Merched Caneri Ian Smith, 6 Awst 2019 Rhyfel Ar 4 Awst 1914, goresgynnwyd Gwlad Belg gan yr Almaen. Cyhoeddodd Prydain ei bod yn mynd i ryfel. Yn ystod y penwythnos cyntaf hwnnw, aeth cant o ddynion yr awr ati i gofrestru i ymuno â’r lluoedd arfog. Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd dros bum miliwn o ddynion wedi ymuno â’r fyddin. Gyda’r holl bwyslais ar ddyletswydd ar faes y gad, roedd ffatrïoedd gwledydd Prydain yn brin o weithwyr medrus. Cafodd menywod a arferai wneud swyddi isel neu ddomestig eu recriwtio i weithio ym myd diwydiant. Er bod prinder dynion i weithio yn y ffatrïoedd, cafodd menywod eu cyhuddo o ddwyn swyddi oddi ar y rhai na allent fynd i ymladd. Roedd menywod hefyd yn weithlu rhatach gan eu bod nhw’n cael llai o gyflog am wneud yr un gwaith. Prinder Sieliau Newidiodd natur rhyfela yn aruthrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyn hynny, cefnogi milwyr fu swyddogaeth magnelaeth, ond bellach dyna oedd y prif rym dinistriol. Erbyn 1915, roedd prinder sieliau ac arfau. Cafodd senedd San Steffan ei gorfodi i fabwysiadu Polisi Arfau Gwladol, a phenodwyd David Lloyd George yn Weinidog Arfau Rhyfel. Roedd y polisi hwn yn rheoli cyflogau, oriau ac amodau gwaith mewn ffatrïoedd arfau rhyfel, a hefyd yn gorfodi ffatrïoedd i gyflogi mwy o fenywod er mwyn ateb y galw. Y ffatrïoedd arfau rhyfel oedd prif gyflogwr menywod ar y pryd, gyda thros 900,000 yn cael eu cyflogi gan y diwydiant. Er eu bod yn gwneud yr un gwaith â’r dynion, dim ond hanner y cyflog oeddent yn ei dderbyn. Erbyn mis Mehefin 1917, roedd y ffatrïoedd a gyflogai fenywod yn cynhyrchu dros 50 miliwn o sieliau’r flwyddyn, ac erbyn diwedd y rhyfel, roedd byddin Prydain wedi saethu tua 170 miliwn ohonynt. Gwaith Peryglus Wedi i’r rhyfel gael ei gyhoeddi, sylweddolodd sawl cwmni fod cyfle i gynyddu gwerthiant. Aeth cwmnïau peirianneg a chynhyrchu metelau lleol ati i sefydlu Pwyllgorau Arfau Lleol. Sefydlwyd Ffatrïoedd Sieliau Gwladol ar hyd a lled y wlad. Cafodd adeiladau cyfredol eu defnyddio gan Ffatrïoedd Sieliau Gwladol – gan gynnwys adeilad yn Grangetown, Caerdydd a ddefnyddid cyn hynny i nyddu cywarch ac edau; adeilad cwmni rheilffordd Ffestiniog ym Mhorthmadog; a ffatri Baldwins yng Nglandw ˆr, Abertawe. Roedd pob un yn cynhyrchu sieliau a phennau sieliau bach a mawr. Roedd yn waith peryglus dros ben, gyda ffrwydradau’n bosibl ar unrhyw adeg. Bu sawl achos o farwolaeth ac anafiadau difrifol. Pen-bre a’r Merched Caneri Roedd cwmni Nobels Explosives yn berchen ar hen ffatri ddynameit ym Mhen-bre ger Porth Tywyn. Cawsant ganiatâd gan y llywodraeth i agor un o’r ffatrïoedd TNT (trinitrotolwen) pwrpasol cyntaf ym 1914. Cafodd y safle ei feddiannu gan y Weinyddiaeth Arfau Rhyfel a’i ailenwi’n Ffatri Ffrwydron Gwladol Pen-bre erbyn 1917, cyn cau ar ddiwedd y rhyfel. Roedd y gwaith yn galed a pheryglus tu hwnt, a TNT yn sylwedd gwenwynig iawn. Roedd yn cynnwys asid picrig oedd yn troi crwyn y menywod oedd yn gweithio gydag ef yn felyn llachar gan roi’r llysenw ‘merched caneri’ iddyn nhw. Byddai’r menywod yn cael llaeth i’w yfed i geisio gwrthsefyll effeithiau’r cyfansoddion peryglus hyn. Gallent arwain at fethiant yr afu, anaemia a niwed i'r system imiwnedd. Bu farw tua 400 o fenywod yn sgil dod i gysylltiad â gormod o TNT yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Pêl-droed y Munitionettes Dechreuodd menywod gymryd rhan mewn campau fel pêl-droed a chriced yn ystod y rhyfel hefyd. Sefydlwyd timau pêl-droed mewn ffatrïoedd arfau ar hyd a lled Prydain. Roedd y llywodraeth yn annog menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon er lles eu hiechyd ac i’w helpu i gadw’n heini er mwyn gweithio yn y ffatrïoedd. Roedd gogledd-ddwyrain Lloegr yn un o'r prif ganolfannau pêl-droed i ferched. Roedd tîm Blythe Spartans Ladies FC yn ddiguro, a sgoriodd eu hymosodwr, Bella Raey, 33 o goliau mewn un tymor. Cystadlodd 30 o dimau am y Munitionettes’ Cup ym 1918. Roedd y gamp mor boblogaidd nes bod timau wedi’u sefydlu yn y rhan fwyaf o drefi’r ffatrïoedd hyn erbyn diwedd y rhyfel. Heidiodd tua 53,000 o bobl i Barc Goodison ar ddydd San Steffan 1920, i wylio gêm rhwng St Helens Ladies a Dick, Kerr Ladies. Pan ddaeth y dynion nôl adref o’r ffrynt, caeodd y ffatrïoedd arfau rhyfel a chwalodd timau’r menywod. Ym 1921, cafodd menywod eu gwahardd rhag chwarae ar unrhyw un o gaeau'r FA, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, er bod eu gemau nhw lawn mor boblogaidd â phêl-droed i ddynion. Gyda’r dynion yn dychwelyd i fyd y bêl gron, doedd dim croeso mwyach i fenywod chwarae. Roedd rhaid aros tan 1971 cyn i’r Gymdeithas ildio a chaniatáu i fenywod chwarae ar eu meysydd unwaith eto. Tîm pêl-droed Llanelli Ladies FC, 1921. Cydraddoldeb Ym 1915, lluniodd Pwyllgor Gweithwyr Rhyfel y Menywod restr o hawliau yr oeddent am eu cael, gan gynnwys yr hawl i hyfforddiant, aelodaeth o undeb llafur a chyflog cyfartal am waith cyfartal. Roedd menywod oedd mewn swyddi a arferai gael eu gwneud gan ddynion yn cael llawer llai o gyflog, ac yn flin iawn am hynny wrth reswm. Roedd dynion yn poeni hefyd y byddai’r menywod yn parhau i wneud y gwaith hwn ar ôl diwedd y rhyfel, ac y byddai pawb yn derbyn cyflogau is. Ym 1918, cynhaliwyd y streic gyntaf dros gyflog cyfartal yn y Deyrnas Unedig gan fenywod oedd yn gweithio ar fysiau a thramiau Llundain. Roedd y streic yn llwyddiannus, a bu’n rhaid i’r llywodraeth ystyried a ddylai’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fod yn berthnasol i bob maes ym myd diwydiant. Aeth y Cabinet Rhyfel ati i sefydlu pwyllgor ym 1917 i ystyried cydraddoldeb yn y gweithle. Ni chyhoeddwyd yr adroddiad tan 1919. Daeth i gasgliad nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng lefelau cynhyrchiant nag ansawdd gwaith dynion a menywod. Ond parhau wnaeth y syniad fod menywod yn llai abl na dynion. Ffrwydrad ym Mhen-bre Pan ddaeth y rhyfel i ben, defnyddiwyd ffatri arfau Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, i ddatgymalu sieliau yn hytrach na’u cynhyrchu. Ar 18 Tachwedd 1918, lladdwyd Mary Fitzmaurice (36 oed), Jane Jenkins (21 oed) ac Edith Ellen Copham (19 oed) mewn ffrwydrad. Anafwyd dwy arall hefyd Ar noson y ddamwain angheuol, roedd y menywod yn trin math gwahanol o siel na’r arfer. Cafodd Jane ei lladd gan y ffrwydrad yn syth. Bu farw Mary ac Edith yn yr ysbyty’r noson honno. Merched o Abertawe oedden nhw i gyd, a chafodd Edith a Mary eu claddu ym mynwent Dan-y-graig yn nwyrain y dref. Bu gorymdaith angladdol enfawr o’r Stryd Fawr gyda band pres yn ei harwain a 500 o ferched y ffatri yn dilyn, oll yn eu lifrai gwaith. Cafwyd teyrnged yn y South Wales Weekly Post, ‘[the women] had died as surely in the service of their country as any on the battlefield’ a nodwyd bod y dorf wedi saliwtio wrth i’r hers basio. Cafodd miliwn a mwy o sieliau eu datgymalu ym Mhen-bre heb unrhyw ddamweiniau pellach. Angladd gweithiwr arfau rhyfel yn Abertawe.
Y Gilbern – rhy dda i beidio gwneud mwy Ian Smith, 30 Gorffennaf 2019 Mae'r enw Gilbern yn gwneud i chi feddwl yn syth am geir Cymreig. Rhwng 1959 a 1974, cafodd dros 1,000 o gerbydau eu cynhyrchu yn y ffatri yn Llanilltud Faerdref yng Nghwm Rhondda.Gwaith Giles Smith a Bernard Friese oedd y c eir, a chyfuniad o'u henwau cyntaf yw Gilbern. Peiriannwr oedd Bernard a chigydd oedd Giles. Roedd Giles eisiau adeiladu ei gar ei hun, ac roedd gan Bernard brofiad o weithio gyda gwydr ffeibr felly gyda'i gilydd, crëwyd y Gilbern GT. Adeiladwyd y car cyntaf ym 1959 mewn sied tu ôl i siop y cigydd ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd.Gwahoddwyd y gyrrwr rasio Peter Cotterell i weld y car, ac roedd yn dwlu arno'n syth. Penderfynwyd bod y car yn rhy dda i beidio gwneud mwy ac y dylid ffurfio cwmni i greu rhagor ohonynt. Daeth Cotterell yn berchennog ar sawl Gilbern GT, ac fe addasodd y ceir er mwyn eu rasio.Daeth y darnau mecanyddol gwreiddiol o geir Austin ac Austin Healey, er i Cotterell osod sawl injan wahanol yn ei geir rasio, gan gynnwys MGA 1600 a MGB 1800. Roedd gan un car, a wnaed ar gyfer y rasiwr ken Wilson, injan Chevrolet 4.5 litr ac echel ôl annibynnol Jaguar! Gilbern Invaders mewn rali perchnogion yn 2009 Ym 1961, prynodd y ddau safle yn Llanilltud Faerdref a dechrau cynhyrchu ceir o ddifri. Dechreuwyd gydag un car y mis, ond erbyn 1965 roedden nhw'n cynhyrchu pedwar car y mis.Ym 1966, cynhyrchwyd car newydd, y Gilbern Genie. Roedd y car yma'n fwy na'r GT bach chwim, ac yn addas i deulu. Roedd ganddo injan Ford V6 a digon o bŵer. Am gyfnod byr, cynhyrchwyd y GT 1800 a'r Genie ar yr un pryd ond ym 1967, rhoddwyd y gorau i hynny'n raddol fach.Ni wnaeth y cwmni symiau mawr o arian erioed ond bu Giles a Bernard wrthi'n cadw pethau i fynd tan fis Ebrill 1968 pan werthwyd y cwmni i ACE Group, oedd â safle'n agos at ffatri Gilbern. Gilbern GTs mewn rali perchnogion yn 2009 Y bwriad oedd bod Giles a Bernard yn aros fel cyfarwyddwyr, ond gadawodd Giles yn fuan wedi'r gwerthiant. Arhosodd Bernard gyda’r cwmni am tua blwyddyn.Yn lle'r Genie, daeth Gilbern Invader Mark I a II ac erbyn 1972, daeth y Mark III, ac adeiladwyd