Dyma adeg hollol newydd a heriol i bawb, a gobeithiwn eich bod yn cadw’n ddiogel ac yn iach. Gall creadigrwydd a theimlad o gymuned ein cefnogi ni drwy’r amser caled hwn, ac felly mae’r Amgueddfa wedi lansio Arddangosfa Gobaith gyda’r nod o fod yn ffurf o obaith gweladwy i bawb.
Mae pobl dros Gymru gyfan, gan gynnwys staff a gwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru, wedi bod yn creu sgwariau a fydd yn cael eu pwytho at ei gilydd gan ein gwirfoddolwyr arbennig yn Amgueddfa Wlân Cymru i ffurfio blanced enfys enfawr. Rydym hefyd yn casglu lluniau o ddarnau celf enfys sydd wedi bod yn addurno ffenestri ym mhob cwr o’r wlad. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i greu un darn o gelf a fydd yn cael ei arddangos ar y cyd â’r flanced enfys.
Defnyddir enfysau fel symbol o heddwch a gobaith, ac fel rydym yn gwybod, maent yn aml yn ymddangos pan fydd yr haul yn gwenu yn dilyn glaw trwm. Maent yn ein hatgoffa bod goleuni ym mhen draw’r twnnel yn dilyn cyfnodau anodd.
Yn dilyn yr Arddangosfa, bydd blancedi llai’n cael eu gwneud o’r flanced enfawr, a’u rhoi i elusennau.
Gall pawb gymryd rhan yn yr arddangosfa hon. Rydym yn gwahodd pobl i greu sgwâr 8” neu 20cm sut bynnag maen nhw eisiau, boed hynny drwy wau, gwehyddu, ffeltio neu grosio, mewn unrhyw batrwm ac unrhyw liw o’r enfys. Yn ogystal â hyn, gofynnwn i bobl anfon lluniau atom o’u henfysau gwych. Darllenwch yr erthygl yma am ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan.
Mae gan Amgueddfa Wlân Cymru nifer o wirfoddolwyr crefft a gwirfoddolwyr garddio sy’n cynnal Gardd Lliwurau’r Amgueddfa. Maent wedi bod yn brysur iawn yn cyfrannu at yr Arddangosfa. Mae Susan Martin, gwirfoddolwraig garddio, wedi creu a nyddu edafedd wedi’i liwio’n naturiol. Mae’r lliwiau enfys wedi’u gwneud o laslys, lliwlys a madr, wedi’u cyfuno â gwyn i roi effaith brethyn ysgafnach, ac mae’r planhigion i gyd i’w gweld yng Ngardd Lliwurau Amgueddfa Wlân Cymru.
Dyma rai o’r pethau gwych mae Cristina, un o wirfoddolwyr crefft yr Amgueddfa, wedi’u creu.
Dyma ragor o eitemau arbennig gan Amanda, gwirfoddolwraig crefft.
Diolch i bawb sy’n cymryd rhan. Am yr wybodaeth ddiweddaraf a lluniau o Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru, edrychwch ar ein tudalen Facebook neu ar Twitter @amgueddfawlan.
Roedd Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer ( 21 Mawrth 1892 – 17 Ionawr 1896) yn eiriolwr ac yn gefnogwr brwd i Ddiwydiant Gwlân Cymru a thraddodiadau ein Cenedl. Yn Eisteddfod Genedlaethol 1834 cyflwynodd draethawd yn dwyn y teitl `Y Manteision yn Deillio o Gadw'r Iaith Gymraeg a'r Wisg Draddodiadol' ac ennillodd y wobr gyntaf. Cymerodd yr enw barddol "Gwenynen Gwent".
Gwisg Telynor o Stâd Llanofer
Yn 1865 comisiynodd adeiladu Melin Wlân Gwenffrwd ar ystâd Llanofer ger y Fenni. Cyflawnodd y felin yr holl weithrediadau ar gyfer cynhyrchu gwlân a chynhyrchu brethyn trwm a oedd yn cael ei wneud yn ddillad i'r gweithwyr yn y tŷ ac ar y stad.
Gwisg Telynor o Stâd Llanofer
Gwnaed deunydd o'r felin hefyd yn ddillad i Arglwyddes Llanofer a'i ffrindiau, wedi'u steilio ar ei syniadau ei hun o wisg draddodiadol Gymreig. Parhaodd y felin i gynhyrchu tan y 1950au gan ddefnyddio offer a osodwyd gan Arglwyddes Llanofer.
Mae 8fed Mai 2020 yn nodi 75 mlynedd ers Diwrnod VE. Dathlodd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ddiwedd yr Ail Ryfel Byd pan ddaeth ymladd yn erbyn yr Almaen Natsïaidd i ben yn Ewrop. Fe'i ddathlwyd ledled y byd gorllewinol, yn enwedig yn y DU a Gogledd America, gyda mwy na miliwn o bobl yn heidio i strydoedd, lawntiau pentref a chanol trefi i ddathlu ledled Prydain.
