Gweithdy’r Clocsiwr

Beth yw’r adeilad hwn?

Dyma weithdy’r clocsiwr. Roedd yn berchen i Tommy James, un o glocswyr traddodiadol olaf Cymru. Bu Tommy yn dysgu’r grefft fel prentis am bum mlynedd, a dwy flynedd arall i ddatblygu ei sgiliau.

Adeiladodd ei weithdy cyntaf ger ei gartref yng Nghroes-goch, cyn symud y cwbl i Ysgeifiog ger Tyddewi. Wrth i’r galw gynyddu am ei glocsiau, ehangodd faint y gweithdy. Roedd y clocsiau yn arbennig o boblogaidd gyda gweithwyr fferm. Ym marn llawer roeddent yn rhagori ar welingtons, ac yn para’n well. Roeddent hefyd yn gwarchod y traed rhag damweiniau gydag offer y fferm. Roedd yr esgidiau pren yn cadw traed y gweithwyr yn oer yn yr haf ac yn gynnes yn y gaeaf.

Sut oedd Tommy yn gwneud y clocsiau?

Byddai Tommy yn defnyddio pren masarn ar gyfer gwadnau’r esgidiau. Mae hwn yn bren gwelw, ac mae’n galed a chryf - delfrydol ar gyfer cerfio.

Byddai’n defnyddio lledr cryf a thrwchus ar gyfer gweddill yr esgid. O gael ei gynhesu, roedd y lledr hwn yn ddigon hyblyg i gael ei fowldio i siâp clocsen.

Ymysg offer Tommy roedd cyllell i siapio’r pren yn wadn esgid, tyllwr oedd yn naddu gwagle i’r droed fynd, a chrafanc oedd yn torri’r rhych er mwyn hoelio’r lledr iddo. Dyw gwadnau clocsiau byth yn fflat, ac mae modd ‘siglo’ rywfaint wrth gerdded ynddynt. Roedd cyllell ac offer arbennig hefyd ar gyfer torri’r lledr.

Mae clocsiau Cymreig wastad wedi cael eu gwneud yn y ffordd hon, yn wahanol i glocsiau’r Iseldiroedd (klompen) sydd yn bren i gyd, ac yn cael eu gwneud o bren poplys. Mae clocsiau Cymru yn fwy cyffyrddus.

Mae Geraint, clocsiwr yr Amgueddfa ac un o ddau yn unig drwy Brydain, yn dal i wneud clocsiau yn yr hen ffordd draddodiadol.

Mae Geraint yn cychwyn drwy fesur dwy droed person, gan fod gan bawb un droed ychydig yn fwy na’r llall. Yna, fel Tommy, mae’n gwneud y clocsiau gyda phren a lledr. Mae’r broses gyfan yn cymryd tua 6 mis. Mae Geraint yn gwisgo ei glocsiau ei hun i’r gwaith, gan eu bod mor gyffyrddus!

Wyddech chi?

Roedd pren masarn arfer cael ei ddefnyddio i wneud dodrefn ac offer cegin fel llwyau pren. Ychydig iawn o dannin sydd yn y pren, ac felly nid yw’n staenio’r bwyd. Nid yw’n ystumio wrth wlychu chwaith.

Y gair Ffrangeg am glocsen yw ‘sabot’. Mae llawer yn credu bod y gair ‘sabotage’ yn deillio o anghydfod diwydiannol pan wnaeth gweithwyr daflu eu clocsiau neu ‘sabots’ i’r peirannau i’w difrodi, ond mae’n debyg mai myth yw hyn.

Gwir neu beidio, roedd gweithwyr yn sicr arfer gwisgo clocsiau mewn ffatrïoedd yn y 19eg ganrif, er mwyn gwarchod eu traed. Credir bod symudiadau’r gweithwyr o gwmpas y ffatri tra’n gwisgo clocsiau wedi dylanwadu ar ddawns y glocsen, sy’n boblogaidd iawn yng Nghymru.

Yn 2020 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, torrodd Tudur Phillips record byd am ddiffodd y mwyaf o ganhwyllau drwy glicio sodlau clocsiau. Llwyddodd i ddiffodd 55 cannwyll mewn 60 eiliad!