Gwregys Llandoche 2 Mai 2007 Gwaith cloddio ar waith yn 1994 mewn rhan o fynwent mynachlog Dochdwy Sant. Claddiad 631, a ddarganfuwyd. Manylyn o'r gwregysau haearn oedd am ganol y gŵr yng nghladdiad 631. Y gwregysau haearn yn ystod y gwaith cadwraeth y bu tîm o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol amdano. Ym 1994 aeth archaeolegwyr ati i ddatgladdu'r casgliad mwyaf o gladdiadau canoloesol cynnar i'w ddarganfod yng Nghymru hyd yma, yn ogystal â chofnodi tystiolaeth am arfer claddu anghyffredin. Roedd Ideal Homes Cymru Cyf. wedi rhoi contract i archaeolegwyr Cotswold Archaeology i gloddio tir a glustnodwyd ar gyfer codi tai newydd yn Llandoche (Bro Morgannwg). Gorweddai'r safle ar gyrion mynwent yr eglwys blwyf bresennol, a safai, yn ôl y sôn, ar safle mynachlog ganoloesol gynnar Dochdwy Sant. Yma, datgladdwyd dros 800 o gladdiadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif hyd yr unfed ganrif ar ddeg. Mae astudiaeth fanwl o'r sgerbydau gan Louise Loe (Prifysgol Bournemouth) wedi bwrw goleuni newydd ar boblogaeth Cymru yn ystod y cyfnod o dan sylw, ond roedd un bedd yn arbennig yn anarferol iawn. Gorweddai claddiad 631 yng nghanol y fynwent. Sgerbwd gŵr ifanc ydoedd, rhwng 25 a 35 oed, a rhyw 1.75m o daldra (5.75 troedfedd). Awgryma'r arbrofion dyddio radiocarbon, yn seiliedig ar ddarn o'i asgwrn, y bu farw'r gŵr rhwng OC340 a 660. Fodd bynnag, nid ei hynafiaeth oedd yn destun syndod ond yn hytrach y ddau wregys haearn a wisgai am ei ganol. Roedd deupen y ddau wregys yn sownd wrth ei gilydd y tu ôl i'w gefn. Wedi i'r pennau tapr gael eu gwthio drwy glustennau, cawsant eu morthwylio gan rywun arall, a'i gwnâi'n amhosibl i'r wisgwr eu tynnu oddi amdano heb gymorth. Mae'n amlwg nad ategolyn ffasiynol yn unig mo'r gwregys, ond pa ddiben arall oedd iddo? Yn ôl un awgrym, mae'n bosibl y câi'r gwregysau eu gwisgo fel gweithred o edifeirwch - diben nid amhriodol yng nghyd-destun cymuned fynachaidd. Gwyddys am achosion tebyg yn ystod yr Oesoedd Canol. Er enghraifft, arferai Begga, gweledydd o fynach ym mynachlog Much Wenlock (Sir Amwythig) yn gynnar yn yr wythfed ganrif, wisgo 'an iron girdle about his loins for the love of God'. Ceir tystiolaeth o blaid esboniad arall - fod y gwregysau haearn yn fath ar wregys torllengig - ar y cyfandir lle cafodd y defnydd o wregysau torllengig eu cofnodi gyntaf mewn testunau Rhufeinig. Cafwyd hyd i enghreifftiau hefyd mewn claddiadau yn dyddio o'r chweched a'r seithfed ganrif yn Ffrainc, yr Almaen, Swistir a Sbaen. Felly, pa un o'r ddau ddehongliad sy'n gywir - gwregys edifahŷwr neu wasgrwym dorllengig? Ychydig o'r ddau yw'r ateb, mae'n debyg. Yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar arferid credu bod y gallu i oddef dioddefaint yn cynnig llwybr tua'r nefoedd. Felly, roedd goddef poen torllengig ynddo'i hunan yn rhan, o bosibl, o weithred edfeiriol y gobeithiai gwisgwr y ddau wregys hyn elwa arno yn y byd a ddaw. Darllen Cefndir 'Llandough' gan A. Thomas a N. Holbrook. Yn Current Archaeology, cyf. 146, tt73-7 (1996). 'An early-medieval girdle from burial 631', gan M. Redknap. Yn N. Holbrook a A Thomas 'An early-medieval monastic cemetary at Llandough, Glamorgan: excavations in 1994', Medieval Archaeology 49 (2005), 53-64.
