Hyrwyddwr Hinsawdd yn ymweld � Sain Ffagan! Danielle Cowell, 15 Medi 2011 Mae Bronwen Davies o Lyn Ebwy yn un o Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.Treuliodd Bronwen, sy’n 15 oed, y diwrnod yn y Tŷ Gwyrdd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn siarad ag aelodau’r cyhoedd am sut i addunedu i leihau eu hôl troed carbon.Siaradodd â phobol o bob oed a mwynhau trafod gyda theuluoedd lle gallai rhieni a phlant gynllunio eu camau nesaf gyda’u gilydd. Mae hi wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn helpu pobl i ddeall y newid yn ein hinsawdd.Penodwyd Bronwen yn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd ym mis Ionawr wedi iddi ennill cystadleuaeth i ganfod chwe person ifanc allai ddefnyddio eu dylanwad i berswadio eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau i gyfrannu at helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon.Ar 1 Hydref gallwch chi gyfarfod Hyrwyddwr Newid Hinsawdd Caerdydd, Tom Bevan, sy’n 16. Galwch draw i Tŷ Gwyrdd i gyfarfod Tom, addunedu, a dysgu beth allwch chi ei wneud i leihau eich ôl troed carbon.Dilynwch hanes Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru yn: http://tinyurl.com/3gu535d
Croeso! Danielle Cowell, 15 Medi 2011 Croeso i’r 2,883 o ddisgyblion sy’n cymryd rhan yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni!Dwi wedi cyffroi’n lân achos eleni mae gyda ni ddisgyblion o Gymru, Lloegr a’r Alban yn cymryd rhan! Mae’r holl ysgolion ar y map.Dros yr wythnosau nesaf, bydda i a fy ffrindiau gwyrdd yn brysur yn paratoi’r bylbiau a’r potiau i’w hanfon i’r ysgolion. Yna bydd pob ysgol yn plannu ar 2 Hydref yng Nghymru a Lloegr a 26 Hydref yn yr Alban.Athro’r Arddwww.amgueddfacymru.ac.uk/cy/scan/bylbiau/
Virtually cleaning an eighteenth-century painting Graham Davies, 7 Medi 2011 Graham Davies, Online Curator, Amgeddfa Cymru – National Museum WalesWhen a member of the Art department approached me to ask if I could feature two views of the same painting online – one version covered in dirt and yellowed varnish (as the painting was when it came into the Museum), and the other version showing hidden detail and crisp colours (after being cleaned by Museum conservators) – I realised it would make a perfect interactive if you could use your mouse to virtually 'clean' the dirty canvas to reveal the clean version underneath.Guardi's view of the Grand Canal, VeniceThe painting in question is Francsesco Guardi's View of the Palazzo Loredan dell'Ambasciatore on the Grand Canal, Venice, painted around 1775-85.Acquired by Amgueddfa Cymru in 2011, this painting is an important acquisition as Guardi's Venetian views are regarded as highly significant in the history of landscape painting.You clean the paintingTo make the most out of this dramatic before-and-after view, I needed to work out a way of 'virtually' cleaning the painting online by dragging a mouse over the dirty image to reveal the original details and colours previously hidden underneath the dirt and old varnish.Reinvent the wheel?I wanted something that allowed the mouse to act as an eraser, allowing one image to be rubbed out to reveal a secondary image underneath. A hunt around the internet brought up the required functionality already created by by Jonathan Nicol (www.f6design.com/journal).The next step was to acquire high-resolution copies of both dirty (before) and cleaned (after) digital images of the artwork from the Photography department.Precisely aligning two slightly differently angled photographs of the same pictureWhen I opened these digital images in Photoshop it became apparent that variations in the perspective, and distance of the photographic captures, resulted in two images that did not precisely match up once overlaid on top of one another.After an hour of miniscule adjustments using the image warp feature on Photoshop, using the images as separate layers within Photoshop (one set at 50% opacity), I eventually achieved a precise overlaid match.I abandoned trying to do this at 100% view as the image was so large and the time lag in processing too great to view the results (even for my G5 at 2.44Gz and 8GB RAM). I had to settle for a 25% view that filled my Apple 32" screen)Once I had a satisfactory matched up and aligned the 'dirty' layer on top of the 'clean' layer, I could create the two corresponding TIFF images to incorporate into the Flash file as a basis for the interactive.After a bit of tweaking, fiddling, and constant testing, I managed to create a simple interactive, allowing you to use your mouse to erase the dirt and grime, revealing the clean painting underneath.Exploring the detailI then decided to repeat this process to create several versions, all using crops of the high-resolution images to show close up details of the painting.Areas of particular interest I chose to separate out were people rowing a gondola, the architectural detail of the buildings, and the detail of the sky and clouds where much original detail had been almost totally obscured by years of grime, dirt and previous 'touch-ups' to the painting. The clean version revealed original intricate details and brushwork.Future applications for Museum archives and collectionsI am hoping this functionality can be utilised for other online images of the collections in the future. Ideas I have at the moment are to reveal hidden under-drawings only visible under x-ray light — as in the example of Richard Wilson's Dolbadarn Castle (NMW A 72), which has been painted over a portrait of a woman, and Landscape with Banditti around a Tent (NMW A 69) which he painted over a Venetian-style reclining nude.Additional ideas include viewing a landscape or post-industrial townscape that can be erased to reveal a historical image underneath...
Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis gan Francsesco Guardi Anne Pritchard, 6 Medi 2011 Delwedd wedi'i hadfer yn rhannol o Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis Mae golau uwch-fioled yn dangos gwaith adfer blaenorol Mae'r paentiad bychan hwn gan Francesco Guardi yn dangos llysgenhadaeth yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn Fenis mewn manyldeb rhagorol. Saif yr adeilad yng nghanol prysurdeb bywyd bob dydd y Gamlas Fawr. Mae dillad yn sychu ar falconïau, cychod gondolïwyr yn pasio wrth eu gwaith a diplomyddion yn eu gwisgoedd drudfawr yn syllu o'u ffenestri neu'n cerdded ar y cei. Yng nghanol y môr o ffigyrau gwelwn fonheddwr mewn gwisg las — y llysgennad ei hun mwy na thebyg — yn sefyll ger mynedfa'r palazzo yn dal teyrnwialen aur. Uwch ei ben, gwelwn arfbais y gyfundrefn bwerus fu'n rheoli rhannau helaeth o ganolbarth Ewrop am ganrifoedd. Mae Guardi yn enwog fel un o beintwyr tirluniau Fenisaidd mwyaf y ddeunawfed ganrif; fe'u gelwid yn beintwyr veduta. Roedd ei weithiau yn hynod boblogaidd a cawsant ddylanwad ar artistiaid a chasglwyr Prydeinig a ymwelodd â Fenis yn ystod y Daith Fawr. Mae'r gwaith hwn yn esiampl dda o'i dechneg aeddfed ac yn cyfuno'r manyldeb cywrain a feistrolodd dan ddylanwad Canaletto â gwaith brws cynyddol fynegiannol, atmosffer a golau. Datgelodd gwaith glanhau gan gadwraethwyr yr Amgueddfa lewych syfrdanol yr effeithiau gwreiddiol yma. Pan ddaeth y paentiad hwn i feddiant yr Amgueddfa'n wreiddiol, doedd effaith y dechneg ryfeddol ddim yn gyflawn. Roedd yr haen uchaf o farnais a orchuddiai'r paentiad wedi afliwio'n ddrwg, gan droi'n frown dros amser. Drwy edrych ar y llun dan olau uwch-fioled, gwelwyd hefyd bod gwaith adfer gormodol wedi cael ei wneud ar yr awyr. Glanhaodd cadwraethwr yr Amgueddfa arwyneb y paent gan dynnu'r hen farnais a gwaith adfer blaenorol. Gwelwyd taw darnau bychan o bigment oedd y gronynnau du pitw yn y paent, yn hytrach na baw fel y tybid cyn hyn. Byddai'r artist wedi cymysgu ei baent ei hun a gellir gweld gronynnau tebyg mewn gweithiau eraill gan Guardi. Gyda llewych gwreiddiol gwaith Guardi bellach yn amlwg, cafodd y paentiad ei ail-farneisio a'i arddangos. Cyn ac wedi glanhau Mae cadwraethwyr yr Amgueddfa wedi bod wrthi'n brysur yn glanhau'r gwaith, dyma lun o'r gwaith cyn ac ar ôl cael ei adfer: Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [cyn glanhau] Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [wedi glanhau]
Brwydr Sain Ffagan Sara Huws, 18 Awst 2011 Fe ymunodd y Cymdeithas Rhyfel Cartref Lloegr â ni y penwythnos diwethaf, i archwilio hanes Brwydr Sain Ffagan, ble yr ymladdod milwyr Cromwell a'r Brenin ym 1648. Fe ddaethon nhw â llond y lle o arfau, yn ôl y disgwyl - yn ogystal â nifer helaeth o sgiliau a gwrthrychau i'w harddangos. Byddai rhestr yn rhy ddiflas, felly dyma luniau o rai ohonyn nhw wrth eu gwaith! Diolch i Alcwyn Evans am dynnu'r lluniau. Paratoi ar gyfer diwrnod o nyddu wrth ffermdy Cilewent Gosod gwersyll y Seneddwyr ger ffermdy Abernodwydd Taniwch! Teulu o ail-grewyr. Roedd aelodau iau y grŵp yn hwyl i weithio hefo nhw! Dynion a merched âd'u gwaywffyn, yn aros i fynd ar flaen y gâd Uchelwr yng Nghastell Sain Ffagan, mewn gwisg o'r 1640au