Roedd Amgueddfa Wlân Cymru wedi bwriadi cynnal Parti Te VE ar gyfer y diwrnod hwn, ond gan ein bod ni i gyd yn cadw'n ddiogel gartref, hoffai ein tîm rannu rhai o'u ryseitiau VE blasus gyda chi yn y gobaith y gallwch chi greu dathliad eich hun i nodi'r achlysur pwysig hwn.
CACEN LEMON
Cacen Lemon
8 owns margarîn neu fenyn
8 owns siwgr mân
4 wy, wedi’u curo’n ysgafn
9 owns blawd codi
1 llwy bwdin o sudd lemon
AR BEN Y GACEN
2 lwy fwrdd o siwgr mân
1 llwy fwrdd o sudd lemon
Cynheswch y popty i 180°C / 350°F / Nwy 4
Yn gyntaf mae angen iro a leinio tun 11” x 7”. Cymysgwch y margarîn neu fenyn a’r siwgr nes ei fod yn welw a hufennog, yna cymysgwch yr wyau i mewn. Ychwanegwch lwy fwrdd o’r blawd gyda’r wy i atal ceulo. Ychwanegwch y sudd lemon. Cymysgwch weddill y blawd i mewn gyda llwy bren.
Rhowch y gymysgedd yn y tun a phobi am ryw 45 munud.
Yn y cyfamser, cymysgwch sudd lemon a siwgr mân.
Tynnwch y gacen o’r popty, tyllwch hi gyda sgiwer a thywalltwch y gymysgedd lemon a siwgr dros y gacen boeth gyda llwy. Gadewch y gacen i oeri yn y tun nes mae’r gymysgedd wedi ei amsugno.
SGONS
Sgons
1 pwys blawd codi
1 llwy de o halen
4 owns menyn
2 owns siwgr mân
½ peint o laeth
wy wedi’i guro i roi sglein
AR GYFER Y LLENWAD:
jam mefus neu fafon
chwarter peint o hufen dwbl wedi’i chwipio
Cynheswch y popty i 230°C 450°F Nwy 8
Hidlwch y blawd a’r halen mewn i fowlen. Rhwbiwch y menyn nes mae’r gymysgedd yn edrych fel briwsion bara. Ychwanegwch y siwgr a’i gymysgu’n does meddal gyda’r llaeth.
Rhowch y gymysgedd ar fwrdd gydag ychydig o flawd arno, ei dylino’n sydyn ac yna ei rolio yn ¼ modfedd o drwch. Torrwch 20 cylch gyda thorrwr 2½ modfedd. Rhowch y sgons ar duniau pobi wedi’u hiro a rhowch ychydig o’r gymysgedd wy (neu laeth) ar y sgons gyda brwsh. Pobwch am ryw 8-10 munud. Gadewch iddynt oeri.
Ar ôl iddynt oeri, torrwch sgon yn ei hanner a’i gweni gyda jam a hufen wedi’i chwipio.
Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre yn gartref i gasgliad cynhwysfawr o offer a pheiriannau sy'n ymwneud â hanes prosesu cnu gwlân yn frethyn. Mae yno hefyd gasgliad tecstilau gwastad cenedlaethol a'r casgliad gorau o flancedi gwlân Cymreig gyda lleolbwynt wedi'i dogfennu sy'n dyddio'n ôl i'r 1850au. Mae'r rhain yn amrywio o flancedi tapestri brethyn dwbl mawr sydd bellach yn gasgladwy iawn, i flancedi iwtiliti sengl, gwyn o'r Ail Ryfel Byd. Yn y blog hwn, mae Mark Lucas, Curadur Casgliad y Diwydiant Gwlân ar gyfer Amgueddfa Cymru, yn rhannu ei wybodaeth am dreftadaeth blancedi Cymreig a rhai enghreifftiau gwych o'r casgliad pwysig hwn.
Yn draddodiadol roedd blancedi Cymreig yn rhan o ddrôr waelod priodferched. Roedd pâr o flancedi Cymreig hefyd yn anrheg briodas gyffredin. Byddent yn teithio pellteroedd mawr gyda’u perchnogion yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, wrth iddynt chwilio am waith. Felly, mae blancedi Cymru wedi ffeindio’u ffordd ledled y byd, gan ychwanegu ychydig o esthetig cartrefol i ystafell yn ystod y dydd, cynhesrwydd yn y nos a chysylltiad pwysig i adref.
Blancedi Lled Cul
Blanced Lled Cul - dau hyd cul wedi'u pwytho gyda'i gilydd.
Blancedi lled cul oedd y cynharaf, wedi'u gwehyddu ar wŷdd sengl. Fe'u gwnaed o ddau led gul wedi'u gwnïo gyda’i gilydd â llaw i ffurfio blanced fwy. Blancedi gwŷdd sengl o'r math hwn oedd yn gyffredin cyn troad yr ugeinfed ganrif pan ddatblygwyd gwŷdd dwbl a oedd yn galluogi gwehyddu lled ehangach o ffabrig. Fodd bynnag, ni throsodd llawer o'r melinau llai i’r gwŷdd dwbl, ac o ganlyniad, roedd blancedi lled cul yn parhau i gael eu cynhyrchu mewn symiau sylweddol yn ystod y 1920au, 30au a hyd yn oed yn ddiweddarach.
Blancedi Plad
Blanced Plad
Roedd patrymau plad yn boblogaidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel arfer yn cynnwys lliwiau cryf yn erbyn cefndir hufen naturiol. Roedd cyflwyno llifynnau synthetig ar ddiwedd y 19eg ganrif yn caniatáu i wehyddion gymysgu mwy o edafedd lliw i'r dyluniadau, gyda rhai cyfuniadau lliw yn gynnil, eraill yn drawiadol. Parhaodd llawer o felinau llai i ddefnyddio llifynnau naturiol ymhell i'r 20fed ganrif. Gwnaed y llifynnau naturiol o fadr a cochineal ar gyfer coch, glaslys ac indigo ar gyfer glas, ac aeron a chen amrywiol ar gyfer arlliwiau eraill. Mae gan yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol ei gardd llifyn naturiol ei hun ac mae'n cynnal cyrsiau a sgyrsiau trwy gydol y flwyddyn ar liwio naturiol.
Blancedi Tapestri
Blanced Tapsistri Cymru
Tapestri Cymru yw'r term sy'n cael ei rhoi i flancedi gwehyddu brethyn dwbl, gan gynhyrchu patrwm ar y ddwy ochr sy'n gildroadwy ac sydd erbyn hyn, yn eicon i ddiwydiant gwlân Cymru. Mae enghreifftiau o flancedi tapestri Cymru wedi goroesi o'r ddeunawfed ganrif ac mae llyfr patrwm o 1775 gan William Jones o Holt yn Sir Ddinbych, yn dangos llawer o wahanol enghreifftiau o batrymau tapestri. Blancedi wnaed gyntaf o frethyn dwbl, ond arweiniodd ei lwyddiant fel cynnyrch ar werth i dwristiaid yn y 1960au, at ei ddefnyddio i wneud dillad, matiau bwrdd, matiau diod, nodau tudalen, pyrsiau, bagiau llaw a chas sbectol. Oherwydd gwydnwch y gwehyddu brethyn dwbl, mae'r deunydd hefyd wedi'i ddefnyddio ar gyfer rygiau cildroadwy a charpedu.
Blancedi Melgell
Blanced Melgell
Mae blancedi melgell yn gymysgedd o liwiau llachar a meddal. Fel y mae'r enw'n awgrymu mae'r wyneb wedi'i wehyddu i gynhyrchu effaith waffl sgwâr dwfn gan roi ymddangosiad melgell i'r flanced. Mae'r math hwn o wehyddu yn cynhyrchu blanced sy'n gynnes ac yn ysgafn.
Gyda'r sylw presennol a rhoir i flancedi Cymreig fel eitem addurniadol yn y cartref, mae yna lawer o ddiddordeb mewn hen flancedi, eu patrymau, a’u dyluniadau. Mae blancedi hynafol wedi dod yn boblogaidd iawn gyda dylunwyr cartref ac maent i'w gweld yn helaeth mewn cylchgronau décor cartref. Fe'u defnyddir fel tafliadau a gorchuddion gwelyau mewn cartrefi modern, gyda llawer o ddylunwyr tecstilau blaenllaw yn ogystal â myfyrwyr yn ymchwilio i hen batrymau er mwyn cael ysbrydoliaeth ar gyfer eu dyluniadau newydd.
Blanced Caernarfon
Daw llawer o’r enghreifftiau gwych yng nghasgliad blancedi’r Amgueddfa o felinau ledled Cymru a roddodd y gorau i’w cynhyrchu ers talwm. Uchafbwynt yw'r casgliad o Flancedi Caernarfon. Cynhyrchwyd y rhain ar wyddiau Jacquard mewn ystod o liwiau. Dim ond ychydig o felinau a ddefnyddiodd wyddiau Jacquard, a all wneud dyluniadau a lluniau cymhleth. Mae blancedi Caernarfon yn dangos dau lun, un gyda Chastell Caernarfon gyda'r geiriau CYMRU FU a llun o Brifysgol Aberystwyth gyda'r geiriau CYMRU FYDD. Credir i'r blancedi hyn gael eu gwneud gyntaf yn y 1860au, a'u cynhyrchu diwethaf ar gyfer arwisgiad y Tywysog Siarl ym 1969. Mae rhodd ddiweddar i'r Amgueddfa yn enghraifft gynharach o'r flanced sy'n cynnwys dwy ddelwedd o gastell Caernarfon. Wedi'i wehyddu â llaw, mae'n cynnwys gwall sillafu – gyda Chaernarfon yn ffurf Saesneg yr enw: Carnarvon.