Gregynog: Celf a Cherddoriaeth i Gymru 29 Gorffennaf 2007 Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Gwendoline a Margaret Davies yn benderfynol o helpu pobl oedd wedi dioddef oherwydd y Rhyfel, ac i wneud beth bynnag oedd yn bosibl i wella eu hamodau byw.Ym 1920 prynodd y ddwy Neuadd Gregynog a ddaeth yn gartref iddynt ym 1924. Roedd Gregynog yn encilfa dawel lle gellid croesawu ymwelwyr, ond eu gobaith oedd ei ddatblygu'n le prysur a phrydferth i'w rannu er budd eraill.Cefnogodd y chwiorydd nifer o gynlluniau cymdeithasol, economaidd, addysgol a diwylliannol yng Nghymru yn ystod y 1920au a'r 1930au. Eu gobaith oedd y byddai'r cynadleddau a gynhaliwyd yng Ngregynog yn helpu i adeiladu Cymru newydd ar ôl y Rhyfel Mawr.Ymwelwyr Gregynog George Bernard Shaw a Thomas Jones yng Ngregynog. Casgliad preifat (yr Arglwydd Davies) Roedd Gregynog yn fan cyfarfod i amrywiaeth eang o sefydliadau. Daeth addysgwyr, gwleidyddion, ac ymgyrchwyr heddwch a chyfiawnder cymdeithasol, oedd yn enwog yn genedlaethol a'n rhyngwladol i'r cynadleddau hyn.Bu casgliad helaeth a thrawiadol y chwiorydd o weithiau celf yn hongian ar y waliau er mwyn i'r ymwelwyr niferus eu gweld a'u mwynhau. Wrth ysgrifennu llythyr adref ym 1938, dywedodd Mary Hackett, oedd yn ymweld o Awstralia 'A ddwedais i fod yr Ystafell Gerdd yn llawn lluniau amhrisiadwy, gweithiau Turner, Monet, Manet a sawl un arall.'Yr ymwelydd mwyaf cyson oedd Thomas Jones. Fel Dirprwy Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn adnabod nifer o gymeriadau blaenllaw o fyd gwleidyddiaeth a'r celfyddydau. Roedd y dramodydd George Bernard Shaw a'r Prif Weinidog Stanley Baldwin ymysg y bobl a gafodd wahoddiad i Gregynog ganddo.Y chwiorydd Davies a cherddoriaethRoedd cerddoriaeth yn rhan annatod o fywydau'r chwiorydd. Roedd y ddwy wedi cael addysg dda mewn cerddoriaeth ac roedd Gwendoline yn feiolinydd dawnus.Roedd darpariaeth gerddorol yn fratiog yng Nghymru, a'r capel oedd unig gysylltiad y mwyafrif o bobl â cherddoriaeth. Er bod adrannau cerddoriaeth mewn tair o'r prifysgolion, roedd yna dueddiad i fod yn ynysig ac roedd safonau cyfansoddi offerynnol yn isel.Roedd y chwiorydd yn perthyn i grŵp oedd â dymuniad i newid agweddau a mynediad at gerddoriaeth yng Nghymru. Roeddent yn gweithio o fewn grwpiau gweithgar a blaengar, fel Cymdeithas Canu Gwerin Cymru a Chlwb Cerddoriaeth y Brifysgol yn Aberystwyth.Gŵyl Gregynog Ystafell Gerdd Gregynog.Casgliad preifat (yr Arglwydd Davies) Daeth oes aur gweithgarwch cerddorol Gregynog yn y 1930au, sef cyfnod Gŵyl Gerdd a Barddoniaeth Gregynog. Cynhaliwyd yr Ŵyl bob blwyddyn o 1933 hyd at 1938. Byddai'n para tri neu bedwar diwrnod, gyda chyngherddau yn yr Ystafell Gerdd 200 sedd. Cynhaliwyd casgliadau ar gyfer achosion lleol. Ystyriwyd bod yr elfen farddonol yr un mor bwysig â'r gerddoriaeth.Yn ystod y 1930au, byddai'r gwyliau'n denu nifer o bwysigion y cyfnod, yn cynnwys y cyfansoddwyr Ralph Vaughan Williams, Edward Elgar a Gustav Holst, yr arweinydd Adrian Boult, y bardd Lascelles Abercrombie, a'r perfformwyr Jelly d'Arányi a'r Rothschild Quartet.Diwedd cyfnodDaeth oes aur gweithgarwch cerddorol Gregynog yn y 1930au. Daeth y gwyliau i ben ym 1939 pan drodd y chwiorydd eu sylw at ymdrech y rhyfel. Cafodd marwolaeth Walford Davies ym 1941, a Gwendoline ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym 1951, effaith ddofn ar fywyd cerddorol Gregynog. Er y soniwyd am gynlluniau i droi'r Neuadd yn ganolfan gerddoriaeth i Gymru, ni welwyd y cynlluniau hynny'n dwyn ffrwyth.Pan benodwyd Ian Parrott yn Athro Cerdd Gregynog ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1954, atgyfododd ysbryd cerddorol y Neuadd trwy adfywio'r Ŵyl ym 1955. Cynhaliwyd gŵyl bob blwyddyn tan 1961 gan gadw'n weddol dynn at naws rhaglenni'r 1930au. Ym 1988, adfywiwyd yr Ŵyl unwaith eto, y tro hwn gan y tenor Anthony Rolfe Johnson. Mae'n parhau heddiw o dan gyfarwyddiaeth Dr Rhian Davies. Dyma dystiolaeth bendant o etifeddiaeth gerddorol y chwiorydd i Gymru.Nodiadau ar y lluniau Pierre-Auguste Renoir (1841–1919), La Parisienne, olew ar gynfas, 1874 Yn ôl Eirene White, roedd La Parisienne o waith Renoir yn 'hongian yn y cyntedd, gyferbyn â drws yr Ystafell Gerdd'. Mae'r Arglwydd Davies cyfredol yn cofio ymweld tua 1960 a gweld Moret o waith Sisley (yr oedd Margaret wedi ei brynu'r flwyddyn honno) ac Yn Bougival o waith Berthe Morisot yn yr ystafell groeso, gyda Madame Zborowska o waith Derain uwchben y lle tân. Édouard Manet (1832–1883), Y Gwningen, olew ar gynfas, 1881 Y bwriad gwreiddiol oedd cynnwys hwn fel rhan o gylch addurnol i'w weld o bell. Ar ôl marwolaeth Manet fe'i gwerthwyd i'r masnachwr Durand-Ruel. Prynodd Gwendoline y llun o'r Bernheim-Jeune am £1,000 ym 1917. Fe'i rhoddodd i hongian yn Ystafell Gerdd Gregynog wrth ymyl Effaith Eira yn Petit-Montrouge.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMWA 2466 Claude Monet (1840–1926), Lilïau Dŵr, olew ar gynfas, 1905 Cyflogodd Monet ddyn i ofalu am y llynnoedd yn Giverny lle'r oedd lilïau dŵr yn tyfu. Byddai'n gweithio bob dydd yn clirio'r llyn fel y gallai Monet beintio'r lilïau'n adlewyrchu yn y dŵr. Prynodd Gwendoline y gwaith hwn yng Ngorffennaf 1913. Roedd y ddwy chwaer yn hoffi garddio, a chrwyd llyn lilïau yng ngerddi Gregynog lle byddai Margaret yn mwynhau mynd i beintio.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2484 Vincent van Gogh (1853–1890), Glaw – Auvers, olew ar gynfas, tua 1890 Ysgrifennodd van Gogh at ei frawd am 'y brain yn cylchu uwchben y caeau' oedd yn peri iddo deimlo'n drist ac yn unig. Printiau Japaneaidd ysbrydolodd y llinellau graffig trwm sy'n darlunio'r glaw. Peintiodd van Gogh y darn yma pan oedd yn aros yn Auvers ac yn cael triniaeth am iselder. Fe'i prynwyd gan Gwendoline ym 1920 am £2,020.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A2463
Mae mis yn amser hir... Owain Rhys, 11 Gorffennaf 2007 Mae'r cofnod yma'n mynd i fod yn fyr. Roeddwn newydd orffen fersiwn estynedig o'r mis diwethaf, yn Gymraeg ac yn Saesneg - fe wasgais 'Arbed', ac mi ddiflannodd y cwbl. Felly dwi'n pwdu. Yn fras, dyma sut aeth y mis diwethaf: Mehefin 18 - Cyfarfod gyda'r Llyfrgell Genedlaethol. Fe drafodwyd casglu gwefannau, rhaglenni teledu a recordiau, ymysg pethau eraill (effemera, sut i gofnodi Youtube ayb). Diddorol iawn, a diolch o galon i bawb yn y Llyfrgell am y croeso. Mehefin 19 a 20 - Gweithdy Storïau Digidol gyda'r BBC yn Aberystwyth. Techneg defnyddiol ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes. Ewch i'r wefan www.bbc.co.uk/wales/capturewales/ Mehefin 21 - Colli Cynhadledd Stori Ddigidol oherwydd salwch Mehefin 23 - Priodas Deuluol Mehefin 24 i Orffennaf 1 - Gwyliau yng Nghaernarfon Gorffennaf 6 a 7 - Cynhadledd Haness llafar yn Llundain. Eto, techneg sy'n ddefnyddiol dros ben ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes. Gorffennaf 12 (fory) - Cwrdd gyda Gr?p Hanes Johnstown yn Wrecsam i drafod curadu'r Ddresel Gymunedol nesaf. Os hoffai rhywun wybod mwy am y rhain, yna cysylltwch â mi. Yn y blog gwreiddiol, llwyddais i sôn am Glyn Wise, Big Brother, amgueddfa rithiol yn Second Life, enw Cymraeg i Facebook (Gweplyfr) a nifer o bethau hynod ddiddorol tebyg. Ond dyna fo, dyna pa mor anwadal yw'r ether.
Llyfrgell Amgueddfa Cymru 6 Gorffennaf 2007 Sefydlwyd llyfrgell Amgueddfa Cymru flynyddoedd lawer cyn i brif adeilad yr Amguedda yng Nghaerdydd gael ei agor yn ffurfiol ym 1927. Y llyfrgell yn Amgueddfa Cymru Miss E.M. Breese, catalogydd o Brifysgol Cymru gerllaw, oedd y Llyfrgellydd cyntaf. Er mai ym 1913 y cyrhaeddodd Miss Breese, dechreuwyd derbynodi llyfrau ym 1909. Dechreuadau casgliad Yr eitem gyntaf i gael ei derbynodi oedd copi o lawlyfr John Ward o bethau o gaer Rufeinig Gelligaer (yn nes ymlaen, daeth John Ward, Curadur amgueddfa Caerdydd, yn Geidwad Archeoleg Amgueddfa Cymru). Ymhlith y llyfrau cyntaf a brynwyd ym 1909/10, roedd y Yearbook to learned and scientific societies, llyfr Esther Crawford, Cataloguing: suggestions for the small public library ac arweinlyfr i Dŷ'r Cyffredin. Ym mhrif Lyfrgell yr Amgueddfa, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ceir ystafell ganolog ag ynddi silffoedd a lle ar gyfer staff a darllenwyr a dwy adain o raciau symudol trwm o'r 1920au, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw. Daw'r unig enghraifft arall y gwyddom amdani o raciau fel hyn, yn crogi o drawstiau haearn, o hen staciau llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig. Yr Amgueddfa'n ehangu Wrth i'r Llyfrgell fynd yn rhy fawr i'r lleoliad gwreiddiol, cafodd llyfrgelloedd adrannol eu creu. Yn ogystal â'r llyfrgelloedd a geir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ceir casgliad sylweddol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Erbyn hyn, mae'r llyfrgell sy'n ymdrin â hanes diwydiant ac archeoleg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym Abertawe a cheir casgliadau bychain yn Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Caiff y tair llyfrgell eu gweinyddu o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Casgliadau pwysig ac arwyddocaol Mae'r Llyfrgell wedi cael nifer o roddion pwysig. Y rhodd bwysicaf oedd llyfrgell Tomlin o lyfrau o'r 17eg ganrif ymlaen ar Folysgiaid. Mae'n cynnwys sawl cyfrol o'r ysgythriadau astudiaethau natur gorau erioed a liwiwyd â llaw. Ym 1953, cyrhaeddodd casgliad Willoughby Gardner, gyda nifer o lyfrau argraffedig cynnar ar y gwyddorau naturiol, yn cynnwys llysieulyfr a'r unig ddau incwnabwlwm (llyfrau a gyhoeddwyd cyn 1501) — sef dau argraffiad o ysgrifau Pliny ar astudiaethau natur o 1481 a 1487. Yn ogystal â staff yr Amgueddfa, mae