearn a pheli troed a wnaed o bledrenni moch yn boblogaidd hefyd. Byddai’r rhain yn difyrru plant am oriau ac roeddent yn gyffredin yn y cartref ac ar fuarth yr ysgol. Roedd bod yn berchen ar bêl yn rhoi rhwydd hynt i chwarae llu o gemau tîm cyffrous fel rownderi, pêl law a phêl-droed, yn arbennig felly i fechgyn. Ar y llaw arall, byddai merched, hefyd, yn gyrru cylchoedd o bren neu haearn fel y mynnent, naill ai bob yn un, neu drwy gystadlu i weld pwy fyddai’n gallu eu rholio gyflymaf, arafaf neu bellaf. Trysorau plant Cyn dyfodiad cynnyrch ffatrioedd, byddai plant yn chwarae gyda theganau gwerin fel hyn. Mae'r cwpan a phêl, y chwiban a'r ratl a welir yma yn gopïau modern. Mae'r term teganau gwerin yn disgrifio'r teganau hynny a wnaed naill ai gan y plentyn ei hun neu gan rieni neu grefftwyr yn unol â dymuniadau’r plentyn. Yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond y teganau symlaf oll fyddai gan blant o deuluoedd tlawd, lle'r oedd yr arian at hanfodion bywyd, heb sôn am deganau, yn brin. Serch hynny byddai’r rhain yn drysorau yn llygaid y plant ac yn fodd i ddianc am ychydig rhag cynni eu bywydau beunyddiol. Gan mai tlodi oedd realiti byw i lawer teulu yn y cyfnod hwn, rhaid oedd iddynt greu eu diddanwch a’u difyrrwch eu hunain, ac roedd plant yn llawn balchder haeddiannol am eu bod yn gallu gwneud eu teganau eu hunain o ddim. Er enghraifft, y cyfan oedd ei angen i wneud barcud papur oedd ffrâm bren ysgafn ac ychydig o bapur, a byddai hyd yn oed y plant lleiaf yn gallu creu ceffyl pren o ddarn o bren a thipyn go lew o ddychymyg. I wneud si-so, yn aml byddid yn gosod dwy astell, y naill uwch ben y llall, dros gasgen. Byddai dau blentyn wedyn yn eistedd y naill ben a’r llall i’r estyll ac yn siglo i fyny ac i lawr yn fodlon nes iddynt flino ar y chwarae. Roedd modd defnyddio rhaffau i sgipio neu eu dringo trwy glymu un pen wrth gangen gref, gan adael y llall yn rhydd i’r plant glewaf ei dringo. I fechgyn, roedd creu eitemau fel barcutiaid papur, cychod tegan neu ffyn tafl yn rhoi teimlad o foddhad mawr, a gallai merched ddefnyddio eu doniau gwnïo i wneud doliau clwt a dodrefn ar gyfer tai doliau, neu chwarae siopau dillad trwy ddefnyddio tameidiau bychain o wahanol ddefnyddiau. Teganau ffatri Stêm-roler tegan a gynhyrchwyd gan Glamtoys Ltd yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, diwedd y 1950au Hyd rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif, yn ddieithriad bron, dim ond pobl gefnog a fedrai fforddio prynu teganau. Ond wrth i ddulliau masgynhyrchu ddatblygu cynhyrchwyd teganau rhatach, gan drawsnewid y farchnad deganau yng Nghymru a mannau eraill. Agorodd llu o ffatrïoedd teganau, ac wrth i'w hymgyrchoedd marchnata a hysbysebu dyfu’n amlycach ac yn ehangach eu dylanwad, roeddent yn llwyddo i gyrraedd plant o bob cefndir cymdeithasol. Yn ganlyniad i hyn, collodd y rhan fwyaf o blant ddiddordeb yn y tegan gwerin syml. Rhoesant y gorau i wneud eu teganau eu hunain, gan gynilo eu ceiniogau yn lle hynny at brynu’r fersiynau lliwgar, addurniadol a mwy ffasiynol oedd i'w gweld yn y siopau. Heddiw mae teganau gwerin a wnaed gartref yn cael eu hystyried yn aml yn wrthrychau braidd yn hen ffasiwn a hynod. Serch hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer gynyddol o grefftwyr wedi troi eu llaw at wneud teganau, efallai yn ymateb i’r mynyddoedd o eitemau ffatri sy’n cael eu mewnforio i Brydain o dramor. Er gwaethaf y bri sydd o hyd ar deganau masnachol, byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod i wrthrychau cartref apêl fwy hirhoedlog, oherwydd pwy allai wadu atyniad diniwed a digyfnewid eitemau fel pyped bys wedi ei weu neu ddoli beg wedi ei phaentio? Mae natur unigryw darnau a wnaed â llaw ac ôl y gofal a’r amynedd sydd wedi mynd i’w creu yn ddi-os yn dweud mwy wrthym am y gwneuthurwr nag y gallai gêm gyfrifiadur neu ddol Barbie a fasgynhyrchwyd ei wneud erioed.
