: Y Cofnod Ffosiliau

Arthur yr Arthropleura

Lucy McCobb, 23 Mawrth 2022

Pwy yw Arthur yr Arthropleura?

Model yw Arthur o’r infertebrat mwyaf i fyw ar y tir erioed, creadur tebyg i filtroed o’r enw Arthropleura.

O ble y daeth Arthur yr Arthropleura?

Arddangoswyd y model yn wreiddiol yn Nhŷ Esblygiad Gerddi Kew ond pan gafodd y gofod ei glirio i baratoi ar gyfer adfer y Tŷ Tymherus, dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, nid oedd ei angen mwyach ac, yn garedig iawn, cafodd ei roi gan Kew i Amgueddfa Cymru.

Roedd angen gwaith cadwraeth sylweddol ar y model Arthropleura pan gyrhaeddodd Amgueddfa Cymru. Yn dilyn blynyddoedd lawer mewn arddangosfa agored mewn tŷ gwydr, ochr yn ochr â phlanhigion byw, roedd wedi dioddef difrod a rhwd. Roedd lleithder y gofod arddangos wedi peri i’r paent arwynebol blicio, ac roedd sawl corryn a malwen wedi ymgartrefu ar ochr isaf y model!

Arthur yr Arthropleura cyn cwblhau'r gwaith cadwraeth

Arthur yr Arthropleura cyn cwblhau'r gwaith cadwraeth

Arthur yr Arthropleura yn cael bath

Arthur yr Arthropleura yn cael bath

-->

Y dasg gyntaf oedd golchi’r model yn dda gyda dŵr poeth a sebon i gael gwared ar y baw a’r gwe corryn! Yna cafodd yr holl baent rhydd ei sgwrio, defnyddiwyd pwti epocsi i ailffurfio’r rhannau a oedd wedi’u difrodi ar y coesau a’r pen, ac atgynhyrchwyd y gweadau arwynebol. Roedd y nytiau a’r bolltau a oedd yn cysylltu’r teimlyddion wedi rhydu, felly gosodwyd ffyn dur di-staen newydd yn lle’r hen rannau metel.

Arthur yr Arthropleura ar ôl y gwaith atgyweirio

Arthur yr Arthropleura ar ôl y gwaith atgyweirio

Arthur yr Arthropleura yn ymweld a galeri Celf argraffidaol

Arthur yr Arthropleura yn ymweld a galeri Celf Argraffidaol

-->

Wedi cwblhau’r gwaith atgyweirio, cafodd y model ei baentio’n ofalus gyda phaent acrylig ac yna’i orchuddio mewn farnais gwydn, nes ei fod yn addas i’w arddangos yn gyhoeddus unwaith eto.

Arthur yr Arthropleura drws nesaf i Lwynog

Arthur yr Arthropleura wrth ymyl Llwynog er mwyn cymharu maint

ffosil o greadur cyntefig tebyg i gorryn (Maiocercus celticus)

ffosil o greadur cyntefig tebyg i gorryn (Maiocercus celticus)

-->

Pwy roddodd yr enw Arthur i’r Arthropleura?

Roedd rhai o staff yn adran y Gwyddorau Naturiol wedi closio at y model trawiadol 1.5m o hyd wrth i’r gwaith cadwraeth fynd rhagddo yn y labordy, ac wedi’i enwi’n Arthur yr Arthropleura! Rydyn ni hefyd wedi cael hwyl gydag Arthur; mae wedi “dianc” ac wedi bod yn byw yn rhydd o amgylch orielau’r amgueddfa! Dangoswyd lluniau o’i anturiaethau ar @CardiffCurator, cyfrif Twitter adran y Gwyddorau Naturiol ac roedd yr ymateb gan ddilynwyr y cyfrif yn wych. Mae Arthur yr Arthropleura bellach yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n ychwanegiad gwych iawn i’n casgliadau!

Arthur yr Arthropleura yn un o'i gynefinoedd naturiol

Arthur yn un o’i gynefinoedd naturiol, y gors lo yn ein horiel Esblygiad Cymru

Sut olwg oedd ar Arthropleura?

Roedd Arthropleura yn edrych yn debyg iawn i filtroediaid heddiw. Roedd ganddo gorff hir, cul yn cynnwys llawer o gylchrannau, gyda phlatiau caled yn gorchuddio’i gefn. O dan y corff, roedd llawer o barau o goesau cymalog, tua 8 pâr ar gyfer pob chwe chylchran, sy’n debyg i nifer y coesau sydd gan filtroediaid modern. Yn ddiweddar, mae palaeontolegwyr wedi sylweddoli mai cylchran flaen y corff, mewn gwirionedd, yw’r hyn roedden nhw’n meddwl oedd pen yr Arthropleura. Roedd y pen go iawn yn celu o dan y gylchran hon, fel sy’n digwydd gyda miltroediaid cyfoes hefyd. Felly mae ein model ni o Arthur wedi dyddio ychydig, ac ni ddylai fod yn edrych yn syth ymlaen cymaint ag y mae.

