Pwll Glo Nantgarw - y pwll glo dyfnaf yn Ne Cymru 2 Medi 2007 Parc Nantgarw Adeiladu Pwll Glo Nantgarw Mai/Mehefin 1951 Efallai nad yw pawb sy'n ymweld â Chanolfan Gasgliadau Amgueddfa Cymru ym Mharc Nantgarw, i'r gogledd o Gaerdydd, yn sylweddoli ei fod ar un adeg yn safle un o'r pyllau glo enwocaf yn ne Cymru. Y cyfan sy'n parhau yw dau byramid concrit bychan yn nodi safleoedd y siafftiau ac olwyn godi goffaol.Y pwll glo dyfnaf yn Ne CymruPwll glo Nantgarw oedd un o byllau blaenllaw'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Hwn oedd y pwll glo dwfn agosaf i Gaerdydd, ac yn arwydd i deithwyr eu bod wedi cyrraedd meysydd glo de Cymru.Wedi'i agor ym 1911, roedd yno ddwy siafft fawr ac, ar ddyfnder o 782.73m (856 llath), dyma oedd pwll glo dyfnaf de Cymru. Serch hynny, er ymddangos fel esiampl dda o ddiwydiant glo glân ac effeithiol, rhoddwyd y gorau i'r pwll glo ym 1927 yn sgil prinder dynion, perthynas ddiwydiannol wael ac, uwchlaw dim, y lleoliad uwchben daeareg gymhleth iawn o dan y ddaear.Blynyddoedd y RhyfelAgorwyd y pwll eto ym 1937 yn dilyn adrefniant sylweddol, ond gohiriwyd y gwaith pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939. Cymeradwywyd cynllun hwyrach i ail agor y pwll gan y Weinyddiaeth Tanwydd a Phŵer ym 1946. Dyma'r cynllun sylweddol cyntaf i gael ei weithredu gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn rhanbarth y de orllewin.Pwll glo modern newydd Nantgarw yn 1974 Er mwyn creu model o bwll glo yn Nantgarw, dinistriwyd pob ôl o'r gwreiddiol a chynlluniwyd adeiladau newydd ar yr wyneb, gydag adnoddau modern. Gosodwyd teclynnau i leihau mwg a mygdarth, ac fe osodwyd yr holl wastraff o dan y ddaear gan gadw'r arwyneb yn glir o domennu gwastraff hyll. Roedd y rhwydwaith tanddaearol cyfan wedi ei gynllunio i leihau perygl damweiniau. Cymerwyd gofal mawr i leihau unrhyw lwch a gynhyrchwyd o dan y ddaear ac ar yr wyneb, er mwyn amddiffyn y gweithlu rhag dal afiechydon megis pneumoconiosis.Dim digon o lowyrYn ystod yr 1940au roedd dirywiad amlwg yn y nifer o ddynion a oedd yn fodlon ystyried gyrfa fel glöwr, hyd yn oed mewn ardaloedd traddodiadol glofaol megis y Rhondda. Roedd problem benodol o brinder dynion ym mhwll Nantgarw, gyda'r boblogaeth waith yn dewis gweithio mewn llefydd eraill. Roedd yn rhaid recriwtio'r gweithlu o ymgeiswyr newydd neu o byllau glo mewn ardaloedd eraill a oedd wedi cau. Erbyn 12 Mawrth 1954 roedd cyfanswm costau'r project wedi cynyddu i £5.25 miliwn. Roedd perthynas lafur hefyd yn peri gofid. Yn ystod 1958 roedd 65 enghraifft o ataliad, gweithio'n araf a cherdded allan o'r pwll.Ffawd yn dirywioGoroesodd Nantgarw'r cyfnod o gau llu o byllau glo yn y 1960au. Ym 1975, unodd gyda Phwll Glo Windsor ger Abertridwr. Erbyn 1979, roedd Pwll Glo Nantgarw / Windsor ar y cyd yn cyflogi tua 650 o ddynion, gan gynhyrchu dros 4,000 tunnell o lo bob wythnos. Yn ystod 1979-80 gwnaethpwyd elw o ychydig dros £0.5 miliwn. Er yr anawsterau datblygu, ymddangosai bod dyfodol y pwll yn weddol sicr.Serch hynny, erbyn dechrau'r 