: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Fy mhrofiad: Gwirfoddoli Gofal Casgliadau ar draws yr Amgueddfa

Anna Watson - Gwirfoddolwr Gofal Casgliadau , 30 Medi 2025

Fy enw i yw Anna Watson ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru ers mis Tachwedd 2024. Rwy'n gwirfoddoli bob wythnos fel cynorthwy-ydd gofal casgliadau yn yr adran gadwraeth. Rydw i wedi mwynhau'r profiad yn aruthrol gan fod pob wythnos yn wahanol, felly rydw i bob amser yn dysgu rhywbeth newydd ac yn datblygu fy sgiliau. Dechreuais y rôl wirfoddoli hon ar ôl gorffen fy ngradd meistr mewn Gofal Casgliadau gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae'r cyfle hwn wedi bod yn wych er mwyn rhoi'r sgiliau a gefais o'r cwrs hwnnw ar waith. Hyd yn hyn, rydw i wedi helpu gyda chynnal a chadw arddangosfeydd yn yr orielau celf a'r adran hanes natur; cynnal a chadw microhinsawdd yn yr adran archaeoleg; archwiliadau o'r casgliadau entomoleg ac wedi helpu i lanhau ac adleoli'r storfa hylif (fel y gwelwch yn y llun)! Mae'r cyfle i weithio mewn sawl adran a chwrdd â chymaint o wahanol guraduron, cadwraethwyr a thechnegwyr sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd wedi bod yn amhrisiadwy. Bob wythnos rwy'n gyffrous i weld beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf.

Archwilio Cynhanes: Fy Mhrofiad yn Gwirfoddoli gydag Offer Carreg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Rebecca Mahon - Gwirfoddolwr Offer Cerrig Cynhanesyddol, 10 Medi 2025

Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mai 2025, ro’n i’n ddigon ffodus i gael gwirfoddoli yng nghasgliadau archaeolegol Amgueddfa Cymru. Bob dydd Iau, roeddwn i a fy nghyd-wirfoddolwyr yn cael trin, adnabod a chatalogio casgliad enfawr o offer carreg cynhanesyddol a gasglwyd gan Henry Stopes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Yn ystod ein sesiynau wythnosol, roedden ni’n cael ein hannog gan ein goruchwyliwr, y Prif Guradur Elizabeth Walker, i geisio deall a darganfod sut roedd cymunedau ledled y byd yn arfer defnyddio’r offer yma. Gan ddechrau drwy ddod i adnabod yr offer, buon ni’n dysgu sut i gategoreiddio yn ôl sut byddai’r offeryn yn cael ei ddefnyddio yn seiliedig ar y marciau oedd arnyn nhw. 

Yna bydden ni’n rhifo ac yn categoreiddio'r offer gan ddefnyddio system Stopes fel y gellid eu mewnbynnu i'r gronfa ddata ar-lein.

Roedd ein gwaith fel gwirfoddolwyr yn golygu y gallai Amgueddfa Cymru gwblhau ei gwaith o gyfri’r eitemau sydd yn ei chasgliad gan Stopes, a ddaeth i law’r amgueddfa ym 1912, gan ganiatáu i'r casgliad cyfan fod ar gael i'r cyhoedd. Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru yn caniatáu i fi ennill profiad sy'n berthnasol i fy ngradd a gweithio gydag arteffactau yn amrywio o bennau saethau fflint i emwaith wedi'i wneud o asgwrn! 

Rwy'n teimlo'n ffodus fy mod wedi cael cyfle i brofi sut mae’r sefydliad anhygoel yma’n gweithio a chwrdd â'r gweithwyr proffesiynol a'r gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gweithio ynddo. Mae bod yn wirfoddolwr wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn!

