Fy mhrofiad: Gwirfoddoli Gofal Casgliadau ar draws yr Amgueddfa

Anna Watson - Gwirfoddolwr Gofal Casgliadau , 30 Medi 2025

Fy enw i yw Anna Watson ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru ers mis Tachwedd 2024. Rwy'n gwirfoddoli bob wythnos fel cynorthwy-ydd gofal casgliadau yn yr adran gadwraeth. Rydw i wedi mwynhau'r profiad yn aruthrol gan fod pob wythnos yn wahanol, felly rydw i bob amser yn dysgu rhywbeth newydd ac yn datblygu fy sgiliau. Dechreuais y rôl wirfoddoli hon ar ôl gorffen fy ngradd meistr mewn Gofal Casgliadau gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae'r cyfle hwn wedi bod yn wych er mwyn rhoi'r sgiliau a gefais o'r cwrs hwnnw ar waith. Hyd yn hyn, rydw i wedi helpu gyda chynnal a chadw arddangosfeydd yn yr orielau celf a'r adran hanes natur; cynnal a chadw microhinsawdd yn yr adran archaeoleg; archwiliadau o'r casgliadau entomoleg ac wedi helpu i lanhau ac adleoli'r storfa hylif (fel y gwelwch yn y llun)! Mae'r cyfle i weithio mewn sawl adran a chwrdd â chymaint o wahanol guraduron, cadwraethwyr a thechnegwyr sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd wedi bod yn amhrisiadwy. Bob wythnos rwy'n gyffrous i weld beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf.

Hwylio i Bennod Newydd: Ail-ddychmygu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Nicole Deufel, 25 Medi 2025

Yn gynharach eleni, cymerais y llyw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac wrth i ni gyrraedd yr Hydref mae eisoes yn teimlo fel pe baem yn dal y gwynt yn ein hwyliau. O’r diwrnod cyntaf, cefais fy ysbrydoli gan angerdd ac arbenigedd ein tîm, sy’n caru straeon rhyfeddol ein casgliadau. Mae eu mewnwelediadau, ynghyd â’r croeso cynnes a gefais gan Abertawe ei hun, wedi fy argyhoeddi o un peth: bod gan yr amgueddfa yma y potensial i fod yn gyrchfan sy’n synnu, yn swyno ac yn cysylltu pobl mewn ffyrdd newydd. 

Angori Ein Stori

Un o’r heriau cyntaf yr ydym yn eu hwynebu yw sut rydym yn adrodd ein stori. Mae ymwelwyr yn aml yn cyrraedd heb wybod ble dylai eu taith ddechrau. Gyda thair mynedfa wahanol a llwybrau troellog, mae’n hawdd colli’ch ffordd. Ychwanegwch at hynny’r disgwyliad (ar sail ein henw a’n lleoliad) fod yr amgueddfa’n ymwneud â’r môr a straeon morwrol Cymru, ac mae’n hawdd gweld pam y gall rhai ymwelwyr adael yn ddryslyd. 

Mae ymwelwyr hefyd yn aml yn chwilfrydig ynghylch stori ein warws haneysddol. Beth oedd ei bwrpas? Pam fod y warws yma? Am gyfnod rhy hir, nid ydym wedi adrodd stori’r adeilad rhyfeddol yma i’n hymwelwyr. 

Mae’r warws yn sefyll yn ei leoliad gwreiddiol, lle bu unwaith yn edrych allan dros ddoc prysur yn llawn llongau, gweithwyr, a rhythm diwydiant. Yma, bu’r warws yn rhan o’r cyfnewid mawr rhwng diwydiannau trwm Cymru a gweddill y byd ar draws y môr.

Dyna’r stori a’n hysbyrdolodd i droi ein golygon tua’r môr, i adael i’r môr arwain sut rydym yn adrodd straeon: y môr yw gwir galon ein gweledigaeth. Y môr yw’r edefyn sy’n cysylltu popeth – diwydiant, celf, archeoleg, a bywydau cymunedau ledled Cymru. O allforio glo a chopr, i deithiau teuluoedd a groesodd y cefnforoedd, mae stori Cymru’n stori a luniwyd gan y môr. 