1980au, tarwyd ffawd y pwll eto gan brinder dynion ac amgylchiadau daearegol gwael. Collodd y pwll £7miliwn ym 1981, ac ym 1982 dirywiodd yr allbwn yn sydyn wrth i wythïen lo allweddol ddod yn anweithiadwy. Blwyddyn yn ddiweddarach, arweiniodd gwaharddiad ar oramser yn uniongyrchol at streic deuddeg mis 1984-5. O fewn deunaw mis i ddiwedd y streic, caewyd mwy o byllau glo yn ne Cymru. Y tro hwn, cafodd Pwll Glo Nantgarw ei gynnwys. Daeth bron i 80 mlynedd o hanes glofaol yn Nantgarw i ben.
Gwasg Gregynog 29 Gorffennaf 2007 Chwiorydd Davies Gregynog Wynebddalen The stealing of the mare (1930), gan Robert Maynard. Un o agweddau pwysicaf cysylltiad y chwiorydd Davies â'r celfyddydau oedd sefydlu Gwasg Gregynog. Y Wasg oedd yr unig elfen o'r cynllun celf a chrefft a gynlluniwyd ar gyfer Gregynog i gael ei weithredu, gan ddechrau cynhyrchu tua diwedd 1922. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf, Poems by George Herbert, flwyddyn yn ddiweddarach, a'r llyfr olaf ym 1940.Roedd Gwasg Gregynog, fel gweisg preifat eraill y cyfnod, yn cynhyrchu llyfrau o safon uchel mewn niferoedd cyfyngedig. Argraffwyd llyfrau o'r fath ar bapur wedi'u wneud â llaw fel arfer, gan ddefnyddio gweisg llaw neu beiriannau llythrenwasg bach. Comisiynwyd nifer o brif ysgythrwyr pren yr ugeinfed ganrif i gynhyrchu darluniau ar gyfer y llyfrau.Roedd gan y chwiorydd eisoes lyfrau o rai o weisg preifat gorau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, fel y rhai o weisg Kelmscott ac Ashendene.Staff Un o'r copïau o'r rhwymiad arbenig o'r Anerchiad a gyflwynwyd i'r Brenin Siôr V ar achlysur agoriad ffurfiol Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar 21 Ebrill 1927. Pan oedd y Wasg yn ei anterth, cyflogwyd dau ar bymtheg aelod o staff. Roedd y rhan helaeth o'r gweithlu cyffredinol yn yr ystafelloedd cysodi a rhwymo yn Gymry lleol. Daeth y staff artistig o Loegr a'r Alban yn bennaf.Ceisiodd Bwrdd Gwasg Gregynog gyflawni tri nod wrth gyhoeddi llyfrau cain, sef: argraffu llyfrau yn Gymraeg; cyhoeddi rhai o'r enghreifftiau gorau o lenyddiaeth Eingl-Gymreig; a chyhoeddi cyfieithiadau o weithiau Cymreig.O'r 1930au ymlaen, roedd y testunau'n fwy amrywiol. O'r pedwar deg dau llyfr, roedd wyth ohonynt yn Gymraeg, ac roedd gan unarddeg arall gysylltiadau Cymreig. Yr ystyriaeth hon o ddeunydd Cymreig oedd un o nodweddion arbennig y Wasg.Argraffiad o Anerchiad y Brenin The fables of Esope (1932). Daeth ysgythriadau pren Agnes Miller Parker ar gyfer y llyfr hwn, a XXI Welsh gypsy folk-tales (1933), â hi i sylw'r cyhoedd fel un o ysgythrwyr pren gorau'r ugeinfed ganrif. Cynhyrchwyd un o'r cyhoeddiadau prydferthaf ar gyfer Amgueddfa Cymru, a hynny ar fyr rybudd. Argraffiad o Anerchiad y Brenin oedd hwn, a ddarllenwyd pan agorodd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary yr Amgueddfa yn swyddogol ar 21 Ebrill 1927. Rhwymwyd nifer o gopïau mewn 'levant Moroco glas', ag ymylon aur.Argraffu Tudalen lliw Salm XC o Psalmau Dafydd (1929) Argraffwyd y llyfr 'gwasg' cyntaf, Poems by George Herbert, gyda