Yfed pwnsh yn y ddeunawfed ganrif Rachel Conroy, 28 Ionawr 2011 Ffigwr 2: Powlen bwnsh gilt arian wedi'i dylunio gan Robert Adam a'i gwneud gan Thomas Heming, Llundain, 1771-2. Yn y 1650au y cafodd pwnsh ei yfed gyntaf ym Mhrydain, tua'r un amser ag y dechreuwyd yfed te, coffi a siocled poeth. Erbyn troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn ddiod hynod boblogaidd. Gwneud pwnsh Cai pwnsh ei wneud drwy ddefnyddio cymysgedd o gynhwysion drud wedi'u mewnforio. Rym neu frandi fyddai'r alcohol gyda siwgr, ffrwythau sitrws, sbeis — siafins nytmeg fel arfer — a dŵr wedi'u hychwanegu. Y Fowlen Bwnsh Cai pwnsh ei weini, gan ddefnyddio lletwad cywrain, o bowlenni mawr i wydrau unigol (Ffigwr 1). Un o'r powlenni pwnsh pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yw'r un a ddyluniwyd gan Robert Adam ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn (Ffigwr 2). Cafodd ei chomisiynu i ddathlu llwyddiant Fop, ceffyl Syr Watkin, yn Rasys Caer a byddai wedi cael ei arddangos mewn lle amlwg ar ddresel ei gartref ffasiynol yn Llundain. Yfwyd pwnsh yn aml yng nghyfarfodydd clybiau a chymdeithasau a gynhaliwyd mewn tafarndai, tai coffi neu dai pwnsh arbennig fel arfer (Ffigwr 3). Dynion yn unig bron fyddai'n mynychu'r rhain. Mae'n debyg bod yfed pwnsh yn arfer hynod gymdeithasol fyddai'n atgyfnerthu perthynas gymdeithasol. Mae llythyr a gyhoeddwyd ym 1736 yn disgrifio hyn yn huawdl: "...gobeithiwn na fydd dim erioed yn rhwystro Dyn rhag yfed Powlen o Bwnsh gyda Chyfaill, dyna un o'r pleserau mwyaf y byddwn yn ei fwynhau yn y Wlad, yn ail i'n llafur. Ffigwr 3: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, tua 1800-1810. Arysgrifiad yn dweud 'B, HAWKINS, SHIP SWAN, LONDON', sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn tafarn neu dy pwnsh. Ffigwr 4: Powlen bwnsh o grochenwaith Delft ag arysgrifiad 'Edward Jones Scoole Master 1751', Lerpwl mae'n debyg, 1751. Ffigwr 5: Ffiol crochenwaith caled mawr gyda gwydro halen, gan Mortlake o bosib, c. 1794-5. Cai powlenni pwnsh eu gwneud i goffau digwyddiadau arbennig; byddent yn cael eu haddurno ag enwau gildiau neu gymdeithasau, neu symbolau gwrywaidd fel llongau. Mae enghraifft ddiddorol yng nghasgliad Amgueddfa Cymru sydd ag arysgrifiad arni yn dweud 'Edward Jones Scoole Master 1751' (Ffigwr 4) a phaentiad o athro yn darllen gyda'i ddisgyblion. Mae'n hawdd meddwl am Edward Jones yn comisiynu gwrthrych mor bersonol neu yn ei dderbyn fel rhodd. Partïon gwyllt ac anwar Yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, roedd poeni mawr am beryglon alcoholiaeth, yn bennaf oherwydd y cyflenwad helaeth a rhad o gin cartref oedd ar gael. Roedd camymddwyn yn cael ei feio'n aml ar yfed pwnsh yn ormodol. Roedd yfed yn ormodol yn gyffredinol yn cael ei gysylltu â dirywiad moesol, a cai partïon pwnsh eu dychanu fel nosweithiau gwyllt ac anwar gan artistiaid y cyfnod. Mae'n debyg daw'r darlun enwocaf o barti pwnsh yw Sgwrs Fodern am Hanner Nos gan William Hogarth, a gyhoeddwyd ym 1732/33. Roedd yn hynod boblogaidd a cyn hir roedd yn cael ei gopïo ar bowlenni