Cyfraniad Cymru at dŵf ymerodraeth forwrol Prydain Oliver Fairclough, 27 Tachwedd 2015 Mae gan Amgueddfa Cymru ddau bortread sy’n dangos rôl Cymru yn natblygiad ymerodraeth forwrol Prydain yn y ddeunawfed ganrif. Paentiwyd y lleiaf o’r rhain oddeutu 1764 ac mae’n bortread llawn (54.5 x 42.6 cm) o William Owen (1737-1778). Paentiwyd yr ail yn Canton, Tsieina oddeutu 1791 ac mae’n bortread o John Jones (1751-1828), Capten yn gwasanaethu’r East India Company. William Owen William Owen (1737-1778) Ganwyd William i deulu cefnog Owens of Cefyn-yr-Hafodau yn Sir Feirionydd. Roed bywyd ar y môr yn beryglus, a gwneud gyrfa ohoni yn waith caled oed yn galw am dylanwad yn ogystal â thalent. Roedd yn yrfa addas i ŵr bonheddig, fodd bynnag, nad oedd yn gofyn am fuddsoddiad ariannol mawr gyda phosibilrwydd hefyd o wneud ffortiwn o gipio trysor a gwobrwyon. Byddai’n rhaid i deuluoedd berswadio Capten i groesawu eu mab i’w griw fel ‘gŵr bonheddig ifanc’ er mwyn ennill y chwe mlynedd o wasanaeth fyddai’n rhaid eu cwblhau i gymhwyso fel Is-gapten. Derbyniodd tad William eirda gan Ysgrifennydd y Morlys a roddodd y bachen yng ngofal ei fab-yng-nghyfraith. Gwasanaethodd William yng Ngorllewin Affrica ac India’r Gorllewin cyn hwylio am India ym 1754. Roedd ei saith mlynedd yn yr is-gyfandir yn rhai prysur gyda Phrydain mewn rhyfel â Ffrainc. Ymladdodd William ar y tir ym Mrwydr Plassey yn ogystal ag ar y môr, a chael ei anafu gan belen mysged. Fe’i dyrchafwyd yn Is-gapten ym 1758, ac roedd yn rhan o’r gwarchae ar harbwr Pondicherry lle cafodd ei anafu drachefn wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig. Gwelir Owen yn lifrau Is-gapten yn y Llynges Frenhinol (patrwm 1748-1767). Esboniodd mewn cofnod o’i wasanaeth sut iddo golli rhan o’i fraich dde wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig dan ynnau Pondicherry: 'on the night of 7 Oct 1760 he [was] ordered to cut out the French ships La Baleine and Hermoine from under the guns of Pondicherry, … [when] he had the misfortune to have his right arm shot off … by a Cannon Ball. Dychwelodd Owen i Brydain ar hanner cyflog ar ddiwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1762. Prin oedd y cyfle am ddyrchafiad mewn cyfnod o heddwch ac ym 1766 hwyliodd i Nova Scotia gyda’r Arglwydd William Campbell, oedd newydd gael ei benodi’n llywodraethwr. Rhoddodd Campbell ynys iddo ym Mae Passamaquoddy (rhwng New Brunswick a Maine) ac erbyn 1771 roedd 73 o bobl wedi ymsefydlu yno. Dychwelodd i Brydain wrth i ryfel Sbaen gorddi, ond rhaid oedd aros tan 1776 cyn derbyn comisiwn unwaith eto a hwylio am India. Daeth dyrchafiad i’w ran i swydd Comander y slŵp HMS Cormorant. Yn anffodus, ni welodd William ddiwedd y rhyfel – cafodd ei ladd mewn damwain feddw y Madras yn Hydref 1778. John Jones John Jones (1751-1828) Ganwyd John Jones i deulu dosbarth canol yn Abertawe ym mis Awst 1751. Daeth yn brentis morwr masnachol cyn gwasanaethu ar un o longau’r East India Company, Queen, ar fordaith i Madras a Tsieina ym 1770-1772. Wedi dychwelyd ymunodd â’r