Datrys dirgelwch llofruddiaeth 1,000 oed 1 Mai 2007 Cloddio'r ffos amgâu a'r sgerbydau yn Llanbedr-goch (Ynys Môn). Ar ochr chwith y llun mae cyrsiau is mur amddiffynnol yr anheddiad. Gellir gweld dau o'r sgerbydau yn gorwedd ar lefelau uwch y ffos oedd y tu allan i'r mur. Penglog claddedigaeth 5. Roedd y benglog mewn darnau pan cafwyd hyd iddi a gwnaed gwaith i'w hailadeiladu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion. Wyneb claddedigaeth 5 ar ôl ei ail-greu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion. Pedwar o'r pum wyneb o Lanbedr-goch wedi eu castio mewn pres. Ym 1998-9, gwnaed darganfyddiad annisgwyl ac anodd i'w ddehongli yn anheddiad canoloesol cynnar Llanbedr-goch. Darganfuwyd pum sgerbwd dynol ar lefel uchaf ffos oedd wedi cael ei llenwi, yn union y tu allan i'r mur oedd yn amddiffyn yr anheddiad. Pam fod hyn yn Ddirgelwch? Claddwyd yn ddiseremoni mewn beddi bas. Yn groes i'r arfer Gristnogol, roedd yr holl sgerbydau wedi eu gosod â'u pennau naill ai tua'r gogledd neu'r de yn hytrach na'r dwyrain Taflwyd corff un dyn (tua 25-35 oed) ar ben corff plentyn (tua 10 — 15 oed). Mae'n bosib bod breichiau'r dyn wedi cael eu clymu y tu ôl i'w gefn, ac iddo gael ei daro yn ei lygad chwith â rhywbeth miniog Roedd blociau calchfaen a rwbel llai ar dri o'r cyrff, sy'n awgrymu cwymp y wal Ymosodiad Llychlynnaidd Mae'r gwaith a wnaed i ddyddio'r sgerbydau yn awgrymu eu bod yn dyddio o ail hanner y 10fed ganrif - cyfnod pan roedd Llychlynwyr Ynys Manaw yn rheoli Gwynedd i bob pwrpas - ac mae'n bosibl y bu canolfannau Llychlynaidd ar Ynys Môn hefyd. Mae amgylchiadau'r claddu, a'r ffaith na chyfeiriwyd y cyrff yn y ffordd Gristnogol yn awgrymu hwyrach i'r unigolion hyn farw mewn cyrch ar y pentref. Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod sut yn union y bu farw'r pump, ond mae'n bosibl eu bod wedi cael eu lladd wrth i'r Llychlynwyr chwilio am gyfoeth, ar ffurf gwystlon neu gaethweision yn yr ardal. Perthynas Genetig Mae penglogau Llanbedr-goch i gyd yn dangos nifer o nodweddion tebyg: holltau llygaid llorweddol safnau sgwâr clustiau adlynol (heb labedau) Mae rhai o'r nodweddion hyn yn awgrymu perthynas genetig rhwng yr unigolion (naill ai'n perthyn i'r un teulu neu'n dod o gronfa enynnol gyfyng). Mae'r gwaith yn parhau i astudio'r data a gasglwyd yn ystod y gwaith cloddio, wrth i ni geisio ail-greu'r anheddiad yr oedd perchnogion y sgerbydau hyn yn gyfarwydd ag ef. Yn ogystal â chyfoeth o dystiolaeth am drefn yr anheddiad gan gynnwys adeiladau, arteffactau a safonau byw safle uchel ei statws - mae e wedi darparu gweddillion y bobl oedd gynt yn byw ac yn bod yno. Darllen Cefndir Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archaeolegol gan Mark Redknap. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2000).
