Darlunio fel da Vinci! Ciara Hand, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli , 9 Mai 2019 Mawrth 2019, Cymerodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Willows ran mewn project wedi'i ysbrydoli gan Leonardo ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, Prifysgol De Cymru a Ysgol Biowyddoniaeth Prifysgol Caerdydd.Dechreuodd y disgyblion drwy astudio anatomi gyda Dr Shiby Stephens, Anatomegydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyma nhw'n edrych ar sut yr arweiniodd darluniau anatomi cywir a manwl Leonardo at ddealltwriaeth a gwelliannau meddygol.Cafodd y disgyblion gyfle wedyn i weld arddangosfa Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau, gan arsylwi'n fanwl, arbrofi â thechnegau a darlunio yn y fan a'r lle. https://amgueddfa.cymru/caerdydd/digwyddiadau/10265/Leonardo-da-Vinci-Dyn-y-Darluniau/?_ga=2.91177693.636861976.1557410099-992676399.1537354296I gloi, gweithiodd y disgyblion yn agos â Gina Carpenter, Tiwtor Celfyddyd Weledol ym Mhrifysgol De Cymru, i greu darluniau anatomi cywir gan ddefnyddio technegau croeslinellu, creu ffurfiau 3D a chymesuredd corff. Dyma nhw'n edrych ar fwriad da Vinci a chael eu cyflwyno i broses Dylunio Gêm cyn mynd ati i amlinellu dyluniad gêm eu hunain wedi'i hysbrydoli gan ddarluniau anatomi a dyfeisiau da Vinci.Dan nawdd Sefydliad Esmée Fairbairn.
Explore Volunteer Blog: Forays in Filtering Ben Halford, 7 Mai 2019 Our main job as Explore Volunteers is engaging with visitors in the galleries. At National Museum Cardiff we primarily use three carts; one for natural science, one for evolution, and one for art. The art cart is a particularly fun experience, as it’s more about encouraging visitors to share their own impressions and experiences of art. This cart contains several interesting things, and one in particular is our range of colour filters. It seems simple enough at first glance; five transparent filters of different colours. However, when applied to the paintings in our galleries they offer entirely new perspectives on each one. Since a single painting often contains more of a particular colour, viewing it through different filters will produce different results. If you view a painting through a filter of its dominant colour, the effect produced is much more dramatic. Through this visitors can get new insight on how artists constructed their best works.My go to example for visitors is always Monet’s San Giorgio Maggiore by Twilight in Gallery 16. Viewed without the filters the painting is dramatic enough. On closer inspection you can see that Monet used a strong under-layer of purple for the monastery, with small flecks of purple in the water around it. When viewed through the purple filter, the painting takes on a completely different dynamic. Not only is the monastery more pronounced and the sunset more dramatic, it looks like the cover of a psychedelic rock album. On the other hand, when viewed through the red or orange filters, the already fiery sunset becomes more pronounced. I’ve seen many visitors young and old amazed and impressed after viewing this painting through the filters. The filters will affect different paintings in different ways. Pierre-Auguste Renoir’s La Parisienne (also known as The Blue Lady) is a classic case