Glowyr o Gymru'n cloddio dros Brydain ar y Ffrynt y Gorllewin

Edward Besly, 1 Hydref 2009

Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf

Medelau Captain Arthur Edwards

Medelau Captain Arthur Edwards

Y Capten Arthur Edwards o Flaenafon oruchwyliodd tanio ffrwydryn cyntaf Prydain ar Ffrynt y Gorllewin ym Mawrth 1915.

Mae'r Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) yn enwog am y brwydro ffyrnig yn ffosydd Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc a Fflandrys. Wynebai byddinoedd anferth ei gilydd mewn amgylchiadau erchyll, wrth baratoi am y frwydr fawr nesaf i ennill tir.

Roedd cloddio twneli a gosod ffrwydron tanddaearol yn rhan bwysig o frwydro yn y ffosydd, wrth i'r ddwy ochr geisio ennill mantais. Cloddiwyd twneli o dan yr ardaloedd "tir neb" a ffosydd y gelyn. Yna fe'u llenwyd a ffrwydron cyn eu tanio.

Roedd calch sych y Somme yn arbennig o addas ar gyfer ffrwydron tanddaearol, ond roedd modd gosod ffrwydron yng nghlai gwlyb Fflandrys hefyd. Chwaraeodd profiad a medrau glowyr Cymru ran allweddol yn y gwaith o gynhyrchu'r ffrwydron hyn.

Ymladd y rhyfel o dan y ddaear

Y Capten Arthur Edwards, peiriannydd glofaol a wasanaethodd yn ail Fataliwn Catrawd Sir Fynwy, gychwynnodd y cyfan. Yn Rhagfyr 1914 ffurfiwyd y 4th Divisional Mining Party, dan reolaeth Edwards.

Ym Mawrth 1915, wedi deufis o gloddio twneli o dan linellau'r gelyn, gwagiwyd y twneli ac fe'u llenwyd â ffrwydron cyn eu tanio. Dinistriodd y ffrwydrad adeiladau ar wyneb y tir - oherwydd cloddiwyd y twneli o dan adeiladau a ddefnyddid gan saethwyr y gelyn.

Ar achlysur arall, wrth i dîm gosod ffrwydron tanddaearol yr Almaenwyr gloddio mewn un cyfeiriad, daethant ar draws twneli'r lluoedd cynghreiriol a oedd yn cloddio i'r cyfeiriad arall, gan arwain at frwydro ffyrnig wyneb yn wyneb o dan y ddaear.

Bathodyn Anrhydedd

Ym Mehefin 1915 enillodd y Capten Arthur Edwards y Groes Filwrol, gwobr newydd ar gyfer capteiniaid ac is-swyddogion. Cafodd hefyd ei grybwyll mewn gohebiaeth am wasanaeth dewr a neilltuol. Gwasanaethodd gydol y rhyfel, yn cynnwys diwrnod cyntaf brwydr y Somme (1 Mehefin 1916) cyn cael ei anafu'n ddifrifol gan siel nwy ym Mehefin 1918.

Cyflwynwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru ym 2006. 

Erthygl gan: Edward Besly, Niwmismatydd, Archeoleg a Niwmismateg. Amgueddfa Cymru

Streic y Glowyr - 1984-85

23 Medi 2009

Gwelwyd newidiadau mawr yn y diwydiant glo wedi’r gwladoli ym 1947. Buddsoddodd y llywodraeth swm sylweddol o arian yn y diwydiant a alluogodd iddo gyflwyno offer a thechnegau cloddio newydd. Arhosodd y lefelau cynhyrchu a chyflogaeth yn sefydlog tan ganol y 1950au ond, gyda’r gostyngiad yn y galw am lo a’r her o olew’r Dwyrain Canol, caewyd 50 o byllau glo yn ne Cymru rhwng 1957 a 1964.

Yn ystod y 1970au, gwelodd y diwydiant ddwy streic fawr. Ym 1972, ildiodd y Prif Weinidog Ceidwadol, Edward Heath, i’r glowyr a aeth ar streic am fwy o gyflog. Pan ddechreuodd streic arall ym 1974, galwodd Mr Heath am etholiad cyffredinol yn syth gan obeithio cael cefnogaeth y cyhoedd yn erbyn y glowyr. Ond pleidleisiodd y cyhoedd yn ei erbyn gan roi buddugoliaeth i’r Blaid Lafur.

Erbyn y 1980au, roedd diwydiant glo Prydain ymhlith y mwyaf diogel ac effeithlon yn y byd. Fodd bynnag, pan ddaeth y llywodraeth Geidwadol newydd i rym dan arweiniad Margaret Thatcher, roedd am wneud y diwydiant yn fwy effeithlon trwy leihau’r hyn yr oedd yn eu hystyried fel diwydiannau amhroffidiol. O dan ei harweiniad trosglwyddwyd nifer o'r diwydiannau a oedd gynt yn cael eu rhedeg gan y wladwriaeth megis nwy, dŵr a'r rheilffyrdd i berchnogaeth y sector breifat, mewn geiriau eraill cawsant eu preifateiddio. Telecom Prydain oedd y darparwr gwasanaeth cyntaf i gael ei ddadwladoli ym 1984 gyda sawl un arall yn dilyn dros y blynyddoedd canlynol. Ar yr un pryd, roedd am wanhau grym yr undebau llafur a oedd, yn ei thyb hi, wedi dod yn rhy bwerus. Arweiniodd yr agenda hwn at wrthdaro rhwng y llywodraeth Geidwadol ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM). Trodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Glo Prydain ym 1987 yn barod i'w breifateiddio, a digwyddodd hynny ym 1994.

strike-cy.pdf

Picedi, Plismon, a Gleidyddiaeth - Streic y Glowyr 1984-1985

Lawrlwythwch y PDF yma [3.3MB]

Amen Corner's....

Sian Lile-Pastore, 22 Medi 2009

Malcolm Davies left a message in the Pop Peth exhibition saying 'I was the tenor sax player in Amen Corner's first line up, sept 1966 to May 1967.'

Malcolm! We need to know more!

Diwrnod Gweithgareddau Arddangosfa Pop Peth

Sian Lile-Pastore, 22 Medi 2009

Mae lansiad swyddogol yr arddangosfa Pop Peth ddydd Sadwrn yma (26 o Fedi), gyda gweithgareddau amrywiol sydd ar agor i bawb.

Rhwng 11.00 a 1.00 a 2.00 tan 4.00 fydd cyfle i ymwelwyr gynllunio Ffansin gyda'r curaduron gwadd Leusa Fflur a Lowri Johnston neu ddysgu sut i 'Sleeveface(io)' gyda Grace Todd. Am 1.00 mae'r curadur gwadd Gari Melville yn cynnal sgwrs ar yr arddangosfa ac am 2.00 fydd sgwrs a pherfformiad gan y grwp gwerin/jazz Burum. Wedyn am 3.00 allwch fwynhau set gan y curaduron gwadd Llwybr Llaethog

Mae Mynediad i'r parti am 3.30 drwy wahoddiad yn unig.