Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Elen Phillips, 2 Mawrth 2020 Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Casgliadau Arlein: Gorchudd gwely clytwaith Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i dros 200 o gwiltiau a chlytwaith. Mae’r casgliad amrywiol a phwysig hwn yn cynnwys trawstoriad o gynlluniau a thechnegau, ac yn cynrychioli bron i 300 mlynedd o’r grefft yng Nghymru. Un o uchafbwyntiau’r casgliad yw Cwilt y Teiliwr – gorchudd gwely clytwaith a wnaed gan James Williams, prif deiliwr milwrol o Wrecsam. Mae cynllun y cwilt yn brawf o ddawn greadigol y teiliwr, yn ogystal â’i werthfawrogiad o orchestion peirianegol ei ddydd. Yn y gornel uchaf ar y chwith, mae Pont Menai a gwblhawyd gan Thomas Telford ym 1826. Mae traphont Cefn ger Wrecsam yng nghanol y darn, a phagoda Tsieineaidd yn y gornel uchaf. Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd – arch Noa, Jona a’r morfil, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid. Gwneir cwiltiau clytwaith yn aml drwy wnïo defnydd sydd dros ben, er enghraifft hen grysau neu siwtiau. Gwnaeth James Williams ei gwilt drwy ailgylchu sborion gwlân – defnydd lifrau milwrol mae’n debyg. Yn syfrdanol, mae'r cwilt cyfan yn cynnwys 4,525 o ddarnau mân, oll wedi'u gwnïo at ei gilydd o’r cefn gyda thrawsbwythau. Gelwir y math hwn o waith yn glytwaith mewnosod. Mae’n dechneg sy’n gofyn am fedr arbennig â’r nodwydd a brethyn sy’n ddigon trwchus i ddygymod â’r trawsbwythau. O ganlyniad, mae’r engreifftiau sydd i’w canfod mewn casgliadau amgueddfeydd yn dueddol o fod yn gysylltiedig â theilwriaid proffesiynol. Yn ôl hanes teuluol, bu James Williams wrthi am ddegawd, rhwng 1842 a 1852, yn pwytho’r cwilt yn ystod ei oriau hamdden. Ymhen dim, daeth galw i’w arddangos yn gyhoeddus. Ym 1876 dangoswyd y cwilt mewn arddangosfa fawr o ‘drysorau celfyddyd’ (Art Treasures Exhibition) a gynhaliwyd yn Wrecsam i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach, ym 1925 bu’r cwilt ar arddangos yn Wembley, ac yn Wrecsam unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ym 1933. Mae tystiolaeth o gyfrifiadau ardal Wrecsam yn dangos mai brodor o’r dref oedd James Williams. Fe’i ganed ym 1818 ac erbyn y 1850au roedd ganddo weithdy teilwra yn ei gartref yn College Street, ger Eglwys y Plwyf. Bu farw ym 1895 ac fe etifeddwyd y busnes gan ei fab. Ym 1935, daeth y cwilt i feddiant yr Amgueddfa drwy ei ŵyr, Richard Williams, a oedd hefyd yn deiliwr fel ei dad a’i daid. Meddai ar y pryd: “it has always been my wish that the quilt should be sent to [the] National Museum of Wales so as my fellow countrymen should have the opportunity to admire a work of art that today could not be done if you were to pay the most skilful craftsman £1 a minute to do”.
Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Hanes Trist Esyllwg Ceri Thompson, 1 Mawrth 2017 ‘The most beautiful work of art’ - Cadair Eisteddfod Yn y Rhondda Fawr ar Ddydd Gwener y Groglith, Ebrill y 10fed 1903, cynhaliwyd pumed Eisteddfod Gadeiriol Blaenclydach yng Nghapel Gosen y pentref. Roedd 17 yn cystadlu am wobr o gadair (‘darn eithriadol o hardd o gelf’ yn ôl y Rhondda Leader) a £1.11.6d. Rhoddwyd y gadair gan Mr Joseph Jones o Flaenclydach. Y dasg oedd cyfansoddi 120 llinell ar y testun ‘Adgof’ (hen sillafiad o atgof) a'r beirniad oedd Ap Ionawr o Lansamlet. Enillydd y gystadleuaeth oedd ‘Esyllwg’ (hen enw ar dde-ddwyrain Cymru) – enw barddol