Pa mor fawr oedd Arthropleura?

Mae dau fath o dystiolaeth sy’n awgrymu pa mor fawr oedd Arthropleura. Canfuwyd ffosiliau o gorff y creadur, neu rannau ohono, yn yr Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc, y Weriniaeth Tsiec, a’r DU, ond maen nhw’n gymharol brin. Yn fwy cyffredin, mae ffosiliau o’r olion troed hir a adawyd gan Arthropleura wrth iddo sgrialu dros dir llaith. Mae ffosiliau o’i olion traed wedi’u canfod yn yr Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, Ffrainc a’r Alban. Mae mesur yr olion yn awgrymu lled y creaduriaid a’u gwnaeth, ac mae modd i ni ddefnyddio hynny i amcangyfrif pa mor hir oedden nhw’n debygol o fod. Mae olion niferus o faint gwahanol mewn rhai lleoedd, sy’n dangos bod Arthropleura o faint gwahanol (ac o oed gwahanol, yn ôl pob tebyg) yn symud o gwmpas yn yr ardal honno. Mae’r olion lletaf sydd wedi dod i’r fei yn 50cm o led, felly amcangyfrifir bod yr Arthropleura mwyaf wedi bod dros 2 fetr o hyd.

Ble roedd Arthropleura yn hoffi byw?

Mae ffosiliau ac olion troed Arthropleura wedi’u canfod mewn gwahanol leoliadau a fyddai wedi bod yn weddol agos at y cyhydedd 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gan gynnwys Gogledd America a’r DU heddiw. Canfuwyd llawer o’r ffosiliau cyntaf mewn siâl to sy’n gorwedd ar wythiennau glo, felly tybiwyd am hir bod y creaduriaid enfawr yn byw mewn corsydd glo llaith. Ers hynny, canfuwyd tystiolaeth o Arthropleura mewn nifer o amgylcheddau gwahanol, gan gynnwys olion traed ar hyd glannau afonydd sych. Mae’n ymddangos eu bod nhw’n teimlo’n gartrefol mewn amrywiaeth o dirweddau gyda rhywfaint o orchudd llystyfiant.

Arthur yr Arthropleura drws nesaf i Lwynog

Arthur yr Arthropleura wrth ymyl Llwynog er mwyn cymharu maint

A fyddai Arthopleura wedi fy mwyta?

Dydyn ni ddim yn gallu bod yn siŵr beth oedd Arthropleura yn hoffi ei fwyta, oherwydd does dim olion o’r geg wedi’u canfod mewn unrhyw ffosiliau. Fodd bynnag, pe bai ganddo enau caled a chryf ar gyfer brathu ysglyfaeth, mae’n debyg y byddai’r olion wedi goroesi ac wedi cael eu ffosileiddio. Efallai mai rhesymu cylchol yw hynny, ond mae rhesymau eraill pam ein bod ni’n tybio ei fod yn bwyta planhigion yn hytrach na chig. Canfuwyd ffosil Arthropleura yn yr Alban ym 1967, a oedd ag olion planhigion o’r enw cnwp-fwsoglau mawr yn agos i’r fan lle byddai ei berfedd wedi bod. Mae’n bosib bod y ffosiliau yng nghyffiniau ei gilydd drwy ddamwain, felly dydyn ni ddim yn gallu bod yn hollol siŵr mai’r planhigion oedd pryd olaf yr Arthropleura. Fodd bynnag, os oedd ei ddeiet yn debyg i ddeiet miltroediaid cyfoes, mae’n debygol y byddai wedi byw ar olion planhigion, hadau a sborau.

Gyda pha greaduriaid eraill oedd Arthropleura yn rhannu ei gartref?