yr Invader Estate hefyd ym 1971.Cynhyrchwyd prototeip o gar chwim dwy sedd cyffrous, y T11. Dim ond un ohonynt gafodd ei adeiladu ond ni chafodd ei gynhyrchu fyth. Ond mae'r T11 yn dal o gwmpas. Mae wedi cael ei adfer yn llwyr ac yn edrych yn wych! Aeth y Gilbern T11 ddim pellach na'r cam prototeip Rhwng 1972 ac 1974, roedd y cwmni'n ei chael yn anodd gwneud elw a hyd yn oed wedi cyfres o fuddsoddwyr, daeth i ben ym 1974.Mae gennym dri Gilbern yn ein casgliad. Mae'r Gilbern GT Mark I yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae'r ddau arall fel arfer yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw ac yn cael eu harddangos o bryd i'w gilydd mewn arddangosfeydd arbennig. Gilbern Invader yw'r ddau, Mark II gwyrdd a Mark III awtomatig porffor. Y Mark III oedd y model olaf i gael ei a gynhyrchu gan y cwmni, er iddyn nhw greu dau brototeip arall.
Gweithio Dramor - Ymfudo o Gymru 9 Chwefror 2010 Dylanwad yr ymfudwyr CymreigYn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, symudodd miliynau o bobl o bob cwr o'r byd i wledydd eraill i chwilio am waith. Roedden nhw am newid eu bywydau, blasu arferion gwaith newydd neu gael antur mewn gwlad wahanol.Aeth llawer ohonyn nhw o Cymru â'n sgiliau diwydiannol traddodiadol gyda nhw. Helpodd rhai i greu llwyddiant economaidd parhaol yn eu gwledydd newydd. Aeth eraill ati i addasu eu sgiliau neu i ddysgu sgiliau newydd. Llwyddodd rhai i ennill arian a bri mawr. Cafodd eraill fywydau llwyddiannus mwy di-nod, gan ymgartrefu a magu teuluoedd. Daeth rhai nôl adref wedyn, ond ni welodd eraill eu mamwlad byth eto.Yma byddwn yn dangos y gwahanol ddiwydiannau o Gymru a allforiodd weithwyr ac arbenigedd i bedwar ban y byd. Beth oedd y diwydiannau a'r sgiliau hyn? I le aeth y gweithwyr? Pam oedd pobl yn gadael, a sut? Pa werthoedd a thraddodiadau aeth gyda nhw? Pa effaith gafodd eu hymadawiad ar Gymru? Glofa Cymreig, Kentucky Glo"Roedd ein diwydiant glo'n llewyrchus dros ben tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd y byd cyfan yn troi aton ni am arbenigedd a chyngor."[gweld mwy] Mwynglawdd copr Burra Burra, 1874. Copr"Cymru oedd yn arwain y diwydiant mwyndoddi copr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y gweithfeydd yn ardaloedd Abertawe a Threffynnon yn cynhyrchu mwy na hanner copr y byd i gyd."[gweld mwy] John Davies o Dalsarnau, Gwynedd, gyda'i frawd a'i gyfaill. Reoddynt yn chwilio am aur yn Queensland, Awstralia yn y 188au Aur"Mae pobl wedi bod yn mwyngloddio aur yng Nghymru'n ysbeidiol ers miloedd o fynyddoedd, ond ni chyfogodd y diwydiant lawer o weithwyr erioed. Serch hynny, ymunodd llawer o Gymry â'r 'Rhuthrau am Aur' enwog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."[gweld mwy] Gweithwyr Cymreig yn y gweithfeydd haearn yn Hughesovka. John Hughes yw'r ail o'r dde yn y rhes flaen Haearn"Cymru oedd yn arwain y ffordd yn y gwaith o ddatblygu'r diwydiant haearn ym Mhrydain ac nid yw'n syndod felly mai ymfudwyr o Gymru oedd llawer o arweinwyr y diwydiant rhyngwladol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."