Achub gwrthrych Llychlynnaidd prin ar ôl 900 mlynedd o dan y dŵr 17 Ebrill 2007 Gweithgareddau deifio ar Graig Smalls (1992) Manylyn o anifail wedi'i ddarlunio o'r ochr ar un o ochrau dyrnfol cleddyf Smalls Manylyn o fwystfil ar frig gwarchodydd Smalls Cleddyf Smalls, tua.1100 O.C. Lleoliad Creigres y Smalls yn De-Orllewin Cymru Mae'r amgueddfa'n dal yr enghreifftiau hynotaf o gelf Lychlynnaidd hwyr i'w canfod yng Nghymru erioed. Darganfuwyd dyrnfol isaf cleddyf Llychlynnaidd, yn dyddio o tua 1100 OC, gan blymiwr hamdden ym mis Awst 1991. Daethpwyd o hyd i'r ddyrnfol ger Graig Smalls, - tua 13 milltir i'r gorllewin o Ynys Sgomer (Dyfed), â'r tir agosaf ato yw Ynys Gwales, tua 7 milltir i'r dwyrain. Dyma, felly, yw un o'r safleoedd archeolegol mwyaf anghysbell yng Nghymru. Wedi'i chastio mewn efydd a'i haddurno'n gain Castiwyd y ddyrnfol cleddyf mewn efydd, ac addurnwyd yr ochrau gyda phâr o anifeiliaid arddulliedig wedi'u darlunio o'r ochr, a'u plethu â bwystfilod tenau tebyg i nadroedd. Ar frig y ddyrnfol, mae dau anifail ceg-agored yn cnoi safle'r carn, a fyddai wedi estyn drwy'r ddyrnfol, ond sydd bellach wedi diflannu. Mae'r prif rannau addurnol yn frithaddurnedig â gwifrau arian, a llenwyd y cefndir yn wreiddiol gyda brithwaith du a elwir yn nielo, i ffurfio cynllun hardd o aur, du ac arian. Addurno yn arddull Urnes Gelwir yr arddull addurnol hwn yn Urnes, ac mae'r enw'n deillio o addurniadau eglwys fach bren, a adeiladwyd yn Urnes yng ngorllewin Norwy, tua 1060 OC. Mae'r darganfyddiad newydd sy'n cynnwys cernluniau cain a choeth o anifeiliaid yn ein hatgoffa nad morladron ac ysbeilwyr oedd y Llychlynwyr yn unig, ond crefftwyr a oedd yn creu celf llawn egni a bywiogrwydd a oedd yn seiliedig ar ffurfiau anifeiliaid. Mae'r addurno'n perthyn i waith metel a gynhyrchwyd yn Iwerddon o ail hanner yr 11eg ganrif, pan gipiodd ddychymyg y brodorion, fel mae Croes Cong (sy'n dyddio o tua 1123) a chysegrfa Sant Manchan (12fed ganrif) yn dangos. Ar ôl adnabod y darganfyddiad, dynodwyd y safle o dan Ddeddf Gwarchod Llongddrylliadau 1973, sy'n anelu i atal ymyrraeth anawdurdodedig ar safleoedd yr ystyrir eu bod o bwys archeolegol, hanesyddol neu artistig. Gan fod y darganfyddiad mor brin cafodd yr amgueddfa drwydded i wneud arolwg o'r safle. Roedd logisteg ymchwiliad o'r fath yn aruthrol o anodd, gydag ymchwyddiadau mawr yn rowlio i mewn o Fôr yr Iwerydd ac yn taro'r creigiau agored. Er gwaetha'r anawsterau hyn, bu'n bosibl archwilio'r ardal a gwneud cofnodion fideo a ffotograffig o amgylchedd tanddwr y riff, a chyd-destun tebygol y darganfyddiad. O ganlyniad i hyn, gwyddwn fod y safle wedi'i leoli i'r de o'r goleudy presennol, ar ben un o rigolau tanddwr y ffurfiannau basalt a dolerit sy'n ffurfio'r riff. Mae'n annhebygol bod y darganfyddiad hwn o eiddo personol gwerthfawr, mewn lleoliad o'r fath, yn cynrychioli colled bersonol a damweiniol. Yn hytrach, mae'n debygol ei fod yn cynrychioli llong, Llychlynnaidd mwy na thebyg, a ddymchwelodd ac a suddodd yn ystod mordaith hir mewn cyfnod pan oedd fflyd Dulyn yn ymosod yn gyson ar ganolfannau cyfoethog megis Tŷ Ddewi a Bryste. Roedd y llong yn symbol dramatig o ddiwylliant Llychlynnaidd, ac o edrych ar ddarganfyddiadau Llychlynnaidd eraill, mae'n bosibl bod y llong a gariai'r cleddyf wedi mesur rhwng 13 a 28 metr o hyd - naill ai llong fawr, denau a chwim ar gyfer rhyfela, neu long letach gadarnach ar gyfer cludo pobl a chargo dros bellteroedd hir. Drylliwyd nifer o longau ar Graig Smalls cyn dyfodiad cymhorthau mordwyol megis radar a goleudai, a byddai'n rhaid i unrhyw longau a deithiai i'r Iwerddon o arfordir de Cymru lywio cwrs yn ddigon pell i'r dde o Hats and Barrels er mwyn sicrhau eu bod yn osgoi'r creigiau peryglus rhwng ynysoedd Skockholm, Skomer a Grassholm, sydd i gyd yn enwau Scandinafaidd. Mae'r ffaith bod y darganfyddiad hwn mor anghyffredin, safon y grefft, a natur safle'r darganfyddiad, oll yn ffactorau sy'n taenu mwy o oleuni ar weithrediadau hynafol y Llychlynwyr ar hyd arfordir Cymru.