Thomas Jones, glöwr 30 oed o Aberpennar. Cyhoeddodd yr Aberdare Leader fod bardd cadeiriog cyntaf Aberpennar yn ‘ŵr ifanc gyda gyrfa addawol’, cyn mynd ymlaen i sôn fod bwriad i ‘ailadrodd seremoni’r cadeirio yn Neuadd Bethania (Aberpennar) yn ystod y mis nesaf’. Yn drist iawn, ni chynhaliwyd y seremoni honno fyth. Ganwyd tad Thomas, David Thomas Jones, ym Mrynaman ym 1846, a daeth i weithio yng Nglofa Navigation Nixon yn Aberpennar. Dilynodd ‘Esyllwg’ ei dad i’r lofa ond roedd hefyd yn adnabyddus fel athro dosbarthiadau Cymraeg yn Adran Wyddoniaeth a Chelf, Ysgol Barhad Aberpennar. Roedd hefyd yn aelod ffyddlon o Gapel Annibynwyr Cymraeg Bethania ac yn chwarae gyda Band Llinynnol Caegarw. Capel Bethania, Aberpennar Capel Soar, Aberpennar Carreg goffa Thomas Jones Thomas Jones Damwain Esyllwg Ar Fai y 4ydd, gwta fis wedi’i lwyddiant yn yr Eisteddfod, roedd Thomas yn gweithio ar wythïen 2’9” Glofa Ddofn Dyffryn pan laddwyd ef mewn cwymp. Mae Adroddiad Arolygydd Glofeydd Ei Fawrhydi ar gyfer 1903 yn disgrifio’r digwyddiad fel hyn: “Fall of roof: no.42, Thomas Jones, 30, collier, 4 May 1903, 12.30pm, Deep Duffryn Colliery, Glamorgan, Nixon’s Navigation Co Ltd. “At face, cliff, 10 ft. by 4ft 8 ins. by 44 ins. thick. Deceased wanted to get this stone down, so commenced knocking the props out from under it, and, when he knocked out the last, the fall occurred. Its falling so suddenly was due to a “false slip” in the roof, which could not be seen previous to the fall. Two feet nine seam.” Cyhoeddwyd y newyddion yn yr Aberdare Leader dan y pennawd: “Esyllwg’s Sad Fate”, a disgrifiwyd Thomas fel ‘pêr ganiedydd Pennar’. Daw’r erthygl i ben fel hyn: “The blighting of a budding genius by the grim hand of death is always distressing, but the tragic circumstances make the demise of our friend doubly pathetic. His relatives are the objects of the most sincere sympathy.” Ym 1904 cyflwynodd chwaer Thomas, Claudia, garreg goffa iddo ar wal allanol capel newydd Soar ar Stryd Fawr, Aberpennar. Mae’r capel yn dal i sefyll, er ei fod wedi cau, ond mae’r garreg wedi gwisgo cymaint nes ei bod bron yn amhosibl i’w darllen. Mae’r gadair nawr yn rhan o gasgliad glofaol Amgueddfa Cymru. Pryddest Goffadwriaethol Pryddest Goffadwriaethol ô'r angladd.
Taith Baton y Frenhines ar gyfer Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad 1958 Dr Emma Lile, 21 Mai 2014 Taith Baton y Frenhines ar gyfer Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad 1958. Neges y Frenhines, gyda’r llofnod ‘Elizabeth R’ a’r dyddiad 14 Gorffennaf 1958, a deithiodd o Balas Buckingham i Gaerdydd gyda’r Baton. Llwybr taith neges y Frenhines ym 1958. (© Commonwealth Games Federation) Digwyddiad rhyngwladol, llawn lliw a chyffro yw Taith Baton y Frenhines drwy wledydd y Gymanwlad, ond yng Nghymru fach y dechreuodd ar ei thaith. Mae’n ddathliad gweledol o undod ac amrywiaeth gwledydd y Gymanwlad – arwydd o rym chwaraeon i uno pobl o bob lliw a llun sydd wedi dod yn ragarweiniad cyfarwydd a phoblogaidd i agoriad swyddogol y Gemau. Ers cynnal Gemau’r Ymerodraeth am y tro cyntaf ym 1930, mae Gemau’r Gymanwlad yn ymfalchïo yn ei hymrwymiad i’r ddelfryd Olympaidd o gyfeillgarwch, undod a chwarae teg, ac yn hybu perthynas dda rhwng gwledydd y Gymanwlad. Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad oedd yr enw swyddogol ym 1958, gyda Chaerdydd yn llwyfannu’r digwyddiad rhwng 18 a 26 Gorffennaf, a dyma’r tro cyntaf i Daith Baton y Frenhines fel rhan o’r ymgorfforiad o heddwch a chytgord trwy gyfrwng chwaraeon. I gofio llwyddiant gemau’r brifddinas bydd y baton gwreiddiol yn rhan o’r seremoni eleni, wrth i Daith Glasgow 2014 gyrraedd Caerdydd ar 24 Mai ar y cyntaf o saith diwrnod yng Nghymru. Y baton Er bod gwreiddyn y syniad yn aneglur o hyd, credir taw yn niwedd y 1950au y dechreuodd Pwyllgor Trefnu’r Gemau ystyried cynnal taith faton. Penodwyd cyn swyddog o’r Llynges frenhinol yn Drefnydd Anrhydeddus y digwyddiad – yr Is Gapten Bill Collins a gydlynodd Taith y Fflam Olympaidd yn Llundain ym 1948. Dewiswyd tîm o drefnwyr lleol glew gan gymdeithas athletau pob gwlad fyddai’n croesawu’r baton i gynorthwyo Collins yn ei waith. Dyluniwyd baton gilt arian ac enamel 1958 gan y cyn filwr a’r gemydd o Gaerdydd, y Cyrnol Roy Crouch, Cadeirydd Pwyllgor Medalau’r Gemau. Yn addurn ar y baton 40cm o hyd a 4cm o ddiamedr roedd eiconau Cymreig; draig goch, cennin Pedr a chennin; yn ogystal â choron i ddynodi’r cyswllt brenhinol. Arysgrifiwyd y geiriau ‘VI British Empire and Commonwealth Games, Wales 1958’ ar y tiwb cau, a gynhyrchwyd gan y gofaint arian Turner and Simpson, Birmingham. Taith Baton y Frenhines ar gyfer Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad 1958. Y daith gyntaf Dr Roger Bannister, deiliad record y ras filltir yng Ngemau’r Gymanwlad ar y pryd, yn gadael Palas Buckingham gyda’r Baton i ddechrau’r daith. Gydag ef mae ei gyd bencampwyr o’r gemau hynny, Chris Chataway (chwith) a Peter Driver. (© Commonwealth Games Federation) Ar 14 Gorffennaf 1958 gadawodd y baton sgwâr Palas Buckingham, cartref y Frenhines Elisabeth II a Phen y Gymanwlad, cyn teithio drwy nifer o siroedd Lloegr a phob un o dair sir ar ddeg Cymru ar ei ffordd i Gaerdydd. O ganlyniad i salwch, nid oedd y Frenhines yn bresennol i drosglwyddo’i neges i’r rhedwyr cyntaf – Dr Roger Bannister, y gŵr cyntaf i redeg milltir mewn llai na 4 munud, a phencampwyr eraill Gemau 1954 Chris Chataway a Peter Driver. Yr Is Gapten Collins a safodd yn y blwch a rhoi’r neges yn y baton. Fel nad oedd angen allwedd, roedd caead sbring ar un pen ond fel na fyddai’r baton yn cael niwed ar y daith symudwyd y neges i replica metel ar ôl yr ail gymal, oedd â chlo er diogelwch. Cafodd y replica ei gyfnewid am y baton arian seremonïol ar gyfer y cymal olaf er mwyn i’r rhedwr gario’r neges yn ddiogel i’r stadiwm. Rhedodd 664 o athletwyr, gan gynnwys 32 o fechgyn ysgol, ar y daith o dros 600 milltir dros 4 diwrnod. Daw’r cyfieithiad isod o’r gyfrol The Story of the Sixth British Empire and Commonwealth Games gan Clive Williams (2008): Cai un rhedwr o bob clwb, catrawd ac ysgol ym mhob sir ei ddewis i redeg cymal. Byddai’r athletwyr hŷn yn rhedeg dwy filltir a’r plant yn rhedeg milltir. Gyda’r rhedeg yn parhau drwy’r dydd a’r nos byddai rhedwyr hŷn yn cael eu defnyddio, lle bo modd, pan fo’r traffig yn drwm neu rhwng hanner nos a 6am. Pasiodd y neges drwy Langollen, Wrecsam, y Fflint, Llandudno a Chaernarfon cyn troi tua’r de drwy Ddolgellau, Aberystwyth, Aberteifi a Hwlffordd. Oherwydd bod y boblogaeth yn y de yn uwch, dyma’r Baton yn gwau ei ffordd drwy Gaerfyrddin, Llanelli, Abertawe a Phen-y-bont a thrwy drefi’r cymoedd yn Aberdâr, Brynmawr a’r Fenni, ac ymweld â Chasnewydd cyn troi am Gaerdydd. Byddai car swyddogol yn dilyn pob rhedwr i’w warchod rhag cwmni ceir neu feiciau modur answyddogol, i oleuo’r ffordd yn y nos, ac i alluogi’r trefnwyr i