Beth yw sêl?
Am gannoedd o flynyddoedd yn y gorffennol, yn lle llofnod, roedd pobl yn defnyddio seliau – dyfeisiau personol ac arnynt lun fel rheol, a rhyw fath o arysgrif neu arwyddair neilltuol i’r perchennog yn aml – i ddangos ei fod yn dyst i wahanol ddogfennau neu’n cytuno iddynt.
Yn y byd Rhufeinig, sêl-fodrwyau ac ynddynt intaglio – gem a llun wedi’i ysgythru arni – oedd y rhan fwyaf o seliau. Yn nes ymlaen, yn y cyfnod canoloesol, roeddent yn tueddu i fod ar ffurf darnau metel fflat crwn neu hirgrwn, â chlustiau neu ddarnau siâp côn i afael ynddynt.
Roedd patrwm ac arysgrif neilltuol wedi’u hysgythru ar wyneb gwastad y ddwy ffurf er mwyn ffurfio dei, neu fatrics. Byddai'r matrics yn cael ei wasgu ar gwyr lliw gan greu sêl a fyddai, yn aml, yn cael ei gosod ar ddogfen â llinyn neu stribed o femrwn.
Mae dolenni ar gefnau matricsau seliau canoloesol yn awgrymu eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel neu eu cario ar linynnau neu gadwyni.
Mae gan Amgueddfa Cymru ac amgueddfeydd lleol ledled y wlad lawer o enghreifftiau o fatricsau seliau yn eu casgliadau. Fodd bynnag, mae'r erthygl hon yn ystyried rhai o’r cannoedd a ddarganfuwyd gan aelodau’r cyhoedd a’u cofnodi yng nghronfa ddata’r Cynllun Henebion Cludadwy (PAS). Pobl â datgelyddion metel a ddarganfu'r rhan fwyaf ohonynt ac maent mewn casgliadau preifat erbyn hyn, ar wahân i nifer fechan a aeth i ddwylo amgueddfeydd trwy'r broses drysor.
Yn y cyfnod canoloesol y câi seliau eu defnyddio fwyaf yng Nghymru, yn enwedig rhwng y 12fed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Gwyddom am lawer llai o enghreifftiau o gyfnod y Tuduriaid ac wedyn, er eu bod yn dal i gael eu defnyddio at rai dibenion tan heddiw.
Sut maent yn edrych?
Gwnaed llawer o fatricsau seliau o fetelau cyffredin fel plwm neu aloi plwm ac aloi copr fel efydd. Nid yw aelodau'r cyhoedd yn dod ar draws enghreifftiau wedi'u gwneud o arian mor aml ond mae llawer o'r rhai arian sydd yn cael eu darganfod yn mynd i gasgliadau amgueddfeydd ar ôl i grwner ddatgan eu bod yn drysor.
Rhai crwn yw'r rhan fwyaf ond nid pob un. Yn aml, byddai gan fenywod a chlerigwyr fatricsau seliau siâp hirgrwn pigfain a gwyddom am enghreifftiau siâp tarian, siâp diemwnt a rhai chweochrog.
Gan amlaf, gwelir rhyw fath o lun neu batrwm wedi'i ysgythru yng nghanol seliau canoloesol ac arysgrif o gwmpas yr ymyl yn datgelu pwy oedd perchennog y sêl - unigolyn neu sefydliad. Yn aml, dim ond llun oedd ar seliau diweddarach.
Ble cânt eu darganfod?
Mae matricsau seliau wedi’u darganfod ledled Cymru ond maent yn fwy cyffredin mewn rhai ardaloedd na’i gilydd. Ym Mro Morgannwg y darganfuwyd y nifer fwyaf, ac yna Sir Benfro, Sir Fynwy, Wrecsam a Sir y Fflint. Ar wahân i un enghraifft yr un o Bont-y-clun a Chaerffili, ni chofnodwyd bod yr un matrics seliau wedi'i ddarganfod yng Nghymoedd y De, nac yng Nghastell-nedd Port Talbot, Ceredigion na Gwynedd.
Os edrychwch ar fap gwrthrychau Hel Trysor, fe welwch fod y patrwm hwn yn cyfateb yn eithaf agos i'r ardaloedd lle darganfuwyd eitemau archaeolegol eraill o lawer o wahanol fathau, o’r Oes Efydd gynnar i’r ddeunawfed ganrif.
Pwy oedd yn eu defnyddio?
Byddai angen sêl ar lawer o wahanol bobl, o'r brenin i dirfeddianwyr bach a masnachwyr – unrhyw un, mewn gwirionedd, oedd ag angen unrhyw fath o ddogfennau busnes neu gyfreithiol. Roedd gan unigolion seliau personol, ond roedd cyrff fel corfforaethau trefi, cymdeithasau masnachol ac urddau crefyddol, eglwysi cadeiriol, abatai a mynachlogydd yn defnyddio seliau hefyd.
Roedd gan lawer o bobl uchel eu statws factrics sêl o ansawdd da. Gallai fod wedi'i wneud o arian yn lle metel cyffredin, ac arno ddyfais a ddewiswyd yn ofalus wedi'i ysgythru gan grefftwr medrus. Byddai pobl lai cyfoethog yn aml yn prynu rhai 'oddi ar y silff', o blwm neu efydd, gyda phatrwm parod wedi’i dorri’n eithaf amrwd. Roedd yna seliau ar gyfer pob poced!