Blynyddoedd dogni’r Ail Ryfel Byd 30 Gorffennaf 2012 Dig for Victory, gan Mary Tunbridge. Marguerite Patten Mae Marguerite Patten OBE wedi bod yn dysgu Prydain sut i goginio ers y 1930au. Fel un o Economyddion Cartref Adran Cynghori ar Fwyd y Weinyddiaeth Fwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Marguerite a’i chydweithwyr wrthi’n ymgyrchu’n hollol ddiflino i ddod o hyd i bobl Prydain ac agor eu llygaid i bwysigrwydd bwydo eu teuluoedd yn dda ar y dognau oedd ar gael. Gyda Potato Pete a Lord Carrot yn arwain y gad, roedd y ffordd newydd iachus hwn o fyw o anghenraid yn isel mewn braster a siwgr ac yn llawn ffibr a llysiau. Teithiodd yr Adran Gynghori ar Fwyd ledled Prydain gan arddangos eu ryseitiau mewn marchnadoedd, siopau, ffatrïoedd, cantinau, a chlinigau lles a rhoi hwb i ysbryd y genedl. Wrth gyfrannu at Kitchen Front, oedd yn cael ei darlledu bob dydd ar y BBC, llwyddodd Marguerite i rannu ei hoff ryseitiau â’r genedl, ac roedd y ryseitiau hyn yn cynnwys tatws yn amlach na pheidio. Pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939, cafodd y ffermwyr orchymyn i gynhyrchu mwy o datws trwy aredig tir glas a chafodd mwy a mwy o datws eu cynhyrchu wrth i’r rhyfel fynd yn ei flaen. Diolch i’r cynllunio a’r plannu gofalus yma, doedd dim angen dogni tatws yn ystod y rhyfel. Potato Pete Potato Pete Roedd Marguerite a’i chydweithwyr yn Swyddfa Gynghori’r Weinyddiaeth Fwyd yn annog y genedl i fwyta tatws dwywaith y dydd. Yn ogystal â bod yn ffynhonnell wych o ynni ar ffurf carbohydrad, mae’r hen daten ddiymhongar yn gyfoeth o Fitamin C hefyd. Er mwyn annog pobl i’w bwyta, cafodd cymeriad cart?n o’r enw Potato Pete ei ddyfeisio gyda’i gân, ei lyfr ryseitiau a’i daflenni ei hun. Roedd modd ychwanegu tatws at gynhwysion cacennau a chrwst i’w chwyddo er mwyn arbed braster. Mae Marguerite yn cofio ‘Roedd llysiau’n rhan bwysig iawn o’n diet. Roedden nhw’n ein hannog ni i fwyta digonedd o datws yn lle bara, oedd yn defnyddio gwenith wedi ei fewnforio, ac i elwa ar eu fitaminau gwerthfawr. Roedden ni’n defnyddio moron, pannas a rwdan mewn pob math o ryseitiau hefyd, roedd llysiau gwyrdd yn bwysig iawn ac roedd pwyslais mawr ar eu coginio nhw’n iawn’. Y cyngor i gogyddion ar y pryd oedd sgrwbio tatws yn hytrach na’u plicio er mwyn osgoi colli hyd at chwarter o’r daten a fitaminau hanfodol. Roedd tatws sgolop, stwnsh, sglodion a thatws Jên i gyd yn ryseitiau poblogaidd adeg y rhyfel, ac roedd Biwro Cynghori’r Weinyddiaeth Fwyd yn eu hyrwyddo’n eang. Er bod y bwyd yn ddiflas gydag ychydig iawn o gig, wyau a menyn (a diffyg llwyr llawer o’r bwydydd rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol heddiw), roedd iechyd y genedl yn rhyfeddol o dda er gwaethaf y straen corfforol ac emosiynol oedd ar lawer o bobl. Roedd llai o fabanod yn marw, ac roedd oedran cyfartalog pobl drwy farwolaeth naturiol yn uwch. Daeth y dogni gorfodol yma â mwy o brotein a fitaminau i ddiet pob dydd llawer o’r bobl dlotaf yn y gymuned, ac roedd bwyta llai o gig, braster a siwgr yn fanteisiol iawn i iechyd sawl un arall. Dig for Victory Bu garddwyr cartref wrthi’n cynhyrchu tatws hefyd mewn ymateb i’r ymgyrch ‘Dig for Victory’. Fodd bynnag, roedd y Weinyddiaeth Amaeth yn annog tyfwyr cartref rhag beidio â thyfu gormod o datws ar draul llysiau eraill, ac i gadw at y cynllun cnydau swyddogol. Argymhellwyd mathau fel Arran Pilot, Duke of York a King Edward, ac maen nhw’n dal i fod yn boblogaidd heddiw. Gallwch weld enghraifft wych o arddio darbodaeth yng ngardd pre-ffab B2 Amgueddfa Werin Cymru gyda llysiau, ffrwythau, a pherlysiau oll yn cael eu tyfu gan ddefnyddio argymhellion y Weinyddiaeth Amaeth o ran technegau a chynlluniau cnydau yn ystod y 1940au.
Bwyd o lannau Cymru 23 Gorffennaf 2012 Cyflwyniad Hel cocos ar draeth Llan–saint. Y rhidyll, y gocses a'r rhaca — offer hel cocos. Byddai cymunedau oedd yn byw ger y glannau hefyd yn manteisio ar y bwydydd oedd ar gael iddynt ar y traeth neu'r creigiau glan-môr. Mae yna dystiolaeth helaeth o safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig sy'n dangos bod pysgod cregyn yn cael eu cynaeafu yng Nghymru trwy'r canrifoedd. Roedd y pysgod cregyn hyn yn rhad ac am ddim o'u casglu, ac roedd toreth ohonynt i'w cael ar hyd y glannau. Cocos a chregyn gleision oedd y mathau a gasglwyd ac a werthwyd amlaf gan y bobl gyffredin Casglu cocos Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, byddai merched casglu cocos yn aml yn cadw stondinau ym marchnadoedd trefi de Cymru. Byddai eraill yn gwerthu eu cynhaeaf o ddrws i ddrws yn y pentrefi diwydiannol ac arfordirol yn y gogledd a'r de. Fel arfer byddai'r cocos oedd wedi'u berwi a'u tynnu o'u cregyn (cocs rhython) yn cael eu cludo mewn bwced bren ar ben y werthwraig. Câi'r cocos oedd heb eu trin (cocs cregyn) eu cludo mewn basged fawr ar ei braich. . Soniai un wraig wyth deg oed o Lan-saint, pentref glan-môr yn Sir Gaerfyrddin, iddi fod yn casglu cocos ar y traeth am chwe deg o flynyddoedd. Cyfeiriai at y patrwm arferol lle'r oedd merched yn olynu eu mamau yn y gwaith hwn. Roeddent yn ddibynnol ar eu henillion o'r cocos; cofiai ei bod yn eu gwerthu am ddimai'r peint, ond ei bod tua diwedd ei gyrfa yn gwerthu'r un faint o gocos am chwe cheiniog. Roedd hwn yn dâl sâl iawn am yr holl waith llafurus. Casglu, golchi a chludo'r cocos adref o'r traeth oedd y cam cyntaf. Wedi cyrraedd byddai'n rhaid dechrau ar yr ail gam, sef golchi'r cocos eto a'u berwi cyn eu cludo am yr eilwaith, i'r farchnad y tro hwn. Gwnâi cocos bryd ysgafn o'u bwyta gyda bara menyn neu fara ceirch, ac roeddent yn elfen mewn gwahanol seigiau oedd yn cynnwys wyau neu laeth a sifys. Byddai merched ym mhentref Penrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd, yn canu'r pennill hwn wrth werthu'r pysgod cregyn o ddrws i ddrws: Cocos a wya Bara ceirch tena Merched y Penrhyn Yn ysgwyd 'u tina Cafiâr Cymru? Siediau casglwyr bara lawr (1936) Un o'r bwydydd môr pwysig eraill oedd math o wymon bwytadwy o'r enw bara lawr. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai merched o lannau Sir Fôn, Sir Forgannwg a Sir Benfro yn casglu hwn yn frwd. Roedd angen trochi'r bara lawr a gasglwyd o'r creigiau a'r cerrig ar lan y môr mewn saith golchad o ddŵr glân er mwyn cael gwared ar yr holl raean a thywod oedd ynddo. Wedyn byddai'r gwragedd yn gwasgu'r dŵr o'r gwymon, a berwi'r bara lawr glân yn araf yn ei wlybaniaeth ei hun am ryw saith awr. Y peth olaf i'w wneud oedd ei ddraenio a'i falu'n hynod o fân nes ei fod yn fwydion lliw gwyrdd-ddu. Byddai'n cael ei ysgeintio wedyn â blawd ceirch a'i ffrio mewn saim cig moch, ac yn cael ei weini gyda bacwn fel arfer. Enwau eraill arno oedd llafan neu fenyn y môr, a byddai bara lawr yn cael ei baratoi fel cynnyrch masnachol gan deuluoedd yn Sir Forgannwg, a'i werthu gyda'r cocos ar y stondinau marchnad. Ar un adeg dim ond teuluoedd ar incwm isel fyddai'n paratoi ac yn gwerthu'r ddau fwyd hwn. Yn y pen draw datblygodd y ffordd hon o farchnata yn fentrau masnachol o bwys. Heddiw mae bara lawr, a elwir weithiau yn gafiâr Cymreig, i'w weld ar gownteri siopau bwyd arbenigol ac yn cael ei gynnig fel hors-d'œuvre mewn bwytai o'r radd flaenaf.
'Bywydau Glowyr yn werth 5½c yr un': Ymgynghoriad y Llywodraeth i drychineb Senghennydd 1913 6 Gorffennaf 2012 Mam ifanc a'i phlentyn yn aros am newyddion
Bathodynnau Glowyr 2 Gorffennaf 2012 Mae bathodynnau yn ffordd bwysig o ddangos bod rhywun yn cefnogi achos neu'n ymddiddori mewn rhywbeth arbennig. Gallan nhw hefyd goffau digwyddiad penodol. Mae sawl esiampl o fathodynnau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant glo, bathodynnau fyddai'n cael eu cynhyrchu yn ystod anghydfod diwydiannol neu eu gwerthu i godi arian wedi trychineb lofaol. Yn ystod, ac ar ôl streic y glowyr ym 1984-85 y cynhyrchwyd y nifer fwyaf o fathodynnau. Cynhyrchwyd bathodynnau o bob lliw a llun ond byddent fel arfer yn cario enw Mudiad Cenedlaethol y Glowyr (N.U.M.), Cynghordy neu ardal. Byddent hefyd yn cario symbol arbennig — gallai fod yn eicon glofaol fel lamp, offer weindio neu gaib a rhaw wedi croesi; neu yn symbol a gynrychiolai'r dosbarth gweithiol fel dwylo'n ysgwyd, cadwyni wedi torri neu glorian cyfiawnder. Gwelid draig goch neu genhinen ar nifer o'r bathodynnau a gynhyrchwyd yng Nghymru hefyd. Mae Adran Diwydiant Amgueddfa Cymru wedi casglu cannoedd o'r bathodynnau yma. Mae rhai yn cael eu harddangos yn Big Pit: Amgueddfa Wlân Cymru a gellir gweld esiamplau ar fas data casgliadau Delweddau Diwydiant. Am ragor o wybodaeth efallai y bydd y llyfr 'Enamel Badges of the National Union of Mineworkers' (2008) gan Brian Witts o ddidordeb. Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl. Coal Miners' Badges Fattorini Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Rhanbarth yr Alban( 1984-1985) Fattorini Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Rhanbarth y Gogledd Orllewin (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Undeb Glowyr Cumberland (1972) Fattorini Undeb Cenedlaethol y Glowyr (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth Swydd Gaerefrog (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Undeb Glowyr Cumberland (1982) Manufacturer unknown Grŵp Pŵer U.C.G. (1984-1985) Fattorini U.C.G. S.C.E.B.T.A. (1984-1985) Parry, F.C. M.F.G.B. U.C.G. (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth Cokemens (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Gweithwyr Injans Durham (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth De Cymru, Aelod Anrhydeddus (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Swydd Derby (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth y Gogledd Orllewin (1984-1985) Manufacturer unknown Undeb Cenedlaethol y Glowyr C.O.S.A. (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Undeb Glowyr Northumberland (1963) Manufacturer unknown U.C.G. Cenedlaethol (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth Swydd Gaerefrog (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Cenedlaethol (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth De Cymru (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Gogledd Cymru (1984-1985) Fattorini Peirianwyr Glofaol Durham (1984-1985) Manufacturer unknown U.C.G. Rhanbarth Canolbarth Lloegr (1984-1985) Manufacturer unknown Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Rhanbarth Sir Gaerhirfryn (1984-1985) Fattorini U.C.G. Undeb Glowyr Northumberland (1984-1985)