Llynges Frenhinol. Roedd heddwch ym Mhrydain ym 1773 ac mae’n debyg iddo ymrestru er mwyn gwella ei statws cymdeithasol a phroffesiynol. Roedd o ddosbarth is na William Owen ac fellu bu’n gwasanaethu fel Meistr (gwarantswyddog yn gyfrifol am fordwyo) cyn derbyn comisiwn Is‑gapten ym 1782 ar ddiwedd Rhyfel America. Heb swydd ar ddiwedd y rhyfel, ymunodd â’r East India Company gan wasanaethu am bymtheg mlynedd. Ef oedd Mêt 1af y Carnatic ym 1786-7, a Mêt 1af y Deptford ym 1787-9. Yn y pen draw fe’i penodwyd yn Gapten un o longau’r cwmni, Boddam, gan hwylio dair gwaith i Tsieina ym 1791-2, 1793-4 a 1800-1. Mae ei lyfr cyfrifon personol o fordaith gyntaf y Boddam wedi goroesi ac yn dangos iddo fuddsoddi £11,000 mewn nwyddau i’w gwerthu ym Madras a Canton (gan gynnwys haid o gŵn hela) gan wneud elw personol o bron i £4,000. Defnyddiodd yr arian hwn i brynu gwerth £7,500 o nwyddau lleol yn Canton, fyddai wedi’u gwerthu am fwy o elw yn Llundain. Paentiwyd ei bortread gan Guan Zuolin, artist o Tsieina oedd yn gweithio yn Canton rhwng 1770 a 1805. Roedd yn arfer y dull flat, clir, Ewropeaidd o baentio mewn paent olew wedi’i deneuo â dŵr. Ym 1794 prynodd Jones Dŷ Sain Helen uwchlaw Bae Abertawe a comisiynodd y pensaer William Jernegan i’w ailadeiladu fel fila neo-glasurol. Mae golygfa o’r tŷ ym 1800 yn ei ddangos mewn glaswelltir gyda cheffylau, gwartheg a defaid John Jones yn pori. Treuliodd ymddeoliad cyfforddus yno tan ei farwolaeth mewn damwain cerbyd ym 1828. Dŷ Sain Helen
A Window into the Industry Collections - November 2015 Mark Etheridge, 27 Tachwedd 2015 This month Amgueddfa Cymru acquired an example of a Prestcold ‘Packaway’ domestic fridge. This fridge was made in Swansea in the 1960s, and was bought new by the donor’s mother and used until only 18 months ago. It still works perfectly! The donation also included the original manual along with a recipe book.These four lamp checks have been added to the collection this month. They are from Britannia, Deep Navigation, Oakdale and Cwm Collieries. Lamp checks (or 'tokens' or 'tallies') were used to let colliery management know who was in work, and were essential in informing rescue services who was underground during an incident such as a fire or explosion. If you would like to know more about colliery checks and token there is an interesting article here on our website. You can also see many more examples from our collection here on our 'Images of Industry' online catalogue. Also this month we received a brick to add to the large collection of Welsh manufactured bricks held at the National Collections Centre. It was found in tipped debris on the former Cyfarthfa Willows cinder tip, Merthyr Tydfil. The brick was manufactured at the Cyfarthfa iron & steel works between about 1890-1910. Finally this month, we acquired a framed aerial photograph of Cefn Hirgoed opencast coal site was taken in the 1960s, and was at one time on display in the opencast office building. The close up view gives you a better idea of what the site once looked like.