Llychlynwyr ar Ynys Môn 1 Mai 2007 Mae Llanbedrgoch ar Ynys Môn yn gartref i un o'r safleoedd archeolegol mwyaf diddorol o gyfnod mewnlifiad y Llychlynwyr i Gymru. Mae ymchwil Amgueddfa Cymru ar y safle wedi bod yn gymorth wrth ddatgelu natur bywyd yn Oes y Llychlynwyr, fu'n ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau. Cloddfa ar ei hanner ar adeilad 1 ym 1997 Darganfuwyd y safle ym 1994, wedi i nifer o ddarganfyddiadau gael eu cludo i'r Amgueddfa i gael eu hadnabod. Roeddent yn cynnwys ceiniog Eingl-Sacsonaidd o gyfnod Gynethryth (787-792 AD), ceiniog gan Wulfred o Gaergaint (tua 810), a thri phwysyn plwm Llychlynnaidd. O Neolithig i Rufeinig Yn dilyn cloddfa ac ymchwil manwl, dechreuwyd datrys hanes cymhleth y safle. Ymddengys bod y safle wedi bod yn ganolfan llawn gweithgarwch mor gynnar â 3300 CC, sef cyfnod adeiladu'r mwyafrif o siambrau claddu ar Ynys Môn. Mae nifer o eitemau o grochenwaith, wedi'u dyddio drwy radio carbon i gyfnod rhwng 240 a 450 OC, yn dangos y bu gweithgarwch ar y safle yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Y Safle Gellir rhannu'r gweithgarwch ar y safle hwn yn sawl cyfnod. Daethpwyd o hyd i ffos, a fesurai 2m o led a 1m o ddyfnder. Wedi cloddio pellach, dadorchuddiwyd ceudyllau wedi'u torri i mewn i'r creigwely, a arferai fod yn blatfform tŷ, mae'n debyg. Mae'r gwrthrychau a ganfuwyd yn awgrymu bod y ffos o gyfnod cyn-Lychlynnaidd. Mae'n debyg mai o'r cyfnod hwn y daw'r neuadd fawr bren, a gynrychiolir gan dyllau pyst mawr. Disodlwyd yr adeilad pren hwn ar ddiwedd y 9fed neu ddechrau'r 10fed ganrif gan ddwy neuadd o leiaf, a ddefnyddiwyd am y tro olaf rhwng tua 890 a 970. Safai neuadd fawr neu ysgubor i'r dwyrain, a fesurai tua 8m wrth 12m, yn dyddio o tua 855-1000 OC. Tua'r gorllewin, mae'r fynedfa i drydydd adeilad, sydd ychydig yn llai, wedi'i marcio gan ddarn bach o balmant cerrig. Dinistriwyd unrhyw dystiolaeth glir o'r waliau gan y broses o aredig, ond canfuwyd bwcl efydd cain a llafn cyllell haearn â chefn onglog o'r 10fed ganrif. Roedd rhai arteffactau mewn tomen sbwriel yng nghornel de-orllewin y safle, yn cynnwys styca (ceiniog), o Northumbria, o Archesgob Wigmund (tua 848 - 58), ac offer haearn socedog ar gyfer lledrwaith, mowntiau a rhwymiadau bwcedi. Ymddengys bod yr ardal wedi dychwelyd at amaethyddiaeth wedi hyn, a diddymwyd holl olion yr anheddiad blaenorol dros amser. Fel safleoedd eraill, dewiswyd y lleoliad yn ofalus - man cysgodol, tua 1000m o'r môr. Mae'r gwrthrychau a ddarganfuwyd ar y safle'n ffurfio un o'r casgliadau mwyaf o'i fath yng Nghymru, ac maent wedi goroesi mewn cyflwr arbennig o dda. Mae ceiniogau a thystiolaeth arall yn awgrymu bod diwedd yr 8fed ganrif yn gyfnod o gynnydd economaidd yn Llanbedrgoch. Mae'n ymddangos bod yr anheddiad yn ei hanterth yn y 10fed ganrif, a oedd yn gyfnod o gynhaeafu cnydau, o gadw anifeiliaid, ac o grefftwyr, gyda chysylltiadau â masnachwyr Llychlynnaidd a gyrhaeddai mewn llongau. Y cae yn Llanbedrgoch yw'r allwedd i ddatgloi cyfrinachau pellach yr anheddiad Llychlynnaidd, sydd wedi bod yn ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau.
