: Cynaliadwyedd

Haf ystlumaidd yn Sain Ffagan!

Hywel Couch, 12 Medi 2013

Wel, ma gwyliau haf arall wedi hedfan heibio, ac mae  hi bron yn amser eto i groesawu grwpiau ysgol yn ôl i Sain Ffagan ar ddechrau flwyddyn ysgol newydd! 

Mae’r haf eleni wedi bod bach yn wahanol i mi yma yn Sain Ffagan. Oherwydd y gwaith ail-ddatblygu da ni di colli’r Tŷ Gwyrdd fel adeilad, felly mae’r gweithgareddau natur wedi bod bach mwy nomadig nai’r arfer! Roedd hi’n gyfle neis i mi ddefnyddio ardaloedd gwahanol o’r amgueddfa ac i edrych ar ba fywyd gwyllt sydd i’w ffeindio o amgylch y lle. 

Dros fis Awst, ddaeth tua 1000 o bobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau natur o amgylch yr amgueddfa, o archwilio yn y goedwig am fwystfilod bach i’n teithiau ystlumod gyda’r nos. Mae’r teithiau ystlum eleni wedi bod yn hynod o boblogaidd! 

Ar ddechrau’r haf naethon ni ail-agor y guddfan adar yn ei leoliad newydd ger ysgubor Hendre Wen. O’n i’n poeni falle byse dim cymaint o adar i’w weld yn yr ardal newydd, ond ar ôl treulio hanner awr yn gwylio’r adar nes i weld 11 rywogaeth wahanol. Gobeithio neith niferoedd tebyg parhau i ymweld â’n bwydwyr o amgylch y guddfan. Mae’r guddfan nawr ar agor bob dydd, felly ar eich ymweliad nesa i’r amgueddfa byddwch yn siŵr i bipio draw i weld be welwch chi! 

Ym mis Awst cawsom bach o fraw ar ôl tan fach yn y Tanerdy. Mae’r Tanerdy yn gartref i grŵp o ystlumod Pedol Lleiaf prin iawn. Torrodd tan drydanol bach allan un bore yn yr ystafell islaw ble mae’r ystlumod yn clwydo fel arfer. Diolch byth, nath y tan ddim cydio diolch i ymateb cyflym gan Wasanaeth Tan ac Achub De Cymru. Yn ystod y digwyddiad nath yr ystlumod hedfan i ardal o’r adeilad yn bell o’r tan. Nath y stori hyd yn oed cyrraedd tudalennau wefan y BBC! Diolch i Anwen am y llunie!

Mae’r ystlumod nawr wedi dychwelyd i’w ardal clwydo arferol ac i’w weld yn iawn. Yn anffodus, nid yw’r un peth yn wir am y camera ystlumod a oedd yn yr adeilad. Mae cyfuniad o ddifrod dwr a mwg yn golygu bydd angen camera newydd arnom, gobeithio cyn gynted â phosib! 

Mae ystlumod Sain Ffagan i’w weld yn mynd o nerth i nerth! Mae gennym ni 11 o’r 18 rhywogaeth sy’n byw ym Mhrydain yn clwydo yn yr amgueddfa, yn cynnwys yr ystlum Nathusius Pipistrelle sy wedi bod yn clwydo yn 2 o’n hadeiladau. Cyn hyn, dim ond 2 clwyd o’r ystlum yma sy ‘di cael ei ffeindio yng Nghymru. Dyma stori arall eleni nath newyddion

Eleni cynhaliwyd 3 Taith Ystlum gyda’r Cyfnos yn yr amgueddfa, a bob un yn llawn! Diolch i bawb ddaeth ac ymddiheuriadau i bawb nath trio bwcio ond oedd methu cal lle! Da ni’n bwriadu cynnal 4 taith mis Awst nesa gyda phosibilrwydd o fwy os oes galw! Os daethoch ar un o’n teithiau eleni ac os oes gennych unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yma neu trwy anfon e-bost i’r amgueddfa! 

Un peth arall, hoffwn roi diolch mawr i’n tîm newydd o wirfoddolwyr sy ‘di bod yn helpu dros yr haf! Trwy gael pâr ychwanegol o ddwylo i helpu gyda digwyddiadau a gweithgareddau, mae’n bosib i ni gynnig gwell profiad ac ymweliad i’n hymwelwyr. Diolch yn fawr i chi gyd!

Gwyddowyr Gwych yng Nghwm Rhondda

Danielle Cowell, 8 Gorffennaf 2013

Ysgol Gynradd Williamstown, yng Nghwm Rhondda, ddaeth yn gyntaf o’r chwedeg tri o ysgolion yng Nghymru a gymrodd ran yn ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn yr Amgueddfa eleni.

Enillodd y dosbarth o Wyddonwyr Gwych daith natur i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, lle cawsant eu tystysgrifau. Fel rhan o'r daith, cawsant gyfle i astudio madfallod dŵr, chwilio am fwystfilod bach, gwylio ystlumod ac adeiladu nythod mawr yn y goedwig!