[gweld mwy] Bangor, Pennsylvania Llechi"Defnyddiwyd llechi fel deunydd toi yn Ewrop. Allforiwyd llechi o Gymru i bob cwr o'r byd ar gyfer projectau adeiladu pwysig. Roedd y ffaith i lechi gael eu darganfod mewn llawer o wledydd gwahanol yn un o nifer o ffactorau economaidd a barodd i weithwyr o Gymru symud i'r ardaloedd hynny."[gweld mwy] Gwaith Dur Lithgow, New South Wales, Awstralia, 1920s Dur"Addaswyd llawer o'r canolfannau haearn i greu dur, sy'n ddeunydd cryfach, mwy amlbwrpas. Nid yw'n syndod i'r Cymry wneud cyfraniad pwysig at y newid hwn."[gweld mwy] Metropolis a adeiladwyd ar gyfer William Thomas ym 1885. Llongau"Mae gan Gymru 1,200km (750 milltir) o arfordir a hanes morwrol hir. Teithiodd morwyr o Gymru dros y byd i gyd yn allforio nwyddau o Gymru ac yn mewnforio deunyddiau crai ar gyfer diwydiant. Roedd llongau Cymreig ymysg y mwyaf adnabyddus ym maes masnach forwrol ac roedd perchnogion y cwmnïau ymysg y bobl fwyaf cefnog."[gweld mwy] Carreg chwarela, Randolph, Wisconsin Mwyngloddio Metel"Roedd y gweithwyr Cymreig yn enwog am eu harbenigedd ym maes mwyngloddio. Yn ogystal â glo, roedden nhw'n gallu cloddio am aur, haearn, plwm a chopr."[gweld mwy] John Williams Tunplat"Cymru hefyd oedd un o brif gyfenwyr y byd ym maes cynhyrchu tunplat. Ar ddechrau'r 1890au cynhyrchwyd dros 80% o dunplat y byd yn ne Cymru."[gweld mwy] Morgan C. Jones, (ar y dde), nai Morgan Jones oedd yn gweithio dros yr un cwmni Diwydiannau Eraill"Nid pawb yng Nghymru oedd yn gweithio yn y diwydiannau trwm 'traddodiadol' wrth gwrs. Roedd llawer yn gweithio mewn diwydiannau eraill ac aethant ati i drosglwyddo'r sgiliau roedden nhw wedi eu dysgu mewn pyllau, ffowndrïau a gweithfeydd i weithleoedd eraill."[gweld mwy] Cartŵn o'r Western Mail, 1928 Patrymau Ymfudo"Nid pawb a adawodd Gymru am fywyd newydd dramor ffarweliodd â'u mamwlad am byth. Daeth llawer o bobl adref am bob math o resymau. Yr enw am hyn yw mudo yn ôl."[gweld mwy] Bois Breaker yn Pennsylvania. Dechreuodd nifer o fechgyn ifanc o Gymru weithio'n ifanc iawn yn America. Radicaliaeth"Roedd gweithwyr diwydiannol o Gymru'n dod o ardaloedd lle'r oedd yr undebau llafur trefnus iawn. Roedden nhw'n adnabyddus am sefyll dros eu hawliau, amodau gwaith diogel a chyfogau teg."[gweld mwy] Eglwys Hen Saron, yr eglwys Gymreig gyntaf yn Minnesota, 1856 Diwylliant Cymraeg"Fel llawer o ymfudwyr eraill, aeth y Cymry â'u diwylliant i'r gwledydd newydd gyda nhw. Mewn lle dieithr a newydd, roedd cadw caneuon, straeon, ieithoedd a thraddodiadau cyfarwydd yn helpu ymfudwyr i ymdopi â'r anghyfarwydd."[gweld mwy] Paratoi bwyd ar gyfer Cymanfa Ganu, Eglwys Peniel, Pickett, Wisconsin,1946. Menywod"Er taw dynion oedd y mwyafrif o'r gweithwyr diwydiannol, roedd menywod yn bwysig iawn i'r cymunedau mudol."[gweld mwy] California, UDA Enwau llefydd"Roedd hi'n gyffredin i ymfudwyr o bob gwlad enwi eu haneddiadau newydd ar ôl llefydd yn eu mamwlad. Roedd hyn yn ffordd o ddathlu eu hunaniaeth a chadw cysylltiad â'u mamwlad."[gweld mwy]