Pe baech chi’n edrych ar y creaduriaid a oedd yn rhannu byd Arthropleura, byddech wedi gweld bywyd gwyllt pur wahanol i fywyd gwyllt heddiw. Doedd dim adar na mamaliaid, oherwydd nad oedden nhw wedi esblygu eto. Chwiliwch o gwmpas am y berthynas agosaf i ni, a byddech yn y pen draw yn sylwi ar amffibiad mawr, byrdew o’r enw Eryops yn cuddio yn y dŵr. Doedd anifeiliaid ag asgwrn cefn ddim wedi dechrau tra-arglwyddiaethu ar dir sych eto. Yn hytrach, pryfetach fyddai’r rhelyw o’r bywyd gwyllt o gwmpas y lle. Roedd chwilod du mawr (hyd at 9cm o hyd) yn crwydro ar hyd y lle, a chreaduriaid tebyg i gorynod a fyddai’n llenwi cledr eich llaw. Doedd y rhain ddim yn union fel corynod cyfoes – rhannwyd eu cyrff tew yn gylchrannau yn hytrach nag un darn crwn, a doedden nhw ddim eto wedi esblygu’r gallu i nyddu gwe – ond roedden nhw ar eu ffordd i fod yr arachnidau sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Byddai’r awyrgylch yn drwm o hymian eglur rhai o’r creaduriaid mwyaf anhygoel o gwmpas – pryfed enfawr tebyg i was y neidr o’r enw pryfed griffon, gyda lled esgyll o fwy na 70cm. Roedd pryfed griffon ymhlith ysglyfaethwyr pennaf yr oes, ac ymhlith y creaduriaid cyntaf erioed ar y Ddaear erioed i hedfan, tua 150 miliwn o flynyddoedd cyn i’r adar cyntaf wneud hynny. Bu’n rhaid i’n perthynas pell, yr amffibiad Eryops, rannu ei gartref gydag arthropodau hyd yn oed; marchgrancod a oedd hefyd yn hoffi rhannu eu hamser rhwng tir sych a dŵr.

ffosil o greadur cyntefig tebyg i gorryn (Maiocercus celticus)

ffosil o greadur cyntefig tebyg i gorryn (Maiocercus celticus)

Pam nad oes infertebratau mor enfawr i’w gweld ar y tir heddiw?

Heb unrhyw amheuaeth, y Cyfnod Carbonifferaidd, tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, oedd oes aur yr infertebratau enfawr. Bryd hynny, roedd chwilod du mawr, arachnidau a phryfed tebyg i was y neidr yn rhannu’r byd gyda’r Arthopleura enfawr, y pryfyn mwyaf i fyw ar y tir erioed. Sut oedd hynny’n bosibl, a pham nad ydyn ni’n gweld infertebratau mor fawr ag Arthur heddiw?

Mae’r atmosffer heddiw’n cynnwys tua 21% o ocsigen. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod lefelau ocsigen tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn agos at 35%. Byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i faint o ynni y gallai pryfed ac arthropodau eraill ei gynhyrchu. Yn wahanol i ni, does gan bryfed a miltroediaid ddim ysgyfaint i anadlu aer. Yn hytrach, mae tiwbiau bychan o’r enw sbiraglau yn gwau drwy eu sgerbydau allanol. Mae ocsigen yn ymledu drwy’r tiwbiau o’r tu allan i geudod llawn gwaed, ac o’r fan honno’n cael ei ddosbarthu o amgylch corff y creadur, gan roi’r egni iddo wneud popeth y mae’n ei wneud. Byddai mwy o ocsigen ar gael yn golygu ffynhonnell fwy o egni, gan alluogi pryfetach i dyfu’n fwy – a hynny yn ei dro yn hynod o bwysig o ran cynhyrchu digon o ynni i bryfed hedegog mawr allu codi i’r awyr. Fyddai’r fath gewri byth yn gallu hedfan o dan amodau atmosfferig heddiw.

Arthur yr Arthropleura yn un o'i gynefinoedd naturiol

Arthur yn un o’i gynefinoedd naturiol, y gors lo yn ein horiel Esblygiad Cymru

Tu hwnt i lefelau ocsigen, mae cyfyngiadau mecanyddol ynghlwm wrth sgerbwd allanol hefyd, sy’n ei gwneud yn annhebygol y gallai infertebratau mor fawr fodoli heddiw. Er mwyn tyfu, mae angen i bob arthropod waredu’r hen sgerbwd allanol a thyfu un newydd mwy o faint. Ar ôl gwaredu’r hen sgerbwd allanol, mae’r un newydd yn feddal am gyfnod, ac mae’n rhaid i’r arthropod aros iddo galedu cyn parhau â’i fywyd arferol. Mae hwn yn gyfnod peryglus o ran bygythiad gan ysglyfaethwyr, ond mae hefyd yn gosod terfyn ar faint y creadur – os yw’r sgerbwd allanol yn mynd yn rhy fawr a thrwm, mae’n creu perygl y bydd yn cwympo o dan ei bwysau ei hun. Dyna un rheswm pam mae’r arthropodau mwyaf heddiw yn byw yn y cefnfor, lle mae’r dŵr yn helpu i gynnal eu pwysau. Mae terfyn hefyd ar ba mor fawr y gall pryfetach dyfu. Po fwyaf y byddan nhw’n tyfu, y mwyaf trwchus fydd y bilen o’u hamgylch. Pan mae’r bilen yn cyrraedd rhyw drwch penodol, does dim lle’r tu mewn iddi i’r cyhyrau sydd eu hangen i’r coesau allu gweithio.

Ffactor arall a fyddai wedi caniatáu i Arthur a’i debyg dyfu mor enfawr oedd diffyg fertebratiaid ysglyfaethus mawr. Am resymau amrywiol felly, dydy hi ddim yn bosib i bryfetach mor fawr fodoli heddiw.

Lucy McCobb, Caroline Buttler ac Annette Townsend

Geirfa:

Arthropod – anifail di-asgwrn-cefn gyda sgerbwd allanol a choesau cymalog.

Infertebrat – anifail di-asgwrn-cefn.

Sgerbwd allanol – croen allanol caled, sy’n rhoi cymorth ac amddiffyniad i greaduriaid heb sgerbwd mewnol.

William Smith a chychwyn y Map Daearegol

Tom Sharpe (Amgueddfa Lyme Regis a Phrifysgol Caerdydd, a chyn Guradur Palaeontoleg ac Archifau Amgueddfa Cymru), 30 Tachwedd 2015

I’r daearegwr, mae mapiau daearegol yn offer hanfodol. Maent yn dangos sut mae gwahanol fathau o greigiau’n cael eu dosbarthu ac i ba oes y maent yn perthyn. Dyma’r cam cyntaf wrth geisio deall daeareg lle, a’r allwedd wrth chwilio am ddeunyddiau crai. Heddiw, mae Prydain gyfan wedi’i mapio, yn bennaf drwy waith yr asiantaeth swyddogol, Arolwg Daearegol Prydain. Serch hynny, ddau gan mlynedd yn ôl, roedd daeareg yn wyddor newydd a’r Arolwg heb ei sefydlu. Roedd y chwyldro diwydiannol ar ei anterth a galw aruthrol am haearn, calchfaen a glo. Yna, byddai arolygwyr tir yn crwydro o le i le gan fanteisio ar drachwant ac anwybodaeth tirfeddianwyr, a oedd, wrth gwrs, yn awyddus i glywed bod glo ar eu tiroedd. Byddai’r arolygwyr yn eu perswadio i dalu am archwiliadau mewn mannau lle nad oedd unrhyw debygrwydd o ddod o hyd i lo.

Deallodd William Smith, arolygwr tir o Swydd Rhydychen, y byddai map yn dangos ble roedd gwahanol haenau o greigiau - y strata - yn dod i’r wyneb yn ddefnyddiol i dirfeddianwyr ac arolygwyr tir fel ei gilydd, nid dim ond er mwyn dangos lleoliad y glo, ond hefyd at ddibenion amaethyddiaeth, gan y byddai’n dangos y gwahanol greigiau ac yn sgil hynny, y gwahanol fathau o briddoedd. Bu wrthi’n ddyfal am oddeutu 15 mlynedd yn cwblhau’r gwaith.

Ganwyd Smith ar 23 Mawrth 1769 ym mhentref Churchill, yn ardal y Cotswolds, yn fab i’r gof lleol. Ni chafodd lawer o addysg ond yn ddeunaw oed cafodd brentisiaeth gan gwmni syrfewyr Edward Webb yn Stow-on-the-Wold. Roedd ganddo ddawn naturiol wrth fesur tir a thrin ffigurau a llygad dda wrth archwilio tirweddau. Ym 1791, anfonwyd Smith i archwilio a phrisio gweithfeydd glo ym meysydd glo Gwlad yr Haf i’r De o Gaerfaddon, ac ymhen dwy flynedd fe’i penodwyd i dirfesur y llwybr ar gyfer camlas newydd i gludo’r glo o’r gweithfeydd.

Darganfyddiadau

Yn ystod y chwe blynedd y bu Smith yn gweithio ar y Gamlas Lo yng Ngwlad yr Haf, darganfu ddwy ffaith sylfaenol. Wrth gloddio’r gamlas, roedd yn fforchio ac yn dilyn dau drywydd gwahanol ar hyd dau gwm cyfochrog. Gwelodd Smith fod yr haenau o greigiau yn dilyn yr un drefn yn y ddau gwm, a bod yr haenau o greigiau’n gogwyddo tuag at y de-ddwyrain bob tro. Wrth deithio’r wlad i archwilio camlesi eraill, sylweddolodd Smith fod strata de Lloegr bob amser yn dilyn trefn benodol a’u bod i gyd yn gogwyddo i’r un cyfeiriad. Darganfu hefyd fod gan bob strata o greigiau eu cyfres benodol o ffosilau hefyd; felly, o ganlyniad, gallai ddefnyddio’r ffosilau i ganfod ble’r oedd haen o graig yn gorwedd o fewn dilyniant strata penodol.