pwnsh a llestri eraill a ddefnyddid i yfed a gweini alcohol. (Ffigwr 5). Yfed yn ormodol Mae cofnodion yr Old Bailey yn aml yn cefnogi'r cysylltiad rhwng yfed pwnsh yn ormodol ag ymddygiad anghymdeithasol a throseddol hyd yn oed. Mae hyn yn cynnwys dwyn powlenni pwnsh drud o dafarndai a chartrefi a rhannu powlen o bwnsh gyda dioddefwr cyn eu twyllo. O tua'r 1750au ymlaen, dechreuwyd gweini pwnsh o lestri pwnsh porslen a phriddwaith. Mae ffurf ac addurn y rhain yn debyg iawn i debotau yn aml, ond eu bod yn llawer mwy (Ffigwr 6). Yn wahanol i bowlenni pwnsh agored, roedd llestri pwnsh yn galluogi un gweinydd i reoli'r dogni — fel gyda the. Efallai y byddai pobl wedi ystyried y gweini rheoledig yma yn fwy gwâr a chwaethus na phowlenni pwnsh agored, lle gallai pobl weini eu hunain ac yfed yn ormodol yn hawdd iawn. Roedd poblogrwydd yfed pwnsh ar ei anterth yn nghanol y ddeunawfed ganrif, ond roedd pobl yn dal i'w fwynhau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwnaed powlen bwnsh briddwaith gain ar gyfer John Richardson gan Grochendy Cambrian ym 1845. Ef oedd maer Abertawe'r flwyddyn honno (Ffigwr 7). Mae'n ddiddorol taw comisiynu'r fowlen fel rhodd i'w wŷr newydd-anedig a wnaeth ac mae arfbais Richardson yn addurno'r fowlen. Mae rhan o'r arysgrifiad arni yn tystio i'r mwynhad a gaiff pobl wrth yfed o'r fowlen; 'GAILY STILL OUR MOMENTS ROLL, WHILST WE QUAFF THE FLOWING BOWL'. Ffigwr 6: Llestr pwnsh porslen past meddal, Derby, 1760-2. Ffigwr 7: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, 1845. Llyfryddiaeth: Harvey, Karen. 'Barbarity in a tea-cup? Punch, domesticity and gender in the eighteenth century', Journal of Design History, 21 (3) (2008), tud. 205-21. (anhysbys) 1736 A collection of all the pamphlets that were written pro and con on the British distillery, whilst the act for laying a duty upon the retailers of spirituous liquors, and for licensing the retailers thereof, was depending in Parliament. London. Eighteenth Century Collections Online. Gwefan. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO http://www.oldbaileyonline.org
Pan oedd yfed te yn arfer ffasiynol, drud Rachel Conroy, 25 Mehefin 2010 Ffigur 1: Tebot porslen Tsieineaidd, tua 1700-20. Ffigur 2: Powlen de a soser Dsieineaidd, tua 1760-70. Ffigur 3: Tebot llestri hufen, Crochendy Leeds, tua 1775. Ffigur 4: Powlen drochion, Swydd Stafford, 1740au. Ffigur 5: Manylyn o William Hogarth, 'Industry and Idleness: The Industrious 'Prentice Married', 1747 Ffigur 6: Jwg hufen, porslen Tsieineaidd, tua 1771. Rhan o set o lestri te a wnaed ar gyfer Penry Williams (1714-1781) o Benpont, Aberhonddu. Ffigur 7: Powlen de a soser borslen, Worcester, 1755-8 Ffigur 8: Tegell, stand a lamp sy'n llosgi gwirod gan Robert Watts, 1711-12. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd yfed te yn weithgarwch hynod ffasiynol ymhlith byddigions cefnog. Cafodd te ei fewnforio am y tro cyntaf i Brydain o Tsieina yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg gan yr East India Company. Ar y cychwyn, ei newydd-deb oedd yn apelio a chafodd ei hyrwyddo am ei nodweddion iachusol. Te gwyrdd Y te mwyaf cyffredin oedd bohea, math o de du, ond roedd te gwyrdd yn boblogaidd hefyd. Ar y cychwyn, yfwyd y te yn wan heb laeth, gan ddilyn traddodiad Tsieina. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd llaeth neu hufen a siwgr. Tebotau a chistiau te (dan glo) Dim ond y bobl fwyaf cyfoethog oedd yn gallu fforddio te. Roedd yn cael ei gadw mewn cistiau te dan glo a oedd yn cael eu rheoli gan foneddiges y tŷ. Roedd morwynion domestig yn derbyn lwfans te fel rhan o'u cyflog. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, bu cynnydd aruthrol mewn nwyddau'n ymwneud â the, ac mae sawl enghraifft dda yn y casgliad celfyddyd gymhwysol yn Amgueddfa Cymru. Ar y cychwyn, gwnaed y nwyddau hyn o ddeunyddiau drud iawn, yn enwedig arian a phorslen wedi'i fewnforio o Tsieina (ffigurau 1 a 2). Yn ddiweddarach, wrth i cerameg a phlât arian rhatach gael eu cynhyrchu, dechreuodd y dosbarth canol efelychu arferion y bobl gefnog (ffigur 3). Daeth yfed te yn fwy cyffredin tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Yn dilyn dileu dyletswyddau mewnforio ym 1784, daeth te yn rhan bwysig o ddeiet pobl dlawd. Te prynhawn Roedd difyrru ffrindiau trwy gynnig te prynhawn yn rhan bwysig o fywydau menywod. Roedd dewis gwrthrychau ar gyfer y bwrdd te yn hollbwysig. Wrth ymweld â Lloegr ym 1784, nododd y Duc de Rochefoucauld fod yfed te yn rhoi cyfle i bobl gyfoethog ddangos eu gwychder trwy debotau, cwpanau ac ati (dyfynnir yn Clifford 1999: 161). Disgwyliwyd i westeion fod yn foesgar ac ymddwyn mewn ffordd arbennig, gan gynnwys siarad am bynciau boneddigaidd fel y celfyddydau, theatr a cherddoriaeth. Powlenni te Am y rhan fwyaf o'r ddeunawfed ganrif, yfwyd te yn y dull Tsieineaidd, o bowlen heb ddolen. Galwyd y powlenni hyn yn "ddysglau te" neu "basons". Mae'r bowlen drochion fendigedig hon, a ddefnyddiwyd wrth y bwrdd i rinsio gwaddodion o bowlenni te, yn dangos tair menyw yn mwynhau te gyda'i gilydd (ffigur 4). Fel arfer, dangosir y powlenni hyn yn cael eu dal gyda'r bysedd ar yr ymyl a'r bawd o dan y gwaelod (ffigur 5). Allforion o Tsieina Roedd powlenni a thebotau porslen yn cael eu hallforio gyda'r te. Roedd eu tryleuedd a'u harwynebau gwynion yn apelio'n arw at bobl, ac roeddent yn cael eu casglu'n frwd. Dechreuodd cynhyrchwyr porslen Tsieina wneud gwrthrychau'n arbennig ar gyfer y farchnad Ewropeaidd, megis standiau tebotau, jygiau llaeth, basnau siwgr, hambyrddau llwyau a phowlenni trochion (ffigur 6). Ar ôl iddyn nhw ddeall y gyfrinach o gynhyrchu porslen, dechreuodd ffatrïoedd yn Lloegr ac ar y Cyfandir gynhyrchu llestri te Tsieineaidd (ffigur 7). Tegellau ac yrnau Roedd tebotau'n cael eu llenwi gan degellau dŵr poeth ar standiau crand neu fersiynau llai ar fyrddau, gyda llosgwyr i gadw'r dŵr yn boeth (ffigur 8). Tua'r 1760au, cafodd y tegellau eu disodli gan yrnau te a oedd yn cael eu twymo gan losgwyr golosg ac, o'r 1770au ymlaen, barrau haearn a oedd yn cael eu gosod mewn "llawes" yn yr wrn (ffigur 9). Roedd y "ceginau te" neu'r "ffynhonnau te" hyn yn galluogi pobl i helpu eu hunain i'r te ar achlysuron llai ffurfiol fel brecwast. Roedd gan yr enghreifftiau mwyaf coeth yrnau ychwanegol ar gyfer coffi a dŵr poeth. Dirywiad moesol a chorfforol Roedd agweddau tuag at yfed te yn y ddeunawfed ganrif yn gymysg iawn. Cafodd yr obsesiwn o gasglu llestri te ei feirniadu gan sylwebwyr cymdeithasol, gyda menywod yn cael eu targedu amlaf. Yn ogystal, honwyd yn aml nad oedd te prynhawn yn ddim mwy na chyfle i fenywod hel clecs neu ymffrostio. Cyhoeddwyd cerdd ddychanol, The Tea-Table, gan 'Moses Oldfashion' yn Mist's Weekly Journal ym 1722: M"...Chief Seat of Slander! Ever there we see Thick scandal circulate with right Bohea. There, source of black'ning Falshoods! Mint of Lies! Each Dame th'Improvements of her Talent tries, And at each Sip a Lady's Honour dies". Er y