Slipmats DJ Jaffa

Kieron Barrett, 15 Gorffennaf 2025

Mae slipmat yn ddarn allweddol o offer DJ pan yn chwarae feinyl, yn enwedig i DJs sy hefyd yn crafu neu'n gwneud triciau eraill gyda'r trofwrdd. Mae llawer o DJs, gan gynnwys Jaffa, wedi darganfod yn gyflym iawn fod defnyddio system hi-fi mam a dad i ddysgu crafu yn mynd i ddifetha'u casgliad recordiau nhw. Yn hytrach na rhwbio'r feinyl yn erbyn rwber neu blastig y trofwrdd, mae slipmat yn gadael i ti symud y record yn ôl ac ymlaen yn gelfydd heb farcio'r feinyl. Am y rheswm yma'n unig, roedd angen i ni gynnwys pâr o slipmats yn yr arddangosfa, ond nid unrhyw bâr sydd gyda ni, ond y pâr cyntaf erioed i DJ Jaffa ei brynu.

Os nad wyt ti’n gyfarwydd â’r sin Hip Hop yng Nghymru, falle bo ti ddim wedi clywed am DJ Jaffa o'r blaen, felly dyma ychydig o’r hanes. Mae stori Jaffa hefyd yn cynnwys rhai o'r eitemau eraill yn yr arddangosfa, ac fe esbonia i fwy am y slipmats yna hefyd.

Fel llawer o bobl eraill yng Nghymru a'r DU, blas cyntaf Jason Farrell, neu DJ Jaffa, ar Hip Hop oedd fideo miwsig Malcolm McLaren, 'Buffalo Gals', oedd yn dangos graffiti, brecio, crafu a rapio gan artistiaid Efrog Newydd. Mae hefyd yn cofio cael cip ar y diwylliant ar raglen BBC2 Entertainment USA yn 1983.

Ond nid y World Famous Supreme Team DJs o'r fideo yna oedd e'n trio'u hefelychu ar y dechrau, ond brecwyr y Rock Steady Crew. Dechreuodd ymarfer mor aml ag y gallai, gartref ac yn yr ysgol, gan ddefnyddio unrhyw luniau neu glipiau o'r teledu y gallai gael gafael arnyn nhw. Pan oedd 'brecddawnsio' ar ei fwyaf poblogaidd ar ôl ffilmiau fel Beat Street a Breakdance the Movie yn 1984, roedd eisoes yn freciwr da iawn, ac fe gymerodd ran yn ei frwydr go iawn gynta yn erbyn criw o Bort Talbot yng nghanol dinas Caerdydd.

Does dim lle i roi holl hanes Jaffa yma, ond mae'r darn yma'n allweddol i gam nesaf ei ddatblygiad achos wedi brwydr yn erbyn criw o Fryste, daeth yn ffrindiau gyda nhw a dechrau treulio'u benwythnosau yn y ddinas dros y bont. Roedd yn mynd i bartïon Wild Bunch ac yn gweld y sîn ym Mryste yn tyfu o flaen ei lygaid, a sylwodd hefyd ar sut oedd darpar-aelodau Massive Attack yn mynd i ati i ddysgu'r grefft o DJio.

Ond y foment dyngedfennol, pan sylweddolodd ei fod e am droi at y decs, oedd gwylio'i ffrind Dennis Murray yn perfformio triciau trofwrdd ar system sain Galaxy Affair. Gyda llaw, Dennis Murray – neu DJ Easygroove – oedd un o arloeswyr y sîn rêfs.

Roedd DJ ei ganolfan ieuenctid leol yn yr Eglwys Newydd yn gadael i Jaffa chwarae recordiau o bryd i'w gilydd ac fe ddatblygodd ffordd o ddysgu crafu ar y system hi-fi gartref, gan ddefnyddio slipmats cardfwrdd syml y creodd ei hun. Dilyn ei glust oedd ffordd Jaffa o ddysgu, gan ddadansoddi clipiau sain byw o Bencampwriaeth y DMC lle'r oedd trofyrddwyr gorau'r byd yn cystadlu. Ond, pan gafodd ei set gyntaf o ddecs recordiau proffesiynol yn 1986, buan iawn y cyrhaeddodd ei sgiliau DJ y lefel nesaf.

