Dathlu Moel y Gaer Ian Daniel, 12 Tachwedd 2010 Diolch o galon i ddisgyblion Ysgol Rhos Helyg, Rhosesmor, Sir Fflint ac Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd am ymuno gyda ni wrth ddathlu creu'r Moel y Gaer newydd ddoe. Roedd hi'n wych cael ysbrydoliaeth gan Dewi Pws Morris, Bardd Plant Cymru. Buom yn creu perfformiad a darn o farddoniaeth. Byddaf yn cerfio'r geiriau hyn ar ddarn o bren dros yr wythnosau nesaf i'w harddangos nhw ger Moel y Gaer. Dyma'r gerdd i chiTi yw cartref y CeltiaidYn llawn o atgofion henfydPobol cryf a dyfeisgar ein gorffennolA ni? Dani yma o hyd
Llofnodion o Alldaith Capten Scott i'r Antarctig ym 1910 12 Tachwedd 2010 Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910 Alldaith Antarctig Brydeinig Scott Roedd Alldaith Antarctig Brydeinig Scott ym 1910-13 wedi dal dychymyg y cyhoedd ym Mhrydain, yn enwedig wedi i long Scott, y Terra Nova, ddychwelyd i Gaerdydd o'r Pegwn heb Scott a phedwar o'i gymdeithion. Roedd galw mawr am lofnodion aelodau'r alldaith. Mae tair eitem yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru sydd, gyda'u gilydd yn cynnwys llofnodion 27 o swyddogion, gwyddonwyr a chriw alldaith Scott; dau wedi'u dyddio o ddechrau'r alldaith ac un o'i diwedd. Yn eu plith mae llofnodion Scott, Wilson, Bowers ac Oates fu farw ar y daith yn ôl o Begwn y De. Mae'n nodedig nad yw llofnod y Cymro Edgar Evans o Rossili yng Ngŵyr, y cyntaf i farw ar y daith yn ôl o'r Pegwn, i'w weld ar y dogfennau o ddechrau'r alldaith; Is-swyddog yn unig ydoedd. Dechrau o Gaerdydd Mae llofnodion y canlynol yn ategu ffotograff o'r Terra Nova, swyddogion y llong a swyddogion eraill: E. L. Atkinson Y llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Prif Lawfeddyg y Parti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. W. W. Archer W.W. Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan. G. Murray Levick Y llawfeddyg George Murray Levick, RN (1877-1956). Llawfeddyg Parti'r Gogledd ar yr alldaith a oroesodd am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof ia. Astudiodd gytref Pengwiniaid Adélie ym Mhenrhyn Adare ac ysgrifennodd lyfr ar bengwiniaid yr Antarctig yn ddiweddarach. L. E. G. Oates Captain Lawrence Edward Grace Oates (1880-1912), 6ed Dragŵniaid Inniskilling. Yn dioddef yn enbyd gan effaith ewinrhew ar ei draed, bu farw Oates ar y daith yn ôl o Begwn y De ar 16 Mawrth 1912. Ef sy'n enwog am ddweud wrth ei gymdeithion, Scott, Wilson a Bowers, "I am just going outside and may be some time" wrth adael y babell a diflannu i'r storm eira. E. R. G. R. Evans Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Roedd Evans yn allweddol yn ennill cefnogaeth a nawdd Cymreig ar gyfer yr alldaith gan gymryd yr awenau wedi i Scott farw. R. Scott Capten Robert Falcon Scott, CVO, RN (1868-1912). Arweinydd yr Alldaith. Scott fu'n arwain Alldaith Discovery 1901-04 y a dychwelodd i arwain Alldaith y Terra Nova. Cyrrhaeddodd Begwn y Gogledd ar 16 Ionawr 1912 gyda Wilson, Bowers, Oates ac Edgar Evans. Bu farw'r pump ar y daith yn ôl. Y Terra Nova yn Hwylio tua'r