in point. Since the subject, Henriette Henriot, is dressed entirely in blue, when viewed under the blue filter the colour is amplified. However the other filters can produce interesting results. The area of shading around Henriette is somewhat grey, with elements of blue and yellow, so when viewed under the yellow filter it produces a greenish effect. This happens not just in the outline around Henriette, it also blurs her face, making it appear hazier. The yellow filter also makes the golden frame around the painting a lot brighter. Since The Blue Lady is without a doubt one of the most popular paintings in the museum, it’s good to have visitors looking at her from a different perspective.A similar effect happens with our other famous resident of Gallery 16, Landscape at Auvers in the Rain by Vincent van Gogh. In speaking to visitors it seems that when viewing the painting they don’t often notice the rain at first. The dashes crisscrossing the canvas are long, thin and faint compared to the landscape behind it. Looking at these lines through a blue filter makes the scene feel more like a rainy day, but when viewed under the yellow filter the lines suddenly become more pronounced. The rain appears to be falling faster when viewed under this filter, with the field in the foreground becoming more pronounced. Many visitors I’ve demonstrated this to have been amazed by the effect.The filters are a great way for Explore Volunteers to interact with visitors. Not only does it encourage visitors to share their impressions of art, it also allows them to see art in a new way and spot things that may escape them at first glance. There are still many paintings I haven’t tested the filters on yet, so watch this space for more forays in filtering in the near future.
Patrymau Pwrpasol Dafydd Wiliam, 4 Mai 2019 Mae patrymau i'w gweld ym mhobman. Maent yn rhan gyffredin o’n bywydau oherwydd eu defnydd fel addurn i'n dillad a cartrefi. Oherwydd hyn, ychydig iawn o sylw go iawn rown ni iddynt. Fel y cyfryw mae hyn yn iawn oherwydd does dim pwrpas iddynt heblaw fel addurn. Ond o fewn ein Casgliadau ni, mae pwrpas i nifer fawr o’r patrymau a welir. Fe’u crëwyd i amddiffyn y cartref rhag gwrachod ag ysbrydion drwg. Yn y gyfres yma o erthyglau byr fe gymerwn olwg fanylach ar y patrymau pwrpasol a welwn yn yr Amgueddfa.Mae marciau saer coed i'w gweld yn glir ar nifer o adeiladau pren, yn arbennig sgubor Stryd Lydan. Adeiladwyd ffrâm bren yr adeilad yn iard y saer cyn ei datgymalu a’i symud i'w chartref parhaol. Roedd felly angen ffordd o nodi gwahanol elfennau o'r ffrâm fel eu bod yn gallu cael eu hail-godi yn y drefn gywir ar y safle newydd.Mae marciau apotropäig (o’r gair Groeg am ‘atal’ neu ‘gadw draw’) i'w gweld mewn sawl ffurf. Er enghraifft, marciau a losgwyd â channwyll ar drawstiau pren; llinellau wedi eu cerfio mewn i drawst neu gelficyn pren mewn siâp grid neu flodyn; sgwariau o liwiau wedi eu gosod am yn ail, fel coch a du neu goch a gwyn; llinellau sarffaidd 'diddiwedd'; neu symbol ‘V’ dwbl. Adiwyd y rhain i gartrefi ac adeiladau amaethyddol rhwng 1600 a 1950. Darganfuwyd y mwyafrif ym ‘mannau gwan’ cartref lle byddai'n hawdd i ysbrydion drwg gael mynediad i’r tŷ, sef drysau, ffenestri a llefydd tân.Mae marciau entoptic (o’r gair Groeg am ‘pethau a welir o fewn y llygad’) yn batrymau geometrig sydd ymhlith y gwaith celf cynharaf yn y byd. Maent i'w gweld ar nifer fawr o wrthrychau gwahanol o fewn ein horiel newydd – Gweithdy. Mae’r darn pren o Maerdy a’r garreg o Barclodiad y Gawres yn 6,000 o flynyddoedd oed, ac mae llinell sarffaidd amlwg i'w gweld ar y ddau wrthrych. Mae cynlluniau geometrig yw gweld yn glir ar y potiau clai Oes yr Efydd a elwir yn biceri. Mae mosaig Rhufeinig o Gaerwent yn cynnwys cwlwm diddiwedd yn ei ganol a thrionglau du a gwyn o’i amgylch. Mae clymau tebyg i'w gweld ar y croesau Cristnogol cynnar, lle gelwir yr arddull yn knotwork. Mae’r patrymau yma yn debyg iawn i’r marciau apotropäig hwyrach, ac fe allent gynrychioli gwraidd y traddodiad. Er enghraifft, yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif roedd yn goel gyffredin bod patrwm cymhleth o ddim ond un llinell yn gallu swyno ysbrydion drwg a'i atal rhag cael mynediad i’r tŷ.Y tro nesaf y cerddwch chi heibio tŷ o oes Fictoria, beth am i chi edrych yn fwy craff ar y llwybr o deils du a gwyn sy'n arwain at y drws? Neu pan ewch i’r gwely, gofynnwch pam bod carthenni mor lliwgar a chymleth eu patrwm a chithau ar fin mynd i gysgu? Efallai bod y rhain hefyd yn rhan o’r traddodiad o greu patrymau pwrpasol.Mae patrymau i'w gweld ym mhobman. Maent yn rhan gyffredin o’n bywydau oherwydd eu defnydd fel addurn i'n dillad a cartrefi. Oherwydd hyn, ychydig iawn o sylw go iawn rown ni iddynt. Fel y cyfryw mae hyn yn iawn oherwydd does dim pwrpas iddynt heblaw fel addurn. Ond o fewn ein Casgliadau ni, mae pwrpas i nifer fawr o’r patrymau a welir. Fe’u crëwyd i amddiffyn y cartref rhag gwrachod ag ysbrydion drwg. Yn y gyfres yma o erthyglau byr fe gymerwn olwg fanylach ar y patrymau pwrpasol a welwn yn yr Amgueddfa.Mae marciau saer coed i'w gweld yn glir ar nifer o adeiladau pren, yn arbennig sgubor Stryd Lydan. Adeiladwyd ffrâm bren yr adeilad yn iard y saer cyn ei datgymalu a’i symud i'w chartref parhaol. Roedd felly angen ffordd o nodi gwahanol elfennau o'r ffrâm fel eu bod yn gallu cael eu hail-godi yn y drefn gywir ar y safle newydd.Mae marciau apotropäig (o’r gair Groeg am ‘atal’ neu ‘gadw draw’) i'w gweld mewn sawl ffurf. Er enghraifft, marciau a losgwyd â channwyll ar drawstiau pren; llinellau wedi eu cerfio mewn i drawst neu gelficyn pren mewn siâp grid neu flodyn; sgwariau o liwiau wedi eu gosod am yn ail, fel coch a du neu goch a gwyn; llinellau sarffaidd 'diddiwedd'; neu symbol ‘V’ dwbl. Adiwyd y rhain i gartrefi ac adeiladau amaethyddol rhwng 1600 a 1950. Darganfuwyd y mwyafrif ym ‘mannau gwan’ cartref lle byddai'n hawdd i ysbrydion drwg gael mynediad i’r tŷ, sef drysau, ffenestri a llefydd tân.Mae marciau entoptic (o’r gair Groeg am ‘pethau a welir o fewn y llygad’) yn batrymau geometrig sydd ymhlith y gwaith celf cynharaf yn y byd. Maent i'w gweld ar nifer fawr o wrthrychau gwahanol o fewn ein horiel newydd – Gweithdy. Mae’r darn pren o Maerdy a’r garreg o Barclodiad y Gawres yn 6,000 o flynyddoedd oed, ac mae llinell sarffaidd amlwg i'w gweld ar y ddau wrthrych. Mae cynlluniau geometrig yw gweld yn glir ar y potiau clai Oes yr Efydd a elwir yn biceri. Mae mosaig Rhufeinig o Gaerwent yn cynnwys cwlwm diddiwedd yn ei ganol a thrionglau du a gwyn o’i amgylch. Mae clymau tebyg