Celfyddyd Geltaidd - Gwreiddiau a Chwedlau 2 Ebrill 2007 Y Celtiaid Y darn harnais o'r Oes Haearn Hwyr o Alltwen Mae astudio gwahanol arddulliau celf 'Geltaidd' ar waith metel yn gymorth i ddeall pobloedd Ewrop yn Oes yr Haearn. Defnyddiwyd celfyddyd La Tène, sef yr enw cywir amdano, ar draws Ewrop o ddiwedd y 5ed ganrif CC ymlaen. Roedd y gelfyddyd yn gwbl wahanol i arddulliau'r byd Canoldirol clasurol, a ddefnyddiai ffurfiau naturiol mewn arddull a lifai'n rhydd. Credir mai'r Celtiaid oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r arddulliau La Tène cynnar. Roeddent yn bobl oedd yn rhannu ieithoedd, cymdeithasau a chredoau crefyddol paganaidd cyffelyb. Heriwyd y dyb yma'n ddiweddar; heddiw mae arbenigwyr yn credu bod arddulliau gwaith metel tebyg yn awgrymu i'r math yma o gelfyddyd groesi ffiniau diwylliannol, ac na wnaeth, o reidrwydd, aros o fewn ffiniau un hunaniaeth ethnig arbennig. Mae gan Gymru nifer o ddarganfyddiadau o waith metel wedi'u haddurno yn yr arddulliau celf La Tène, ac mae esiamplau ohonynt yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Enamelau Gwydr Dadansoddi samplau yn defnyddio Microsgop Scanio Electron Meistrolwyd y dechneg o osod 'enamel' coch ar waith metel addurnedig gan weithwyr metel ym Mhrydain o'r 3ydd ganrif CC ymlaen. Math o wydr yw'r enamel mewn gwirionedd, a osodir drwy dorri darnau i'r siapiau cywir; cynheswyd y darnau yn ofalus nes eu bod yn feddal, cyn eu gwthio i mewn i'r gwaith metel. Darganfuwyd esiampl wedi ei addurno drwy gelfyddyd La Tène, gyda'r enamel coch, yn Alltwen ger Pontardawe (Castell Nedd - Port Talbot), a brynwyd gan Amgueddfa Cymru. Mae'r darganfyddiad wedi codi cwestiynau ynghylch gwrthrychau enamlog ac addurnedig o Oes yr Haearn. Pa mor debyg (neu wahanol) oedd traddodiadau gwaith metal gogledd a de Cymru? A fu Aber yr Afon Hafren yn rhwystr neu'n ffocws diwylliannol i weithwyr metel rhwng De Cymru a de-orllewin Lloegr yn ystod yr Oes Haearn hwyr? Sut mae'r 'enamelau' (gwaith gwydr) yma'n dirywio? Tynnu samplau i'w dadansoddi Crysialau cwprit o fewn i'r matrics gwydr Ymhlith yr eitemau a ddewiswyd ar gyfer eu hastudio roedd darn o gyfrwy ceffyl o Gaerdydd, Powlen yr Wyddfa (Gwynedd) gyda'r motiff sy'n debyg i gath, a detholiad o offer marchogaeth o gelc Blaendulais (Castell Nedd - Port Talbot), yn ogystal â darganfyddiad Alltwen. Cymerwyd samplau bach o enamel o'r gwrthrychau; gosodwyd a chabolwyd hwy ar sleid microsgop. Gwnaed dadansoddiadau o samplau gan ddefnyddio Microsgop Sganio Electron a dadansoddiad Pelydr-x. Astudiwyd strwythur yr enamelau hefyd, drwy ddefnyddio cyfuniad o olau trosglwyddedig ac achlysurol gan ddefnyddio microsgop polareiddio golau. Mae canlyniadau'r dadansoddi'n dangos gwydr 'calch-soda', a oedd yn cynnwys llawer o blwm a chopr. Dyma sydd yn gyfrifol am liw coch llachar ac anhryloywder y gwydrau hyn. Mae'r broses o'u cynhyrchu'n un ddatblygedig yn dechnegol, a gellir eu cynhyrchu yn unig drwy reoli cynhwysion y gwydr ac amodau'r ffwrnais yn ofalus. Mae'r canlyniadau'n dangos bod gwrthrychau enamel o dde Cymru'n cyfateb yn weddol agos i'r rhai o dde-orllewin Lloegr; Fodd bynnag, mae'r enamel ar Bowlen yr Wyddfa yn wahanol iawn i'r gweddill. Awgryma hyn bod y broses o gynhyrchu'r gwydrau yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru.