Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canlyniadau 2005-2014 Catalena Angele, 27 Mai 2014 Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.Mae tystysgrifau wedi cael eu hanfon at yr holl ddisgyblion yn 4,075 a gwblhaodd y prosiect eleni.Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau! Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Diolch yn fawrAthro'r Arddwww.museumwales.ac.uk/scan/bylbiauTwitter http://twitter.com/Professor_Plant
From Amazonian Rainforest to Welsh Rain! Katie Mortimer-Jones, 23 Mai 2014 Brazilian PhD student Josenir Camara is working with Dr Adrian Plant, Principal Curator of Entomology at Amgueddfa Cymru, on a three-year project to describe some of the diversity of Diptera (flies) inhabiting the rainforest of Brazil’s Amazon Basin. The two researchers have already made numerous collecting expeditions to remote parts of the Amazon, but now they are both back in Cardiff where Josenir will spend the next six months studying at the Museum. As a part of her research she will describe all the Amazonian species of a group of water-inhabiting flies known as Hemerodromia. She already has more than 50 species that are completely new to science and once these have been formally described, the next task is to construct an evolutionary tree showing how the Amazonian Hemerodromia have diversified in respect to Hemerodromia elsewhere in the world. This is where Amgueddfa Cymru comes in as our extensive collections will provide her with an invaluable resource she can use to compare how Amazonian species differ from others. By careful comparison of ‘characters’ of each species and using sophisticated computing methods, Josenir will construct a ‘phylogenetic tree’ to illustrate the sequence of evolutionary changes that have occurred. By comparing the evolutionary tree with the fossil record, geological and climatic history it is hoped that we start to learn more about the biogeography of the Amazon (biogeography is the study of how species and communities or organisms become distributed both geographically and through geologic time).
FIGHTING AGAINST FOXING Maria del Mar Mateo, 22 Mai 2014 Do you want to know what happened after washing one of the lithograph prints??So here you are, the before and after washing treatment where you can see that the foxing spots have disappeared completely over the paper surface. As we said before, the foxing reddish-brown spots can appear in the paper surface due to different causes. For example, the print has been exposed to relative humidity and temperature fluctuations for a long period of time creating an environment for the growing of mould or another possibility, could be that during the paper making process were used raw materials infested with mould.These micro-organisms can remain latent for months or years awaiting for the appropriate conditions for growth and there are a wide range of colour stains. In some of the lithograph prints we found basically small yellow spots in different areas of the paper surface.
Taith Baton y Frenhines ar gyfer Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad 1958 Dr Emma Lile, 21 Mai 2014 Taith Baton y Frenhines ar gyfer Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad 1958. Neges y Frenhines, gyda’r llofnod ‘Elizabeth R’ a’r dyddiad 14 Gorffennaf 1958, a deithiodd o Balas Buckingham i Gaerdydd gyda’r Baton. Llwybr taith neges y Frenhines ym 1958. (© Commonwealth Games Federation) Digwyddiad rhyngwladol, llawn lliw a chyffro yw Taith Baton y Frenhines drwy wledydd y Gymanwlad, ond yng Nghymru fach y dechreuodd ar ei thaith. Mae’n ddathliad gweledol o undod ac amrywiaeth gwledydd y Gymanwlad – arwydd o rym chwaraeon i uno pobl o bob lliw a llun sydd wedi dod yn ragarweiniad cyfarwydd a phoblogaidd i agoriad swyddogol y Gemau. Ers cynnal Gemau’r Ymerodraeth am y tro cyntaf ym 1930, mae Gemau’r Gymanwlad yn ymfalchïo yn ei hymrwymiad i’r ddelfryd Olympaidd o gyfeillgarwch, undod a chwarae teg, ac yn hybu perthynas dda rhwng gwledydd y Gymanwlad. Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad oedd yr enw swyddogol ym 1958, gyda Chaerdydd yn llwyfannu’r digwyddiad rhwng 18 a 26 Gorffennaf, a dyma’r tro cyntaf i Daith Baton y Frenhines fel rhan o’r ymgorfforiad o heddwch a chytgord trwy gyfrwng chwaraeon. I gofio llwyddiant gemau’r brifddinas bydd y baton gwreiddiol yn rhan o’r seremoni eleni, wrth i Daith Glasgow 2014 gyrraedd Caerdydd ar 24 Mai ar y cyntaf o saith diwrnod yng Nghymru. Y baton Er bod gwreiddyn y syniad yn aneglur o hyd, credir taw yn niwedd y 1950au y dechreuodd Pwyllgor Trefnu’r Gemau ystyried cynnal taith faton. Penodwyd cyn swyddog o’r Llynges frenhinol yn Drefnydd Anrhydeddus y digwyddiad – yr Is Gapten Bill Collins a gydlynodd Taith y Fflam Olympaidd yn Llundain ym 1948. Dewiswyd tîm o drefnwyr lleol glew gan gymdeithas athletau pob gwlad fyddai’n croesawu’r baton i gynorthwyo Collins yn ei waith. Dyluniwyd baton gilt arian ac enamel 1958 gan y cyn filwr a’r gemydd o Gaerdydd, y Cyrnol Roy Crouch, Cadeirydd Pwyllgor Medalau’r Gemau. Yn addurn ar y baton 40cm o hyd a 4cm o ddiamedr roedd eiconau Cymreig; draig goch, cennin Pedr a chennin; yn ogystal â choron i ddynodi’r cyswllt brenhinol. Arysgrifiwyd y geiriau ‘VI British Empire and Commonwealth Games, Wales 1958’ ar y tiwb cau, a gynhyrchwyd gan y gofaint arian Turner and Simpson, Birmingham. Taith Baton y Frenhines ar gyfer Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad 1958. Y daith gyntaf Dr Roger Bannister, deiliad record y ras filltir yng Ngemau’r Gymanwlad ar y pryd, yn gadael Palas Buckingham gyda’r Baton i ddechrau’r daith. Gydag ef mae ei gyd bencampwyr o’r gemau hynny, Chris Chataway (chwith) a Peter Driver. (© Commonwealth Games Federation) Ar 14 Gorffennaf 1958 gadawodd y baton sgwâr Palas Buckingham, cartref y Frenhines Elisabeth II a Phen y Gymanwlad, cyn teithio drwy nifer o siroedd Lloegr a phob un o dair sir ar ddeg Cymru ar ei ffordd i Gaerdydd. O ganlyniad i salwch, nid oedd y Frenhines yn bresennol i drosglwyddo’i neges i’r rhedwyr cyntaf – Dr Roger Bannister, y gŵr cyntaf i redeg milltir mewn llai na 4 munud, a phencampwyr eraill Gemau 1954 Chris Chataway a Peter Driver. Yr Is Gapten Collins a safodd yn y blwch a rhoi’r neges yn y baton. Fel nad oedd angen allwedd, roedd caead sbring ar un pen ond fel na fyddai’r baton yn cael niwed ar y daith symudwyd y neges i replica metel ar ôl yr ail gymal, oedd â chlo er diogelwch. Cafodd y replica ei gyfnewid am y baton arian seremonïol ar gyfer y cymal olaf er mwyn i’r rhedwr gario’r neges yn ddiogel i’r stadiwm. Rhedodd 664 o athletwyr, gan gynnwys 32 o fechgyn ysgol, ar y daith o dros 600 milltir dros 4 diwrnod. Daw’r cyfieithiad isod o’r gyfrol The Story of the Sixth British Empire and Commonwealth Games gan Clive Williams (2008): Cai un rhedwr o bob clwb, catrawd ac ysgol ym mhob sir ei ddewis i redeg cymal. Byddai’r athletwyr hŷn yn rhedeg dwy filltir a’r plant yn rhedeg milltir. Gyda’r rhedeg yn parhau drwy’r dydd a’r nos byddai rhedwyr hŷn yn cael eu defnyddio, lle bo modd, pan fo’r traffig yn drwm neu rhwng hanner nos a 6am. Pasiodd y neges drwy Langollen, Wrecsam, y Fflint, Llandudno a Chaernarfon cyn troi tua’r de drwy Ddolgellau, Aberystwyth, Aberteifi a Hwlffordd. Oherwydd bod y boblogaeth yn y de yn uwch, dyma’r Baton yn gwau ei ffordd drwy Gaerfyrddin, Llanelli, Abertawe a Phen-y-bont a thrwy drefi’r cymoedd yn Aberdâr, Brynmawr a’r Fenni, ac ymweld â Chasnewydd cyn troi am Gaerdydd. Byddai car swyddogol yn dilyn pob rhedwr i’w warchod rhag cwmni ceir neu feiciau modur answyddogol, i oleuo’r ffordd yn y nos, ac i alluogi’r trefnwyr i gadw llygad ar yr amserlen. Cadwyd y cyflymdra rhwng 6.5 a 7.5 munud i bob milltir i sicrhau na fyddai’r rhedwyr yn rasio a galluogi’r torfeydd i weld y baton wrth iddo gael ei drosglwyddo. Ken Jones, y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol a’r gwibiwr Olympaidd yn cyflwyno’r Baton i Ddug Caeredin yn y seremoni agoriadol ym Mharc yr Arfau. (© Commonwealth Games Federation) Y seremoni agoriadol 'A Quick Laugh' gan Geoffrey Evans, Western Mail, 18 Gorffennaf 1958. Trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru I ffanffer trwmped a saliwt chwe gwn, cyrhaeddodd y rhedwr olaf Barc yr Arfau am 6.33pm ar ddydd Gwener 18 Gorffennaf. Roedd enw’r athletwr yn gyfrinach fawr a dyma bonllefau cymeradwyaeth y dorf o 40,000 yn croesawu Ken Jones o Gasnewydd, y cyn chwaraewr rygbi 36 oed ac enillydd medal arian yn y ras gyfnewid gyflym yn y gemau Olympaidd. Mewn fest goch â bathodyn Cymru arni a siorts gwyn, rhedodd drwy fynedfa’r cystadleuwyr ac unwaith o amgylch y trac lludw yn dal y baton uwch ei ben. Arhosodd o flaen Dug Caeredin, Llywydd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, a phasio’r baton iddo. Yn ôl y sôn gwaeddodd un llais smala o’r dorf ar y cyn chwaraewr rygbi “Nice pass Ken”. Darllenodd y Dug neges y Frenhines i’r dorf eiddgar: Estynnaf groeso cynnes a phob dymuniad da i’r holl athletwyr sydd wedi ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer 6ed Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad. Rwyf wrth fy modd bod cymaint o wledydd y Gymanwlad wedi anfon timau i Gymru i gystadlu yn y Gemau yma. Mae’r nifer yn uwch nag erioed a dros dair gwaith yn fwy na’r gystadleuaeth gyntaf yn Hamilton ym 1930. Croesawn y prawf hwn o’r gwerth cynyddol a roddir ar gryfder a sgìl yn natblygiad y dyn cyflawn, iach o gorff ac iach o feddwl. Pleser personol hefyd yw gwybod bod cymaint o aelodau teulu’r Gymanwlad yn cyfarfod ar gyfer cystadlu ac ymryson cyfeillgar. Gobeithio y bydd cyfeillgarwch parhaol yn deillio o’r cyfarfod mawr hwn o athletwyr a gwylwyr, ac y byddwch chi i gyd yn dychwelyd wedi ennyn dealltwriaeth well o’n Cymanwlad. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â chi ddiwedd yr wythnos nesaf. Gyda hyn, agorwyd y Gemau o’r diwedd, gyda Chaerdydd yn croesawu 1,122 o athletwyr o 35 gwlad i gystadlu mewn athletau, bocsio, beicio, ffensio, bowls, rhwyfo, nofio a phlymio, codi pwysau a reslo. Yn ogystal â Pharc yr Arfau, lle cynhaliwyd y seremonïau agoriadol a chlo a’r cystadlaethau athletau, cynhaliwyd y nofio yn yr Empire Pool (a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer y Gemau), y bocsio yng Ngerddi Soffia, y beicio yn Stadiwm Maendy a’r rhwyfo ar Lyn Padarn, Llanberis. Enillydd unig fedal aur Cymru oedd y bocsiwr pwysau bantam Howard Winstone, ond enillodd y tîm cartref dair medal arian a saith medal efydd. Y seremoni glo Bu’r Gemau yn llwyddiant mawr ac roedd y seremoni glo ar 26 Gorffennaf yn achlysur hanesyddol. Nid oedd y Frenhines eto yn bresennol o ganlyniad i salwch, a dyma hi’n recordio neges i’r dorf yn datgan ei bod am enwi ei mab, Charles, yn Dywysog Cymru ar y diwrnod. Er taw hi yw’r wlad leiaf erioed i lwyfannu’r Gemau, trefnwyd gwledd o chwaraeon yn ddiffwdan oedd yn llwyfan haeddiannol ar gyfer y dathliad o gampau, grym a gwrhydri mabolgampwyr y byd. Wedi cloi Gemau 1958 cynigiwyd y Baton yn rhodd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan y Pwyllgor Trefnu, ar ran y Frenhines. Fe’i cadwyd byth er hynny yn yr Adran Gelf ynghyd â’r neges frenhinol, yn waddol weledol un o wyliau chwaraeon pwysicaf Cymru. Diolch i Chris Jenkins, Prif Weithredwr, Cyngor Gemau’r Gymanwlad dros Gymru, a Clare Ewing, Swyddog Digwyddiadau, Chwaraeon Cymru, am eu cymorth caredig.