Sylweddolodd Smith ar unwaith y gallai ddefnyddio’r darganfyddiadau hyn at ddibenion ymarferol. Mae haenau glo yn digwydd yn yr un lle â haenau o gerrig llaid llwyd, ond mae’r creigiau hyn i’w gweld mewn llawer o fannau yn y dilyniant strata, ymhell o dan ac uwchben yr haenau glo. Trwy ddefnyddio ffosilau, gallai Smith bennu pa gerrig llaid llwyd oedd yn rhan o’r gwythiennau glo, ac oherwydd ei wybodaeth am y dilyniant strata gallai Smith lunio map yn dangos lleoliad y gwahanol greigiau ar yr wyneb a ble gellid dod o hyd i’r glo.

Pan eglurodd Smith ei waith i’w gyfeillion Joseph Townsend a Benjamin Richardson yng Nghaerfaddon ar 11 Mehefin 1799, mynnodd y ddau y dylai gyhoeddi ei ddarganfyddiadau er mwyn cael ei gydnabod amdanynt ac o bosibl ei wobrwyo. Y noson honno, aeth ati i arddweud trefn y strata wrth ei gyfeillion ac yn fuan roedd rhestrau mewn llawysgrifen o’r dilyniant o greigiau o’r glo i fyny at y calchfaen ar gael yn eang. Yn fuan wedyn, lluniodd Smith fap yn dangos y creigiau yn ardal Caerfaddon a map bychan yn dangos rhai o’r brigiadau creigiau ar draws Lloegr. Ym 1801 cyhoeddodd brosbectws o’r gwaith mawr roedd yn bwriadu ei lunio ar y strata yng Nghymru a Lloegr.

Yn ystod y pymtheng mlynedd nesaf, teithiodd Smith i bob cwr o’r wlad, gan weithio ar gomisiynau fel arolygwr tir a draenio tir. Wrth deithio, byddai’n nodi’r tirweddau a’r creigiau ac o dipyn i beth yn casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn llunio’i fap.

Cyhoeddu'r Map

O’r diwedd, cyhoeddwyd y map ddiwedd 1815 gan John Cary, un o’r prif wneuthurwyr mapiau yn Llundain. Yn ddi-os, roedd y gwaith A Delineation of the Strata of England and Wales, with part of Scotland yn gampwaith. Graddfa’r map oedd pum milltir i’r fodfedd, felly roedd yn enfawr, dros wyth troedfedd o hyd a chwe throedfedd o led. Roedd wedi’i liwio â llaw (proses ddrud iawn). Ei bris oedd 5 gini am fap ar bymtheng dalen, yn ogystal â mynegfap a Memoir ategol. Ond er bod Memoir Smith yn rhestru bod mwy na 400 wedi tanysgrifio i’w fap, nid oedd llawer wedi talu amdano ymlaen llaw. Hefyd, gan fod cymaint o amser wedi mynd heibio cyn cwblhau’r map, roedd rhai o’r tanysgrifwyr wedi marw erbyn i’r gwaith gael ei gyhoeddi. Ni allwn fod yn sicr, ond credir mai dim ond tua 350 o fapiau gafodd eu gwerthu.

Yn ystod blynyddoedd cynhyrchu’r map, roedd Smith yn parhau i’w newid wrth i wybodaeth newydd am ddosbarthiad strata ddod i law. Rydym yn gwybod am o leiaf bum gwahanol rifyn o’r map.

Ymhen pum mlynedd, cafodd map Smith ei ddisodli gan fap a oedd i raddau yn fwy manwl, ac a luniwyd ar y cyd gan aelodau Cymdeithas Ddaearegol Llundain dan oruchwyliaeth y Llywydd cyntaf, George Bellas Greenough. Ugain mlynedd ar ôl cyhoeddi map cyntaf Smith, daeth mapio daearegol manwl yn rhan o gylch gwaith asiantaeth newydd a ariannwyd gan y llywodraeth, sef Arolwg Daearegol Prydain.

Serch hynny, mae map lliwgar a chain Smith yn parhau yn eicon ym maes daeareg ac yn ôl y farn, dyma’r gwir fap daearegol cyntaf o unrhyw wlad yn y byd. Mae’n hynod hefyd oherwydd mai gwaith un dyn ydyw, a aeth ati ar ei ben ei hun i fapio dros 175,000 cilomedr sgwâr o Brydain.

