Dinorwig: Cofio'r Cau 22 Awst 2009 Cofio'r Cau Chwarel Dinorwig. Gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol defnyddiwyd llechi i doi ffatrïoedd a thai drwy Brydain ac Ewrop, yn ogystal â threfi yng ngogledd America a rhannau eraill o'r byd. Ar 22ain Awst 1969 daeth distawrwydd i Chwarel Dinorwig. Wedi bron 200 mlynedd o lafur caled, caewyd y chwarel ac anfonwyd y chwarelwyr adref am y tro olaf. Collodd 350 o ddynion eu gwaith, ac yn sgil hyn newidiodd cymuned chwarelyddol a ffordd o fyw a oedd wedi bodoli ers y 1780au am byth. Roedd pawb yn yr ardal wedi byw yng nghysgod Chwarel Dinorwig ar hyd eu hoes. Roedd gan bawb dad, daid, ŵr, ewythr neu frawd oedd wedi gweithio yno. Ganrif ynghynt, byddai cau'r chwarel yn anodd ei dychmygu. Roedd Chwarel Dinorwig yn un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd — a, gyda Chwarel y Penrhyn ym Methesda, gallai gynhyrchu mwy o lechi toi mewn blwyddyn na'r holl chwareli llechi eraill yn y byd gyda'i gilydd. Y Chwarelwr Darn yw hwn o'r ffilm sain gyntaf yn y Gymraeg, sef Y Chwarelwr, a wnaed ym 1935. 'Does dim sain yn y darn hwn am mai rhannau yn unig o'r ffilm sydd wedi goroesi, ac fe recordiwyd y sain ar disgiau ar wahân i'r ffilm ei hun. © Urdd Gobaidd Cymru Pam y bu i'r chwarel gau? Grŵp o chwarelwyr Ddim dros nos ddigwyddodd y dirywiad yn Chwarel Dinorwig. Doedd pethau ddim yn dda ers rhai blynyddoedd am sawl rheswm: doedd dim cymaint o alw am lechi ym Mhrydain yn ystod yr 20fed ganrif; roedd llechi Cymru yn ddrud o'u cymharu â theils to a llechi o dramor; roedd perchenogion y chwareli yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am farchnad weddol fychan; 'doedd Chwarel Dinorwig ddim wedi ei datblygu'n effeithiol. Roedd y llechfaen oedd yn hawdd ei gyrraedd wedi ei gloddio i gyd erbyn y 60au, ac roedd rhaid gwario i ddatblygu ymhellach. 'Doedd gan perchnogion y chwarel ddim mo'r arian i wneud hynny. Un o'u camgymeriadau oedd buddsoddi'n helaeth yn Marchlyn - rhan o'r mynydd wnaeth ddim dwyn ffrwyth iddyn nhw o gwbl. Dim ond 'baw' oedd yno — dim llechi; erbyn diwedd y 1960au, roedd y chwarel yn dibynnu ar archebion o Ffrainc i oroesi. Ym mis Gorffennaf 1969, daeth yr archebion hyn i ben. Dyma'r hoelen olaf yn yr arch. Erbyn y 1960au, roedd y diwydiant llechi yn gyffredinol yn wynebu dyfodol mwy ansicr fyth. Be nesa'? Catalog ocsiwn fawr Chwarel Dinorwig. Rhagfyr 1969 Aeth nifer o'r 350 a gollodd eu gwaith i waith arall, rhai yn weddol lleol i Ferodo a Peblig ac eraill ymhellach i Ddolgarrog, Trawsfynydd a Chaergybi. Aeth rhai hyd yn oed ymhellach i chwilio am waith, i Corby, y dref ddur newydd yn Swydd Northants. Yn ystod Hydref a Rhagfyr, 1969 bu'r gwerthu mawr - gwerthu popeth oedd werth ei gario o'r chwarel ac o'r gweithdai. Yn ffodus i ni yma yn yr Amgueddfa, sicrhaodd Hugh Richard Jones, Prif Beiriannydd Chwarel Dinorwig, na chafodd popeth ei werthu. Iddo fo, ac eraill tebyg iddo, mae'r diolch na ddatgymalwyd yr Olwyn Ddŵr enfawr ac y diogelwyd y peiriannau yn y gweithdai. Dair blynedd wedi cau Chwarel Dinorwig, ym 1972, agorwyd Amgueddfa Lechi Cymru yn y Gilfach Ddu. Cyflogwyd Hugh Richard Jones fel y rheolwr cyntaf.