llawer o fyfyrwyr yn defnyddio'r Brif Lyfrgell ac mae'r cyhoedd yn gallu trefnu ymlaen llaw i'w ddefnyddio. Casgliadau arbennig Yn ogystal â llyfrau am waith cyffredinol amgueddfeydd a chadwraeth, ceir nifer o gasgliadau arbennig yn y Brif Lyfrgell yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Er enghraifft, ceir yno gasgliad da o lyfrau am dopograffeg Cymru — llyfrau taith o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg yn bennaf, a rhai llawysgrifau. Ar fenthyg i'r llyfrgell, mae set o gopïau Gwendoline Davies ei hunan o lyfrau yr hen Wasg Gregynog mewn rhwymiadau arbennig. Bu'r Llyfrgell yn prynu enghreifftiau o lyfrau o weisg preifat eraill o'r un cyfnod â rhai yr hen Wasg Gregynog, yn ogystal â gweisg preifat modern yng Nghymru fel Old Stile Press a Red Hen Press. Mae'r Llyfrgell dal yn casglu heddiw.
Crochenwaith unigryw o Abertawe yn hwb i gasgliad yr Amgueddfa 5 Gorffennaf 2007 Ym 1994, rhoddwyd deugain darn o grochenwaith a phorslen i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn rhodd gan W. J. Grant-Davidson, arbenigwr yn hanes crochendai Cymru. Roedd y casgliad yn cynnwys nifer o eitemau unigryw a phwysig a wnaed yn Abertawe tua dechrau'r 19eg ganrif. Tancard priddwaith o Abertawe gan William Weston Young. Rhoddion hael Un o'r darnau mwyaf diddorol yw tancard mawr priddwaith. Fe'i gwnaed yng Nghrochendy Cambrian, Abertawe, ym mlynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif. Fe'i haddurnwyd â phen ac ysgwyddau derwydd. Dywed yr arysgrif iddo gael ei baentio gan William Weston Young (1776-1847). Mae'r addurn yn unigryw, er bod Weston Young wedi paentio llun derwydd yn torri uchelwydd ar blac hefyd (mae hwnnw yn Amgueddfa Fictoria ac Albert, Llundain erbyn hyn). William Weston Young Bu William Weston Young yn gweithio yn y crochendy rhwng 1803 a 1806 fel paentiwr a chynorthwyydd i'r perchennog, Lewis Weston Dillwyn. Syrfëwr tir oedd Weston Young wrth ei broffesiwn ac, yn ddiweddarach, bu'n bartner yn y 'Nantgarw China Works'. Pos ar ffurf llun Ymhlith yr eitemau eraill sydd yn y casgliad, mae sosban laeth, cwpanau wy a jwg ac arni'r arysgrif 'John Jinken 1793'. Ceir powlen bwnsh ac arni lun alarch a phenhwyad (sef 'pike' yn Saesneg). Efallai bod hon wedi'i gwneud yn arbennig ar gyfer y teulu Pike o Abertawe. Crochenydd arloesol Roedd gan Mr Grant-Davidson ddiddordeb mewn crochenwaith Lloegr hefyd. Ceir deg enghraifft o ganol y 18fed ganrif yn y casgliad a roddodd i'r amgueddfa. Yn ogystal â thri thebot braf o grochenwaith caled Swydd Stafford, ceir dau ddarn dogfennol o hufenwaith Josiah Wedgwood. Mae'r casgliad yn cynnwys un o'r pedwar darn y gwyddom amdanynt o hufenwaith wedi'u haddurno, a wnaed gan y crochenydd Enoch Booth. Gwnaed y darnau hyn yn hanner cyntaf y 1740au ac mae'n bosib mai dyma'r enghreifftiau cynharaf o gorff o briddwaith sy'n un o brif gyfraniadau Prydain at hanes crochenwaith. Hanesydd a chasglwr Roedd W.J. Grant-Davidson yn arbenigwr ar hanes crochendai Cymru. Casglai grochenwaith Prydeinig o'r cyfnod rhwng diwedd y Canoloesoedd i ddechrau'r 20fed ganrif. Ei gyhoeddiad mwyaf adnabyddus yw 'Early Swansea Pottery, 1764 - 1810', ac mae sawl darn o'i gasgliad ef i'w gweld yn y llyfr.