Heddiw, mae cryn alw amdano ymhlith casglwyr mapiau ac mae’r pris amdano’n uchel hefyd. Mae un ar werth yn Llundain ar hyn o bryd am dros £90,000. Mae ymchwil ar waith i nifer y copïau sy’n dal i fodoli, sy’n debygol o fod oddeutu 150. Mae adran ddaeareg Amgueddfa Cymru mewn sefyllfa unigryw gan fod ganddi naw copi cyflawn a rhannol o’r map, sy’n fwy nag unrhyw sefydliad yn y byd, diolch i weledigaeth ein swyddogion cyntaf, Frederick J. North, Douglas A. Bassett a Michael G. Bassett. Llwyddodd North yn arbennig i sefydlu casgliad o fapiau ac archifau yn yr adran ddaeareg sydd gyda’r gorau yn y wlad, ac mae ei ddilynwyr wedi datblygu’r casgliad ymhellach. Amgueddfa Cymru yw’r unig le yn y byd lle gellir archwilio bron pob un o’r gwahanol rifynnau o’r map ochr yn ochr.

Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl yn Earth Heritage.

Teipffosilau Amgueddfa Ar-Lein

Caroline Buttler, 8 Ebrill 2014

<em>Anthracoceras cambriense</em> Bisat, 1930
Anthracoceras cambriense

Bisat, 1930

<em>Bumastus? xestos</em> Lane & Thomas, 1978
Bumastus? xestos

Lane & Thomas, 1978

<em>Metacoceras postcostatum</em> Bisat, 1930
Metacoceras postcostatum

Bisat, 1930

<em>Archimylacris scalaris</em> Bolton, 1930
Archimylacris scalaris

Bolton, 1930

Pan fydd rhywogaeth newydd yn cael ei disgrifio caiff un ‘teip’ sbesimen ei  bennu, a’i gadw mewn sefydliad cydnabyddedig lle gall unrhyw un ei astudio.  Mae teipsbesimenau yn adnoddau hanfodol i dacsonomegwyr – i ddisgrifio rhywogaethau sy’n bodoli eisoes ac i adnabod rhywogaethau newydd. Heb depisbesimenau, byddai’n anodd cadw cofnod cywir o rywogaeth, a gallai newid yn y dacsonomeg dros amser olygu na fyddai dehongliadau yn y dyfodol yn cyfateb o gwbl i’r dehongliad gwreiddiol.

GB3D Teipffosilau

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn cydweithio ag Arolwg Daearegol Prydain a sefydliadau eraill yn y DU i gynhyrchu’r casgliad 3D rhithwir cyntaf o deipsbesimenau ffosil Prydain, a hynny dan nawdd JISC. Gall defnyddwyr bellach lawrlwytho a chwilio drwy filoedd o ddelweddau safon uchel (nifer ohonynt yn anaglyffau 3D) a modelau ffosil 3D digidol, a hynny am ddim. Mae’r project GB3D Type Fossils Online wedi agor drysau’r casgliadau er mwyn galluogi academyddion, ymchwilwyr a phobl â diddordeb mewn ffosilau i’w hastudio yn eu hamser eu hunain.

Cyfran fechan yw ein casgliad o dros 2000 o deipsbesimenau ffosil Prydeinig o’n casgliad llawn o sbesimenau o Gymru a gweddill y byd. Bydd ymchwilwyr o Gymru, y Deyrnas Unedig a gweddill y byd yn defnyddio’r casgliadau yn eu hymchwil tacsonomaidd. Mae palaeontolegwyr yr Amgueddfa wedi enwi nifer o rywogaethau ffosil newydd a rhai ffosilau wedi cael eu henwi ar eu hôl ac mae’n hanfodol iddyn nhw, ac i bob tacsonomegydd, gael mynediad i’r teipsbesimenau.  Wrth geisio cadarnhau rhywogaeth newydd posibl, yr cam delfrydol yw archwilio teipsbesimenau rhywogaethau tebyg. Nid yw hyn yn bosibl bob tro, gyda costau teithio yn un rheswm amlwg.

Pan fydd rhywogaeth newydd yn cael ei gynnig, caiff ei ddisgrifio mewn cyfnodolyn gwyddonol a tynnir ffotograff o’r teipsbesimen. Yn anffodus, nid oes ffotograff o bob teipsbesimen mewn cyhoeddiadau hŷn, neu gall y lluniau fod o safon isel gan ei gwneud yn anodd i weld nodweddion penodol y sbesimen. Bydd yr adnodd digidol newydd felly’n amhrisiadwy – lluniau cydraniad uchel 2D a 3D o’r casgliad teipsmesimenau Prydeinig yn ogystal â modelau 3D. Bydd y wefan yn rhad ac am ddim ac yn rhoi mynediad i’n casgliadau i bobl o bedwar ban byd.

