: Artistiaid a Gwneuthurwyr

Cymru 1678: Ail-greu'r brasluniau cynharaf o Gymru a luniwyd yn y fan a'r lle

Emily O'Reilly, 11 Chwefror 2011

Castell Benfro

Castell Benfro

Dinbych-y-pysgod

Dinbych-y-pysgod

Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'.

Prynodd yr Amgueddfa'r brasluniau gan ddeliwr ym 1931. Roedd y deliwr wedi'u prynu yn Sotheby's mewn arwerthiant o gasgliad Coleg Celf Patrick Allan-Fraser yn Arbroath, yr Alban. Roedd y casgliad yn cynnwys darluniau, argraffiadau, crochenwaith a'r unig lun olew hysbys, sef hunanbortread, a ddaeth i law'n uniongyrchol drwy deulu Place.

Mae'r darluniau wedi'u gwneud drwy gyfuno o leiaf dwy ddalen ar wahân a'u gludo ar ddalen arall i'w dal at ei gilydd, sef papur cynnar wedi'i wehyddu mwy na thebyg, sy'n awgrymu bod y gwaith yn perthyn i ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd rhai darluniau a oedd yn ymestyn dros y dudalen wedi'u gadael yn 'rhydd', fel bod modd i'r sawl a oedd yn edrych arnynt godi'r dudalen a gweld yr ochr arall. Roedd eraill wedi'u gludo i ddalen gynnal gan guddio'r braslun 'dibwys' ar y cefn.

Brasluniau cudd

Yn ystod y gwaith cadwraeth, penderfynodd staff yr Amgueddfa dynnu'r holl frasluniau oddi ar y dalenni cynnal. Ar ôl tynnu'r holl frasluniau o'r llyfr, daeth i'r amlwg bod darlun ar gefn un dudalen yn perthyn i ddarlun ar gefn tudalen arall, gan greu darlun dwy dudalen newydd.

Drwy wneud hyn datgelwyd brasluniau nad oeddent wedi'u gweld ers i'r llyfr braslunio gwreiddiol gael ei ddarnio o leiaf 200 mlynedd yn ôl. Roedd yn bosibl gweld trefn wreiddiol y brasluniau hefyd.

Caerdydd

Mae gan lawer o'r brasluniau groes neu saeth yn dangos lle mae'r olygfa banoramig yn ymestyn dros y dudalen. Mae Caerdydd yn ddau fraslun dwy dudalen sy'n uno. Mae yna groes ar dŵr yr eglwys yn y ddau fraslun, yn dangos lle mae'r ddau yn gorgyffwrdd.

<em>Cardydd</em> (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 1
Cardydd

(1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 1

<em>Cardydd</em> (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 2
Cardydd

(1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 2

<em>Caerdydd</em> (1678) Francis Place, wedi'u cyfuno'n ddigidol.
Caerdydd

(1678) Francis Place, wedi'u cyfuno'n ddigidol.

Golygfeydd panoramig nas gwelwyd o'r blaen

Gan nad oedd llawer o botensial mewn dangos y golygfeydd hanesyddol hyn o Gymru mewn oriel draddodiadol, cafodd y lluniau eu sganio a'u cyfuno drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Roedd modd gweld y lluniau panoramig fel delweddau cyflawn am y tro cyntaf erioed wedyn.

Yn ystod y broses, dadlennwyd gwybodaeth am ddulliau Place o weithio. Wrth gyfuno'r tudalennau gwahanol, nid oedd angen newid y gorwel yn y lluniau i sicrhau ei fod yn syth — tystiolaeth o allu Place fel dyluniwr.

Er nad yw technoleg wedi newid y dulliau o drin y gwrthrychau hyn, mae wedi gwella ein gwybodaeth amdanynt drwy ddatgelu llawer am ddulliau gweithio'r arlunydd.

Ystumllwynarth

Mae gan Ystumllwynarth ddwy groes ar yr ymyl chwith, yn dangos bod y darlun yn parhau dros y dudalen. Ar ochr arall y ddalen ceir croesau cyfatebol ar yr ymyl dde.