gadw llygad ar yr amserlen. Cadwyd y cyflymdra rhwng 6.5 a 7.5 munud i bob milltir i sicrhau na fyddai’r rhedwyr yn rasio a galluogi’r torfeydd i weld y baton wrth iddo gael ei drosglwyddo. Ken Jones, y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol a’r gwibiwr Olympaidd yn cyflwyno’r Baton i Ddug Caeredin yn y seremoni agoriadol ym Mharc yr Arfau. (© Commonwealth Games Federation) Y seremoni agoriadol 'A Quick Laugh' gan Geoffrey Evans, Western Mail, 18 Gorffennaf 1958. Trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru I ffanffer trwmped a saliwt chwe gwn, cyrhaeddodd y rhedwr olaf Barc yr Arfau am 6.33pm ar ddydd Gwener 18 Gorffennaf. Roedd enw’r athletwr yn gyfrinach fawr a dyma bonllefau cymeradwyaeth y dorf o 40,000 yn croesawu Ken Jones o Gasnewydd, y cyn chwaraewr rygbi 36 oed ac enillydd medal arian yn y ras gyfnewid gyflym yn y gemau Olympaidd. Mewn fest goch â bathodyn Cymru arni a siorts gwyn, rhedodd drwy fynedfa’r cystadleuwyr ac unwaith o amgylch y trac lludw yn dal y baton uwch ei ben. Arhosodd o flaen Dug Caeredin, Llywydd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, a phasio’r baton iddo. Yn ôl y sôn gwaeddodd un llais smala o’r dorf ar y cyn chwaraewr rygbi “Nice pass Ken”. Darllenodd y Dug neges y Frenhines i’r dorf eiddgar: Estynnaf groeso cynnes a phob dymuniad da i’r holl athletwyr sydd wedi ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer 6ed Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad. Rwyf wrth fy modd bod cymaint o wledydd y Gymanwlad wedi anfon timau i Gymru i gystadlu yn y Gemau yma. Mae’r nifer yn uwch nag erioed a dros dair gwaith yn fwy na’r gystadleuaeth gyntaf yn Hamilton ym 1930. Croesawn y prawf hwn o’r gwerth cynyddol a roddir ar gryfder a sgìl yn natblygiad y dyn cyflawn, iach o gorff ac iach o feddwl. Pleser personol hefyd yw gwybod bod cymaint o aelodau teulu’r Gymanwlad yn cyfarfod ar gyfer cystadlu ac ymryson cyfeillgar. Gobeithio y bydd cyfeillgarwch parhaol yn deillio o’r cyfarfod mawr hwn o athletwyr a gwylwyr, ac y byddwch chi i gyd yn dychwelyd wedi ennyn dealltwriaeth well o’n Cymanwlad. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â chi ddiwedd yr wythnos nesaf. Gyda hyn, agorwyd y Gemau o’r diwedd, gyda Chaerdydd yn croesawu 1,122 o athletwyr o 35 gwlad i gystadlu mewn athletau, bocsio, beicio, ffensio, bowls, rhwyfo, nofio a phlymio, codi pwysau a reslo. Yn ogystal â Pharc yr Arfau, lle cynhaliwyd y seremonïau agoriadol a chlo a’r cystadlaethau athletau, cynhaliwyd y nofio yn yr Empire Pool (a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer y Gemau), y bocsio yng Ngerddi Soffia, y beicio yn Stadiwm Maendy a’r rhwyfo ar Lyn Padarn, Llanberis. Enillydd unig fedal aur Cymru oedd y bocsiwr pwysau bantam Howard Winstone, ond enillodd y tîm cartref dair medal arian a saith medal efydd. Y seremoni glo Bu’r Gemau yn llwyddiant mawr ac roedd y seremoni glo ar 26 Gorffennaf yn achlysur hanesyddol. Nid oedd y Frenhines eto yn bresennol o ganlyniad i salwch, a dyma hi’n recordio neges i’r dorf yn datgan ei bod am enwi ei mab, Charles, yn Dywysog Cymru ar y diwrnod. Er taw hi yw’r wlad leiaf erioed i lwyfannu’r Gemau, trefnwyd gwledd o chwaraeon yn ddiffwdan oedd yn llwyfan haeddiannol ar gyfer y dathliad o gampau, grym a gwrhydri mabolgampwyr y byd. Wedi cloi Gemau 1958 cynigiwyd y Baton yn rhodd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan y Pwyllgor Trefnu, ar ran y Frenhines. Fe’i cadwyd byth er hynny yn yr Adran Gelf ynghyd â’r neges frenhinol, yn waddol weledol un o wyliau chwaraeon pwysicaf Cymru. Diolch i Chris Jenkins, Prif Weithredwr, Cyngor Gemau’r Gymanwlad dros Gymru, a Clare Ewing, Swyddog Digwyddiadau, Chwaraeon Cymru, am eu cymorth caredig.