Ewch i'r wefan yma.

Wedi dal mewn Eiliad

Trevor Bailey, 26 Chwefror 2014

Gwybedyn y Madarch (Sciaridae)

Gwybedyn y Madarch (Sciaridae)

Gallech chi gredu taw dim ond ddoe y bu’r anifeiliaid bychan yma farw, ond mewn gwirionedd, mae nhw tua 50 miliwn o flynyddoedd oed.

Mae un o’n myfyrwyr profiad gwaith wedi bod yn defnyddio meddalwedd newydd i greu delweddau o’r casgliad ambr i’w rhannu â chi. Dyma hi’n defnyddio microsgop i dynnu lluniau o wahanol ddyfnderoedd mewn sampl ambr, cyn cyfuno’r darnau o bob llun oedd mewn ffocws i greu un delwedd glir.

Drws i fyd hynafol

Bu farw’r anifeiliaid yma ar ôl cael eu dal yn y resin meddal gludiog y bydd coed pinwydd yn ei gynhyrchu i’w gwarchod rhag haint. Pan fu farw’r coed, cafodd y resin ei gladdu danddaear mewn haenau o lystyfiant a gwaddod – a trodd gwasgedd a gwres y resin yn ambr caled.

O gyffiniau Môr y Baltig y daw’r rhan fwyaf o’n casgliad ambr ac mae’r anifeiliaid yn cynnwys morgrug, pryfed glas, chwilod, pryfed, gwybed mân, medelwyr, gwyfynod, mwydod nematod, corynnod a chacwn. Roedd y creaduriaid yma yn byw o leiaf 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn fforestydd y cyfnod Eocenaidd. Roedd hwn yn gyfnod o hinsawdd ‘tŷ gwydr’ llawer cynhesach na heddiw o ganlyniad i lefelau carbon deuocsid uwch yn yr atmosffer.

Yn y casgliad hefyd mae cacynen mewn ambr o waddodion y cyfnod Cretasig yn New Jersey, UDA – felly roedd yn fyw yr un oes â’r deinosoriaid!

Gofalu am ambr

Rydyn ni’n cadw’r casgliad ambr mewn cynhwysyddion aerdyn mewn ystafell lle gall y tymheredd a’r anwedd dŵr (lleithder) gael eu rheoli. Os yw ambr yn symyd yn rhy sydyn rhwng atmosffer rhy sych i un rhy llaith, gall holltau bach agor, gan gau’r drysau hyn ar y gorffennol.

Rhyfeddod Euraidd! Trilobit ffosil prin wedi'i gadw'n berffaith.

Lucy McCobb, 2 Awst 2013

Mae sbesimen <em>Triarthrus eatoni</em> bach yn gorwedd ger yr un mwyaf. Roedd trilobitau o wahanol oed yn cael eu ffosileiddio gyda'i gilydd ac mae'n rhaid eu bod yn byw yn yr un lle. Dim ond larfau sydd ar goll.

Mae sbesimen Triarthrus eatoni bach yn gorwedd ger yr un mwyaf. Roedd trilobitau o wahanol oed yn cael eu ffosileiddio gyda'i gilydd ac mae'n rhaid eu bod yn byw yn yr un lle. Dim ond larfau sydd ar goll.

Mae trilobitau'n gyffredin mewn creigiau yng Nghymru, ond mae'r sbesimen prin hwn yn wahanol i eraill yn ein casgliad. Mae'r coesau wedi'u cadw o dan yr argragen a phâr o gyrn main ('teimlyddion') ar y pen. Mae'r nodweddion lliw aur hyn yn gwbl glir yn erbyn cefndir siâl du. Mae ffosilau eithriadol fel hyn yn rhoi blas gwirioneddol i ni ar y ffordd yr oedd trilobitau'n symud, yn bwydo ac yn synhwyro'r byd o'u cwmpas.

Roedd gan bob trilobit goesau a chyrn pan yn fyw, ond roedd y rhain yn gymharol feddal ac yn pydru fel arfer cyn iddynt ffosileiddio. Dim ond rhannau o sgerbwd allanol neu argragen yw'r rhan fwyaf o ffosilau trilobit ac nid ydynt yn dweud llawer wrthym am rannau mwy meddal y corff.

Pam mae'r trilobit yn euraidd?