Cyfweliadau 'Streic!' 22 Mai 2009 Yma gallwch wrando ar gyfweliadau gyda unigolion or Amgueddfa, yn edrych nôl ar gyfnod o anghydfod a newidiodd tirwedd ddiwydiannol a chymdeithasol Cymru am byth. Jeff White - Peiriannydd Mecanyddol Paul Meredith - Peirianydd Gwarchodaeth Ceri Thompson - Curadur Peter Walker - Ceidwad Big Pit Gavin Rogers - Tywyswr Glofa
Streic! 12 Mawrth 2009 Bwrdd Glo CenedlaetholAr 1 Mawrth 1984 cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ei fod yn bwriadu cau 20 o byllau glo a cholli 20,000 o swyddi. Bu'r streic 12 mis a ddaeth yn ei sgil yn gyfrwng i newid hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol Cymru am byth."Mae glowyr de Cymru'n dweud — dy'n ni ddim yn barod i droi cefn ar ein cymunedau glofaol, dy'n ni ddim am adael i'n plant fynd i'r ciw dôl yn syth o'r ysgol — mae'n amser taro'n ôl!"Emlyn Williams, Llywydd, NUM, De CymruProtestiadau a piceduPleidleisiodd y mwyafrif o lowyr Cymru yn erbyn streic i ddechrau, ond wedyn fe fuon nhw'n flaenllaw yn y protestiadau a'r picedu. Cododd gwragedd y glowyr eu llais i gefnogi'u gwŷr gan godi arian a threfnu i ddosbarthu bwyd, ac aethant ati hefyd i gefnogi'r piced a'r gorymdeithiau.Er na ddioddefodd Cymru'r trais ar y llinellau piced a welwyd ar rai o feysydd glo eraill Prydain, collodd rhai o lowyr Cymru eu bywydau wrth bicedu a chyflawni gwaith diogelwch yn y pyllau glo a lladdwyd gyrrwr tacsi wrth gludo torrwr streic i'w waith."Bu rhaid i ni frwydro yn erbyn y gelyn allanol yn Ynysoedd y Falkland, ond rhaid i ni fod yn ymwybodol bob amser o'r gelyn mewnol, sy'n frwydr anoddach o lawer ac yn fwy o beryg i ryddid."Margaret Thatcher, Prif WeinidogCasglu hanesionRoedd da a drwg yn perthyn i'r ddwy garfan a bu ymdrech fawr i geisio casglu hanesion o'r naill ochr a'r llall. Mae'r dicter a ddaeth yn sgil y streic wedi gwneud hyn yn dasg anodd oherwydd bod rhai a fu'n cymryd rhan yn amharod i roi caniatâd i'w hanesion gael eu hadrodd.Mae hyn, a'r ffaith fod y mwyafrif o'r straeon wedi'u casglu o Gymru, lle mai dim ond canran fechan o'r gweithlu ddychwelodd i'r gwaith yn ystod y streic, yn ei gwneud yn anorfod bod un safbwynt yn ymddangos fel petai'n cael mwy o sylw. Pe byddai hanesion wedi'u casglu o fannau eraill mae'n dra phosibl y byddai'r safbwynt arall yn rhagori.Caiff hanes gwrthrychol a chytbwys streic y glowyr ei ysgrifennu rhyw ddiwrnod, ond mae'r tudalennau sy'n dilyn yn cyflwyno hanesion rhai o'r dynion a'r menywod gafodd eu heffeithio gan yr hyn a adwaenir bellach fel ... Y Streic.Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r llyfryn yma
Diwydiant, diwylliant – cyfraniad chwiorydd Gregynog i Gymru 1 Ionawr 2009 Gwendoline Davies (1882-1951)Gwen, y chwaer hynaf, a'r mwyaf penderfynol a meddylgar, a oedd hefyd yn gerddor medrus. Margaret Davies (1884-1963)Daisy, y chwaer iau, mwy ymarferol, a oedd hefyd yn arlunydd ac yn ysgythrwr rhagorol. Neuadd Gregynog David Davies (1818-1890) Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies) 'The Loan Exhibition of Paintings' a gynhaliwyd yn yr amgueddfa genedlaethol dros dro yn Neuadd Dinas Caerdydd yn 1913. Roedd dwy chwaer o'r canolbarth, o'r enw Gwendoline (1882-1951) a Margaret Davies (1884-1963), ymhlith y cyntaf ym Mhrydain i gasglu darluniau'r Argraffiadwyr a'r Ôl-Argraffiadwyr Ffrengig. Gadawodd y ddwy eu casgliadau celf