: Mwyngloddio

Cyfweliadau 'Streic!'

22 Mai 2009

Yma gallwch wrando ar gyfweliadau gyda unigolion or Amgueddfa, yn edrych nôl ar gyfnod o anghydfod a newidiodd tirwedd ddiwydiannol a chymdeithasol Cymru am byth.


 

Jeff White

Jeff White - Peiriannydd Mecanyddol


 

Paul Meredith

Paul Meredith - Peirianydd Gwarchodaeth


 

Ceri Thompson

Ceri Thompson - Curadur


 

Peter Walker

Peter Walker - Ceidwad Big Pit


 

Gavin Rogers

Gavin Rogers - Tywyswr Glofa

Streic!

12 Mawrth 2009

Bwrdd Glo Cenedlaethol

Ar 1 Mawrth 1984 cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ei fod yn bwriadu cau 20 o byllau glo a cholli 20,000 o swyddi. Bu'r streic 12 mis a ddaeth yn ei sgil yn gyfrwng i newid hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol Cymru am byth.

"Mae glowyr de Cymru'n dweud — dy'n ni ddim yn barod i droi cefn ar ein cymunedau glofaol, dy'n ni ddim am adael i'n plant fynd i'r ciw dôl yn syth o'r ysgol — mae'n amser taro'n ôl!"

Emlyn Williams, Llywydd, NUM, De Cymru

Protestiadau a picedu

Pleidleisiodd y mwyafrif o lowyr Cymru yn erbyn streic i ddechrau, ond wedyn fe fuon nhw'n flaenllaw yn y protestiadau a'r picedu. Cododd gwragedd y glowyr eu llais i gefnogi'u gwŷr gan godi arian a threfnu i ddosbarthu bwyd, ac aethant ati hefyd i gefnogi'r piced a'r gorymdeithiau.

Er na ddioddefodd Cymru'r trais ar y llinellau piced a welwyd ar rai o feysydd glo eraill Prydain, collodd rhai o lowyr Cymru eu bywydau wrth bicedu a chyflawni gwaith diogelwch yn y pyllau glo a lladdwyd gyrrwr tacsi wrth gludo torrwr streic i'w waith.

"Bu rhaid i ni frwydro yn erbyn y gelyn allanol yn Ynysoedd y Falkland, ond rhaid i ni fod yn ymwybodol bob amser o'r gelyn mewnol, sy'n frwydr anoddach o lawer ac yn fwy o beryg i ryddid."

Margaret Thatcher, Prif Weinidog

Casglu hanesion

Roedd da a drwg yn perthyn i'r ddwy garfan a bu ymdrech fawr i geisio casglu hanesion o'r naill ochr a'r llall. Mae'r dicter a ddaeth yn sgil y streic wedi gwneud hyn yn dasg anodd oherwydd bod rhai a fu'n cymryd rhan yn amharod i roi caniatâd i'w hanesion gael eu hadrodd.

Mae hyn, a'r ffaith fod y mwyafrif o'r straeon wedi'u casglu o Gymru, lle mai dim ond canran fechan o'r gweithlu ddychwelodd i'r gwaith yn ystod y streic, yn ei gwneud yn anorfod bod un safbwynt yn ymddangos fel petai'n cael mwy o sylw. Pe byddai hanesion wedi'u casglu o fannau eraill mae'n dra phosibl y byddai'r safbwynt arall yn rhagori.

Caiff hanes gwrthrychol a chytbwys streic y glowyr ei ysgrifennu rhyw ddiwrnod, ond mae'r tudalennau sy'n dilyn yn cyflwyno hanesion rhai o'r dynion a'r menywod gafodd eu heffeithio gan yr hyn a adwaenir bellach fel ... Y Streic.

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r llyfryn yma

Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Mwyngloddio Metel

19 Medi 2008

Carreg chwarela, Randolph, Wisconsin

Carreg chwarela, Randolph, Wisconsin

Roedd y gweithwyr Cymreig yn enwog am eu harbenigedd ym maes mwyngloddio. Yn ogystal â glo, roedden nhw'n gallu cloddio am aur, haearn, plwm a chopr.

Wrth i ffniau agor mewn gwledydd oedd yn datblygu, roedd mwynwyr o Gymru'n arwain y ffordd. Yn ogystal â'r mwynwyr, Cymry oedd rhai o reolwyr a pheirianwyr mwyngloddio mwyaf profadol y byd. Roedden nhw'n ennill cyfogau da oherwydd y galw mawr am eu sgiliau.

O Gernyw y daeth y mwyafrif o fwynwyr y gweithfeydd metel yng ngorllewin UDA, gyda mwynwyr o Gymru'n ail da iddynt.

Datblygwyd rhai o fwyngloddiau metel India a De Affrica gan Gymry ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y ddwy wlad yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd, ac oherwydd y dirywiad yn y diwydiannau plwm yng Nghymru, roedd llawer o'r gweithwyr yn chwilio am gyfeoedd newydd.

Yn eu hymgais i ddod o hyd i fwyn copr, agorodd rhai cwmnïau Cymreig fwyngloddiau newydd yn Newfoundland, Canada a Cape Colony, De Affrica.

Watkin Cynlais Price

Ganed Watkin yng Nghwmllynfell tua 1839. Ymfudodd fel glöwr i Scranton, Pennsylvania i gychwyn, ond erbyn 1860 roedd wedi symud i California ac wedyn i Golumbia Brydeinig adeg y rhuthr am aur. Bu'n enillydd cyson yn eisteddfodau'r maes aur ac roedd yn arwain côr Cymreig. Yn ôl y cofnodion, roedd yn dal i chwilio am aur ym 1887.