A pha le gwell i adrodd y stori yma na’n warws haneysddol? Adeiladwyd yn 1900 wrth ymyl Doc y De – bellach yn gartref i Farina Abertawe – ac mae’r adeilad ei hun yn dal i sibrwd ei orffennol diwydiannol. Mae traciau rheilffordd yn rhedeg ar hyd y llawr, ac mae swyddfa’r Harbour Trust a’r Tŷ Pwmp yn dal i sefyll gerllaw. Dyma hanes y gellir ei weld, ei gyffwrdd a’i deimlo o’ch cwmpas. 

Agor y Drysau i’r Môr

Rydym eisoes wedi dechrau ar newidiadau bach ond pwerus. Mae ffenestri caeedig y warws bellach ar agor unwaith eto, gan adael golau i mewn a chysylltu’r gofod gyda’r Marina y tu allan. Mae’r weithred syml yma wedi trawsnewid yr awyrgylch, ac mae’n teimlo fel bod yr adeilad yn anadlu unwaith eto. Rydym hefyd wedi tynnu strwythurau arddangos swmpus oedd yn rhwystro’r olygfa, gan wneud yr amgylchedd haneysddol yn rhan o brofiad yr ymwelydd unwaith eto. 

Mae’r Neuadd Weston, sy’n cysylltu’r Oriel Newydd â’r Warws hefyd wedi gweld rhai newidiadau. Rydym wedi cael gwared ar yr annibendod ac wrthi yn datblygu’r gofod i fod yn ardal croesawgar ac ysbrydoledig. Yma, bydd ymwelwyr yn dod ar draws canolbwyntiau trawiadol – gwrthrychau bydd yn eich stopio gan roi’r foment “WOW” i chi!

Dychmygwch hyn: yr optic goleudy South Bishop o 1842, wedi’i adfer i’w gyflwr gweithio, ei ben uchaf yn disgleirio bob dydd pan gaiff ei droi â llaw. Neu gerbyd rheilffordd hanesyddol wedi’i osod ar y traciau gwreiddiol, gan wneud gorffennol diwydiannol y warws yn weladwy ar unwaith. Nid arddangosfeydd yn unig mohonynt, ond pileri ein hunaniaeth gan gychwyn sgyrsiau am ddiogelwch ar y môr, Abertawe fel Dinas Noddfa, a chysylltiadau dwfn rhwng Cymru a gweddill y byd. 

Golygfa Gyda’ch Coffi

Mae’n debyg hefyd y bydd ein caffi’n symud. Rydym yn archwilio’r posibilrwydd o’i leoli i fyny’r grisiau er mwyn manteisio ar ein balconi sy’n edrych allan dros y Marina. Dychmygwch yfed eich coffi gyda golygfa banoramig o’r glannau. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i drawsnewid Mynedfa’r Marina yn fynedfa ddiddorol i groesawu’r nifer cynyddol o bobl sy’n pasio heibio. 

Gorwelion Newydd ar gyfer Arddangosfeydd

Hyd yma, cynhaliwyd arddangosfeydd dros dro yn Neuadd Weston, gofod na chafodd ei gynllunio ar gyfer cynnal arddangosfeydd. Canlyniad hyn oedd cyfaddawdau a chyfyngiadau ar yr hyn y gallem ei ddangos. Mae hyn ar fin newid!

Rydym yn disgwyl creu orielau pwrpasol ar y mesanîn yn yr Oriel Newydd. Bydd y gofod hyblyg yma yn caniatau i ni gynnal arddangosfeydd uchelgeisiol o safon uchel a fydd yn synnu ac yn ysbrydoli, gan roi mwy o resymau i ymwelwyr ddychwelyd dro ar ôl tro. 

Edrych Ymlaen

Mae’r daith o’n blaen yn un gyffrous i ni fel amgueddfa ac i Abertawe. Ein cynllun yw ail-ddatblygu’r Oriel Newydd a’r Warws yn unol â safonau arddangos modern, gan osod cymunedau ac ysbrydoliaeth i bawb yn greiddiol i’n gwaith. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn llunio’r manylion, yn gweithio gyda chymunedau ac ymwelwyr, ac yn mapio sut i adrodd stori Cymru trwy lens y môr.

Hyd nes hynny, disgwyliwch newidiadau bach ond pwerus – eiliadau annisgwyl, cyfarfyddiadau llawen, a safbwyntiau newydd sy’n amlyug sut mae’r môr wedi siapio bywyd ledled Cymru. 