credwyd ar y cychwyn bod te yn llesol i iechyd mewn sawl ffordd, dechreuodd rhai sylwebwyr cymdeithasol boeni y gallai ei boblogrwydd arwain at ddirywiad corfforol. Ym 1753, aeth Mr Andree ati i ddisgrifio peryglon yfed gormod o de, gan nodi ei fod yn niweidiol iawn, yn gwaethygu epilepsi ac yn achosi pyliau gorffwyll. Aeth ymlaen i adrodd stori merch a oedd wedi bod yn bwyta te am rai wythnosau, gan achosi parlys ar ei hwyneb a chonfylsiynau (ffigur 10). Yn ffodus, ni effeithiodd y gwrthwynebiadau hyn ar chwant pobl Prydain am de, ac mae wedi parhau'n rhan bwysig o'n bywydau bob dydd hyd heddiw. Er nad yw yfed te yn arfer mor ffurfiol heddiw ag ydoedd yn y ddeunawfed ganrif, mae'n parhau i gael ei fwynhau a'i rannu gan filiynau o bobl bob dydd. Awdur yr erthygl: Rachel Conroy: Cynorthwy-ydd Curadurol - Celfyddyd Gymhwysol Cyfeiriadau Andree, John. Cases of the epilepsy, Hysteric Fits, and St. Vitus's Dance, with the process of cure: interspersed with practical observations. To which are added, cases of the bite of a mad dog, and a method that has been found successful. The second edition, with emendations and additions in the introduction, and some new cases and Inspections of Dead Bodies (1753). Llundain: argraffwyd ar gyfer W. Meadows a J. Clarke, yn Cornhill. Eighteenth Century Collections Online. Gwe. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO Clifford, Helen. 'A commerce with things: the value of precious metalwork in early modern England', yn M. Berg a H. Clifford (gol.) (1999) Consumers and Luxury: Consumer Culture in Europe 1650-1850, tt. 147-169. Manceinion: Manchester University Press. Oldfashion, Moses. 'The Tea-Table', yn (awdur anhysbys) A collection of miscellany letters, selected out of Mist's Weekly Journal (1722): 224-227. Llundain: argraffwyd ar gyfer N. Mist, yn Great Carter-Lane. Eighteenth Century Collections Online. Gwe. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO Ffigur 9: Wrn te gan Paul Storr, 1805-6. Ffigur 10: Jar neu dun te, Abertawe, 1783.
Bando - Gêm y ffon gam 8 Chwefror 2010 Gêm y ffon gam Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-69b881a78b00f" /> Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845 Hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu bando yn gêm tîm boblogaidd trwy Gymru, ac yn arbennig felly yn Sir Forgannwg. Yn wir ym 1797 fe nododd un teithiwr rhwng y Bont-faen a’r Pîl mor brin oedd coed ynn a choed llwyfen yno, a hynny oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio i wneud ffyn bando. Roedd John Elias (1774-1841), un o bregethwyr enwog y Methodistiaid Calfinaidd o Bwllheli, Sir Gaernarfon, a’r gwleidydd David Lloyd George (1863-1945), a fagwyd yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, ill dau yn chwaraewyr brwd yn wŷr ifainc. Roedd bando yn debyg i ryw ffurf gynnar ar hoci, gan mai nod y gêm oedd taro pêl gyda ffon grom o’r enw ‘bando’ ar draws maes y chwarae cyn ceisio ei gyrru i gôl y gwrthwynebwyr. Daw’r term ‘bando’ o’r gair Ffrangeg bande, sy’n golygu ‘ffon gam’. Gwnaed y ffyn yma o wahanol fathau o bren caled lleol, a byddai’r bêl, a oedd yn debyg o ran ei maint i bêl hoci heddiw, yn aml yn cael ei naddu o bren celyn neu focs. Medd-dod, trais a thranc y gêm Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-69b881a78b00f" /> Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845 Yn draddodiadol byddai’r gornestau hyn yn cael eu cynnal rhwng gwahanol blwyfi. Byddai’r chwaraewyr yn cymryd y rhain