gwasg llaw Albion. Yn fuan wedi hynny gosodwyd gwasg blaten Victoria a bwerwyd gan ei wneud yn llai llafurus. Y Victoria oedd prif wasg Gregynog, er mai defnyddio'r Albion wnaeth William McCance, ail oruchwyliwr y Wasg, pan argraffodd ei lyfr cyntaf, sef Comus John Milton ym 1931.Cyfyngwyd y pedwar llyfr cyntaf i un ffurfdeip (Kennerley), ond yn fuan iawn daeth yn bosibl defnyddio amrywiaeth o deipiau. Cynhyrchodd Gregynog ei theip eu hun hefyd, a ddefnyddiwyd ar gyfer un llyfr yn unig (Eros and Psyche, 1935).Roedd Gwasg Gregynog yn defnyddio papur wedi'i wneud â llaw. O 1927 ymlaen defnyddiwyd papur llaith i hwyluso'r broses argraffu — techneg a fu'n gyffredin am flynyddoedd cyn sefydlu'r Wasg.Herbert Hodgson, yr argraffydd o 1927 tan 1936, oedd yn bennaf gyfrifol am safon ragorol argraffiadau cynnar y llythrenwasg a'r ysgythriadau pren.Ysgythriadau Pren Un o dudalennau The story of the red-deer (1935/6), llyfr i blant, yr unig lyfr a gynhyrchwyd yng Ngregynog â'r darluniau wedi'u hargraffu mewn lliw. Argraffwyd rhai o lyfrau ceinaf Prydain ag ysgythriadau pren addurnol rhwng y ddau ryfel byd. Chwaraeodd y Wasg ran fawr yn y cyfnod hwn. Y 1930au oedd un o gyfnodau hynotaf Gwasg Gregynog yng nghyd-destun darlunio llyfrau ym Mhrydain, gydag ysgythriadau synhwyrus Blair Hughes-Stanton a rhai cymhleth Agnes Miller Parker.Comisiynwyd nifer o artistiaid allanol i baratoi ysgythriadau, ac un o'r mwyaf adnabyddus o'r rhain oedd David Jones; argraffwyd ei ddau ysgythriad yn Llyfr y Pregeth-wr.Rhwymiadau Llun o The stealing of the mare (1930) Roedd Gwasg Gregynog yn unigryw ymysg gweisg preifat, gan ei bod yn ystyried bod rhwymiad llyfr yr un mor bwysig â'i argraffiad. Hyd at 1935 rhwymwyd pob llyfr mewn defnydd bwcram neu bapur brith, ac un ohonynt mewn felwm, ond rhwymwyd nifer bach o argraffiadau arbennig mewn lledr, o liwiau a chynlluniau gwahanol.Fisher fu'n gyfrifol am rwymo bron pob un o'r llyfrau arbennig, ac ystyrir ei fod ymhlith rhwymwyr llyfrau gorau'r ugeinfed ganrif. Yr enghreifftiau gorau o'i ddawn oedd ei waith wrth gyflawni cynlluniau McCance a Hughes-Stanton, yn arbennig The Fables of Esope, The Revelation of Saint John the Divine a The Lamentations of Jeremiah. Cynlluniodd y staff artistig yn cynnwys Maynard a Hughes-Stanton gyfrolau arbennig eraill.Lluniau: Gwasg Gregynog/Gregynog Press
Y Chwiorydd Davies a’r Rhyfel Mawr 29 Gorffennaf 2007 Ymwelodd Gwendoline â dinas Verdun yn Ffrainc, a oedd wedi'i difrodi a bron yn wag, ar 9 a 10 Mawrth 1917, ac fe gafodd y cerdyn post hwn i gofio ei hymweliad. Casgliad preifat (Yr Arglwydd Davies) Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith fawr ar fywydau Gwendoline a Margaret Davies. Y ddwy chwaer o'r canolbarth a drawsnewidiodd amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru gyda'u rhoddion a'u cymynroddion.Lladdwyd rhai o'u perthnasau agos a bu'r ddwy'n gweithio gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, gan weld dinistr trychinebus yno gyda'u llygaid eu hunain. Roeddynt yn ymwybodol iawn o ddioddefaint milwyr Prydain a Ffrainc, a chawsant eu synnu gan ddioddefaint y ffoaduriaid sifil.Ymroddodd eu brawd David yn llwyr i ymgyrchu dros heddwch rhyngwladol, ond gobaith y chwiorydd oedd gwella bywydau'r cyn-filwyr oedd yn dioddef trawma yn sgil y rhyfel, drwy eu haddysgu yn y crefftau a thrwy gerddoriaeth. Allan o hyn datblygodd y syniad o sefydlu Gregynog fel canolfan ar gyfer y celfyddydau, ac i drafod problemau cymdeithasol.Rhoi Lloches i Artistiaid yng NghymruAr 4 Awst 1914, ymosododd yr Almaen ar wlad Belg, gan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu'n rhaid i dros filiwn o drigolion gwlad Belg ffoi o'u cartrefi.Penderfynodd y teulu Davies y dylid dod ag artistiaid o wlad Belg i Gymru, lle gallent weithio'n ddiogel, ac ysbrydoli myfyrwyr celf y wlad. Teithiodd yr Uwchgapten Burdon-Evans, eu hasiant, a'u cyfaill Thomas Jones i wlad Belg lle sefydlwyd grŵp o nawdeg un o ffoaduriaid, oedd yn cynnwys y cerflunydd George Minne, yr arlunwyr Valerius de Saedeleer a Gustave van de Woestyne a'u teuluoedd.Treuliodd y tri artist weddill y rhyfel fel ffoaduriaid, gan ddibynnu'n helaeth ar gymorth y teulu Davies. Er mai effaith gyfyngedig gawsant ar y celfyddydau yng Nghymru, effeithiodd eu halltudiaeth yng Nghymru ar waith y tri.Y Chwiorydd yn Ffrainc, 1916–18Ar y cychwyn, bu'r chwiorydd yn gwneud gwaith elusennol oedd yn gysylltiedig â'r rhyfel gartref. Roeddent yn awyddus i wneud 'mwy i helpu', ond ni lwyddodd llawer o fenywod fynd i Ffrainc. Un ffordd o wneud hyn oedd gwirfoddoli trwy Bwyllgor y Groes Goch Ffrengig yn Llundain.Ychydig iawn o ddarpariaeth oedd yn y fyddin Ffrengig ar gyfer lles y milwr cyffredin, ac anfonodd y Pwyllgor fenywod i weithredu cabanau bwyd, ysbytai a gwersylloedd tramwy.Ym mis Gorffennaf 1916 anfonwyd Gwendoline i wersyll tramwy ger Troyes. Ymunodd Margaret â'r caban bwyd yno ym Mehefin 1917, ac mae eu dyddiaduron yn rhoi cofnod o'r cyfnod hwn yn eu bywydau.Cafodd stoiciaeth y milwyr Ffrengig cyffredin, a dioddefaint y ffoaduriaid lluddedig, sâl a llwglyd effaith ddofn ar y chwiorydd.Casglu yn ystod y RhyfelLlwyddodd y chwiorydd i ychwanegu at eu casgliad celf yn achlysurol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod teithio yn Ffrainc adeg y rhyfel yn anodd, cafodd Gwendoline gyfleoedd i ymweld ag oriel Bernheim-Jeune yn sgil teithiau i Baris ar ran y Groes Goch.Prynodd luniau o waith Daumier a Carrière yno yn Ebrill 1917, a pheintiadau gan Renoir, Manet a Monet yn Rhagfyr. Yn Chwefror 1918 prynodd y tirluniau enwog gan Cézanne, Argae François Zola a Thirwedd ym Mhrofens, sydd ymysg y pwysicaf a'r mwyaf ysbrydoledig o'i phryniadau.Yn Chwefror 1916 gwariodd Gwendoline Davies £2,350 ar ddeg peintiad olew a darlun gan Augustus John. Aeth Margaret a hithau ati i gasglu mwy, ac ni chasglwyd gwaith unrhyw artist arall ar yr un raddfa ganddynt.Roedd hi'n benderfynol y dylid arddangos ei waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol, ac yn ddiweddarach rhoddodd nifer o'i weithiau ar fenthyg i'r Amgueddfa.Nodiadau ar y Lluniau Paul Cézanne (1839–1906), Tirlun ym Mhrofens, olew ar gynfas, tua 1887–8 Prynodd Gwendoline y llun yma'r un pryd â Argae François Zola o waith yr artist ym 1918, ond am hanner pris y gwaith arall, £1,250. Fe'i peintiwyd yn fwy na thebyg o gartref y teulu ger Aix-en-Provence. Mae'n tywynnu â lliwiau De Ffrainc lle'r oedd y chwiorydd wedi treulio'u gwyliau ym 1913-14. Roedd hi'n fyd hollol wahanol i amodau gaeafol Paris dan lach y rhyfel.