Dyddiadur Kate: Diwylliant ardal y pethe Elen Phillips, 25 Tachwedd 2015 Yn ei dyddiadur yr wythnos hon, mae Kate Rowlands yn nodi fod ‘Bob Lloyd wedi codi côr i fynd i’r Bala’. Mae Bob Lloyd yn fwy adnabyddus i ni fel Llwyd o’r Bryn (1888 - 1961) – eisteddfodwr o fri, aelod o Barti Tai'r Felin a sylfaenydd Cymdeithas y Llawr Dyrnu. Mewn cyfweliad hanes llafar â Minwel Tibbott yn 1970, soniodd Kate am ddiwylliant arbennig ei milltir sgwâr a bywyd cymdeithasol ardal y 'pethe'. Erbyn hyn, roedd Kate wedi ymadael â'r Sarnau ac yn byw yn Rhyduchaf, ger y Bala. Dyma grynodeb o’r sgwrs.Sut gymdeithas oedd yn y Sarnau yn eich hamser chi?Di-guro ynde, dyne’r gair fyswn i’n ddeud. Wedyn mi ddoth yn y blynyddoedd cymharol ddiweddar, mi ffurfiwyd y Llawr Dyrnu’n Sarne, a chal tair eglwys i uno efo’i gilydd. A mai’n dal’n llewyrchus ddychrynllyd eto 'fyd. Yndi, dyna’i cymdeithas nhw, Llawr Dyrnu ma nhw’n galw hi.Pa adeg ffurfiwyd honno?Tua nineteen… alla i’m deud. Rhoswch chi ddau funud wan i fi sidro. Yn y nineteen thirties siwr gen i. Ond cyn hynny, gneud ein cymdeithas odden ni. O’ ne bopeth yn y Sarne amser honno yn de. O’dd hi’n gymdeithas … cymdeithas y capel… Ddoth na lawer iawn o farddoni… yn y Sarne te a mai’n dal felly eto ma’n siwr. Ddoth yr WEA ’fyd yn Sarne’n flodeuog iawn, iawn yn de… O gynny nhw athrawon yn WEA. Dw i’n cofio I. B. Griffith yn athraw a gynno fo dros ddeugien yn’i ddosbarth yn Sarne…Beth fydde yn cael ’i gynnal, hanes?Ie, hanes. Probleme yr oes w’chi, probleme cyfoes a rwbeth debyg… Y tair blynedd ola ro’n i’n Ty Hen, ddaru mi gadw’r cwbwl heb golli dim cofiwch. Thirty six o ddosbarthiade.Beth fydde pobol yn neud gyda’r nos yn eu cartrefi?Wn i’m be fydda nhw’n neud, cofiwch. O’dd na ryw ysbryd iach ofnadwy… Fydde ryw swperi yn ffasiwn ofnadwy chi, mynd i gartrefi gilydd. Wn i’m be fydde nhw’n neud yno. Dw i’m yn meddwl bydde nhw’n deud ’im byd drwg am neb.Oedd na gymdeithas glos yn Sarne?Oedd ardderchog, bob amser. Dw i’n dal i ddeud eto mai’r Seiat a’r Cwarfod Plant, dene o’dd yn byd ni wch chi’n te. Pawb yn mynd yno chi, pawb mynd yno te. O’dd neb yn meddwl peidio… pawb yn mynd i bob peth. Dydi ’di newid dwch.
Glaw at y Croen, Barrug ar yr Asgwrn Meinwen Ruddock-Jones, 21 Tachwedd 2015 Mae tymor y sgarff a’r esgidiau glaw, yr het a’r hances boced, yn agosáu. Er bod yn ofalus wrth wisgo’n glyd a chynnes mae bron yn anochel y byddwn yn dioddef rywbryd yn ystod y misoedd nesaf o un neu ragor o anhwylderau’r tymor. Meddyginiaethau GwerinErbyn hyn, mae’n ddigon hawdd dod o hyd i foddion i esmwytho llawer salwch, ond cyn ymddangosiad y fferyllfa ar y stryd fawr, byddai pobl gyffredin Cymru yn troi at feddyginiaethau gwerin i wella mân afiechydon ac anafiadau. Casgliad yr Archif SainYn Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru ceir casgliad hynod o ddiddorol o recordiadau yn ymwneud â meddyginiaethau traddodiadol, rhai â sail wyddonol a rhai eraill braidd yn anoddach i’w llyncu! Felly, os nad ydych am fentro allan trwy’r gwynt a’r glaw i wario arian ar becyn o dabledi neu botel o rhyw gymysgedd gostus, dyma rai syniadau am sut i ddefnyddio eitemau cyffredin o’r cwpwrdd bwyd (ac un hylif corfforol!) i gadw’n iach tan y gwanwyn.I Wella AnnwydRhowch beint o gwrw casgen ar y tân. Rhowch bedair llond llwy fwrdd o siwgr brown a dwy llond llwy de o sunsur ynddo. Gadewch iddo ferwi a’i yfed cyn gynted â phosibl a mynd yn syth i’r gwely. Os nad oes cwrw yn y tŷ dylid yfed llaeth enwyn ac ychydig o driog ynddo neu gymysgedd o fêl, menyn a finegr.I Wella Gwddf TostRhowch hosan wlân a wisgwyd am y troed trwy’r dydd am y gwddf a’i gadw yno trwy’r nos. Cofiwch roi troed yr hosan (y darn mwyaf budr) yn agos i’r llwnc er mwyn “dal y chwys”. Gellir hefyd roi saim gŵydd neu sleisen neu ddwy o gig moch yn yr hosan os oes peth ar gael.I Wella Clust DostRhowch winwnsyn yn y ffwrn i gynhesu ac yna rhoi canol y winwnsyn yn y glust gan ofalu bod y darn yn ddigon mawr i’w dynnu allan eto. Os nad oes winwnsyn gennych gellir rhoi peth olew yr olewydd wedi ei gynhesu ar wadin yn y glust, neu os nad oes olew yn y tŷ, gellir defnyddio eich dŵr eich hun.I Wella Llosg EiraDylid chwipio’r llosg gyda chelyn nes bod y croen yn gwaedu. Os nad yw hyn yn apelio, dylid mynd allan i gerdded yn yr eira yn droednoeth neu dorri winwnsyn yn ei hanner, rhoi peth halen ar y toriad ac yna ei rwbio ar y croen sydd wedi ei effeithio.Wel, dyna ni. Digon o feddyginiaethau i’ch cadw yn hapus ac yn iach dros y misoedd i ddod!Ac i gloi, gair o gyngor i’r merched. Dyma bennill a gofnodwyd oddi ar lafar yn Llanfachreth, Dolgellau, yn 1977: Pan dry’r hen gath ddu ei thîn ar y tân, Tynn allan dy bais dew, mae’n rhy oer i bethau mân.