i'w gweld ar y croesau Cristnogol cynnar, lle gelwir yr arddull yn knotwork. Mae’r patrymau yma yn debyg iawn i’r marciau apotropäig hwyrach, ac fe allent gynrychioli gwraidd y traddodiad. Er enghraifft, yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif roedd yn goel gyffredin bod patrwm cymhleth o ddim ond un llinell yn gallu swyno ysbrydion drwg a'i atal rhag cael mynediad i’r tŷ.Y tro nesaf y cerddwch chi heibio tŷ o oes Fictoria, beth am i chi edrych yn fwy craff ar y llwybr o deils du a gwyn sy'n arwain at y drws? Neu pan ewch i’r gwely, gofynnwch pam bod carthenni mor lliwgar a chymleth eu patrwm a chithau ar fin mynd i gysgu? Efallai bod y rhain hefyd yn rhan o’r traddodiad o greu patrymau pwrpasol.
Arferion Calan Mai Meinwen Ruddock-Jones, 1 Mai 2019 Ar y cyntaf o Fai, dethlir Calan Mai. Mae'r ŵyl yn nodi dechrau’r haf a chyfnod o ffrwythlondeb a thwf. Mae toreth o draddodiadau yn gysylltiedig â’r ŵyl – rhai yn fwy rhyfedd na’i gilydd! Dyma ddetholiad o ambell i arfer sydd ar gof a chadw yn Archifau AWC.Canu am Gildwrn yn NhreuddynYn ardal Treuddyn, ar ddiwrnod Calan Mai, byddai plant yn gwisgo dillad llaes a mynd o ddrws i ddrws yn canu cân a chario cangen wedi ei hardduno â charpiau yn y gobaith o dderbyn ychydig o gildwrn neu rodd fechan gan berchennog y tŷ. Dyma eiriau Alun J. Ingman, a anwyd yn Nhreuddyn yn 1906:Ar ddydd Calan Mai, byddai rhai wedi paentio’u hwynebau ac yn gwisgo rhyw hen sgert a dillad llaes a mi oedd ganddyn nhw gangen, a charpiau arni hi, a mynd o ddrws i ddrws. Mi fydde ’na gân debyg i hyn: “Dawns sy’n sa’, y gangen ha’, am mor fychlawn neidio. Neidia di i ben y tŷ a mi neidia inna troso’”. Fydde hynny, a cildwrn, tipyn o gocos, yn rhwbath yn debyg i Calennig ond ar ddydd Calan Mai.Derbyn Menyn yng Ngogledd PenfroYng Ngogledd Penfro, arferai gwragedd a phlant deithio o amgylch ffermdai yr ardal yn derbyn talpau o fenyn yn eu basynau. Golygai hyn y byddai ganddynt ddigon o fenyn i roi ar eu bara am wythnosau i ddod.Penglog Ceffyl i’r Ferch a’ch DigioddYng Ngogledd Cymru, byddai gwŷr ifanc yn cael gafael ar benglog ceffyl ar noswyl Calan Mai ac yn ei hongian uwchben drws morwyn neu ddrws gwraig briod a oedd wedi eu digio. Yn aml, byddai enw’r ferch anffodus wedi ei glymu i’r penglog.Colli Gwaed ar Galan MaiMae Mary Davies a anwyd yn Nantyfedwen, Trefeglwys, yn 1892, yn cofio y byddai ei Nain yn mynd pob blwyddyn i gael colli tipyn bach o waed adeg Calan Mai:Glywos i’n nhad yn dweud ei fod yn gwybod am rywun oedd yn mynd i ryw gors, ac roedd y gelod yn cydiad yn y gors, ac roedd e’n eu gwerthu nhw i’r cemist. Fydda’r cemist yn gwerthu nhw i fobol i dynnu gwaed. Bydda’r gelod yn cael eu defnyddio yn reit ddiweddar yn bydda nhw. Bydda Nain, mam ’y nhad, yn mynd pob blwyddyn i golli tipyn bach o waed. O, odd hi’n well o lawer iawn wedyn odd hi’n meddwl.Gofyn Bendith ar AmaethwyrAr y dydd hwn yn ardal Llangristiolus, cynhelid gwasanaeth yn y capel i ofyn bendith Duw ar ffermwyr yr ardal.Rhwystro’r Wrach Rhag HudoAr fore Calan Mai yn Llanwennog, byddai’n arfer addurno pen y drws blaen â dail gwyrdd er mwyn atal y “witsh” rhag dod i’r tŷ a'i hatal rhag rhoi hud ar y cartref fel na allai’r teulu gorddi trwy gydol yr haf.Godro DefaidArferid godro defaid yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl ffair Galan Mai Llanfair-ym-Muallt ac yna eu gadael yn hesb nes fis Hydref.