Amgueddfa Fyw i Bawb

Rwy’n hynod ddiolchgar i’r tîm yma, y mae eu syniadau a’u brwdfrydedd yn ein llywio ymlaen. Gyda phobl Abertawe a’n hymwelwyr, rydym yn gwneud Y Glannau yn lle i’w archwilio, ei fwynhau, a’i ddathlu – amgueddfa fyw, llawn profiadau llawen a rhyngweithiol i bawb. 

Felly dewch ar y daith gyda ni. Mae’r llawn’n troi, ac mae pennod newydd yn hanes Amgueddfa Genedlaethol y Glannau newydd ddechrau. 

Dathlu Balchder: Tu ôl i’r llen gyda Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru

James Lindsay, 25 Medi 2025

Ym mis Mehefin 2025, fel rhan o brosiect REACH Cymru, gwahoddodd Amgueddfa Cymru geisiadau ar gyfer dau Gynhyrchydd Amgueddfa Cymru i gynllunio a chynnal gweithdy ar Balchder. Dyma oedd gan James, un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, i’w ddweud am y profiad:

Ar gyfer mis Balchder, gwahoddodd Amgueddfa Cymru Kleo a fi i drefnu gweithdy ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Innovate: elusen sy’n ymroddedig i helpu oedolion ag anableddau dysgu. Darparon ni’r deunyddiau, yr ysbrydoliaeth, a gwers hanes fer fel bod modd i bobl greu arwyddion i’w cario ym mharêd Balchder Caerdydd ar 21 Mehefin.

Rhan o fy rôl i oedd chwilota drwy gasgliad yr amgueddfa am ysbrydoliaeth, a wnaeth y catalog ddim siomi. Cefais fy synnu gan yr ystod o ddeunydd oedd ar gael; o ddeunydd protest y 1980au, i weithiau gan artistiaid cwiar balch, gweithiau a oedd yn annwyl i bobl gwiar, a ffotograffau teuluol preifat. Ymhlith y deunyddiau protest roedd crysau-t, baneri, a bathodynnau, gyda llawer ohonyn nhw’n gwrthwynebu Adran 28 yn benodol. Rhan o gyfraith a gyflwynwyd gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher oedd Adran 28, a oedd yn nodi bod sôn am gyfunrywioldeb mewn ysgolion yn ymgais i ‘hyrwyddo’ ffordd o fyw. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan blant mewn ysgolion unrhyw ffordd o gael mynediad at wybodaeth gywir a diduedd am rywioldeb a rhyw diogel am dros ugain mlynedd. Mae gan Amgueddfa Cymru grys-t sydd ag union eiriad Adran 28 wedi’i argraffu arno. I fi, wrth ddathlu Balchder, mae’n bwysig ein bod ni’n edrych yn ôl ar yr holl waith a wnaed yn y gorffennol, fel bod ganddon ni’r nerth i edrych tua’r dyfodol. Mae hi mor bwysig i fi bod amgueddfeydd yn cynnwys gwrthrychau fel y rhain, ac mae’n gam enfawr ymlaen i’n cymunedau a’n sefydliadau diwylliannol. 

Roedd fy nhro cyntaf mewn digwyddiad Balchder yn gymharol aflwyddiannus. Yn 2018 neu 2019, teithiais i a fy ffrind i Lundain gan obeithio dod o hyd i’r fath o gymuned oedd tu hwnt i gyrraedd plant mewn ysgol uwchradd gymharol fach. Ar y daith yno, fe glywon ni grŵp o bobl yn rhybuddio’i gilydd bod dathliad Balchder yn digwydd, a bod yn rhaid iddyn nhw fod yn ofalus gan y bydden ni i gyd yn cael rhyw yn y strydoedd. Galla i ddweud â sicrwydd bod clywed hyn wedi gwneud fi’n llawer mwy anghyfforddus nag unrhyw beth brofais i yn nathliad Balchder. Ond roedd clywed hynny’n dal i deimlo’n ynysig. Ymlwybrodd y ddau ohonon ni o gwmpas Llundain, a chadw i ni’n hunain fwy neu lai, ac nid oedd Balchder yn teimlo fel rhywbeth roeddwn i am fynd iddo eto.

