: Straeon Covid

Celf mewn Ysbytai

Sara Treble-Parry gyda Carys Tudor a Stephanie Roberts, 22 Medi 2023

Wrth i bandemig COVID-19 waethygu dros aeaf 2020, gyda'r pwysau ar staff y GIG yn cynyddu, roedd Amgueddfa Cymru am ddefnyddio'r casgliad celf mewn ysbytai a lleoliadau gofal i gynnig cysur i staff a chleifion.

Dyma ni'n gweld mewn rhyfeddod – ac ofn – aberth staff y GIG o ddydd i ddydd mewn amodau tu hwnt i amgyffred. Dim ond cipolwg o'r gwaith sy'n digwydd tu ôl i'r llenni a welwn ni, a dyma ni'n gofyn beth allen ni fel amgueddfa ei wneud i helpu?

Fel rhan o Celf ar y Cyd – cyfres o brojectau a lansiwyd yn 2020 i ganfod ffyrdd newydd i bobl fwynhau'r casgliad celf yn ystod y pandemig - dyma ni'n dechrau gweithio gyda byrddau iechyd ar draws Cymru.

Roedden ni am i gelf fod yn rhan o fywyd gwaith staff y GIG a staff gofal, a rhoi'r cyfle iddyn nhw ddewis sut i gynnwys celf yn eu gweithle.

Ers 2020 rydyn ni wedi cydweithio'n agos â byrddau iechyd i barhau â'r gwaith a ddechreuwyd yn ystod pwysau'r pandemig. Mae'n bleser lansio'r Pecynnau Gofal Lliniarol, wedi'u datblygu'n ar y cyd â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

 

Sut ydyn ni'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys?

Mae'r Pecynnau Gofal Lliniarol yn cael eu datblygu i roi cefnogaeth ychwanegol i dimau gofal lliniarol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Dyluniwyd y pecynnau ar y cyd â staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ac maen nhw'n cynnwys delweddau o weithiau celf o'r casgliad ac adnoddau digidol, o ddisgrifiadau sain i seinluniau. Rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n creu profiad creadigol, tyner i gleifion, ac hefyd yn fodd i greu awyrgylch o gefnogaeth emosiynol drwy annog sgwrsio a rhannu ymhlith teulu, ffrindiau, a gofalwyr.

Rydyn ni yn Amgueddfa Cymru am rannu'r casgliad cenedlaethol gyda chymaint o bobl â phosib, a rhoi cyfleoedd i ddefnyddio'r casgliadau mewn ffyrdd sy'n addas i bawb. Yn ein gwaith gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, rydyn ni wedi canolbwyntio ar ddefnyddio casgliadau Amgueddfa Cymru i gysuro ac ysbrydoli.

 

Nawdd a chefnogaeth

Galluogwyd cefnogaeth Amgueddfa Cymru drwy Celf ar y Cyd. Dechreuodd hyn fel cyfres o brojectau celf weledol ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, oedd yn ein herio ni i rannu'r casgliad celf ar draws Cymru mewn ffyrdd newydd ac arloesol yn ystod y pandemig. Mae'r projectau eraill yn cynnwys ein cylchgrawn celf weledol digidol, ⁠Cynfas⁠, ac arddangosfa 100 Celf . Lansiwyd gwefan Celf ar y Cyd ym mis Mehefin 2023, lle gallwch chi bori, dysgu a chael eich ysbrydoli gan y casgliad celf gyfoes o gysur eich cartref. Dilynwch ni ar Instagram @celfarycyd i ddysgu mwy.