<em>Ystumllwynarth</em> (1678) Francis Place.
Ystumllwynarth

(1678) Francis Place. Braslun 1

<em>Ystumllwynarth</em> (1678) Francis Place.
Ystumllwynarth

(1678) Francis Place. Braslun 2

<em>Ystumllwynarth</em> (1678) Francis Place
Ystumllwynarth

(1678) Francis Place wedi'u cyfuno'n ddigidol

Ymchwil

Mae'r rhan fwyaf o waith gwreiddiol Place yn dod o arwerthiant Sotheby's ym 1931. Mae eitemau amrywiol o'r arwerthiant hwn bellach i'w gweld yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain, gan gynnwys nifer o ddarluniau wedi'u mowntio a dau lyfr braslunio. Mae'r eitemau hyn yn awgrymu bod y darluniau sydd i'w gweld yn Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn perthyn i un llyfr braslunio yn wreiddiol.

Mae llyfr braslunio cyntaf Amgueddfa Victoria ac Albert yn cynnwys deunaw tudalen, yr un nifer yn union â'r un yn Amgueddfa Cymru, ac mae ganddo'r un dyfrnodau; ceir rhestr ar ddechrau'r llyfr braslunio sy'n cyfateb i'r golygfeydd ynddo, ac mae'r rhestr yn parhau gyda llefydd yng Nghymru sy'n cyfateb i'r drefn a sefydlwyd ar ôl astudio brasluniau Amgueddfa Cymru.

Er nad Place a ysgrifennodd y rhestr, mae'n ymddangos yn gymharol hen. Efallai mai un o ddisgynyddion Place a wnaeth y rhestr cyn symud y brasluniau gorau i'w mowntio mewn llyfr ar wahân?

Ceir mwy o dystiolaeth yn ail lyfr braslunio Amgueddfa Victoria ac Albert, sy'n cynnwys darn o bapur wedi'i ludo y tu mewn i'r clawr cefn. Mae'r ddalen hon yn cyfateb i'r braslun olaf yn y llyfr braslunio cyntaf. Yn anffodus, mae'r dudalen olaf wedi'i gludo i lawr, ond ar yr unig ddarn bach y gellir ei godi, gwelir llinell pensil glir, a allai gyfateb i un o frasluniau Amgueddfa Cymru...

Dinbych-y-Pysgod

Gwelir enghraifft arall o blygu drosodd ynDinbych-y-Pysgod. Mae'r plyg ar ochr chwith y darlun yn dangos yr ochr arall.

<em>Dinbych-y-Pysgod</em> (1678) Francis Place
Dinbych-y-Pysgod

(1678) Francis Place. Braslun 1

<em>Dinbych-y-Pysgod</em> (1678) Francis Place
Dinbych-y-Pysgod

(1678) Francis Place. Braslun 2

<em>Dinbych-y-Pysgod</em> (1678) Francis Place.
Dinbych-y-Pysgod

(1678) Francis Place. Wedi'u cyfuno'n ddigidol

Francis Place (1647-1728)

Emily O'Reilly, 10 Chwefror 2011

Francis Place 1678
Francis Place 1678

Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'. Ond pwy oedd Francis Place?

Brodor o Swydd Efrog oedd Francis Place, ac fe'i ganwyd i deulu cyfoethog ym 1647, yr olaf o ddeg o blant. Penderfynodd ei dad y dylai Francis ddilyn ei ôl troed ef fel cyfreithiwr, a phan oedd yn ddwy ar bymtheg neu'n ddeunaw oed aeth Francis i Gray's Inn yn Llundain i astudio'r Gyfraith.

Fodd bynnag, nid oedd y gyfraith yn apelio at Francis, a chafodd esgus i roi'r gorau i astudio a dychwelyd adref yn sgil y Pla Mawr ym 1665. Dychwelodd i Lundain yn fuan wedyn i weithio gyda Wenceslaus Hollar, a'i cyflwynodd i'r gwaith o wneud a gwerthu argraffiadau.

Mae'n bosibl bod Place wedi derbyn ei holl etifeddiaeth, neu gyfran ohoni, cyn marwolaeth ei dad ym 1681, a byddai hyn wedi ei alluogi i ddilyn ei ddiddordeb mewn celf a physgota.

Brenhiniaeth a'r oes Virtuosi

Oes y Virtuosi oedd yr ail ganrif ar bymtheg — cyfnod pan oedd dynion cyfoethog ag amser ar eu dwylo rhannu diddordeb mewn celf, gwyddoniaeth ac athroniaeth. Aeth llawer ohonynt ymlaen i sefydlu'r Gymdeithas Frenhinol ym 1660. Yn ystod hanner cyntaf y ganrif, dim ond aelodau o'r teulu brenhinol a'r rhai oedd â chysylltiad agos â nhw oedd yn dysgu sut i ddarlunio a pheintio.