“Cadw Gofid Mâs o’r Tŷ”Yn ardal Cydweli, byddai rhai yn addurno y drws blaen gyda changhennau coed ynn er mwyn “cadw gofid mâs o’r tŷ” ac i atal gwrachod ac ysbrydion, a oedd yn arbennig o ddrygionus ar ddechrau Mai yn ôl y sôn, rhag chwarae triciau ar y trigolion.Ffeiriau CyflogiCynhelid ffeiriau cyflogi mewn llawer tref yng Nghymru ar ddiwrnod Calan Mai. Byddai gweision a morwynion yn cael eu cyflogi am flwyddyn ac yna’n dychwelyd i’r ffair mewn deuddeng mis neu symud i ardal arall er mwyn ceisio gwell cyflog. Dyma eiriau Rhys Morgan, a anwyd yn 1875 yng Nghorneli Waelod, ger Pen-y-bont ar Ogwr:Odd May Day pryd ’ny. Dydd Cala-Ma’. A dyna’r dydd on nhw’n ych dewis chi. Os och chi’n moin jobyn, och chi’n gofyn i’r fferm a on nhw’n setlo ar arian. Odd pob un yn Ben-bont, odd gweision ffermydd a lot o’r ffermwyr hefyd 'ny. Bydde chi’n clywed “Ma ishe gwas yn New Park, ma ishe gwas yn y Grove”. Wel nawr, och chi nawr yn mynd i edrych, bydde’r ffarmwr ddim yn dod atoch chi. Pedwar ucen mlynedd yn ôl - dydd mawr. Sdim sôn amdano fe nawr.
Y Cenhedloedd Unedig yn nodi blwyddyn ryngwladol tabl cyfnodol yr elfennau cemegol: Ebrill - calsiwm Anna Holmes, Lucy McCobb, Kate Mortimer-Jones, Anne Pritchard, Tom Cotterell, 30 Ebrill 2019 Rydym yn parhau i nodi blwyddyn ryngwladol tabl cyfnodol yr elfennau cemegol ac, ar gyfer mis Ebrill, rydym wedi dewis calsiwm. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod am galsiwm fel yr elfen sylfaenol er mwyn ffurfio esgyrn neu mewn calchfaen ond mae iddo lu o ddibenion eraill ac mae i'w gael ar wely'r môr ac mewn bywyd morol ddoe a heddiw. Elfen fetelig o liw golau yw calsiwm (Ca) ac 20 yw ei rhif atomig. Mae’n hanfodol ar gyfer bywyd heddiw ac mae’n aml yn chwarae rhan bwysig yn cynnal planhigion ac anifeiliaid. Dim ond pedair elfen arall sy'n fwy cyffredin na chalsiwm yng nghramen y ddaear ac mae’n rhan o lawer o greigiau a mwynau fel calchfaen, aragonit, gypswm, dolomit, marmor a sialc. Aragonit a calsit yw’r ddwy ffurf grisialog fwyaf cyffredin ar galsiwm carbonad ac fe gyfrannodd y ddwy at ffurfio’r ddwy filiwn o gregyn yn ein casgliad o folysgiaid. Craidd y casgliad hwn yw casgliad Melvill-Tomlin a gyfrannwyd i’r amgueddfa yn y 1950au. Dyma gasgliad rhyngwladol sy’n cynnwys llawer o sbesimenau prin, prydferth sy’n bwysig o safbwynt gwyddonol ac a ddefnyddir gan wyddonwyr o bedwar ban byd ar gyfer eu hymchwil. Caiff perlau, sydd hefyd wedi’u gwneud o aragonit a calsit, eu cynhyrchu gan gregyn deufalf fel wystrys, cregyn gleision dŵr croyw a hyd yn oed gregyn bylchog mawr. Ym myd natur, caiff perlau eu ffurfio wrth i’r molysgiaid ymateb i barasit ymwthiol neu ronyn o raean. Mae’r fantell o gwmpas corff meddal yr anifail yn gollwng calsiwm carbonad a conchiolin sy’n amgylchynu’r peth estron ac yn dynwared ei siâp ac felly nid yw pob un yn hollol grwn. Yn y diwydiant perlau, caiff pelenni bach iawn o gragen eu 'plannu’ yn yr wystrysen neu’r gragen las er mwyn sicrhau bod y berl a ffurfir yn hollol grwn. Cyrff meddal sydd gan folysgiaid ac maent yn creu cregyn i fod yn darianau amddiffynnol iddynt. Mae hyn yn wir am anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill hefyd, yn enwedig yn y môr. Mae