Pwy oedd y Brenin Arthur? 26 Ebrill 2007 Bu enw'r Brenin Arthur yn gysylltiedig â Chymru ers amser maith, ond beth a wyddom am y dyn a'i amseroedd? Mae'r enw Arthur yn dwyn i gof gysylltiadau lu. Fel gŵr gwychryw, daeth yn destun chwedlau. Yn llenyddiaeth ddychymyg Ewrop mae chwedlau a rhamantau yn dathlu'r brenin a'i lys, ac mae'r syniadau mwy diweddar hyn am Arthur yr un mor ddiddorol â'i gilydd. Dyma ambell gwestiwn cyffredin a ofynnir: Ai gŵr o gig a gwaed oedd Arthur? Sut un oedd ef? I ddarganfod yr atebion mae'n rhaid edrych yn feirniadol ar ddwy ffynhonnell bwysig o wybodaeth: testunau hanesyddol ac archaeoleg. Pryd oedd y Brenin Arthur byw? Mae'n debyg y ceir y cyfeiriad cyntaf at Arthur mewn llinell yng ngerdd Aneirin, 'Y Gododdin', y llenyddiaeth Gymraeg gynharaf y gwyddom amdani: 'Gochorai brain du ar fur caer / Cyn ni bai ef Arthur' 'Bwydai [Gwawrddur] frain du ar ragfur caer / Er nad oedd yn Arthur'. Mae'r gerdd yn dyddio o'r chweched ganrif, pan oedd y rhan fwyaf o drigolion gorllewin Prydain (Cymru, gogledd Lloegr a de'r Alban) yn siarad Cymraeg; mae ffurf ysgrifenedig gynharaf y gerdd yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae'n bosibl nad yw'r cyfeiriad at Arthur yn y ffynhonnell hon yn gynharach na'r nawfed ganrif ond mae'n tystio i enwogrwydd Arthur ymhlith y Cymry yn ystod y cyfnod hwn. Y pwysicaf o'r testunau hanesyddol yw Historia Brittonum, 'Hanes y Brytaniaid', sy'n cynnwys y cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf at Arthur 'a frwydrodd yn eu herbyn [y Sacsoniaid] yn y dyddiau hynny gyda brenhinoedd y Brytaniaid ond ef ei hun oedd arweinydd y Brwydrau', gan ennill deuddeg buddugoliaeth. Lluniwyd fersiwn cynharaf yr hanes hwn tua OC829-830. Yn Annales Cambriae, cronicl a ysgrifennwyd yng nghanol y ddegfed ganrif yn ôl pob tebyg, cofnodir dyddiad brwydr Baddon ar gyfer y flwyddyn OC518, a marwolaeth Arthur ym mrwydr Camlan yn OC537-9. Felly, os oedd Arthur yn ŵr hanesyddol o gig a gwaed, roedd ar dir y byw, yn ôl pob tebyg, yn ystod y chweched ganrif. Tudalen o gopi o Lyfr Aneirin yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae Llyfr Aneirin yn cofnodi ymosodiad y Brythoniaid ar y Sacsoniaid yng Nghatraeth (Swydd Efrog). Er y cafodd y gerdd ei chyfansoddi yn y chweched ganrif, mae'n bosibl y cafodd y cyfeiriad at Arthur a geir ynddi ei ychwanegu'n ddiweddarach. [Image © Cardiff Library] Ble mae'r Brenin Arthur wedi ei gladdu? Mae'r Myrddin sy'n ymddangos yn Vita Merlini, y gerdd am fywyd Myrddin a ysgrifennwyd gan Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed ganrif, fel pe bai'n gyfuniad