Wrth gwrs, roedd yn rhaid prynu set go iawn o slipmats hefyd. Roedd wedi bod yn prynu recordiau o siop Spin-Offs yn Fulham Palace Road yn Hammersmith, gorllewin Llundain, trwy'r post yn bennaf bryd hynny. Greg James, y DJ o Efrog Newydd, oedd perchennog y siop. Roedd wedi symud i Lundain i helpu agor clwb nos The Embassy yn 1978. Mae Greg yn cael ei gydnabod yn eang fel y DJ cyntaf i ddod â steil disgo – cyfuno recordiau'n gelfydd a di-dor – i'r DU.

Roedd Spin-Offs hefyd yn adnabyddus am werthu'r offer DJ diweddaraf, felly dyma'r lle perffaith i ffeindio'r slipmats gorau. Mae Jaffa'n cofio mai DJ Richie Rich a'i wasanaethodd y diwrnod hwnnw. Roedd e’n DJ uchel ei barch ar y pryd, ac roedd ganddo ei sioe ei hun ar Kiss FM, yn y dyddiau pan oedd yn orsaf radio heb drwydded. Cafodd ambell i lwyddiant gyda recordiau Hip Hop a Hip House tanddaearol yn yr 80au a'r 90au, a dechreuodd label Gee Street.

Mae'r ffaith bod yr enw 'Mixmaster' ar y slipmats yn ddiddorol. Llond llaw o DJs gyda'r enw yna oedd bryd hynny. Nid oedd Mix Master Mike eto wedi ymuno â'r Beastie Boys nac wedi dechrau ei yrfa. Roedd Mixmaster Spade yn dal i wneud tapiau tanddaearol yn Compton, Califfornia. Y tri alla i feddwl am tua 1986 yw: Mixmaster Morris a'i Mongolian Hip Hop Show ar orsaf radio heb drwydded Network 21 yn Llundain, Mixmaster Ice o'r grŵp U.T.F.O yn Efrog Newydd a Mixmaster Gee and the Turntable Orchestra o Long Beach a gafodd gwpl o lwyddiannau tanddaearol gyda MCA Records. Ond dwi'n colli'r trywydd braidd nawr.

Fe wnaeth Jaffa gloi ei hun yn ei ystafell, ac ymarfer. Ymhen hir a hwyr, cafodd ei berswadio i osod ei ddecs tu allan i siop Rudi's Donut yng nghanolfan y Capitol ar ddiwedd Stryd y Frenhines, Caerdydd. Er bod rhai DJs clwb yn chwarae Hip Hop yn lleol ar y pryd, fel Paul Lyons yn Lloyds, mae llawer yn ystyried hwn fel y jam Hip Hop go iawn cyntaf yn y ddinas. Daeth Jaffa â meicroffon gyda fe, ac un rapiwr yn unig roddodd gynnig arni, sef Dike (ynganiad Dî-cei) o Gabalfa.

Ar ôl hwnna, roedd jams Hip Hop yn digwydd yn rheolaidd ar bnawn Sadwrn yng nghanolfan ieuenctid Grassroots. Byddai Jaffa ar y decs, a rapwyr fel Dike, Mello Dee (4Dee yn ddiweddarach) ac MC Eric (Me-One yn ddiweddarach) ar y meic. O'u cwmpas, ffurfiodd criw o'r enw Hard Rock Concept oedd yn cynnwys rapwyr, artistiaid graffiti ac wrth gwrs, Jaffa. Yn y cyfnod yma, roedd criwiau'n fwy amlwg nag unigolion, ond tua diwedd yr 80au, fe adawodd Jaffa ac Eric y criw a symud i Lundain. Wedi hynny cawsant gontract mawr gyda label Jive Records, ac ymddangosodd eu traciau ar yr albyms detholiad Def Reggae a Word Four o dan yr enw Just The Duce. Mae'r albyms yn yr arddangosfa hefyd.

