Tŷ Cychod a Thŷ Rhwydi
Am ganrifoedd bu afonydd Cymru yn enwog am safon eu dŵr a’r nifer o eogiaid ynddynt, ac roedd pysgota yn fywoliaeth i genedlaethau o drigolion eu glannau. Yn ôl Benjamin Heath Malkin ym 1803, yn afon Teifi y ceid eogiaid gorau Cymru, ond roedd afonydd y gogledd – yn enwedig Dyfrdwy, Clwyd a Chonwy – yr un mor bwysig. Câi’r eogiaid eu dal mewn pob math o ffyrdd, o rwydi cwrwgl a rhwydi sân i gewyll ac argae bysgota.
Siâp powlen sydd i gwrwgl, gyda stribedi tenau o bren wedi’u gorchuddio â chalico. Rhaid bod yn rhwyfwr medrus i lywio’r cwch, gan mai dim ond un rhwyf sydd. Roedd dyluniad pob cwrwgl yn wahanol – yn dibynnu ar natur yr afon a’r pysgotwr ei hun.
Mae’r tŷ rhwydi a'r tŷ cychod yn ailgreadau o adeiladau a safai ar lan afon Gwy tan y 1940au, ac maent yn cynnwys rhan o gasgliad pysgota a chwryglau helaeth yr Amgueddfa.