o ddau draddodiad gwahanol, hwnnw am Ambrosius yn Historia Brittonum a oedd, yn ôl y sôn, yn arweinydd yn ystod y 460au and 470au, a hwnnw am y 'gŵr gwyllt a drigai yn y coed'. Erbyn y cyfnod pan oedd Sieffre o Fynwy yn ysgrifennu 'Hanes Brenhinoedd Prydain' roedd chwedlau a gysylltai Arthur â Chernyw eisoes yn datblygu. Mae llenyddiaeth Gymraeg gynnar yn llawn chwedlau rhyfeddol sy'n ffurfio rhan bwysig o'r traddodiad Arthuraidd. Mewn llawysgrifau yn dyddio o'r drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg ceir portreadau gwahanol o Arthur mewn barddoniaeth Gymraeg gan feirdd anhysbys. Yn 'Englynion y Beddau', un o'r cerddi a geir yn Llyfr Du Caerfyrddin, disgrifir bedd Arthur fel rhyfeddod mawr, gan na ŵyr neb lle y mae'n gorwedd. Yr wychaf o'r chwedlau rhyddiaith Arthuraidd yw 'Culhwch ac Olwen', y ceir fersiynau ohoni yn llawysgrifau Llyfr Gwyn Rhydderch (a ysgrifennwyd tua 1350) a Llyfr Coch Hergest (a ysgrifennwyd tua 1400). Paratowyd a chyhoeddwyd y cyfieithiad Saesneg cyntaf o'r chwedl hon, un o un chwedl ar ddeg y Mabinogion, gan y Foneddiges Charlotte Guest yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae pedair o chwedlau eraill y Mabinogion hefyd yn canolbwyntio ar Arthur, sef y tair rhamant, 'Iarlles y Ffynnon', 'Hanes Peredur Fab Efrog' a 'Geraint Fab Erbin', ynghyd â 'Breuddwyd Rhonabwy' sy'n cyflwyno golwg ddychanol o Arthur a'i fyd. Map yn dangos lleoliad enwau lleoedd a grybwyllir yn yr erthygl hon Archaeoleg Yr ail ffynhonnell allweddol bwysig o wybodaeth am Arthur yw archaeoleg. Mae'r dystiolaeth archaeolegol am y cysylltiad rhwng Cymru, Cernyw a'r byd Sacsonaidd yn amrywiol ei natur - o waith metel gwneuthuredig mewn dull Eingl-Sacsonaidd a ddarganfuwyd yn ne-ddwyrain Cymru, i ddosbarthiad crochenwaith y cyfnod canoloesol cynnar a fewnforiwyd o'r cyfandir a glannau Môr y Canoldir. Mae cloddiadau ar safle Dinas Powys, bryngaer dywysogaidd ger Caerdydd y trigai pobl o fewn ei muriau rhwng y bumed a'r saithfed ganrif, wedi dweud llawer wrthym ynglŷn â natur safle o statws uchel yn ne Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r safle hwn o'r un oed ag eraill megis South Cadbury yng Ngwlad yr Haf a Tintagel yng Nghernyw (y naill a'r llall â'u traddodiadau Arthuraidd). Cribau asgwrn o Ddinas Powys (Bro Morgannwg), caer y trigai pobl ynddi rhwng y bumed a'r wythfed ganrif. Amffitheatr Rufeining yng Nghaerllion Byth oddi ar y 12fed ganrif mae'r amffitheatr Rufeining yng Nghaerllion wedi cael ei chydnabod fel safle llys y Brenin Arthur. Yn OC1405, ar ôl glanio yn Aberdaugleddau i gefnogi gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn coron Lloegr, cyrhaeddodd byddin ymgyrchol Ffrengig Gaerllion. Yma, ymwelodd y milwyr â 'Bord Gron y Brenin Arthur'. Yn ôl un ffynhonnell Ffrangeg (Chronique Religieux de St Denys), ymlwybrodd y Ffrancwyr heibio i'r 'Ford Gron', yn ogystal ag 'Abaty Urddasol' (Llantarnam yn ôl pob tebyg) y chwedl Arthuraidd. Mewn