gymaint o ddifrif nes eu bod, weithiau, hyd yn oed yn hyfforddi o flaen llaw. Er mai dynion a fyddai’n chwarae bando fel arfer, byddai merched yn gwylio’r gêm yn frwd. Yn wir, ceir tystiolaeth am un ornest fando a chwaraewyd ym Mro Morgannwg lle cuddiodd gwraig un o’r chwaraewyr y bêl o dan ei phais nes i’w gŵr ddod heibio i’w nôl. Bydda’r gemau’n amrywio yn ôl yr ardal, oherwydd nid oedd unrhyw reolau safonol, dim cyfnod penodol i’r chwarae na chyfyngiadau ar y nifer oedd i gymryd rhan. Roedd trais yn gyffredin, a hyd yn oed os oedd dyfarnwr yn bresennol nid oedd y chwaraewyr yn brin o daro eu gwrthwynebwyr gyda’u ffyn. Yn aml byddai’r gwylwyr yn gosod betiau ar y sgôr derfynol, a byddai’r tafarnwyr lleol yn sicrhau’n ddi-os bod digon o ddiod feddwol ar gael. Y cyfuniad peryglus hwn o gamblo, y ddiod ac ymddygiad aflywodraethus ar y cae ac oddi arno fu’n gyfrifol yn y pen draw am dranc y gêm. Bois Bando Margam Ffurfiwyd The First Glamorgan Rifle Volunteers ym Margam, Port Talbot yn 1859. Mabwysiadwyd y bathodyn hwn, sy'n dangos dwy ffon bando, ganddynt yn 1875. Yn ôl Edward Matthews (1813-92) o Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, roedd y gêm mor boblogaidd ym Margam, gorllewin Morgannwg fel na fyddai neb dros ei flwydd oed yn fodlon cael ei weld heb ffon fando, ac ar adegau byddai cymaint â 3,000 o wylwyr yn mynychu’r gemau. Yn wir, erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bando’n bennaf gysylltiedig â Sir Forgannwg ac yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ysbrydolodd amlygrwydd y gêm ym Margam faled o’r enw ‘The Margam Bando Boys’ a ddathlai fedrusrwydd y tîm hyglod hwn. Yn ôl y faled, roedd gemau tîm eraill yn ddim o’u cymharu â bando: Due praises I'll bestow And all the world shall know That Margam valour shall keep its colour When Kenfig's waters flow Our master, straight and tall Is foremost with the ball; He is, we know it, and must allow it, The fastest man of all Let cricket players blame, And seek to slight our fame, Their bat and wicket can never lick it, This ancient manly game Our fame shall always stand Throughout Britannia's land; What men can beat us? Who dare meet us? Upon old Kenfig's sand? Should Frenchmen raise a voice To crush our peaceful joys, They'll get by storming a precious warming From Margam bando boys Like lions we'll advance To charge the sons of France; The Straits of Dover we'll ferry over And make the traitors dance Napoleon shall repent, If war is his intent; He'll sadly rue it if he'll pursue it; Proud Paris shall lament Bold Britons rule the main, And every hill and plain, From every nation throughout creation Our rights we will maintain Chwaraewyd bando yn ardal Aberafan hyd chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1876 bu farw Theodore Talbot, capten y Margam Bando Boys a’r etifedd i ystâd Margam, tua’r un adeg ag y sefydlwyd gweithiau tun Mansel, Avon Vale, a Thai-bach. Disodlwyd bando mewn byr o dro, wrth i’r gweithwyr tun droi at y gêm newydd honno, rygbi. Datblygodd y syniad o faes chwarae penodol yn ystod y 1870au, ac wrth i glybiau pwrpasol gael eu sefydlu crewyd caeau chwarae ar gyfer y timau a’u cefnogwyr. Roedd sefydlu cyrff i reoli gwahanol chwaraeon, megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Football Association of Wales) ym 1876 ac Undeb Rygbi Cymru (Welsh Rugby Union) ym 1881, yn arwydd o oes newydd lle'r oedd chwaraeon o dan reolaeth ganolog, ac felly fe gollwyd unrhyw amrywiadau rhanbarthol.