Casglu Cyfoes 14 Mehefin 2007 Wel, ar ôl blynyddoedd o ymwrthod, dwi wedi penderfynu sgwennu blog. A dweud y gwir, doedd gen i ddim dewis. Cefais fy mhenodi'n Guradur Bywyd Cyfoes yma'n Amgueddfa Werin Cymru, ac fel rhan o fy ffurflen gais, cyhoeddais i'r byd y buasai'n dda o beth rhoi cyfle i'r curaduron rannu eu bywydau diddorol, llawn cyffro, gyda'r cyhoedd. Hyn er mwyn cynyddu "argaeledd" (buzz-word amgueddfaol) y casgliadau. Roedd yn rhaid, felly, dangos y ffordd.Casglu cyfoes - beth yn union mae hynny'n olygu? Wel, i hwyluso pethau, penderfynais hollti'r swydd yn ddwy.Yn gyntaf, rwyf am weithio gyda churaduron eraill i lenwi'r gaps yn y casgliad ers 1950. Mae'n gasgliad eithaf cryf yn nhermau gwrthrychau a hanes llafar y Gymru Gymraeg wledig, amaethyddol cyn 1950, ond yn wannach yn nhermau hanes y Gymru ddi-Gymraeg, drefol, ddiwydiannol yn enwedig ar ol 1950, er fod adeiladu Rhyd-y-car, Oakdale a Gwalia wedi gwella 'r sefyllfa rywfaint.Bydd rhaid bod yn ddethol iawn wrth ddewis pethau gan fod y stordai yn llawn dop. Y bwriad yw pigo a dewis gwrthrychau'n ofalus, a gweu storiau a hanesion o'u hamgylch e.e. gallwn arddangos camera super 8 mewn cesyn, tra'n arddangos ffilmiau o Dreforgan yn y Chwedegau yn y cefndir, a chael tystiolaeth y bobl oedd yn berchen ar y ffilm ar arwydd.Mae'r ail ran yn anos. Beth i'w gasglu yn yr oes wastraffus, E-beiaidd hon? Ein penderfyniad yw delio gyda chymunedau, prosiectau penodol, gweithdai a themau. Gallwn wedyn gwtogi'r dewis a chanolbwyntio ar wrthrychau neu storiau sy'n crisialu'r oes.Er enghraifft, mae gennym Ddresel Gymunedol fydd yn newid pob chwe mis. Bydd cymuned neu grwp gwahanol yn arddangos gwrthrychau sy'n bwysig iddyn nhw. Y grwp cyntaf yw grwp Ieuenctid o Benyrenglyn a arddangosodd Gameboy Nintendo, peldroed wedi ei arwyddo a blanced gysur. Y grwp nesaf fydd Cymdeithas Hanes Johnstown.Dull arall o gasglu cyfoes yw creu Storiau Digidol. Gwneir hyn trwy dynnu lluniau ar gamera ffon a chreu ffilm fer gyda'r canlyniadau. Rwyf am fynychu cwrs a chynhadledd yn Aberystwyth wythnos nesaf fydd yn delio gydda hyn. Na i adael i chi wybod sut aeth hi.Fy arddangosfa fawr gyntaf fydd un ar gerddoraieth bop Cymru. Dwi'n gobeithio cynnwys gwrthrychau fel offerynnau, props llwyfan a ffansins, dangos fideos, chwarae recordiadau sain a chynnal gweithgareddau fel gweithdai rap.Mae mwy i ddod...