Ar fore dathliad Balchder Caerdydd eleni, ro’n i wedi blino’n lân ac yn teimlo’n eithaf digalon o fod yn colli’r parêd. Ond erbyn y prynhawn, ro’n i’n ddigon effro i gerdded i ganol y ddinas, ac ymhen munudau roedd hi’n hawdd adnabod llawer o’r bobl a oedd yno ar gyfer Balchder neu’r Picnic Cwiar Mawr. Roedd hi mor galonogol gweld cymaint o deuluoedd gyda phlant. A wnes i ddim clywed un gair drwg am bobl gwiar. Dim rhybuddion nad oedden ni’n gwybod sut i reoli’n hunain. Dim codi ofn am bobl draws mewn mannau cyhoeddus. Eisteddais i yn yr haul gyda chwpl o ffrindiau. Gwelais gŵn wedi’u gwisgo’n lliwgar mewn hetiau dwl. Ac o’r diwedd, roedd yn teimlo bod digwyddiad Balchder wedi cyflawni ei fwriad, a daeth teimlad llethol o lawenydd ac o deulu drosta i. Ro’n i wedi ymlacio.

Roedd hi’n bleser llwyr gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar gyfer mis Balchder. Disgrifiodd rhywun hanes cwiar i fi unwaith fel “crwydro” drwy archifau; gweld pwy neu beth sy’n dal eich llygad. Bydden i’n annog pawb i wneud yr un fath, ac i chwilio am lawenydd cwiar, waeth pa fis yw hi.

Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.

Archwilio Cynhanes: Fy Mhrofiad yn Gwirfoddoli gydag Offer Carreg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Rebecca Mahon - Gwirfoddolwr Offer Cerrig Cynhanesyddol, 10 Medi 2025

Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mai 2025, ro’n i’n ddigon ffodus i gael gwirfoddoli yng nghasgliadau archaeolegol Amgueddfa Cymru. Bob dydd Iau, roeddwn i a fy nghyd-wirfoddolwyr yn cael trin, adnabod a chatalogio casgliad enfawr o offer carreg cynhanesyddol a gasglwyd gan Henry Stopes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Yn ystod ein sesiynau wythnosol, roedden ni’n cael ein hannog gan ein goruchwyliwr, y Prif Guradur Elizabeth Walker, i geisio deall a darganfod sut roedd cymunedau ledled y byd yn arfer defnyddio’r offer yma. Gan ddechrau drwy ddod i adnabod yr offer, buon ni’n dysgu sut i gategoreiddio yn ôl sut byddai’r offeryn yn cael ei ddefnyddio yn seiliedig ar y marciau oedd arnyn nhw. 

Yna bydden ni’n rhifo ac yn categoreiddio'r offer gan ddefnyddio system Stopes fel y gellid eu mewnbynnu i'r gronfa ddata ar-lein.

Roedd ein gwaith fel gwirfoddolwyr yn golygu y gallai Amgueddfa Cymru gwblhau ei gwaith o gyfri’r eitemau sydd yn ei chasgliad gan Stopes, a ddaeth i law’r amgueddfa ym 1912, gan ganiatáu i'r casgliad cyfan fod ar gael i'r cyhoedd. Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru yn caniatáu i fi ennill profiad sy'n berthnasol i fy ngradd a gweithio gydag arteffactau yn amrywio o bennau saethau fflint i emwaith wedi'i wneud o asgwrn! 

Rwy'n teimlo'n ffodus fy mod wedi cael cyfle i brofi sut mae’r sefydliad anhygoel yma’n gweithio a chwrdd â'r gweithwyr proffesiynol a'r gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gweithio ynddo. Mae bod yn wirfoddolwr wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn!

Parti Lleoliad Llyngyr Gwrychog - Straeon gan fyfyrwyr sydd ar leoliadau ac yn gweithio ar lyngyr gwrychog morol