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2438. Paul Cézanne (1839–1906), Argae François Zola, olew ar gynfas, tua 1879 Dyma un o'r lluniau pwysicaf a brynodd Gwendoline. Fe'i prynodd ym Mharis yn Chwefror 1918 am £2,500. Roedd caban bwyd Troyes ar gau ar y pryd yn ystod gwaith trwsio. Treuliodd y cyfnod yn y ddinas, wedyn ar fusnes y Groes Goch yn sgil bomio ysbeidiol yr Almaenwyr. Mae'n bosibl iddi weld y gwaith ar ymweliad cynharach am fod Margaret wedi cyfieithu stori'r masnachwr Ambroise Vollard am hanes bywyd Cézanne o'r Ffrangeg ym mis Ionawr y flwyddyn honno. Ynghyd â Thirlun ym Mhrofens a brynodd yr un pryd, dyma un o'r lluniau cyntaf o waith Cézanne i ddod i gasgliad ym Mhrydain.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2439. Camille Pissarro (1831–1903), Porthladd Rouen, olew ar gynfas, 1898 Prynodd Margaret sawl darn o waith Pissarro yn Orielau Leicester, Llundain, ym Mehefin 1920. Hwn oedd y drutaf a thalodd £550 amdano. Y flwyddyn flaenorol roedd hi wedi gweithio yn un o gabanau bwyd Pwyllgor Cabanau Eglwysi'r Alban yn Rouen.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Margaret Davies, 1963) NMW A 2492.
Un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru 26 Gorffennaf 2007 Williams-Wynn o Wynnstay Syr Watkin Williams Wynn (1693-1749) - 1740, olew ar ganfas. 76.2 x 63.2 cm Daeth teulu Williams-Wynn, Wynnstay, Sir Ddinbych yn un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru tua dechrau'r 18fed ganrif a pharhau felly am dros ddwy ganrif. Roedd gan sawl aelod o'r teulu ddiddordeb yn y celfyddydau a daeth Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789), 4ydd barwnig, yn un o noddwyr mwyaf y celfyddydau gweledol a cherddoriaeth yng Nghymru. Erbyn hyn, mae rhan fawr o'i gasgliad yn Amgueddfa Cymru. 'Cyfoeth Syr Watkin' Syr Watkin Williams-Wynn (1693-1749), 3ydd barwnig, oedd tirfeddiannwr mwyaf Cymru yn ystod y 1730au a'r 1740au, ac roedd yn un o arweinwyr cenedlaethol y blaid Dorïaidd yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd yn ŵyr i'r gwleidydd Syr William Williams (1633/4-1700) a ddaeth yn berchen ar stadau yn Sir Ddinbych a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, nid gan ei dad yr etifeddodd y rhan fwyaf o'i gyfoeth mawr ond gan nifer o berthnasau benywaidd. Ym 1719, etifeddodd stad Wynnstay yn Sir Ddinbych a thiroedd eraill yng Nghaernarfon a Meirionnydd gan gefnder ei fam, Syr John Wynn. Ym 1715, priodwyd Wynn â merch ieuaf Edward Vaughan, Llwydiarth ac, erbyn 1725, roedd rhieni ei wraig a'i chwaer hŷn wedi marw ac felly etifeddodd ragor o stadau ym Maldwyn, Sir