Diweddariad y lansiad

Michael Houlihan, 13 Hydref 2009

Wel, fe gawsom ein lansiad bore 'ma ac fe fynychodd criw da o bobl. Roedd yr ymateb yn wych (a nid jest gan bod ni wedi gweini brechdanau cig moch a choffi!), ac yn sicr roedd pobl yn deall ac yn uniaethu gyda'n negeseuon ynglyn a'r dirwasgiad. Cafwyd cryn ddiddordeb gan y wasg, gyda Radio Cymru'n darlledu'n fyw ynghyd â chriw ffilmio yno ar gyfer y newyddion heno. Yn fy araith, fe ofynais y cwestiwn - 'a fedrwn ni fforddio diwylliant yn ystod dirwasgiad?' Yn sicr, mae'n anodd dirnad gwerth economaidd diwylliant o ran y genedl. Gallwn, mi allwn ni restru ambell faith a ffigwr, ond y gwir plaen ydi, mae diwylliant yn tanlinellu popeth mae cenedl fach fel Cymru'n ei wneud. I gloi felly, dadleuais na allwn fforddio i beidio buddsoddi mewn diwylliant gan ei fod yn ran hanfodol o'n hunaniaeth.

Fe fynychodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, gan ddweud ambell i air gan gynnwys ein llongyfarch ar gynhyrchu papur difyr sy'n adlewyrchu'r egni yr ydym yn ei gyfrannu drwy ein gwaith ym mhob cornel o Gymru. Dywedodd bod ein neges ecomonaidd yn hynod o amserol, gan gytuno ei bod hi'n amhosib mesur gwerth diwylliant yn unig yn nhermau economaidd. Roeddem yn lwcus iawn i'w gael yn bresennol, ac yn sicr roedd yn amlwg o wrando ar ei gyfweliadau o'r lansiad ei fod yn parchu ac yn cefnogi ein gwaith.

Dros yr wythnosau nesaf, fe fyddwn yn datblygu nifer o'r themau sydd yn y papur ynghyd a chwilio am gyfleon i ddatblygu ein cynlluniau gwirfoddoli ynghyd a'r rhai prentisiaeth. Rhaid i ni gadw momentwm i fynd, ac atgoffa pawb yng Nghymru pa mor bwysig ydi diwylliant i'r genedl. A pha mor bwysig ydi ariannu diwylliant! Byddaf yn eich diweddaru ynglyn ag unrhyw ddatblygiadau ar y blog hwn.

Big Draw

Sian Lile-Pastore, 12 Hydref 2009

Here are some photos from the big draw on the 10th where we carried on with our amazing map! Thank you to everyone who took part, the pictures were wonderful. I'm sorry that my photos are of poor quality but it was a little dark in the gallery and I'll add some better photos as soon as I can!

Lluniau o'r Darlun Mawr

Sian Lile-Pastore, 6 Hydref 2009

Mae'r llun yma yn dangos dechreuad y map... sori bod y llun mor wael!

Dyma llun ardderchog o'r castell!

Y Darlun Mawr

Sian Lile-Pastore, 5 Hydref 2009

Diolch i bawb 'nath helpu efo'r Darlun Mawr ar ddydd Sadwrn yn Oriel 1, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Rydym wedi bod yn creu map mawr o'r amgueddfa - a mi wna'i rhoi lluniau o'r gwaith hyd yn hyn ar y blog 'fory. Dewch draw ddydd Sadwrn nesa' (10fed o Hydref) rhwng 11-1 a 2-4 i'n helpu!

Glowyr o Gymru'n cloddio dros Brydain ar y Ffrynt y Gorllewin

Edward Besly, 1 Hydref 2009

Medelau Captain Arthur Edwards

Medelau Captain Arthur Edwards

Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf

Y Capten Arthur Edwards o Flaenafon oruchwyliodd tanio ffrwydryn cyntaf Prydain ar Ffrynt y Gorllewin ym Mawrth 1915.

Mae'r Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) yn enwog am y brwydro ffyrnig yn ffosydd Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc a Fflandrys. Wynebai byddinoedd anferth ei gilydd mewn amgylchiadau erchyll, wrth baratoi am y frwydr fawr nesaf i ennill tir.

Roedd cloddio twneli a gosod ffrwydron tanddaearol yn rhan bwysig o frwydro yn y ffosydd, wrth i'r ddwy ochr geisio ennill mantais. Cloddiwyd twneli o dan yr ardaloedd "tir neb" a ffosydd y gelyn. Yna fe'u llenwyd a ffrwydron cyn eu tanio.

Roedd calch sych y Somme yn arbennig o addas ar gyfer ffrwydron tanddaearol, ond roedd modd gosod ffrwydron yng nghlai gwlyb Fflandrys hefyd. Chwaraeodd profiad a medrau glowyr Cymru ran allweddol yn y gwaith o gynhyrchu'r ffrwydron hyn.

Ymladd y rhyfel o dan y ddaear

Y Capten Arthur Edwards, peiriannydd glofaol a wasanaethodd yn ail Fataliwn Catrawd Sir Fynwy, gychwynnodd y cyfan. Yn Rhagfyr 1914 ffurfiwyd y 4th Divisional Mining Party, dan reolaeth Edwards.

Ym Mawrth 1915, wedi deufis o gloddio twneli o dan linellau'r gelyn, gwagiwyd y twneli ac fe'u llenwyd â ffrwydron cyn eu tanio. Dinistriodd y ffrwydrad adeiladau ar wyneb y tir - oherwydd cloddiwyd y twneli o dan adeiladau a ddefnyddid gan saethwyr y gelyn.

Ar achlysur arall, wrth i dîm gosod ffrwydron tanddaearol yr Almaenwyr gloddio mewn un cyfeiriad, daethant ar draws twneli'r lluoedd cynghreiriol a oedd yn cloddio i'r cyfeiriad arall, gan arwain at frwydro ffyrnig wyneb yn wyneb o dan y ddaear.

Bathodyn Anrhydedd

Ym Mehefin 1915 enillodd y Capten Arthur Edwards y Groes Filwrol, gwobr newydd ar gyfer capteiniaid ac is-swyddogion. Cafodd hefyd ei grybwyll mewn gohebiaeth am wasanaeth dewr a neilltuol. Gwasanaethodd gydol y rhyfel, yn cynnwys diwrnod cyntaf brwydr y Somme (1 Mehefin 1916) cyn cael ei anafu'n ddifrifol gan siel nwy ym Mehefin 1918.

Cyflwynwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru ym 2006.