Teresa Darbyshire, 26 Awst 2025

Mayu Seguchi

Helo, Mayu Seguchi ydw i ac rydw i newydd ennill gradd BSc (Anrh) mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol o Brifysgol De Cymru. Y cwestiwn mwyaf cyffredin yr ydw i wedi ei gael ers symud i ffwrdd o fy nhref fach ym Michigan yw "Pam Cymru"? Rwy’n ateb yn syth, bob tro, drwy ganmol y cwrs prifysgol oherwydd bod cymaint o deithio yn rhan o’r cwricwlwm. Mae gen i straeon am fy mhrofiadau - am y gyr o eliffantod Affricanaidd wnaeth ein bygwth ni yn Ne Affrica, neu am nofio mewn afon hyfryd yng Nghoedwig Law Chiquibul yn Belize, wrth i adar seithliw hedfan uwch ein pennau. A byddaf yn siŵr o sôn wrth unrhyw un sy’n fodlon gwrando sut i mi blymio naw gwaith i’r ail farriff mwyaf yn y byd, a sut y gwnaeth hynny agor llwybr newydd ac annisgwyl i mi i fyd bioleg forol. Mi es i mor bell â dewis traethawd hir ar yr iguana er mwyn i mi allu byw ar ynys fach oddi ar arfordir Honduras am ddau fis, gan blymio a snorclo bob munud sbâr.

Felly, pan ddaeth cyfle yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i weithio gyda llyngyr gwrychog morol, aka polychaetes, roedd yn rhaid imi gyflwyno cais. Yn fy niwrnod cyntaf, osgoi mynd ar goll ar hyd llwybrau dryslyd coridorau’r amgueddfa oedd y brif dasg ac yna dechrau dysgu am y dulliau digideiddio y mae’r amgueddfa yn eu defnyddio ar gyfer sbesimenau. Dim ond ar ôl imi gael trefn ar bethau a dechrau gweithio gyda’r casgliad y sylweddolais pa mor anhygoel ydoedd mewn gwirionedd. Cafwyd y samplau gan R. D. Purchon o bum lleoliad ar hyd Môr Hafren: Llan-bedr Gwynllŵg, Ynys Sili, Harbwr y Barri, Breaksea Point, a Thwyni Dale. Mae hyn yn golygu bod pob sbesimen rwy'n ei drin wedi byw yn nyfroedd Cymru o amgylch Caerdydd! A finnau wedi teithio dramor ar gyfer fy ngwaith maes i gyd, roedd yn hawdd cael fy swyno gan farriffiau lliwgar a mamaliaid morol mawr. Ond mae'r casgliad hwn wedi agor fy llygaid i'r bylchau yn fy ngwybodaeth am rywogaethau rydw i’n rhannu fy nghartref â nhw ac sy’n rhoi cyfle i mi ddysgu mwy. Felly, erbyn hyn, pan fydd pobl yn gofyn i mi pam y symudais i Gymru, rwy’n gallu ateb "Pam lai?” Gyda’r holl fywyd gwyllt hardd, o balod i lyngyr gwrychog, mae cymaint i'w ddarganfod.

Mewn amgueddfeydd sydd â chasgliadau mawr, fel Amgueddfa Cymru, mae bron yn amhosibl cofrestru pob sbesimen sy'n dod i law. Fodd bynnag, mae hyn yn cyfyngu ar faint o wybodaeth y gallwn ei ganfod am rywogaeth, ac mae hynny'n cynnwys gwybodaeth sy’n werthfawr i ffawna Cymru a'r DU. Felly, cafodd fy nghydweithwraig, Caitlin Evans (gweler isod), a minnau y dasg o 1) curadu'r sbesimenau yng nghronfa ddata yr amgueddfa a 2) tynnu llun o bob sbesimen a’i atodi. Byddaf yn trafod y fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer curadu'r casgliad gan Purchon (1950), cyn i Caitlin esbonio sut yr aethon ni ati i ddelweddu ein gwaith gyda'r llyngyr gwyrchog.

I guradu'r casgliad, defnyddiais gronfa ddata FileMaker Pro gyda thempled a ddatblygwyd gan yr amgueddfa (Ffigur 1). Ar gyfer pob sbesimen, cofnodais enw'r casgliad, rhif derbyn (rhif unigryw sy'n ein galluogi i leoli pob sbesimen), a dyddiad casglu'r sbesimen, yn ogystal â theulu, genws a rhywogaeth y sbesimen. Roedd pob sbesimen hefyd yn nodi safle casglu sydd, o'i baru â thraethawd PhD R. Denison Purchon ar The Littoral and Sublittoral Fauna of the Northern Shores, near Cardiff a Dale Fort Marine Fauna a olygwyd gan J.H. Crothers, yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i mi bennu cyfesurynnau hydred a lledred bras yr ardal lle tarddodd y sbesimen. Hefyd, roedd y papurau hyn yn cynnwys llawer mwy o gyd-destun ar gyfer safleoedd casglu'r sbesimenau, gyda rhai unigolion yn disgrifio'r gwaddodion lle cawsant eu darganfod. Ar ôl cofnodi'r gwaddod a chwblhau'r dogfennau hyn, byddai gwybodaeth adnabod allweddol yn cael ei hargraffu ar labeli llai i'w cadw yn y jar gyda'r sbesimen (Ffigur 2). Gyda'r casgliad wedi'i guradu'n llawn ar gronfa ddata yr amgueddfa, roedd hi'n bryd dechrau'r broses ddelweddu.