rhagorol i Amgueddfa Cymru, gan drawsnewid amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru'n llwyr.Y chwiorydd Davies oedd y cyfranwyr mwyaf at gasgliadau'r Amgueddfa yn ystod ei chanrif gyntaf. Cafodd eu delfrydiaeth a'u haelioni effaith hynod ar fywyd diwylliannol a deallusol Cymru, ac rydyn ni'n dal i weld effeithiau hyn heddiw.Etifeddiaeth ddiwydiannol David DaviesRoedd Gwendoline a Margaret Davies yn wyresau i David Davies, Llandinam, un o entrepreneuriaid mwyaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeiladodd ran helaeth o system reilffyrdd y canolbarth, ac roedd yn un o arloeswyr mawr diwydiant glo'r de.Creodd David Davies ffortiwn anferth. Bu farw ym 1890, ac fe'i holynwyd gan ei fab, Edward. Yn eu tro, etifeddodd Gwendoline, Margaret a'u brawd, David, yn ddiweddarach Arglwydd Davies y Cyntaf, y stad.Magwraeth a phlentyndodGaned Gwendoline a Margaret ym 1882 a 1884, a llywiwyd eu plentyndod gan gredoau llym Methodistiaeth Galfinaidd. Cawsant eu dysgu bod dyletswydd arnynt fel Cristnogion i ddefnyddio'r cyfoeth mawr y byddent yn ei etifeddu er daioni.Ar ôl cael addysg flaengar dda, datblygodd y ddwy gariad ddofn at gelf a cherddoriaeth. Gan fod hanes celf yn ei fabandod ym Mhrydain, astudiodd y chwiorydd yn yr Almaen a'r Eidal, cyn mynd ati i ddechrau casglu gweithiau celf.Roeddent yn anghyffredin o wybodus ynglŷn â'r celfyddydau, yn enwedig o ystyried mai merched bonedd oeddent.Dechrau casglu celfDechreuodd y chwiorydd gasglu celf o ddifrif ym 1908. Ymhlith y gweithiau cyntaf a brynwyd ganddynt roedd tirluniau o waith Corot, golygfeydd gwerinol o waith Millet a'r Storm a'r Bore wedi'r Storm o waith Turner.Casglodd y ddwy bron i gant o ddarluniau a cherfluniau yn ystod eu chwe blynedd cyntaf o gasglu. Roedd eu chwaeth yn ddigon traddodiadol i gychwyn, ond ym 1912, trodd y ddwy at brynu gweithiau'r Argraffiadwyr.ArgraffiadaethAr y cyfan, roedd y gweithiau Argraffiadol yn rhatach na'r gweithiau roedden nhw wedi bod yn eu prynu gan artistiaid fel Turner a Corot.Prynodd Gwendoline ei pheintiad pwysicaf, La Parisienne, am £5,000 ym 1913.Effaith y Rhyfel MawrCafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith sylweddol ar fywydau Gwendoline a Margaret. Bu'r ddwy'n gweithio gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, ond llwyddodd y ddwy i ychwanegu at eu casgliad yn ystod y blynyddoedd hyn gan brynu gweithiau gan Daumier, Carrière, Renoir, Manet a Monet. Ym 1916 gwariodd Gwendoline Davies £2,350 ar ddeg peintiad olew a darlun o waith Augustus JohnYm 1918, prynodd Gwendoline ddau dirlun enwog o waith Cézanne, Argae François Zola a Thirlun ym Mhrofens,rhai o'i gweithiau pwysicaf a mwyaf craff.Casglu ar ôl y Rhyfel MawrYm 1920, prynodd Gwendoline rhai o'i gweithiau ceinaf efallai, sef Bywyd Llonydd â Thebot gan Cézanne am £2,000 a Glaw — Auvers gan Van Gogh am £2,020.Talodd y chwiorydd symiau mawr am weithiau'r Hen Feistri hefyd, gan gynnwys Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phomgranad o waith Botticelli.Gwelwyd lleihad sydyn yn eu gwaith casglu ar ôl hynny. Ym 1921, ysgrifennodd Gwendoline pam nad oedd modd iddynt barhau i brynu gymaint 'oherwydd yr angen dychrynllyd sydd ym mhob man'.Er hynny, fe wariodd y chwiorydd dros £2,000 ar Goleufa o waith Turner ym 1922 a £6,000 ar Ddadwisgo Crist o weithdy El Greco ym 1923. Ym 1926 