Ddinbych a Meirionnydd. Erbyn hyn, roedd yn berchen ar dros 100,000 o erwau, gwerth rhwng £15,000 ac £20,000 y flwyddyn, a rhoddodd hyn ddylanwad mawr iddo mewn etholiadau seneddol. Ar ôl marw ei wraig Ann Vaughan ym mis Mai 1748, priodwyd Wynn â'i ferch fedydd, Frances Shakerley (1717-1803). Ganed eu mab, yntau hefyd yn Syr Watkin Williams-Wynn, y 4ydd barwnig, ym mis Ebrill 1749. Lladdwyd Syr Watkin, a alwyd weithiau'n 'Dywysog Cymru', mewn damwain wrth hela ym mis Medi 1749. Ceir dau bortread ohono yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Gwaith Thomas Hudson, portreadwr ffasiynol o Lundain a dynnai luniau ffurfiol caboledig, oedd un o'r rhain. Llun pastel gan William Hoare o Gaerfaddon yw'r llall. Mae'n un o grŵp o luniau a gomisiynwyd gan gydymaith Wynn, yr Arglwydd Lichfield. Soffistigeiddrwydd diwylliannol a gyfoeth Canwyllbren gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. 1734. Mae dau ddarn o waith arian yn arwydd o gyfoeth a soffistigeiddrwydd diwylliannol Wynnstay, sef pâr o ganwyllbrennau mawr a stand teircoes enfawr ar gyfer tegell. Gwnaed y canwyllbrennau yn Llundain ym 1734 gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin, ac maent wedi'u boglynnu a'u castio â blodau, cregyn a sgroliau — yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. Roeddent yn rhan o set o bedwar a chawsant eu cynnwys mewn rhestr o waith arian Syr Watkin a luniwyd ar ôl iddo farw. Mae ychydig o waith arian a brynwyd gan y teulu ym 1720 wedi goroesi. Mae hyn yn beth eithriadol o brin oherwydd dim ond llond llaw o'r darnau hyn na chafodd eu toddi i'w hailddefnyddio.
Cwpan arian godidog ar gyfer perchennog gwaith copr 25 Gorffennaf 2007 Gwpan arian mawr Cwpan arian a'i glawr, Paul Crespin, 1733 Roedd bod yn berchen ar gwpan arian mawr a'i glawr yn arwydd o gyfoeth a statws ym Mhrydain am rai canrifoedd. Erbyn 1700, nid oedd y cwpanau hyn yn cael eu defnyddio fel llestri yfed. Cwpanau addurnol oeddent ac arwydd o ddoniau'r sawl oedd yn eu cynllunio a'u gwneud. William Lewis Hughes Portread gan Syr Thomas Lawrence (1769 - 1830) o Thomas Williams (1737-1802) olew ar gynfas; 127.5 x 102.1 cm. Yn Amgueddfa Cymru, ceir cwpan gwych iawn a wnaed ym 1733. Ganrif yn ddiweddarach, roedd yn eiddo i un o ddynion cyfoethocaf Cymru, William Lewis Hughes (1767-1835), o Kinmel Park, Sir Ddinbych, ac mae hynny'n dangos bod casglu hen greiriau'n dechrau dod yn ffasiynol ar y pryd. Ar y cwpan, gwelir nod Paul Crespin, a nodau Llundain ar gyfer 1733-4. Ganed Crespin ym 1694 i deulu o Brotestaniaid Ffrengig. Cychwynnodd fusnes yn Llundain ym 1720 ac, er bod gennym gofnod ei fod yn fethdalwr ym 1747, ymddengys ei fod wedi parhau i weithio yno tan 1759. Roedd Crespin ymhlith crefftwyr mwyaf cosmopolitanaidd a soffistigedig ei ddydd. Mor gynnar â 1724, gwnaeth "curious silver vessel for bathing, which weighed about 6030 ounces" ar gyfer Brenin Portiwgal (ond mae ar goll erbyn hyn). Roedd ganddo nifer o gleientiaid pwysig ac efallai mai ei gampwaith yw'r darn enwog "Neptune" a wnaeth