gwirionedd, amffitheatr Rufeinig lleng-gaer Isca oedd y Ford Gron. Mae'r camadnabyddiad hwn yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif. Yn ôl Gerallt Gymro, awdur Itinerarium Kambriae ('Hanes y daith drwy Gymru') a ysgrifennwyd yn OC1190: 'I'r fan yma y deuai dirprwy lywodraethwyr Rhufain i geisio gwrandawiad yn llys enwog Arthur fawr'. Dylanwadwyd yn fawr ar Gerallt ac awduron diweddarach gan Sieffre o Fynwy, a oedd wedi cyfeirio at Gaerllion, 'Dinas y Llengoedd', fel llys y Brenin Arthur yn ei epic ffuglennol, 'Hanes Brenhinoedd Prydain' (Historia Regum Britanniae, y credir iddo gael ei gwblhau tua OC1136). Cafodd y cofnod hwn, a gyfeiriai at fan a oedd yn agos i fro ei febyd, ei ddisgrifio fel 'ffrwyth dychymyg hanesyddol byw yn seiliedig ar weddillion gweledol dinas Rufeinig drawiadol'. Roedd rhywfaint o Isca'r Rhufeiniad yn dal i sefyll yn ystod y 13eg ganrif. Yn ôl Triawd 85 yn Trioedd Ynys Prydein, y ceir y casgliad sylfaenol mewn llawysgrifau o'r 13eg a'r 14eg ganrif, roedd Tri Phrif Lys Arthur yn: '... Caerllion ar Wysg yng Nghymru, A Chelliwig yng Nghernyw, A Phenrhyn Rhionydd yn y Gogledd.' Ymhen dim o dro, clensiwyd y datganiad hwn gan gyfeiriadau at Gaerllion fel lleoliad Llys Arthur mewn rhamantau Cymreig a Ffrengig poblogaidd gan Dafydd ap Gwilym, Chrétien de Troyes ac eraill. Amffitheatr Rufeinig Caerllion. [Image © Steve Burrow] Carreg Arthur Mae tua hanner dwsin o fegalithau Neolithig Cymru yn dwyn yr enw Arthur, megis Coetan Arthur a Charreg Coetan Arthur, ac mae ei enw hefyd ynghlwm wrth fryngaer o'r Oes Haearn ar Fryniau Clwyd, sef Moel Arthur ger Dinbych. Yn ôl un traddodiad, mae'r Brenin Arthur a'i farchogion yn gorwedd ynghwsg mewn ogof yng nghrombil Craig y Dinas, Pontneddfechan, ym mhen uchaf Cwm Nedd yn ne Cymru. Maen Ceti, ym Mro Gŵyr. Yn Saesneg, 'carreg Arthur' yw enw maen capan enfawr y siambr gladdu gynhanesyddol hon. Yn ôl y sôn, mae ysbryd y brenin yn ymddangos o'r siambr o dan y maen o bryd i'w gilydd. Darllen Cefndir Arthur in Medieval Welsh Literature gan Oliver James Padel. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (2001). Arthur's Britain. History and Archaeology AD367-634 gan Leslie Alcock. Cyhoeddwyd gan Harmondsworth (1971). The Arthur of the Welsh. The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature gan Rachel Bromwich, A. O. H. Jarman a Brynley F. Roberts. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (1991). The Gododdin, a olygwyd gan A. O. H. Jarman. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer (1995). Y Mabinogion, diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer (2001).