Posteri Rheilffyrdd Mark Etheridge, 4 Tachwedd 2013 Posteri Rheilffordd yng Ngorsaf Machynlleth, tua 1930 Posteri Rheilffordd yng Ngorsaf Machynlleth, tua 1930 Mae posteri rheilffyrdd yn weithiau celf lliwgar sy'n adlewyrchu cyfnod eu cynhyrchu. Mae casgliad Amgueddfa Cymru'n cynnwys tua 60 o enghreifftiau, ac mae'r rhain yn gynrychiolaeth dda o'r mathau o bosteri oedd yn cael eu cynhyrchu a'u harddangos ledled Cymru Roedden nhw'n nodwedd gyfarwydd wrth deithio ar y rheilffordd, i'w gweld mewn gorsafoedd, swyddfeydd tocynnau ac ar hysbysfyrddau ar y platfform. Fe'u defnyddiwyd i ddenu'r cyhoedd i deithio ar y rheilffordd a dianc o'u bywyd bob dydd. Yn gyffredinol, roedden nhw'n cyflwyno lluniau delfrydol o drefi gwyliau fel Dinbych-y-pysgod ac Aberystwyth; trefi hanesyddol fel Caernarfon; a chefn gwlad ac arfordir y gogledd, Sir Benfro a Gŵyr. Wedi dyfodiad y rheilffyrdd, roedd pobl yn gallu cyrraedd y mannau hyn yn hawdd. Yn wir, dywedir yn aml mai'r rheilffordd a ddyfeisiodd y 'gwyliau pecyn'. Ym mlynyddoedd cynnar y rheilffyrdd roedd hysbysebu'n digwydd ar ffurf taflenni syml a hysbyslenni bach yn bennaf. Ond datblygodd y rhain i fod yn fwy cywrain, a chafwyd chwyldro mewn argraffu posteri gyda gwelliannau mewn lithograffi lliw ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wrth i'r poster lliw ddod yn rhatach i'w gynhyrchu. Er bod posteri rheilffyrdd wedi'u defnyddio ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd eu hoes aur rhwng 1923 (pan sefydlwyd pedwar cwmni mawr, y Great Western Railway; Southern Railway; London, Midland & Scottish a'r London & North Eastern Railway) a 1947, pan wladolwyd y rheilffyrdd. Fodd bynnag, mae gan Amgueddfa Cymru enghreifftiau lu o bosteri rheilffyrdd a gynhyrchwyd yn y 1950au a'r 60au sydd yr un mor drawiadol a diddorol, a'r un mor lliwgar a llawen. Mae rhai posteri'n cyfuno lluniau a sloganau. Un o'r rhai enwocaf yw llun John Hassall o bysgotwr llawen yn sgipio ar y traeth, gyda'r slogan "Skegness is SO Bracing". Datblygodd y pysgotwr llawen hwn yn fasgot i Skegness a chredir ei fod wedi cyfrannu at lwyddiant y dref fel cyrchfan wyliau. Mae'r poster G.W.R. gan John Hassall yn ein casgliad, sy'n dyddio'n ôl i tua 1925, yn hysbysebu Aberdaugleddau, ac yn dangos pysgotwr a bachgen yn gafael mewn pysgodyn gyda'r slogan"Milford Haven – where fish comes from." Mae casgliad Amgueddfa Cymru'n cynnwys tua 60 o enghreifftiau, ac mae'r rhain yn gynrychiolaeth dda o'r mathau o bosteri oedd yn cael eu cynhyrchu a'u harddangos ledled Cymru. Mae'r enghreifftiau'n amrywio o ran dyddiad o tua 1914 i'r 1960au, gyda llawer iawn o enghreifftiau o'r 1905au a'r 60au. Datblygodd pob cwmni rheilffordd ei arddull unigryw ei hun, ac roedd pob un yn defnyddio artistiaid posteri gorau'r dydd. Mae ein casgliad yn cynnwys enghreifftiau rhagorol gan Norman Wilkinson, Charles Pears a John Hassall. Casgliadau'r Amgueddfa Gallwch weld detholiad o'r posteri hyn yn ein cronfa ddata casgliadau, Delweddau Diwydiant. Llyfryddiaeth Happy as a Sand-Boy Early Railway Posters gan Beverly Cole a Richard Durack (1990) Railway Posters 1923-1947 gan Beverly Cole a Richard Durack (1992).