Tua diwedd y ganrif daeth celf yn boblogaidd ymhlith tirfeddianwyr cefnog a'u meibion a'u merched. Aethant ati i astudio er mwyn ennill gwybodaeth, a oedd yn wahanol iawn i'r rhai oedd yn dibynnu ar ddarlunio fel bywoliaeth. Er mai amatur oedd Place yn y bôn, ceir tystiolaeth iddo dderbyn arian am ei waith, yn enwedig yn y dyddiau cynnar.

Felly roedd Place yn debyg iawn i wŷr bonheddig eraill y cyfnod; roedd ganddo ddigon o amser ac arian, a dengys yr hyn sydd wedi goroesi o'i waith iddo arbrofi gyda sawl cyfrwng, gan gynnwys porslen.

Roedd yn aelod o Virtuosi Efrog a oedd yn cynnwys Martin Lister, Henry Gyles, Thomas Kirke FRS a William Lodge. Mae'n bosibl iddo ennill comisiynau yn sgil ei aelodaeth o'r grŵp hwn.

Diolch i arian ei dad, teithiodd Place yn helaeth o gwmpas y DU i fraslunio a physgota. Dengys ohebiaeth o'r cyfnod bod y brasluniau sydd gan Amgueddfa Cymru wedi'u gwneud yn ystod taith Place yng Nghymru a Gorllewin Lloegr ym 1678. Ri gyfaill William Lodge oedd ei gydymaith ar y daith, oedd hefyd yn aelod o Virtuosi Efrog.

Roedd teithio yn ystod y cyfnod hwn yn gallu bod yn beryglus. Roedd sawl cynllwyn Pabaidd ar waith ar y pryd, a gwyddom i'r ddau ddyn dreulio noson yn y carchar yng Nghymru yn sgil amheuaeth eu bod yn ysbiwyr Jeswitaidd.

Dinbych y Pysgod

Braslun gwreiddiol Dinbych y Pysgod

<em>Tenby Cliffs</em> (1678), Francis Place.

Dinbych y Pysgod wedi'u cyfuno'n ddigidol:

<em>Tenby Cliffs</em> (1678), Francis Place.

Crochenwaith o Loegr yn Amgueddfa Cymru

Andrew Renton, 6 Ionawr 2010

Jwg gynhaeaf o briddwaith wedi'i endorri

1: Jwg gynhaeaf o briddwaith wedi'i endorri. Cafodd ei gwneud yn Gestingthorpe, Suffolk, ym 1680. Prynwyd ym 1904.

Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad rhagorol o grochenwaith o Loegr a ddechreuwyd adeg sefydlu'r Amgueddfa. Mae'n parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr.

Dechreuodd hen Amgueddfa Drefol Caerdydd gasglu gwaith cerameg ym 1882, gyda'r nod o ddatblygu'r casgliad gorau posibl o grochenwaith a phorslen o Gymru. Erbyn 1895 credai'r Amgueddfa ei bod yn meddu ar y casgliadau gorau a mwyaf cynrychiadol o'u math yn y byd, a dechreuodd gyfeirio'i sylw at feysydd newydd, gan gynnwys cerameg o Loegr a'r cyfandir.

Ym 1896 gwnaed Robert Drane yn guradur anrhydeddus. Roedd yn gasglwr brwd ar borslen Caerwrangon, ac ef hefyd a oedd wedi dewis yr eitemau porslen Cymreig cyntaf i'r Amgueddfa eu prynu.

Sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Ar yr adeg hon roedd Amgueddfa Drefol Caerdydd hefyd yn ymgyrchu dros sefydlu amgueddfa genedlaethol i Gymru, a'i huchelgais oedd datblygu i fod y sefydliad newydd hwnnw. Ym 1902 cyfeiriodd at y ffaith fod ei chasgliadau yn tyfu'n fwyfwy cenedlaethol eu natur, ac felly dechreuodd ddatblygu ei chasgliad o grochenwaith o Loegr.

O'r Canoloesol i'r diwydiannol

Câi pob rhan o'r traddodiad crochenwaith yn Lloegr ei chynrychioli, o grochenwaith diwedd y canol oesoedd, i grochenwaith caled, slip a Delft yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, i ddarnau wedi'u cynhyrchu trwy'r dulliau diwydiannol a gyflwynwyd yn Swydd Stafford o ganol y ddeunawfed ganrif. [lluniau 1-2]

Dyma rai o'r eitemau eithriadol:

  • dysgl crochenwaith slip prin a godidog o'r ail ganrif ar bymtheg gan Ralph Toft o Swydd Stafford [llun 3]
  • mwg pwysig o grochenwaith caled wedi'i enamlo ag arfbais Farmer â'r dyddiad 1706 arno [llun 4]
  • dysgl hynod, o grochenwaith Delft. Cafodd ei gwneud yn Brislington ym 1680, ac mae'n dangos dau sgweier o Wlad yr Haf a oedd wedi herwgipio efeilliaid cyswllt i'w harddangos, er mwyn codi arian. [llun 5]

Roedd balchder yr Amgueddfa yn yr hyn yr oedd wedi'i gyflawni yn amlwg. Mewn adroddiad a ysgrifennwyd ym 1905 ar y ddysgl crochenwaith Delft o Brislington, mae'n nodi mai ychydig iawn o'r dysglau hyn a oedd yn bodoli, ac mai'r enghraifft hon yng Nghaerdydd, o bosibl, oedd y gorau ohonynt.

Wilfred de Winton

Roedd y banciwr Wilfred de Winton yn cefnogi'r ymgyrch dros gael amgueddfa genedlaethol, a rhoddodd ei gasgliad enfawr o borslen iddi yn ddiweddarach.

Roedd ei roddion o grochenwaith o Loegr yn cynnwys jwg gwrw ddoniol o berlwaith, wedi'i mowldio ag wynebau yn dangos gwahanol gamau meddwdod. Mae'r handlen ar ffurf morfab yn edrych i mewn i'r jwg. [ill. 6-7] Y gred ar y pryd oedd i'r jwg hon gael ei gwneud yng nghrochendy lleol Cambrian, ond mewn gwirionedd mae'n un o'r nifer o ddarnau o Gymru yn y casgliad y canfuwyd yn ddiweddarach eu bod o Loegr. [llun 8]

Ernest Morton Nance

Ym 1953 rhoddodd Ernest Morton Nance ei gasgliad o waith cerameg Cymreig i'r Amgueddfa yn ei ewyllys. Roedd Nance yn arbennig o falch o'i jwg 'Crochenwaith Cambrian'. Credai mai golygfeydd o grochendy yn Abertawe a baentiwyd arni, ond mewn gwirionedd mae'n debygol mai yng nghrochendy Ralph Wedgwood yn Ferrybridge y gwnaed hon hefyd, tua'r flwyddyn 1800. [llun 9]

Y casgliad yn parhau i ehangu

Mae'r casgliad o grochenwaith o Loegr yn parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr. [llun 10] Trwy gymynroddion, derbyniwyd casgliadau helaeth o grochenwaith lystar (yr Arglwydd Boston, 1942), cloriau potiau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Miss E. A. Nicholl, 1981) a ffigyrau o Swydd Stafford o gyfnod y Frenhines Victoria (Mrs H. Hastings, 1995). [llun 11] Ym 1994 roedd rhodd W. J. Grant-Davidson, a oedd yn ysgolhaig ym maes crochenwaith Cymru, yn cynnwys darnau diddorol o Swydd Stafford. Y mwyaf diddorol oedd enghraifft gynnar a phwysig o debot hufenwaith a wnaed gan Enoch Booth tua'r flwyddyn 1743. [lluniau 12-14]

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn casglu crochenwaith modern, ac mae wedi prynu enghreifftiau fel dysgl lystar gan William de Morgan a fâs Royal Doulton a ddyluniwyd gan Frank Brangwyn. [lluniau 15-16] Cafwyd darnau modern eraill o Gasgliad Allestyn yr Amgueddfa, er enghraifft dyluniadau o'r 1930au gan y pensaer Keith Murray ar gyfer Wedgwood ac, yn arbennig, rhodd hael gan Mick Richards, sef casgliad ardderchog o waith cerameg Susie Cooper. [llun 17]

Mae'r casgliad yn parhau i ehangu, a phrynwyd eitemau fel tebot hufenwaith o tua 1765, sy'n coffáu'r gwleidydd radical John Wilkes. [llun 18]

Awdur: Andrew Renton, Pennaeth Celfyddyd Gymhwysol

Canu Cloch i'r Flwyddyn Newydd

Sara Huws, 3 Ionawr 2008


Er gwaetha'r tywydd rhynllyd, mae cornel o iard Eglwys Teilo Sant dal yn gynnes iawn. Gefail dros-dro sydd yno, ble mae dau arbenigwr-ac-artist yn gweithio ar ail-greu cloch Ganol Oesol gynnar. Roedd gan llawer o'r seintiau Cymreig yn y 6ed ganrif rai o'r rhain. Gellir darllen ychydig amdanynt (yn saesneg) ar y ddalen hon, sydd wedi'i ysgrifennu gan arbenigwr Canol Oesol Amgueddfa Cymru, Mark Redknap.

'The Christian Celts: Treasures of Late Celtic Wales'

Mae Andrew Murphy a Tim Young - y naill yw'r Gof yma yn Sain Ffagan, mae'r llall yn arbenigwr mewn metelau ac archaeoleg ymarferol - yn defnyddio megin enfawr i geisio ail-greu cloch Sant Ceneu. Mae'r gloch wreiddiol yn rhan o'r casgliad cenedlaethol. Mae Andrew a Tim yn defnyddio technegau tebyg i'r rhai a ddefnyddiwyd i wneud y gloch wreiddiol yn y 6ed ganrif i'w ail-greu. Maent yn gwneud hyn i geisio dysgu mwy am waith metel y cyfnod mewn ffordd ymarferol - rydym ni wastad yn arbrofi yn Sain Ffagan, felly mae'n braf gweld llwyddiant y gwaith ar ddyddiadur gwe Tim Young.

Cewch luniau, sylwadau a disgrifiadau yma ar wefan Geoarch.

Bydd mwy o wybodaeth am y prosiect yn cael ei gyhoeddi ar ein chwaer-safle, Rhagor: darganfod byd o gasgliadau, ar derfyn y gwaith. Mwynhewch ddyddiadur Tim yn y cyfamser!

I gadw'r thema: cloch lawer yn iau na chloch Ceneu yw'r gloch yn nhwr yr eglwys ei hun. Mae wedi'i seilio ar gynllun o'r 15eg ganrif o Lanilltyd Fawr. Fe'i castiwyd yn arbennig i ni yn ffowndri Taylors, Loughborough - man geni 'Great Paul', sy'n hongian hyd heddiw yng Nghadeirlan Sant Paul yn Llundain. Mae'n un ni ddipyn yn llai, ond yn ddigon swnllyd ta beth!

Clychau Taylor, Eayre and Smith

Hwyl am y tro a blwyddyn newydd dda!

Lluniau natur: Darluniau botanegol

20 Awst 2007

Hen llysieulyfrau

Yn yr Oesoedd Tywyll roedd clefydau ac aflendid yn rhemp ac fe ddibynnai'r bobl ar feddygon llysiau a'u meddyginiaethau. I wella byddardod: cymerwch wrin maharen, olew llysywennod, cenhinen, sudd barf yr hen ŵr ac ŵy wedi'i ferwi...

Magnolia

Anfonwyd casglwyr proffesiynol i rannau pellennig o'r byd. Roedd darganfod planhigion newydd yn golygu archwilio gwledydd newydd - yn aml heb fapiau cywir, drwy diroedd heb heolydd, a chydag ychydig o aneddiadau.

Tiwlip

Tua 17eg ganrif, daeth llawer o blanhigion newydd egsotig i Ewrop wrth i bobl ddechrau teithio a masnachu. Cychwynnodd `Tiwlipomania' gan fod y cyfoethogion bron â thorn eu bol eisiau bod yn berchen ar y planhigion prinnaf. Yn yr Iseldiroedd, prynwyd un býlb tiwlip am 4,600 fflorin, coetsh a phâr o geffylau brithias.

Papaya

Ym 1737, bu'n rhaid i Elizabeth Blackwell ddechrau cynnal ei theulu pan daflwyd ei gŵr i garchar dyledwyr. Tynnodd luniau ar gyfer llysieulyfr y 'Chelsea Physic Garden' a bu el gŵr yn edrych dros y testun yn y carchar.

Swynwyd dyn erioed gan flodau, gan eu harddwch, a'r posibiliadau ar gyfer iachâd a gwybodaeth. Mae Amgueddfa Cymru yn dal casgliad unigryw o dros 9,000 darlun botanegol, yn pontio pum canrif.

Yn dilyn arddangosfa fechan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym 1942, cafodd y darluniau eu storio. 50 mlynedd yn ddiweddarach ail ddarganfuwyd ystod ac arwyddocâd y casgliad, a gwerthfawrogwyd eu lluniadaeth goeth yn llawn.