rhoddodd Gwendoline y gorau i gasglu'n llwyr.Gregynog: canolfan i'r celfyddydau, cerddoriaeth a chrefftauCefnogodd y ddwy lawer o fentrau cymdeithasol, economaidd, addysgol a diwylliannol yng Nghymru yn ystod y 1920au a'r 1930au.Ym 1920 prynodd y chwiorydd Neuadd Gregynog i'w sefydlu fel canolfan i'r celfyddydau a cherddoriaeth yng Nghymru. Ym 1922, sefydlwyd Gwasg Gregynog yno lle argraffwyd rhai o lyfrau ceinaf Prydain rhwng y ddau ryfel. Roedd Gregynog yn cydategu'r Amgueddfa Gelf a Chrefft yr oedd y chwiorydd eisoes wedi helpu i'w chreu yn Aberystwyth.Cynhaliwyd Gwyliau Cerdd a Barddoniaeth poblogaidd yng Ngregynog tan ddechrau'r rhyfel ym 1939, pan drodd y chwiorydd eu sylw at ymdrech y rhyfel unwaith eto.Gregynog — diwedd cyfnodPan fu farw Gwendoline ym 1951, daliodd Margaret ati â'r gweithgareddau y gallai barhau â nhw yn ystod ei blynyddoedd olaf. Ond heb Gwendoline, y 'prif grëwr ac ysbrydolwr', ni ddaeth oes aur Gregynog fyth yn ôl. Y flwyddyn cyn ei marwolaeth, cyflwynodd Margaret y tŷ a'r gerddi i Brifysgol Cymru i'w defnyddio fel canolfan gynadledda breswyl.Troi casgliad personol yn un preifatYm mis Hydref 1951, cyhoeddodd yr Amgueddfa Genedlaethol ei bod wedi derbyn cymynrodd 'y diweddar Miss Gwendoline Davies'. Dyma un o'r rhoddion mwyaf gwerthfawr i gasgliad cyhoeddus ym Mhrydain mewn blynyddoedd diweddar.Daliodd Margaret Davies ati i gasglu gweithiau celf tan ychydig cyn ei marwolaeth ym 1963, gan ganolbwyntio'n bennaf ar waith gan artistiaid Prydeinig modern, a llawer ohonynt yn Gymry. Gadawodd ei gweithiau hithau hefyd i'r Amgueddfa, a phrynodd nifer o'r gweithiau diweddarach gyda'r Amgueddfa mewn golwg.Ym 1963, ymunodd cymynrodd Margaret o 152 o weithiau â chymynrodd ei chwaer. Gyda'i gilydd, trawsnewidiodd gweithiau'r chwiorydd ein casgliad celf cenedlaethol yn llwyr.Nodiadau ar y lluniau Jean-Baptiste Camille Corot (1796–1875), Castel Gandolfo, Bugeiliaid o’r Tyrol yn dawnsio ger Llyn Albano, olew ar gynfas, 1855–60 Disgrifiwyd y gwaith hwn fel un o gampweithiau Corot ar y pryd. Talodd Gwendoline £6,350 amdano ym 1909. Roedd Margaret wedi cofnodi gweld 'sawl darn hyfryd o waith Corot' yn y Louvre yn gynharach yn yr un flwyddyn.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2443. Jean-François Millet (1814–1875), Merch y Gwyddau yn Gruchy, olew ar gynfas, 1854–6 Prynodd Gwendoline a Margaret nifer o weithiau gan artistiaid Ysgol Barbizon yn ystod blynyddoedd cyntaf eu gwaith casglu. Millet oedd un o ffefrynnau'r chwiorydd.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2479. J.M.W. Turner (1775–1851), Y Bore Wedi’r Storm, olew ar gynfas, tua 1840–5 Prynodd Gwendoline y llun yma am £8,085 ym mis Tachwedd 1908, a phrynodd Margaret Y Storm oedd yn cyd-fynd ag ef. Mae'n debyg i storm fawr 21 Tachwedd 1840 ysbrydoli'r ddau lun.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1952) NMW A 434. Claude Monet (1840–1926), San Giorgio Maggiore yn y Gwyll, olew ar gynfas, 1908 Teithiodd y chwiorydd i Fenis ym 1908 a 1909. Mae'r llun yn dangos eglwys San Giorgio Maggiore gan y pensaer Palladio fel silwét porffor yn y gwyll. Talodd Gwendoline £1,000 amdano ym mis Tachwedd 1912.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2485.
Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Dur 19 Medi 2008 Gwaith Dur Lithgow, New South Wales, Awstralia, 1920s