Athro'r Ardd: ''Cafodd pob un o’r disgyblion ddiwrnod gwych a dylen nhw fod yn falch iawn o'r ffordd maen nhw wedi cynrychioli eu hysgol. Roedd y safon yn uchel iawn eleni; mae’r ysgolion i gyd yn gwella wrth gofnodi eu data. Gwnaeth Williamstown yn arbennig o dda gyda'u cofnodi ac wedi bod yn frwdfrydig iawn o'r cychwyn fis Tachwedd diwethaf tan ddiwedd y gwanwyn – a ddaeth yn hwyr iawn eleni!"

Alison Hall, Athrawes yn Ysgol Gynradd Williamstown: "The pupils said it was the best day out they had ever had - they loved viewing the bat roost in particular! In terms of the investigation, the children have have loved the whole process from planting and recording to measuring and waiting for the first bloom to appear. It has been great for improving their science, numeracy and ICT skills. We are now really enthused about nature and the environment and are keen to set-up more outdoor investigations in our school grounds".

Os hoffech chi gymryd rhan yn y project hwn y tymor nesaf, llenwch y ffurflen gais ar-lein: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1738/

I weld ein hadroddiad gwerthuso gan athrawon (Saesneg yn unig), cliciwch ar y ddolen hon: https://scan.wufoo.com/reports/spring-bulbs-for-schools-evaluation-report/

Fel y gwelwch o'r cwestiwn gwerthuso isod mae’r project yn drawsgwricwlaidd:

 

 

 

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: 2005-2013 Canlyniadau

Danielle Cowell, 13 Mehefin 2013

Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.

Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol  wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.

Mae tystysgrifau wedi cael eu hanfon at yr holl ddisgyblion yn 3979 a gwblhaodd y prosiect eleni.

Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau!

  • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau.
  • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer?
  • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd?
  • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru.
 

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

www.museumwales.ac.uk/scan/bylbiau

Twitter http://twitter.com/Professor_Plant

Facebook Professor Plant

Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013

Catalena Angele, 23 Mai 2013

Ychydig wythnosau yn ôl dyma fi’n cyhoeddi enillwyr a goreuon y Gystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr, a nawr gall pawb weld y lluniau gwych ar y wefan!

Roeddwn i’n chwilio am ddarluniau botanegol – darluniau gwyddonol o blanhigion. Roeddwn i’n chwilio am luniau prydferth, ond roedd yn rhaid i rannau gwahanol y cennin Pedr fod wedi eu labelu’n glir.

Mae’r 1af, 2il a’r trydydd yn ennill pecyn gwylio adar a binocwlars bach. Bydd y goreuon eraill yn derbyn bag o hadau blodau i’r ardd.

Cliciwch yma i weld Enillwyr a Goreuon eleni.

http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/3956/

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd

Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr

Catalena Angele, 2 Mai 2013

Helo na Wyddonwyr Gwych,

Mae 4116 ohonoch chi wedi helpu gydag ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn eleni – mae’n ANHYGOEL! Rydw i’n chwysu chwartiau’r wythnos hon yn ceisio paratoi’r tystysgrifau i gyd i chi!

Ond dyw ymchwiliad pawb heb orffen eto, mae rhai blodau yn dal heb agor.

Beth i’w wneud os nad yw’r blodau wedi agor eto?

Daliwch ati i anfon cofnodion aton ni! Os ydy’ch blodau chi yn dal heb agor mae daliwch ati i ymchwilio! Pan fyddan nhw’n agor, gallwch chi gofnodi’r dyddiad a thaldra’r planhigyn ar y wefan.

Pam fod dyddiad cau felly?

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i fi ysgrifennu adroddiad arbennig sy’n crynhoi’r holl ddata fyddwch chi’n ei anfon ata i. Mae’r amser wedi dod i fi ysgrifennu’r adroddiad nawr. Bydd yr holl gofnodion a gyrhaeddodd cyn y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn adroddiad eleni.

Beth sy’n digwydd i’r cofnodion sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau?

Bydda i’n ychwanegu cofnodion sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau i’r bas data ac yn eu cynnwys yn adroddiad y flwyddyn nesaf. Mae pob un o’ch cofnodion chi’n bwysig iawn a byddan nhw’n helpu’r ymchwiliad i fod yn fwy cywir yn y dyfodol. Fydd eich data chi ddim yn cael ei golli neu ei wastraffu, rwy’n addo.

Pwy sydd yn y llun??

Gadewch i fi eich cyflwyno i Nick a Pat Bean, perchnogion fferm Springfields Fresh Produce, o ble daeth bylbiau eich cennin Pedr! Yn y llun, maen nhw’n sefyll mewn cae o gennin Pedr Dinbych-y-pysgod sydd yn tyfu ar eu fferm.

Pwy sydd wedi anfon cofnodion blodau am y tro cyntaf?

Diolch i’r ysgolion canlynol am anfon eu cofnodion blodau cyntaf: Gladestry C.I.W. School, Williamstown Primary, St Athan Primary, Ysgol Hiraddug and Bwlchgwyn CP School yng Nghymru, Hawthornden Primary School, Ladybank Primary School, Tynewater Primary School ac Torbain Primary School yn yr Alban, ac Larkrise Primary School, Britannia Community Primary School ac Thorneyholme RC Primary School yn Lloegr.

Diolch hefyd i’r ysgolion sy’n dal i anfon mwy a mwy o gofnodion – mae ein hymchwiliad yn mynd yn fwy ac yn fwy cywir bob tro!

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd