Pan hwyliai llongau Cymru'r moroedd 6 Gorffennaf 2007 Y Breconian Y Breconian Adeiladwyd The Breconian ym 1906; cafodd ei chofrestru yn Aberystwyth a bu Cymry'n ei hwylio dros foroedd y byd am 30 mlynedd. Mae'r portread ohoni, sef un o'r darluniau diwydiannol o longau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, yn rhoi cipolwg eithriadol o ddifyr i ni ar yr oes a fu. Darluniau o Longau Ceir rhyw 250 o ddarluniau o longau yng nghasgliadau diwydiannol Amgueddfa Cymru. Ychydig o'r rhain y gellid eu disgrifio fel celfyddyd gain ond maent yn archif hynod werthfawr o hanes morwriaeth yng Nghymru. Gwaith 'arlunwyr pen pier' yn ardal Môr y Canoldir yw'r rhan fwyaf ohonynt. Am dâl bychan, byddai'r rheiny'n tynnu lluniau lliwgar syml o long ar gyfer y perchennog, y capten neu aelodau'r criw. Yn wreiddiol, byddent yn tynnu parau o luniau, y naill o'r llong ar fôr tawel a'r llall mewn storm. Er nad yw'r lluniau hyn yn gelfyddyd gain, maent yn rhai manwl-gywir o safbwynt technegol. Roedd perchnogion y lluniau — perchennog y llong yn gymaint â gwraig y capten — yn ymfalchïo ynddynt ac roedd iddynt werth sentimental. Llong ac iddi Gynllun Newydd Llun heb ei lofnodi o'r Breconian mewn storm yw hwn. Adeiladwyd y llong ager ar gyfer John Mathias & Sons o Aberystwyth. Roedd yn anghyffredin gan fod y dec yn gulach nag arfer a bod y dec tyredau a osodwyd ar gorff y llong yn ymestyn o'r blaen i'r starn. Roedd y cynllun newydd hwn yn golygu bod y llong yn fwy proffidiol i'w rhedeg. Roedd y cynllun mor llwyddiannus nes bod 429 o longau deciau tyred wedi'u hadeiladu rhwng 1892 a 1911. Cychwynnwyd y cwmni oedd biau'r Breconian ym 1869 pan benderfynodd John Mathias, perchennog uchelgeisiol siop lysiau o Aberystwyth, fentro i fyd y llongau, gan brynu'r sgwner Miss Evans. Ym 1883, symudodd o longau hwyliau i longau ager, gan ffurfio'r Glanrheidol Steamship Company Limited. Erbyn i'r Breconian ymuno â fflyd Mathias, roedd y busnes wedi cymryd yr enw mawreddog The Cambrian Steam Navigation Company Limited. Roedd gan y cwmni saith llong wedi'u henwi, braidd yn anghyffredin, ar ôl ysgolion bonedd. Oherwydd hyn, roedd llongwyr yng Nghaerdydd yn galw'r cwmni yn 'the College line'. Y Breconian, a enwyd ar ôl Coleg Crist, Aberhonddu, oedd yr unig long a enwyd ar ôl ysgol yng Nghymru; enwau'r lleill oedd Etonian, Harrovian, Rugbeian, ac ati. Glo Allan, Grawn yn Ôl Fel y rhan fwyaf o longau cargo'r cyfnod, byddai'r Breconian yn hwylio'n bennaf yn y fasnach 'glo allan, grawn yn ôl', gan gludo glo o dde Cymru i bedwar ban byd a dod â llwyth o rawn yn ôl. Cymry fyddai'r rhan fwyaf o'r criw; ym 1911, Capten David Jones o Aberystwyth oedd y capten ac roedd 20 o'r criw o 28 yn dod o drefi a phentrefi arfordir Cymru. Ym 1917, gwerthwyd y Breconian i'r Tyneside Line Limited o Newcastle ac ym 1926 gwerthwyd hi eto i berchennog llongau o Genoa o'r enw Giovanni Bozzo. Cafodd ei hailenwi'n Lorenzo Bozzo ganddo ef ar ôl ei fab. Chwe blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei chwalu. Erbyn heddiw, dim ond y darlun sydd ar ôl i'n hatgoffa o un agwedd ar ddiwydiant llongau llewyrchus Cymru a'r llongwyr medrus o Gymru a fu'n hwylio moroedd y byd.
Y Wisg Gymreig 'Go Iawn'? 6 Gorffennaf 2007 Mae'r darlun o'r 'Wisg Gymreig', sef het ddu dal, siôl goch a sgert wlanen yn adnabyddus iawn. Daeth i gael ei nabod fel gwisg genedlaethol Cymru. Ond ai dyma oedd merched yn ei wisgo slawer dydd go iawn? Braslun dyfrlliw o Gymraes yn gwau, yn dangos sanau heb draed, canol y 19eg ganrif Beth yw gwisg genedlaethol? Mae haneswyr yn gorfod defnyddio gwahanol fathau o wybodaeth i ganfod beth oedd pobl yn ei wisgo bob dydd go iawn. Crewyd gwisg genedlaethol o'r dillad yr oedd merched cefn gwlad yn eu gwisgo. Mae hyn wedi sicrhau bod sawl rhan o'r 'wisg Gymreig' yn arfer cael eu gwisgo gan ferched Cymru. Ffynonellau gwybodaeth cynnar Er mwyn gwybod yn iawn beth roedd pobl yn ei wisgo yng nghefn gwlad yn y 18fed a'r 19eg ganrif, mae'n rhaid ymchwilio i ffynonellau o'r cyfnod hwnnw. Yn achos y cyfnodau cynharaf, adroddiadau, dyddiaduron a llythyron teithwyr yng Nghymru ar ffurf llawysgrifau a llyfrau, ynghyd â darluniau gan arlunwyr a deithiai trwy Gymru yw'r prif ffynonellau. O'r 1830au ymlaen, ceir mwy o adroddiadau gan drigolion Cymru a phobl oedd yn ymddiddori yn yr iaith Gymraeg a'r ffyrdd traddodiadol o fyw, nid arlunwyr a haneswyr yn unig, ond pobl fel Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer. Twristiaeth dorfol Cyn diwedd y ganrif, gyda dyfodiad y rheilffyrdd, gwelwyd dechreuadau twristiaeth dorfol, a daeth galw am brintiau, llestri ac, yn nes ymlaen, gardiau post, i gofio'r gwyliau. Mae'n dda bod gan lawer o ffotograffwyr wir ddiddordeb yn y diwylliant traddodiadol, crefftau gwledig ac amaethyddiaeth. Maent wedi cofnodi cymdeithas goll a, thrwy hynny, eu dillad. Mae'r rhan fwyaf o'r dillad a welir mewn casgliadau amgueddfeydd heddiw yn dod o ganol y 19eg ganrif ac wedyn. Ystyriwch yn ofalus Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn wrth ystyried yr holl ffynonellau hyn. Dieithriaid sy'n gyfrifol am bron yr holl ffynonellau ysgrifenedig ac maent yn tueddu i ganolbwyntio ar yr hynod a'r anghyffredin. Gall darluniau gael eu rhamanteiddio ac yn aml mae ffotograffwyr yn trefnu i'w lluniau ddangos yr hyn y dymunant ei weld. Tua dechrau'r 19eg ganrif, roedd gan bobl ddiddordeb mawr yn nelwedd y Cymry ac arweiniodd hyn at greu gwisg genedlaethol 'safonol', artiffisial fel na wyddem am flynyddoedd lawer bod gwisg y Cymry gwledig mewn gwirionedd yn amrywiol iawn. Dillad cefn gwlad Trwy ddadansoddi'n ofalus, cawn dystiolaeth o'r hyn yr oedd pobl yn ei wisgo yn eu bywyd bob dydd, yn enwedig i weithio. Yn sicr, mae modd gwybod beth oedd rhai elfennau o ddillad y Cymry cefn gwlad. Er enghraifft, gwnaed llawer o ddefnydd o wlân a byddai menywod yn gwisgo ffedogau, ffunennau a hetiau dynion. Parhaodd elfennau o hyn yng nghefn gwlad hyd yn oed i mewn i'r 20fed ganrif. Dillad gwaith ynteu wisg genedlaethol? Ffedogau a siolau yw'r unig ddillad y mae llaweroedd ohonynt wedi goroesi. Fe rheol, byddai ffrogiau a sgerti'n treulio neu'n cael eu hailddefnyddio fel rhacs. Nid yw hyn yn syndod o gofio cyflwr rhai a ddangosir mewn ffotograffau. Mae nifer o beisiau gwlanen gennym o hyd hefyd, efallai gan fod y sgerti'n eu gwarchod rhag traul. Cedwir llawer o'r rhain mewn casgliadau amgueddfeydd fel enghreifftiau o'r 'wisg Gymreig' ond, mewn gwirionedd, nid oeddent yn perthyn i 'wisg draddodiadol' ymwybodol o gwbl, ond yn ddillad y byddai pobl cefn gwlad yn eu gwisgo'n naturiol.
Printiau diwydiannol ffotograffydd o fri 6 Gorffennaf 2007 Llun a dynnwyd gan Walter Nurnberg yng Ngwaith Alwminiwm y Tŷ Du, Gwent Llun a dynnwyd gan Walter Nurnberg yng Ngwaith Alwminiwm y Tŷ Du, Gwent Llun a dynnwyd gan Walter Nurnberg yng Ngwaith Alwminiwm y Tŷ Du, Gwent Yn archifau ffotograffig Amgueddfa Cymru ceir nifer o brintiau a dynnwyd gan y ffotograffydd diwydiannol o fri Walter Nurnberg OBE. Lluniau ydynt o'r tu mewn i Waith Alwminiwm y Tŷ Du yng Ngwent ym 1968. O'r Gyfnewidfa Stoc i'r Ystafell Dywyll Ganed Walter Nurnberg yn Berlin ar 18 Ebrill 1907. Dilynodd ei dad i fyd bancio a daeth yn aelod o'r gyfnewidfa stoc ond teimlai bod y gwaith yn ddiflas. Dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth yn dilyn ymweliad â Choleg Celf Reimann yn Berlin ac, ym 1931, dechreuodd fynd i ddosbarthiadau yn y coleg. Wrth astudio, daeth Nurnberg o dan ddylanwad gwaith Albert Renger-Pratsch a Selmar Lerski. Yn y 1920au, roeddent wedi chwyldroi byd ffotograffiaeth gan fynd ati mewn ffordd greadigol i gyflwyno pethau bob-dydd mewn ffordd ddramatig. Cafodd syniadau newydd y 'Neue Sachlichkeit' (Gwrthrychedd Newydd) a gwaith athrofa ddylunio Bauhaus yn Dessau ddylanwad arno hefyd. Roedd y rhain yn pwysleisio agwedd ddadansoddol at dynnu lluniau gan dynnu sylw at fanwl-gywirdeb, realaeth a ffurf. O Berlin i Lundain Ym 1934, aeth Nurnberg i Lundain a chychwyn busnes llwyddiannus fel ffotograffydd hysbysebion a masnach. Bu'n gwasanaethu yng Nghorfflu Arloeswyr y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tan 1944. Dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei dderbyn yn ddeiliad Prydeinig. Ar ôl gadael y fyddin, cychwynnodd fusnes ffotograffiaeth ddiwydiannol. Dywedodd amdano'i hunan ei fod yn un o'r ffotograffwyr gwallgof hynny a fyddai'n hongian â'i ben i lawr o ben draw braich craen i gael ongl dda ar lun. Ymhen blynyddoedd wedyn, bu Nurnberg yn darlithio yng Ngholeg Polytechnig Canol Llundain ac yng Ngholeg Harrow ac Ealing. Ym 1968, daeth yn bennaeth Ysgol Ffotograffiaeth Guildford yng Ngholeg Celf a Dylunio Gorllewin Surrey. Ysgrifennodd werslyfrau am dechnegau goleuo ar gyfer ffotograffiaeth hefyd. Goleuo dramatig Roedd Nurnburg yn hoffi defnyddio goleuadau tyngsten oherwydd gallai weld yr union effaith y dymunai ei chael gan ddefnyddio lampau â golau siarp, clir. Byddai hyd yn oed yn gofyn am stopio llinellau cynhyrchu os oedd angen ac yn gosod ceblau trydan ychwanegol er mwyn cael ei ffotograffau unigryw. Mae ei ffotograffau'n dangos yn glir pa mor bwysig yw defnyddio golau'n effeithiol. Mae iddynt effaith ddramatig sy'n ein hatgoffa o ffilmiau Americanaidd y 1940au. Mae'r lluniau'n gryf ac yn ddeinamig, yn llawn o rym y byd diwydiannol. Pan ymddeolodd ym 1974, cafodd Nurnburg yr OBE am ei wasanaeth i fyd ffotograffiaeth a diwydiant. Cafodd lawer o wobrau ac anrhydeddau eraill am ei gyfraniad i ffotograffiaeth. Ceir casgliadau o'i ffotograffau yn Amgueddfa Genedlaethol Ffotograffiaeth, Ffilm a Theledu, Bradford; y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol a'r Gyfadran Peirianneg a Gwyddoniaeth yng Ngholeg Polytechnig Canol Llundain yn ogystal ag yn Amgueddfa Cymru. Bu farw Walter Nurnberg yn 84 oed ym 1991.
Taith trwy Gymru ym 1819 6 Gorffennaf 2007 Taith Fawr yn Ewrop Dwy dudalen o ran gyntaf dyddiadur 1819, yn disgrifio ardal San-clêr yn Sir Gaerfyrddin Mae nifer fawr o lyfrau hanesyddol-bwysig yn Llyfrgell Amgueddfa Cymru, yn cynnwys llawer o adroddiadau am deithiau yng Nghymru a gyhoeddwyd tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg. Yn wreiddiol, roedd llawer o'r rhain yn cael eu casglu oherwydd y darluniau ynddynt ond mae'r testun sy'n mynd gyda'r darluniau yr un mor bwysig. Yn y 18fed ganrif, roedd yn arferiad gan foneddigion a chyfoethogion fynd ar "Daith Fawr yn Ewrop" fel uchafbwynt eu haddysg glasurol, gan ymweld â chanolfannau diwylliannol Paris, Fenis, Fflorens a Rhufain. Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r teithiau hyn dros dro oherwydd Rhyfeloedd Napoleon 1790-1815 a dechreuwyd teithio ym Mhrydain yn lle hynny. Mae'r adroddiadau am y teithiau trwy Gymru'n cynnwys llawer o wybodaeth am bob math o bynciau. Cawn wybod am gyflwr y ffyrdd, y tafarndai a'r gwestai, cawn ddisgrifiadau o blastai a'u cynnwys, a gwybodaeth am amaethyddiaeth, diwydiant, arferion lleol a'r gymdeithas yng Nghymru yn gyffredinol. Mae llawer o'r teithwyr yn sôn am fyd natur yng Nghymru ac mae rhai'n rhestru'r planhigion a'r anifeiliaid y daethant ar eu traws. Taith Fawr yng Nghymru Yng nghasgliadau'r Llyfrgell yn Amgueddfa Cymru, ceir tri dyddiadur o'r 19eg ganrif, dyddiedig 1819, 1841 a 1844 gan Lynn Dewing (1773-1854) o Norfolk. O Gaerdydd i Abertawe Cychwynnodd ar ei daith gyntaf ym Mryste ar 29 Mai 1819, a theithio mewn llong i Gaerdydd. Yn y dref honno roedd llwybrau â choed ar hyd-ddynt ger y castell a byddai cynnyrch y ffowndrïau haearn yn cael eu cludo i lawr Camlas Morgannwg. Roedd yr awdur yn un o'r ychydig ymwelwyr â Llandaf oedd â gair caredig i'w ddweud am y gadeirlan yr oedd John Wood yn ei hailadeiladu ond a adawyd heb ei gorffen ym 1752. Llwyddodd Abertawe i greu argraff arno oherwydd bod yno 'dai a siopau solet a pharchus a nifer o strydoedd da'. Yn yr ardaloedd o amgylch Caerdydd ac Abertawe, ysgrifennodd fod 'tai'r tlodion', â'u waliau wedi'u gwyngalchu, yn daclusach o lawer na thai tebyg yn Lloegr, ond doedd ganddo ddim i'w ddweud am gyflwr y tu mewn. Blodau yn y Mynwentydd Cader Idris, llun dyfrlliw gan John Varley yn yr Adran Gelfyddyd, Amgueddfa Cymru. Dywedodd yr awdur fod Cader Idris fel pe bai'n 'codi ei ben tywyll mawreddog uwchlaw ei frodyr cawraidd'. Yng Nghydweli, sylwodd yr awdur ar rywbeth sy'n codi mewn adroddiadau eraill o deithiau trwy Gymru — yr arfer o roi blodau ar fedd, rhywbeth sy'n cael ei gymryd yn ganiataol heddiw. 'Sylwais mewn sawl mynwent bod yr hen arferiad Cymreig o blannu blodau ar feddau perthnasau yn dal mewn grym.' [cyfieithiad] Ni ddaeth yn arfer cyffredin i roi blodau ar feddau yn Lloeger tan yn nes ymlaen yn y 19eg ganrif. Pas i Aberystwyth Mae'r amser a gymerodd taith 1819 yn awgrymu bod y dyddiadurwr wedi cerdded y rhan fwyaf o'r ffordd. Ond cafodd bas ar gart pysgod i gyrraedd Aberystwyth a bu'n rhaid cyflogi dyn i gario'i fagiau am ryw 23 milltir. Disgrifir Aberystwyth fel 'porthladd a thraeth ymdrochi taclus iawn. Mae'r golygfeydd o'r 'Parade' yn hardd iawn, tua'r tir a'r môr.' Dringo'r Wyddfa Yna, teithiodd yr awdur tua'r gogledd. Dringodd yr Wyddfa ar un o'r ychydig ddyddiau y mae'n rhoi dyddiad iddo yn ei ddyddiadur. 'Dydd Gwener 16 Gorffennaf 1819' o'r dafarn yng Nglyn Gwyllyn' [i'r gorllewin o'r Wyddfa].' Roedd wedi codi am hanner awr wedi pedwar i ddringo'r Wyddfa. 'Roeddwn wedi bwriadu cychwyn am 2 o'r gloch, er mwyn cyrraedd y copa mewn pryd i weld yr haul yn codi oherwydd clywais fod honno'n olygfa eithriadol o hardd o'r Wyddfa, ond cefais fy styrbio gymaint â sŵn 4 neu 5 o fwynwyr o Gymry am dair awr ar ôl mynd i'r gwely, fel na chysgais winc cyn un o'r gloch.' [cyfieithiad] Ger y copa, sylwodd ar fwynglawdd copr a oedd newydd ei agor a chwech o fwyngloddwyr o Gernyw yn gweithio yno. Detholiad bychan o ddechrau'r ail gyfrol yn 1819 yw'r darnau uchod. Mae'r dyddiaduron yn ein helpu i ddeall Cymru tua dechrau'r 19eg ganrif.
Darlun gan Sisley o arfordir de Cymru. 6 Gorffennaf 2007 La falaise a Penarth, le soir, marée basse gan Alfred Sisley Yr olygfa o'r un man heddiw Arddangosfa gyntaf yr Argraffiadwyr Ganed Alfred Sisley ym Mharis ym 1839 i rieni o Brydain a daeth yn un o brif aelodau'r cylch o arlunwyr ifanc a oedd yn gwrthwynebu'r gelfyddyd draddodiadol oedd yn cael ei dysgu yn yr Académie Ffrengig. Ym 1874, cynhaliodd y grŵp hwn y sioe sydd wedi cael yr enw o fod yn 'Arddangosfa gyntaf yr Argraffiadwyr'. Roedd gan Sisley luniau mewn tair o'r saith sioe nesaf a drefnwyd gan yr Argraffiadwyr rhwng 1876 a 1886. Ni chafodd gymaint o lwyddiant â'i gyfeillion Monet, Renoir a Pissarro ac, ym 1882, enciliodd i dref fechan Moret-sur-Loing ger Fontainebleau, lle bu'n gweithio am weddill ei yrfa. Bu farw yno ym 1899. Lluniau Sisley o dde Cymru Yn yr haf 1897, daeth Sisley ar ymweliad â de Cymru, gan aros yn 4 Clive Place, Penarth. Ar 5 Awst, priodwyd ef ag Eugenié Lescouezec yn Neuadd y Dref, Caerdydd. Roedd Sisley wrth ei fodd ym Mhenarth. Ar 16 Gorffennaf ysgrifennodd [cyfieithiad] "Rwy wedi bod yma ers wythnos ... Mae'r wlad yn bert iawn ac mae gweld y llongau mawr yn hwylio yn ôl a blaen i Gaerdydd yn wych ... Wn i ddim am ba hyd yr arhosaf ym Mhenarth. Rwy'n gysurus iawn yma, mewn 'tŷ lodjin' gyda phobl ddymunol iawn. Mae'r hinsawdd yn fwyn iawn ac, yn wir, bu'n rhy dwym dros y dyddiau diwethaf, yn enwedig nawr wrth i mi ysgrifennu hwn. Rwy'n gobeithio gwneud defnydd da o'r hyn a welaf o'm cwmpas a mynd yn ôl i Moret tua mis Hydref". Tynnodd Sisley rhyw 19 o ddarluniau olew o Benarth a Bae Langland ger Abertawe (lle'r arhosodd o 15 Awst tan nes iddo fynd yn ôl i Moret ar 1 Hydref). Y rhain oedd ei unig forluniau ac maent yn cyfleu ynni a chyffro darganfyddiad newydd. Mae morluniau Penarth yn fwy atmosfferig na lluniau Langland sy'n dal gwres mawr a golau Penrhyn Gŵyr yn effeithiol iawn. Gwyddom o ble y tynnwyd chwech o luniau Penarth. Mae un yn dangos coeden ar ymyl y clogwyn a llongau a phier Penarth yn y cefndir. Mae dau'n dangos yr olygfa tua'r gogledd i fyny Môr Hafren ac mae tri'n dangos yr olygfa tua'r de yn edrych ar hyd ymyl y clogwyn i gyfeiriad Larnog. Un o'r golygfeydd hyn tua'r de yw La falaise a Penarth. Mae goleuni'r hwyr yn dod i mewn ar ogwydd llym o'r gorllewin gan daflu cysgod porffor golau o'r clogwyn serth dros y traeth oddi isod. Mae'r môr ar drai ac mae creigiau Trwyn Ranny a Thrwyn Larnog i'w gweld yn glir. Ar 4 Hydref 1897, dyma a ddywedwyd mewn erthygl ym mhapur Ffrangegr Le Journal [cyfieithiad]: "Daeth y meistr Argraffiadol â chyfres o forluniau penigamp o Benarth a Bae Langland. Ynddynt, mae awyrgylch rhyfedd y dirwedd honno, sy'n ardal ddieithr i arlunwyr, yn cael ei gyfleu â chelfyddyd sydd mor hudolus ag ydyw o bersonol." Mae gweledigaeth Sisley'n arwydd o newid sylfaenol yn y ffordd o ddehongli tirwedd Cymru ac mae'r ffordd newydd hon yn disodli dull Rhamantaidd Turner a'i olynwyr. Agorodd Sisley a'i gyd-Argraffiadwyr ffordd newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a arweiniwyd gan yr arlunwyr o Gymry, Augustus John a James Dickson Innes.