riffiau cwrel a thiwbiau rhai mwydod gwrychog (Serpulidae, Spirorbinae) yn dibynnu ar natur atgyfnerthol calsiwm carbonad i gynnal a gwarchod eu cyrff meddal. Mae gan gramenogion fel crancod a chimychiaid sgerbwd allanol caled sy’n cael ei atgyfnerthu â chalsiwm carbonad a chalsiwm ffosffad. O gastrolithau y daw’r calsiwm y mae ar gimychiaid, cimychiaid coch, cimychiaid afon a rhai crancod tir ei angen ar ôl bwrw’u cragen. (Weithiau, gelwir gastrolithau’n gerrig stumog neu'n llygaid crancod). Maent i’w cael ar y naill ochr a’r llall i’r stumog ac maent yn darparu calsiwm ar gyfer rhannau hanfodol o’r cwtigl fel darnau’r geg a’r coesau. Yng nghasgliad yr Amgueddfa, mae bron 750,000 o anifeiliad morol di-asgwrn-cefn, yn cynnwys cramenogion, cwrelau a mwydod gwrychog. O fwynau calsiwm y gwnaed llawer o’r 700,000 o ffosilau sydd yng nghasgliadau’r Amgueddfa hefyd. Defnyddir dau brif fath o galsiwm carbonad i wneud cregyn a sgerbydau allanol anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ac maent yn fwy tebygol o gael eu hanfarwoli fel ffosilau os defnyddir un ohonynt yn hytrach na’r llall. Mae aragonit, sydd yng nghregyn molysgiaid fel amonitau, gastropodau a chregyn deuglawr, yn ansefydlog ac nid yw’n para am filiynau o flynyddoedd gan amlaf. Wrth ffosileiddio, mae cregyn aragonit naill ai’n ymdoddi’n llwyr, neu mae’r aragonit yn ailgrisialu i ffurfio calsit. Defnyddiwyd calsit i wneud cregyn a sgerbydau grwpiau o gwrelau sydd wedi peidio â bod erbyn hyn, braciopodau cymalog, bryosoaid, ecinodermiaid a’r rhan fwyaf o drilobitau. Mae’n llawer mwy sefydlog nag aragonit ac felly mae darnau caled gwreiddiol o’r creaduriaid yn ymddangos fel ffosilau, filiynau o flynyddoedd ar ôl iddynt suddo i wely’r môr. Yn aml, gwelir grisialau mawr o galsit yn llenwi mannau gwag mewn ffosilau, fel y siambrau y tu mewn i gregyn amonitau. Mae fertebratau’n defnyddio mwyn calsiwm gwahanol i wneud esgyrn a dannedd: apatit (calsiwm ffosffad), a all bara am filiynau o flynyddoedd i wneud ffosilau eiconig fel sgerbydau deinosoriaid ac ysgithrau mamothiaid. Yng nghasgliadau’r Amgueddfa o greigiau, mae llawer o galchfeini, creigiau a ffurfiwyd ar waelod y môr amser maith yn ôl o ddarnau o gregyn a deunydd arall sy’n cynnwys llawer o galsiwm carbonad. Ers miloedd o flynyddoedd, bu pobl yn defnyddio calchfeini i adeiladu: cerrig cerfiedig yn nhemlau eiconig y Groegiaid a’r Rhufeiniaid; darnau mâl i fod yn falast o dan reilffyrdd a ffyrdd; neu wedi’u llosgi i greu calch i wneud sment. Defnyddiwyd calchfaen enwog o Dorset o’r enw Carreg Portland i adeiladu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac adeiladau eiconig eraill yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd. Ar lawr yr Amgueddfa gwelir teils marmor, sef calchfaen a drawsnewidiwyd o dan wres a gwasgedd mawr. Bu cerflunwyr yn hoff iawn o farmor ers dyddiau’r hen Roegiaid a’r Rhufeiniaid. Yng nghasgliadau celf yr Amgueddfa gwelir gweithiau marmor gan Auguste Rodin, John Gibson, Syr Francis Chantrey, Syr William Goscombe John a llawer o rai eraill. Yn ogystal, mae yno enghreifftiau pwysig o waith gan gerflunwyr o’r ugeinfed ganrif, fel Jacob Epstein, Eric Gill a Henri Gaudier-Breszka. Roedd yn well ganddyn nhw gerfio calchfaen feddalach a llai dwys, Carreg Portland a thywodfaen.