Dychwelodd Jaffa i Gaerdydd yn y diwedd, a chafodd Eric lwyddiant byd-eang gyda Technotronic. Yn ystod y 90au cynnar, symudodd llawer o bobl oddi wrth Hip Hop draw i'r sîn rêfs a ddaeth yn anferth bron dros nos, ond fe helpodd Jaffa i gadw'r diwylliant i fynd gyda 4Dee, ei chwaer Berta Williams (RIP) a The Underdogs – sefydliad ieuenctid yn Llaneirwg oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau fel dawns Hip Hop, rapio a DJio. Mae wedi bod yn un o hoelion wyth y sîn byth ers hynny, ac wedi bod yn rhan o brojectau di-ri dros y blynyddoedd – o Rounda Records i grwpiau fel Tystion, Manchild, Erban Poets a Kidz With Toyz ac yn ddiweddar, Xenith.

Torrodd record y DU am y set DJ hira erioed pan fu wrth y decs am 70 awr, er iddo fethu curo Record y Byd o ddim ond pedair awr. Cefnogodd Snoop Dogg ar ei daith o'r DU ac mae'n dal i DJio bob penwythnos. Mae'n cyflwyno sioe This That & The Third ar yr orsaf Radio Raptz ym Mharis, gan chwarae recordiau artistiaid Cymreig mor aml â phosibl. Mae wedi bod yn rhan o recordiau ar draws y byd, fel DJ a chynhyrchydd, gan gynnwys The Yellow Album gan The Simpsons (gallwch ei glywed yn crafu ar y trac ‘The Ten Commandments of Bart’, a Dike wnaeth gyd-ysgrifennu'r geiriau).

Mae Jaffa hefyd wedi bod yn rhan annatod o greu'r arddangosfa hon, a'i wyneb ef sy ar ein posteri, felly mae'n teimlo'n addas i ni ganolbwyntio ar ei slipmats yma. Gobeithio bo chi hefyd yn gweld ar ôl darllen yr erthygl yma pam rydyn ni mor gyffrous i'w dangos. Dewch yn ôl at y blog yma i glywed mwy am eitemau eraill sy'n rhan o arddangosfa Hip Hop: Stori Cymru.

Hip Hop: Stori Cymru

Kieron Barrett, 9 Gorffennaf 2025

Mae dau gwestiwn wedi bod ar flaen fy meddwl wrth guradu Hip Hop: Stori Cymru ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yn gyntaf, 'beth yw Hip Hop?' ac yn ail, 'beth yw amgueddfa?'. Byddech chi'n meddwl bod y ddau'n gymharol hawdd i’w hateb, ond dwi dal ddim wedi taro'r hoelen ar ei phen. Mae chwilio'n barhaus am ryw fath o ateb wedi bod yn sail i'r project.

Fe ddylai'r cwestiwn cyntaf ddod yn haws i mi. Rydw i wedi dilyn Hip Hop ers dechrau'r 80au ac mae'n rhan bwysig o fy hunaniaeth. Ar wahanol adegau, dwi wedi bod yn rapiwr, DJ, hyrwyddwr, blogiwr a rheolwr artistiaid, ond yn bennaf oll, dwi wedi bod yn ffan o'r holl agweddau ar ddiwylliant Hip Hop. Hip Hop yw fy nghefndir, nid amgueddfeydd. Ond, mae'r gyfrifoldeb o greu arddangosfa fel hyn wedi bod yn hollbwysig i fi. I wneud cyfiawnder â hynny, roedd yn rhaid i fi gamu i ffwrdd o fy mherthynas fy hun â Hip Hop er mwyn gwneud yn siŵr fy mod yn cynrychioli trawsdoriad o'r wlad. Roedd yn rhaid i fi ymchwilio i'r nifer fawr o ffyrdd y mae Hip Hop wedi dod yn rhan o ddiwylliant Cymru ac mewn llawer o achosion hunaniaeth Gymreig. Roeddwn i eisiau archwilio a dathlu'r effaith mae Hip Hop wedi'i gael ar Gymru ers iddo gyrraedd, ddechrau'r 80au.