Mae'r lliw euraidd oherwydd bod yr anifail wedi'i ffosileiddio mewn pyrit, sydd hefyd yn cael ei alw'n byrit haearn, neu Aur Ffyliaid. Peth prin iawn yw gweld rhannau corff meddal wedi'u ffosileiddio, a dim ond mewn un neu ddau o lefydd yn y byd y gwelir hyn. Daw'r ffosil hwn o greigiau o'r cyfnod Ordoficaidd (tua 455 miliwn o flynyddoedd yn ôl) o Dalaith Efrog Newydd yn UDA. Mae ffosilau corff meddal mewn pyrit i'w gweld hefyd yn llechen llawer ifancach Hunsrück yn yr Almaen – o'r cyfnod Defonaidd cynnar (tua 390 miliwn o flynyddoedd yn ôl).

Mwyn sylffad haearn (FeS2) yw pyrit, a gall ffurfio mewn lefelau ocsigen isel lle ceir llawer o haearn. Mae'n debyg bod y trilobitau wedi'u hysgubo gan dirlithrad dan y dŵr a'u claddu mewn mwd yn nyfnderoedd y môr.

Byddai'r mwd wedi bod yn llawn sylffadau a haearn toddedig, ond heb fawr ddim ocsigen. Byddai bacteria lleihau sylffad wedi helpu i bydru'r trilobitau, gan ryddhau sylffidau. Cyfunodd y sylffidau gyda'r haearn toddedig i ffurfio pyrit, a ddisodlodd neu a orchuddiodd feinweoedd y trilobitau wrth iddynt bydru.

Ffosil euraidd yr Amgueddfa o Chwarel Martin, Talaith Efrog Newydd. Mae'r trilobit mwyaf tua 3cm o hyd

Ffosil euraidd yr Amgueddfa o Chwarel Martin, Talaith Efrog Newydd. Mae'r trilobit mwyaf tua 3cm o hyd

Gwely Trilobit Beecher

Rydym yn gwybod am drilobitau pyritig o Wely Trilobit enwog Beecher yn Nhalaith Efrog Newydd ers canrif a mwy. Darganfuwyd y gwely gan y casglwr ffosilau amatur William S. Valiant ym 1892, ond mae wedi'i enwi ar ôl Charles Emerson Beecher, academydd o Brifysgol Yale a welodd ganfyddiadau trilobit anhygoel Valiant. Prydlesodd Beecher y tir rhwng 1893 ac 1895, a chloddiodd am gymaint o ffosilau ag y gallai, tan iddo gredu nad oedd unrhyw beth arall ar ôl i'w ganfod. Ysgrifennodd sawl papur gwyddonol am y trilobitau cyn iddo'n farw'n sydyn ym 1904. Canfuwyd y trilobitau mewn un haen denau (4cm) o graig, a osodwyd yn ei lle tua 455 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod y cyfnod Ordoficaidd.

Adluniad C. E. Beecher o <em>Triarthrus eatoni</em> ym 1893 yn seiliedig ar ffosilau o'i Wely Trilobit

Adluniad C. E. Beecher o Triarthrus eatoni ym 1893 yn seiliedig ar ffosilau o'i Wely Trilobit. Mae dwy gangen i'r coesau, coes gerdded fewnol a thagell allanol gyda ffilamentau mân

Cafodd y Gwely Trilobit ei ailddarganfod ym 1984 ac ers hynny, mae mwy o welyâu yn cynnwys trilobitau euraidd wedi'u canfod yn Nhalaith Efrog Newydd. Yn 2004, dechreuodd casglwr amatur chwilio tua 50 milltir i ffwrdd, cyn dod o hyd i haen o graig o'r un cyfnod yn cynnwys trilobitau. Daw ein sbesimen o'r chwarel newydd hon, a elwir bellach yn Chwarel Martin ar ôl ei darganfyddwr. Mae nifer o ffosilau pwysig wedi'u canfod yn Chwarel Martin a'u hastudio gan yr Athro Derek Briggs o Amgueddfa Peabody Yale a'i gydweithwyr.

Tyfu i Fyny

Mae gan ein sbesimen (Triarthrus eatoni) ail drilobit bach iawn wrth ymyl yr un mwy. Roedd trilobitau yn tyfu o larfa i oedolyn trwy fwrw croen sawl gwaith. Wrth heneiddio, roeddynt yn cael gwared ar eu hen sgerbydau allanol yn gyson i dyfu'n fwy. Mae Triarthrus o faint amrywiol iawn wedi'u canfod yn y Gwely Trilobit, ond ni chanfuwyd dim o'i gyfnod larfal cynharaf. Roedd yn amlwg bod trilobitau o wahanol oed yn cyd-fyw, ond mae'n rhaid bod y larfau wedi byw yn rhywle arall. Efallai eu bod yn arnofio o gwmpas fel plancton yn y golofn ddŵr, tra bod rhai iau mwy ac oedolion yn byw ar wely'r môr.