Antarctig Llythyr wedi'i ddyddio 17 Mehefin 1910, Ar y Môr, oddi wrth Teddy Evans at P. Lowry Rusden o'r Mercantile Pontoon Co Cyf, Doc y Rhath, Caerdydd ar bapur gyda phennawd yr Alldaith Antarctig Brydeinig: ".. Daliasom awel deg yn gynnar bore ddoe ac rydym wedi bod yn hwylio ar gyflymder o fwy nag 8 not byth er hynny. Credaf na fydd yr un ohonom yn anghofio Caerdydd. Llofnodion Edward R. G. R. Evans Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Bu Evans yn cynllunio ei Alldaith Antarctig ei hun gyda chefnogaeth a nawdd Cymreig, pan glywodd am gynlluniau Scott. Cafodd yrfa forwrol enwog yn ddiweddarach gan gael ei urddo'n Arglwydd Mountevens ym 1946. D. G. Lillie Dennis G. Lillie MA. Biolegydd Parti'r Llong Victor Campbell Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd oedd wedi'i sefydlu i ddechrau ym Mhenrhyn Adare yng Ngwlad Victoria. Aeth chwe gŵr y parti Gogleddol i drafferthion i'r de ar yr arfordir gan oroesi am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof ia heb lawer o fwyd ac yn eu dillad haf. Apsley Cherry-Garrard Apsley George Benet Cherry-Garrard BA (1886-1959). Sŵolegydd Cynorthwyol. Talodd Cherry-Garrard £1000 i ymuno â'r Alldaith. Aeth yntau gyda Wilson a Bowers ar siwrnai yn y gaeaf i gasglu wyau Pengwiniaid Ymerodrol a ddisgrifiodd yn ddiweddarach yn ei lyfr, The worst journey in the world. Roedd yn rhan o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. H.Rennick Is-gapten Henry E. de P. Rennick, RN. Prif Swyddog ar y Terra Nova. E. W. Nelson Edward W Nelson (1883-1923). Biolegydd, Parti'r Lan. Edward A. Wilson Dr Edward Adrian Wilson (1872-1912). Prif Wyddonydd a Sŵolegydd, Parti'r Lan. Bu Wilson gyda Scott ar Alldaith y Discovery 1901-4. Roedd yn artist a sŵolegydd medrus a thalentog ac yn ffrind agos i Scott. Bu farw gyda Scott a Bowers yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912. E. L. Atkinson Y Llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. H. R. Bowers Is-gapten Henry Robertson Bowers, Royal Indian Marines (1883-1912). Cafodd Bowers ei roi yn ngofal y storfeydd gan Scott. Roedd yn aelod o'r Parti Pegynol olaf a bu farw gyda Scott a Wilson yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912. Dychwelyd i Gaerdydd Llofnodion swyddogion a chriw RYS Terra Nova ar eu dychweliad i Gaerdydd Mehefin 14/13 (Sadwrn). Stamp Un Geiniog Seland Newydd, "Victoria Land" wedi'i brintio drosto ac wedi ei ffrancio â "British Antarctic Expedition Ja 18 [19]13". Mae'r llofnodion ar y ddalen hon yn ddiddorol gan taw llofnodion y criw ydynt, ar wahân i bedwar swyddog a gwyddonydd, sy'n awgrymu y cai'r criw eu cyfri'n enwog ar ddychweliad yr alldaith. W. W. Archer W Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan. A. Cherry-Garrard Apsley Cherry-Garrard. Sŵolegydd Cynorthwyol. E. W. Nelson Edward W Nelson. Biolegydd. E. L. Atkinson Y Llawfeddyg Edward L Atkinson RN. Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd. Wm W. Williams C.E.R.A. 2il Ddosbarth William W. Williams, RN. Prif Beiriannydd, Parti'r Llong. W. A. Horton E.R.A. 3ydd Dosbarth William A. Horton, RN. Is Beiriannydd, Parti'r Llong. T. S. Williamson Is-swyddog Dosbarth 1af Thomas S. Williamson, RN. Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. H. Dickason Llongwr Abl Harry Dickason, RN. Parti'r Gogledd. A. Balson Prif Longwr Albert Balson, R.N. Parti'r Llong. W. H. Neale Stiward W.H. Neale. Parti'r Llong. F. Parsons Is-swyddog Dosbarth 1af Frederick Parsons, RN. Parti'r Llong. Victor Campbell Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd Mortimer McCarthy Llongwr Mortimer McCarthy. Parti'r Llong. Wm L. Heald Is-swyddog Dosbarth 1af William L. Heald, RN (Wedi ymddeol). Parti'r Llong. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. W. Lashly Prif Daniwr William Lashly, RN (1867-1940). Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ymgartrefodd Lashly yng Nghaerdydd, gan weithio fel swyddog tollau tan iddo ymddeol i Hampshire ym 1932. H. Pennell Is-gapten Harry Lewin Lee Pennell, RN (1882-1916). Parti'r Llong, Mordwywr. F. E. Davies Prif Saer Llongau Francis E.C. Davies, RN. Saer, Parti'r Llong. A. S. Bailey Is-swyddog 2il Ddosbarth Arthur S. Bailey, RN. Parti'r Llong. J. Lees Llongwr Abl Joseph Lees, RN. Parti'r Llong.
half term art cart Sian Lile-Pastore, 10 Tachwedd 2010 I keep forgetting to take some photos of our quilt designs that the children made over half term! They are looking wonderful in the gallery, so i'll try and remember to get some photos next time i'm there and will blog about it as soon as I can!
Datblygiadau yn y Goedwig! Hywel Couch, 3 Tachwedd 2010 Dyma fy blog cynta ers cael fy apwyntio fel Hwylusydd Archwilio Natur yma yn Amgueddfa Sain Ffagan. Prif pwrpas y swydd yw hybu ymwelwyr i’r Sain Ffagan i gymryd sylw ar y wledd o bywyd nature sy’n byw o fewn yr amgueddfa. Fel rhan o’r prosiect, mae ‘na wedi bod rhai datblygiadau yn y goedwig yn Sain Ffagan, ger llwybr y goedwig. Ger un o’r paneli gwybodaeth rydym newydd ychwanegu troellwr caneuon adar! Wrth dewis yr aderyn rydych am glywed a troi’r braich ar y troellwr, mae’n bosib i wrando ar 8 aderyn sy’n byw yn ein goedwig. Mae’n ffordd wych o ddysgu caneuon yr adar wahanol!Rydym hefyd wedi adeiladu cuddfan adar yn y goedwig. Mae’r cuddfan yn lle ffantastic i ymlacio tra’n gwylio adar yn bwydo ar ein gorsaf bwydo. Mor belled rydym wedi nodi o leiaf 9 aderyn wahanol yn ymweld, o’r titw tomos las i cnocell y coed. Wrth gwrs, gan bo ni yn y goedwig, mae digon o wiwerod yn dod i ymweld hefyd! Mi ddylai’r cuddfan bod ar agor i’r cyhoedd yn fuan, gobeithio erbyn diwedd y mis! Mae hi wir yn lle delfrydol i ymweld â thermos o de ac i ymlacio. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar paneli gwybodaeth i’r cuddfan, gobeithio bydd rhain yn barod erbyn y gwanwyn.Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am ddefnydd y cuddfan neu hyd yn oed awgrym am enw, plis rhowch wybod i mi trwy sylwadu. Cadwch lygad ar y blog ‘ma am wybodaeth ar ddigwyddiadau a weithgareddau nature sydd i’w ddod!Mae’r prosiect wedi’u ariannu gan Biffaward trwy’r Cronfa Cymunedau Tirlenwi a Legal and General.