Er i Hip Hop ddechrau yn y 1970au, tua diwedd 1982 y dechreuodd y diwylliant afael yma. Roedd yn hawdd ffurfio hunaniaeth gyfunol bryd hynny gan mai dim ond 4 sianel deledu a hyn a hyn o ddeunydd print oedd ar gael. Ond, mae Hip Hop wedi newid mewn cymaint o ffyrdd ers dyfodiad y we a globaleiddio, felly dyw e ddim yn hawdd rhoi eich bys ar beth yw Hip Hop bellach.

Mae'n sgwrs hir, a dwi'n siŵr na fydda i'n llwyddo i’w datrys yma, ond roedd yn bwysig i fi glywed meddyliau a phrofiadau cymaint o bobl â phosibl. Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arddangosfa yn un triw, roedd yn rhaid i ni gynnwys lleisiau pobl sy'n hŷn ac yn iau na fi, yn ogystal â fy nghyfoedion. Fe deithiais i hyd a lled Cymru a siarad â llawer o bobl roeddwn i'n eu 'nabod a llawer nad oeddwn i'n eu 'nabod – yng Nghasnewydd, Caerdydd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Caerfyrddin, Caernarfon, Aberystwyth, Bangor, Conwy, Bae Colwyn, Wrecsam a llawer o drefi a phentrefi llai eraill ar hyd y daith. Recordiwyd dros 70 o gyfweliadau, a bydd llawer ohonynt yn cael eu cynnwys yn archif hanes llafar yr Amgueddfa. Fodd bynnag, fe wnes i gwrdd â channoedd mwy ar hyd y ffordd – mae'r project hwn wedi bod yn ymdrech ar y cyd enfawr. Rhaid i fi hefyd ddiolch yn arbennig i Luke Bailey a gasglodd nifer o gyfweliadau pwysig ar ffurf podcast a oedd yn gyfraniad amhrisiadwy at y gwaith ymchwil.

Bues i'n tyrchu trwy nifer o archifau hefyd yn chwilio am straeon a gwybodaeth. Papurau newydd, llyfrgelloedd a'r BBC yn arbennig. Roeddwn i'n gwybod am nifer o fideos ac erthyglau ond roedden nhw'n amhosib i'w ffeindio. Treuliais oriau'n pori trwy wefannau ac erthyglau ar y we, a dwi'n ddiolchgar i Dr Kieran Nolan, sylfaenydd irishhiphop.com am ddod o hyd i rai o dudalennau archif fy hen wefan, welshhiphop.com o'r flwyddyn 2000. Ffeindiais i rai lluniau anhygoel, ond roedd blynyddoedd o'u rhannu ar y we wedi effeithio ar eu hansawdd. Bues i'n hela sgwarnog sawl tro, wrth i fi geisio cael fy nwylo ar y fersiynau gwreiddiol, ond roeddwn i'n darganfod mwy o leisiau a mwy o straeon. Ac yn anochel, arweiniodd hyn at ganfod rhagor o luniau a rhagor o wrthrychau i ni eu rhannu â chi. Bues i'n ceisio cysylltu â rhai pobl am flynyddoedd ar y cyfryngau cymdeithasol cyn i ni siarad wyneb yn wyneb. Roedd yn cymryd amser i ni feithrin perthynas ac ymddiriedaeth fel bo nhw'n hapus i ddatgloi eu hatgofion â rhoi benthyg rhai o'r gwrthrychau roedden nhw'n eu trysori fwyaf i ni. Dwi'n dal i deimlo pwysau'r cyfrifoldeb mawr yma dros bopeth sydd yn yr arddangosfa.