Caitlin Evans

Dychmygwch allu dysgu am anifeiliaid sy'n gwbl angof i bobl ac ymchwilio iddynt. Infertebratau morol yw’r llyngyr gwrychog, a dydy rhai pobl ddim hyd yn oed yn gwybod amdanyn nhw oherwydd eu natur o gloddio yn y tywod. Maen nhw'n byw ar hyd traethlinau a llanw ein hoff draethau ac mae’n hawdd i rywun beidio â sylwi arnyn nhw o gwbl. Caitlin ydw i, myfyrwraig Bioleg sydd ar flwyddyn olaf fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol De Cymru. Ar hap y daeth y cyfle i mi weithio ar leoliad yn Amgueddfa Cymru - doedd gan i ddim bwriad go iawn i fynd ar leoliad. Ond pan soniodd un o'm darlithwyr am y cyfle hwn, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi fachu ar y cyfle. Pan ddechreuais yn y brifysgol, doeddwn i ddim yn siŵr pa faes i’w ddilyn. Ond cyn gynted ag y dechreuais i astudio ecoleg a sŵoleg, taniwyd diddordeb angerddol yn y pwnc. Teithiais i goedwig law ac arfordir Belize am fis, gan ennill profiad ymarferol a chael cipolwg heb ei ail ar sut brofiad fyddai gweithio yn y maes. O rwydi dal adar ac ystlumod i sgwba ddeifio, fe wnaeth y profiad hwn atgyfnerthu fy niddordeb. Ar hyn o bryd, rwy'n casglu data ar gyfer fy mhrosiect traethawd hir ar boblogaethau ystlumod, gan gasglu data ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod ynghyd â chwblhau'r lleoliad hwn, sy'n golygu bod fy wythnosau i'n llawn dop o weithgareddau sŵoleg.

Yn ystod fy amser yn yr amgueddfa, cefais y dasg o guradu a chwblhau gwaith delweddu ar Gasgliad Mendelssohn gan fy ngoruchwylydd Dr Teresa Darbyshire (Uwch Guradur: Infertebratau Morol). Mae hwn yn gasgliad enfawr o tua 115 o sbesimenau sydd wedi'u cadw mewn hylif. Maen nhw'n amrywio o samplau bach y gallwch prin eu gweld i lyngyr mawr sydd prin yn ffitio yn eu jariau. Mae'r sbesimenau sydd yn y casgliad hwn i gyd wedi'u casglu ar ynys Guernsey gan J.M. Mendelssohn ac wedi eu cadw mewn ethanol. Mae gweithio gyda'r casgliad hwn wedi fy helpu i werthfawrogi bioamrywiaeth rhan o’r byd sy’n anghyfarwydd i mi. Mae'n rhoi cipolwg heb ei ail ar fyd natur yr ardal honno. 

Fel i Mayu grybwyll, roedd y dasg o guradu'r casgliad hwn yn cynnwys chwilio'n drylwyr trwy draethawd ymchwil PhD Mendelssohn o 1976 er mwyn darganfod union leoliadau casglu'r sbesimenau hyn. Trwy ddefnyddio'r traethawd ymchwil a chymorth Google Maps dibynadwy, roedd modd i mi bennu cyfesurynnau hydred a lledred ar gyfer pob sbesimen a'u cofnodi yn y gronfa ddata. Cafodd pob manylyn ei nodi ar y gronfa ddata gan gynnwys yr holl wybodaeth dacsonomaidd a hyd yn oed manylion gwaddodion. Ar ôl cwblhau hyn ar gyfer pob sampl, aethom ati i baratoi labeli ffres ar gyfer y samplau hylif corfforol. Roedd hyn yn cynnwys agor y samplau a rhoi label newydd yn y jar. Dull hawdd a chyflym o adnabod y sbesimen.