Mae'r casgliad yn cynnwys gwaith yn amrywio o ysgythriadau proffesiynol i ddyfrlliwiau amatur, ac yn cynnwys nifer o eitemau gan feistri cydnabyddedig megis Georg Dionysius Ehret a Pierre Joseph Redouté.

500 mlynedd o ddarluniau botanegol

Mae'r casgliad yn dilyn datblygiad darluniau botanegol a'r berthynas rhwng celf a gwyddoniaeth o lysieulyfrau canol oesol yr Oesoedd Tywyll, pan oedd dyn yn ofni Natur, drwy'r Oleuedigaeth a'r teithiau darganfod, hyd at ddarluniau cyfoes yr 21ain Ganrif.

Blodeulyfrau

Erbyn 1600, ar ôl y llysieulyfrau blociau pren cynnar, arweiniodd y broses o ysgythru ar fetel at ddarluniad manach o bob manylyn bach, gan chwyldroi darluniau botanegol. Flora Londinensis (1777-87) gan William Curtis yw un o'r blodeulyfrau Prydeinig enwocaf, yn rhestru'r holl blanhigion o fewn deng milltir i Lundain. Blodeulyfr Ewropeaidd pwysig o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Flora Danica (1763-1885) a gymrodd bron i gan mlynedd i'w chwblhau.

Yn yr 17eg Ganrif, tyfwyd planhigion am eu harddwch yn ogystal â'u defnydd ymarferol a gwyddonol. Cynhyrchodd y cyfoethog flodeugerddi yn darlunio'r planhigion prin a hardd ar eu hystadau, tra bod canllawiau gwyddonol yn llawn darluniau manwl o ystod eang o blanhigion.

Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o brintiadau gwreiddiol o'r 17eg Ganrif, gan gynnwys gwaith gan Redouté, Sowerby, Fitch, a Sydenham Edwards, a anwyd yng Nghymru.

Cyflwyno tacsonomeg

Ym 1753 datblygodd y naturiaethwr o Sweden, Carl Linnaeus system newydd o enwi a dosbarthu pob peth byw. Cafodd popeth ddau enw yn Lladin: enw genws ac enw rhywogaeth. Cafodd hyn effaith sylweddol ar steil y darluniau botanegol. Roedd y pwyslais bellach ar organau rhywiol y planhigyn, er mawr ddychryn i'r gymdeithas foneddigaidd.

Derbyniwyd y system Linnaeaidd newydd yn rhannol drwy safon uchel y darluniau a gynhyrchwyd gan G. D. Ehret ar y pryd. Mae gan yr Amgueddfa ddarluniau gan Ehret o Plantae Selectae (1750-73) a hefyd gasgliad gan J. S. Miller o Botanical Tables (1785) Bute, a gomisiynwyd gan John Stuart, 3ydd Iarll Bute.

Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys gwaith gan Redouté, Kirchner ac Elizabeth Blackwell. Darluniodd Backwell lysieulyfr o'r enw A Curious Herbal i ryddhau ei gwr o'i garchariad mewn carchar i ddyledwyr.

Teithiau darganfod

Botanegwyr ar y teithiau epig o ddarganfod yn y 18fed a'r 19eg ganrif oedd y cyntaf i gofnodi a chasglu'r planhigion egsotig a welwyd yn y tiroedd pellennig, heb eu mapio. Am y tro cyntaf, gwelodd Ewropeaid luniau o ffrwythau egsotig megis afalau pîn, paw-paws a phomgranadau.

Mae esiamplau yn y casgliadau yn cynnwys Banks' Florilegium a gweithiau o Curtis's Botanical Magazine.

Brwdfrydedd Fictoraidd

Daeth brwdfrydedd aruthrol am wyddoniaeth yn y cyfnod Fictoraidd. Daeth ysgythriadau o blanhigion newydd yn gyffredin drwy newyddiaduron a chylchgronau poblogaidd, megis Carter's Floral Illustrations a Paxton's Floral Garden.

Arweiniodd darganfyddiad Victoria regia, y lili'r dŵr enfawr o'r Amazon, at elyniaeth rhwng garddwyr tai mawr Lloegr, yn cystadlu am y cyntaf i lwyddo i'w gael i flodeuo ym Mhrydain. Joseph Paxton, garddwr Chatsworth, enillodd y ras. Dywedir mai strwythur y ddeilen enfawr ysbrydolodd ei gynllun ar gyfer Crystal Palace.