Cast ynteu ceiniog? Darganfod bod un o gasgliadau Hynafol Amgueddfa Cymru'n fodern 17 Ebrill 2007 Ddechrau'r ugeinfed ganrif sefydlodd llywydd Amgueddfa Cymru, yr Arglwydd Howard de Walden, gasgliad rhyfeddol o hen arfau ac arfwisgoedd Ewropeaidd. Roedd y casgliad yn cynnwys nifer o ddarnau clasurol - helmedau, cleddyfau, blaenau gwaywffyn, gwregysau ac arfwisgoedd. Credwyd mai darnau Ewropeaidd a Rhufeinig oeddynt yn bennaf - nes i waith yn Amgueddfa Cymru ddatgelu i'r gwrthwyneb... Y casgliad yn dod i Amgueddfa Cymru Portread o'r Arglwydd Howard de Walden (1880-1946) 'Helmed' efydd Etrwsgaidd wedi'i addurno ag aur yn dangos hanner y patina ffug wedi'i dynnu Pelydr-X o'r helmed Ym 1945, benthycodd yr Arglwydd Howard 79 'gwrthrych efydd hynafol' i'r Amgueddfa. Ar ôl ei farwolaeth ym 1946, penderfynodd ei fab gyflwyno gweddill yr eitemau i ni. Ym 1990 datgelodd gwaith ymchwil gan ysgolhaig o Rwsia bod rhai o'r eitemau o'r casgliad wedi'u gwneud mewn gweithdy gemydd yn Odessa, de Rwsia, rhwng 1890 a 1910. Mae gwaith ymchwil pellach wedi dangos bod rhai o'r gwrthrychau'n gwbl ddilys, tra bod eraill yn dangos olion ymdrechion i'w 'gwella', neu wedi cael eu gwneud yn ddiweddarach o ddarnau metel hynafol a drawsffurfiwyd yn ffurfiau clasurol. Gan fod galw mawr am hynafiaethau clasurol yn y cyfnod hwn, peth digon cyffredin oedd cynhyrchu gwrthrych o ddarnau hynafol o nifer o ffynonellau, neu, mewn geiriau eraill, i greu pastiche (gwaith celf sy'n efelychu arddull darn cynharach). Ceir nifer o ffugweithiau hefyd, lle defnyddiwyd y metel anghywir ar gyfer oedran y gwrthrych. Roedd Arglwydd Howard de Walden yn ymwybodol iawn o hyn, ac wrth drefnu'r benthyciad i'r Amgueddfa ysgrifennodd 'efallai na fyddwch am dderbyn rhai o'r darnau rhai na ellid bod yn sicr ynglŷn â'u dilysrwydd'. 'Helmed' efydd Archwiliodd staff cadwraeth yr Amgueddfa un o'r gwrthrychau hyn, sef helmed efydd wedi'i addurno ag aur a ymddangosai ei fod yn dyddio o'r 3edd ganrif CC. Defnyddiwyd pelydr-X i ddatgelu cyflwr y metel, lefel y cyrydu, ac adeiladwaith yr helmed. Fodd bynnag, datgelwyd llawer mwy na'r disgwyl pan sylwyd ar linellau sodro trwchus. Roedd yr helmed wedi cael ei atgyweirio'n gymharol ddiweddar; roedd y craciau wedi cael eu sodro a'r tyllau wedi cael eu hatgyweirio gan ddefnyddio darnau bach o fetel. Gosodwyd patina (y llewyrch sy'n datblygu ar hen wrthrychau o ganlyniad i'w defnyddio) ffug sy'n edrych fel efydd sydd wedi cyrydu, ar ei ben. Dangosodd dadansoddiad o'r metel bod yr helmed efydd, a'r darnau metel a ddefnyddiwyd i atgyweirio'r tyllau, yn hynafol. Serch hynny, gwelwyd arwyddion bod yr aur yn fodern. Atgyweiriwyd ac addurnwyd yr helmed ag aur er mwyn cynyddu ei werth a'i wneud yn fwy deniadol i gasglwyr. Mae'n debyg i'r gwaith gael ei gwblhau ar droad yr 20fed ganrif. A ddylid tynnu neu gadw'r gwaith atgyweirio modern? Yn y diwedd, penderfynwyd tynnu hanner y patina ffug er mwyn dangos y gwaith atgyweirio o dan yr wyneb. Teimlwyd bod y newidiadau'n rhan o hanes y gwrthrych, a fyddai'n bwrw goleuni ar y technegau a ddefnyddiwyd yn y cyfnod pan gasglwyd yr helmed. Mae'r astudiaeth o'r casgliad pwysig hwn yn bwrw goleuni ar dechnoleg hynafol yr arfau a'r arfwisg glasurol, a natur y farchnad hynafiaethau ganrif yn ôl.