Y cam nesaf fyddai llywio'n ffordd trwy'r ddrysfa i lawr i'r ystafell ddelweddu. Roedd y broses o ddelweddu'r sbesimenau hyn yn cynnwys y profiad corfforol o sut i ymdrin â sbesimenau hylif wedi'u cadw, yn y ffordd gywir. Roedd tynnu'r llyngyr gwrychog wedi'u cadw allan o'r jar a dadansoddi manylion anhygoel a nodweddion esblygiadol y llyngyr hyn yn wirioneddol anhygoel. Roedd y gwaith delweddu yn rhoi cyfle i ni ennill sgiliau na fydden ni byth wedi'u datblygu oni bai am yr amgueddfa, gan gynnwys sut i drafod hen sbesimenau yn iawn - a chawsom hefyd ein trwytho mewn ffotograffiaeth. Yn ystod ein hamser yn yr amgueddfa, buom yn ddigon ffodus i dreialu project DISSCO (System Ddosbarthedig ar gyfer Casgliadau Gwyddonol) sy'n cynnwys digideiddio casgliadau'r amgueddfa. Mae’r project helaeth hwn yn cynnwys POB casgliad, a'r gobaith yw y bydd y casgliadau morol yn rhan ohono rywbryd yn y dyfodol (Ffigur 3).

Cam cyntaf y broses ddelweddu yw cwblhau delwedd archwilio, sef tynnu llun o bopeth sy'n bresennol yn y jar (Ffigur 4). Gan ddefnyddio gefeiliau, byddem yn tynnu'r sbesimen allan a'i roi mewn dysgl petri llawn ethanol. Byddem wedyn yn cymryd yr holl labeli, hen a newydd, ac yn eu  gosod yn daclus mewn ffrâm. Yna, byddem yn ychwanegu cod QR ar gyfer proses DISSCO. Ar ôl tynnu lluniau o du blaen a thu ôl y labeli a'r sbesimen, byddem wedyn yn symud ymlaen i'r delweddau o’r sbesimen. Mae Ffigur 5 yn dangos manylion y sbesimen, er enghraifft mae gan Arenicola marina nifer benodol o 'gylchoedd' ar ei ben a ddefnyddir i'w adnabod. Mae'r broses hon o ddelweddu sbesimenau yn golygu tynnu sawl llun ar lefelau ffocws gwahanol, sydd wedyn yn cael eu cyfuno i greu ffotograff hynod glir a manwl. Yna, rydyn ni'n defnyddio meddalwedd Helicon Focus i rendro'r ddelwedd derfynol hon cyn ei throsglwyddo i Photoshop i ychwanegu bar graddfa. Cwblhawyd y broses hon ar gyfer fy nghasgliadau i a Mayu (Ffigur 5). Byddem yn cyfnewid tasgau’n rheolaidd, gan roi cyfle i ni feithrin ein sgiliau delweddu ymhellach (Ffigur 6). Ein tasg olaf yn ystod ein hamser yn yr amgueddfa oedd defnyddio Photoshop i olygu ein delweddau i'w gwneud yn lân ac yn daclus. 

Mae'r profiad ar leoliad wedi caniatáu i ni ennill sgiliau gwerthfawr a fyddai’n amhosibl eu cael yn unrhyw le arall. Bu'n brofiad anhygoel sydd wedi agor y drws i fyd y gwyddorau naturiol ac mae’n gam anhygoel yn ein gyrfaoedd i’r dyfodol.

Roedd ein cyfnod yn yr amgueddfa yn llawn hwyl a rhyfeddodau, diolch i bawb yn yr adran gwyddorau naturiol. Yn ogystal â'r adran forol, cawsom bersbectif mewnol o sawl adran arall gan gynnwys fertebratau a botaneg - rydyn ni'n hynod ddiolchgar iddyn nhw, ac wedi meithrin cyfeillgarwch newydd trwy gydweithio. Diolch i'r staff ac i’n goruchwylydd, Teresa Darbyshire, am greu amgylchedd gwaith mor gynnes a chroesawgar ac am sicrhau amser anhygoel i ni yn yr amgueddfa. Rydyn ni wedi ehangu ein gwybodaeth yn aruthrol, ac allen ni ddim fod wedi gofyn am brofiad gwell.