Dechreuais i dynnu themâu allan o'r cyfweliadau a'r sgyrsiau. Y mwyaf cyffredin oedd cymuned a chystadleuaeth. Nid oedd y themâu hynny'n rhan o brofiad pawb, ond roedden nhw'n ddigon cyffredin fel eu bod yn dechrau troi'n naratif ar gyfer yr arddangosfa. Mae camsyniad cyffredin wedi bod mai creu cofnod o hanes Hip Hop yng Nghymru ydyn ni. Efallai bod hyn yn digwydd am fod pobl yn gweld amgueddfeydd fel lle i rannu hanes, ac mai’n bosibl mae dyna ran o'u swyddogaeth. Doedd nifer o bobl ddim eisiau cymryd rhan am yr union reswm yna ar y cychwyn, am nad oedden nhw'n barod i gael eu gwthio i'r gorffennol. Yn sicr, nid dyna bwrpas yr arddangosfa hon, ac nid dyna sut dwi'n gweld amgueddfeydd chwaith. I fi, mae amgueddfeydd yn ein helpu i archwilio ein hunaniaeth, yn enwedig ein cenedligrwydd. Yn Oes Fictoria ac Edward, mae'n debyg bod hyn yn fwy penodedig, ond nawr mae'n sgwrs sy'n esblygu bob dydd a dwi mor falch bod Hip Hop yn rhan o'r sgwrs yna o'r diwedd.

Ond, wedi dweud hynny, dim ond crafu'r wyneb ydyn ni wedi gallu ei wneud. Byddai angen adeilad cyfan a mwy er mwyn creu hanes cyflawn o Hip Hop yng Nghymru. Fe glywais i bodcast gan Neil deGrasse Tyson oedd yn disgrifio nod amgueddfa fel ‘ysbrydoli pobl i ddysgu mwy’ a dwi'n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i wneud hyn i chi. Byddwn ni'n dal i roi mwy o wybodaeth a chyd-destun yn y blog yma dros y misoedd nesaf.

Roeddwn i'n meddwl bo fi'n gwybod am Hip Hop yng Nghymru pan ddechreuais i'r project yma ond dwi wedi dysgu cymaint ar hyd y ffordd. Mae ein hanes Hip Hop ni mor gyfoethog, ac mae dylanwad y diwylliant i'w weld ym mhob man os edrychwch chi'n ddigon agos. Dwi'n gwybod fod pobl yn nerfus am y ffordd y bydd Hip Hop yn cael ei gynrychioli. Wir i chi, does neb yn fwy nerfus na fi am gael hynna'n gywir. Dwi mor ddiolchgar am y tîm anhygoel sydd wedi tynnu popeth at ei gilydd – fydden i byth wedi dyfalu bod cymaint o waith yn mynd i mewn i arddangosfa mewn amgueddfa cyn cychwyn ar hon. 

Roedden ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr arddangosfa mor hygyrch â phosibl i gynifer o bobl â phosibl, ac roedd rhaid iddo fod yn hanesyddol ac yn academaidd gywir hefyd. Roedd hyn yn golygu treulio oriau o fy amser fy hun yn gwneud fy ngwaith cartref ar Hip Hop a dadbacio'r chwedlau niferus sy'n sail iddo. Llyfrau, papurau academaidd, cyfweliadau, rhaglenni dogfen, erthyglau. Mae'n anodd craffu ar rywbeth rydych chi'n ei garu cymaint ond ymchwil gefndirol oedd hwn i raddau helaeth. Yng Nghymru rydyn ni wedi addasu a cherfio ein pennod ein hunain yn hanes Hip Hop. Rydyn ni'n adleisio'r llinynnau ehangach yn y stori – brwydro, derbyn, hunanfynegiant, cystadleuaeth iach a throsglwyddo'r fflam i'r cenedlaethau ddaw ar ein hôl. Mae yna lawer o straeon sy'n werth eu hadrodd, ac rydym wedi tynnu sylw at rai i greu Hip Hop: Stori Cymru. Rydyn ni wir yn gobeithio y byddwch yn galw i weld yr arddangosfa ac yn gadael wedi'ch ysbrydoli, fel yr oedden ninnau wrth weithio arni.