The open care of museum collections Christian Baars, 21 Tachwedd 2015 In the last blog I outlined (very briefly!) what museum conservators do. Recently we (that is, the conservation team at Amgueddfa Cymru – National Museum Wales) had an opportunity to present ourselves and our work directly to the community during an Open Day. And the day gave us as many interesting insights as it did the public.This was the first ever Conservators Open Day held at National Museum Cardiff. First up, the day was not a flop: almost 4,000 people came to the museum that day; for comparison, the daily average over the year is approximately 1,200 visitors, so the turnout was good. In fact, it exceeded all expectations. You could say we were happy with that.The offer on the day had included an insight into every branch of the museum’s conservation. The furniture conservator brought a real harpsichord and explained how it had been repaired recently. The paintings conservator demonstrated how she restores paintings. The natural history conservators asked our visitors how a damaged stuffed peacock should be conserved – and they are now working on applying these suggestions so that the peacock will soon be presentable again. Here is a little summary with many photos giving an impression of the day.So we know that people are interested in our work and how we go about preserving heritage. But what exactly does that mean? Are conservators really being confused with conservationists, and did people go home having learned what the difference really is? Museums are about learning – so we would like to know if this works. Some big questions – we wanted to know the answers and undertook some research in the form of event evaluation.The results of the evaluation indicated that many people had come specifically to see this event (the marketing is working), and almost all enjoyed it (our offer was good). This is good to know and gives us some direction for the organisation of future events. What surprised us was to find that most people knew who museum conservators are and what they do – apparently we do not get confused with the people who look after pandas (who also do incredibly valuable work). Not only that, but 100% of our respondents said that the care of collections is one of the most important roles of museums.An important answer in many ways. It makes conservators – who spend most of their time hidden behind the scenes, working on their own in a laboratory or windowless store, where it is easy to get a sense of isolation – feel valued for the many hours of painstaking work. More importantly, it suggests that the community cares deeply about its heritage, and appreciates that there is somebody who looks after it on their behalf.We all need our heritage. It defines who we are. It is a reference point for our values. It anchors us in our roots. But it’s not as easy as handing your grandfather’s watch to the museum and putting it on a shelf. Things fall apart without proper care, and once an object is lost we cannot simply buy a new one from a supermarket/antiques shop/ebay. Together with the object the story is lost, and a piece of history gone.Conservators are key in the museum sector’s work of maintaining the link between objects and history, values and identity. Our visiting public are aware of this and know to value it. Does that mean we can stop holding Open Days? Absolutely not: according to the evaluation, no visitor went away not having learned anything, and now that curiosity has been awakened the majority want to find out more. In fact, two thirds of visitors want conservators to be more visible in public spaces. This is what we are now working on – so watch out in our galleries and you might just see more of us soon.Find out more about care of collections at Amgueddfa Cymru - National Museum Wales here.