ym 1741 ar gyfer y Casgliad Brenhinol. Darn rococo cywrain i'w roi ar ganol bwrdd yw hwn ac fe'i gwnaeth ar gyfer Frederick, Tywysog Cymru. Cwpan eithriadol o fawr Yn rhannol oherwydd y cyfoeth a gafwyd o fwynglawdd copr Parys ac yn rhannol oherwydd personoliaeth Edward Hughes, daeth y teulu'n eithriadol o gyfoethog. Mae'r cwpan yn eithriadol o fawr, yn 14 modfedd o uchder ac yn pwyso dros 150 owns aur. Mewn cymhariaeth, dim ond 94 owns oedd cwpan a chlawr a wnaed ym 1731 gan Abraham Buteaux a oedd yn gydweithiwr i Crespin ac a ddisgrifiwyd ym 1749 fel un "mawr". Mae wedi'i addurno yn y dull rococo a oedd newydd ddod i'r ffasiwn a byddai'n ymddangos yn eithaf arloesol ar y pryd. Mae'r patrwm dail a gwinwydden i'w weld hefyd ar bâr o oeryddion gwin a wnaed gan Crespin ar gyfer Dug Marlborough yn yr un flwyddyn, ac mae'r dolenni sgrôl dwbl yn ymddangos ychydig yn nes ymlaen ar gwpanau gan George Wickes, Paul de Lamerie, John Le Sage a John White. Cwpan wedi cael ei 'wella' Arfbais William Lewis Hughes o Kinmel. Mae'r gwaith addurnol a ysgythrwyd ar y cwpan o safon uchel iawn. Mae'n dal yn ffres ac ychydig o ôl traul sydd ar yr wyneb. Dilˆwyd arfbais y perchennog gwreiddiol, efallai am fod y cwpan wedi dod ar y farchnad tua dechrau'r 19eg ganrif. Mae'n bosib mai arian gwyn oedd wyneb y cwpan yn wreiddiol, yn hytrach na goreurad. Mae'r goreurad presennol, sy'n edrych braidd yn goegeuraidd yn perthyn i'r un cyfnod â'r arfbeisiau diweddarach, sef tua 1830. Mae'n ddiddorol bod y cwpan wedi cael ei 'wella' a'i ailwerthu fel hyn. Perchennog newydd y cwpan oedd William Lewis Hughes o Kinmel. Credir iddo gael y cwpan cyn iddo ddod yn Arglwydd Dinorben ym 1831, gan ei bod yn ymddangos fod coronig Barwn wedi'i hychwanegu at yr arfbais, a ysgythrwyd ar y naill ochr a'r llall i'r cwpan, ond nad ychwanegwyd y cynheiliaid herodrol a ddefnyddiai ar ôl ei ddyrchafu'n Arglwydd Mynydd Parys Darlun o'r ffin rhwng Mwyngloddiau Copr Mona a Pharys ym 1790. Roedd mam Hughes yn nith i William Lewis, Llysdulas, Ynys Môn. Hi a'i gŵr, y Parch Edward Hughes, a etifeddodd stad Llysdulas a oedd yn cynnwys un ochr i Fynydd Parys. Yn rhannol oherwydd y cyfoeth a gafwyd o fwynglawdd copr Parys ac yn rhannol oherwydd personoliaeth egnïol Edward Hughes, daeth y teulu'n eithriadol o gyfoethog. Y Brenin Copr Mae'r gwaith addurnol a ysgythrwyd ar y cwpan o safon uchel iawn. Mae'n dal yn ffres ac ychydig o ôl traul sydd ar yr wyneb. Roedd William Lewis Hughes, Arglwydd cyntaf Dinorben, yn gyrnol Milisia Môn a bu'n Aelod Seneddol Wallingford rhwng 1802 a 1831. O 1819 ymlaen, ei gartref yn Llundain oedd Bute House, South Audley Street. Roedd Edward a William Hughes yn bartneriaid busnes i Thomas Williams, y "Brenin Copr". Mae portread o hwnnw gan Lawrence hefyd yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Yn nes ymlaen, daeth y cwpan yn eiddo i'r ariannwr a'r dyngarwr Edwardaidd, Syr Ernest Cassel (1852-1921), ac fe'i prynwyd gan yr Amgueddfa yn 2005 gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a'r Art Fund.