Diwrnod Budd a Roi 2014 Hywel Couch, 19 Mai 2014 Wythnos diwethaf, fel rhan o Ddiwrnod Budd a Roi 2014, daeth 50 o wirfoddolwyr o Lloyds Banking Group i Sain Ffagan i helpu gyda nifer o brosiectau. Wnaeth rai helpu’r Adran Garddio, wnaeth rai ymuno a’r Adran Adeiladau Hanesyddol tra gwnaeth rai gweithio ynghyd a’r Gymdeithas Alzheimer. Wnaeth 11 o’r gwirfoddolwyr gweithio gyda fi a Bernice i adeiladu gwrych newydd yn y goedwig wrth ymyl y guddfan adar.Da ni di bod yn bwriadu adeiladu gwrych wrth ymyl y guddfan adar am sbel, am nifer o resymau. Yn gyntaf, bysai’r gwrych yn actio fel sgrin wrth nesai’r guddfan, gyda’r gobaith bysai’r adar ddim yn cael ei ofni gan ymwelwyr yn cerdded ar hyd y llwybr. Ma’ wrych hefyd yn gallu gweithio fel coridor wrth i fywyd gwyllt symud drwy’r goedwig. Hefyd, mae nifer o ymwelwyr wedi bod yn creu llwybr wrth dorri drwy’r goedwig, ac felly, wrth adeiladu gwrych, da ni’n gobeithio nawr bydd llai o ymwelwyr yn gwneud hyn.Tasg cyna’r dydd oedd minio’r pyst. Mae’r pyst yn bwysig er mhoen neud yn siŵr bod y gwrych yn cael ei adeiladu ar sylfaen solet. Mae creu min yn neud e’n haws i yrru’r pyst mewn i’r ddaear. Ar ôl creu tyllau arwain, defnyddiwyd morthwyl mawr i yrru’r pyst i lawr. Unwaith roedd y pyst yn ei le, roedd hi’n bosib i ni ddechrau adeiladu’r gwrych.Ma’ na nifer o wahanol fathau o wrych, a phenderfynon ni ddefnyddio pren a choed wedi marw. Dros yr wythnosau diwethaf, dwi di fod yn gofyn i’r adrannau garddio ag amaethyddiaeth i gasglu unrhyw bren ac yn y blaen a’i anfon draw i’r guddfan adar. Am fod angen cymaint o bren, es i a rai o’r gwirfoddolwyr mewn i’r goedwig i gasglu hyd yn oed mwy.Ar ôl cinio, fel grŵp, aethon ni i fyny i Fryn Eryr, safle’r ffarm Oes Haearn newydd sy’n cael ei adeiladu. Mae’r goedwig yma wedi cael ei chlirio yn ddiweddar, felly llanwyd trailer yn barod i’w cludo i’r guddfan. Erbyn diwedd y prynhawn, llwyddon ni i orffen y gwrychoedd. Gorffennwyd y gwrychoedd efo toriadau palalwyf er mwyn ychwanegu bach o je ne sais quois.Fel mae’r lluniau yma’n dangos, mi oedd y diwrnod yn llwyddiant enfawr! Gallwn ni ddim di gofyn am dywydd gwell a dwi’n meddwl gwnaeth pawb mwynhau’r profiad. Gorffennwyd y 2 darn o wrych oeddem ni am adeiladu, a dwi eisoes wedi meddwl am brosiectau am y dyfodol! Cyflawnwyd llwyth o waith mewn un diwrnod, bysai’r gwaith di cymryd amser maeth i mi a Bernice i orffen heb help y gwirfoddolwyr. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth helpu ni a’r prosiectau arall hefyd!